2009 Rhif 1027 (Cy.89) (C.60)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 3) (Cymru) 2009

Gwnaed

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 181 a 188(3) o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 20061, ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt2, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a dehongli

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (Cychwyn Rhif 3) 2009.

2

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006.

Y diwrnod penodedig3

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 yn dod i rym ar 1 Medi 2009:

a

adran 4 (dyletswydd i enwi plant nad ydynt yn derbyn addysg);

b

adran 164 (gwybodaeth am blant sy'n derbyn addysg a gyllidir y tu allan i ysgol);

c

adran 184 (diddymu) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r ddarpariaeth a nodir ym mharagraff (ch);

ch

yn Rhan 6 o Atodlen 18, diddymu yn Neddf Addysg 1996 yn adran 437(8) y diffiniad o “suitable education”.

Jane E. HuttY Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 4 a 164 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006 i rym ar 1 Medi 2009.

Mae adran 4 yn mewnosod adran 436A newydd yn Neddf Addysg 1996 sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau addysg lleol wneud trefniadau i ddarganfod pwy yw'r plant yn eu hardal nad ydynt yn derbyn addysg addas.

Mae adran 164 yn mewnosod adran 537B newydd yn Neddf Addysg 1996. Mae hyn yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi am blant sy'n derbyn addysg y tu allan i ysgol ac a gyllidir gan awdurdod addysg lleol ac mae'n darparu ynghylch rhannu'r cyfryw wybodaeth.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf 2006 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y Ddarpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Rhif O.S.

Adran 1

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 37(1) a (2)(a)

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 38

1 Medi 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 39

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 40

1 Medi 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adrannau 43—45

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 47

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 53

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 55

9 Chwefror 2009

2009/49 (Cy.17)

Adran 156

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 166

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 175

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 184 yn rhannol

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Adran 184 yn rhannol

1 Medi 2008

2008/1429 (Cy.148)

Atodlen 17

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Atodlen 18 yn rhannol

30 Mehefin 2008

2008/1429 (Cy.148)

Atodlen 18 yn rhannol

1 Medi 2008

2008/1429 (Cy.148)

Mae amryw o ddarpariaethau Deddf 2006 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2006/2990, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2008/54, O.S. 2006/3400, O.S. 2007/935 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/1271), O.S. 2007/1271, O.S. 2007/1801, O.S. 2007/3074 ac O.S. 2008/1971.

Gweler hefyd adran 188(1) a (2) ar gyfer y darpariaethau a ddaeth i rym ar 8 Tachwedd 2006 (dyddiad y Cydsyniad Brenhinol) ac 8 Ionawr 2007 (deufis yn ddiweddarach).