Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Cynllun Pensiwn y Dynion Tân (Cymru) (a welir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Dynion Tân 1992) o ran y modd y mae'n cael effaith yng Nghymru (“y Cynllun”). Mae'r diwygiad sy'n cyflwyno'r rheol B5A newydd: yr hawlogaeth i ddau bensiwn (a wneir gan erthygl 2 a pharagraff 1 o'r Atodlen) yn cael effaith o 1 Ebrill 2007 ymlaen. Mae'r diwygiadau eraill yn cael effaith o 1 Gorffennaf 2007 ymlaen. Rhoddir y pŵer i roi effaith ôl-weithredol gan adran 12 o Ddeddf Blwydd-daliadau 1972, fel y'i cymhwysir gan adran 16(3) o'r Ddeddf honno.

Mae'r diwygiad sy'n cyflwyno'r rheol B5B newydd yn ymwneud â dirwyn i ben, o ddiwedd Mehefin 2007 ymlaen, y cynyddiadau gwasanaeth hir a oedd yn daladwy i ddiffoddwyr tân a oedd â 15 mlynedd o leiaf o wasanaeth di-dor ar yr adeg honno. Yr oedd maint y cynyddiad, a oedd yn bensiynadwy, wedi ei rewi o 7 Tachwedd 2003 ymlaen, ar y gyfradd flynyddol o £990 ac yna wedi ei leihau, o 1 Hydref 2006 ymlaen, i gyfradd flynyddol o £495 (ond gwnaed taliadau digolledu interim neu drosiannol gan rai awdurdodau tân ac achub). Effaith y diwygiad sy'n cyflwyno'r rheol newydd gysylltiedig G1(7A) yw y bydd pensiwn ddiffoddwr tân rheolaidd, a oedd â hawl i gynyddiad gwasanaeth hir ac sydd naill ai'n ymddeol neu'n dod yn un sydd â hawlogaeth ganddo i bensiwn gohiriedig ar ôl 30 Medi 2006 ond cyn 1 Hydref 2007, yn cael ei gyfrifo (yn unol â rheol G1(3)) heb ystyried y gostyngiad yn y gyfradd flynyddol. Effaith y diwygiad sy'n cyflwyno'r rheol newydd G1(7B) yw y bydd pensiwn ddiffoddwr tân rheolaidd, a oedd â hawl i gynyddiad gwasanaeth hir (neu daliad digolledu interim neu drosiannol) ac sydd naill ai'n ymddeol neu'n dod yn un sydd â hawlogaeth ganddo i bensiwn gohiriedig ar neu ar ôl 1 Hydref 2007 yn cael ei gyfrifo (yn unol â rheol G1(3)) naill ai gan ystyried y swm a gredydir o dan y rheol newydd B5B a heb ystyried cynyddiad gwasanaeth hir gwirioneddol y diffoddwr tân (ac unrhyw daliad digolledu interim neu drosiannol), neu gan ystyried cynyddiad gwasanaeth hir gwirioneddol y diffoddwr tân (ac unrhyw daliad digolledu interim neu drosiannol) a heb ystyried y swm a gredydir i'r diffoddwr tân o dan y rheol newydd B5B, yn ôl pa reol bynnag sy'n rhoi'r canlyniad mwyaf buddiol i'r diffoddwr tân.

Mae'r diwygiadau eraill yn ganlyniad cynllun newydd a gyflwynwyd gan y Cydgyngor Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub Awdurdodau Lleol ac a fu mewn grym o 1 Gorffennaf 2007 ymlaen, i wneud taliadau mewn cysylltiad â datblygiad proffesiynol parhaus. O dan y cynllun hwnnw, mae'r taliadau yn ddarostyngedig i adolygiadau blynyddol ac felly yn daliadau dros dro o ran eu natur. Am y rheswm hwnnw ni fyddent, fel arfer, yn cael eu hystyried yn bensiynadwy at ddibenion y Cynllun. Fodd bynnag, effaith y diwygiadau yw gwneud y taliadau hyn yn rhan o'r tâl pensiynadwy. Mae hyn yn cysylltu â darpariaethau eraill, gan gynnwys darpariaethau rheol G2 o'r Cynllun, sy'n gwneud talu cyfraniadau pensiwn yn ofynnol mewn perthynas â thâl pensiynadwy. Mae'r diwygiad sy'n cyflwyno'r rheol newydd G1(7C), fodd bynnag, yn darparu y ceir anwybyddu budd pensiwn ychwanegol a gredydir mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus at y diben o ddyfarnu swm y tâl pensiynadwy cyfartalog (y seilir swm y pensiwn cyffredin arno).

Mae'r diwygiad i reol G3 o'r Cynllun yn sicrhau na all person wneud dewisiad i atal talu cyfraniadau pensiwn mewn perthynas, yn unig, â'r budd pensiwn ychwanegol o dan y rheol newydd B5C.

Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol a baratowyd mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn oddi wrth y Gangen Gwasanaethau Tân ac Achub, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ neu drwy ffonio 01685 729227.