Search Legislation

Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 1372 (Cy.135)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) 2009

Gwnaed

8 Mehefin 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

9 Mehefin 2009

Yn dod i rym

30 Mehefin 2009

Mae Gweinidogion Cymru, sydd wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.

RHAN 1Rhagarweiniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Clefyd Pothellog y Moch (Cymru) 2009; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Mehefin 2009.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “arolygydd” (“inspector”) ac “arolygydd milfeddygol” (“veterinary inspector”) yw personau a benodwyd fel y cyfryw o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(3);

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) mewn perthynas ag ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

  • ystyr “carcas” (“carcase”) yw carcas mochyn neu ran o garcas mochyn;

  • ystyr “da byw” (“livestock”) yw anifeiliaid carnog ac eithrio ceffylau;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw fan;

  • ystyr “mangre heintiedig” a “mangre wedi ei heintio” (“infected premises”) yw unrhyw fangre sydd wedi'i datgan fel y cyfryw gan Weinidogion Cymru o dan Ran 3;

  • ystyr “mochyn” (“pig”) yw anifail o dylwyth y suidae.

Cyfeiriadau at feddiannydd

3.—(1Caniateir i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i feddiannydd mangre gael ei gyflwyno i berson y mae'n ymddangos i'r un sy'n cyflwyno'r hysbysiad fod y person hwnnw'n gyfrifol o ddydd i ddydd am y fangre neu am unrhyw foch sydd ar y fangre (gweler rheoliad 32 ar gyfer darpariaeth bellach ynglŷn â hysbysiadau).

(2Pan fo hysbysiad wedi'i gyflwyno i berson y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1), mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at feddiannydd y fangre honno'n gyfeiriad at y person hwnnw.

Esemptiadau

4.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r canlynol—

(a)unrhyw beth a wneir o dan delerau trwydded a roddwyd o dan Orchymyn Pathogenau Anifeiliaid Penodedig (Cymru) 2008(4), neu

(b)unrhyw safle arolygu ar y ffin, canolfan gwarantîn neu gyfleuster cwarantîn a gymeradwywyd at ddibenion Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru) 2006(5).

(2Nid yw Rhannau 3 a 4 yn gymwys yn ystod unrhyw gyfnod y mae camau'n cael eu cymryd o dan Orchymyn Clwy'r Traed a'r Genau (Cymru) 2006(6).

RHAN 2Hysbysu ynghylch amau bod achos o glefyd pothellog y moch

Gofynion hysbysu

5.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae mochyn neu garcas yn ei feddiant neu o dan ei ofal, neu sy'n arolygu neu'n archwilio mochyn neu garcas ac sy'n amau bod y mochyn wedi ei heintio neu fod y carcas wedi'i halogi â feirws clefyd pothellog y moch hysbysu Gweinidogion Cymru ohono ar unwaith.

(2Rhaid i unrhyw berson sy'n archwilio sampl a gymerwyd o fochyn neu garcas ac sydd—

(a)yn amau bod y mochyn wedi ei heintio â feirws clefyd pothellog y moch neu fod y carcas wedi'i halogi â'r feirws hwnnw, neu

(b)yn canfod tystiolaeth am wrthgyrff neu antigenau'r feirws hwnnw,

hysbysu Gweinidogion Cymru ar unwaith am hynny.

(3Mae methu â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.

RHAN 3Amau a chadarnhau bod achos o glefyd pothellog y moch

PENNOD 1Cwmpas Rhan 3 a dulliau rheoli cychwynnol

Cwmpas Rhan 3

6.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i bob mangre ac eithrio lladd-dai (ar gyfer y rheini gweler Rhan 4).

Dulliau rheoli cychwynnol ar ôl hysbysu

7.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu o dan reoliad 5(1) o fochyn neu garcas dan amheuaeth a bod arolygydd milfeddygol yn credu bod ymchwiliad pellach ynghylch presenoldeb posibl clefyd pothellog y moch yn angenrheidiol.

(2Rhaid i'r arolygydd milfeddygol roi gwybod ar lafar neu fel arall i'r person a adroddodd am y mochyn neu'r carcas dan amheuaeth fod ymchwiliad pellach yn angenrheidiol, a bydd y dulliau rheoli ym mharagraff (3) yn gymwys wedyn.

(3Mae'r dulliau rheoli yn golygu bod rhaid, ac eithrio fel y'i caniateir mewn ysgrifen gan arolygydd milfeddygol, i'r person y mae mochyn neu garcas yr hysbyswyd ohono yn ei feddiant neu o dan ei ofal, sicrhau—

(a)na chaiff y mochyn neu'r carcas yr hysbyswyd ohono ei symud o'r fangre lle y mae,

(b)na chaiff unrhyw fochyn na charcas arall nac unrhyw beth sy'n debyg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch ei symud o'r fangre honno neu iddi, ac

(c)bod unrhyw berson sydd wedi bod mewn cyffyrddiad ag unrhyw fochyn neu garcas ar y fangre, neu sydd wedi bod ar unrhyw ran o'r fangre a all fod wedi ei heintio â feirws clefyd pothellog y moch, yn cymryd pob rhagofal bioddiogelwch angenrheidiol i leihau'r risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch cyn ymadael â'r fangre,

a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(4Bydd unrhyw ddulliau rheoli a osodir o dan y rheoliad hwn yn parhau i fod yn gymwys hyd nes—

(a)y bydd arolygydd milfeddygol yn cyflwyno hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn yn dynodi'r fangre yn fangre dan amheuaeth, neu

(b)y bydd arolygydd milfeddygol yn cadarnhau (ar lafar neu fel arall) nad yw presenoldeb feirws clefyd pothellog y moch dan amheuaeth ar y fangre.

PENNOD 2Gweithredu pan amheuir bod achos o glefyd a datgan bod mangre wedi ei heintio

Gosod mesurau pan amheuir bod achos o glefyd

8.—(1Rhaid i arolygydd weithredu'n unol â'r rheoliad hwn pan amheuir—

(a)bod mochyn sydd wedi ei heintio neu a gafodd ei heintio â feirws clefyd pothellog y moch ar unrhyw fangre (p'un ai ar ôl hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn ai peidio), neu

(b)bod mangre wedi'i halogi â feirws clefyd pothellog y moch.

(2Rhaid i'r arolygydd—

(a)cyflwyno hysbysiad i'r meddiannydd yn dynodi'r fangre honno'n fangre dan amheuaeth ac yn gosod y mesurau yn Atodlen 1, a

(b)sicrhau bod arwyddion rhybudd sy'n gwahardd mynediad yn cael eu gosod mewn mannau addas o amgylch y fangre.

(3Rhaid i arolygydd milfeddygol ddechrau ymchwiliad epidemiolegol i geisio cadarnhau o leiaf—

(a)am ba mor hir y gallai feirws clefyd pothellog y moch fod wedi bodoli ar y fangre,

(b)tarddiad y feirws hwnnw,

(c)pa fangreoedd eraill sydd wedi'u halogi â'r feirws hwnnw o'r un ffynhonnell,

(ch)a allai symudiad unrhyw berson neu beth fod wedi cludo'r feirws i'r fangre neu ohoni, a

(d)y posibilrwydd y gallai moch sy'n byw yn y gwyllt fod yn ymwneud â lledaenu'r feirws,

a rhaid iddo barhau â'r ymchwiliad hyd nes y bydd y materion hyn wedi'u cadarnhau cyn belled ag y bo'n ymarferol neu fod y posibilrwydd o glefyd wedi'i ddiystyru.

Mesurau ar ôl amheuaeth — mangreoedd heb fod mewn cyffyrddiad

9.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd milfeddygol yn amau bod feirws clefyd pothellog y moch yn bodoli ar unrhyw fangre ond nad yw'r amheuaeth hon yn codi o'r ffaith bod gan y fangre gysylltiad epidemiolegol â mangre heintiedig.

(2Ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno adeg amau bod achos o glefyd pothellog y moch, rhaid i arolygydd milfeddygol gymryd pob cam rhesymol i gadarnhau a yw'r amheuaeth yn gywir ai peidio.

(3Rhaid i'r camau hyn gynnwys cymryd samplau oddi wrth foch ar y fangre (os oes rhai) a threfnu iddynt gael eu profi.

(4Pan na fo moch ar fangre adeg yr hysbysiad, caiff yr arolygydd milfeddygol gymryd samplau o'r moch neu'r carcasau sydd wedi bod ar y fangre, a chaiff gymryd samplau amgylcheddol o'r fangre.

(5Os bydd y profion a gynhelir o dan baragraffau (3) a (4) yn dangos—

(a)bod feirws clefyd pothellog y moch mewn mochyn neu ar y fangre, neu

(b)bod y fangre yn cynnwys moch sy'n seropositif ar gyfer clefyd pothellog y moch, ac yn ogystal â hynny, bod y moch hynny neu foch eraill ar y fangre yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch,

rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad sy'n datgan bod y fangre yn fangre heintiedig.

(6Os bydd y profion a gynhelir o dan baragraff (3) yn dangos bod moch seropositif ar y fangre, ond nad oes unrhyw un o'r moch ar y fangre yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)parhau i fonitro'r fangre a chymryd samplau pellach a phrofi'r samplau hynny, a bod ysbaid o 28 o ddiwrnodau o leiaf rhwng y samplau a gymerwyd pan amheuwyd y tro cyntaf bod achos o glefyd a'r samplau a gymerwyd o dan yr is-baragraff hwn,

(b)datgan bod y fangre yn fangre heintiedig os bydd y prawf ar y samplau pellach yn dangos bod feirws clefyd pothellog y moch yn bodoli mewn mochyn sydd ar y fangre,

(c)sicrhau fel arall bod yr holl foch yr oedd canlyniad y prawf arnynt yn seropositif—

(i)yn cael eu lladd a'u difa o dan oruchwyliaeth arolygydd, neu

(ii)yn cael eu cigydda mewn lladd-dy sydd wedi'i ddynodi at y diben gan Weinidogion Cymru a lle byddant yn cael eu cadw a'u cigydda ar wahân i foch eraill,

a rhaid i Weinidogion Cymru godi'r mesurau yn Atodlen 1 ar ôl i'r holl foch seropositif gael eu lladd neu eu symud ymaith o'r fangre.

(7Os bydd y profion a gynhelir o dan baragraffau (3) a (4) yn dangos nad oes unrhyw feirws clefyd pothellog y moch mewn mochyn nac ar y fangre ac nad oes unrhyw foch seropositif ar y fangre, rhaid i Weinidogion Cymru godi'r mesurau yn Atodlen 1.

Mesurau ar ôl amheuaeth — mangreoedd mewn cyffyrddiad

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd milfeddygol yn amau bod feirws clefyd pothellog y moch yn bodoli ar unrhyw fangre a bod yr amheuaeth hon yn codi o'r ffaith bod gan y fangre gysylltiad epidemiolegol â mangre heintiedig.

(2Os bydd unrhyw fochyn ar y fangre dan amheuaeth yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad sy'n datgan bod y fangre dan amheuaeth yn fangre heintiedig.

(3Os na fydd unrhyw fochyn ar y fangre dan amheuaeth yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch, rhaid i Weinidogion Cymru asesu'r risg bod feirws clefyd pothellog y moch yn bresennol ar y fangre dan amheuaeth, gan gymryd i ystyriaeth raddau'r cyffyrddiad rhwng y fangre dan amheuaeth a'r fangre heintiedig, ac ar sail yr asesiad rhaid iddynt naill ai—

(a)lladd yr holl foch ar y fangre dan amheuaeth heb gadarnhad pellach o fodolaeth y clefyd ar y fangre honno a heb ddatgan bod y fangre'n fangre heintiedig, neu

(b)monitro'r moch ar y fangre dan amheuaeth am o leiaf 28 o ddiwrnodau.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad sy'n datgan bod y fangre dan amheuaeth yn fangre heintiedig os bydd profion yn dangos bod y fangre—

(a)yn cynnwys neu wedi cynnwys mochyn sydd wedi ei heintio â feirws clefyd pothellog y moch, neu

(b)yn cynnwys mochyn sy'n seropositif ar gyfer feirws clefyd pothellog y moch.

(5Os na fydd Gweinidogion Cymru yn datgan bod y fangre dan amheuaeth yn fangre heintiedig, rhaid iddynt asesu pryd y gellir codi'r mesurau yn Atodlen 1.

(6Ar sail yr asesiad rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu pa gamau (gan gynnwys, os bydd angen, glanhau a diheintio ac ailstocio â moch dangos clwy) y mae'n rhaid eu cyflawni cyn y gellir codi'r mesurau yn Atodlen 1, a hysbysu'r meddiannydd o'r rhain (os na chafodd yr holl foch eu lladd ar y fangre, ni chaniateir i'r mesurau yn Atodlen 1 gael eu codi yn ystod y cyfnod monitro o 28 o ddiwrnodau).

(7Rhaid i Weinidogion Cymru ddileu'r mesurau yn Atodlen 1 pan fônt wedi'u bodloni bod y camau yr hysbyswyd y meddiannydd ohonynt wedi'u cyflawni.

Datgan bod mangre wedi ei heintio pan fo'r fangre'n agos at frigiad sydd wedi'i gadarnhau

11.  Os bydd moch ar unrhyw fangre'n amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch a bod mangre heintiedig yn ddigon agos at y fangre i fodloni Gweinidogion Cymru bod y fangre honno hefyd wedi ei heintio, rhaid i arolygydd milfeddygol—

(a)cyflwyno hysbysiad i'r meddiannydd yn datgan bod y fangre honno'n fangre heintiedig ac yn gosod y mesurau yn Atodlen 1, a

(b)sicrhau bod arwyddion rhybudd sy'n gwahardd mynediad yn cael eu codi mewn mannau addas o amgylch y fangre,

heb ddatgan yn gyntaf bod y fangre yn fangre dan amheuaeth.

Amheuaeth ynghylch moch sy'n byw yn y gwyllt

12.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd milfeddygol yn amau bod mochyn sy'n byw yn y gwyllt wedi ei heintio â feirws clefyd pothellog y moch.

(2Rhaid i arolygydd milfeddygol gymryd pob cam rhesymol i gadarnhau a yw'r amheuaeth yn gywir ai peidio.

(3Pan fo'r arolygydd milfeddygol yn dod i'r casgliad bod feirws clefyd pothellog y moch yn debyg o fod yn bresennol mewn mochyn sy'n byw yn y gwyllt, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau priodol i leiafu'r risg y bydd y feirws hwnnw'n ymledu i foch domestig.

Amodau ac arwyddion rhybudd

13.—(1Mae torri unrhyw un o'r mesurau yn Atodlen 1 yn dramgwydd.

(2Bydd y mesurau hynny'n aros yn eu lle hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru'n cyflwyno hysbysiad sy'n eu dileu i feddiannydd y fangre.

(3Pan fo arwydd rhybudd wedi'i godi o dan y Rhan hon, rhaid i feddiannydd y fangre sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n briodol, a bydd methu â gwneud hynny'n dramgwydd.

(4Mae'n dramgwydd symud ymaith arwydd rhybudd a godwyd o dan y Rhan hon ac eithrio o dan awdurdod arolygydd milfeddygol.

(5Dim ond pan fo'r mesurau yn Atodlen 1 wedi'u codi y caiff arolygydd milfeddygol awdurdodi symud ymaith yr arwyddion rhybudd.

PENNOD 3Lladd moch a'r gwaith cychwynnol o lanhau a diheintio

Lladd moch ar y fangre heintiedig

14.  Os datgenir bod mangre yn fangre heintiedig, rhaid i Weinidogion Cymru ladd yr holl foch ar y fangre ar unwaith.

Symud carcasau ymaith a'r gwaith cychwynnol o lanhau a diheintio

15.—(1Pan fo unrhyw foch yn cael eu lladd o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru symud ymaith bob carcas o'r fangre heintiedig a'u gwaredu mewn ffordd sy'n osgoi'r risg y bydd feirws clefyd pothellog y moch yn ymledu.

(2Yna rhaid i Weinidogion Cymru chwistrellu'n ddi-oed â diheintydd—

(a)pob rhan o'r fangre (ac eithrio caeau, llynnoedd slyri a rhannau eraill o'r fangre lle na fyddai gan y diheintydd unrhyw effaith) a phob cyfarpar y mae'r moch wedi cael mynd ato, a

(b)unrhyw beth a halogwyd yn ystod y gwaith lladd,

a sicrhau bod y diheintydd yn aros ar yr arwynebau a chwistrellwyd am o leiaf 24 awr.

Mesurau cadwraeth a mesurau cysylltiedig

16.—(1Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu peidio â lladd moch—

(a)a gedwir mewn—

(i)sw neu barc bywyd gwyllt; neu

(ii)mangre a gymeradwywyd at ddibenion masnach ryng-Gymunedol mewn semen moch, ofa moch neu embryonau moch;

(b)a gedwir—

(i)ar gyfer eu harddangos;

(ii)at ddibenion addysgol;

(iii)ar gyfer ymchwil wyddonol neu fridio ar gyfer ymchwil o'r fath; neu

(iv)at ddibenion sy'n ymwneud â chadwraeth rhywogaethau neu adnoddau genetig.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru'n penderfynu peidio â lladd moch o'r fath, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre lle maent yn cael eu cadw yn rhoi manylion am y trefniadau bioddiogelwch y mae'n rhaid i'r meddiannydd eu dilyn i leihau'r risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch, a bydd methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath yn dramgwydd.

PENNOD 4Codi mesurau yn Atodlen 1 oddi ar fangre heintiedig

Codi cyfyngiadau oddi ar fangre heintiedig

17.—(1Oni ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, y sefyllfa wrth gefn yw na chaiff arolygydd milfeddygol godi'r mesurau yn Atodlen 1 sydd ar fangre heintiedig hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod digon o amser wedi mynd heibio i'r feirws fod wedi dirywio'n naturiol i'r graddau na fyddai'n heintio moch mwyach.

(2Ond caiff arolygydd milfeddygol godi'r mesurau yn Atodlen 1 cyn yr amser hwnnw yn y rhannau o'r fangre y mae modd eu glanhau a'u diheintio—

(a)os yw'r meddiannydd wedi glanhau a diheintio'r rhannau hynny o'r fangre er boddhad yr arolygydd milfeddygol, a

(b)os yw'r fangre wedi'i phrofi am fodolaeth feirws clefyd pothellog y moch gan ddefnyddio moch dangos clwy a bod y canlyniadau'n negyddol.

Glanhau a diheintio — cyffredinol

18.—(1Rhaid i'r diheintyddion a ddefnyddir, a phan fo'n briodol, eu crynodiadau, gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru a'u defnyddio'n unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd (os oes rhai).

(2Rhaid i'r gwaith glanhau a diheintio gael ei wneud yn y fath fodd ag i leiafu'r risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch neu'r risg y byddai'r feirws hwnnw'n goroesi.

Dull glanhau a diheintio

19.—(1Rhaid i'r gwaith glanhau a diheintio gael ei wneud gan y meddiannydd yn unol â chyfarwyddiadau ysgrifenedig gan arolygydd milfeddygol.

(2Os bydd yn angenrheidiol, rhaid i'r cyfarwyddiadau gynnwys gofynion ar gyfer—

(a)trin tail, sarn a bwyd yn y fath fodd ag i lonyddu'r feirws;

(b)tynnu saim ac unrhyw fryntni arall oddi ar bob arwyneb drwy ei drochi ag asiant diseimio ac wedi hynny gan olchi'r arwynebau â dwr;

(c)chwistrellu pob arwyneb â diheintydd (neu eu trin â gwn tân) a'i wneud eto ar ôl 14 o ddiwrnodau; ac

(ch)cywiro lloriau a waliau sydd wedi'u difrodi.

Profi â moch dangos clwy

20.—(1Ar ôl glanhau a diheintio'n unol â chyfarwyddiadau'r arolygydd milfeddygol, rhaid i arolygydd milfeddygol ardystio mewn ysgrifen fod y glanhau a'r diheintio wedi'i gyflawni'n foddhaol.

(2Rhaid i'r fangre gael ei phrofi wedyn ar gyfer feirws clefyd pothellog y moch gan ddefnyddio moch dangos clwy.

(3Rhaid i nifer y moch dangos clwy gael ei gyfyngu i'r lleiafswm sy'n angenrheidiol ar gyfer y prawf.

(4Ni chaniateir i foch dangos clwy gael eu cyflwyno tan o leiaf 28 o ddiwrnodau ar ôl i'r dystysgrif gael ei dyroddi, a rhaid eu cyflwyno'n unol â thrwydded gan arolygydd milfeddygol.

(5Rhaid i'r moch fod wedi'u profi ar draul y meddiannydd cyn dod â hwy i'r fangre a bod canlyniadau'r profion arnynt am bresenoldeb gwrthgyrff rhag feirws clefyd pothellog y moch yn negyddol.

(6Rhaid i'r arolygydd milfeddygol sicrhau bod nifer digonol o'r moch yn cael eu dodi ledled y fangre fel y byddai'n rhesymol disgwyl i unrhyw feirws gweddilliol effeithio ar un neu fwy o'r moch.

(7Rhaid i'r moch gael eu harchwilio 28 o ddiwrnodau ar ôl iddynt gael eu dodi ar y fangre, a rhaid i samplau gael eu cymryd oddi wrthynt gan arolygydd milfeddygol i weld a oes gwrthgyrff rhag feirws clefyd pothellog y moch yn bresennol.

(8Os nad oes unrhyw un o'r moch yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch neu os nad oes unrhyw un ohonynt wedi magu gwrthgyrff rhag feirws clefyd pothellog y moch, rhaid i'r arolygydd milfeddygol godi'r cyfyngiadau oddi ar y rhannau hynny o'r fangre.

(9Fel dewis arall yn lle cyflwyno'r nifer lleiaf o foch dangos clwy, caiff arolygydd milfeddygol drwyddedu'r weithred o gyflwyno nifer digyfyngiad o foch dangos clwy, ond yn yr achos hwnnw—

(a)bydd paragraffau (4), (5) a (6) yn gymwys o ran cyflwyno'r moch dangos clwy;

(b)rhaid i'r holl foch gyrraedd o fewn cyfnod o wyth niwrnod;

(c)rhaid iddynt ddod o fangre sydd wedi'i lleoli y tu allan i barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth;

(ch)rhaid i arolygydd milfeddygol gynnal archwiliad clinigol o'r holl foch, a chymryd samplau oddi wrth nifer ystadegol ddilys o foch a chynnal prawf arnynt i weld a oes gwrthgyrff rhag feirws clefyd pothellog y moch yn bresennol, 28 o ddiwrnodau yn y fan gyntaf ar ôl i'r mochyn olaf gyrraedd; a

(d)hyd yn oed os na fydd unrhyw un o'r moch yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch, ni chaiff arolygydd milfeddygol godi'r cyfyngiadau tan 60 o ddiwrnodau ar ôl i'r mochyn olaf gyrraedd.

Glanhau a diheintio gorfodol

21.—(1Ni waeth a fwriedir dod â moch i'r fangre eto, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i feddiannydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud y gwaith o lanhau a diheintio'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, a bydd methu â chydymffurfio â'r hysbysiad yn dramgwydd.

(2Rhaid i'r hysbysiad bennu cyfnod rhesymol y bydd yn rhaid cyflawni'r glanhau a'r diheintio ynddo.

(3Os na chydymffurfir â'r hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru drefnu, p'un ai drwy eu swyddogion neu bersonau eraill, bod y meddiannydd yn cydymffurfio ag ef, a hynny ar ei draul ei hun.

RHAN 4Lladd-dai

Dulliau rheoli mewn lladd-dy ar ôl hysbysiad

22.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu o dan reoliad 5(1) o fochyn neu garcas dan amheuaeth mewn lladd-dy a bod arolygydd milfeddygol o'r farn bod ymchwiliad pellach a fydd yn ymwneud â phresenoldeb posibl clefyd pothellog y moch yn angenrheidiol.

(2Rhaid i'r arolygydd milfeddygol roi gwybod ar lafar neu fel arall i'r person a adroddodd am y mochyn neu'r carcas dan amheuaeth fod ymchwiliad pellach yn angenrheidiol, a bydd y dulliau rheoli ym mharagraff (3) yn gymwys wedyn.

(3Mae'r dulliau rheoli yn golygu, ac eithrio fel y'i caniateir mewn ysgrifen gan arolygydd milfeddygol, bod rhaid i'r person y mae'r mochyn neu'r carcas yn ei feddiant neu o dan ei ofal, sicrhau—

(a)na ddeuir ag unrhyw fochyn i mewn i'r lladd-dy,

(b)y cedwir yn fyw unrhyw fochyn byw dan amheuaeth, unrhyw fochyn byw o'r un fangre â'r mochyn dan amheuaeth ac unrhyw foch y maent wedi bod mewn cyffyrddiad â hwy, hyd nes iddynt gael eu cigydda o dan reoliad 23, ac

(c)os yw unrhyw un o'r moch hynny eisoes wedi'i gigydda, bod y carcasau ac unrhyw garcasau y maent wedi bod mewn cyffyrddiad â hwy yn cael eu symud i ran o'r lladd-dy lle gellir eu hynysu, a rhaid i'r meddiannydd sicrhau eu bod yn cael eu cadw yno ac na fyddant yn dod i gyffyrddiad â moch neu garcasau eraill,

a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(4Bydd y dulliau rheoli hyn yn parhau i fod yn gymwys hyd nes y bydd arolygydd milfeddygol wedi mynd i'r lladd-dy a gweithredu'n unol â'r rheoliad canlynol.

Gweithredu ar ôl i ddulliau rheoli gael eu gosod

23.—(1Ar ôl gosod y dulliau rheoli yn dilyn hysbysiad ynghylch amau bod achos o glefyd pothellog y moch mewn lladd-dy, rhaid i arolygydd milfeddygol fynd ar unwaith i'r lladd-dy ac archwilio'r moch neu'r carcasau.

(2Os yw'r arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni nad yw clefyd pothellog y moch yn bodoli yn y lladd-dy, rhaid i'r arolygydd milfeddygol gadarnhau hyn (ar lafar neu fel arall) a'r adeg honno bydd effaith y dulliau rheoli yn rheoliad 22 yn peidio.

(3Rhaid i arolygydd milfeddygol sy'n amau bod clefyd pothellog y moch yn bodoli yn y lladd-dy gyflwyno hysbysiad i'r meddiannydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob mochyn byw dan amheuaeth, pob mochyn byw o'r un fangre â'r mochyn dan amheuaeth ac unrhyw foch y maent wedi bod mewn cyffyrddiad â hwy yn cael eu cigydda ar wahân i foch eraill, a bod y carcasau yn cael eu storio ar wahân i garcasau moch eraill, a bydd methu â chydymffurfio â'r hysbysiad yn dramgwydd.

(4Rhaid i'r arolygydd milfeddygol gymryd samplau (caiff y samplau ddod o foch a charcasau yn y lladd-dy a samplau o'r fangre y daeth y mochyn dan amheuaeth ohoni) a'u profi i gadarnhau a yw clefyd pothellog y moch yn bresennol yn y lladd-dy ai peidio.

(5Os yw canlyniadau'r prawf yn negyddol, rhaid i'r arolygydd milfeddygol gadarnhau hynny mewn ysgrifen a bydd effaith y dulliau rheoli yn rheoliad 22 yn peidio.

(6Caiff arolygydd milfeddygol godi'r cyfyngiadau yn 22(3)(a) ar unrhyw bryd os yw'r lladd-dy wedi'i lanhau a'i ddiheintio'n unol â chyfarwyddiadau ysgrifenedig arolygydd milfeddygol.

(7Os yw canlyniadau'r prawf yn dangos bod feirws clefyd pothellog y moch yn bodoli yn y lladd-dy (p'un a oes tystiolaeth am glefyd pothellog y moch ar y fangre y mae'r moch wedi dod ohoni ai peidio)—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru gymryd i'w meddiant y carcasau sydd wedi'u hynysu a'u gwaredu, a

(b)rhaid i'r meddiannydd sicrhau na chaiff y rhannau o'r lladd-dy a ddefnyddir i storio carcasau'r moch a gigyddir o dan y rheoliad hwn eu defnyddio hyd nes y bydd wedi'u glanhau a'u diheintio er boddhad yr arolygydd milfeddygol, a bydd methu â chydymffurfio â'r ddarpariaeth hon yn dramgwydd.

RHAN 5Dulliau rheoli ardal

Parthau gwarchod, parthau gwyliadwriaeth a pharthau cyfyngu ar symud

24.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru'n cadarnhau bod y fangre yn fangre heintiedig.

(2Onid yw'r fangre wedi'i rhestru ym mharagraff (3)—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan parth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth o amgylch y fangre heintiedig, a

(b)caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth cyfyngu ar symud.

(3Os yw'r fangre heintiedig—

(a)yn lladd-dy,

(b)yn filfeddygfa lle daethpwyd â mochyn i'w archwilio, neu

(c)yn unrhyw le arall y daethpwyd â mochyn iddo dros dro ac nad hwnnw yw canolbwynt yr heintiad ym marn Gweinidogion Cymru,

caiff Gweinidogion Cymru (ond nid oes angen iddynt) ddatgan parth gwarchod, parth gwyliadwriaeth a pharth cyfyngu ar symud o amgylch y fangre.

(4Rhaid bod gan y parth gwarchod radiws o dri chilometr o leiaf a bod gan y parth gwyliadwriaeth radiws o ddeg cilometr o leiaf, a rhaid bod y naill a'r llall wedi'u canoli ar y rhan o'r fangre sy'n fwyaf priodol i reoli'r clefyd ym marn Gweinidogion Cymru.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—

(a)y nodir unrhyw fangre o fewn parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth sy'n cynnwys moch cyn gynted â phosibl, a

(b)bod arolygydd milfeddygol yn ymweld â phob mangre o'r fath sydd o fewn parth gwarchod cyn gynted â phosibl a'i fod—

(i)yn arolygu ac, yn ôl yr angen, yn archwilio'r moch, a

(ii)yn casglu ac yn profi unrhyw samplau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol.

(6Mae Atodlen 2 yn nodi'r mesurau sy'n gymwys mewn parthau gwarchod a pharthau gwyliadwriaeth, ac mae torri unrhyw un o'r mesurau hynny'n dramgwydd.

(7Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan bod unrhyw fesur arall, sy'n angenrheidiol i atal, cyhyd â'i bod yn rhesymol ymarferol, feirws clefyd pothellog y moch rhag ymledu, yn gymwys i'r cyfan neu i unrhyw ran o unrhyw barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth.

(8Mae mangre—

(a)sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth gwarchod i'w thrin fel petai y tu mewn iddo;

(b)sy'n rhannol y tu mewn i barth gwyliadwriaeth ac yn rhannol mewn ardal nad yw'n barth gwarchod i'w thrin fel petai y tu mewn i'r parth gwyliadwriaeth;

(c)sy'n rhannol y tu mewn i barth cyfyngu ar symud ac yn rhannol mewn ardal nad yw'n barth gwyliadwriaeth i'w thrin fel petai y tu mewn i'r parth cyfyngu ar symud.

(9Pan fo Gweinidogion Cymru'n datgan diwedd unrhyw barth gwarchod, daw'r ardal a ffurfiodd y parth gwarchod hwnnw'n rhan o'r parth gwyliadwriaeth.

Parthau cyfyngu ar symud

25.—(1Rhaid i barth cyfyngu ar symud fod wedi'i ganoli ar y rhan o'r fangre heintiedig sy'n fwyaf priodol i reoli'r clefyd ym marn Gweinidogion Cymru, rhaid iddo fod yn lletach na'r parth gwyliadwriaeth a pheidio â chynnwys unrhyw ardal yn y parth gwarchod na'r parth gwyliadwriaeth.

(2Rhaid i'r ardal fod yn gyfryw ag y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn angenrheidiol i atal ymlediad feirws clefyd pothellog y moch.

(3Mae'n dramgwydd symud mochyn oddi ar unrhyw fangre yn y parth cyfyngu ar symud ac eithrio'n unol â thrwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd yn gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

Datganiadau pan fo clefyd pothellog y moch yn cael ei ddatgan yn yr Alban neu Loegr

26.—(1Pan fo mangre heintiedig (neu'r hyn sy'n cyfateb iddi yn neddfwriaeth yr Alban neu Loegr) yn cael ei datgan yn yr Alban neu Loegr mewn perthynas â chlefyd pothellog y moch, rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan ar unwaith—

(a)parth gwarchod i gwmpasu o leiaf unrhyw ardal yng Nghymru sydd o fewn tri chilometr i'r rhan o'r fangre heintiedig sy'n fwyaf priodol at ddibenion rheoli'r clefyd, a

(b)parth gwyliadwriaeth i gwmpasu o leiaf unrhyw ardal yng Nghymru sydd o fewn deg cilometr i'r rhan honno o'r fangre heintiedig.

(2Mewn unrhyw achos arall caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth pan fônt wedi'u bodloni bod feirws clefyd pothellog y moch yn bodoli ar unrhyw fangre yn yr Alban neu Loegr.

(3Yn ychwanegol, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth cyfyngu ar symud.

Datgan parthau

27.—(1O ran datganiad parth o dan y Rhan hon—

(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen;

(b)rhaid iddo ddynodi rhychwant y parth sy'n cael ei ddatgan; ac

(c)caniateir iddo gael ei ddiwygio neu ei ddirymu drwy ddatganiad pellach ar unrhyw bryd.

(2Yn achos parth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth, ni chaiff Gweinidogion Cymru ddatgan diwedd y parth hyd nes y bydd—

(a)pob gwaith glanhau a diheintio angenrheidiol wedi'i gyflawni ym mhob mangre heintiedig yn y parth er boddhad arolygydd milfeddygol;

(b)pob mangre sydd â moch wedi cael ymweliad gan arolygydd milfeddygol, ac yntau—

(i)wedi arolygu ac, yn ôl yr angen, wedi archwilio'r moch; a

(ii)wedi casglu unrhyw samplau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol; ac

(c)pob sampl wedi'i brofi a bod y canlyniadau'n negyddol.

Cyhoeddusrwydd

28.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru roi cyhoeddusrwydd i'r canlynol—

(a)maint unrhyw barth a ddatgenir o dan y Rheoliadau hyn;

(b)natur y cyfyngiadau a'r gofynion ynghylch y parth;

(c)dyddiadau datgan a therfynu'r parth hwnnw.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol godi, pan fo angen, arwyddion lle mae ffordd yn mynd i mewn i barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth yn dangos bodolaeth y parth.

RHAN 6Brechu

Gwahardd brechu

29.  Mae'n dramgwydd brechu mochyn yn erbyn clefyd pothellog y moch ac eithrio—

(a)yn unol â rheoliad 30, neu

(b)o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan Weinidogion Cymru.

Brechu gorfodol

30.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth brechu lle bydd yn rhaid i bob meddiannydd mangre yn y parth sy'n cynnwys mochyn sicrhau bod moch ar y fangre honno'n cael eu brechu'n unol â'r datganiad hwnnw.

(2Bydd meddiannydd o'r fath sy'n methu â brechu mochyn yn unol â'r datganiad yn cyflawni tramgwydd.

(3Caiff mangre sy'n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i barth brechu ei thrin fel petai y tu mewn i'r parth.

(4Yn achos moch sydd y tu allan i barth brechu, neu os nad yw parth brechu wedi'i ddatgan, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd mangre sy'n cynnwys mochyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd hwnnw sicrhau bod pob mochyn sydd ar y fangre'n cael ei frechu yn unol â'r hysbysiad hwnnw, a bydd methu â chydymffurfio â'r hysbysiad yn dramgwydd.

Moch a frechwyd

31.—(1Rhaid i berchennog mochyn sydd wedi'i frechu yn erbyn clefyd pothellog y moch sicrhau bod y mochyn wedi'i nodi'n un sydd wedi'i frechu felly.

(2Os oedd y brechu'n ganlyniad i ddatgan parth brechu, ni chaiff neb symud mochyn sydd wedi'i frechu y tu allan i'r parth ac eithrio i ladd-dy a ddynodwyd at y diben gan Weinidogion Cymru lle bydd yn rhaid iddo gael ei gadw a'i gigydda ar wahân i foch sydd heb eu brechu.

(3Fel arall ni chaiff neb symud mochyn sydd wedi'i frechu o'r fangre lle cafodd ei frechu (neu, os oedd y drwydded yn caniatáu brechu mewn ardal, o'r ardal lle mae brechu wedi'i ganiatáu) ac eithrio i ladd-dy a ddynodwyd at y diben gan Weinidogion Cymru lle bydd yn rhaid iddo gael ei gadw a'i gigydda ar wahân i foch sydd heb eu brechu.

(4Mae methu â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.

RHAN 7Darpariaethau arolygu, darpariaethau gorfodi a darpariaethau amrywiol

Hysbysiadau

32.—(1Rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei gyflwyno i unrhyw berson o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen a chaniateir ei ddiwygio, ei atal neu ei ddirymu mewn ysgrifen ar unrhyw adeg.

(2Caniateir i unrhyw hysbysiad o'r fath gael ei gyflwyno drwy—

(a)ei draddodi i'r person;

(b)ei adael ym mhriod gyfeiriad y person hwnnw; neu

(c)ei anfon drwy'r post at y person hwnnw yn y cyfeiriad hwnnw.

(3Caniateir i unrhyw hysbysiad o'r fath—

(a)cael ei gyflwyno, yn achos corff corfforaethol, i un o swyddogion y corff, a

(b)cael ei gyflwyno, yn achos partneriaeth, i bartner neu berson sy'n llywio neu'n rheoli'r busnes partneriaeth.

(4At ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978(7) (cyflwyno dogfennau drwy'r post) yn y modd y mae'n gymwys i'r rheoliad hwn, priod gyfeiriad unrhyw berson y mae hysbysiad i'w gyflwyno iddo yw ei gyfeiriad hysbys diwethaf ac eithrio—

(a)yn achos ei gyflwyno i gorff corfforaethol neu un o swyddogion y corff, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff yw'r priod gyfeiriad, a

(b)yn achos ei gyflwyno i bartneriaeth, partner neu berson sy'n llywio neu'n rheoli'r busnes partneriaeth, cyfeiriad prif swyddfa'r bartneriaeth yw'r priod gyfeiriad.

(5Os na fydd modd canfod, ar ôl ymchwiliad rhesymol, enw neu gyfeiriad meddiannydd unrhyw fangre y mae hysbysiad i'w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn, caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy ei roi'n sownd mewn modd amlwg i adeilad neu wrthrych sydd ar y fangre.

(6Yn y rheoliad hwn—

  • mae “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;

  • ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol;

  • nid yw “partneriaeth” (“partnership”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig;

  • ystyr “swyddog” (“officer”), mewn perthynas â chorff corfforaethol yw unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol,

  • ac mae cyfeiriadau at gyflwyno yn cynnwys cyfeiriadau at ymadroddion tebyg (megis rhoi neu anfon).

Trwyddedau

33.—(1Rhaid i drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod mewn ysgrifen a chaniateir —

(a)iddi fod yn gyffredinol neu'n benodol;

(b)iddi fod yn ddarostyngedig i amodau; ac

(c)ei diwygio, ei hatal neu ei dirymu mewn ysgrifen ar unrhyw bryd.

(2Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded benodol—

(a)cario'r drwydded neu gopi ohoni gydag ef bob amser yn ystod y symud, a

(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd, neu swyddog arall i Weinidogion Cymru, dangos y drwydded neu'r copi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohoni neu ohono gael ei gymryd,

a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(3Rhaid i berson sy'n symud unrhyw beth o dan awdurdod trwydded gyffredinol—

(a)cario gydag ef bob amser yn ystod y symud nodyn traddodi sy'n cynnwys manylion—

(i)am yr hyn sy'n cael ei gludo, gan gynnwys faint ohono,

(ii)dyddiad y symud,

(iii)enwau'r traddodwr a'r traddodai,

(iv)cyfeiriad y man y cychwynnodd y symud ohono a'r gyrchfan,

(b)os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd neu swyddog arall i Weinidogion Cymru, dangos y nodyn traddodi a chaniatáu i gopi neu ddyfyniad ohono gael ei gymryd, ac

(c)cadw'r nodyn traddodi am o leiaf chwe mis,

a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(4Bydd methu â chydymffurfio ag un o amodau unrhyw drwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn neu dorri un o'r amodau hynny'n dramgwydd.

(5Os yw mochyn wedi'i symud i fangre o dan drwydded, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre yn y gyrchfan yn gosod unrhyw gyfyngiadau ar symud ynghylch moch ar y fangre honno sy'n angenrheidiol i atal y risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch, a bydd methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath yn dramgwydd.

(6Ac eithrio fel y cyfarwyddir fel arall gan Weinidogion Cymru, mae trwyddedau a roddwyd yn yr Alban neu Loegr ar gyfer gweithgareddau y gellid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn yn cael effaith yng Nghymru fel petaent yn drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn, a bydd darpariaethau'r rheoliad hwn yn gymwys yn unol â hynny.

Pwerau arolygwyr

34.—(1Caiff arolygydd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, awdurdodiad a ddilyswyd yn briodol, fynd i mewn i unrhyw fangre ar unrhyw adeg resymol er mwyn gorfodi'r Rheoliadau hyn, ac at y dibenion hyn mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys cerbyd neu drelar.

(2Caiff arolygydd sy'n mynd i unrhyw fangre—

(a)arolygu'r fangre, y cerbyd neu'r cynhwysydd ac unrhyw offer, peirianwaith neu gyfarpar;

(b)cymryd samplau;

(c)cymryd i'w feddiant a dinistrio unrhyw beth a all ledaenu feirws clefyd pothellog y moch;

(ch)cadw unrhyw anifail yn gaeth neu ei ynysu neu ddal ei afael ar unrhyw beth neu ei ynysu;

(d)marcio at ddibenion adnabod unrhyw anifail neu beth;

(dd)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw anifail neu beth (gan gynnwys cerbyd) gael ei symud i gyrchfan benodedig;

(e)cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion;

(f)cael gweld, ac arolygu a chopïo unrhyw ddogfennau neu gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy) sy'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn, a mynd â hwy oddi yno i'w gwneud yn bosibl iddynt gael eu copïo;

(ff)arolygu a gwirio gweithrediad unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â chofnodion; ac

(g)ei gwneud yn ofynnol glanhau a diheintio unrhyw ran o'r fangre neu unrhyw beth.

(3Pan fo arolygydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre ac nad yw'n rhesymol ymarferol penderfynu a yw dogfennau ar y fangre honno'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn, caiff eu cymryd i'w feddiant i ganfod a ydynt yn berthnasol neu beidio.

(4Caiff y canlynol fynd gyda'r arolygydd—

(a)unrhyw bersonau eraill y mae'r arolygydd yn barnu eu bod yn angenrheidiol, a

(b)unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu er mwyn gorfodi rhwymedigaeth Gymunedol.

Pwerau ynghylch moch sy'n byw yn y gwyllt

35.  O ran moch sy'n byw yn y gwyllt, caiff arolygydd milfeddygol, a phan fo'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, arolygydd, swyddog arall i Weinidogion Cymru neu unrhyw berson arall sydd â'r arbenigedd angenrheidiol—

(a)ymroi i gadw golwg am foch o'r fath;

(b)eu dal;

(c)cymryd samplau oddi wrthynt;

(ch)eu lladd os yw'r arolygydd milfeddygol wedi'i fodloni—

(i)nad yw'n bosibl cymryd samplau oddi wrthynt heb eu lladd; neu

(ii)eu bod yn lledaenu neu y gallant ledaenu feirws clefyd pothellog y moch i foch eraill.

Hysbysiadau ynghylch symud

36.—(1Os yw mochyn wedi'i symud yn groes i unrhyw ddarpariaeth sydd yn y Rheoliadau hyn neu unrhyw drwydded neu hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Rheoliadau hyn, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre—

(a)yn cadw'r mochyn yn gaeth ar y fangre, ac unrhyw foch eraill yn gaeth ar y fangre, neu

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd symud unrhyw foch sydd ar y fangre i fangre arall a bennir yn yr hysbysiad.

(2Os yw mochyn wedi'i symud i fangre o dan hysbysiad o'r fath, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre yn y gyrchfan yn gosod unrhyw gyfyngiadau symud ynghylch moch ar y fangre honno sy'n angenrheidiol i atal y risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch.

(3Bydd methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath yn dramgwydd.

Atal hawliau tramwy mewn parth gwarchod neu gyfyngu arnynt

37.—(1Gyda chydsyniad ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru, caiff arolygydd atal unrhyw un rhag arfer hawl dramwy (gan gynnwys llwybr cyhoeddus) mewn parth gwarchod neu gyfyngu ar ei harfer drwy beri i arwydd i'r perwyl hwnnw gael ei arddangos yn briodol.

(2Mae'n dramgwydd symud ymaith neu newid arwydd sy'n cael ei arddangos o dan y rheoliad hwn ac eithrio o dan gyfarwyddyd arolygydd.

(3Mae'r ataliad neu'r cyfyngiad yn parhau hyd nes y bydd—

(a)y parth gwarchod wedi'i derfynu, neu

(b)pob hysbysiad perthnasol wedi'i dynnu ymaith o dan gyfarwyddyd arolygydd.

Newid o ran meddiannydd mangre dan gyfyngiad

38.  Os bydd newid o ran meddiannydd mangre sydd o dan gyfyngiad o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i'r meddiannydd newydd ganiatáu i'r hen feddiannydd fynd i mewn i'r fangre i fwydo unrhyw anifail yn ystod cyfnod y cyfyngiad ac am saith niwrnod ar ôl iddo ddod i ben, a bydd methu â gwneud hynny'n dramgwydd.

Pwerau arolygwyr os ceir diffyg

39.  Os bydd unrhyw berson yn methu â chydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn neu oddi tanynt, caiff arolygydd gymryd unrhyw gamau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i sicrhau y bydd y gofyniad yn cael ei fodloni, a hynny ar draul y person hwnnw.

Digolledu

40.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu iawndal am foch a leddir neu a gigyddir o dan y Rheoliadau hyn.

(2Os oedd clefyd pothellog y moch yn effeithio ar unrhyw un o'r moch hynny, ei werth yn union cyn yr effeithiwyd arno felly (llai unrhyw bris a gafwyd gan y perchennog adeg cigydda'r mochyn) yw'r iawndal.

(3Fel arall ei werth yn union cyn iddo gael ei ladd neu ei gigydda yw'r iawndal.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru dalu iawndal am unrhyw beth a gymerwyd i'w meddiant (oni ddychwelir y peth hwnnw) o dan y Rheoliadau hyn yn ôl ei werth adeg ei gymryd i'w meddiant.

Rhwystro

41.  Mae gwneud unrhyw un o'r canlynol yn dramgwydd—

(a)rhwystro'n fwriadol unrhyw un sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn;

(b)heb achos rhesymol, methu â rhoi i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae ar y person hwnnw angen rhesymol amdano neu amdani o dan y Rheoliadau hyn;

(c)darparu i unrhyw un sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol; neu

(ch)methu â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn.

Tramgwyddau a chosbau

42.—(1Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau, neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis neu'r ddau.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

43.—(1Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,

bydd y person hwnnw yn euog o'r tramgwydd yn ogystal â'r corff corfforaethol.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Tramgwyddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig

44.—(1Caniateir i achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, yr honnir ei fod wedi ei gyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig, gael ei ddwyn yn enw'r bartneriaeth neu'r gymdeithas.

(2At ddibenion achos cyfreithiol o'r fath—

(a)mae rheolau'r llys ynghylch cyflwyno dogfennau i gael effaith fel pe bai'r bartneriaeth neu'r gymdeithas yn gorff corfforaethol, a

(b)mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(8) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(9) yn gymwys mewn perthynas â'r bartneriaeth neu'r gymdeithas yn yr un modd ag y maent yn gymwys i gorff corfforaethol.

(3Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas adeg ei chollfarnu o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn i'w thalu allan o gronfeydd y bartneriaeth neu'r gymdeithas.

(4Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bydd y partner hwnnw (yn ogystal â'r bartneriaeth) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael achos cyfreithiol yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

At y dibenion hyn, mae “partner” (“partner”) yn cynnwys person sy'n honni ei fod yn gweithredu fel partner.

(5Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad un o swyddogion y gymdeithas, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ei ran, bydd y swyddog hwnnw (yn ogystal â'r gymdeithas) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael achos cyfreithiol yn ei erbyn ac i gael ei gosbi yn unol â hynny.

At y dibenion hyn, ystyr “swyddog” (“officer”) yw un o swyddogion y gymdeithas neu aelod o'i gorff llywodraethu, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swyddogaeth o'r fath.

Gorfodi

45.—(1Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn perthynas ag achosion penodol, mai Gweinidogion Cymru fydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn yn hytrach na'r awdurdod lleol.

Amgylchiadau eithriadol

46.  Caiff Gweinidogion Cymru, er mwyn sicrhau iechyd neu les unrhyw anifail—

(a)trwyddedu person i gymryd unrhyw gamau a fyddai fel arall wedi'u gwahardd o dan y Rheoliadau hyn; neu

(b)esemptio person, drwy hysbysiad, rhag unrhyw ofyniad o dan y Rheoliadau hyn.

Dirymu

47.—(1Mae'r canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru —

(a)Gorchymyn Clefyd Pothellog y Moch 1972(10);

(b)Gorchymyn Clefyd Pothellog y Moch (Diwygio) 1973(11); ac

(c)Gorchymyn Clefyd Pothellog y Moch (Iawndal) 1972(12).

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Mehefin 2009

Rheoliadau 8, 9, 10, 11, 13 a 17

ATODLEN 1Mesurau ar fangreoedd dan amheuaeth a mangreoedd heintiedig

Cofnodion

1.—(1Rhaid i'r meddiannydd gofnodi—

(a)y categorïau o foch yn y fangre;

(b)nifer y moch ym mhob un o'r categorïau hynny;

(c)nifer y moch ym mhob un o'r categorïau hynny sydd eisoes wedi marw; a

(ch)nifer y moch ym mhob un o'r categorïau hynny sydd—

(i)yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch; neu

(ii)yn debyg o gael eu heintio neu eu halogi ag ef.

(2Rhaid i'r meddiannydd—

(a)diweddaru'r cofnod hwn yn ddyddiol, a

(b)cofnodi manylion pob mochyn a anwyd ar y fangre.

(3Rhaid i'r meddiannydd gadw'r cofnodion am chwe mis o leiaf.

Lletya neu ynysu moch

2.  Rhaid i'r meddiannydd sicrhau bod yr holl foch sydd ar y fangre —

(a)yn cael eu cadw yn eu hadeiladau neu, os ydynt yn cael eu cadw mewn cae, eu bod yn cael eu cadw wedi'u hynysu, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, oddi wrth foch gwyllt, neu

(b)yn cael eu cyfyngu neu eu hynysu'n unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.

Diheintio

3.  Rhaid i'r meddiannydd—

(a)darparu a chynnal modd diheintio wrth y mynedfeydd i'r fangre a'r holl adeiladau ar y fangre sy'n lletya moch ac wrth yr allanfeydd o'r fangre a'r holl adeiladau hynny, a

(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau gan arolygydd milfeddygol ynghylch y modd diheintio hwnnw.

Cyfyngu ar symud moch

4.  Ni chaiff neb symud unrhyw fochyn neu anifail arall i'r fangre nac ohoni ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

Cyfyngu ar symud cerbydau

5.  Ni chaiff neb symud unrhyw gerbyd i'r fangre nac ohoni, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

Cyfyngu ar symud ymaith unrhyw beth sy'n dueddol o drosglwyddo clefyd pothellog y moch

6.  Ni chaiff neb symud o'r fangre unrhyw beth (gan gynnwys cig, carcasau, a bwyd anifeiliaid) sy'n dueddol o drosglwyddo feirws clefyd pothellog y moch, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

Cyfyngu ar bersonau sy'n mynd i mewn i'r fangre a'i gadael

7.  Ni chaiff neb fynd i mewn i'r fangre na'i gadael —

(a)onid yw'n angenrheidiol gwneud hynny er mwyn darparu gwasanaethau brys, neu

(b)onid yw wedi'i awdurdodi i wneud hynny drwy drwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu un o swyddogion Gweinidogion Cymru sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

Rheoliad 24

ATODLEN 2Parthau

RHAN 1Mesurau mewn parth gwarchod

Symud moch drwy'r parth gwarchod

1.  Ni chaiff neb symud moch drwy'r parth onid yw'n gwneud hynny heb stopio.

Symud moch i fangre yn y parth gwarchod

2.  Ni chaiff neb symud moch i fangre yn y parth onid yw wedi'i drwyddedu i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

Symud moch oddi ar fangre yn y parth gwarchod

3.—(1Ni chaiff neb symud moch oddi ar fangre yn y parth onid yw wedi'i drwyddedu i wneud hynny gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

(2Caniateir i drwydded gael ei rhoi ar unrhyw bryd—

(a)os yw problemau (p'un ai problemau lles neu fel arall) wedi codi wrth gadw'r anifeiliaid;

(b)os oes o leiaf 30 o ddiwrnodau wedi mynd heibio er dyddiad datgan y parth gwarchod;

(c)os yw'r symud yn uniongyrchol i fangre arall sydd wedi'i lleoli yn y parth gwarchod; ac

(ch)os yw milfeddyg wedi arolygu'r holl foch ar y fangre, ac wedi archwilio'r holl foch sydd i'w symud, gyda chanlyniadau negyddol yn y 48 awr cyn y symud.

(3Caniateir i drwydded gael ei rhoi hefyd ar unrhyw adeg yn achos dwy set o fangreoedd sydd wedi'u rhannu gan briffordd ar yr amod y byddai'r ddwy set o fangreoedd yn cyffinio â'i gilydd oni bai am y briffordd.

(4Fel arall, ni chaniateir i drwydded gael ei rhoi ac eithrio os yw 21 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers i'r fangre ddiwethaf yn y parth a heintiwyd â chlefyd pothellog y moch gael ei glanhau a'i diheintio gan Weinidogion Cymru a bod y symud—

(a)yn uniongyrchol i ladd-dy sydd wedi'i ddynodi at y diben gan Weinidogion Cymru a hwnnw'n fan lle byddant yn cael eu cadw a'u cigydda ar wahân i foch eraill, ar yr amod—

(i)bod milfeddyg wedi arolygu'r holl foch ar y fangre, ac wedi archwilio'r moch sydd i'w symud i'w cigydda (gyda chanlyniadau negyddol) yn y 48 awr cyn y symud; a

(ii)bod y moch yn cael eu cludo mewn cerbyd seliedig; neu

(b)yn uniongyrchol i fangre arall sydd wedi'i lleoli yn y parth diogelu, ar yr amod bod milfeddyg wedi arolygu'r holl foch ar y fangre y mae'r moch i'w symud ohoni, ac wedi archwilio'r moch sydd i'w symud, (gyda chanlyniadau negyddol) o fewn y 48 awr cyn y symud.

Glanhau cerbydau

4.—(1Ni chaniateir i gerbydau a chyfarpar a ddefnyddir yn y parth gwarchod i gludo—

(a)moch, neu

(b)da byw eraill neu ddeunyddiau eraill a all fod wedi'u halogi â feirws clefyd pothellog y moch,

adael y fangre yn y gyrchfan heb iddynt fod wedi'u glanhau a'u diheintio yn y fath fodd ag i leiafu'r risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch.

(2Ym mhob achos, rhaid i'r person y mae'r cerbyd o dan ei ofal wneud y canlynol o leiaf—

(a)glanhau a diheintio ei olwynion, ei fwâu olwynion a'i labedi llaid; a

(b)sicrhau nad oes ar du allan y cerbyd arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi â llaid, carthion nac unrhyw ddeunyddiau eraill a all gario feirws clefyd pothellog y moch.

(3Yn achos cerbyd da byw rhaid i'r glanhau a'r diheintio gydymffurfio â'r protocol yn Atodlen 2 i Orchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003(13) ac eithrio, os yw'r cerbyd ar fangre nad oes ganddi gyfleusterau ar gyfer hyn, bod rhaid i'r person y mae'r cerbyd o dan ei ofal, ar ôl iddo gyflawni'r gweithdrefnau gofynnol ym mharagraff (2), fynd ag ef yn uniongyrchol i fangre yn y parth (nad yw'n fangre sy'n cynnwys moch) a chanddi gyfleusterau priodol ar gyfer llwyr lanhau a diheintio, a glanhau a diheintio'r cerbyd yno yn unol â'r protocol hwnnw.

RHAN 2Mesurau mewn parth gwyliadwriaeth

Symud moch

5.—(1Ni chaiff neb symud moch oddi ar fangre mewn parth gwyliadwriaeth onid yw wedi'i drwyddedu gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy'n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.

(2Caniateir i drwydded gael ei rhoi—

(a)os yw milfeddyg wedi arolygu'r holl foch ar y fangre, ac wedi archwilio'r moch sydd i'w symud i'w cigydda (gyda chanlyniadau negyddol) yn y 48 awr cyn y symud;

(b)os yw prawf serolegol o sampl ystadegol o'r moch sydd i'w symud wedi'i gynnal ar draul y perchennog heb ganfod gwrthgyrff i feirws clefyd pothellog y moch o fewn y 14 o ddiwrnodau cyn y symud; ac

(c)os yw'r cerbydau a'r cyfarpar a ddefnyddiwyd i gludo'r moch wedi'u glanhau a'u diheintio ar ôl pob gweithred gludo.

(3Yn ychwanegol, caniateir i drwydded gael ei rhoi ar gyfer symud—

(a)i ladd-dy yn y parth gwyliadwriaeth sydd wedi'i ddynodi at y diben gan Weinidogion Cymru a hwnnw'n fan lle byddant yn cael eu cadw a'u cigydda ar wahân i foch eraill;

(b)i fangre arall yn y parth gwyliadwriaeth ar yr amod nad oes unrhyw foch wedi'u symud i'r fangre yn y tarddle yn ystod yr 21 niwrnod blaenorol; neu

(c)rhwng dwy set o fangreoedd sydd wedi'u rhannu gan briffordd ar yr amod y byddai'r ddwy set o fangreoedd yn cyffinio â'i gilydd oni bai am y briffordd.

Glanhau cerbydau

6.—(1Ni chaniateir i gerbydau a chyfarpar a ddefnyddir yn y parth gwyliadwriaeth i gludo—

(a)moch, neu

(b)da byw eraill neu ddeunyddiau eraill a all fod wedi'u halogi â feirws clefyd pothellog y moch,

adael y parth gwyliadwriaeth heb iddynt fod wedi'u glanhau a'u diheintio yn y fath fodd ag i leiafu'r risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch.

(2Yn achos cerbyd da byw, rhaid i'r glanhau a'r diheintio gydymffurfio â'r protocol yn Atodlen 2 i Orchymyn Cludo Anifeiliaid (Glanhau a Diheintio) (Cymru) (Rhif 3) 2003(14).

(3Ym mhob achos arall, rhaid i'r person y mae'r cerbyd o dan ei ofal wneud y canlynol o leiaf—

(a)glanhau a diheintio ei olwynion, ei fwâu olwynion a'i labedi llaid; a

(b)sicrhau nad oes ar du allan y cerbyd arwyddion gweledol ei fod wedi ei halogi â llaid, carthion neu unrhyw ddeunyddiau eraill a allai gario feirws clefyd pothellog y moch.

Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â cherbydau sy'n teithio drwy'r parth gwyliadwriaeth heb stopio.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith yng Nghymru ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 92/119/EEC sy'n cyflwyno mesurau Cymunedol cyffredinol i reoli rhai clefydau anifeiliaid a mesurau penodol ynghylch clefyd pothellog y moch (OJ Rhif L 62, 15.3.1993, t. 69) i'r graddau y mae'r Gyfarwyddeb honno'n rheoli clefyd pothellog y moch a Chyfarwyddeb y Cyngor 2007/10/EC (OJ Rhif L 63, 1.3.2007, t. 24).

Mae Rhan 1 yn rhagarweiniol.

Mae Rhan 2 yn ymdrin â hysbysu ynghylch amau bod achos o glefyd pothellog y moch.

Mae Rhan 3 ac Atodlen 1 yn ymdrin â mangreoedd lle yr amheuir neu y cadarnheir bod achos o glefyd pothellog y moch, neu fangreoedd sydd wedi bod yn agored i'r feirws.

Mae Rhan 4 yn ymdrin â lladd-dai.

Mae Rhan 5 ac Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth i sefydlu parthau gwarchod, parthau gwyliadwriaeth a pharthau cyfyngu ar symud ar ôl i bresenoldeb clefyd pothellog y moch gael ei gadarnhau ar unrhyw fangre.

Mae Rhan 6 yn gwahardd brechu yn erbyn clefyd pothellog y moch ac eithrio o dan yr amgylchiadau sydd wedi'u nodi yno.

Mae Rhan 7 yn cynnwys darpariaethau ynghylch arolygu a gorfodi.

Mae torri'r Rheoliadau'n dramgwydd y gellir ei gosbi—

(a)ar gollfarn ddiannod, â dirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol, carchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, â dirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na chwe mis, neu'r ddau.

Gorfodir hwy gan yr awdurdod lleol.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i lunio ac mae ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(8)

1925 p.86. Diddymwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 33 gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p.55), adran 132 ac Atodlen 6; diwygiwyd is-adran (3) gan Ddeddf y Llysoedd 1971 (p. 3), adran 56(1) ac Atodlen 8, rhan II, paragraff 19; diwygiwyd is-adran (4) gan Ddeddf y Llysoedd 2003 (p.39), adran 109(1) a (3), Atodlen 8, paragraff 71 ac Atodlen 10, a chan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p.43), adran 154 ac Atodlen 7, paragraff 5; diddymwyd is-adran (5) gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952, adran 132, Atodlen 6.

(9)

1980 p. 43. Diwygiwyd is-baragraff 2(a) gan Ddeddf Gweithdrefn Droseddol ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 (p.25), adran 47, Atodlen 1, paragraff 13, ac fe'i diddymwyd gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p.44), adrannau 41 a 332, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1), (13)(a), ac Atodlen 37, rhan 4 (yn effeithiol o ddyddiad sydd i'w bennu); diddymwyd paragraff 5 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p.53), adrannau 25(2) a 101(2) ac Atodlen 13; diwygiwyd paragraff 6 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 41, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1) a (13)(b) (yn effeithiol o ddyddiad sydd i'w bennu).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources