xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Amau a chadarnhau bod achos o glefyd pothellog y moch

PENNOD 1Cwmpas Rhan 3 a dulliau rheoli cychwynnol

Cwmpas Rhan 3

6.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i bob mangre ac eithrio lladd-dai (ar gyfer y rheini gweler Rhan 4).

Dulliau rheoli cychwynnol ar ôl hysbysu

7.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu o dan reoliad 5(1) o fochyn neu garcas dan amheuaeth a bod arolygydd milfeddygol yn credu bod ymchwiliad pellach ynghylch presenoldeb posibl clefyd pothellog y moch yn angenrheidiol.

(2Rhaid i'r arolygydd milfeddygol roi gwybod ar lafar neu fel arall i'r person a adroddodd am y mochyn neu'r carcas dan amheuaeth fod ymchwiliad pellach yn angenrheidiol, a bydd y dulliau rheoli ym mharagraff (3) yn gymwys wedyn.

(3Mae'r dulliau rheoli yn golygu bod rhaid, ac eithrio fel y'i caniateir mewn ysgrifen gan arolygydd milfeddygol, i'r person y mae mochyn neu garcas yr hysbyswyd ohono yn ei feddiant neu o dan ei ofal, sicrhau—

(a)na chaiff y mochyn neu'r carcas yr hysbyswyd ohono ei symud o'r fangre lle y mae,

(b)na chaiff unrhyw fochyn na charcas arall nac unrhyw beth sy'n debyg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch ei symud o'r fangre honno neu iddi, ac

(c)bod unrhyw berson sydd wedi bod mewn cyffyrddiad ag unrhyw fochyn neu garcas ar y fangre, neu sydd wedi bod ar unrhyw ran o'r fangre a all fod wedi ei heintio â feirws clefyd pothellog y moch, yn cymryd pob rhagofal bioddiogelwch angenrheidiol i leihau'r risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch cyn ymadael â'r fangre,

a bydd methu â gwneud hynny yn dramgwydd.

(4Bydd unrhyw ddulliau rheoli a osodir o dan y rheoliad hwn yn parhau i fod yn gymwys hyd nes—

(a)y bydd arolygydd milfeddygol yn cyflwyno hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn yn dynodi'r fangre yn fangre dan amheuaeth, neu

(b)y bydd arolygydd milfeddygol yn cadarnhau (ar lafar neu fel arall) nad yw presenoldeb feirws clefyd pothellog y moch dan amheuaeth ar y fangre.

PENNOD 2Gweithredu pan amheuir bod achos o glefyd a datgan bod mangre wedi ei heintio

Gosod mesurau pan amheuir bod achos o glefyd

8.—(1Rhaid i arolygydd weithredu'n unol â'r rheoliad hwn pan amheuir—

(a)bod mochyn sydd wedi ei heintio neu a gafodd ei heintio â feirws clefyd pothellog y moch ar unrhyw fangre (p'un ai ar ôl hysbysiad o dan y Rheoliadau hyn ai peidio), neu

(b)bod mangre wedi'i halogi â feirws clefyd pothellog y moch.

(2Rhaid i'r arolygydd—

(a)cyflwyno hysbysiad i'r meddiannydd yn dynodi'r fangre honno'n fangre dan amheuaeth ac yn gosod y mesurau yn Atodlen 1, a

(b)sicrhau bod arwyddion rhybudd sy'n gwahardd mynediad yn cael eu gosod mewn mannau addas o amgylch y fangre.

(3Rhaid i arolygydd milfeddygol ddechrau ymchwiliad epidemiolegol i geisio cadarnhau o leiaf—

(a)am ba mor hir y gallai feirws clefyd pothellog y moch fod wedi bodoli ar y fangre,

(b)tarddiad y feirws hwnnw,

(c)pa fangreoedd eraill sydd wedi'u halogi â'r feirws hwnnw o'r un ffynhonnell,

(ch)a allai symudiad unrhyw berson neu beth fod wedi cludo'r feirws i'r fangre neu ohoni, a

(d)y posibilrwydd y gallai moch sy'n byw yn y gwyllt fod yn ymwneud â lledaenu'r feirws,

a rhaid iddo barhau â'r ymchwiliad hyd nes y bydd y materion hyn wedi'u cadarnhau cyn belled ag y bo'n ymarferol neu fod y posibilrwydd o glefyd wedi'i ddiystyru.

Mesurau ar ôl amheuaeth — mangreoedd heb fod mewn cyffyrddiad

9.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd milfeddygol yn amau bod feirws clefyd pothellog y moch yn bodoli ar unrhyw fangre ond nad yw'r amheuaeth hon yn codi o'r ffaith bod gan y fangre gysylltiad epidemiolegol â mangre heintiedig.

(2Ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno adeg amau bod achos o glefyd pothellog y moch, rhaid i arolygydd milfeddygol gymryd pob cam rhesymol i gadarnhau a yw'r amheuaeth yn gywir ai peidio.

(3Rhaid i'r camau hyn gynnwys cymryd samplau oddi wrth foch ar y fangre (os oes rhai) a threfnu iddynt gael eu profi.

(4Pan na fo moch ar fangre adeg yr hysbysiad, caiff yr arolygydd milfeddygol gymryd samplau o'r moch neu'r carcasau sydd wedi bod ar y fangre, a chaiff gymryd samplau amgylcheddol o'r fangre.

(5Os bydd y profion a gynhelir o dan baragraffau (3) a (4) yn dangos—

(a)bod feirws clefyd pothellog y moch mewn mochyn neu ar y fangre, neu

(b)bod y fangre yn cynnwys moch sy'n seropositif ar gyfer clefyd pothellog y moch, ac yn ogystal â hynny, bod y moch hynny neu foch eraill ar y fangre yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch,

rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad sy'n datgan bod y fangre yn fangre heintiedig.

(6Os bydd y profion a gynhelir o dan baragraff (3) yn dangos bod moch seropositif ar y fangre, ond nad oes unrhyw un o'r moch ar y fangre yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)parhau i fonitro'r fangre a chymryd samplau pellach a phrofi'r samplau hynny, a bod ysbaid o 28 o ddiwrnodau o leiaf rhwng y samplau a gymerwyd pan amheuwyd y tro cyntaf bod achos o glefyd a'r samplau a gymerwyd o dan yr is-baragraff hwn,

(b)datgan bod y fangre yn fangre heintiedig os bydd y prawf ar y samplau pellach yn dangos bod feirws clefyd pothellog y moch yn bodoli mewn mochyn sydd ar y fangre,

(c)sicrhau fel arall bod yr holl foch yr oedd canlyniad y prawf arnynt yn seropositif—

(i)yn cael eu lladd a'u difa o dan oruchwyliaeth arolygydd, neu

(ii)yn cael eu cigydda mewn lladd-dy sydd wedi'i ddynodi at y diben gan Weinidogion Cymru a lle byddant yn cael eu cadw a'u cigydda ar wahân i foch eraill,

a rhaid i Weinidogion Cymru godi'r mesurau yn Atodlen 1 ar ôl i'r holl foch seropositif gael eu lladd neu eu symud ymaith o'r fangre.

(7Os bydd y profion a gynhelir o dan baragraffau (3) a (4) yn dangos nad oes unrhyw feirws clefyd pothellog y moch mewn mochyn nac ar y fangre ac nad oes unrhyw foch seropositif ar y fangre, rhaid i Weinidogion Cymru godi'r mesurau yn Atodlen 1.

Mesurau ar ôl amheuaeth — mangreoedd mewn cyffyrddiad

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd milfeddygol yn amau bod feirws clefyd pothellog y moch yn bodoli ar unrhyw fangre a bod yr amheuaeth hon yn codi o'r ffaith bod gan y fangre gysylltiad epidemiolegol â mangre heintiedig.

(2Os bydd unrhyw fochyn ar y fangre dan amheuaeth yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad sy'n datgan bod y fangre dan amheuaeth yn fangre heintiedig.

(3Os na fydd unrhyw fochyn ar y fangre dan amheuaeth yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch, rhaid i Weinidogion Cymru asesu'r risg bod feirws clefyd pothellog y moch yn bresennol ar y fangre dan amheuaeth, gan gymryd i ystyriaeth raddau'r cyffyrddiad rhwng y fangre dan amheuaeth a'r fangre heintiedig, ac ar sail yr asesiad rhaid iddynt naill ai—

(a)lladd yr holl foch ar y fangre dan amheuaeth heb gadarnhad pellach o fodolaeth y clefyd ar y fangre honno a heb ddatgan bod y fangre'n fangre heintiedig, neu

(b)monitro'r moch ar y fangre dan amheuaeth am o leiaf 28 o ddiwrnodau.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad sy'n datgan bod y fangre dan amheuaeth yn fangre heintiedig os bydd profion yn dangos bod y fangre—

(a)yn cynnwys neu wedi cynnwys mochyn sydd wedi ei heintio â feirws clefyd pothellog y moch, neu

(b)yn cynnwys mochyn sy'n seropositif ar gyfer feirws clefyd pothellog y moch.

(5Os na fydd Gweinidogion Cymru yn datgan bod y fangre dan amheuaeth yn fangre heintiedig, rhaid iddynt asesu pryd y gellir codi'r mesurau yn Atodlen 1.

(6Ar sail yr asesiad rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu pa gamau (gan gynnwys, os bydd angen, glanhau a diheintio ac ailstocio â moch dangos clwy) y mae'n rhaid eu cyflawni cyn y gellir codi'r mesurau yn Atodlen 1, a hysbysu'r meddiannydd o'r rhain (os na chafodd yr holl foch eu lladd ar y fangre, ni chaniateir i'r mesurau yn Atodlen 1 gael eu codi yn ystod y cyfnod monitro o 28 o ddiwrnodau).

(7Rhaid i Weinidogion Cymru ddileu'r mesurau yn Atodlen 1 pan fônt wedi'u bodloni bod y camau yr hysbyswyd y meddiannydd ohonynt wedi'u cyflawni.

Datgan bod mangre wedi ei heintio pan fo'r fangre'n agos at frigiad sydd wedi'i gadarnhau

11.  Os bydd moch ar unrhyw fangre'n amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch a bod mangre heintiedig yn ddigon agos at y fangre i fodloni Gweinidogion Cymru bod y fangre honno hefyd wedi ei heintio, rhaid i arolygydd milfeddygol—

(a)cyflwyno hysbysiad i'r meddiannydd yn datgan bod y fangre honno'n fangre heintiedig ac yn gosod y mesurau yn Atodlen 1, a

(b)sicrhau bod arwyddion rhybudd sy'n gwahardd mynediad yn cael eu codi mewn mannau addas o amgylch y fangre,

heb ddatgan yn gyntaf bod y fangre yn fangre dan amheuaeth.

Amheuaeth ynghylch moch sy'n byw yn y gwyllt

12.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd milfeddygol yn amau bod mochyn sy'n byw yn y gwyllt wedi ei heintio â feirws clefyd pothellog y moch.

(2Rhaid i arolygydd milfeddygol gymryd pob cam rhesymol i gadarnhau a yw'r amheuaeth yn gywir ai peidio.

(3Pan fo'r arolygydd milfeddygol yn dod i'r casgliad bod feirws clefyd pothellog y moch yn debyg o fod yn bresennol mewn mochyn sy'n byw yn y gwyllt, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau priodol i leiafu'r risg y bydd y feirws hwnnw'n ymledu i foch domestig.

Amodau ac arwyddion rhybudd

13.—(1Mae torri unrhyw un o'r mesurau yn Atodlen 1 yn dramgwydd.

(2Bydd y mesurau hynny'n aros yn eu lle hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru'n cyflwyno hysbysiad sy'n eu dileu i feddiannydd y fangre.

(3Pan fo arwydd rhybudd wedi'i godi o dan y Rhan hon, rhaid i feddiannydd y fangre sicrhau ei fod yn cael ei gynnal a'i gadw'n briodol, a bydd methu â gwneud hynny'n dramgwydd.

(4Mae'n dramgwydd symud ymaith arwydd rhybudd a godwyd o dan y Rhan hon ac eithrio o dan awdurdod arolygydd milfeddygol.

(5Dim ond pan fo'r mesurau yn Atodlen 1 wedi'u codi y caiff arolygydd milfeddygol awdurdodi symud ymaith yr arwyddion rhybudd.

PENNOD 3Lladd moch a'r gwaith cychwynnol o lanhau a diheintio

Lladd moch ar y fangre heintiedig

14.  Os datgenir bod mangre yn fangre heintiedig, rhaid i Weinidogion Cymru ladd yr holl foch ar y fangre ar unwaith.

Symud carcasau ymaith a'r gwaith cychwynnol o lanhau a diheintio

15.—(1Pan fo unrhyw foch yn cael eu lladd o dan y Rhan hon, rhaid i Weinidogion Cymru symud ymaith bob carcas o'r fangre heintiedig a'u gwaredu mewn ffordd sy'n osgoi'r risg y bydd feirws clefyd pothellog y moch yn ymledu.

(2Yna rhaid i Weinidogion Cymru chwistrellu'n ddi-oed â diheintydd—

(a)pob rhan o'r fangre (ac eithrio caeau, llynnoedd slyri a rhannau eraill o'r fangre lle na fyddai gan y diheintydd unrhyw effaith) a phob cyfarpar y mae'r moch wedi cael mynd ato, a

(b)unrhyw beth a halogwyd yn ystod y gwaith lladd,

a sicrhau bod y diheintydd yn aros ar yr arwynebau a chwistrellwyd am o leiaf 24 awr.

Mesurau cadwraeth a mesurau cysylltiedig

16.—(1Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu peidio â lladd moch—

(a)a gedwir mewn—

(i)sw neu barc bywyd gwyllt; neu

(ii)mangre a gymeradwywyd at ddibenion masnach ryng-Gymunedol mewn semen moch, ofa moch neu embryonau moch;

(b)a gedwir—

(i)ar gyfer eu harddangos;

(ii)at ddibenion addysgol;

(iii)ar gyfer ymchwil wyddonol neu fridio ar gyfer ymchwil o'r fath; neu

(iv)at ddibenion sy'n ymwneud â chadwraeth rhywogaethau neu adnoddau genetig.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru'n penderfynu peidio â lladd moch o'r fath, caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd y fangre lle maent yn cael eu cadw yn rhoi manylion am y trefniadau bioddiogelwch y mae'n rhaid i'r meddiannydd eu dilyn i leihau'r risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch, a bydd methu â chydymffurfio â hysbysiad o'r fath yn dramgwydd.

PENNOD 4Codi mesurau yn Atodlen 1 oddi ar fangre heintiedig

Codi cyfyngiadau oddi ar fangre heintiedig

17.—(1Oni ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, y sefyllfa wrth gefn yw na chaiff arolygydd milfeddygol godi'r mesurau yn Atodlen 1 sydd ar fangre heintiedig hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod digon o amser wedi mynd heibio i'r feirws fod wedi dirywio'n naturiol i'r graddau na fyddai'n heintio moch mwyach.

(2Ond caiff arolygydd milfeddygol godi'r mesurau yn Atodlen 1 cyn yr amser hwnnw yn y rhannau o'r fangre y mae modd eu glanhau a'u diheintio—

(a)os yw'r meddiannydd wedi glanhau a diheintio'r rhannau hynny o'r fangre er boddhad yr arolygydd milfeddygol, a

(b)os yw'r fangre wedi'i phrofi am fodolaeth feirws clefyd pothellog y moch gan ddefnyddio moch dangos clwy a bod y canlyniadau'n negyddol.

Glanhau a diheintio — cyffredinol

18.—(1Rhaid i'r diheintyddion a ddefnyddir, a phan fo'n briodol, eu crynodiadau, gael eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru a'u defnyddio'n unol â chyfarwyddiadau'r gweithgynhyrchydd (os oes rhai).

(2Rhaid i'r gwaith glanhau a diheintio gael ei wneud yn y fath fodd ag i leiafu'r risg o ledaenu feirws clefyd pothellog y moch neu'r risg y byddai'r feirws hwnnw'n goroesi.

Dull glanhau a diheintio

19.—(1Rhaid i'r gwaith glanhau a diheintio gael ei wneud gan y meddiannydd yn unol â chyfarwyddiadau ysgrifenedig gan arolygydd milfeddygol.

(2Os bydd yn angenrheidiol, rhaid i'r cyfarwyddiadau gynnwys gofynion ar gyfer—

(a)trin tail, sarn a bwyd yn y fath fodd ag i lonyddu'r feirws;

(b)tynnu saim ac unrhyw fryntni arall oddi ar bob arwyneb drwy ei drochi ag asiant diseimio ac wedi hynny gan olchi'r arwynebau â dwr;

(c)chwistrellu pob arwyneb â diheintydd (neu eu trin â gwn tân) a'i wneud eto ar ôl 14 o ddiwrnodau; ac

(ch)cywiro lloriau a waliau sydd wedi'u difrodi.

Profi â moch dangos clwy

20.—(1Ar ôl glanhau a diheintio'n unol â chyfarwyddiadau'r arolygydd milfeddygol, rhaid i arolygydd milfeddygol ardystio mewn ysgrifen fod y glanhau a'r diheintio wedi'i gyflawni'n foddhaol.

(2Rhaid i'r fangre gael ei phrofi wedyn ar gyfer feirws clefyd pothellog y moch gan ddefnyddio moch dangos clwy.

(3Rhaid i nifer y moch dangos clwy gael ei gyfyngu i'r lleiafswm sy'n angenrheidiol ar gyfer y prawf.

(4Ni chaniateir i foch dangos clwy gael eu cyflwyno tan o leiaf 28 o ddiwrnodau ar ôl i'r dystysgrif gael ei dyroddi, a rhaid eu cyflwyno'n unol â thrwydded gan arolygydd milfeddygol.

(5Rhaid i'r moch fod wedi'u profi ar draul y meddiannydd cyn dod â hwy i'r fangre a bod canlyniadau'r profion arnynt am bresenoldeb gwrthgyrff rhag feirws clefyd pothellog y moch yn negyddol.

(6Rhaid i'r arolygydd milfeddygol sicrhau bod nifer digonol o'r moch yn cael eu dodi ledled y fangre fel y byddai'n rhesymol disgwyl i unrhyw feirws gweddilliol effeithio ar un neu fwy o'r moch.

(7Rhaid i'r moch gael eu harchwilio 28 o ddiwrnodau ar ôl iddynt gael eu dodi ar y fangre, a rhaid i samplau gael eu cymryd oddi wrthynt gan arolygydd milfeddygol i weld a oes gwrthgyrff rhag feirws clefyd pothellog y moch yn bresennol.

(8Os nad oes unrhyw un o'r moch yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch neu os nad oes unrhyw un ohonynt wedi magu gwrthgyrff rhag feirws clefyd pothellog y moch, rhaid i'r arolygydd milfeddygol godi'r cyfyngiadau oddi ar y rhannau hynny o'r fangre.

(9Fel dewis arall yn lle cyflwyno'r nifer lleiaf o foch dangos clwy, caiff arolygydd milfeddygol drwyddedu'r weithred o gyflwyno nifer digyfyngiad o foch dangos clwy, ond yn yr achos hwnnw—

(a)bydd paragraffau (4), (5) a (6) yn gymwys o ran cyflwyno'r moch dangos clwy;

(b)rhaid i'r holl foch gyrraedd o fewn cyfnod o wyth niwrnod;

(c)rhaid iddynt ddod o fangre sydd wedi'i lleoli y tu allan i barth gwarchod neu barth gwyliadwriaeth;

(ch)rhaid i arolygydd milfeddygol gynnal archwiliad clinigol o'r holl foch, a chymryd samplau oddi wrth nifer ystadegol ddilys o foch a chynnal prawf arnynt i weld a oes gwrthgyrff rhag feirws clefyd pothellog y moch yn bresennol, 28 o ddiwrnodau yn y fan gyntaf ar ôl i'r mochyn olaf gyrraedd; a

(d)hyd yn oed os na fydd unrhyw un o'r moch yn amlygu arwyddion clinigol o glefyd pothellog y moch, ni chaiff arolygydd milfeddygol godi'r cyfyngiadau tan 60 o ddiwrnodau ar ôl i'r mochyn olaf gyrraedd.

Glanhau a diheintio gorfodol

21.—(1Ni waeth a fwriedir dod â moch i'r fangre eto, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad i feddiannydd yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud y gwaith o lanhau a diheintio'r fangre a bennir yn yr hysbysiad, a bydd methu â chydymffurfio â'r hysbysiad yn dramgwydd.

(2Rhaid i'r hysbysiad bennu cyfnod rhesymol y bydd yn rhaid cyflawni'r glanhau a'r diheintio ynddo.

(3Os na chydymffurfir â'r hysbysiad, caiff Gweinidogion Cymru drefnu, p'un ai drwy eu swyddogion neu bersonau eraill, bod y meddiannydd yn cydymffurfio ag ef, a hynny ar ei draul ei hun.