RHAN 5Dulliau rheoli ardal
Datganiadau pan fo clefyd pothellog y moch yn cael ei ddatgan yn yr Alban neu Loegr26
1
Pan fo mangre heintiedig (neu'r hyn sy'n cyfateb iddi yn neddfwriaeth yr Alban neu Loegr) yn cael ei datgan yn yr Alban neu Loegr mewn perthynas â chlefyd pothellog y moch, rhaid i Weinidogion Cymru ddatgan ar unwaith—
a
parth gwarchod i gwmpasu o leiaf unrhyw ardal yng Nghymru sydd o fewn tri chilometr i'r rhan o'r fangre heintiedig sy'n fwyaf priodol at ddibenion rheoli'r clefyd, a
b
parth gwyliadwriaeth i gwmpasu o leiaf unrhyw ardal yng Nghymru sydd o fewn deg cilometr i'r rhan honno o'r fangre heintiedig.
2
Mewn unrhyw achos arall caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth gwarchod a pharth gwyliadwriaeth pan fônt wedi'u bodloni bod feirws clefyd pothellog y moch yn bodoli ar unrhyw fangre yn yr Alban neu Loegr.
3
Yn ychwanegol, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan parth cyfyngu ar symud.