- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
2.—(1) Mwyafswm nifer cyfarwyddwyr yr Ymddiriedolaeth fydd 11 heb gynnwys y cadeirydd.
(2) Ni chaniateir i'r Ymddiriedolaeth gael mwy na 6 chyfarwyddwyr anweithredol (heb gynnwys y cadeirydd), a dim mwy na 5 cyfarwyddwyr gweithredol.
3.—(1) Bydd cyfarwyddwyr anweithredol yr Ymddiriedolaeth yn cael eu penodi gan Weinidogion Cymru yn unol â darpariaethau Atodlen 1.
(2) Bydd y cyfarwyddwyr gweithredol yn cael eu penodi gan y pwyllgor perthnasol.
4. Cyfarwyddwyr gweithredol yr Ymddiriedolaeth fydd—
(a)y prif swyddog;
(b)y prif swyddog cyllid;
(c)tri chyfarwyddwr arall a benodir gan yr Ymddiriedolaeth.
5.—(1) Bydd cyfarwyddwyr anweithredol yr Ymddiriedolaeth yn cynnwys—
(a)person a enwebir gan prifysgol yng Nghymru a chanddi arbenigedd addysgu neu ymchwilio ym maes iechyd cyhoeddus;
(b)person a enwebir gan awdurdod lleol neu awdurdodau lleol yng Nghymru;
(c)person sy'n un o gyflogeion neu'n un o aelodau corff sector gwirfoddol yng Nghymru;
(ch)person sy'n swyddog undeb llafur neu gorff arall sy'n cynrychioli cyflogeion ac sy'n cynrychioli staff yr Ymddiriedolaeth.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu ar yr awdurdod lleol neu'r awdurdodau lleol sy'n enwebu at ddibenion rheoliad 5(1)(b).
6.—(1) Mae person nad yw'n un o gyflogeion yr Ymddiriedolaeth—
(a)ond sy'n ddeiliad swydd mewn prifysgol a chanddi ysgol feddygol neu ddeintyddol, ac sydd hefyd yn gweithio i'r Ymddiriedolaeth; neu
(b)ond sydd ar secondiad gan ei gyflogwyr er mwyn iddo weithio i'r Ymddiriedolaeth;
er gwaethaf hynny, i'w ystyried, ar ei benodiad yn gyfarwyddwr, yn gyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth a benodwyd o dan reoliad 4(c) yn hytrach nag yn gyfarwyddwr anweithredol i'r Ymddiriedolaeth.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i'r cyfarwyddwr anweithredol y cyfeirir ato ym mharagraff (a) o reoliad 5(1).
7. Os caiff mwy nag un person eu penodi ar y cyd i swydd yn yr Ymddiriedolaeth sy'n gwneud y deiliad yn gymwys i fod yn gyfarwyddwr gweithredol neu y mae cyfarwyddwr gweithredol i'w benodi mewn perthynas â hi, bydd y personau hynny'n dod neu'n cael eu penodi yn gyfarwyddwr gweithredol ar y cyd, ac fe'u cyfrifir fel un person at ddibenion rheoliad 2.
8.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 10, penodir cadeirydd yr Ymddiriedolaeth a chyfarwyddwyr anweithredol iddi am y cyfryw gyfnod, nad yw'n fwy na phedair blynedd, ag y byddo Gweinidogion Cymru'n ei bennu wrth iddynt wneud y penodiad.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 9, bydd deiliadaeth swydd cyfarwyddwyr gweithredol, ac eithrio'r prif swyddog a'r prif swyddog cyllid, yn para am y cyfryw gyfnod ag y byddo'r pwyllgor perthnasol yn ei bennu wrth iddo wneud y penodiad.
9.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 8(2), bydd cyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth yn ddeiliad swydd—
(a)os nad y cyfarwyddwr hwnnw yw'r prif swyddog neu'r prif swyddog cyllid, cyhyd ag y bydd yn ddeiliad swydd yn yr Ymddiriedolaeth;
(b)os y prif swyddog neu'r prif swyddog cyllid yw'r cyfarwyddwr hwnnw, cyhyd ag y bydd yn ddeiliad y swydd honno yn yr Ymddiriedolaeth.
(2) Os bydd y pwyllgor perthnasol o'r farn nad yw'n llesol i fuddiannau'r Ymddiriedolaeth fod cyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth ac eithrio'r prif swyddog neu'r prif swyddog cyllid yn parhau i fod yn ddeiliad swydd cyfarwyddwr bydd y pwyllgor perthnasol yn terfynu ei ddeiliadaeth swydd ar unwaith.
(3) Os bydd cyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth yn cael ei atal o'i swydd yn yr Ymddiriedolaeth bydd y cyfarwyddwr hwnnw'n cael ei atal rhag cyflawni ei swyddogaethau cyfarwyddwr am y cyfnod y bydd wedi ei atal.
(4) Caiff cyfarwyddwr gweithredol ac eithrio prif swyddog neu brif swyddog cyllid yr Ymddiriedolaeth ymddiswyddo o'i swydd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y cafodd ei benodi i'w weithio drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r pwyllgor perthnasol.
10.—(1) Caiff cadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu gyfarwyddwr anweithredol iddi ymddiswyddo ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y penodwyd ef i'w weithio drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(2) Os bydd cyfarwyddwr anweithredol i'r Ymddiriedolaeth, yn ystod y cyfnod y bydd yn gyfarwyddwr, yn cael ei benodi'n gadeirydd yr Ymddiriedolaeth, bydd ei ddeiliadaeth o swydd cyfarwyddwr anweithredol yn dod i ben pan fydd ei benodiad i swydd cadeirydd yn dod yn effeithiol.
(3) Os bydd Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'n llesol i fuddiannau'r gwasanaeth iechyd i berson a gafodd ei benodi'n gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi barhau i fod yn ddeiliad y swydd honno, caiff Gweinidogion Cymru derfynu deiliadaeth swydd y person hwnnw ar unwaith.
(4) Os nad yw cadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu gyfarwyddwr anweithredol iddi wedi mynychu cyfarfod o'r Ymddiriedolaeth am gyfnod o chwe mis bydd Gweinidogion Cymru'n terfynu ei ddeiliadaeth swydd ar unwaith onid yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b)y bydd y cadeirydd neu'r cyfarwyddwr anweithredol yn gallu mynychu cyfarfodydd o'r Ymddiriedolaeth o fewn y cyfryw gyfnod ag y mae Gweinidogion Cymru yn ei ystyried yn rhesymol.
(5) Os cafodd person ei benodi'n gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi—
(a)os datgymhwysir y person hwnnw rhag cael ei benodi o dan reoliad 15 bydd Gweinidogion Cymru'n ysgrifennu ato ar unwaith i'w hysbysu ei fod wedi ei ddatgymhwyso; neu
(b)os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod y person wedi'i ddatgymhwyso felly pan gafodd ei benodi, byddant yn datgan ar eu hunion na chafodd y person ei benodi'n briodol ac yn ysgrifennu at y person hwnnw i'w hysbysu o hynny,
a, phan ddaw'r hysbysiad hwnnw i law, bydd deiliadaeth swydd y person hwnnw, os oes un, yn cael ei therfynu a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel cadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol.
(6) Rhaid i berson a benodir yn gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi hysbysu'r Ymddiriedolaeth ar unwaith os datgymhwysir y person hwnnw rhag cael ei benodi o dan reoliad 15.
(7) Os ymddengys i Weinidogion Cymru fod cadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu gyfarwyddwr anweithredol iddi wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 24 (datgelu etc o ran buddiant ariannol) cânt derfynu deiliadaeth swydd y person hwnnw ar unwaith.
(8) Os bydd unrhyw un o'r cyfarwyddwyr anweithredol y cyfeirir yn y drefn isod atynt—
(a)ym mharagraff (c) o reoliad 5(1) yn peidio â bod yn un o aelodau neu o gyflogeion corff gwirfoddol yng Nghymru;
(b)ym mharagraff (ch) o reoliad 5(1) yn peidio â bod yn swyddog i'r undeb llafur neu'r corff sy'n cynrychioli cyflogeion
bydd Gweinidogion Cymru'n terfynu ei benodiad yn gyfarwyddwr anweithredol.
11.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru atal penodai rhag cyflawni swyddogaethau'r penodai fel cadeirydd neu gyfarwyddwr tra bydd Gweinidogion Cymru'n ystyried—
(a)p'un ai i symud y person o'r swydd o dan reoliad 10(3) neu (7); neu
(b)p'un a yw'r person wedi ei ddatgymhwyso rhag cael ei benodi o dan reoliad 15, neu p'un a oedd wedi ei ddatgymhwyso felly ar yr adeg y'i penodwyd.
(2) Bydd Gweinidogion Cymru'n hysbysu person a gafodd ei atal o dan baragraff (1) o'r penderfyniad i'w atal, a bydd y penderfyniad yn dod yn effeithiol pan ddaw'r cyfryw hysbysiad i law.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), ni fydd cyfnod atal o swydd o dan baragraff (1) yn fwy na chwe mis.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru adolygu ataliad ar unrhyw adeg a byddant yn adolygu ataliad ar ôl tri mis os gofynnir iddynt wneud hynny gan y sawl a gafodd ei atal.
(5) Pan fyddant yn adolygu ataliad, caiff Gweinidogion Cymru—
(a)dirymu'r ataliad, ac yn y cyfryw achos bydd yr ataliad yn peidio â bod yn effeithiol; neu
(b)atal y penodai rhag cyflawni swyddogaethau'r penodai fel cadeirydd neu gyfarwyddwr am gyfnod o ddim mwy na chwe mis o'r dyddiad y daw'r cyfnod atal presennol i ben.
12.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan gaiff penodai ei atal o dan reoliad 11.
(2) Os yw'r rheoliad hwn yn gymwys —
(a)ystyr cyfeiriadau ym mharagraffau 2(2) a 3(5) o Atodlen 2 at nifer cyfan y cyfarwyddwyr yw nifer cyfan y cyfarwyddwyr heb gynnwys unrhyw gyfarwyddwyr sydd wedi eu hatal o dan reoliad 11;
(b)ystyr cyfeiriadau ym mharagraff 2(3) o Atodlen 2 at gyfarwyddwr yw cyfeiriadau at gyfarwyddwr ac eithrio cyfarwyddwr sydd wedi ei atal o dan reoliad 11.
13.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cadeirydd yr Ymddiriedolaeth yn cael ei atal o dan reoliad 11.
(2) Os bydd is-gadeirydd wedi ei benodi o dan reoliad 18 (penodi is-gadeirydd), bydd y penodiad hwnnw'n peidio â bod yn effeithiol o'r adeg y caiff y cadeirydd ei atal.
(3) At ddiben galluogi trafodion yr Ymddiriedolaeth i gael eu cynnal yn absenoldeb y cadeirydd, caiff Gweinidogion Cymru benodi cyfarwyddwr anweithredol i'r Ymddiriedolaeth i fod yn is-gadeirydd.
(4) Rhaid i benodiad is-gadeirydd o dan baragraff (3) fod am y cyfryw gyfnod, nad yw'n fwy na'r byrraf o'r canlynol—
(a)cyfnod atal y cadeirydd; a
(b)gweddill tymor y cyfarwyddwr anweithredol yn gyfarwyddwr i'r Ymddiriedolaeth,
ag y byddo Gweinidogion Cymru'n ei bennu wrth wneud y penodiad.
(5) Pan fo'r cyfnod y mae person wedi ei benodi i'w weithio yn swydd is-gadeirydd yn dod i ben, caiff Gweinidogion Cymru ailbenodi'r person, neu benodi cyfarwyddwr anweithredol arall, yn is-gadeirydd yn unol â pharagraff (3).
(6) Caiff unrhyw berson a benodwyd o dan baragraff (3) ymddiswyddo o swydd is-gadeirydd ar unrhyw adeg drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu penodiad person i swydd is-gadeirydd o dan baragraff (3) os yw Gweinidogion Cymru o'r farn y byddai'n llesol i fuddiannau'r Ymddiriedolaeth fod cyfarwyddwr anweithredol arall i'r Ymddiriedolaeth yn cael ei wneud yn is-gadeirydd.
(8) Os—
(a)bydd person yn ymddiswyddo o swydd is-gadeirydd o dan baragraff (6); neu
(b)bydd Gweinidogion Cymru'n terfynu penodiad person i swydd is-gadeirydd o dan baragraff (7),
caiff Gweinidogion Cymru benodi cyfarwyddwr anweithredol arall yn is-gadeirydd yn unol â pharagraff (3).
14.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 3 a rheoliad 16 bydd cadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu gyfarwyddwr anweithredol iddi yn gymwys i'w ailbenodi ar ddiwedd cyfnod ei ddeiliadaeth swydd.
(2) Bydd cyfarwyddwr gweithredol i'r Ymddiriedolaeth a benodwyd o dan reoliad 4(3) ac y mae rheoliad 6 yn gymwys iddo yn gymwys i'w ailbenodi ar ddiwedd cyfnod ei ddeiliadaeth swydd.
(3) Ni chaiff person ddal swydd cyfarwyddwr anweithredol am gyfanswm cyfnod o fwy nag wyth mlynedd.
15.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 16 datgymhwysir person rhag cael ei benodi'n gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi—
(a)os yw'r person hwnnw o fewn y pum mlynedd flaenorol wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd a bod dedfryd o garchar (p'un ai wedi ei gohirio ai peidio) wedi ei phasio arno am gyfnod o ddim llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy; neu
(b)os yw'r person hwnnw'n ddarostyngedig i orchymyn cyfyngiadau methdalu neu orchymyn cyfyngiadau methdalu dros dro neu os bydd wedi gwneud compownd neu drefniant gyda chredydwyr; neu
(c)os cafodd y person hwnnw ei ddiswyddo, ac eithrio oherwydd colli swyddi, o unrhyw gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd; neu
(ch)os yw'r person hwnnw'n berson y mae ei ddeiliadaeth swydd fel cadeirydd corff gwasanaeth iechyd, neu fel aelod ohono, neu fel cyfarwyddwr neu lywodraethwr iddo wedi ei therfynu oherwydd nad yw ei benodiad yn llesol i fuddiannau'r gwasanaeth Iechyd neu'r corff gwasanaeth iechyd dan sylw, am beidio â mynychu cyfarfodydd neu am beidio â datgelu buddiant ariannol; neu
(d)os yw'r person hwnnw'n gadeirydd corff gwasanaeth iechyd ac eithrio ymddiriedolaeth sefydledig GIG, neu'n aelod ohono, neu'n gyfarwyddwr neu gyflogai iddo; neu
(dd)os yw'r person hwnnw'n gadeirydd ymddiriedolaeth sefydledig GIG neu'n gyfarwyddwr neu gyflogai iddi; neu
(e)os y person hwnnw yw cadeirydd Rheolydd Annibynnol Ymddiriedolaethau Sefydledig GIG neu os yw'n aelod arall ohono.
(2) At ddibenion paragraff (1)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu yw'r dyddiad y mae'r cyfnod arferol a ganiateir ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais neu'r dyddiad y rhoddir y gorau iddi neu iddo, neu'r dyddiad y metha'r apêl neu'r cais oherwydd na chaiff ei herlyn neu ei erlyn.
(3) At ddibenion paragraff (1)(c), ni chaiff person ei drin fel pe bai wedi bod mewn cyflogaeth am dâl dim ond oherwydd ei fod yn gadeirydd, yn aelod neu'n gyfarwyddwr neu, yn achos ymddiriedolaeth sefydledig GIG, oherwydd ei fod yn gadeirydd y corff gwasanaeth iechyd dan sylw, neu'n llywodraethwr neu gyfarwyddwr anweithredol iddo.
(4) Ni fydd person yn cael ei ddatgymhwyso gan baragraff (1)(d) rhag bod yn gadeirydd yr Ymddiriedolaeth neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi yn ystod y cyfnod rhwng y dyddiad sefydlu a'r dyddiad gweithredol yn rhinwedd bod yn gadeirydd ymddiriedolaeth GIG arall neu'n gyfarwyddwr anweithredol iddi.
16.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw person yn cael ei ddatgymhwyso o dan reoliad 15(1)(c) (cyflogeion a ddiswyddir) caiff y person hwnnw, ar ôl i gyfnod nad yw'n llai na dwy flynedd ddod i ben, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu'r datgymhwysiad a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo y bydd y datgymhwysiad yn dod i ben.
(2) Os bydd Gweinidogion Cymru'n gwrthod cais i ddileu datgymhwysiad ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach hyd oni fydd cyfnod o ddwy flynedd ar ôl ddyddiad y cais wedi dod i ben.
(3) Os caiff person ei ddatgymhwyso o dan reoliad 15(1)(ch) (cadeiryddion a chyfarwyddwyr penodol y mae eu penodiadau wedi eu terfynu), bydd y datgymhwysiad yn dod i ben ar ddiwedd cyfnod o ddwy flynedd neu'r cyfryw gyfnod hwy ag y bydd Gweinidogion Cymru'n ei bennu pan fyddant yn terfynu ei gyfnod yn y swydd, ond caiff Gweinidogion Cymru, o fod cais yn cael ei wneud iddynt gan y person hwnnw, gwtogi'r cyfnod o ddatgymhwysiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: