Rheoliadau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Aelodaeth a Gweithdrefn) 2009

Anallu cyfarwyddwyr i gyfrannu at drafodion oherwydd buddiant ariannol

24.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, os oes gan gyfarwyddwr i'r Ymddiriedolaeth unrhyw fuddiant ariannol, boed uniongyrchol neu anuniongyrchol, mewn unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall a'i fod yn bresennol yn un o gyfarfodydd yr Ymddiriedolaeth pan roddir ystyriaeth i'r contract neu fater arall, rhaid i'r cyfarwyddwr hwnnw ddatgelu'r ffaith yn y cyfarfod ac mor fuan â phosibl ar ôl i'r cyfarfod ddechrau, a rhaid iddo beidio â chymryd rhan yn yr ystyriaeth a roddir i'r contract neu'r mater arall a'r drafodaeth arno, neu bleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad ag ef.

(2Caiff Gweinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y byddo Gweinidogion Cymru'n gweld yn dda eu gosod, ddileu unrhyw anallu a osodir gan y rheoliad hwn, mewn unrhyw achos lle y mae'n ymddangos iddynt hwy y byddai er budd y gwasanaeth iechyd i'r anallu gael ei ddileu.

(3Caiff yr Ymddiriedolaeth, drwy gyfrwng rheolau sefydlog a wnaed o dan reoliad 23, ddarparu ar gyfer gwahardd cyfarwyddwr rhag bod yn bresennol mewn cyfarfod o'r ymddiriedolaeth tra bydd unrhyw gontract, contract arfaethedig, neu fater arall y mae gan y cyfarwyddwr fuddiant ariannol ynddo, boed uniongyrchol neu anuniongyrchol, yn cael ei ystyried.

(4Ni chaniateir trin unrhyw gydnabyddiaeth, iawndal nei lwfansau sy'n daladwy i gyfarwyddwr yn rhinwedd paragraff 11 o Atodlen 3 i'r Ddeddf fel buddiant ariannol at ddiben y rheoliad hwn.

(5Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (6), rhaid i gyfarwyddwr gael ei drin at ddibenion y rheoliad hwn fel pe bai ganddo'n anuniongyrchol fuddiant ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall—

(a)os bod y cyfarwyddwr hwnnw, neu'r sawl a enwebir ganddo, yn gyfarwyddwr cwmni neu gorff arall, nad yw'n gorff cyhoeddus, y gwnaed y contract gydag ef neu yr arfaethir gwneud contract gydag ef neu y mae ganddo fuddiant ariannol yn y mater arall sy'n cael ei ystyried; neu

(b)os bod y cyfarwyddwr hwnnw'n bartner i, neu'n cael ei gyflogi gan, berson y gwnaed y contract gydag ef neu yr arfaethir gwneud y contract gydag ef, neu y mae ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol yn y mater arall sy'n cael ei ystyried ac os bernir, yn achos personau priod neu bartneriaid sifil, fod buddiant un o'r pâr priod neu un o'r ddau bartner sifil at ddiben y rheoliad hwn hefyd yn fuddiant i'r llall.

(6Ni fydd cyfarwyddwr yn cael ei drin fel pe bai ganddo fuddiant ariannol mewn unrhyw gontract, contract arfaethedig neu fater arall dim ond —

(a)oherwydd bod y cyfarwyddwr hwnnw'n aelod o gwmni neu gorff arall os nad oes ganddo fuddiant llesiannol mewn unrhyw warannau sy'n perthyn i'r cwmni hwnnw neu i gorff arall;

(b)o achos buddiant mewn unrhyw gwmni, corff neu berson y mae'n gysylltiedig ag ef fel a grybwyllir ym mharagraff (5) sydd mor bell neu ddi-nod fel na ellir yn rhesymol ystyried ei fod yn debygol o ddylanwadu ar gyfarwyddwr wrth iddo ystyried neu drafod unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad â'r contract neu'r mater hwnnw neu wrth iddo bleidleisio arno.

(7Os digwydd y canlynol—

(a)bod gan gyfarwyddwr fuddiant ariannol anuniongyrchol mewn contract neu fater arall dim ond oherwydd bod ganddo fuddiant llesiannol yng ngwarannau cwmni neu gorff arall; a

(b)nad yw cyfanswm gwerth enwol y gwarannau hynny'n fwy na £5,000 neu ganfed ran o gyfanswm gwerth enwol cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd gan y cwmni neu'r corff, pa un bynnag yw'r lleiaf; ac

(c)bod y cyfalaf cyfranddaliadau yn perthyn i fwy nag un dosbarth, a bod cyfanswm gwerth enwol cyfranddaliadau unrhyw un dosbarth y mae ganddo fuddiant llesiannol ynddo heb fod yn fwy na chanfed ran o gyfanswm cyfalaf cyfranddaliadau a ddyroddwyd yn y dosbarth hwnnw,

ni fydd y rheoliad hwn yn gwahardd y cyfarwyddwr hwnnw rhag cymryd rhan mewn ystyriaeth o'r contract neu fater arall neu drafodaeth arno neu rhag pleidleisio ar unrhyw gwestiwn mewn cysylltiad ag ef heb ragfarnu fodd bynnag ei ddyletswydd i ddatgelu ei fuddiant.

(8Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i bwyllgor neu is-bwyllgor i'r Ymddiriedolaeth fel y mae'n gymwys i'r Ymddiriedolaeth ac mae'n gymwys i unrhyw aelod o unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath (p'un a yw'r person hwnnw hefyd yn gyfarwyddwr i'r ymddiriedolaeth ai peidio) fel y mae'n gymwys i gyfarwyddwr i'r Ymddiriedolaeth.