- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PRIFFYRDD, CYMRU
Gwnaed
17 Mehefin 2009
Yn dod i rym
25 Mehefin 2009
1. Bydd y priffyrdd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu eu hadeiladu ar hyd y llwybrau a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn dod yn gefnffyrdd ar y dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.
2. Dangosir llinellau canol y cefnffyrdd newydd â llinellau duon trymion a dangosir y cynigion cysylltiedig ar gyfer ffyrdd ymyl â llinellau gwynion wedi'u torri ar y plan a adneuwyd.
3. Bydd y darnau o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn, ac a ddangosir â llinellau rhesog llydan ar y plan a adneuwyd, yn peidio â bod yn gefnffordd ac yn dod yn ffyrdd dosbarthiadol ar y dyddiad pan fydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Gwynedd fod y cefnffyrdd newydd ar agor ar gyfer traffig trwodd.
4. Mae Gweinidogion Cymru wedi'u hawdurdodi i godi'r bont a bennir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn fel rhan o'r brif gefnffordd newydd.
5. Yn y Gorchymyn hwn:—
(1) Caiff pob mesur o bellter ei fesur ar hyd llwybry briffordd berthnasol;
i.ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan sy'n dwyn y Rhif HA 10/2 WAG 1 ac sydd wedi'i farcio “Gorchymyn Cefnffordd Abergwaun i Fangor (yr A487) (Ffordd Osgoi Porthmadog, Minffordd a Thremadog a Thynnu Statws Cefnffordd) 2009” , wedi'i lofnodi ar ran Gweinidogion Cymru ac wedi'i adneuo yn yr Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU), Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd;
ii.ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Abergwaun i Fangor (yr A487);
iii.ystyr “y cefnffyrdd newydd” (“the new trunk roads”) yw'r cefnffyrdd a grybwyllir yn erthygl 1 y Gorchymyn hwn ac ystyr “cefnffordd newydd” yw un o'r priffyrdd hynny;
6. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 25 Mehefin 2009 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Abergwaun i Fangor (yr A487) (Ffordd Osgoi Porthmadog, Minffordd a Thremadog a Thynnu Statws Cefnffordd) 2009’
Llofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru
Jeff Collins
17 Mehefin 2009
J COLLINS
Dirprwy, Gyfarwyddwr Cynllunio a Llywodraethu Trafnidiaeth
Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dyma lwybrau'r cefnffyrdd newydd i'r de o Dremadog ac i'r gogledd o Borthmadog a Minffordd yn Sir Gwynedd:—
(1) llwybr oddeutu 1.05 o gilometrau o hyd, yn cychwyn wrth bwynt oddeutu 85 o fetrau i'r gogledd-orllewin o'i gyffordd â phrif ffordd yr A498 i Gricieth yn Nhremadog (wedi'i farcio ag A ar y plan a adneuwyd) ac sy'n cynnwys cylchfan newydd 40 o fetrau i'r de o'i gyffordd â phrif ffordd yr A498 i Gricieth ac yna'n ymestyn tua'r dwyrain at bwynt oddeutu 190 o fetrau i'r gogledd-orllewin o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A487 a'r ffordd ddiddosbarth o'r enw Ffordd Glanrafon ym Mhorthmadog (wedi'i farcio â B ar y plan a adneuwyd).
(2) llwybr oddeutu 3.76 o gilometrau o hyd, yn cychwyn wrth y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A487 a'r ffordd ddiddosbarth o'r enw Ffordd Glanrafon ym Mhorthmadog (sydd wedi'i farcio ag C ar y plan a adneuwyd), ac sy'n cynnwys cylchfan newydd 50 o fetrau i'r de-ddwyrain o'r gyffordd honno, ac yna'n ymestyn tua'r dwyrain i gylchfan newydd arall wrth y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A487 â ffordd fynediad Parc Busnes Eryri ym Minffordd (sydd wedi'i farcio â D ar y plan a adneuwyd).
Dyma lwybrau'r darnau o gefnffordd sy'n peidio â bod yn gefnffordd yn Sir Gwynedd:—
(1) y darn hwnnw o gefnffordd yr A487 oddeutu 850 o fetrau o hyd rhwng pwynt oddeutu 450 o fetrau i'r de-orllewin o ganol cyffordd Stryd Dulyn a Stryd yr Eglwys yn Nhremadog a phwynt oddeutu 400 o fetrau i'r de-ddwyrain o gyffordd Stryd Dulyn a Stryd yr Eglwys yn Nhremadog ac sy'n cynnwys Y Sgwâr yn Nhremadog (wedi'i farcio ag 1ar y plan a adneuwyd).
(2) y darn hwnnw o gefnffordd yr A487, oddeutu 4,675 o fetrau o hyd rhwng pwynt oddeutu 65 o fetrau i'r de o ganol cyffordd y Stryd Fawr (yr A487) a'r ffordd ddiddosbarth o'r enw Ffordd Glanrafon ym Modawen, a phwynt oddeutu 30 o fetrau i'r de-orllewin o ganol y gyffordd rhwng cefnffordd bresennol yr A487 a Pharc Busnes Eryri ym Minffordd ac sy'n cynnwys y Stryd Fawr a Phont Britannia ym Mhorthmadog a'r Cob (sydd wedi'i farcio â 2 ar y plan a adneuwyd).
Pont newydd dros y cwrs dŵr mordwyol o'r enw Afon Glaslyn Sir o Gwynedd o bwynt ar y lan orllewinol oddeutu 45 o fetrau i'r gogledd o arglawdd gorllewinol Pont bresennol Rheilffordd Arfordir Cymru at bwynt ar y lan ddwyreiniol oddeutu 50 o fetrau i'r gogledd-ddwyrain o arglawdd dwyreiniol y bont honno.
Yn rhinwedd O.S . 1999/672 erthygl 2 ac Atodlen 1, a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r pwerau hyn bellach wedi'u trosglwyddo i Weinidogion Cymru o ran Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: