- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
3. Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Comisiwn.
4.—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n gwerthu ceffyl roi dogfen adnabod y ceffyl i'r prynwr ar adeg y gwerthu.
(2) Rhaid i'r prynwr, o fewn 30 diwrnod ar ôl prynu, ddychwelyd y ddogfen adnabod ar gyfer y ceffyl hwnnw at y corff dyroddi, gan hysbysu'r corff hwnnw o enw a chyfeiriad y prynwr.
(3) Yn y rheoliad hwn mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys unrhyw drosglwyddiad perchnogaeth.
(4) Mae peidio â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.
5.—(1) Rhaid i berchennog ceffyl neu, os yw'n wahanol, y ceidwad sy'n bennaf cyfrifol am y ceffyl, gydymffurfio ag Erthygl 3(1).
(2) Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff (1) yn dramgwydd.
(3) Yn unol ag Erthygl 5(5)—
(a)perchennog yn unig a gaiff wneud cais am ddogfen adnabod, a
(b)rhaid i'r perchennog wneud cais am ddogfen adnabod o fewn y terfynau amser a bennir yn Erthygl 5, ac y mae peidio â gwneud felly yn dramgwydd.
(4) Os ceir cais am ddogfen adnabod y tu allan i'r terfynau amser, rhaid i'r corff dyroddi stampio'r ddogfen adnabod i'r perwyl na fwriedir y ceffyl i'w gigydda ar gyfer ei fwyta gan bobl.
6. Mae unrhyw berson sy'n gwneud cais am ddogfen adnabod yn ddogfen ddyblyg neu'n ddogfen amnewid yn groes i Erthygl 5(8) yn euog o dramgwydd.
7. Os yw perchennog ceffyl—
(a)yn peidio â chydymffurfio ag Erthygl 8(1) (adnabod equidae a fewnforir), neu
(b)yn peidio â gofyn, o fewn 30 diwrnod, i gorff dyroddi weithredu yn unol ag Erthygl 8(2) (darparu gwybodaeth ychwanegol),
mae'n euog o dramgwydd.
8. Rhaid i filfeddyg sy'n mewnblannu trawsatebydd mewn ceffyl gyflawni'r gweithdrefnau a bennir yn Erthygl 10(1) (mesurau i ganfod marcio gweithredol blaenorol), ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
9.—(1) Rhaid i gorff dyroddi gydymffurfio ag Erthygl 11(1) (mewnblannu trawsatebydd).
(2) At ddibenion Erthygl 11, y cymhwyster gofynnol ar gyfer mewnblannu trawsatebydd yw, o leiaf, aelodaeth o Goleg Brenhinol y Milfeddygon.
(3) Mae peidio â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.
10.—(1) Rhaid i berchennog ceffyl neu, os yw'n wahanol, y ceidwad sy'n bennaf cyfrifol am y ceffyl, gydymffurfio ag—
(a)Erthygl 13(1) (symud a chludo),
(b)Erthygl 14(1) (rhanddirymiad ar gyfer cardiau call), neu
(c)Erthygl 14(3) (dogfennau dros dro).
(2) Rhaid i fformat cerdyn call gael ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn, a rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag awdurdodi cerdyn call oni fyddant wedi eu bodloni y bydd y cerdyn yn gweithredu'n effeithiol.
(3) Mae peidio â chydymffurfio â pharagraff (1) yn dramgwydd.
11. Rhaid i berchennog ceffyl neu, os yw'n wahanol, y ceidwad sy'n bennaf cyfrifol am y ceffyl, gydymffurfio ag Erthygl 15(1) (symud ar gyfer cigydda), ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
12.—(1) Pan fo corff dyroddi yn dyroddi dogfen adnabod yn ddogfen ddyblyg, rhaid iddo naill ai stampio'r ddogfen adnabod i'r perwyl ei bod yn ddogfen ddyblyg, neu ddosbarthu'r anifail fel un na fwriedir i'w gigydda ar gyfer ei fwyta gan bobl, yn unol ag Erthygl 16(1).
(2) Ni cheir gweithredu'r rhanddirymiad yn Erthygl 16(2) o Reoliad y Comisiwn.
(3) Pan fo corff dyroddi yn dyroddi dogfen adnabod yn ddogfen amnewid, rhaid iddo wneud hynny yn unol ag Erthygl 17 (dyroddi dogfennau amnewid).
(4) Mae peidio â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.
13.—(1) Pan fo ceffyl wedi ei gigydda neu wedi ei ladd at y dibenion o reoli clefyd, rhaid i'r milfeddyg swyddogol sy'n gyfrifol am y cigydda neu'r lladd ddychwelyd y ddogfen adnabod at y corff dyroddi, yn unol ag Erthygl 19(2)(a)(i), cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(2) Pan fo ceffyl wedi ei gigydda i'w fwyta gan bobl, rhaid i feddiannydd y lladd-dy, yn unol ag Erthygl 19(2)(a)(ii), roi'r ddogfen adnabod i'r milfeddyg swyddogol yn y lladd-dy, a rhaid i'r milfeddyg—
(a)gofnodi Rhif adnabod yr anifail;
(b)marcio'r ddogfen adnabod yn briodol; ac
(c)anfon y ddogfen adnabod ar ôl ei marcio, at y corff dyroddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(3) Mewn unrhyw achos arall, er gwaethaf Erthygl 19(2)(b), rhaid i berchennog ceffyl neu, os yw'n wahanol, y ceidwad, ddychwelyd y ddogfen adnabod at y corff dyroddi o fewn 30 diwrnod ar ôl marwolaeth y ceffyl.
(4) Dychweliad y ddogfen adnabod o dan y rheoliad hwn yw'r ardystiad sy'n ofynnol o dan Erthygl 19(1)(c).
(5) Mae peidio â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.
14. Ar ôl cael ardystiad a ddychwelwyd yn unol ag Erthygl 19(1) rhaid i gorff dyroddi—
(a)ddirymu'r ddogfen adnabod;
(b)sicrhau na ellir ailddefnyddio Rhif y microsglodyn; ac
(c)dinistrio'r ddogfen adnabod a ddirymwyd.
15.—(1) Rhaid i filfeddyg gydymffurfio ag Erthygl 20.
(2) Rhaid i filfeddyg gofnodi mewn dogfen adnabod y manylion sy'n ofynnol o dan baragraffau 4 (Cofnod brechu), 5 (Profion iechyd labordy) a 7 (Rhoi cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol) o Ran A o Ran II (Gwybodaeth a ddangosir ar basbort) o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn.
(3) Mae peidio â chydymffurfio â'r rheoliad hwn yn dramgwydd.
16.—(1) Mae corff dyroddi sy'n peidio â chydymffurfio ag Erthygl 21 (cofnodion mewn cronfa ddata) yn euog o dramgwydd.
(2) At ddibenion Erthygl 21(3), rhaid trosglwyddo'r wybodaeth i'r gronfa ddata ganolog yn unol â hysbysiad ysgrifenedig a gyflwynir i'r corff dyroddi gan Weinidogion Cymru.
17. Mae'n dramgwydd i berson—
(a)dinistrio neu ddifwyno dogfen adnabod;
(b)newid unrhyw gofnod mewn dogfen adnabod;
(c)gwneud cofnod ffug mewn dogfen adnabod;
(ch)gwneud dogfen adnabod ffug;
(d)bod â dogfen adnabod ffug yn ei feddiant, gan wybod hynny; neu
(dd)darparu unrhyw wybodaeth mewn cais am ddogfen adnabod gan wybod bod yr wybodaeth honno'n ffug neu'n gamarweiniol.
18.—(1) Arferir y rhan ddirymiad yn Erthygl 7.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, “ardaloedd dynodedig” (“designated areas”) yw ardaloedd, yr hysbysir y Comisiwn ohonynt gan Weinidogion Cymru erbyn 1 Hydref 2009, sy'n cynnwys poblogaethau diffiniedig o geffylau yn byw o dan amodau gwyllt neu led wyllt, nad yw'n ofynnol eu hadnabod drwy gyfrwng dogfennau adnabod tra arhosant o fewn yr ardal ddynodedig.
(3) Os yw ceffyl nad oes dogfen adnabod ar ei gyfer mewn ardal ddynodedig, yn cael ei drin ag unrhyw gynnyrch meddyginiaethol milfeddygol rhaid i'w berchennog sicrhau bod y ceffyl yn cael ei adnabod yn llawn ac y gosodir microsglodyn ynddo yn unol â Rheoliad y Comisiwn o fewn 30 diwrnod ar ôl y driniaeth, ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
(4) Mae'n dramgwydd symud ceffyl nad oes dogfen adnabod ar ei gyfer allan o'r ardal ddynodedig, onid yw'r ceffyl wedi ei farcio â sticer a ddyroddir gan gorff dyroddi, ac sy'n dwyn y dyddiad y'i gosodir ar y ceffyl ynghyd â Rhif adnabod unigryw.
(5) Ac eithrio pan fo'r ceffyl yn iau na 12 mis oed ac yn cael ei gymryd i'w gigydda ar gyfer ei fwyta gan bobl, rhaid i gais am rif adnabod fynd gyda'r ceffyl hefyd, a rhaid i'r cais gynnwys silwét o'r ceffyl a Rhif y sticer adnabod.
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i'r perchennog wneud cais am ddogfen adnabod ar gyfer ceffyl o fewn 30 diwrnod ar ôl ymadawiad y ceffyl o'r ardal ddynodedig, ac y mae peidio â gwneud hynny yn dramgwydd.
(7) Nid yw paragraff (6) yn gymwys yn achos ceffyl a gymerir i ladd-dy i'w gigydda ar gyfer ei fwyta gan bobl, ond mae'n dramgwydd cigydda ceffyl o'r fath ar ôl cyfnod hwy na 7 diwrnod ar ôl y dyddiad sydd ar y sticer adnabod.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: