xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 2540 (Cy.204) (C.106)

CYFRAITH TROSEDD, CYMRU

Gorchymyn Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009

Gwnaed

15 Medi 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 53(6) o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006(1) ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy(2), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cychwyn

2.  Mae darpariaethau canlynol Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006, i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru, yn dod i rym ar 1 Hydref 2009—

(a)adran 19 (craffu gan awdurdod lleol ar faterion trosedd ac anhrefn);

(b)adran 20 (canllawiau a rheoliadau mewn perthynas â materion trosedd ac anhrefn); ac

(c)Atodlen 8 (darpariaeth bellach ynghylch pwyllgorau trosedd ac anhrefn awdurdodau lleol penodol).

Brian Gibbons

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

15 Medi 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Hydref 2009, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, adrannau 19 a 20 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (“Deddf 2006”) sy'n ymwneud â sefydlu pwyllgorau trosedd ac anhrefn awdurdodau lleol, ac Atodlen 8 i Ddeddf 2006 sy'n gosod darpariaethau pellach ynghylch pwyllgorau trosedd ac anhrefn awdurdodau lleol penodol.

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau canlynol Deddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 wedi eu dwyn i rym yng Nghymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:

Y ddarpariaethDyddiad cychwynRhif O.S.
Adran 1 (yn rhannol)1 Ebrill 20072007/709
Adran 2 (yn rhannol)15 Ionawr 20072006/3364
1 Ebrill 20072007/709
29 Mehefin 20072007/1614
14 Mawrth 20082008/311
1 Ebrill 20082008/790
Adran 329 Mehefin 20072007/1614
Adran 431 Mawrth 20072007/709
Adran 531 Rhagfyr 20072007/3203
Adran 61 Ebrill 20072007/709
Adran 71 Ebrill 20072007/709
1 Rhagfyr 20072007/3203
Adran 81 Ebrill 20072007/709
Adran 9 (yn rhannol)1 Ebrill 20072007/709
1 Rhagfyr 20072007/3203
Adran 101 Ebrill 20072007/709
Adran 1115 Ionawr 20072006/3364
Adran 121 Ebrill 20072007/709
Adran 1329 Mehefin 20072007/1614
Adrannau 15 ac 161 Ebrill 20072007/709
Adran 1829 Mehefin 20072007/1614
Adran 2219 Tachwedd 20072007/3073
19 Tachwedd 20072007/3251 (Cy.268)
Adrannau 28 i 331 Ebrill 20072007/709
Adrannau 35 i 381 Hydref 20082008/2503
Adran 391 Ebrill 20082008/790
Adran 4129 Mehefin 20072007/1614
Adran 42 (yn rhannol)15 Ionawr 20072006/3364
Adran 4415 Ionawr 20072006/3364
Adran 45 (yn rhannol)15 Ionawr 20072006/3364
1 Ebrill 20072007/709
14 Tachwedd 20082008/2785
Adran 46 (mewn perthynas ag ardaloedd cyfiawnder lleol penodedig)1 Ebrill 20072007/709
14 Tachwedd 20082008/2785
Adran 4715 Ionawr 20072006/3364
Adran 4815 Ionawr 20072006/3364
Adran 52 (yn rhannol)15 Ionawr 20072006/3364
1 Ebrill 20072007/709
29 Mehefin 20072007/1614
19 Tachwedd 20072007/3073
1 Rhagfyr 20072007/3203
14 Mawrth 20082008/311
1 Ebrill 20082008/790
1 Hydref 20082008/2503
14 Tachwedd 20082008/2785
Atodlen 1 (yn rhannol)1 Ebrill 20072007/709
Atodlen 2 (yn rhannol)15 Ionawr 20072006/3364
1 Ebrill 20072007/709
29 Mehefin 20072007/1614
14 Mawrth 20082008/311
1 Ebrill 20082008/790
Atodlen 331 Rhagfyr 20072007/3203
Atodlen 41 Ebrill 20072007/709
Atodlen 5 (yn rhannol)1 Ebrill 20072007/709
1 Rhagfyr 20072007/3203
Atodlenni 6 a 71 Ebrill 20072007/709
Atodlen 919 Tachwedd 20072007/3073
19 Tachwedd 20072007/3251 (Cy.268)
Atodlen 111 Ebrill 20082008/790
Atodlen 13 (yn rhannol)15 Ionawr 20072006/3364
Atodlen 14 (yn rhannol)15 Ionawr 20072006/3364
1 Ebrill 20072007/709
29 Mehefin 20072007/1614
1 Hydref 20082008/2503
14 Tachwedd 20082008/2785
Atodlen 15 (yn rhannol)15 Ionawr 20072006/3364
1 Ebrill 20072007/709
29 Mehefin 20072007/1614
19 Tachwedd 20072007/3073
1 Rhagfyr 20072007/3203
14 Mawrth 20082008/311
1 Ebrill 20082008/790
1 Hydref 20082008/2503
(2)

Mae pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 53(6) bellach wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).