- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i wahanol setiau o reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Addysg 1996 (p.56), Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.38), a Deddf Addysg 2002 (p.32) i adlewyrchu newidiadau a fydd yn digwydd o ganlyniad i gychwyn (ar 12 Hydref 2009) y darpariaethau gwahardd yn Neddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p.47) (“y DDGH”) a chychwyn darpariaethau newydd (a fewnosodwyd gan y DDGH) yn Neddf yr Heddlu 1997 (p.50).
Hyd at 12 Hydref 2009, bydd gwybodaeth pa un a waharddwyd person ai peidio rhag gweithio gyda phlant ar gael gyda thystysgrif cofnod troseddol, safonol neu fanylach. Nid yw'r wybodaeth wahardd a gynhwysir mewn tystysgrif cofnod troseddol ar hyn o bryd yn nodi a yw person wedi ei gynnwys ai peidio ar y rhestr wahardd ar gyfer plant a sefydlwyd o dan adran 2 o'r DDGH. Sefydlir a chynhelir y rhestr wahardd ar gyfer plant gan yr Awdurdod Diogelu Annibynnol (“ADA”) (Independent Safeguarding Authority (“ISA”)); cyfeirir at yr ADA yn y DDGH fel yr “Independent Barring Board” (neu “IBB”) ond mae'n debygol y diwygir hynny mewn deddfwriaeth sylfaenol yn y dyfodol agos, ac y gosodir cyfeiriad at yr ADA yn ei le.
Mewn rhai o'r rheoliadau a ddiwygir, mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyfeiriad pa un a waharddwyd person rhag gweithio gyda phlant o dan y DDGH, at y cyfeiriadau gwahardd a oedd yn rhagflaenu'r DDGH. Yn ychwanegol, mae'r diwygiadau yn rheoliadau 2(2) a 3(2) yn ychwanegu cyfeiriad pa un a yw person yn destun cyfarwyddyd o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002, at y cyfeiriadau gwahardd a oedd yn rhagflaenu'r DDGH, oherwydd gall personau fod yn destun cyfarwyddyd o'r fath pan nad oes penderfyniad wedi ei wneud i'w hychwanegu at y rhestr o bobl a waherddir rhag gweithio gyda phlant o dan y DDGH.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn cysoni darpariaethau yn y rheoliadau a ddiwygir (ynglŷn â gwiriadau gwahardd) â darpariaethau newydd yn Neddf yr Heddlu 1997 (a fewnosodwyd gan y DDGH) a fydd yn gymwys o 12 Hydref 2009 ymlaen. Er enghraifft, gwneir diwygiadau i ddileu cyfeiriadau at “ddatganiad o addasrwydd plant” (“children’s suitability statement”) ac i ddiweddaru'r rheoliadau a ddiwygir pan fo angen gyda chyfeiriadau at “wybodaeth addasrwydd mewn perthynas â phlant” (“suitability information relating to children”) o fewn ystyr adran 113BA(2) o Ddeddf yr Heddlu 1997.
O 12 Hydref 2009 ymlaen, bydd gwybodaeth pa un a waharddwyd person rhag gweithio gyda phlant yn cael ei darparu gyda thystysgrif cofnod troseddol fanylach yn yr achosion hynny, yn unig, a ragnodir o dan adran 113BA o Ddeddf yr Heddlu 1997. Mae diwygiadau i rai o'r rheoliadau wedi eu cynnwys i adlewyrchu hynny, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth a gafwyd eisoes, i'r perwyl bod person wedi ei wahardd, yn parhau ar gael o 12 Hydref 2009 ymlaen.
O 12 Hydref 2009 ymlaen, bydd tystysgrif sy'n datgan bod rhywun wedi ei wahardd rhag gweithio gyda phlant yn golygu bod y person hwnnw naill ai ar un o'r rhestrau gwahardd cyfredol neu wedi ei wahardd rhag gweithio gyda phlant o dan y cynllun DDGH newydd. Bydd yn dal yn ofynnol gwirio gyferbyn â'r rhestrau cyfredol yn ogystal â'r rhestr wahardd newydd ar gyfer plant o dan y DDGH am gyfnod ar ôl 12 Hydref 2009, hyd nes bo'r ADA wedi penderfynu, ym mhob achos perthnasol, ynglŷn â throsglwyddo unigolyn i'r rhestr wahardd ar gyfer plant. Achosion perthnasol yw achosion lle mae unigolyn yn parhau ar un o'r rhestrau presennol, neu achosion y parheir i'w penderfynu (at ddibenion cyfyngedig) o dan yr hen drefn ar ôl 12 Hydref 2009.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: