2009 Rhif 2614 (Cy.212)
Gorchymyn Dileu Twbercwlosis (Cymru) 2009
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru—
a hwythau wedi eu bodloni bod twbercwlosis yn bodoli ymhlith aelodau gwyllt o rywogaeth y mochyn daear yng Nghymru a bod y twbercwlosis hwnnw wedi cael ei drosglwyddo neu yn cael ei drosglwyddo o foch daear i anifeiliaid o unrhyw fath yn yr ardal;
a hwythau wedi eu bodloni bod difa aelodau gwyllt o rywogaeth y mochyn daear yn yr ardal honno yn angenrheidiol er mwyn dileu nifer yr achosion o dwbercwlosis mewn anifeiliaid o unrhyw fath yn yr ardal neu eu lleihau yn sylweddol; ac
ar ôl ymgynghori â Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn unol ag adran 21(3) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19811,
drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, 21(2), (4) a (5), 72 ac 86(1) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19812, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: