Search Legislation

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 2737 (Cy.235)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009

Gwnaed

12 Hydref 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

14 Hydref 2009

Yn dod i rym

5 Tachwedd 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1), ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2009.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Tachwedd 2009 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “a ariennir yn gyhoeddus” ac “a ariannwyd yn gyhoeddus” (“publicly-funded”) yw cael ei gynnal neu ei gynorthwyo gan grantiau rheolaidd o'r cronfeydd cyhoeddus, ac mae ymadroddion perthynol i'w dehongli yn unol â hyn;

  • mae i “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” ac “athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig” yr ystyr a roddir i “qualified teacher” yn adran 132(1) o Ddeddf Addysg 2002(3);

  • ystyr “yr Athrofa” (“Institute”) yw Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis(4);

  • ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â sefydliad, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

  • ystyr “benthyciad” (“loan”), ac eithrio lle nodir fel arall, yw benthyciad yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf, gan gynnwys y llog sy'n crynhoi ar y benthyciad ac unrhyw gosbau neu daliadau sy'n codi mewn cysylltiad ag ef;

  • ystyr “benthyciad at ffioedd coleg” (“college fee loan”) yw benthyciad at ffioedd coleg sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

  • ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad at gostau byw yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

  • ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person y mae benthyciad wedi'i roi iddo;

  • ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw'r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu cyn 31 Rhagfyr, yn y drefn honno;

  • ystyr “blwyddyn academaidd safonol” (“standard academic year”), oni nodir fel arall, yw blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig (ac eithrio blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus) a fyddai'n cael ei gymryd (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) gan berson nad yw'n ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs ar ôl 1 Medi 2006 ac sy'n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt â'r myfyriwr cymwys;

  • ystyr “blwyddyn bwrsari” (“bursary year”) yw blwyddyn academaidd cwrs—

    (a)

    y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan fwrsari gofal iechyd mewn perthynas â hi a hwnnw'n fwrsari y caiff ei swm ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm; neu

    (b)

    y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael unrhyw daliad o dan lwfans gofal iechyd yr Alban mewn perthynas â hi a hwnnw'n lwfans y caiff ei swm ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm;

  • ystyr “blwyddyn Erasmus” (“Erasmus year”) yw blwyddyn academaidd cwrs pryd y bydd myfyriwr yn cymryd rhan yng nghynllun gweithredu'r Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol a elwir ERASMUS(5) a phan fo cwrs y myfyriwr yn gwrs y cyfeirir ato yn rheoliad 5(1)(d) a bod pob cyfnod astudio'r myfyriwr yn ystod y flwyddyn academaidd mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “bwrsari gofal iechyd” (“healthcare bursary”) yw bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad

  • tebyg o dan adran 63 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968(6) neu Erthygl 44 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(7);

  • ystyr “cronfeydd cyhoeddus” (“public funds”) yw arian sy'n cael ei ddarparu gan Senedd y Deyrnas Unedig gan gynnwys cronfeydd sy'n cael eu darparu gan Weinidogion Cymru;

  • ystyr “cwrs addysg uwch” (“higher education course”) yw cwrs y cyfeirir ato yn Atodlen 2 neu gwrs i ôl-raddedigion neu gwrs arall y mae ei safon yn uwch na safon cwrs gradd gyntaf;

  • mae “cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon” (“course for the initial training of teachers”) yn cynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf oni nodir yn wahanol ond nid yw'n cynnwys cynllun hyfforddi athrawon sydd wedi'i seilio ar gyflogaeth;

  • ystyr “cwrs carlam” (“accelerated course”) yw cwrs y mae'r sefydliad sy'n ei ddarparu yn ei gwneud yn ofynnol fel rheol i'r personau sy'n ei gymryd fod yn bresennol (boed ar fangre'r sefydliad ynteu mewn man arall) am gyfnod o 40 wythnos o leiaf yn y flwyddyn derfynol, a hwnnw'n gwrs sy'n parhau am ddwy flwyddyn academaidd;

  • ystyr “cwrs cymhwysol” (“qualifying course”) yw cwrs dynodedig amser-llawn a ddarperir gan Brifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt a hwnnw'n gwrs—

    (a)

    sy'n arwain at gymhwyster gweithiwr cymdeithasol, meddyg, deintydd, milfeddyg neu bensaer;

    (b)

    sy'n arwain, os yw wedi dechrau cyn 1 Medi 2009, at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref; neu

    (c)

    sy'n cynnwys o leiaf un flwyddyn academaidd sy'n flwyddyn bwrsari;

  • ystyr “cwrs dwys” (“intensive course”) yw cwrs carlam neu gwrs gradd cywasgedig;

  • ystyr “cwrs dynodedig” (“designated course”) yw cwrs a ddynodwyd gan reoliad 5 neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 5;

  • mae i “cwrs dynodedig a bennir” (“specified designated course”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (8);

  • ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig” (“designated distance learning course”) yw cwrs a ddynodwyd gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 70;

  • ystyr “cwrs dysgu o bell presennol” (“present learning distance course”) yw'r cwrs dysgu o bell dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef;

  • ystyr “cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree course”) yw cwrs y dyfernir, yn unol â pharagraff (2), ei fod yn gwrs gradd cywasgedig;

  • ystyr “cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion” (“flexible postgraduate ITT course”) yw cwrs ôl-radd o hyfforddiant cychwynnol athrawon, y mae ei hyd a'i batrwm yn cael eu pennu drwy gyfeirio at brofiad ac anghenion hyfforddi'r myfyriwr cymwys a hwnnw'n gwrs sydd wedi'i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion(8) neu Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(9), a'r cwrs naill ai—

    (a)

    wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

    (b)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

    (c)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs;

  • ystyr “cwrs ôl-radd dynodedig” (“designated postgraduate course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi o dan reoliad 110 neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 110;

  • ystyr “cwrs ôl-radd presennol” (“present postgraduate course”) yw'r cwrs ôl-radd dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef;

  • ystyr “cwrs penben” (“end-on course”) yw—

    (a)

    cwrs gradd gyntaf amser-llawn (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs amser-llawn sydd wedi'i grybwyll ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac y mae'r myfyriwr wedi cael dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2008 neu 2008 (Rhif 2) ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o'r rhain ar ei gyfer;

    (b)

    cwrs gradd anrhydedd amser-llawn sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd sylfaenol amser-llawn ac y mae'r myfyriwr wedi cael dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005, 2006, 2007, 2008 neu 2008 (Rhif 2) ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o'r rhain ar ei gyfer;

    (c)

    cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2006 nad yw'n parhau am fwy na dwy flynedd (gan fynegi hyd cwrs rhan-amser mewn modd sy'n gyfartal i hyd y cwrs amser-llawn sy'n cyfateb iddo) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd gyntaf ac y mae'r myfyriwr wedi cael dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004, 2005 2006, 2007 neu 2008 ar ei gyfer, neu yr oedd gan y myfyriwr hawlogaeth i gael un o'r rhain ar ei gyfer;

  • ystyr “cwrs presennol” (“present course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef;

  • ystyr “cwrs rhagarweiniol” (“preliminary course”) yw cwrs a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2 ac yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd amser-llawn (ac eithrio cwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) neu gwrs gradd sylfaenol yr ymgymerir ag ef cyn ymgymryd â chwrs gradd anrhydedd amser-llawn, yn ôl y digwydd;

  • ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig” (“designated part-time course”) yw cwrs sydd wedi'i ddynodi gan reoliad 86 neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 86;

  • ystyr “cwrs rhan-amser presennol” (“present part-time course”) yw'r cwrs rhan-amser dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef;

  • mae i “cwrs rhyngosod” (“sandwich course”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (7);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2004/38” (“Directive 2004/38”) yw Cyfarwyddeb 2004/38/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004(10) ar hawliau dinasyddion yr Undeb ac aelodau o'u teuluoedd i symud ac i fyw'n ddilyffethair yn nhiriogaeth yr Aelod-wladwriaethau;

  • ystyr “cyfnod arferol” (“ordinary duration”), o ran cwrs dynodedig, yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau'r cwrs dynodedig ac eithrio unrhyw flynyddoedd academaidd o'r cwrs sy'n flynyddoedd bwrsari neu'n flynyddoedd Erasmus;

  • ystyr “cyfnodau o brofiad gwaith” (“periods of work experience”) yw—

    (a)

    cyfnodau o brofiad diwydiannol, proffesiynol neu fasnachol sy'n gysylltiedig ag astudiaethau amser-llawn mewn sefydliad ond mewn man y tu allan i'r sefydliad hwnnw;

    (b)

    cyfnodau pryd y caiff myfyriwr ei gyflogi ac y bydd yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae'r myfyriwr yn ei hastudio at ei gwrs (ar yr amod bod y cyfnod o breswylio yn y wlad honno yn un o ofynion ei gwrs a bod astudio un neu fwy o ieithoedd modern yn cyfrif am nid llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);

  • ystyr “cyfraniad” (“contribution”), o ran—

    (a)

    myfyriwr cymwys, yw cyfraniad y myfyriwr wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 59 ac Atodlen 5;

    (b)

    myfyriwr rhan-amser cymwys, yw cyfraniad y myfyriwr wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 97 ac Atodlen 6;

  • ystyr “Cyngor Ymchwil” (“Research Council”) yw unrhyw un o'r cynghorau ymchwil canlynol—

    (a)

    Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau,

    (b)

    Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol,

    (c)

    Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol,

    (ch)

    Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol,

    (d)

    Y Cyngor Ymchwil Feddygol,

    (dd)

    Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol,

    (e)

    Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg;

  • ystyr “cymorth” (“support”) yw cymorth ariannol ar ffurf grant neu fenthyciad a roddir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed ganddynt o dan adran 22 o'r Ddeddf;

  • ystyr “cymorth at ffioedd” (“fee support”) yw grantiau mewn perthynas â ffioedd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf ac maent yn cynnwys grantiau mewn perthynas â ffioedd o dan Ran 4;

  • ystyr “cyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd” (“former Metropolitan Police District”) yw—

    (a)

    Llundain Fwyaf, heb gynnwys dinas Llundain, y Deml Fewnol a'r Deml Ganol;

    (b)

    yn swydd Essex, yn nosbarth Epping Forest—

    • ardal cyn ddosbarth trefol Chigwell,

    • plwyf Waltham Abbey;

    (c)

    yn swydd Hertford—

    • ym mwrdeistref Broxbourne, ardal cyn ddosbarth trefol Cheshunt,

    • dosbarth Hertsmere,

    • yn nosbarth Welwyn Hatfield, plwyf Northaw; ac

    (ch)

    yn swydd Surrey—

    • ym mwrdeistref Elmbridge, ardal cyn ddosbarth trefol Esher,

    • bwrdeistrefi Epsom ac Ewell a Spelthorne,

    • yn nosbarth Reigate a Banstead, ardal cyn ddosbarth trefol Banstead;

  • ystyr “cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth” (“employment-based teacher training scheme”) yw—

    (a)

    cynllun a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru at ddibenion rheoliad 8 o Reoliadau Addysg (Cymwysterau Athrawon Ysgol) (Cymru) 2004(11) sy'n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig tra bo'n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol a gynhelir, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion; neu

    (b)

    cynllun a sefydlwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n caniatáu i berson ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol athrawon er mwyn ennill statws athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig tra bo'n cael ei gyflogi i addysgu mewn ysgol, coleg dinas, Academi, ysgol annibynnol neu sefydliad arall ac eithrio uned cyfeirio disgyblion;

  • ystyr “chwarter” (“quarter”) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw cyfnod yn y flwyddyn honno—

    (a)

    sy'n dechrau ar 1 Ionawr ac sy'n diweddu ar 31 Mawrth;

    (b)

    sy'n dechrau ar 1 Ebrill ac sy'n diweddu ar 30 Mehefin;

    (c)

    sy'n dechrau ar 1 Gorffennaf ac sy'n diweddu ar 31 Awst; neu

    (ch)

    sy'n dechrau ar 1 Medi ac sy'n diweddu ar 31 Rhagfyr;

  • ystyr “Deddf 1962” (“the 1962 Act”) yw Deddf Addysg 1962(12);

  • ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd y Ddeddf neu Ddeddf 1962, neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs sy'n cael ei dalu o'r cronfeydd cyhoeddus;

  • ystyr “dyfarniad trosiannol” (“transitional award”) yw dyfarniad a wnaed o dan Reoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 1998(13) ac eithrio hen ddyfarniad;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

  • ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(14), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(15), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980 a rheoliadau a wnaed o dan y Deddfau hynny neu'r Gorchymyn hwnnw, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(16) a rheoliadau a wnaed o dan y Gorchymyn hwnnw neu'r Ddeddf a rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf;

  • mae i “ffioedd” yr ystyr a roddir i “fees” yn adran 28(1) o'r Ddeddf ac eithrio mewn cyfeiriadau at ffioedd coleg;

  • ystyr “ffoadur” (“refugee”) yw person a gydnabuwyd gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr Confensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(17) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(18);

  • ystyr “grant at gostau byw” (“grant for living costs”) (heb ddim mwy) yw grant o dan unrhyw rai o ddarpariaethau Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl” (“grant for disabled distance learning students' living costs”) yw'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 75;

  • ystyr “grant at gostau byw myfyrwyr anabl” (“grant for disabled students' living costs”) yw'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 25;

  • ystyr “grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl” (“grant for disabled part-time students' living costs”) yw'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 89;

  • ystyr “grant newydd at ffioedd” (“new fee grant”) yw grant a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 19;

  • ystyr “grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed” (“part-time adult dependants' grant”) yw'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 92;

  • ystyr “grant rhan-amser ar gyfer gofal plant” (“part-time childcare grant”) yw'r grant sy'n daladwy o dan reoliad 93;

  • ystyr “grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion” (“part-time grants for dependants”) yw'r grantiau a'r lwfans a restrir yn rheoliad 91(1);

  • ystyr “gweithiwr Twrcaidd” (“Turkish worker”) yw gwladolyn Twrcaidd—

    (a)

    sydd fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; a

    (b)

    sydd, neu sydd wedi bod, mewn cyflogaeth gyfreithlon yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gwladolyn o'r GE” (“EC national”) yw un o wladolion un o Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd;

  • mae “gwybodaeth” (“information”) yn cynnwys dogfennau;

  • ystyr “y Gymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw tiriogaeth Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o bryd i'w gilydd;

  • ystyr “hawl i breswylio'n barhaol” (“right of permanent residence”) yw hawl sy'n deillio o dan Gyfarwyddeb 2004/38 i breswylio yn y Deyrnas Unedig yn barhaol heb gyfyngiad;

  • mae “hen ddyfarniad” (“old award”) yn ddyfarniad o fewn ystyr “award” yn Rheoliadau Addysg (Dyfarniadau Gorfodol) 2003(19);

  • ystyr “hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon” (“old flexible postgraduate course for the initial training of teachers”) yw cwrs HCA ôl-radd hyblyg y dechreuodd myfyriwr fod yn bresennol arno cyn 1 Medi 2008;

  • mae i'r ymadroddion “incwm yr aelwyd”, “incwm aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”)—

    (a)

    o ran myfyriwr cymwys, yr ystyr a roddir iddynt yn Atodlen 5;

    (b)

    o ran myfyriwr rhan-amser cymwys, yr ystyr a roddir iddynt yn Atodlen 6;

  • ystyr “lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni” (“part-time parents' learning allowance”) yw'r lwfans sy'n daladwy o dan reoliad 94;

  • ystyr “lwfans gofal iechyd yr Alban” (“Scottish healthcare allowance”) yw unrhyw lwfans o dan adrannau 73(f) a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(20) a roddwyd mewn perthynas â pherson sy'n bresennol ar gwrs sy'n arwain at gymhwyster mewn proffesiwn gofal iechyd ac eithrio fel doctor meddygol neu ddeintydd;

  • ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—

    (a)

    wedi'i ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi'i gysylltu yn rhesymegol â hwy; a

    (b)

    yn honni ei fod wedi'i ymgorffori neu wedi'i gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i gadarnhau bod y cyfathrebiad neu'r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu'r data yn gyflawn, neu'r ddau;

  • mae i “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010” (“2010 gap year student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (13);

  • ystyr “myfyriwr carfan 2010” (“2010 cohort student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010, ac eithrio—

    (a)

    myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010;

    (b)

    myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010 pan fo'r cwrs hwnnw'n gwrs penben, sy'n dilyn ymlaen o gwrs—

    (i)

    y cychwynnodd arno cyn 1 Medi 2010; neu

    (ii)

    y cychwynnodd arno cyn 1 Medi 2011, ac yntau'n fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs hwnnw; neu

    (c)

    myfyriwr cymwys a ddechreuodd ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ar ôl trosglwyddo'i statws fel myfyriwr cymwys i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu ragor o drosglwyddiadau o'r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, o gwrs dynodedig y dechreuodd arno—

    (i)

    cyn 1 Medi 2010; neu

    (ii)

    cyn 1 Medi 2011, ac yntau'n fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs hwnnw;

  • ystyr “myfyriwr cwrs gradd cywasgedig” (“compressed degree student”) yw myfyriwr cymwys—

    (a)

    sy'n ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y Deyrnas Unedig (y “cwrs”);

    (b)

    naill ai sydd—

    (i)

    wedi dechrau ar y cwrs ar neu ar ôl i Medi 2006 ac sy'n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2010; neu

    (ii)

    yn dechrau ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2010; ac

    (c)

    y mae naill ai—

    (i)

    yn ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs am ran o'r flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth ar ei chyfer; neu

    (ii)

    yn fyfyriwr anabl nad yw'n ofynnol iddo fod yn bresennol ar y cwrs am nad yw'n gallu bod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd;

  • ystyr “myfyriwr cymhwysol” (“qualifying student”) yw person sy'n bodloni'r meini prawf ym mharagraff 2 o Atodlen 4;

  • mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

  • ystyr “myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd” (“new system eligible student”) yw myfyriwr cymwys—

    (a)

    nad yw'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn; a

    (b)

    sydd naill ai—

    (i)

    wedi dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac yn parhau i fynychu'r cwrs ar ôl 31 Awst 2010; neu

    (ii)

    yn dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010;

  • ystyr “myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn” (“old system eligible student”) yw myfyriwr cymwys sydd—

    (a)

    wedi dechrau ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006 ac sy'n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2010;

    (b)

    yn fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd mewn perthynas â'r cwrs presennol;

    (c)

    wedi dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 os yw'r cwrs hwnnw yn gwrs penben (ac eithrio cwrs o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (c) o'r diffiniad o'r ymadrodd “cwrs penben” yn y rheoliad hwn) sy'n dilyn ar ôl cwrs—

    (i)

    y dechreuodd arno cyn 1 Medi 2006; neu

    (ii)

    y dechreuodd arno cyn 1 Medi 2007 ac yr oedd, mewn perthynas â'r cwrs, yn fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd; neu

    (ch)

    wedi dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un, neu fwy nag un, trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, oddi ar gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr arno—

    (i)

    cyn 1 Medi 2006; neu,

    (ii)

    cyn 1 Medi 2007 ac yr oedd, mewn perthynas â'r cwrs, yn fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd;

  • mae i “myfyriwr dysgu o bell cymwys” (“eligible distance learning student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 68;

  • ystyr “myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 1 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi yn 6 wythnos o leiaf ond yn llai na 10 wythnos, pan fo'r cwrs naill ai—

    (a)

    wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

    (b)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

    (c)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs;

  • ystyr “myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 2 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs gradd gyntaf) y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi yn 10 wythnos neu fwy, pan fo'r cwrs naill ai—

    (a)

    wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

    (b)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

    (c)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs;

  • ystyr “myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon” (“type 3 teacher training student”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y mae cyfanswm ei gyfnodau o bresenoldeb amser-llawn (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi yn 6 wythnos o leiaf ond yn llai na 10 wythnos, pan fo'r cwrs naill ai—

    (a)

    wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

    (b)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

    (c)

    yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs;

  • y mae i “myfyriwr ôl-raddedig cymwys” (“eligible postgraduate student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 109;

  • mae i “myfyriwr rhan-amser cymwys” (“eligible part-time student”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 85;

  • mae “myfyriwr safonol” (“standard student”) yn fyfyriwr sydd i'w ystyried—

    (a)

    yn un sydd wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar yr un dyddiad â'r myfyriwr cymwys o dan sylw;

    (b)

    yn un nad esgusodir unrhyw ran o'r cwrs iddo;

    (c)

    yn un na chaiff ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs; ac

    (ch)

    yn un na chaiff fod yn absennol o'r cwrs ac eithrio yn ystod gwyliau;

  • mae i “myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd” (“gap year student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (3);

  • ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—

    (a)

    a hysbyswyd gan berson sy'n gweithredu o dan awdurdod Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Gartref y tybir ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi er yr ystyrir nad yw'n gymwys i gael ei gydnabod fel ffoadur;

    (b)

    y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn neu i aros yn unol â hynny;

    (c)

    y mae cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros heb ddod i ben nac wedi cael ei adnewyddu ac nad yw'r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu fod apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(21) mewn perthynas â'i hawl i ddod i mewn neu i aros; ac

    (ch)

    sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan roddwyd iddo ganiatâd i ddod i mewn neu i aros;

  • ystyr “Rheoliadau 1998” (“the 1998 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1998(22);

  • ystyr “Rheoliadau 1999” (“the 1999 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 1999(23);

  • ystyr “Rheoliadau 2000” (“the 2000 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2000(24);

  • ystyr “Rheoliadau 2001” (“the 2001 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2001(25);

  • ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2002(26);

  • ystyr “Rheoliadau 2003” (“the 2003 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002(27) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2003(28) a Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Chymorth i Fyfyrwyr) (Y Swistir) 2003(29);

  • ystyr “Rheoliadau 2004” (“the 2004 Regulations”) yw Rheoliadau 2003 fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2004(30), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 2) 2004(31), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 3) 2004(32), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) (Rhif 4) 2004(33)), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Rhif 2) 2002 (Diwygio) 2005(34)), Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) 2005(35)) a Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Rhif 2) 2005(36));

  • ystyr “Rheoliadau 2005” (“the 2005 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005(37));

  • ystyr “Rheoliadau 2006” (“the 2006 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006(38)) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2006(39);

  • ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2007(40) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2007(41), Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2007(42) a Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2007(43);

  • ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2008(44) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Diwygio) 2008(45) a Rheoliadau (Rhif 2) 2008;

  • ystyr “Rheoliadau (Rhif 2) 2008” (“the 2008 (No. 2) Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2008(46);

  • ystyr “sefydliad preifat” (“private institution”) yw sefydliad nad yw'n cael ei ariannu'n gyhoeddus;

  • ystyr “Ynysoedd” (“Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw; ac

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir.

(2Caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu bod cwrs yn gwrs gradd cywasgedig os yw'r cwrs hwnnw, yn ei farn—

(a)yn gwrs ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd sylfaen);

(b)yn gwrs amser-llawn a ddynodir o dan reoliad 5(1); ac

(c)yn parhau am ddwy flynedd academaidd.

(3Yn y Rheoliadau hyn mae person yn “fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd” (“gap-year student”) mewn perthynas â chwrs a ddarparwyd gan neu ar ran sefydliad a oedd yn cael ei gyllido'n gyhoeddus ar 1 Awst 2005 os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (4) neu (6).

(4Yr amodau yw—

(a)bod y person, ar neu cyn 1 Awst 2005 wedi cael cynnig o le, pa un ai'n amodol ar ennill cymwysterau penodedig ai peidio, ar y cwrs presennol neu gwrs tebyg, a

(b)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(5Ym mharagraff (4) mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn debyg i'r cwrs presennol—

(a)os yw'n ymddangos i gorff llywodraethu'r sefydliad sy'n darparu'r cwrs presennol fod cynnwys y cwrs, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yr un fath â chynnwys y cwrs gwreiddiol, a

(b)ac eithrio pan nad yw'r cwrs gwreiddiol yn cael ei ddarparu mwyach, os yw'r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fyddai wedi darparu'r cwrs gwreiddiol.

(6Yr amodau yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (pa un ai yn yr un sefydliad â'r cwrs presennol ai peidio) y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw wedi dechrau cyn 1 Medi 2006;

(b)na allai dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd iddo gymhwyster penodedig neu safon benodedig;

(c)ei fod wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio dyfarnu'r cymhwyster neu'r safon iddo;

(ch)bod yr apêl wedi'i chaniatáu ar ôl y dyddiad diwethaf y gallai'r myfyriwr fod wedi derbyn y cynnig;

(d)o ganlyniad, ei fod wedi cael cynnig lle ar y cwrs presennol; ac

(dd)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs perthnasol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(7Yn y Rheoliadau hyn—

(a)mae cwrs yn “gwrs rhyngosod”(“sandwich course”)—

(i)os nad yw'n gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(ii)os yw'n cynnwys cyfnodau o astudio amser-llawn mewn sefydliad am yn ail â chyfnodau o brofiad gwaith; a

(iii)gan gymryd y cwrs yn ei gyfanrwydd, os yw'r myfyriwr yn bresennol ar y cyfnodau o astudio amser-llawn am nid llai na 18 wythnos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd;

(b)er mwyn cyfrifo presenoldeb y myfyriwr at ddibenion is-baragraff (a), trinnir y cwrs fel pe bai'n dechrau gyda'r cyfnod cyntaf o astudio amser-llawn ac yn diweddu gyda'r cyfnod olaf o'r fath; ac

(c)at ddibenion is-baragraff (a), os ceir cyfnodau o astudio amser-llawn am yn ail â phrofiad gwaith yn ystod unrhyw wythnos ar y cwrs, mae'r dyddiau o astudio amser-llawn yn cael eu hadio at ei gilydd ac at unrhyw wythnosau o astudio amser-llawn wrth bennu nifer yr wythnosau o astudio amser-llawn ym mhob blwyddyn.

(8Yn y Rheoliadau hyn ystyr y “cwrs dynodedig a bennir” (“specified designated course”) yw'r cwrs presennol yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10).

(9Os yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs presennol o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru oddi ar gwrs (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed ganddynt o dan adran 22 o'r Ddeddf, y cwrs cychwynnol yw'r cwrs dynodedig a bennir.

(10Os yw'r cwrs presennol yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef (“y cwrs blaenorol”). Os yw'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben, y cwrs dynodedig a bennir yw'r cwrs y mae'r cwrs blaenorol ei hun yn gwrs penben mewn perthynas ag ef.

(11Yn y Rheoliadau hyn, mae'r ymadrodd “myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd” (“student who qualifies for a new fee grant”) mewn perthynas â chwrs dynodedig ac mae unrhyw gyfeiriad at fyfyriwr nad oes ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd, i'w dehongli yn unol â rheoliad 19.

(12Yn y Rheoliadau hyn, mae i'r ymadrodd “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd, yr ystyr a roddir iddo gan reoliad 19.

(13Yn y Rheoliadau hyn, mae person yn “fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010” (“2010 gap year student”) mewn perthynas â chwrs a ddarperir gan neu ar ran sefydliad a ariennid yn gyhoeddus ar 1 Awst 2009 os yw'r person hwnnw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (14) neu (16).

(14Yr amodau yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle, pa un ai'n amodol ai peidio, ar 1 Awst 2009 neu cyn hynny, ar y cwrs presennol neu gwrs tebyg; a

(b)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.

(15Ym mharagraff (14), mae cwrs (“y cwrs gwreiddiol”) yn debyg i'r cwrs presennol—

(a)pan yw'n ymddangos i awdurdod academaidd y sefydliad sy'n darparu'r cwrs presennol mai yr un, yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yw cynnwys y cwrs a chynnwys y cwrs gwreiddiol; a

(b)ac eithrio pan na ddarperir y cwrs gwreiddiol mwyach, pan yw'r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fyddai wedi darparu'r cwrs gwreiddiol.

(16Yr amodau yw—

(a)bod y person wedi cael cynnig lle ar gwrs dynodedig (pa un ai yn yr un sefydliad â'r cwrs presennol ai peidio) a bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs hwnnw wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(b)na allai'r person dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd iddo gymhwyster penodedig neu safon benodedig;

(c)ei fod wedi apelio yn erbyn y penderfyniad i beidio dyfarnu'r cymhwyster neu'r safon iddo;

(ch)bod yr apêl wedi'i chaniatáu ar ôl y dyddiad diwethaf y gallai'r myfyriwr fod wedi derbyn y cynnig;

(d)o ganlyniad, ei fod wedi cael cynnig lle ar y cwrs presennol; ac

(dd)bod blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol wedi dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011.

Dirymu, arbedion a darpariaethau trosiannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (8), dirymir Rheoliadau (Rhif 2) 2008 mewn perthynas â Chymru ar 1 Medi 2010.

(2Mae Rheoliadau 2003 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.

(3Mae Rheoliadau 2004 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2004 ond cyn 1 Medi 2005.

(4Mae Rheoliadau 2005 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2005 ond cyn 1 Medi 2006.

(5Mae Rheoliadau 2006 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ond cyn 1 Medi 2007.

(6Mae Rheoliadau 2007 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2007 ond cyn 1 Medi 2008.

(7Mae Rheoliadau 2008 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2008 ond cyn 1 Medi 2009.

(8Mae Rheoliadau (Rhif 2) 2008 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009 ond cyn 1 Medi 2010.

(9At ddibenion paragraffau (2) i (4), mae unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol o ran unrhyw swyddogaeth a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan y Rheoliadau y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny, i'w ddarllen o ran Cymru fel cyfeiriad at—

(a)Gweinidogion Cymru, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(1) o Ddeddf Addysg Uwch 2004(47); neu

(b)Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol, yn achos swyddogaeth y cyfeirir ati yn adran 44(2) o Ddeddf Addysg Uwch 2004.

(10Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl 1 Medi 2010.

(11Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn—

(a)pan fo person yn bresennol ar gwrs y rhoddwyd dyfarniad trosiannol iddo mewn perthynas ag ef; neu

(b)pan na fo person wedi cael dyfarniad o dan Ddeddf 1962 mewn perthynas â'r cwrs ond y byddai dyfarniad trosiannol wedi'i roi iddo pe bai wedi gwneud cais am ddyfarniad o dan Ddeddf 1962 a phe na bai ei adnoddau wedi bod yn fwy na'i anghenion,

mae'r person yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4 a 5 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai'r dyfarniad (a roddwyd neu a fyddai wedi'i roi o dan Ddeddf 1962) wedi'i drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf cwrs, ond, oni bai bod paragraff (12) yn gymwys, dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau'r hawl i gael cymorth o dan y Rhan honno y mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf benthyciad at gostau byw o dan Ran 6.

(12Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, os cafodd unrhyw berson neu os oedd unrhyw berson yn gymwys i gael benthyciad o ran blwyddyn academaidd cwrs o dan Reoliadau 1998 mae'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn at ddibenion Rhan 6 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu unrhyw gwrs dynodedig dilynol y mae'n ei ddechrau (gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser) yn union ar ôl gorffen y cwrs hwnnw, ond onid yw paragraff (11) yn gymwys, bydd ganddo hawl i gael cymorth at ffioedd o dan Ran 4 a chymorth ar ffurf grant at gostau byw o dan Ran 5 os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni'r amodau cymhwysol perthnasol i gael cymorth o dan Rannau 4 a 5.

RHAN 2CYMHWYSTRA

Myfyrwyr cymwys

4.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

(a)os yw Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais y person am gymorth, yn penderfynu ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).

(3Ni fydd person yn fyfyriwr cymwys—

(a)os oes hen ddyfarniad wedi'i roi i'r person hwnnw mewn perthynas â phresenoldeb y person ar y cwrs;

(b)os yw'r person yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs o dan Ddeddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990 neu Orchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990;

(c)os rhoddwyd neu os talwyd i'r person mewn perthynas â'i bresenoldeb ar y cwrs–

(i)bwrsari gofal iechyd nad yw ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person; neu

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(48);

(ch)os yw'r person wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(d)os yw'r person wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu

(dd)os yw'r person, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(4At ddibenion paragraffau (3)(ch) a (3)(d), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a roddwyd o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(5Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991, a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y mae paragraff 3(d) yn gymwys.

(6Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn perthynas ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000 hawl, ar unrhyw un adeg, i gael cymorth—

(a)at fwy nag un cwrs dynodedig;

(b)at gwrs dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

(c)at gwrs dynodedig a chwrs ôl-radd dynodedig;

(ch)at gwrs dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig.

(7Yn ddarostyngedig i baragraffau (11) i (13) mae person yn bodloni'r amodau ym mharagraff (8), (9) neu (10)—

(a)os nad yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys iddo; a

(b)os yw'n fyfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.

(8Yr amodau yw—

(a)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynt ar y cwrs presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol; ac

(c)nad yw statws y person wedi'i derfynu.

(9Yr amodau yw—

(a)bod y cwrs presennol yn gwrs penben (ac eithrio un o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (c) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2) y mae'r person yn ei ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

(b)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef;

(c)mai dim ond ar y sail bod y myfyriwr wedi cwblhau'r cwrs y daeth y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r cwrs yn is-baragraff (b) i ben; ac

(ch)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b).

(10Yr amodau yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o'r blaen fod y person—

(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;

(ii)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig ac eithrio'r cwrs presennol; neu

(iii)yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)bod statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (a); ac

(ch)nad yw statws y person fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.

(11Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i ffoadur—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o'r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu'n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol; neu

(ii)yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae ei statws fel myfyriwr cymhwysol wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002)(49),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i'r cyfryw berson—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o'r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu'n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol; neu

(ii)yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o'r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae ei statws fel myfyriwr cymhwysol wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod a ganiateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi cychwyn ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw, ei fod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn fyfyriwr cymwys neu'n fyfyriwr cymhwysol, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

Cyrsiau dynodedig

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), (3) a (4) mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 4—

(a)os yw wedi'i grybwyll yn Atodlen 2;

(b)os yw'n un o'r canlynol—

(i)cwrs amser-llawn;

(ii)cwrs rhyngosod; neu

(iii)cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(c)os nad yw'n gwrs dysgu o bell dynodedig;

(ch)os yw o leiaf—

(i)yn parhau am un flwyddyn academaidd; neu

(ii)yn parhau am chwe wythnos yn achos cwrs HCA ôl-radd hyblyg; a

(d)os yw'n cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig.

(2Nid yw cwrs, sy'n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2, yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu i ddarparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

(3Nid yw cwrs a gymerir fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon sydd wedi'i seilio ar gyflogaeth yn gwrs dynodedig.

(4Nid yw paragraff 1(c) yn gymwys os bydd y person sy'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs—

(a)yn fyfyriwr anabl; a

(b)yn ymgymryd â'r cwrs hwnnw yn y Deyrnas Unedig ond heb fod yn bresennol arno am ei fod yn anabl i fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

(5At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, pa un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus ddim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(50).

(6Bernir bod cwrs y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol hyd yn oed—

(a)os yw'r cwrs yn arwain at ddyfarnu gradd neu gymhwyster arall cyn y radd neu'r cymhwyster cyfatebol; a

(b)os yw rhan o'r cwrs yn ddewisol.

(7Mae paragraff (6) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy'n arwain at gymhwyster fel meddyg, deintydd, milfeddyg, pensaer, pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

(8At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 4(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

6.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig hyd oni fydd y statws yn dod i ben yn unol â'r rheoliad hwn neu reoliad 4.

(2“Cyfnod cymhwystra” (“period of eligibilty”) yw'r cyfnod y mae myfyriwr cymwys yn cadw'r statws ynddo.

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 4, mae'r “cyfnod cymhwystra” yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs dynodedig ynddi.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn dod i ben pan fydd y myfyriwr cymwys—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo na throsi, neu lle na fyddant yn trosglwyddo nac yn trosi, statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys o dan reoliad 8, 80 neu reoliad 104; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliadau 66, 84, 108 a 117 a pharagraff 16 o Atodlen 4.

(7Os bydd y cyfnod cymhwystra'n dod i ben cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn cwblhau'r cwrs dynodedig ynddi, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y byddant yn penderfynu arno.

(8Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i OD+R+1 y mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac nad yw wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys.

(9Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (11), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (OD+R+1)−PC y mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd neu fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd ac sydd wedi bod yn bresennol ar gwrs blaenorol yn gymwys, ac eithrio—

(a)nad oes unrhyw ddidyniad sy'n cyfateb i PC yn gymwys yn achos myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon; a

(b)bod un flwyddyn ychwanegol yn cael ei hadio yn achos myfyriwr cymwys na chwblhaodd yn llwyddiannus y cwrs blaenorol diweddaraf oherwydd rhesymau personol anorchfygol.

(10Mae paragraff (11) yn gymwys—

(a)i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd ar gwrs penben o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2;

(b)i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—

(i)sydd wedi cwblhau cwrs amser-llawn a grybwyllir ym mharagraff 2 neu 3 o Atodlen 2;

(ii)sydd ar gwrs gradd gyntaf amser-llawn (ac eithrio gradd gyntaf ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon) na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i); a

(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol;

(c)i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd—

(i)sydd wedi cwblhau gradd sylfaenol amser-llawn;

(ii)sydd ar gwrs gradd anrhydedd amser-llawn na ddechreuodd arno yn union ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; a

(iii)nad yw wedi cymryd cwrs gradd gyntaf amser-llawn ar ôl y cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff (i) a chyn y cwrs presennol; ac

(ch)i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n fyfyriwr ar gwrs penben o'r math a ddisgrifir ym mharagraffau (a) a (b) o'r diffiniad o “cwrs penben” yn rheoliad 2.

(11Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grantiau neu fenthyciadau at ffioedd neu grantiau at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (D + X) − PrC y mae myfyriwr cymwys y mae a wnelo'r paragraff hwn ag ef yn gymwys.

(12Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n parhau yn gymwys.

(13Er gwaethaf paragraff (1) ac yn ddarostyngedig i baragraff (14), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo yn gymwys.

(14Dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs pellach am y nifer o flynyddoedd sy'n hafal i (A+R+1)−Y−Z y mae myfyriwr sy'n trosglwyddo ac sy'n dechrau blwyddyn academaidd lawn gyntaf cwrs pellach y mae'n trosglwyddo iddo o dan reoliad 8 ar ôl 1 Medi 2010 yn gymwys.

(15Mewn unrhyw achos lle mae nifer y blynyddoedd academaidd, y mae grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw ar gael ar eu cyfer yn unol â'r rheoliad hwn, yn llai na nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol, blynyddoedd diweddaraf y cwrs presennol yw'r blynyddoedd academaidd y mae'r myfyriwr yn gymwys ynddynt i gael grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw.

(16Yn y rheoliad hwn—

(a)A yw nifer y blynyddoedd academaidd o 31 Awst 2006 sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol neu, yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, y cwrs blaenorol;

(b)D yw 3 neu nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio cyfnod arferol y cwrs, pa un bynnag yw'r mwyaf;

(c)OD yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol;

(ch)PC yw nifer y blynyddoedd y bu'r myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs blaenorol;

(d)X yw 1 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn llai na thair blynedd a 2 pan oedd cyfnod arferol y cwrs rhagarweiniol yn dair blynedd;

(dd)R yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n cael eu hailadrodd ar y cwrs presennol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a'r rheini'n gyfnodau o ailadrodd y blynyddoedd academaidd blaenorol nad oedd y myfyriwr cymwys yn gallu eu cwblhau'n llwyddiannus oherwydd rhesymau personol anorchfygol;

(e)PrC yw'r nifer o flynyddoedd academaidd a dreuliodd y myfyriwr ar y cwrs rhagarweiniol ac eithrio unrhyw flynyddoedd yn ailadrodd astudiaethau am resymau personol anorchfygol;

(f)Y yw nifer blynyddoedd y cwrs presennol, neu'r cwrs blaenorol yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, y mae wedi'i benderfynu mewn perthynas â'r nifer hwnnw cyn 1 Medi 2006 o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd cymorth ar gael;

(ff)Z yw nifer y blynyddoedd academaidd a dreuliwyd ar gwrs blaenorol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006;

(g)ystyr “myfyriwr sy'n parhau” (“continuing student”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn a ddechreuodd ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006;

(ng)ystyr “myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon” (“teacher training student”) yw myfyriwr nad yw'n athro cymwysedig nac yn athrawes gymwysedig, sy'n bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, pan nad yw hyd y cwrs yn hwy na 2 flynedd a phan fo'r cwrs—

(i)yn gwrs amser-llawn; neu

(ii)yn gwrs rhan-amser (ac y mynegir ei hyd fel y cyfwerth amser-llawn) a phan fo'r cwrs naill ai—

(aa)wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(bb)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu

(cc)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs;

(h)ystyr “myfyriwr sy'n trosglwyddo” (“transferring student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf oddi ar gwrs dynodedig y dechreuodd y myfyriwr hwnnw arno cyn 1 Medi 2010.

(17Wrth gyfrifo nifer y blynyddoedd at ddibenion y rheoliad hwn, bydd presenoldeb am ran o flwyddyn academaidd yn cael ei drin fel presenoldeb am flwyddyn academaidd gyfan.

(18Caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod ychwanegol y byddant yn penderfynu arno.

(19Caiff Gweinidogion Cymru roi cymhwystra i gael grantiau a benthyciadau at ffioedd a grantiau at gostau byw heblaw yn unol â pharagraffau (8) i (16).

(20At ddibenion y rheoliad hwn ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau ym mharagraffau (22), (23) a (24) “cwrs blaenorol” yw unrhyw gwrs addysg uwch amser-llawn neu unrhyw gwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon y dechreuodd y myfyriwr ei fynychu neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig neu gwrs dysgu o bell dynodedig, y dechreuodd ymgymryd ag ef cyn y cwrs presennol ac sy'n bodloni un neu fwy o'r amodau ym mharagraff (21).

(21Yr amodau yw—

(a)bod y cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig a ariannwyd yn gyhoeddus am rywfaint o'r blynyddoedd academaidd neu'r cyfan ohonynt pan oedd y myfyriwr yn dilyn y cwrs; neu

(b)bod unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarndal o unrhyw ddisgrifiad a dalwyd i'r myfyriwr fod yn bresennol ar y cwrs neu, yn achos cwrs gradd cywasgedig neu gwrs dysgu o bell dynodedig, iddo ymgymryd â'r cwrs, i dalu ffioedd wedi'i dalu o gronfeydd cyhoeddus neu o gronfeydd a oedd i'w priodoli i gronfeydd cyhoeddus.

(22Nid ymdrinnir â chwrs a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—

(a)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)os nad yw hyd y cwrs presennol yn hwy na 2 flynedd a'r cwrs presennol—

(i)yn gwrs amser-llawn; neu

(ii)yn gwrs rhan-amser (ac y mynegir ei hyd fel y cyfwerth amser-llawn) a phan fo'r cwrs presennol naill ai—

(aa)wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(bb)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu

(cc)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs; ac

(c)nad yw'r myfyriwr yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig.

(23Nid ymdrinnir â chwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg a fyddai fel arall yn gwrs blaenorol fel y cyfryw—

(a)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg;

(b)os trosglwyddodd y myfyriwr i'r cwrs presennol o gwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg cyn cwblhau'r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau'r cwrs ar gyfer Tystysgrif mewn Addysg.

(24Nid ymdrinnir â chwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg fel cwrs blaenorol—

(a)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg;

(b)os trosglwyddodd y myfyriwr i'r cwrs presennol o gwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg cyn cwblhau'r cwrs hwnnw neu os dechreuodd ar y cwrs presennol ar ôl cwblhau'r cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg.

Astudio blaenorol

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), nid oes gan fyfyriwr cymwys sydd wedi ennill gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig hawl i gael grant na benthyciad at ffioedd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 hawl i gael benthyciad at gostau byw os yw wedi ennill gradd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs—

(a)os yw'r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)os nad yw hyd y cwrs yn hwy na 2 flynedd a'r cwrs—

(i)yn gwrs amser-llawn; neu

(ii)yn gwrs rhan-amser (ac y mynegir ei hyd fel y cyfwerth amser-llawn) a phan fo'r cwrs naill ai—

(aa)wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(bb)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu

(cc)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs; ac

(c)nad yw'r myfyriwr cymwys yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig.

(4Os bernir bod y cwrs presennol yn gwrs sengl oherwydd rheoliadau 5(6) a 5(7) a'i fod yn arwain at ddyfarnu gradd anrhydedd gan sefydliad yn y Deyrnas Unedig i'r myfyriwr cymwys cyn y radd derfynol neu'r cymwysterau cyfatebol, nid yw'r myfyriwr cymwys yn cael ei rwystro rhag bod â hawl i gael cymorth o dan baragraff (1) neu (2) mewn perthynas ag unrhyw ran o'r cwrs sengl yn rhinwedd y ffaith bod ganddo'r radd anrhydedd honno.

(5Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

(a)os yw'r cwrs presennol yn arwain at gymhwyster fel gweithiwr cymdeithasol;

(b)os yw'r myfyriwr cymwys i gael unrhyw daliad

(i)o dan fwrsari gofal iechyd y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban y cyfrifwyd ei swm drwy gyfeirio at ei incwm mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs presennol; neu

(c)os yw'r cwrs presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, sydd—

(i)yn gwrs amser-llawn; neu

(ii)yn gwrs rhan-amser sydd naill ai—

(aa)wedi dechrau cyn 1 Medi 2010;

(bb)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2010; neu

(cc)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs.

(6Yn y rheoliad hwn a rheoliad 6, ystyr “cyfnod arferol y cwrs” (“ordinary duration of the course”) yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau'r cwrs dynodedig ac ystyr “myfyriwr safonol” (“standard student”) yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un—

(i)sydd wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar yr un dyddiad â'r myfyriwr cymwys o dan sylw;

(ii)nad yw wedi'i esgusodi o unrhyw ran o'r cwrs am ei fod wedi bod yn bresennol ar gwrs arall;

(iii)na fydd yn ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs; ac

(iv)nad yw'n absennol o'r cwrs ac eithrio yn ystod gwyliau.

(7Mae paragraffau (7) ac (8) o reoliad 24 yn estyn i'r grantiau at gostau byw y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny ddarpariaethau'r rheoliad hwn sy'n ymwneud â'r hawl i gael benthyciadau at ffioedd a grantiau at ffioedd.

Trosglwyddo statws

8.—(1Os yw myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i'r cwrs hwnnw—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(2Dyma'r seiliau trosglwyddo—

(a)bod y myfyriwr cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn rhoi'r gorau i un cwrs ac yn dechrau

(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig arall yn y sefydliad;

(ii)yn ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig arall yn y sefydliad; neu

(iii)yn ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig yn y sefydliad;

(b)bod y myfyriwr cymwys yn dechrau

(i)bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(ii)ymgymryd â chwrs gradd cywasgedig mewn sefydliad arall;

(c)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd (gan gynnwys gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall;

(ch)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, wrth gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu

(d)ar ôl iddo ddechrau cwrs ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd), bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae gan fyfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) hawl i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y bydd yn trosglwyddo iddo, weddill y cymorth a asesir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd o'r cwrs y bydd yn trosglwyddo ohono.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu'r cymorth a gaiff mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo ohono ond yn gwneud hynny cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo, am grant neu fenthyciad arall o'r math y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ohono oni ddarperir fel arall.

RHAN 3GWNEUD CAIS AM GYMORTH A RHOI GWYBODAETH

Ceisiadau am gymorth

9.—(1Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth ai peidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, ei hysbysu o swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

Terfynau amser

10.—(1Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na diwedd y nawfed mis o'r flwyddyn academaidd y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi.

(2Nid yw'r rheol gyffredinol yn gymwys—

(a)os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 15 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd;

(b)os yw'r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 22 neu reoliad 23 neu fenthyciad cyfrannu at ffioedd o dan reoliad 21 neu fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 43 neu fenthyciad at ffioedd coleg o dan Atodlen 4 neu os yw'n ceisio am swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 22(3) neu 22(7), swm ychwanegol o fenthyciad cyfrannu at ffioedd o dan reoliad 21(6), neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd o dan reoliad 23(3), neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 57(3) neu swm ychwanegol o fenthyciad at ffioedd coleg o dan baragraff 11(2) o Atodlen 4 ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r cais yn ymwneud â hi;

(c)os yw'r ceisydd yn gwneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad cyfrannu at ffioedd o dan reoliad 21(4) neu swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 57(1), ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r cais yn cyfeirio ati neu o fewn cyfnod o un mis sy'n dechrau ar y diwrnod y caiff y ceisydd hysbysiad ynglŷn â'r uchafswm wedi'i gynyddu, pa un bynnag yw'r olaf;

(ch)os yw'r ceisydd yn gwneud cais am grant o dan reoliad 25, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol;

(d)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddynt.

Gwybodaeth

11.  Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.

Gofyniad i ymrwymo i gontract ar gyfer benthyciad

12.  Er mwyn cael benthyciad o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i fyfyriwr ymrwymo i gontract gyda Gweinidogion Cymru ar delerau sydd i'w penderfynu gan Weinidogion Cymru.

RHAN 4GRANTIAU A BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

PENNOD 1DARPARIAETH GYFFREDINOL

Cymorth at ffioedd yn gyffredinol

13.—(1Ni chaiff cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas â blwyddyn academaidd fod yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.

(2At ddibenion cyfrifo swm y cymorth at ffioedd o dan y Rhan hon, nid yw sefydliad sy'n darparu cyrsiau a ddynodir gan reoliad 4 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Dawnsio a Drama) 1999(51) i'w ystyried yn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus am ddim rheswm arall ond am ei fod yn cael cronfeydd cyhoeddus gan gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992(52).

(3Ymdrinnir â myfyriwr y mae paragraff (4) yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion cymhwyso ar gyfer cymorth at ffioedd.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

14.  Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 15 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)gall myfyriwr fod â hawl i gael grantiau a benthyciadau o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid yw'r grantiau a'r benthyciadau hyn ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

Digwyddiadau

15.  Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(ch)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(d)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(dd)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(f)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

PENNOD 2GRANTIAU AT FFIOEDD

Grantiau at ffioedd: amodau'r hawl i'w cael ar gyfer myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

16.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn a ddechreuodd gwrs dynodedig cyn 1 Medi 2006 ac sy'n parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2010 (“myfyriwr sy'n parhau”).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (5) a rheoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(3Pennir swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 17 neu 18.

(4Nid oes gan fyfyriwr sy'n parhau hawl i gael cymorth mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig—

(a)os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus; neu

(b)os yw'r cwrs dynodedig yn gwrs HCA ôl-radd hyblyg.

(5Nid oes gan fyfyriwr sy'n parhau hawl i gael grant at ffioedd mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd o'r cwrs sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 pan fo Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais am gymorth mewn perthynas â blwyddyn academaidd o'r cwrs dynodedig a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006, wedi penderfynu yn unol â rheoliadau a wnaed ganddynt o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd gan y myfyriwr hawl i gael cymorth at ffioedd mewn perthynas â'r cwrs dynodedig.

Swm y grant at ffioedd mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus ac mewn sefydliad preifat ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus: myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

17.—(1Oni fydd un o'r achosion canlynol a nodir ym mharagraff (4) yn gymwys, swm y grant at ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yw'r swm lleiaf o'r isod—

(a)£1,310; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(2Swm sylfaenol y grant at ffioedd ar gyfer myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn yr achosion ym mharagraff (4) yw'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£650, a

(b)y swm sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(3Os cyfrifir cyfraniad sy'n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o'r grant at ffioedd a benderfynir o dan baragraff (1) neu (2) yn unol â rheoliad 60.

(4Y canlynol yw'r achosion—

(a)blwyddyn derfynol y cwrs os yw fel rheol yn ofynnol i'r flwyddyn honno gael ei chwblhau ar ôl llai na 15 wythnos o bresenoldeb;

(b)mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd—

(i)pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;

(c)mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (gan gynnwys cwrs sy'n arwain at radd gyntaf)—

(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(ii)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(iii)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs,

blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos;

(ch)mewn perthynas â chwrs a ddarperir ar y cyd â sefydliad dros y môr, blwyddyn academaidd—

(i)pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig yn llai na 10 wythnos; neu

(ii)os bydd, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, cyfanswm unrhyw un neu fwy o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos.

(5Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,345.

(6Yn achos cwrs dynodedig yn Ysgol Cerdd a Drama Guildhall, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £4,775.

(7Swm sylfaenol y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad cyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £1,225 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—

(a)os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;

(b)os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

(c)os nad yw unrhyw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys.

(8Swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat sy'n darparu cwrs dynodedig ar ran sefydliad cyhoeddus yw'r lleiaf o'r symiau canlynol, sef £650 a'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno—

(a)os dechreuodd y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2001;

(b)os darperir y cwrs dynodedig ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac

(c)os yw un neu fwy o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys.

(9Pan gyfrifir cyfraniad sy'n fwy na dim o dan Atodlen 5, gwneir didyniad o swm y grant at ffioedd a benderfynir o dan baragraff (7) neu (8) yn unol â rheoliad 60.

Swm y grant at ffioedd ar gyfer cwrs mewn sefydliad preifat: myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

18.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig mewn sefydliad preifat yw'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£1,225; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(2Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant at ffioedd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw £3,110.

Grant newydd at ffioedd

19.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am grant newydd at ffioedd nad yw ei swm yn fwy na'r uchafswm sydd ar gael (yn unol â pharagraff (3) neu (4), yn ôl y digwydd) mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig cymhwysol, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Nid oes grant newydd at ffioedd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd—

(a)os yw'r flwyddyn honno yn flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus;

(b)os yw'r cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

(3Uchafswm y grant sydd ar gael o dan y rheoliad hwn i geisydd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig cymhwysol os nad yw'r un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys yw £1,980 neu y gwahaniaeth rhwng £1,310 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, pa un bynnag yw'r lleiaf.

(4Uchafswm y grant sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o'r fath o dan y rheoliad hwn i geisydd os yw un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys yw £990 neu'r gwahaniaeth rhwng £650 a'r ffioedd sy'n daladwy ganddo, pa un bynnag yw'r lleiaf.

(5Yn y Rheoliadau hyn ac yn ddarostyngedig i baragraff (6), ystyr “myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd” (“student who qualifies for a new fee grant”), mewn perthynas â chwrs dynodedig cymhwysol, yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n berson y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs dynodedig ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(6Nid yw myfyriwr carfan 2010 yn fyfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd.

(7Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “cwrs dynodedig cymhwysol” (“qualifying designated course”), mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd, yw cwrs dynodedig sy'n cael ei ddarparu gan sefydliad a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru.

PENNOD 3BENTHYCIADAU AT FFIOEDD

Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau at ffioedd

20.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig o dan y Rhan hon ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor o fod â hawl gan y paragraff canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd—

(a)os yw'r flwyddyn honno'n flwyddyn bwrsari neu'n flwyddyn Erasmus;

(b)os yw'r cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

Benthyciadau cyfrannu at ffioedd (i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn)

21.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig—

(a)os oes ganddo hawl i gael grant at ffioedd mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno neu os byddai wedi bod yn gymwys pe byddai wedi gwneud cais am y grant (hyd yn oed pe byddai'r swm wedi bod yn ddim); a

(b)os darperir y cwrs dynodedig gan neu ar ran sefydliad a oedd yn cael ei ariannu'n gyhoeddus ar 1 Awst 2005.

(2Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais am grant at ffioedd ac am fenthyciad cyfrannu at ffioedd, swm y benthyciad cyfrannu at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na'r swm a ddidynnwyd o'i grant at ffioedd yn unol â rheoliad 60.

(3Os benthyciad cyfrannu at ffioedd yw'r unig gymorth at ffioedd y mae myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn yn gwneud cais amdano, swm y benthyciad hwnnw mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dynodedig yw'r swm y mae'r myfyriwr yn gwneud cais amdano, a hwnnw'n swm nad yw'n fwy na £1,310 neu, os oes unrhyw rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £650.

(4Caiff myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad cyfrannu at ffioedd—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad cyfrannu at ffioedd (gan gynnwys rhoi swm pan na roddwyd dim ynghynt) sydd wedi'i hysbysu i'r myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr neu fel arall; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn—

(i)methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae ganddo hawl i'w gael; neu

(ii)rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.

(5Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (4), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.

(6Os yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn wedi gwneud cais am fenthyciad cyfrannu at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

Benthyciadau at ffioedd: myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes ganddynt hawl i gael grant newydd at ffioedd

22.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael benthyciad mewn perthynas â'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall.

(2Rhaid i swm benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£3,290 neu, os oes un o'r amgylchiadau ym mharagraff 17(4) yn gymwys, £1,640; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(3Os caiff statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys ei drosglwyddo o un cwrs dynodedig i un arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (4) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr hwnnw yn trosglwyddo iddo.

(4Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr wedi trosglwyddo ohono; a

(b)nad yw blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn dechrau ar ddyddiad diweddarach na blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr wedi trosglwyddo oddi arno.

(5Os yw paragraff (4)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr hwnnw'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm sy'n hafal i'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno, llai swm unrhyw fenthyciad at ffioedd y mae'r myfyriwr hwnnw wedi'i godi mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae wedi trosglwyddo oddi arni.

(6Os yw paragraff 4(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£3,290 neu, os oes un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £1,640; a

(b)y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.

(7Os yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw.

(8Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â myfyriwr os oes ganddo hawl i gael grant newydd at ffioedd a bod y cwrs yn gwrs dynodedig cymhwysol.

Benthyciadau at ffioedd: myfyrwyr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd

23.—(1Caiff myfyriwr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd wneud cais o dan y rheoliad hwn am fenthyciad mewn perthynas â mynychu'r cwrs dynodedig cymhwysol.

(2Uchafswm y benthyciad sydd ar gael o dan y rheoliad hwn yw'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£1,310 neu, pan fydd unrhyw un neu rai o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £650; a

(b)gweddill y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr a swm sy'n hafal i'r grant newydd at ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn honno neu mewn cysylltiad â hi fel arall wedi i ddidynnu oddi wrtho.

(3Os yw'r myfyriwr wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm hwnnw.

(4Os yw statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys yn cael ei drosglwyddo o gwrs dynodedig cymhwysol i gwrs dynodedig cymhwysol arall o dan y Rheoliadau hyn a bod un o'r amgylchiadau ym mharagraff (5) yn gymwys, caiff y myfyriwr fenthyg swm ychwanegol ar ffurf benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

(5Yr amgylchiadau yw—

(a)bod y ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo yn fwy na'r ffioedd sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys wedi trosglwyddo ohono; a

(b)nad yw blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr cymwys yn trosglwyddo iddo yn dechrau ar ddyddiad diweddarach na blwyddyn academaidd y cwrs y mae wedi trosglwyddo ohono.

(6Pan fo paragraff (5)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys ei fenthyg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm hafal i'r ffioedd sy'n daladwy ganddo mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno llai swm unrhyw fenthyciad at ffioedd y mae wedi'i gymryd a/neu unrhyw grant newydd at ffioedd y mae wedi'i dderbyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae wedi trosglwyddo ohoni.

(7Pan fo paragraff (5)(b) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff y myfyriwr cymwys ei fenthyg mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

(a)£3,290 neu, pan fo un o'r amgylchiadau yn rheoliad 17(4) yn gymwys, £1,640; a

(b)gweddill y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr llai swm hafal i'r grant newydd at ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi fel arall.

RHAN 5GRANTIAU AT GOSTAU BYW

Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw

24.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon ar yr amod—

(a)nad yw'r myfyriwr wedi'i hepgor o fod â'r hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 6 neu reoliad 7; a

(b)bod y myfyriwr yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'n gwneud cais amdano.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod odano.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon o ran—

(a)blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn bwrsari;

(b)blwyddyn academaidd cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—

(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(ii)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(iii)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs,

pan fo cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn, gan gynnwys presenoldeb at y diben o ymarfer addysgu, yn llai na 6 wythnos;

(c)cwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion sydd yn parhau am lai nag un flwyddyn academaidd.

(4Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys at ddibenion rheoliad 25.

(5Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs rhyngosod os yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos oni bai bod y cyfnodau o brofiad gwaith yn wasanaeth di-dâl.

(6At ddibenion paragraff (5), ystyr “gwasanaeth di-dâl” (“unpaid service”) yw—

(a)gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gydag ymddiriedolaeth gofal sylfaenol yn y Deyrnas Unedig;

(b)gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy'n ymwneud â gofal plant a phobl ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu sy'n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig;

(c)gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig;

(ch)ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr sy'n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu

(d)gwasanaeth di-dâl gydag unrhyw un o'r canlynol—

(i)Awdurdod Iechyd Strategol a sefydlwyd yn unol ag adran 13 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 28 o'r Ddeddf honno(53);

(ii)Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 neu Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd yn unol ag adran 22 o'r Ddeddf honno(54);

(iii)Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(55); neu

(iv)Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(56).

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan reoliadau 36 i 42 mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dynodedig os nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno.

(8Nid yw paragraff (7) yn gymwys os y rheswm nad oes gan y myfyriwr hawl i gael cymorth perthnasol o ran blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yw—

(a)bod y flwyddyn yn flwyddyn Erasmus; neu

(b)bod y cwrs dynodedig yn hen gwrs ôl-radd hyblyg ar gyfer hyfforddiant cychwynnol i athrawon.

(9Ym mharagraff (7) ystyr “cymorth perthnasol” (“relevant support”), yn achos grant o dan reoliad 36, yw grant at ffioedd, neu, yn achos grant o dan reoliadau 37 i 42, benthyciad at ffioedd.

(10Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (11) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, caiff y myfyriwr gymhwyso i gael grant penodol yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn gyfan neu ran ohoni ond nid oes ganddo hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(11Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(dd)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(12Yn ddarostyngedig i baragraff (13), nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os yw'n garcharor.

(13Nid yw paragraff (12) yn gymwys o ran grant at gostau byw myfyrwyr anabl.

(14Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl i gael ar gyfer y grantiau canlynol—

(a)grantiau ar gyfer dibynyddion;

(b)grant at gostau byw myfyrwyr anabl;

(c)grant cynhaliaeth neu grant cymorth arbennig;

(ch)grant addysg uwch.

(15Mae paragraff (14) yn gymwys i'r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig;

(b)myfyriwr anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl

25.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant at gostau byw myfyrwyr anabl i helpu i dalu am y gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei ysgwyddo mewn cysylltiad bod yn bresennol ar gwrs dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo.

(2Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl o dan y rheoliad hwn yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sy'n briodol yn unol amgylchiadau'r myfyriwr.

(3Ac eithrio pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

(a)£20,520 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,166 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol sy'n cael ei ysgwyddo—

(i)yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(ch)£1,729 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei ysgwyddo at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig a bennir yn y paragraffau hynny.

(4Os yw'r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu i dalu am wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â'r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (3)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.

(5Uchafswm y grant o dan baragraffau (3)(a) a (3)(ch) yw £15,390 a £1,293, yn y drefn honno–

(a)os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—

(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(ii)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(iii)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs; a

(b)os, mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, yw cyfanswm y cyfnodau o astudio amser-llawn ac ymarfer dysgu amser-llawn gyda'i gilydd yn llai na 6 wythnos.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — cyffredinol

26.—(1Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—

(a)grant ar gyfer dibynyddion mewn oed;

(b)grant gofal plant;

(c)lwfans dysgu ar gyfer rhieni.

(2Nodir amodau'r hawl i gael pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 27 i 30.

(3Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliad 60.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — grant ar gyfer dibynyddion mewn oed

27.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant ar gyfer dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r grant ar gyfer dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd i fyfyriwr cymwys sydd naill ai—

(a)yn bartner i'r myfyriwr cymwys; neu

(b)yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net yn fwy na £3,801.

(3Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 30, a'r swm sylfaenol yw—

(a)£2,647; neu

(b)os yw'r person y mae'r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant ar gyfer dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,647 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — grant gofal plant

28.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, hawl i gael grant gofal plant yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae'r grant gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn tynnu costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant ynddi a hynny ar gyfer—

(a)plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd; neu

(b)plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(57) a'i fod o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(58).

(4Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant y mae'n eu tynnu'n cael eu talu neu os ydynt i'w talu gan y myfyriwr i'w bartner.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—

(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £161.50 yr wythnos; neu

(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £274.55 yr wythnos,

ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n dod o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.

(6Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant gofal plant—

(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a

(b)os yw wythnos y tynnir costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant mewn perthynas â hi yn dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan i'r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir uchafswm wythnosol y grant drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (5) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy'n dod o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu'r canlyniad â saith.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant” (“prescribed childcare charges”) yw costau gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002(59).

Grantiau ar gyfer dibynyddion — lwfans dysgu ar gyfer rhieni

29.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i gael y lwfans dysgu ar gyfer rhieni os oes ganddo un neu fwy o ddibynyddion sy'n blant dibynnol.

(2Mae swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 30, a'r swm sylfaenol yw £1,508.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — eu cyfrifo

30.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliadau 27 i 29 yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 27;

(b)i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 28; ac

(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 29.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (13), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w chael yn daladwy.

(3Os yw (A − B) yn hafal i neu'n fwy na chyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

(4Gostyngir swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y gan y partner hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(5Gostyngir swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr cymwys—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(6Os yw swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu ar gyfer rhieni sy'n daladwy yw £50.

(7Yn y rheoliad hwn—

  • A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a

  • B yw—

    (a)

    £1,159 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol;

    (b)

    £3,473 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    (c)

    £4,632—

    (i)

    os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu

    (ii)

    os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn;

    (ch)

    £5,797 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

(8Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr cymwys yn newid;

(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr cymwys neu'n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;

(c)bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;

(ch)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 24(11).

(9Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol—

(a)faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;

(b)pwy yw'r dibynyddion hynny;

(c)a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.

(10Swm y grant ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu ar gyfer rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.

(11Mae swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.

(12Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw—

(a)yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(ch), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae'r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;

(b)fel arall, chwarter ac eithrio'r chwarter pryd y mae'r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.

(13Caniateir gwneud didyniad yn unol â Rhan 9 o'r swm sy'n daladwy o ran elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.

Grantiau ar gyfer dibynyddion — dehongli

31.—(1Yn rheoliadau 27 i 30—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (j), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr ac eithrio plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn bartner y myfyriwr;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto a hwnnw'n blentyn sy'n ddibynnol arno;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(ch)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(d)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr;

(dd)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;

(e)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (ff), (g), (ng), (h) ac (i) ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod i'r myfyriwr hwnnw os yw myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 a'i fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r myfyriwr cymwys os yw myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5 a'i fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(ff)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) yn cael ei drin fel partner—

(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

(ii)os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;

(g)at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;

(ng)at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” a “rhiant unigol”, mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr cymwys ar ei gwrs dynodedig a bennir neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) o Atodlen 5;

(h)at ddibenion rheoliad 28—

(i)nid yw is-baragraff (ff) yn gymwys; a

(ii)mae person i'w drin fel partner pe byddai'n bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae fel arfer yn byw gydag ef yn dod o fewn paragraff (2)(1)(a) o Atodlen 5;

(i)at ddibenion penderfynu a yw rhywun yn gyn-bartner i bartner i fyfyriwr cymwys, ystyr “partner” (“partner”) o ran partner i fyfyriwr cymwys yw—

(i)priod i bartner myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil i bartner myfyriwr cymwys;

(iii)pan fo'r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, rhywun sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel petai'n briod iddo;

(iv)pan fo'r myfyriwr cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel petai'n bartner sifil iddo;

(j)yn ddarostyngedig i is-baragraff (l), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependent”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin ag oedolyn neu blentyn fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw'r oedolyn neu'r plentyn—

(i)yn ddibynnol ar—

(aa)y myfyriwr cymwys; neu

(bb)ei bartner; ond

(ii)yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a'i bartner gyda'i gilydd.

(l)rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys yn unol ag is-baragraff (j), os yw A—

(i)yn briod neu'n bartner sifil i bartner y myfyriwr cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil yr ystyria Gweinidogion Cymru bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(ii)yn gyn-bartner partner y myfyriwr cymwys.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(60);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(61);

(ch)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(d)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(62);

(dd)unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(63);

(e)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno(64); ac

(f)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(65).

(3Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl—

(a)swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu

(b)unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol yn eu barn hwy.

(4At ddibenion paragraff (2), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn.

Amodau'r hawl i gael y grant at deithio

32.—(1Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys sy'n mynychu cwrs mewn meddygaeth neu ddeintyddiaeth (y mae rhan hanfodol ohono'n gyfnod o astudio ar ffurf hyfforddiant clinigol) mewn perthynas â'r gwariant rhesymol y mae'n orfodol iddo ei dynnu mewn blwyddyn academaidd at ddiben mynychu, mewn cysylltiad â'i gwrs, unrhyw ysbyty neu fangre arall yn y Deyrnas Unedig (nad yw'n rhan o'r sefydliad) lle y darperir cyfleusterau ar gyfer hyfforddiant clinigol ac eithrio gwariant a dynnir at ddiben cyfnod o astudio preswyl heb fod yn y sefydliad.

(2Mae grant ar gael i fyfyriwr cymwys ynglŷn â'r gwariant y mae'n orfodol iddo ei dynnu ym mhob chwarter cymhwysol naill ai yn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol mewn sefydliad tramor neu'r Athrofa fel rhan o'i gwrs.

Swm y grant at deithio

33.—(1Mae swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 32(1) mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn hafal i'r gwariant rhesymol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ei dynnu at y dibenion a nodir yn y rheoliad hwnnw llai £303.

(2Cyfrifir swm y grant sy'n daladwy o dan reoliad 32(2) mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

lle—

  • X yw cyfanswm y costau teithio rhesymol y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys eu tynnu ym mhob chwarter cymhwysol at y dibenion a nodir yn rheoliad 32.

  • Y yw cyfanswm y gwariant a dynnwyd ym mhob chwarter cymhwysol a bennir ym mharagraff (3).

(3Y gwariant a bennir ym mharagraff (2) yw—

(a)gwariant y mae'r myfyriwr cymwys yn rhesymol yn ei dynnu wrth yswirio rhag atebolrwydd am gost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig am unrhyw salwch neu anaf personol y mae'n ei ddal neu'n ei ddioddef yn ystod y cyfnod y mae'n bresennol yn y sefydliad tramor neu yn yr Athrofa;

(b)cost fisa neu fisâu y mae'n orfodol i'r myfyriwr cymwys eu cael er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad tramor neu'r Athrofa; ac

(c)costau meddygol y mae'n rhesymol i'r myfyriwr cymwys eu tynnu er mwyn cyflawni amod gorfodol i fynd i'r diriogaeth, y wlad neu'r wladwriaeth lle y mae'r sefydliad tramor neu'r Athrofa.

Didyniadau o'r grant at deithio

34.  Caniateir gwneud didyniad o grant o dan reoliadau 32 a 33 yn unol â Rhan 9.

Dehongli

35.  At ddibenion y Rhan hon—

(a)o ran unrhyw gyfeiriad at wariant a dynnir at ddiben mynychu sefydliad neu gyfnod o astudio—

(i)mae'n cynnwys gwariant cyn ac ar ôl mynychu felly; a

(ii)nid yw'n cynnwys unrhyw wariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan reoliad 25.

(b)ystyr “chwarter cymhwysol” (“qualifying quarter”) yw chwarter y mae myfyriwr cymwys yn treulio o leiaf hanner cyfnod y chwarter hwnnw yn mynychu, fel rhan o'i gwrs, sefydliad tramor neu'r Athrofa.

Grantiau addysg uwch

36.—(1Mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant addysg uwch mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant sy'n cael eu hysgwyddo er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(2Nid oes gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn hawl i gael grant addysg uwch oni bai ei fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

(3Uchafswm y grant addysg uwch sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,000.

(4Mae gan fyfyriwr cymwys sydd â hawl i gael grant addysg uwch hawlogaeth i gael swm fel a ganlyn—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £16,765 neu lai, mae ganddo hawlogaeth i gael uchafswm y grant sydd ar gael;

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £16,765 ac nad yw'n fwy na £22,750, mae'r myfyriwr yn cael swm sy'n hafal i M−A, pan fo M yn £1,000 ac A yn £1 am bob £6.30 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £16,765; ac

(c)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy nag £22,750, nid oes grant yn daladwy o dan y rheoliad hwn.

Grant cynhaliaeth

37.—(1Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, nad yw'n fyfyriwr carfan 2010, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 38 at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

(2Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2010, i gael grant cynhaliaeth yn unol â rheoliad 39 at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig.

(3Nid oes hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd i gael grant cynhaliaeth os oes hawl ganddo i gael grant cymorth arbennig.

Grant cynhaliaeth — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad ydynt yn fyfyrwyr carfan 2010

38.—(1Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw'n fyfyriwr carfan 2010 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—

(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,453;

(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,906;

(c)yn achos myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,453; ac

(ch)yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,906.

(2Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £1,453;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,453 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, mae'n cael £644.

(3Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,906;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,906 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, mae'n cael £1,288.

(4Mae myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £1,453;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,453 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−(A/2) pan fo RM yn £644 ac A yn £1 am bob £9.27 o incwm sydd uwchlaw £27,852;

(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

(5Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,906;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,906 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £1,288 ac A yn £1 am bob £9.27 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;

(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant cynhaliaeth — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyrwyr carfan 2010

39.—(1Uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2010 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,000.

(2Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2010 ac sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £5,000;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A, pan fo M yn £5,000 ac A yn £1 am bob £3.77 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £2,844 ac A yn £1 am bob £4.315 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae'n cael swm sy'n hafal i SM−A pan fo SM yn £1,106 ac A yn £1 am bob £15.17 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae'n cael £50; ac

(dd)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cynhaliaeth yn daladwy.

Grant cymorth arbennig

40.—(1Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, nad yw'n fyfyriwr carfan 2010, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 41 mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant a achosir iddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(2Mae hawl gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, sy'n fyfyriwr carfan 2010, i gael grant cymorth arbennig yn unol â rheoliad 42 mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig, i dalu costau llyfrau, offer, teithio neu ofal plant a achosir iddo at y diben o fod yn bresennol ar y cwrs hwnnw.

(3Mae gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd hawl i gael grant cymorth arbennig os yw'n dod o fewn categori rhagnodedig o bersonau at ddibenion adran 124(1)(e) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(66), neu os trinnir ef fel rhywun sy'n atebol i wneud taliadau mewn perthynas ag annedd, a ragnodir gan reoliadau a wnaed o dan adran 130(2) o'r Ddeddf honno(67).

Grant cymorth arbennig — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad ydynt yn fyfyrwyr carfan 2010

41.—(1Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd nad yw'n fyfyriwr carfan 2010 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw—

(a)yn achos myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,453;

(b)yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,906;

(c)yn achos myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £1,453; ac

(ch)yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,906.

(2Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £1,453;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,453 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, mae'n cael £644.

(3Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,906;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,906 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370; ac

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852, neu os yw'r myfyriwr wrth wneud cais am y grant yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm yr aelwyd, mae'n cael £1,288.

(4Mae myfyriwr math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £1,453;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,453 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−(A/2), pan fo RM yn £644 ac A yn £1 am bob £9.27 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852; ac

(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

(5Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1, math 2 neu fath 3 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £2,906;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £27,852, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A pan fo M yn £2,906 ac A yn £1 am bob £5.86 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £27,852 ond heb fod yn fwy na £39,329, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £1,288 ac A yn £1 am bob £9.27 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £27,852;

(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £39,329, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

Grant cymorth arbennig — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyrwyr carfan 2010

42.—(1Uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2010 mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £5,000.

(2Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2010 ac sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—

(a)os yw incwm yr aelwyd yn £18,370 neu lai, mae'n cael £5,000;

(b)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £18,370 ond heb fod yn fwy na £26,500, mae'n cael swm sy'n hafal i M−A, pan fo M yn £5,000 ac A yn £1 am bob £3.77 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £18,370;

(c)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £26,500 ond heb fod yn fwy na £34,000, mae'n cael swm sy'n hafal i RM−A pan fo RM yn £2,844 ac A yn £1 am bob £4.315 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500;

(ch)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £34,000 ond heb fod yn fwy na £50,020, mae'n cael swm sy'n hafal i SM−A pan fo SM yn £1,106 ac A yn £1 am bob £15.17 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £34,000;

(d)os yw incwm yr aelwyd yn £50,020, mae'n cael £50; ac

(dd)os yw incwm yr aelwyd yn fwy na £50,020, nid oes unrhyw grant cymorth arbennig yn daladwy.

RHAN 6BENTHYCIADAU AT GOSTAU BYW

Amodau'r hawl i gael benthyciadau at gostau byw

43.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r myfyriwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw'n cael ei hepgor gan baragraff (3) neu reoliad 7.

(2Yr amod yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn dod odano.

(4Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r cwrs hwnnw'n gwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion sy'n parhau am lai nag un flwyddyn academaidd.

(5Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r cwrs hwnnw—

(a)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009; a;

(b)sy'n arwain at gymhwyster fel pensaer tirwedd, dylunydd tirwedd, rheolwr tirwedd, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.

(6Mae myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n dod o fewn paragraff (a) neu (ch)(i) o'r diffiniad o “myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn” yn rheoliad 2 yn gymwys i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â mynychu cwrs dynodedig os yw'n bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw wedi'i wahardd gan baragraff (3).

(7Ymdrinnir â myfyriwr y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai'n bresennol ar y cwrs dynodedig at ddibenion bod â hawl i gael benthyciad at gostau byw.

(8Mae paragraff (7) yn gymwys i'r canlynol—

(a)myfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(b)myfyriwr anabl—

(i)nad yw'n fyfyriwr cwrs gradd cywasgedig; a

(ii)sy'n ymgymryd â chwrs dynodedig yn y Deyrnas Unedig ond nad yw'n bresennol am na all fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd.

(9Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os yw'n garcharor.

Cyffredinol

44.  Cyfrifir uchafswm y benthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn, yn unol â rheoliad 45;

(b)pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad yw'n fyfyriwr carfan 2010, yn unol â rheoliadau 46 a 47;

(c)pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010, yn unol â rheoliad 48;

(ch)pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr sydd â'i hawlogaeth wedi'i gostwng, yn unol â rheoliad 49.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn

45.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 50 i 55, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, sydd â hawlogaeth lawn, hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys), yw—

(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,673;

(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,648;

(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £5,658;

(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £5,658;

(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,745.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 50 i 55, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, sydd â hawlogaeth lawn hawl, i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yw—

(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,324;

(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,053;

(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £4,920;

(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £4,920;

(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,396.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad ydynt yn fyfyrwyr carfan 2010

46.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac nad yw'n fyfyriwr carfan 2010 (ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, y mae ei gyfraniad yn uwch na dim).

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 50 i 55, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys) yn hafal i (X−Y) ac—

  • X

    (i)

    i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,673;

    (ii)

    i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £6,648;

    (iii)

    i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £5,658;

    (iv)

    i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £5,658;

    (v)

    i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,745;

  • Y yw'r swm grant cynhaliaeth.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 50 i 55, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yn hafal i (X−Y) ac—

  • X

    (i)

    i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,324;

    (ii)

    i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £6,053;

    (iii)

    i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £4,920;

    (iv)

    i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £4,920;

    (v)

    i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,396;

  • Y yw'r swm grant cynhaliaeth.

(4Yn y rheoliad hwn, “y swm grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw'r canlynol—

(a)os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 38 i gael swm o grant cynhaliaeth nad yw'n fwy na £1,288, swm y grant cynhaliaeth sy'n daladwy;

(b)os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 38 i gael swm o grant cynhaliaeth sy'n fwy na £1,288, £1,288; ac

(c)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, dim.

47.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 neu i fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ei gyfraniad yn uwch na dim.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 50 i 55, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam, yw—

(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,673;

(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,648;

(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £5,658;

(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £5,658;

(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,745.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 50 i 55, uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam, yw—

(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, £3,324;

(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,053;

(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, £4,920;

(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, £4,920;

(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,396.

Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyrwyr carfan 2010

48.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn ac yn fyfyriwr carfan 2010.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 50 i 55, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys) yn hafal i (X−Y) ac—

  • X

    (i)

    i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,673;

    (ii)

    i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £6,648;

    (iii)

    i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £5,658;

    (iv)

    i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £5,658;

    (v)

    i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,745.

  • Y yw'r swm grant cynhaliaeth.

(3Yn ddarostyngedig i reoliadau 50 i 55, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys yn hafal i (X−Y) ac—

  • X

    (i)

    i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £3,324;

    (ii)

    i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £6,053;

    (iii)

    i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £4,920;

    (iv)

    i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £4,920;

    (v)

    i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,396.

  • Y yw'r swm grant cynhaliaeth.

(4Yn y rheoliad hwn, “y swm grant cynhaliaeth” (“the maintenance grant amount”) yw'r canlynol—

(a)os oes hawl gan y myfyriwr o dan reoliad 39 i gael swm o grant cynhaliaeth, y swm sy'n hafal i £0.60 am bob £1 gyflawn o grant cynhaliaeth y mae hawl gan y myfyriwr i'w gael, hyd at uchafswm gwerth Y o £2,844;

(b)os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy o dan reoliad 39, dim.

Myfyrwyr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng

49.—(1Yn ddarostyngedig i reoliadau 50 i 55, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw, y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys, fel a ganlyn—

(a)os yw'r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 24(3)(a)—

(i)£1,744 i fyfyriwr yng nghategori 1;

(ii)£3,268 i fyfyriwr yng nghategori 2;

(iii)£2,324 i fyfyriwr yng nghategori 3;

(iv)£2,324 i fyfyriwr yng nghategori 4;

(v)£2,324 i fyfyriwr yng nghategori 5.

(b)os yw'r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 24(3)(b) neu 24(5)—

(i)£1,744 i fyfyriwr yng nghategori 1;

(ii)£3,268 i fyfyriwr yng nghategori 2;

(iii)£2,780 i fyfyriwr yng nghategori 3;

(iv)£2,780 i fyfyriwr yng nghategori 4;

(v)£2,324 i fyfyriwr yng nghategori 5.

(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd, swm hafal i (X−Y) ac—

  • X

    (i)

    i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £2,755;

    (ii)

    i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £4,986;

    (iii)

    i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £4,244;

    (iv)

    i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £4,244;

    (v)

    i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £3,559.

  • Y yw'r swm a bennir ym mharagraff (ch).

    (ch)

    y swm penodedig yw—

    (i)

    £644, os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £644;

    (ii)

    £1,288, os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,288;

    (iii)

    dim, pan na fo'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.

(2Yn ddarostyngedig i reoliadau 50 i 55, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs dwys, fel a ganlyn—

(a)os yw'r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 24(3)(a)—

(i)£1,324 i fyfyriwr yng nghategori 1;

(ii)£2,498 i fyfyriwr yng nghategori 2;

(iii)£1,811 i fyfyriwr yng nghategori 3;

(iv)£1,811 i fyfyriwr yng nghategori 4;

(v)£1,811 i fyfyriwr yng nghategori 5;

(b)os yw'r myfyriwr yn dod o fewn rheoliad 24(3)(b) neu 24(5)—

(i)£1,324 i fyfyriwr yng nghategori 1;

(ii)£2,498 i fyfyriwr yng nghategori 2;

(iii)£2,031 i fyfyriwr yng nghategori 3;

(iv)£2,031 i fyfyriwr yng nghategori 3;

(v)£1,811 i fyfyriwr yng nghategori 3.

(c)os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd swm hafal i (X−Y) ac—

  • X

    (i)

    i fyfyriwr yng nghategori 1, yw £2,493;

    (ii)

    i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £4,540;

    (iii)

    i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £3,690

    (iv)

    i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £3,690;

    (v)

    i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £3,297.

  • Y yw'r swm a bennir ym mharagraff (ch).

    (ch)

    y swm penodedig yw—

    (i)

    £644 os myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £644;

    (ii)

    £1,288 os myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon yw'r myfyriwr, sy'n dewis peidio â darparu'r wybodaeth y mae ei hangen ar gyfer cyfrifo incwm yr aelwyd pan fo'n gwneud cais am grant cynhaliaeth a bod ganddo hawl i gael grant cynhaliaeth o £1,288;

    (iii)

    dim, pan nad fo'r myfyriwr yn fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon nac yn fyfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon.

Myfyrwyr sy'n preswylio gyda'u rhieni

50.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw myfyriwr cymwys yn preswylio yng nghartref ei rieni a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni nad yw'n rhesymol disgwyl, o dan yr holl amgylchiadau, i rieni'r myfyriwr gynnal y myfyriwr oherwydd oedran, analluedd neu fel arall ac y byddai'n briodol i swm y benthyciad sy'n daladwy i fyfyriwr mewn categori ac eithrio categori 1 fod yn gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw, rhaid trin y myfyriwr fel pe na bai'n preswylio yng nghartref ei rieni.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2004.

Benthyciadau at gostau byw sy'n daladwy ar gyfer tri chwarter o'r flwyddyn academaidd

51.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 53, mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â thri chwarter o'r flwyddyn academaidd.

(2Nid yw benthyciad at gostau byw yn daladwy—

(a)yn achos myfyriwr cwrs gradd cywasgedig, mewn perthynas â'r chwarter a enwir gan Weinidogion Cymru;

(b)mewn unrhyw achos arall, mewn perthynas â'r chwarter y mae'r hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd ynddo ym marn Gweinidogion Cymru.

Myfyrwyr sy'n dod o fewn mwy nag un categori

52.—(1Os yw myfyriwr cymwys yn dod o fewn mwy nag un o'r categorïau yn rheoliad 56 yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)uchafswm y benthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad at gostau byw am bob chwarter y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas ag ef;

(b)uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn dod o fewn y categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd; ac

(c)y categori sy'n gymwys i chwarter yw—

(i)y categori y mae'r myfyriwr yn dod iddo am y cyfnod hwyaf yn y chwarter hwnnw; neu

(ii)os yw'r myfyriwr yn dod o fewn mwy nag un categori am gyfnod cyfartal yn y cyfnod hwnnw, y categori sydd â'r gyfradd uchaf o fenthyciad at gostau byw am y flwyddyn academaidd.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

53.—(1Os yw myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (2), gall fod gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at gostau byw, mewn perthynas â'r chwarteri hynny o'r flwyddyn academaidd honno y mae benthyciad at gostau byw yn daladwy mewn perthynas â hwy ac sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ym mharagraff (2) ddigwydd.

(2Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(dd)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(3Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd ynddi.

(4Uchafswm y benthyciad at gostau byw sy'n daladwy yw cyfanswm uchafsymiau'r benthyciad am bob chwarter y mae gan y myfyriwr hawl i gael cymorth mewn perthynas ag ef o dan y rheoliad hwn.

(5Uchafswm y benthyciad at gostau byw am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad at gostau byw a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn dod o fewn y categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Codiadau yn yr uchafswm

54.—(1Os yw'n ofynnol i fyfyriwr cymwys fod yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod sy'n fwy na 30 wythnos a 3 diwrnod mewn blwyddyn academaidd, rhaid codi uchafswm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 45 i 48 am bob wythnos neu bob rhan o wythnos o bresenoldeb yn y flwyddyn academaidd honno y tu hwnt i 30 wythnos a 3 diwrnod fel a ganlyn:

(a)i fyfyriwr yng nghategori 1, codiad o £55;

(b)i fyfyriwr yng nghategori 2, codiad o £106;

(c)i fyfyriwr yng nghategori 3, codiad o £115;

(ch)i fyfyriwr yng nghategori 4, codiad o £115;

(d)i fyfyriwr yng nghategori 5, codiad o £83.

(2Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod nad yw'n llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, codir swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 45 i 48 am bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys yn achos myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng

Didynnu o fenthyciadau at gostau byw

55.—(1Caniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn neu fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn o'r benthyciad at gostau byw yn unol â rheoliad 60.

(2Ni chaniateir didynnu o swm y benthyciad at gostau byw a gyfrifir o dan y Rhan hon mewn perthynas â myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng o dan reoliad 60.

Dehongli Rhan 6

56.—(1Yn y Rhan hon—

(a)mae myfyriwr yng nghategori 1 os yw'r myfyriwr yn preswylio yng nghartref ei rieni tra bydd yn bresennol ar y cwrs dynodedig neu os dechreuodd y cwrs presennol ar 1 Medi 2009 a'i fod yn aelod o urdd grefyddol ac yn byw yn un o dai'r urdd honno;

(b)mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a'i fod yn bresennol ar un neu fwy o'r canlynol—

(i)cwrs ym Mhrifysgol Llundain;

(ii)cwrs mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu

(iii)cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr cymwys ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r profiad gwaith hwnnw neu'r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;

(c)mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 ac os yw'r myfyriwr yn mynychu sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs;

(ch)mae myfyriwr yng nghategori 4 os nad yw'r myfyriwr yng nghategori 1 a'i fod yn mynychu'r Athrofa;

(d)mae myfyriwr yng nghategori 5 os nad yw yng nghategorïau 1 i 4;

(dd)“myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn” (“new system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng;

(e)“myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn” (“old system eligible student with full entitlement”) yw myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng;

(f)ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs dynodedig a bennir;

(ff)“myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng” (“student with reduced entitlement”) yw myfyriwr cymwys—

(i)nad yw'n gymwys i gael grant at gostau byw neu gostau eraill mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd yn rhinwedd rheoliad 24(3)(a) neu (b) neu reoliad 24(5); neu

(ii)sydd, wrth wneud cais am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio â rhoi'r wybodaeth y mae ei hangen i gyfrifo incwm ei aelwyd;

(g)os un flwyddyn academaidd yn unig yw hyd cwrs i raddedigion neu ar lefel ôl-radd ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon, nid yw'r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.

RHAN 7DARPARIAETHAU CYFFREDINOL YNGLŶN Å BENTHYCIADAU

Symiau ychwanegol o fenthyciadau

57.—(1Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw—

(a)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu y dylid cynyddu uchafswm y benthyciad at gostau byw sydd wedi'i hysbysu i'r myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd (gan gynnwys cynnydd i fyny o ddim byd) o ganlyniad i ailasesu cyfraniad y myfyriwr neu fel arall; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys—

(i)methu â rhoi yn brydlon wybodaeth a allai effeithio ar ei allu i fod â hawl i gael benthyciad neu swm y benthyciad y mae ganddo hawl i'w gael; neu

(ii)rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.

(2Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (1), o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu.

(3Os yw myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am fenthyciad sy'n llai na'r uchafswm y mae ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn ei achos ef.

RHAN 8BENTHYCIADAU AT FFIOEDD COLEG

Benthyciadau at ffioedd coleg

58.  Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael i fyfyriwr cymwys yn unol ag Atodlen 4.

RHAN 9ASESIAD ARIANNOL

Cyfrifo'r cyfraniad

59.—(1Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 5, os oes unrhyw swm o gwbl.

(2At ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf a'r rheoliadau a wnaed odani, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o bryd i'w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr.

Cymhwyso'r cyfraniad

60.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae swm sy'n hafal i'r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 5 i'w gymhwyso hyd nes dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn—

(a)yn gyntaf, i ostwng GFF;

(b)yn ail, i ostwng ADG;

(c)yn drydydd, i ostwng CCG;

(ch)yn bedwerydd, i ostwng PLA;

(d)yn bumed, i ostwng LLC i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd;

(dd)yn chweched, i ostwng GFT.

(2Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo swm sylfaenol y grant at ffioedd wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 17(1) a 17(7), i benderfynu swm gwirioneddol y grant at ffioedd sy'n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso'r cyfraniad yn unol â pharagraff (1).

(3Yn achos myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn, pan fo swm sylfaenol y grant at ffioedd wedi'i gyfrifo yn unol â rheoliad 17(2) neu 17(8) a phan fo un o'r achosion a nodir yn rheoliad 17(4)(b) neu (ch) yn gymwys, er mwyn penderfynu swm gwirioneddol y ffioedd sy'n daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)yn gyntaf, gymhwyso'r cyfraniad i ostwng swm sylfaenol y grant at ffioedd;

(b)yn ail, os nad yw'r cyfraniad wedi'i ddihysbyddu, didynnu swm sy'n hafal i swm sylfaenol y grant at ffioedd o'r hyn sydd ar ôl o'r cyfraniad gan ostwng gweddill y cyfraniad i ddim llai na dim; ac

(c)yn drydydd, os nad yw'r cyfraniad eto wedi'i ddihysbyddu, cymhwyso'r gweddill yn gyntaf i ostwng ADG yn unol â pharagraff (1).

(4Os yw'r cwrs yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs ar gyfer gradd gyntaf), nid oes unrhyw ddidyniad o'r swm sylfaenol o'r grant at ffioedd o dan y rheoliad hwn a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG yn unol â pharagraff (1).

(5Yn achos blwyddyn Erasmus, rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso'r swm y mae'r cyfraniad yn fwy na £1,310, yn gyntaf i ostwng ADG yn unol â pharagraff (1).

(6Os nad oes hawl gan y myfyriwr i gael grant at ffioedd am unrhyw reswm arall, mae GFF yn ddim a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG.

(7Yn achos myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, mae GFF yn ddim a chymhwysir y cyfraniad yn gyntaf i ostwng ADG.

(8Yn y rheoliad hwn—

(a)ADG yw swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 30;

(b)CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 30;

(c)GFF yw swm y grant at ffioedd, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan Ran 4;

(ch)GFT yw swm y grant at deithio y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliad 32, os oes unrhyw swm o gwbl;

(d)LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes unrhyw swm o gwbl, y mae gan y myfyriwr cymwys (ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi'i gostwng) hawl i'w gael o dan Ran 6 i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd a bennir ym mharagraff (9);

(dd)PLA yw swm, os oes unrhyw swm o gwbl, lwfans dysgu'r rhieni a gyfrifir o dan reoliad 30 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).

(9Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) a (11), y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yn rheoliad 60(1)(d) yw—

(a)£2,755, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;

(b)£4,986, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;

(c)£4,244, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;

(ch)£4,244, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;

(d)£3,559, yn achos myfyriwr yng nghategori 5.

(10Yn ddarostyngedig i baragraff (11), os y flwyddyn academaidd o dan sylw yw blwyddyn derfynol cwrs ac eithrio cwrs dwys, y “lefel isaf am y flwyddyn academaidd” (“minimum level for the academic year”) yw—

(a)£2,493, yn achos myfyriwr yng nghategori 1;

(b)£4,540, yn achos myfyriwr yng nghategori 2;

(c)£3,690, yn achos myfyriwr yng nghategori 3;

(ch)£3,690, yn achos myfyriwr yng nghategori 4;

(d)£3,297, yn achos myfyriwr yng nghategori 5.

(11Os oes categorïau gwahanol yn gymwys ar gyfer gwahanol chwarteri o'r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (9) a (10) yw cyfanswm y symiau a benderfynir o dan baragraff (12) ar gyfer pob un o'r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy.

(12Y swm a bennir ar gyfer pob chwarter yw traean o'r swm ym mharagraff (9) neu (10) sy'n cyfateb i'r gyfradd sy'n gymwys ar gyfer y chwarter.

(13Y swm sy'n weddill ar ôl didynnu £644 o swm y benthyciad at gostau byw sy'n weddill ar ôl cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r rheoliad hwn yw'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd i fyfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddo incwm aelwyd sy'n fwy na £39,793.

(14Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyrwyr math 1 a math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon y mae ganddynt hawl i gael grant cynhaliaeth ac y mae eu cyfraniad yn fwy na dim.

(15Mae'r benthyciad at gostau byw sy'n daladwy o ran blwyddyn academaidd i fyfyriwr y mae paragraff (14) yn gymwys iddo yn cael ei gyfrifo fel a ganlyn—

A - B

ac—

  • A yw swm y benthyciad at gostau byw sydd ar ôl wedi gorffen cymhwyso'r cyfraniad yn unol â'r Rhan hon; a

  • B yw swm y grant cynhaliaeth sy'n daladwy i'r myfyriwr.

(16Mae i gategorïau 1 i 5 yr ystyr a roddir yn rheoliad 56.

RHAN 10TALIADAU

Talu grantiau neu fenthyciadau at ffioedd

61.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael onid ydynt wedi cael cais am dâl oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol ac yn achos benthyciad at ffioedd, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r benthyciad cyn bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd wedi dod i ben.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r benthyciad at ffioedd y mae myfyriwr yn ymgymhwyso ar ei gyfer i awdurdod academaidd y mae'r myfyriwr yn atebol i dalu iddo.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant at ffioedd i'r awdurdod academaidd—

(a)nid cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid hwyrach na 10 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod yn is-baragraff (a), neu yn ddi-oed ar ôl i gais dilys am daliad ddod i law, os yw hynny yn hwyrach.

(4Os yw asesu cyfraniad y myfyriwr neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.

(5Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r benthyciad at ffioedd mewn rhandaliadau.

(6Os yw asesu cyfraniad myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y benthyciad cyfrannu at ffioedd y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael o dan reoliad 21, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad dros dro.

(7Ni chaniateir talu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—

(a)os bydd y myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs cyn diwedd cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd neu, yn achos myfyriwr yr ymdrinnir ag ef fel pe bai'n bresennol o dan reoliad 13(3) ac 13(4), yn ymgymryd â'r cwrs; a

(b)os yw'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol neu yn ôl y digwydd, ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas â hi neu o gwbl.

Talu grantiau at gostau byw

62.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 5 yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae o'r farn eu bod yn briodol

(2Mae'n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth o dan Ran 5 mewn rhandaliadau, rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth o dan y Rhan honno i fyfyriwr cymwys cyn i'r cadarnhad o bresenoldeb ddod i law onid oes eithriad yn gymwys.

(4Mae eithriad yn gymwys—

(a)pan fo grant at gostau byw myfyrwyr anabl yn daladwy, ac yn yr achos hwnnw caniateir talu'r grant arbennig hwnnw cyn i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law Gweinidogion Cymru; neu

(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol oherwydd amgylchiadau eithriadol i wneud taliad a chadarnhad o bresenoldeb heb eto ddod i law.

(5Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 5.

(6Mae taliadau cymorth o dan Ran 5 i'w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys yn garcharor arno, oni fyddai'n briodol o dan yr holl amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r diwrnod hwnnw.

(8Nid yw paragraff (7) yn gymwys mewn perthynas â grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl.

(9Wrth benderfynu a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (7), mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol y byddai peidio â thalu'r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu'r cymorth yn effeithio ar allu'r myfyriwr i barhau â'r cwrs.

(10Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.

(11Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—

(a)swm pob grant at gostau byw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael ac a fyddai'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol pe na byddai cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys wedi dod i ben (y “cyfanswm”); a

(b)faint o'r cyfanswm sy'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod sy'n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys i ben (y “swm rhannol”).

(12Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(13Os yw Gweinidogion Cymru wedi talu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys i ben a bod taliad yn fwy na swm rhannol y grant hwnnw—

(a)cânt drin y tâl dros ben fel gordaliad o'r grant hwnnw; neu

(b)os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny cânt estyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chânt benderfynu bod cyfanswm y grant yn ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

(14Yn ddarostyngedig i baragraff (15), os yw taliad grant at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i'w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y'i telir, swm y grant hwnnw sy'n ddyledus yw'r swm rhannol onid yw Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol i estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol neu'n briodol i benderfynu bod cyfanswm y grant hwnnw'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

(15Nid yw paragraff (14) yn gymwys i daliad grant at gostau byw i fyfyrwyr anabl o ran offer arbenigol.

(16Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 5 yn ddyledus mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr amgylchiadau i gyd i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.

(17Wrth benderfynu pa un a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (16) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu.

(18Nid ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu mynychu oherwydd salwch ac os nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.

(19Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad o gymorth o dan Ran 5 neu Ran 6, yn penderfynu swm y grant at gostau byw a chostau eraill y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—

(a)os penderfyniad i gynyddu swm y grant hwnnw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael yw'r penderfyniad rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r swm ychwanegol yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn briodol;

(b)os penderfyniad i ostwng swm y grant hwnnw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael yw'r penderfyniad rhaid i Weinidogion Cymru dynnu i ffwrdd swm y gostyngiad o swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu;

(c)os yw swm y gostyngiad yn fwy na swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim a chaiff y balans ei dynnu i ffwrdd o unrhyw grant arall at gostau byw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd;

(ch)gellir adennill unrhyw ordaliad sy'n weddill yn unol â rheoliad 66.

Darparu Rhif yswiriant gwladol y Deyrnas Unedig

63.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad o ran unrhyw fenthyciad fod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer ei rif yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

(2Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gosod amod o dan baragraff (1), rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o ran y benthyciad i'r myfyriwr cymwys cyn iddynt gael ei fodloni bod y myfyriwr wedi cydymffurfio â'r amod hwnnw.

(3Er gwaethaf paragraff (2), caiff Gweinidogion Cymru, os ydynt wedi'u bodloni y byddai'n briodol iddynt wneud taliad o'r fath o achos amgylchiadau eithriadol, wneud taliad benthyciad i fyfyriwr cymwys heb fod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â'r amod a osodwyd o dan baragraff (1).

Gofynion o ran gwybodaeth

64.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am wybodaeth y maent o'r farn ei bod yn ofynnol ar gyfer adennill benthyciad.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i geisydd neu fyfyriwr cymwys am gael gweld ei gerdyn adnabod dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae'n un o'i dinasyddion neu ei dystysgrif geni.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, cânt gadw'n ôl unrhyw daliad benthyciad hyd nes bo'r ceisydd neu'r myfyriwr cymwys yn darparu'r hyn y gofynnwyd amdano neu'n darparu eglurhad boddhaol am beidio â chydymffurfio â'r cais.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol bod ceisydd neu fyfyriwr cymwys yn ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.

(5Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynglŷn â'r dull o ad-dalu o dan y rheoliad hwn, cânt gadw'n ôl unrhyw daliad benthyciad hyd nes bo'r ceisydd neu'r myfyriwr cymwys yn darparu'r hyn y gofynnwyd amdano.

Talu benthyciadau at gostau byw

65.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 6 mewn rhandaliadau.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth o dan Ran 6 ar y cyfryw adegau ag y maent o'r farn eu bod yn briodol.

(3Mae'n ofynnol i awdurdod academaidd anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf, neu pan fyddant wedi penderfynu peidio â thalu cymorth o dan Ran 6 drwy randaliadau, wneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 i'r myfyriwr cymwys hyd oni fydd cadarnhad o bresenoldeb wedi dod i law oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol onid oes eithriad yn gymwys.

(5Mae eithriad yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol, o achos amgylchiadau eithriadol, iddynt wneud taliad heb i gadarnhad o bresenoldeb ddod i law.

(6Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd gan y myfyriwr, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad a thaliad cymorth dros dro o dan Ran 6.

(7Mae taliadau cymorth o dan Ran 6 i'w gwneud yn y cyfryw fodd ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod y rhaid i'r myfyriwr cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

(8Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 5 neu o dan Ran 6 a bod myfyriwr sy'n gymwys i gael benthyciad at gostau byw o dan Ran 6 yn gwneud cais am fenthyciad o'r fath neu'n gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff Gweinidogion Cymru dalu'r benthyciad hwnnw neu'r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y maent o'r farn eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i gais boddhaol ddod i law.

(9Yn ddarostyngedig i baragraff (10), nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys yn garcharor arno, oni fyddai'n briodol o dan yr holl amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r diwrnod hwnnw.

(10Wrth benderfynu a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (9), mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol y byddai peidio â thalu'r cymorth yn ei achosi ac a fyddai peidio â thalu'r cymorth yn effeithio ar allu'r myfyriwr i barhau â'r cwrs.

(11Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn daladwy mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys ddod i ben.

(12Nid oes unrhyw gymorth o dan Ran 6 yn ddyledus mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod rhan ohono, oni fyddai'n briodol, ym marn Gweinidogion Cymru, yn yr holl amgylchiadau, i gymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod o absenoldeb.

(13Wrth benderfynu pa un a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (12) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rhesymau am absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod o absenoldeb a'r caledi ariannol y byddai peidio â thalu'r myfyriwr yn ei achosi.

(14Ni ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu mynychu oherwydd salwch ac os nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.

(15Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad benthyciad at gostau byw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd o dan Ran 6, yn gwneud penderfyniad bod y swm o fenthyciad at gostau byw y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael yn llai na'r swm a benderfynwyd yn flaenorol naill ai drwy adolygiad o asesiad dros dro neu fel arall—

(a)rhaid iddynt dynnu i ffwrdd o unrhyw swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i'w dalu y cyfryw swm ag y mae ei angen er mwyn sicrhau nad yw'r myfyriwr yn benthyg swm o fenthyciad at gostau byw sy'n fwy na'r swm y mae'n gymwys i'w gael;

(b)os yw'r swm sydd i'w dynnu i ffwrdd yn fwy na'r swm o fenthyciad at gostau byw sydd ar ôl i'w dalu, gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim;

(c)gellir adennill unrhyw ordaliad yn unol â rheoliad 66.

Gordaliadau

66.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad o grant neu fenthyciad at ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Rhaid i fyfyriwr cymwys, os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny, ad-dalu unrhyw swm a delir i'r myfyriwr o dan Ran 5 neu 6 ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na'r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth arno o dan Ran 5 neu 6.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o unrhyw grant at gostau byw a chostau eraill onid ydynt o'r farn nad yw'n briodol iddynt wneud hynny.

(4Mae taliad o unrhyw grant at gostau byw a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(5Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (6) neu (7), mae gordaliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl oni fydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(6Yr amgylchiadau yw—

(a)mae Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr cymwys;

(b)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nid yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i'w gyfnod cymhwystra ddod i ben.

(7Yr amgylchiadau yw—

(a)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b)gwneir taliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(8Os oes gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.

(9Caniateir adennill unrhyw ordaliad o unrhyw grant o dan Ran 5 ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau—

(a)drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordaliad ag sydd ar gael iddynt.

(10Caniateir adennill unrhyw ordaliad o fenthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd os yw, ym marn Gweinidogion Cymru—

(a)y gordaliad wedi digwydd o ganlyniad i fethiant ar ran y myfyriwr i ddarparu'n brydlon wybodaeth a allai effeithio ar b'un a yw'n gymwys ai peidio i gael benthyciad neu ar y swm o fenthyciad y mae'n gymwys i'w gael;

(b)unrhyw wybodaeth y mae'r myfyriwr wedi'i ddarparu yn anghywir mewn manylyn perthnasol; neu

(c)y myfyriwr wedi methu â darparu gwybodaeth y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.

(11Pan fo modd adennill gordaliad o fenthyciad at gostau byw yn unol â pharagraff (10), caniateir ei adennill ym mha un bynnag neu ym mha rai bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod neu eu bod yn briodol yn yr holl amgylchiadau—

(a)drwy dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)drwy gymryd y cyfryw gamau eraill i adennill gordaliad ag sydd ar gael iddynt.

(12Os oes gordaliad wedi bod o fenthyciad at gostau byw nad oes modd ei adennill o dan baragraff (10), caiff Gweinidogion Cymru dynnu i ffwrdd y gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf.

(13Yn y rheoliad hwn “y dyddiad perthnasol” (“the relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

Taliadau — dehongli

67.—(1Yn y Rhan hon—

(a)ystyr “cadarnhad o bresenoldeb” (“attendance confirmation”) yw—

(i)cadarnhad gan yr awdurdod academaidd fod y myfyriwr wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—

(aa)pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;

(bb)pan fo gan y myfyriwr anabledd; ac

(cc)pan fo'r myfyriwr yn ymgymryd â'r cwrs ond nad yw'n mynychu'r cwrs (ni waeth a yw'r rheswm am beidio â mynychu'n ymwneud â'i anabledd ai peidio);

(ii)cadarnhad gan yr awdurdod academaidd fod y myfyriwr wedi ymgyflwyno yn y sefydliad ac wedi dechrau mynychu'r cwrs—

(aa)pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf;

(bb)pan na fo'r myfyriwr wedi cael ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs o gwrs dynodedig arall yn yr un sefydliad; ac

(cc)pan na fo is-baragraff (i)(cc) yn gymwys;

(iii)cadarnhad gan yr awdurdod academaidd fod y myfyriwr wedi ymrestru ar gyfer y flwyddyn academaidd—

(aa)pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig a hynny heb fod am y tro cyntaf; neu

(bb)pan fo'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig am y tro cyntaf ar ôl iddo gael ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o gwrs arall yn yr un sefydliad;

(b)ystyr “cyfnod talu” (“payment period”) yw cyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn talu mewn perthynas ag ef y cymorth perthnasol o dan Ran 5 neu Ran 6 neu y byddai wedi talu'r cyfryw gymorth pe na bai cyfnod cymhwystra'r myfyriwr cymwys wedi dod i ben.

RHAN 11CYMORTH AT GYRSIAU DYSGU O BELL AMSER-LLAWN

Myfyrwyr dysgu o bell cymwys

68.—(1Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ef yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig os yw Gweinidogion Cymru wrth asesu ei gais am gymorth yn penderfynu bod y person hwnnw yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(3Nid yw person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)os, yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas â'r cwrs dysgu o bell—

(i)bwrsari gofal iechyd pa un a yw swm y bwrsari hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007(68); neu

(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio;

(b)os ydyw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os ydyw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;

(ch)os ydyw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth; neu

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw'n garcharor.

(4Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys—

(a)os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn fyfyriwr anabl; a

(b)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas â'r cwrs dysgu o bell–

(i)bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio.

(5Nid yw paragraff (3)(d) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu'n cael ei ryddhau o'r carchar ar ôl bwrw dedfryd o'r fath.

(6At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(7Mewn achos pan fo'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, bydd paragraff (3)(c) ddim ond yn gymwys os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur.

(8Yn ddarostyngedig i baragraffau (11) i (13), mae person yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (9) neu (10).

(9Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs dysgu o bell dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs; ac

(c)nad yw ei statws fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i derfynu.

(10Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru eisoes wedi penderfynu bod y person—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn perthynas â chwrs dynodedig;

(ii)yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig ac eithrio'r cwrs dysgu o bell presennol; neu

(iii)yn fyfyriwr rhan amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig;

(b)bod statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y cyfeiriwyd ato yn is-baragraff (a) wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (a); ac

(ch)nad yw statws y person fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i derfynu.

(11Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(69)),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i'r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o'r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, os bydd y cyfnod a ganiateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi terfynu ac nad oes hawl bellach i aros wedi'i rhoi ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu'n syth cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13Nid yw paragraffau (11) a (12) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr cymwys neu'n fyfyriwr rhan amser cymwys, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

(14Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth—

(a)at fwy nag un cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig;

(ch)at gwrs dysgu o bell dynodedig a chwrs ôl- radd dynodedig.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod y flwyddyn academaidd

69.—(1Pan fo un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr yr hawl i grant o ran ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon cyn belled â bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd o fewn tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(2Pan fo un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f), neu (ff) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr yr hawl i grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b)nid yw grant tuag at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol.

(3Pan fo un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f), neu (ff) o baragraff (4) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr yr hawl i grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; ac

(b)nid yw grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ar gael.

(4Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd a bod y myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(ch)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(d)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd pan fo'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(dd)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd; neu

(ff)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd.

Cyrsiau dysgu o bell dynodedig

70.—(1Mae cwrs yn ddynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 68 os caiff ei ddynodi gan Weinidogion Cymru dan y rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs dan y rheoliad hwn os yn eu barn hwy—

(a)bod y cwrs yn cael ei grybwyll yn Atodlen 2 heblaw am gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;

(b)bod y cwrs yn gwrs amser-llawn;

(c)bod y cwrs yn parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac

(ch)nad yw'n ofynnol gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs bod myfyrwyr sy'n ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig yn ei fynychu.

(3At ddibenion penderfynu a yw'r gofyniad ym mharagraff (2)(ch) yn cael ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru—

(a)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad at ddibenion—

(i)cofrestru;

(ii)arholiad;

(b)unrhyw ofyniad a osodir gan y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs i fod yn bresennol mewn unrhyw sefydliad ar benwythnos neu yn ystod unrhyw wyliau;

(c)unrhyw gyfnod mynychu yn y sefydliad neu'r sefydliadau sy'n darparu'r cwrs y caiff y myfyriwr ei gyflawni ond nad yw'n orfodol iddo wneud hynny gan y sefydliad neu'r sefydliadau hynny.

(4Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddynodi cwrs fel cwrs dysgu o bell dynodedig—

(a)os yw'n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2; a

(b)os yw corff llywodraethol ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs ar gyfer disgybl yr ysgol.

Cyfnod cymhwystra

71.—(1Mae myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig hyd onid yw'r statws yn terfynu yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliad 68.

(2Y cyfnod y mae myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cadw ei statws yw'r “cyfnod cymhwystra”.

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 68, mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau ei gwrs dysgu o bell dynodedig ynddi.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr dysgu o bell cymwys—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs dysgu o bell dynodedig dan amgylchiadau pan na fo Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi trosi neu pan na fyddant yn trosglwyddo neu yn trosi ei statws dan reoliad 79, 80, 81 neu 104; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs dysgu o bell dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi dangos trwy ei ymddygiad nad yw'n addas i dderbyn cymorth.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y credent eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 84.

(7Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cwblhau'r cwrs dysgu o bell dynodedig ynddi caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.

Cymorth at gyrsiau dysgu o bell

72.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—

(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw'n fwy na'r lleiaf o'r symiau canlynol—

(i)£975; a

(ii)y “ffioedd gwirioneddol”, sef swm y ffioedd a godir ar y myfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs dysgu o bell dynodedig; a

(b)grant nad yw'n fwy na £1,095 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan baragraff (1)(b) os mai'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw oddi tano yw paragraff 9.

(3Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn—

(a)os ydyw'n fyfyriwr anabl; a

(b)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell–

(i)bwrsari gofal iechyd y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm; neu

(ii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm neu beidio.

(4Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru.

(5Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn os ydyw wedi ymgymryd ag un neu ragor o gyrsiau dysgu o bell dros gyfanswm o wyth mlynedd a'i fod wedi derbyn benthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (6) mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny.

(6Y benthyciadau a'r grantiau yw—

(a)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell yn unol â'r rheoliadau a wnaed dan adran 22 o'r Ddeddf ;

(b)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio neu wariant arall a wnaed mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell gan Adran Gyflogaeth a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau wnaed dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(70); neu

(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell a wnaed yn unol â rheoliadau a wnaed dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(71).

(7Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys yr hawl i dderbyn cymorth dan y rheoliad hwn os yw'n ddeiliad gradd gyntaf gan sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(8At ddibenion paragraff (7), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—

(a)os yw'n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i'r myfyriwr dysgu o bell cymwys sydd wedi cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu'r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer ei gwrs gradd gyntaf; a

(b)os yw'r myfyriwr hwnnw'n ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell dynodedig presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu'r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw'r myfyriwr hwnnw yn parhau'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu'r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).

Swm y cymorth

73.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 79(6), mae swm y cymorth a delir ar gyfer blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)os oes gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys neu ei bartner, ar ddyddiad ei gais, hawlogaeth—

(i)o dan Ran V11 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(72) i gael cymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal treth cyngor;

(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(73) i lwfans ceisiwr gwaith seiliedig ar incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogi a Hyfforddiant 1973(74) i lwfans o dan y trefniadau a adnabyddir fel Y Fargen Newydd; neu

(iii)o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 2007(75) i lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm,

mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 72(1) yn daladwy;

(b)pan fo'r incwm perthnasol yn llai na £16,865, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 72(1) yn daladwy;

(c)pan fo'r incwm perthnasol yn £16,865, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 72(1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai na'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 72(1)(a);

(ch)pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £16,865, ond yn llai na £25,435, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 72(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 72(1)(a) yw'r swm a benderfynir arno yn unol â pharagraff (2);

(d)pan fo'r incwm perthnasol yn £25,435, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 72(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 72(1)(a) yw £50;

(dd)pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £25,435 ond yn llai na £26,095, mae'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 72(1)(b) yn daladwy ac nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 72(1)(a);

(e)pan fo'r incwm perthnasol yn £26,095 neu ragor ond yn llai na £28,180, nid oes unrhyw gymorth ar gael o dan reoliad 72(1)(a) a swm y cymorth taladwy o dan reoliad 72(1)(b) yw'r swm a adewir yn dilyn didynnu o'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 72(1)(b) £1 am bob £1.995 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;

(f)pan fo'r incwm perthnasol yn £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 72(1)(a) ac mae swm y cymorth taladwy o dan reoliad 72(1)(b) yn £50;

(ff)pan fo'r incwm perthnasol yn uwch na £28,180, nid oes unrhyw gymorth yn daladwy o dan reoliad 72(1).

(2Pan fo paragraff (1)(ch) yn berthnasol, penderfynir faint o gymorth sy'n daladwy o dan reoliad 72(1)(a) trwy ddidynnu o'r uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 72(1)(a) un o'r symiau canlynol–

(a)£50 a £1 ychwanegol am bob £9.79 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,865; neu

(b)pan fo'r ffioedd gwirioneddol yn llai na £975, cyfanswm sy'n hafal i'r hyn a adewir wedi didynnu o'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng £975 a'r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn Rhif negatif ac yn yr achos hwnnw telir yr uchafswm cymorth sydd ar gael o dan reoliad 72(1)(a)).

Dehongli rheoliad 73

74.—(1At ddibenion rheoliad 73—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (b), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(iii)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel petai yn briod ag ef pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn 25 oed neu fwy ar y diwrnod cyntaf o'r flwyddyn academaidd y caiff ei asesu ar gyfer cymorth a phan ddechreuodd y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;

(iv)person sydd fel rheol yn byw gyda myfyriwr dysgu o bell cymwys fel petai yn briod ag ef neu'n bartner sifil pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(b)nid yw person fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (a) i'w drin fel partner os–

(i)ym marn Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw a'r myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi gwahanu; neu

(ii)bod y person fel rheol yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nas cynhelir gan y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(c)ystyr “incwm perthnasol” (“relevant income”) yw'r hyn a welir ym mharagraff (2).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae incwm perthnasol myfyriwr dysgu o bell cymwys yn hafal i'w ffynonellau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—

(i)£2,000 yn achos ei bartner;

(ii)£2,000 yn achos yr unig blentyn neu'r plentyn hynaf sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner; a

(iii)£1,000 yn achos pob plentyn arall sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner.

(3Pan fo Gweinidogion Cymru yn fodlon bod ffynonellau ariannol y myfyriwr dysgu o bell cymwys am y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na'i ffynonellau ariannol am y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau gyfanswm yn £1,000 neu ragor, rhaid iddynt asesu ffynonellau ariannol y myfyriwr hwnnw trwy gyfeirio at y ffynonellau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Yn y rheoliad hwn golyga ffynonellau ariannol myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn blwyddyn ariannol gyfanred ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â chyfanred incwm y flwyddyn honno unrhyw berson sy'n bartner i'r myfyriwr ar ddyddiad gwneud y cais.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;

(b)ystyr “blwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi;

(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(ch)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(d)ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys—

(i)unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a

(ii)unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002(76);

(dd)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(e)ystyr “cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir” (“specified designated distance learning course”) yw'r cwrs y mae'r person yn gwneud cais am gymorth tuag ato, neu pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs dysgu o bell dynodedig presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad neu fwy o'r statws hwnnw gan Weinidogion Cymru o gwrs dysgu o bell (y “cwrs cychwynnol”) (“initial course”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, y cwrs dysgu o bell dynodedig a bennir yw'r cwrs cychwynnol.

Grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl

75.—(1Mae gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl yn unol â'r Rhan hon i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ei bod yn ofynnol iddo'i ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo mewn perthynas ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig.

(2Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn os mai'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y daw oddi tano yw paragraff 9;

(3Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n flwyddyn bwrsari.

(4Nid oes gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys hawl i gael y grant o dan y rheoliad hwn oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru.

(5Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr.

(6Ni ddylai swm y grant o dan y rheoliad hwn fod yn fwy na'r canlynol—

(a)£20,520 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,166 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol a dynnir—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig er mwyn gallu bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)o fewn neu o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(ch)£1,729 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant a dynnwyd at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.

Ceisiadau am gymorth

76.—(1Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd o gwrs dysgu o bell dynodedig drwy gwblhau ffurflen gais ar y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdani a'i chyflwyno i Weinidogion Cymru.

(2Rhaid anfon gyda'r cais—

(a)datganiad a gwblhawyd gan yr awdurdod academaidd; a

(b)unrhyw ddogfennaeth ychwanegol a fydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau yr ystyriant yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth, ac os oes ganddo hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl.

(5Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y cyflwynir y cais mewn perthynas ag ef.

(6Nid yw'r rheol gyffredinol yn gymwys—

(a)pan fo un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (4) o reoliad 69 yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod y digwyddiad perthnasol;

(b)pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; neu

(c)pan fo Gweinidogion Cymru o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddynt.

Datganiadau a ddarperir gan awdurdodau academaidd

77.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r awdurdod academaidd, ar gais y ceisydd, gwblhau datganiad yn y cyfryw ffurf ag y byddo Gweinidogion Cymru yn gofyn amdano fynd gyda'r cais am gefnogaeth.

(2Nid yw'n ofynnol i awdurdod academaidd gwblhau datganiad os nad yw'n gallu rhoi'r cadarnhad gofynnol.

(3Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—

(a)pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs dysgu o bell dynodedig am y tro cyntaf, datganiad–

(i)sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf ddwy wythnos o'r cwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)mewn unrhyw achos arall, datganiad—

(i)sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—

(a)swm y ffioedd a godir mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi;

(b)ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn fod y ceisydd yn ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell dynodedig yng Nghymru; ac

(c)mewn unrhyw achos pan fo'r ceisydd yn fyfyriwr anabl, ardystiad gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn fod y ceisydd wedi dewis ymgymryd â'r cwrs dysgu o bell dynodedig am reswm heblaw'r ffaith na all fod yn bresennol ar gwrs dynodedig oherwydd rhesymau sy'n ymwneud â'i anabledd.

Gwybodaeth

78.  Mae Atodlen 3 yn ymwneud â darparu gwybodaeth.

Trosglwyddo statws

79.—(1Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i'r cwrs hwnnw pan—

(a)derbyniant gais i wneud hynny oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig arall yn y sefydliad;

(b)bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c)ar ôl iddo ddechrau cwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dysgu o bell dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), bydd myfyriwr dysgu o bell cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i gael, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, weddill y cymorth y penderfynodd Gweinidogion Cymru bod ganddo hawl iddo mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sydd yn daladwy ar ôl y trosglwyddo.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno, wneud cais am grant arall o dan reoliad 72(1)(b) neu reoliad 75 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

(6Pan fo myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 72(1)(a) mewn perthynas â'r blynyddoedd academaidd y mae'n trosglwyddo iddynt ac ohonynt yw swm y cymorth sydd ar gael mewn cysylltiad â'r cwrs sydd â'r ffioedd uchaf gwirioneddol fel y'u diffinnir yn rheoliad 72.

Trosi statws — myfyrwyr cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dysgu o bell dynodedig

80.—(1Pan fo myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys i wneud hynny; a

(b)pan nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyriwr anabl o dan Ran 5 mewn rhandaliadau rheolaidd, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)mae uchafswm grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl y byddai gan y myfyriwr hawl iddo, ar wahân i'r rheoliad hwn, mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs dysgu o bell penodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd, ac o ddau draean pan ddaeth yn gyfryw fyfyriwr yn ystod chwarter diweddarach o'r flwyddyn honno;

(c)pan fo swm o grant at gostau byw myfyrwyr anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr o dan Ran 5 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl sy'n daladwy iddo at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â Rhan 5, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac

(ch)pan fo'r myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais am fenthyciad at gostau byw ar gyfer y flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu'r uchafswm a gynyddwyd yr oedd â hawl iddo, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu'r swm ychwanegol hwnnw o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (3) gostyngir uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm cynnydd y cyfryw fenthyciad am y flwyddyn academaidd yn unol â'r paragraff hwnnw.

(3Pan fo'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy ar ei chyfer, gostyngir uchafswm y benthyciad neu'r uchafswm a gynyddwyd o'r cyfryw fenthyciad (yn ôl y digwydd) o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ystod ail chwarter y flwyddyn honno gostyngir y swm hwnnw o un traean.

Trosi statws — myfyrwyr dysgu o bell cymwys yn trosglwyddo i gyrsiau dynodedig

81.—(1Pan fo myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)pan dderbyniant gais oddi wrth y myfyriwr cymwys i wneud hynny; a

(b)pan nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi terfynu.

(2Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl i'r myfyriwr mewn rhandaliadau rheolaidd ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys;

(b)bydd unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hawl iddo o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y trosglwydda'r myfyriwr ynddi yn cael ei anwybyddu wrth benderfynu swm y cymorth y gall bod ganddo hawl iddo am y flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 5 neu 6 y byddai'r myfyriwr, ar wahân i'r rheoliad hwn, â hawl iddo mewn cysylltiad â chwrs dynodedig o fewn y flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean pan ddaeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno, ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr o'r fath mewn chwarter diweddarach o'r flwyddyn honno;

(ch)pan fo swm grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl at unrhyw ddiben wedi ei dalu i'r myfyriwr mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl sy'n daladwy iddo o dan Ran 5 i'r diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a dalwyd iddo i'r diben hwnnw, a phan fo'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol bydd y swm hwnnw yn ddim.

Talu grantiau at ffioedd

82.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant mewn perthynas â ffioedd y mae'r myfyriwr â hawl i'w gael i'r awdurdod academaidd priodol wedi i gais dilys am daliad ddod i law.

(2Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau fel y gwelant yn dda.

(3Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y barnant sy'n briodol.

Talu grantiau at lyfrau, teithio a gwariant arall a grantiau at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl

83.—(1Caiff taliadau'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl eu gwneud mewn dull y barna Gweinidogion Cymru sydd briodol a chânt osod amod ar gyfer yr hawl i daliad bod y myfyriwr dysgu o bell cymwys i roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gellir gwneud y taliadau iddo trwy drosglwyddiad electronig.

(2Pan fetha Gweinidogion Cymru â gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a dderbyniwyd oddi wrth y myfyriwr, gallant wneud asesiad dros dro a thaliad o'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl mewn rhandaliadau.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar adegau y barnant hwy yn briodol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf na chwaith, pan benderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o'r grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall na'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl cyn iddynt dderbyn datganiad o dan reoliad 77 oni bai bod eithriad yn gymwys.

(6Mae eithriad yn gymwys—

(a)os oes grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl yn daladwy, a'r pryd hynny gellir talu'r grant hwnnw cyn bo datganiad wedi dod i law Gweinidogion Cymru;

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol oherwydd yr amgylchiadau eithriadol i wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.

Gordaliadau

84.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi ar yr awdurdod academaidd.

(2Os bydd yn ofynnol gan Weinidogion Cymru, bydd yn rhaid i fyfyriwr dysgu o bell cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl iddo o dan y Rhan hon.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad grant ar gyfer llyfrau, teithio a gwariant arall a grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai eu bod yn ystyried ei bod yn amhriodol i wneud hynny.

(4Y dulliau o adennill yw—

(a)tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill sydd ar gael i Weinidogion Cymru er mwyn adennill gordaliad.

(5Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.

(6Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw dyddiad dechrau gwirioneddol tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw.

(7O dan yr amgylchiadau a roddir ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu'n wahanol.

(8Yr amgylchiadau yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl ar gyfer prynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr dysgu o bell cymwys;

(b)bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nad yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn diwedd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr.

(9Yr amgylchiadau yw—

(a)bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b)bod taliad grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl yn cael ei wneud ar gyfer offer arbenigol i'r myfyriwr ar derfyn y cyfnod cymhwystra.

(10Pan fo gordaliad o'r grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn dychweliad offer arbenigol a brynwyd â'r grant fel modd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol i wneud hynny.

RHAN 12CYMORTH AT GYRSIAU RHAN-AMSER

Myfyrwyr rhan-amser cymwys

85.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi.

(2Mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wrth iddynt asesu cais y myfyriwr am gymorth yn penderfynu bod y person yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).

(3Nid yw person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys—

(a)os rhoddwyd neu os talwyd i'r person hwnnw mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs rhan-amser—

(i)bwrsari gofal iechyd pa un a yw swm y bwrsari hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person neu beidio;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007; neu

(iii)lwfans gofal iechyd yr Alban pa un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person hwnnw neu beidio;

(b)os yw'r person hwnnw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw'r person hwnnw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;

(ch)os yw'r person hwnnw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth; neu

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw'n garcharor.

(4Nid yw paragraff (3)(d) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar neu'n cael ei ryddhau o'r carchar.

(5At ddibenion paragraffau (3)(b) a (3)(c), ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(6Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991, a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y bydd paragraff 3(c) yn gymwys.

(7Yn ddarostyngedig i baragraffau (10) i (12), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (8) neu (9).

(8Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs rhan-amser dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)nad yw statws y person fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i derfynu.

(9Yr amodau yn y paragraff hwn yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o'r blaen fod y person—

(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig;

(ii)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig ac eithrio'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol; neu

(iii)yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig;

(b)bod statws y person fel myfyriwr cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (a); ac

(ch)nad yw statws y person fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.

(10Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymwys dysgu o bell wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant, yn ôl y digwydd, wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(11Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dynodedig dysgu o bell neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymwys dysgu o bell wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs rhan-amser presennol; a

(b)y cyfnod y caniateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ac, ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd honno, os na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(12Nid yw paragraffau (10) ac (11) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys neu'n fyfyriwr cymwys, yn ôl y digwydd, cyn 1 Medi 2007.

(13Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 88(1)(b), rheoliad 89 neu reoliadau 90 i 99 os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae'n dod odano.

(14Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth—

(a)o dan reoliad 88(1)(a) os yw Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yng Nghymru; neu

(b)o dan reoliad 88(1)(b), rheoliad 89 neu reoliadau 90 i 99 os yw Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yn y Deyrnas Unedig.

(15Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 88 neu reoliadau 90 i 99 os yw wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser am gyfanswm o wyth mlynedd academaidd a'i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (16).

(16Y benthyciadau a'r grantiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (15) yw—

(a)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi'i roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi'i roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser gan yr Adran Cyflogi a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998; neu

(c)benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser a roddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980.

(17Yn ddarostyngedig i baragraffau (18) ac (19), nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 88 neu reoliadau 90 i 99 os oes ganddo radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.

(18At ddibenion paragraff (17), rhaid peidio â thrin gradd fel gradd gyntaf—

(a)os yw'n radd (ac eithrio gradd anrhydedd) a ddyfarnwyd i'r myfyriwr rhan-amser cymwys sydd wedi cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu'r dulliau asesu gofynnol eraill ar gyfer ei gwrs gradd gyntaf; a

(b)os yw'r myfyriwr hwnnw'n ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol er mwyn cael gradd anrhydedd ar ôl cwblhau'r modiwlau, arholiadau neu'r dulliau asesu gofynnol eraill (pa un a yw'r myfyriwr hwnnw yn parhau'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ai peidio, ar ôl dyfarnu'r radd y cyfeirir ati yn is-baragraff (a)).

(19Nid yw paragraff (17) yn rhwystro myfyriwr rhan-amser cymwys rhag bod â hawl i gael cymorth o dan reoliad 88 neu reoliadau 90 i 99—

(a)os yw'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd ar neu ar ôl 1 Medi 2010;

(b)os yw'r cwrs yn parhau am ddim mwy na phedair blynedd; ac

(c)os nad yw'r myfyriwr yn athro cymwysedig neu'n athrawes gymwysedig.

(20Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (23) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod â hawl i gael grant mewn perthynas â ffioedd mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes grant mewn perthynas â ffioedd ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(21Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f) neu (ff) o baragraff (23) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd, gall myfyriwr fod â hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r cyfan neu ran o'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael grant mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y dechreuodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(22Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn is-baragraffau (a), (b), (d), (dd), (e), (f) neu (ff) o baragraff (23) yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)gall myfyriwr fod â hawl i gael grant at lyfrau, teithio a gwariant arall neu grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl (neu'r ddau) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b)nid oes grant at lyfrau, teithio a gwariant arall ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(23Y digwyddiadau yw—

(a)bod cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs rhan-amser dynodedig;

(b)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(ch)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(d)bod y wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(dd)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(f)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1; neu

(ff)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

(24Ni chaiff myfyriwr rhan-amser cymwys hawl, ar unrhyw adeg, i gael cymorth ar gyfer—

(a)mwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig;

(b)cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig;

(c)cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig dysgu o bell;

(ch)cwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig ôl-radd.

Cyrsiau rhan-amser dynodedig

86.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a (3), mae cwrs rhan-amser yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 85—

(a)os yw'n gwrs a grybwyllir yn Atodlen 2 ac eithrio cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon—

(i)a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010;

(ii)sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, a'r myfyriwr yn trosglwyddo i'r cwrs presennol yn unol â rheoliad 8 o gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon a ddechreuodd cyn 1 Medi 2010; neu

(iii)yn dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 ond cyn 1 Medi 2011 a'r myfyriwr yn fyfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 mewn perthynas â'r cwrs;

(b)os yw'n parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd;

(c)os yw fel arfer yn bosibl gorffen y cwrs mewn dim mwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau cwrs amser-llawn cyfatebol;

(ch)os yw'n cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac

(d)nad yw wedi'i ddynodi gan neu o dan reoliad 5;

(dd)nad yw wedi'i ddynodi gan neu o dan reoliad 70.

(2Nid yw cwrs sy'n dod o fewn paragraff 7 neu 8 o Atodlen 2 yn gwrs rhan-amser dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.

(3Nid yw cwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth yn gwrs rhan-amser dynodedig.

(4At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, pa un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(77).

(5At ddibenion paragraff (1)(c)—

(a)ystyr “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs rhan-amser dan sylw;

(b)ystyr “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw—

(i)os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, y cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol pe rhoddid iddo 120 o bwyntiau credyd ym mhob blwyddyn academaidd;

(ii)os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, y cyfnod y byddai myfyriwr amser-llawn safonol yn ei gymryd i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;

(c)“myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr y cymerir—

(i)ei fod wedi dechrau cwrs amser-llawn cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser o dan sylw;

(ii)nad yw wedi'i esgusodi rhag dilyn unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol;

(iii)nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol; a

(iv)nad yw wedi bod yn absennol o'r cwrs amser-llawn cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.

(6At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 85(1), caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi gan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

87.—(1Mae myfyriwr yn cadw ei statws fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig hyd onid yw'r statws yn dod i ben yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliad 85.

(2Y cyfnod y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn cadw ei statws yw'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 85, mae'r cyfnod cymhwystra yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y bydd y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau ei gwrs rhan-amser dynodedig ynddi.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs rhan-amser dynodedig o dan amgylchiadau pan nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu drosi, ac na fyddant yn trosglwyddo nac yn trosi ei statws o dan reoliad 103 neu 104; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs rhan-amser dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn academaidd berthnasol pan na all y myfyriwr rhan-amser cymwys gwblhau'r cwrs rhan-amser dynodedig o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 86(1)(c).

(6At ddibenion paragraff (5) ystyr “blwyddyn academaidd berthnasol” (“relevant academic year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae'n dod yn amhosibl i'r myfyriwr yn ystod y flwyddyn neu ar ei diwedd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 86(1)(c) hyd yn oed os bydd yn dwysáu ei astudiaethau.

(7Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(8Os Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr rhan-amser cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 108.

(9Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben—

(a)cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cwblhau'r cwrs rhan-amser dynodedig ynddi; a

(b)ac eithrio o dan baragraff (5),

caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu, neu estyn y cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnod ag y maent yn penderfynu arno.

Cymorth at gyrsiau rhan-amser

88.—(1At ddibenion y rheoliad hwn, y cymorth sydd ar gael yw—

(a)grant mewn perthynas â ffioedd nad yw'n fwy na'r lleiaf o'r symiau canlynol—

(i)y grant sylfaenol, a

(ii)y “ffioedd gwirioneddol” (“actual fees”), sef swm y ffioedd a godir mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs rhan-amser dynodedig; a

(b)grant nad yw'n fwy na £1,095 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig.

(2Mae'r grant sylfaenol yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw'r astudio.

  • Cyfrifir pa mor ddwys yw'r astudio fel a ganlyn a'i fynegi fel canran

    a—

    • PT yw nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu uned arall sydd i'w dyfarnu i'r myfyriwr rhan-amser cymwys gan yr awdurdod academaidd os bydd yn cwblhau'n llwyddiannus y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi;

    • FT yw—

      (a)

      os darperir y cwrs gan neu ar ran y Brifysgol Agored, 120;

      (b)

      os darperir y cwrs gan neu ar ran unrhyw sefydliad arall, nifer y modiwlau, credydau, pwyntiau credyd, pwyntiau neu uned arall y byddai'n ofynnol i fyfyriwr amser-llawn safonol eu hennill ym mhob blwyddyn academaidd er mwyn iddo gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol o fewn y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs hwnnw.

(3At ddibenion paragraff (2)—

(a)mae “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) a “myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) i'w dehongli'n unol â rheoliad 86; a

(b)mae “y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“the period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) i'w gyfrifo'n unol â rheoliad 86.

(4Y “grant sylfaenol” (“basic grant”) yw—

(a)£650, os yw dwysedd yr astudio yn llai na 60 y cant (“lefel 1”);

(b)£780, os yw dwysedd yr astudio yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant (“lefel 2”);

(c)£975, os yw dwysedd yr astudio yn 75 y cant neu'n fwy (“lefel 3”).

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6) a rheoliad 103(6), mae swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—

(a)os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys neu ei bartner hawlogaeth ar ddyddiad ei gais–

(i)o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 i gael cymhorthdal incwm, budd-dal tai neu fudd-dal y dreth gyngor;

(ii)o dan Ran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995 i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 i gael lwfans o dan drefniant a elwir y Fargen Newydd; neu

(iii)o dan Ran I o Ddeddf Diwygio Lles 2007 i gael lwfans cyflogaeth a chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm;

mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 88(1) yn daladwy;

(b)os yw'r incwm perthnasol yn llai na £16,865, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 88(1) yn daladwy;

(c)os yw'r incwm perthnasol yn £16,865, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 88(1)(b) yn daladwy ynghyd â £50 yn llai nag uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 88(1)(a);

(ch)os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £16,865 ond yn llai na £25,435, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 88(1)(b) yn daladwy, a swm y cymorth sy'n daladwy o dan reoliad 88(1)(a) yw'r swm a bennir yn unol â pharagraff (6);

(d)os yw'r incwm perthnasol yn £25,435, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 88(1)(b) yn daladwy a swm y cymorth sy'n daladwy o dan reoliad 88(1)(a) yw £50;

(dd)os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £25,435 ond yn llai na £26,095, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 88(1)(b) yn daladwy ac nid oes cymorth yn daladwy o dan reoliad 88(1)(a);

(e)os yw'r incwm perthnasol yn £26,095 neu'n fwy ond yn llai na £28,180, nid oes cymorth ar gael o dan reoliad 88(1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan reoliad 88(1)(b) yw'r swm sy'n weddill ar ôl didynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 88(1)(b) £1 am bob £1.995 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £26,095;

(f)os yw'r incwm perthnasol yn £28,180, nid oes cymorth yn daladwy o dan reoliad 82(1)(a) a swm y cymorth sy'n daladwy o dan reoliad 88(1)(b) yw £50;

(ff)os yw'r incwm perthnasol yn fwy na £28,180, nid oes cymorth yn daladwy o dan reoliad 88(1).

(6Os yw paragraff (5)(ch) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy'n daladwy o dan reoliad 88(1)(a) drwy ddidynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 88(1)(a) un o'r symiau canlynol–

(a)£50 plws £1 arall am bob £15.58, £12.60 neu £9.79 cyflawn o incwm perthnasol uwchlaw £16,865 yn ôl a yw dwysedd yr astudio ar lefel 1, 2 neu 3, yn y drefn honno; neu

(b)os yw'r grant sylfaenol yn fwy na'r ffioedd gwirioneddol, swm sy'n hafal i'r hyn sy'n weddill ar ôl didynnu o'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng y grant sylfaenol a'r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn Rhif negyddol ac os felly mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan reoliad 88(1)(a) yn daladwy).

(7At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;

(b)ystyr “y flwyddyn ariannol gyfredol” (“current financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi;

(c)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(ch)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(d)ystyr “incwm” (“income”) yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys—

(i)unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989; a

(ii)unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw hawliadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

(dd)yn ddarostyngedig i is-baragraff (e), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi ac os dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(e)nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (dd) yn cael ei drin fel partner—

(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

(ii)os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser;

(f)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol;

(ff)mae i “incwm perthnasol” (“relevant income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (8).

(8Yn ddarostyngedig i baragraff (9), mae incwm perthnasol myfyriwr rhan-amser cymwys yn hafal i'w adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol flaenorol llai—

(i)£2,000 mewn perthynas â'i bartner;

(ii)£2,000 mewn perthynas â'r unig blentyn neu'r plentyn hynaf sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner; a

(iii)£1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner;

(9Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na'i adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu fwy, rhaid iddynt asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol.

(10Yn y rheoliad hwn ystyr adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys mewn blwyddyn ariannol yw cyfanswm ei incwm am y flwyddyn honno ynghyd â chyfanswm yr incwm am y flwyddyn honno sydd gan unrhyw berson sydd ar ddyddiad y cais am gymorth yn bartner i'r myfyriwr.

(11Yn y rheoliad hwn ystyr “cwrs rhan-amser dynodedig a bennir” (“specified designated part-time course”) yw'r cwrs y mae'r person yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef, pan fo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i drosglwyddo i'r cwrs rhan-amser dynodedig presennol o ganlyniad i un trosglwyddiad o'r statws hwnnw neu fwy gan Weinidogion Cymru o gwrs rhan-amser (y “cwrs cychwynnol”) y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef fod y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir yw'r cwrs cychwynnol.

Grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl

89.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl yn unol â'r Rhan hon i gael grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ei bod yn ofynnol i'r myfyriwr ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo ynghylch ei fod yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig.

(2Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, swm y grant o dan y rheoliad hwn yw'r swm sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(3Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na'r canlynol—

(a)£15,390 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)£5,166 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol;

(c)y gwariant ychwanegol sy'n cael ei dynnu—

(i)yn y Deyrnas Unedig er mwyn bod yn bresennol yn y sefydliad;

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa;

(ch)£1,293 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei dynnu at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion — cyffredinol

90.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion ar yr amod—

(a)nad yw wedi ei hepgor o fod â hawl gan unrhyw un o'r paragraffau canlynol, rheoliad 85 neu reoliad 87; a

(b)bod y myfyriwr rhan-amser yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol y mae'n gwneud cais amdano.

(2Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion os yw'n garcharor.

91.—(1Mae'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion wedi'u ffurfio o'r elfennau canlynol—

(a)grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed;

(b)grant rhan-amser ar gyfer gofal plant;

(c)lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni.

(2Nodir amodau'r hawl i gael pob elfen yn rheoliadau 92 i 99 a phenderfynir ar y symiau sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yn unol â'r rheoliadau hynny.

(3Caniateir didynnu swm o unrhyw un o elfennau'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â rheoliadau 97 a 98.

Grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed

92.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd i fyfyriwr rhan-amser cymwys sydd naill ai—

(a)yn bartner i'r myfyriwr rhan-amser cymwys; neu

(b)yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr rhan-amser cymwys a hwnnw'n ddibynnydd nad yw ei incwm net yn fwy na £3,801.

(3Bydd swm y grant ar gyfer dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 95 a 97 i 99, a'r swm sylfaenol yw—

(a)£2,647; neu

(b)os yw'r person y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn gwneud cais mewn perthynas ag ef am grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,647 sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

Grant rhan-amser ar gyfer gofal plant

93.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys, mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig, hawl i gael grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mae'r grant rhan-amser ar gyfer gofal plant ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn tynnu costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant ynddi a hynny ar gyfer—

(a)plentyn dibynnol sydd o dan 15 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd; neu

(b)plentyn dibynnol sydd ag anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a roddir i “special educational needs” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996(78) a'i fod o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.

(3Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(79).

(4Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant y mae'n eu tynnu'n cael eu talu neu os ydynt i'w talu gan y myfyriwr i'w bartner.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rheoliad 95 a rheoliadau 97 i 99, swm sylfaenol y grant gofal plant am bob wythnos yw—

(a)ar gyfer un plentyn dibynnol, 85 y cant o'r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £161.50 yr wythnos; neu

(b)ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o'r costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant, hyd at uchafswm o £274.55 yr wythnos,

ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n dod o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.

(6Er mwyn cyfrifo swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant—

(a)mae wythnos yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Sul; a

(b)os yw wythnos y tynnir costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant mewn perthynas â hi yn dod yn rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant rhan-amser ar gyfer gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan i'r flwyddyn academaidd honno, cyfrifir uchafswm wythnosol y grant drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (5) â nifer y dyddiau yn yr wythnos honno sy'n dod o fewn y flwyddyn academaidd a rhannu'r canlyniad â saith.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “costau rhagnodedig ar gyfer gofal plant” (“prescribed childcare charges”) yw costau gofal plant o ddisgrifiad a ragnodir at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002(80).

Lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni

94.—(1Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig i gael y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o ddibynyddion sy'n blant dibynnol.

(2Mae swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliadau 95 a 97 i 99, a'r swm sylfaenol yw £1,508.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion — y cyfrifiadau cychwynnol

95.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliadau 97 i 99, y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w gael yw'r swm hwnnw o'r elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu, swm sy'n hafal i (A − B) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 92;

(b)i ostwng swm sylfaenol y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 93; ac

(c)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni os oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 94.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (13), os yw B yn fwy nag A neu'n hafal iddi, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w chael yn daladwy.

(3Os yw (A − B) yn hafal i gyfanswm symiau sylfaenol elfennau'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w cael neu'n fwy na'r cyfanswm hwnnw, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob elfen yw dim.

(4Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) o ran dibynnydd mewn oed gan hanner y swm—

(a)os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys—

(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae gan y partner hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.

(5Gostyngir swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a gyfrifir o dan baragraff (1) gan hanner y swm–

(a)os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys—

(i)yn fyfyriwr rhan-amser cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir i ystyriaeth ddibynyddion y partner hwnnw wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner yn ymgymhwyso ar ei gyfer neu'r taliad y mae ganddo hawl iddo o dan y dyfarniad statudol.

(6Os yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu'n fwy na hynny ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni sy'n daladwy yw £50.

(7Yn y rheoliad hwn—

  • A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr rhan-amser cymwys; a

  • B yw—

    (a)

    £1,159 os nad oes gan y myfyriwr rhan-amser cymwys blentyn dibynnol;

    (b)

    £3,473 os nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    (c)

    £4,632—

    (i)

    os nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; neu

    (ii)

    os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    (ch)

    £5,797 os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

(8Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd yn ystod y flwyddyn academaidd—

(a)bod nifer dibynyddion y myfyriwr rhan-amser cymwys yn newid;

(b)bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr rhan-amser cymwys neu'n peidio â bod yn ddibynnydd iddo;

(c)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol;

(ch)bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 85(23)(a), (b), (d), (dd), (e), (f) neu (ff).

(9Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni yn daladwy, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol—

(a)faint o ddibynyddion y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys i gael ei drin fel pe baent ganddo;

(b)pwy yw'r dibynyddion hynny;

(c)a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.

(10Swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm symiau'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant rhan-amser ar gyfer gofal plant am y flwyddyn academaidd.

(11Mae swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni mewn perthynas â chwarter perthnasol yn draean o swm y grant neu'r lwfans hwnnw am y flwyddyn academaidd pe bai amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol fel y'u pennir o dan baragraff (9) yn gymwys drwy gydol y flwyddyn academaidd.

(12Yn y rheoliad hwn, ystyr “chwarter perthnasol” (“relevant quarter”) yw —

(a)yn achos person y cyfeirir ato ym mharagraff (8)(ch), chwarter sy'n dechrau ar ôl i'r digwyddiad perthnasol ddigwydd ac eithrio chwarter pryd y mae'r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru;

(b)fel arall, chwarter ac eithrio'r chwarter pryd y mae'r un hwyaf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn Gweinidogion Cymru.

(13Caniateir gwneud didyniad yn unol â rheoliadau 97 a 98 o'r swm sy'n daladwy o ran elfen benodol o'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion a gyfrifir o dan y Rhan hon.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion — dehongli

96.—(1Yn rheoliadau 92 i 95—

(a)yn ddarostyngedig i is-baragraff (j), ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr ac eithrio plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol arno ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto sy'n ddibynnol arno;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(ch)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(d)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw plentyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr;

(dd)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;

(e)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (ff), (g), (ng), (h) ac (i), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod i'r myfyriwr hwnnw os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6 a'i fod wedi dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r myfyriwr os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6 a'i fod wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(ff)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) yn cael ei drin fel partner—

(i)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr rhan-amser cymwys, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi gwahanu; neu

(ii)os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(g)at ddibenion y diffiniad o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6;

(ng)at ddibenion y diffiniadau o “plentyn” (“child”) a “rhiant unigol” (“lone parent”), mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar ei gwrs dynodedig a bennir neu'r ffaith nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6;

(h)at ddibenion rheoliad 93—

(i)nid yw is-baragraff (ff) yn gymwys; a

(ii)mae person i'w drin fel partner pe byddai'n bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys y mae'n byw gydag ef yn arferol yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu ynddi at ddibenion Atodlen 6;

(i)at ddibenion penderfynu a yw person yn gyn-bartner i bartner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, ystyr “partner” (“partner”), o ran partner i fyfyriwr rhan-amser cymwys, yw–

(i)priod i bartner myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)partner sifil i bartner myfyriwr rhan-amser cymwys;

(iii)pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr rhan-amser cymwys fel petai'n briod iddo;

(iv)pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig a bennir ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr rhan-amser cymwys fel petai'n bartner sifil iddo;

(j)yn ddarostyngedig i is-baragraff (l), at ddibenion y diffiniadau o “dibynnydd mewn oed” (“adult dependent”) a “plentyn dibynnol” (“dependent child”) caiff Gweinidogion Cymru ymdrin ag oedolyn neu blentyn fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt yn fodlon nad yw'r oedolyn neu'r plentyn—

(i)yn ddibynnol ar—

(aa)y myfyriwr rhan-amser cymwys; neu

(bb)ei bartner; ond

(ii)yn ddibynnol ar y myfyriwr rhan-amser cymwys a'i bartner gyda'i gilydd.

(l)rhaid i Weinidogion Cymru beidio ag ymdrin ag oedolyn (“A”) fel un sy'n ddibynnol ar fyfyriwr rhan-amser cymwys yn unol ag is-baragraff (j), os yw A—

(i)yn briod neu'n bartner sifil i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys (yn cynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod partner y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(ii)yn gyn-bartner i bartner y myfyriwr rhan-amser cymwys.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(81);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(82);

(ch)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(d)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989(83);

(dd)unrhyw daliad i'r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989;

(e)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno(84); ac

(f)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002(85).

(3Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd yn cael eu gwneud o'r blaen gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net sydd wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) a'i ostwng yn ôl —

(a)swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu

(b)unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei fod yn briodol, pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol yn eu barn hwy.

(4At ddibenion paragraff (2), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr rhan-amser cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion — cyfrifo'r cyfraniad

97.—(1Cyfraniadau myfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd a'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r flwyddyn honno yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 6, os oes unrhyw swm o gwbl.

(2At ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Ddeddf a'r rheoliadau a wneir odani, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr rhan-amser cymwys roi o bryd i'w gilydd unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr.

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion –cymhwyso'r cyfraniad

98.—(1Mae swm sy'n hafal i'r cyfraniad neu i weddill y cyfraniad, yn ôl y digwydd, a gyfrifir o dan Atodlen 6 i'w gymhwyso hyd nes iddo gael ei ddihysbyddu yn erbyn swm yr elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr rhan-amser cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn—

(a)yn gyntaf, i ostwng PTADG;

(b)yn ail, i ostwng PTCCG;

(c)yn drydydd, i ostwng PTPLA.

(2Yn y rheoliad hwn—

(a)PTADG yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 95;

(b)PTCCG yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 95;

(c)PTPLA yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 95 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans).

Grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion — y cyfrifiad terfynol

99.—(1Penderfynir y swm sy'n daladwy mewn perthynas ag elfen benodol o'r grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r swm sy'n daladwy yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw'r astudio.

  • Cyfrifir pa mor ddwys yw'r astudio fel a ganlyn a'i fynegi fel canran

    ac

    • y mae i PT ac FT yr ystyron a roddir iddynt gan reoliad 88(2) a (3).

(3Yn achos grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed, os yw dwysedd yr astudio—

(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 50 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;

(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 60 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;

(c)yn 75 y cant neu fwy, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 75 y cant o'r swm sy'n deillio i hynny.

(4At ddibenion paragraff (3), ystyr “y swm sy'n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn oed a benderfynir yn unol â rheoliad 95 a'r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi'u cymhwyso'n unol â rheoliad 98.

(5Yn achos grant rhan-amser ar gyfer gofal plant, os yw dwysedd yr astudio—

(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 50 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;

(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 60 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;

(c)yn 75 y cant neu fwy, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 75 y cant o'r swm sy'n deillio i hynny.

(6At ddibenion paragraff (5), ystyr “y swm sy'n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y grant rhan-amser ar gyfer gofal plant a benderfynir yn unol â rheoliad 95 a'r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi'u cymhwyso'n unol â rheoliad 98.

(7Yn achos lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni, os yw dwysedd yr astudio—

(a)yn 50 y cant neu fwy ond yn llai na 60 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 50 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;

(b)yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 60 y cant o'r swm sy'n deillio o hyn;

(c)yn 75 y cant neu fwy, mae'r swm sy'n daladwy yn hafal i 75 y cant o'r swm sy'n deillio i hynny.

(8At ddibenion paragraff (7), ystyr “y swm sy'n deillio o hyn” (“the resulting amount”) yw swm y lwfans dysgu rhan-amser ar gyfer rhieni a benderfynir yn unol â rheoliad 95 a'r didyniadau (os oes rhai o gwbl) wedi'u cymhwyso'n unol â rheoliad 98.

(9Nid oes unrhyw elfen o'r grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn daladwy pan fo dwysedd yr astudio yn llai na 50 y cant.

Ceisiadau am gymorth

100.—(1Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs rhan-amser dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf y bydd Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol.

(2Rhaid i'r canlynol fynd gyda'r cais—

(a)datganiad o dan reoliad 102(2) i (6) wedi ei lenwi gan yr awdurdod academaidd; a

(b)y dogfennau ychwanegol hynny y gall Gweinidogion Cymru eu gwneud yn ofynnol.

(3Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas ag ef.

(4Nid yw'r rheol gyffredinol yn gymwys—

(a)os bydd un o'r digwyddiadau a restrir yn rheoliad 85(23) yn digwydd ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth ynglŷn â hi, ac yn yr achos hwn rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau ar y dyddiad pan fo'r digwyddiad yn digwydd.

(b)os yw'r ceisydd yn gwneud cais am grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; neu

(c)os yw Gweinidogion Cymru o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddynt.

(5Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes ganddo hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd a oes ganddo hawl i gael cymorth neu beidio ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl.

Cymorth at ffioedd o ran presenoldeb ar gwrs yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban

101.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth i gynorthwyo at ffioedd i fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs rhan-amser dynodedig yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban.

(2Rhaid i'r cymorth a delir o dan baragraff (1) beidio â bod yn fwy na'r lleiaf o—

(a)mwyafswm y cymorth a fyddai wedi bod yn daladwy i fyfyriwr rhan-amser cymwys o dan reoliad 88(1)(a) pe bai wedi bod yn ymgymryd â'r cwrs yng Nghymru; a

(b)mwyafswm y cymorth i gynorthwyo at ffioedd a fyddai wedi bod yn daladwy iddo ym marn Gweinidogion Cymru gan ddibynnu os yw'n bresennol ar gwrs rhan-amser dynodedig yn Lloegr, Gogledd Iwerddon neu'r Alban–

(i)yn unol â rheoliadau a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o'r Ddeddf yr oedd fel arfer yn preswylio yn Lloegr ac yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser yn Lloegr;

(ii)yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 a 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth Myfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998 pe bai fel arfer yn preswylio yng Ngogledd Iwerddon ac yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser yng Ngogledd Iwerddon; neu

(iii)o gyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Bellach ac Addysg Uwch yr Alban(86) pe bai fel arfer yn preswylio yn yr Alban ac yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser yn yr Alban.

Gwybodaeth a materion eraill

102.—(1Mae Atodlen 3 yn gymwys o ran rhoi gwybodaeth.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r awdurdod academaidd priodol, ar gais y ceisydd, lenwi datganiad yn y ffurf honno y caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fynd gyda'r cais am gymorth.

(3Nid yw'n ofynnol i awdurdod academaidd lenwi datganiad os na all roi'r cadarnhad sydd ei angen.

(4Yn y Rhan hon, ystyr “datganiad” (“declaration”) yw—

(a)pan fo'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig am y tro cyntaf, datganiad—

(i)sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymgymryd ag o leiaf bythefnos o'r cwrs rhan-amser dynodedig;

(b)mewn unrhyw achos arall, datganiad—

(i)sy'n darparu gwybodaeth am y cwrs; a

(ii)sy'n cadarnhau bod y ceisydd wedi ymrestru i ymgymryd â blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(5Yn y rheoliad hwn, ystyr “gwybodaeth am y cwrs” (“course information”) yw—

(a)swm y ffioedd a godir mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi;

(b)pa mor ddwys yw'r astudio;

(c)nodyn ardystio gan yr awdurdod academaidd ei fod o'r farn—

(i)mai cwrs rhan-amser dynodedig yw'r cwrs;

(ii)y bydd yn bosibl i'r ceisydd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 86(1)(c).

(6At ddibenion paragraff (5)(c)(ii) rhaid i'r awdurdod academaidd roi sylw i—

(a)unrhyw gynnydd ym mha mor ddwys y byddai angen astudio er mwyn i'r ceisydd gwblhau'r cwrs o fewn y cyfnod a bennir yn rheoliad 86(1)(c);

(b)unrhyw rannau o'r cwrs y mae wedi bod yn ofynnol i'r ceisydd eu hailadrodd.

Trosglwyddo statws

103.—(1Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys i'r cwrs hwnnw—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(2Y seiliau dros drosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig arall yn y sefydliad;

(b)bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn sefydliad arall; neu

(c)ar ôl cychwyn cwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae hawl gan fyfyriwr rhan-amser cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau, am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo yn unol â'r Rhan hon.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno wneud cais am grant arall o dan reoliad 88(1)(b), rheoliad 89 neu reoliadau 90 i 99 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

(6Os yw myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (1), uchafswm y cymorth o dan reoliad 88(1)(a) mewn perthynas â'r blynyddoedd academaidd y mae'n trosglwyddo iddynt neu oddi wrthynt yw swm y cymorth at ffioedd sydd ar gael mewn cysylltiad â'r cwrs mwyaf dwys o ran ei astudio fel y diffinnir yn rheoliad 88.

Trosi statws

104.—(1Os yw myfyriwr cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(2Os yw'r myfyriwr, cyn cwblhau'r cwrs dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 86(1)(b) ac (c) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr yn parhau am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.

(3Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr o dan reoliad 25 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)y grant y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 89 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno;

(c)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr o dan reoliad 25 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliad 89 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 25, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim;

(ch)os oedd y myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais, am fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu'r uchafswm wedi'i gynyddu yr oedd ganddo hawlogaeth i'w gael, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) mae uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad hwnnw am y flwyddyn academaidd yn cael ei ostwng yn unol â'r paragraff hwnnw;

(d)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr o dan reoliadau 27 i 30 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys;

(dd)mae uchafswm y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y byddai gan y myfyriwr, heblaw am y rheoliad hwn, hawlogaeth i'w gael yn unol â rheoliadau 90 i 99 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno; ac

(e)os oes swm o grant wedi'i dalu i'r myfyriwr o dan reoliadau 27 i 30 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliadau 90 i 99 yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (dd) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo yn unol â rheoliadau 27 i 30, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.

(4Os yw'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hi, mae uchafswm y benthyciad neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad (yn ôl y digwydd) yn cael ei ostwng o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ail chwarter y flwyddyn honno mae'r swm hwnnw'n cael ei ostwng o un traean.

(5Os yw myfyriwr dysgu o bell cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs dysgu o bell dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr fel myfyriwr dysgu o bell cymwys i statws myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr dysgu o bell cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(6Os yw'r myfyriwr, cyn cwblhau'r cwrs dysgu o bell dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 86(1)(b) ac (c) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr yn parhau am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), mae hawl gan fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5) mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael o dan Ran 11 mewn perthynas â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell dynodedig y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(8Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.

(9O ran myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs dysgu o bell y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno–

(a)ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 88(1)(b) os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 72(1)(b);

(b)ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 89 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 75.

(10Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5), rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr o dan reoliad 72(1)(a) ac 88(1)(a) o ran—

(a)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo oddi wrthi; a

(b)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi;

beidio â bod yn uwch na swm y cymorth a benderfynir sy'n daladwy gan y myfyriwr o dan reoliad 72(1)(a).

(11Os yw myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (5), uchafswm y grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliadau 90 i 99 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr o'r fath mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno.

(12Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(13Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (12)—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o grant i'r myfyriwr yn unol â rheoliad 89 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad perthynas â'r swm hwnnw o grant mewn perthynas â chyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys;

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (c) ac (dd), anwybyddir unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ynddi wrth bennu swm y cymorth y gall fod ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 6;

(c)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu talu swm o unrhyw grant i'r myfyriwr yn unol â rheoliadau 90 i 99 mewn rhandaliadau cyfnodol, ni chaniateir talu taliad mewn perthynas â'r swm hwnnw o ran cyfnod unrhyw randaliad sy'n dechrau ar ôl y dyddiad y daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys;

(ch)mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Rannau 5 neu 6 y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno;

(d)os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr yn unol â rheoliad 89 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo o dan reoliad 25 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (ch) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 89 ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac

(dd)os oes swm o grant wedi'i dalu i'r myfyriwr yn unol â rheoliadau 90 i 99 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliadau 27 i 30 yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (dd) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo yn unol â rheoliadau 90 i 99, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.

(14Os yw myfyriwr rhan-amser cymwys yn rhoi'r gorau i ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig a'i fod yn trosglwyddo i gwrs dysgu o bell dynodedig yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosi statws y myfyriwr hwnnw fel myfyriwr rhan-amser cymwys i statws myfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr rhan-amser cymwys am wneud hynny; a

(b)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(15Yn ddarostyngedig i baragraff (16), mae gan fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (14) hawl i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo gweddill y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael o dan y Rhan hon o ran blwyddyn academaidd y cwrs rhan-amser dynodedig y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(16Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddiad.

(17O ran myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (14) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd cwrs dysgu o bell y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno–

(a)ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 72(1)(b) os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 88(1)(b);

(b)ni chaiff wneud cais am grant o dan reoliad 75 os yw eisoes wedi gwneud cais am grant o dan reoliad 89.

(18Os bydd myfyriwr yn trosglwyddo o dan baragraff (14), rhaid i gyfanswm y cymorth a delir i'r myfyriwr o dan reoliadau 72(1)(a) a 88(1)(a) o ran—

(a)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo oddi wrthi; a

(b)y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo iddi;

beidio â bod yn uwch na swm uchaf y cymorth a benderfynir sy'n daladwy gan y myfyriwr o dan reoliad 72(1)(a).

Talu cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys

105.—(1Caniateir i daliadau o'r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr rhan-amser cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

(2Os na bydd Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a roddwyd gan y myfyriwr, cânt wneud asesiad dros dro a thalu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn rhandaliadau.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl ar yr adegau hynny y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu cymorth mewn rhandaliadau, wneud unrhyw daliad o'r grant at lyfrau, teithio neu wariant arall na'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl o dan reoliad 89 cyn iddynt gael y datganiad o dan reoliad 102(2) i (6) oni bai bod eithriad yn gymwys.

(6Mae eithriad yn gymwys—

(a)os yw grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl at gostau byw o dan reoliad 89 yn daladwy, ac os felly, caniateir i'r grant penodol hwnnw gael ei dalu cyn i'r datganiad ddod i law Gweinidogion Cymru;

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol o achos amgylchiadau eithriadol iddynt wneud taliad heb i ddatganiad ddod i law.

106.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, caiff Gweinidogion Cymru dalu grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar y cyfryw adegau ag y maent o'r farn eu bod yn briodol.

(2Mae'n ofynnol i sefydliad anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r rhandaliad cyntaf neu, os penderfynwyd peidio â thalu grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn rhandaliadau, rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o'r cyfryw grant i fyfyriwr rhan-amser cymwys cyn iddynt gael cadarnhad o bresenoldeb onid yw'r eithriad ym mharagraff (4) yn gymwys.

(4Mae'r eithriad yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu y byddai'n briodol, oherwydd amgylchiadau eithriadol, gwneud taliad er eu bod heb gael cadarnhad o bresenoldeb.

(5Pan na ellir gwneud asesiad terfynol ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr, caiff Gweinidogion Cymru wneud asesiad dros dro a thaliad dros dro o grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion.

(6Mae taliadau grant dros dro ar gyfer dibynyddion i'w gwneud yn y cyfryw ddull ag y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol a chânt ei gwneud yn un o amodau hawlogaeth i gael taliad fod yn rhaid i'r myfyriwr rhan-amser cymwys ddarparu ar eu cyfer fanylion cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y caniateir gwneud taliadau iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), nid oes unrhyw grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod mewn blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn garcharor arno, oni fyddai'n briodol yn yr holl amgylchiadau ym marn Gweinidogion Cymru i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r diwrnod hwnnw

(8Wrth benderfynu a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (7), mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu ac a fyddai peidio â thalu'r cymorth yn effeithio ar allu'r myfyriwr i barhau â'r cwrs.

(9Nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn ddyledus mewn perthynas ag unrhyw gyfnod talu sy'n dechrau ar ôl i gyfnod cymhwystra myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.

(10Pan fydd cyfnod cymhwystra myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar neu ar ôl y dyddiad perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—

(a)swm pob grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr yn gymwys i'w gael ac a fyddai'n daladwy mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol pe na bai cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dod i ben (y “cyfanswm”); a

(b)faint o'r cyfanswm sy'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod sy'n ymestyn o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys i ben (y “swm rhannol”).

(11Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd o dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(12Os yw Gweinidogion Cymru wedi gwneud taliad grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y daeth cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys i ben a bod y taliad hwnnw'n fwy na swm rhannol y grant hwnnw—

(a)cânt drin y tâl dros ben fel gordaliad o'r grant hwnnw; neu

(b)os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny cânt estyn cyfnod cymhwystra'r myfyriwr mewn perthynas â'r grant rhan-amser hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a chânt benderfynu bod cyfanswm y grant yn ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

(13Os oes taliad grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i'w dalu ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben neu os dyna pryd y'i telir, swm y grant rhan-amser hwnnw ar gyfer dibynyddion sy'n ddyledus yw'r swm rhannol onid yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol estyn y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r grant hwnnw hyd ddiwedd y cyfnod talu perthnasol neu'n briodol penderfynu bod cyfanswm y grant hwnnw'n ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.

(14Nid oes unrhyw gymorth ar ffurf grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion yn ddyledus mewn perthynas â chyfnod talu y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn absennol o'i gwrs yn ystod unrhyw ran ohono, oni fyddai'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru yn yr holl amgylchiadau i'r cymorth gael ei dalu mewn perthynas â'r cyfnod absenoldeb.

(15Wrth benderfynu a fyddai'n briodol i gymorth fod yn ddyledus o dan baragraff (14) mae'r amgylchiadau y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddynt yn cynnwys y rheswm dros absenoldeb y myfyriwr, hyd y cyfnod absenoldeb a'r caledi ariannol a fyddai'n cael ei achosi pe na bai'r cymorth yn cael ei dalu.

(16Nid ddylid ystyried bod myfyriwr cymwys yn absennol o'i gwrs os yw'n methu bod yn bresennol oherwydd salwch ac nad yw wedi bod yn absennol am fwy na 60 o ddiwrnodau.

(17Os bydd Gweinidogion Cymru, ar ôl iddynt wneud unrhyw daliad cymorth ar ffurf grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion, yn penderfynu swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael naill ai am y tro cyntaf neu ar ffurf adolygiad o benderfyniad dros dro neu benderfyniad arall ynghylch y swm hwnnw—

(a)os penderfyniad i gynyddu swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael yw'r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r swm ychwanegol yn y cyfryw randaliadau (os bydd rhandaliadau) ac ar yr adegau y maent yn credu eu bod yn briodol;

(b)os penderfyniad i ostwng swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael yw'r penderfyniad, rhaid i Weinidogion Cymru ddidynnu swm y gostyngiad o swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu;

(c)os yw swm y gostyngiad yn fwy na swm y grant hwnnw sydd ar ôl i'w dalu, gostyngir y swm diwethaf hwn i ddim a chaiff y balans ei ddidynnu o unrhyw elfen arall o grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd;

(ch)gellir adennill unrhyw ordaliad sy'n weddill yn unol â rheoliad 108.

Talu grantiau at ffioedd

107.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r grant mewn perthynas â ffioedd y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael i'r awdurdod academaidd priodol ar ôl i gais dilys am daliad ddod i law.

(2Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau o dan baragraff (1) ar unrhyw adegau ac mewn unrhyw randaliadau y maent yn credu sy'n addas.

(3Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o dan baragraff (1) mewn unrhyw achosion y maent yn credu eu bod yn briodol.

Gordaliadau

108.—(1Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant mewn perthynas â ffioedd oddi wrth yr awdurdod academaidd.

(2Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd iddo o dan y Rhan hon ac sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawl i'w gael o dan y Rhan hon.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad grant at lyfrau, teithio a gwariant arall a'r grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl a grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion onid ydynt o'r farn nad yw'n briodol gwneud hynny.

(4Dyma'r dulliau adennill—

(a)tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.

(5Mae taliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl neu grant rhan-amser ar gyfer dibynyddion a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr yn tynnu allan o'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(6Y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(7Yn yr amgylchiadau ym mharagraff (8) neu (9), ceir gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl oni bai bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(8Dyma'r amgylchiadau—

(a)bod Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant at gostau byw myfyriwr rhan-amser anabl i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr rhan-amser cymwys;

(b)bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nad yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(9Dyma'r amgylchiadau—

(a)bod cyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; a

(b)bod taliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr yn cael ei wneud ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr rhan-amser cymwys ddod i ben.

(10Pan fo gordaliad o grant at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.

RHAN 13CYMORTH I FYFYRWYR ÔL-RADDEDIG SYDD AG ANABLEDDAU

Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys

109.—(1Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ei bod yn ofynnol iddo ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd ganddo ynghylch ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig.

(2Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig os yw'r person hwnnw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi'i hepgor gan baragraff (4).

(3Yr amodau yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru, wrth asesu cais person am gymorth, wedi penderfynu mewn cysylltiad â'r cwrs ôl-radd dynodedig fod y person yn dod o fewn un o'r categorïau a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1; a

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni ei bod yn ofynnol i'r person ysgwyddo gwariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.

(4Nid yw person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys–

(a)os rhoddwyd neu os talwyd iddo mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs–

(i)bwrsari gofal iechyd;

(ii)unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 2007;

(iii)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil;

(iv)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan ei sefydliad sy'n cynnwys unrhyw daliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a dynnwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu

(v)unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(87) sy'n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a dynnwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu

(b)os yw wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi dilysu unrhyw gytundeb ynglŷn â benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed;

(ch)os yw'r person hwnnw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(5At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr “benthyciad” (“loan”) yw benthyciad a wnaed o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau myfyrwyr.

(6Mewn achos lle mae'r cytundeb ynglŷn â benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y bydd paragraff 4(c) yn gymwys.

(7Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae'n dod odano.

(8Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon oni bai ei fod yn ymgymryd â'i gwrs yn y Deyrnas Unedig.

(9Er gwaethaf paragraffau (3)(a) a (4), mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3)(b) a pharagraff (10) neu (11).

(10Yr amodau yw—

(a)bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs ôl-radd dynodedig presennol yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs ôl-radd dynodedig presennol; ac

(c)nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.

(11Yr amodau yw—

(a)bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu o'r blaen fod y person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig ac eithrio'r cwrs ôl-radd dynodedig presennol;

(b)bod statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(c)bod y person yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs y cyfeirir ato yn is-baragraff (a); ac

(ch)nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.

(12Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)ar y diwrnod cyn diwrnod dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, statws ffoadur A neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant neu ei lys-riant wedi dod i ben ac na roddwyd caniatâd pellach iddo aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(13Os bydd—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd bod yn ffoadur, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu'n llysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth am flwyddyn gynharach o'r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi'i drosglwyddo oddi wrtho i'r cwrs ôl-radd presennol; a

(b)y diwrnod cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben, ac na roddwyd hawl bellach i aros ac nad oes apêl yn yr arfaeth (o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.

(14Nid yw paragraffau (12) a (13) yn gymwys pan fo'r myfyriwr wedi dechrau ar y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag ef ei fod yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys cyn 1 Medi 2007.

(15Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol—

(a)mwy nag un cwrs ôl-radd dynodedig;

(b)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dysgu o bell dynodedig;

(c)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs dynodedig;

(ch)cwrs ôl-radd dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.

(16Os digwydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (17) yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)caiff myfyriwr fod yn gymwys i gael grant o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn unol â'r Rhan hon; a

(b)nid oes grant o'r math sydd ar gael o dan y Rhan hon ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd yn dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

(17Y digwyddiadau yw—

(a)mae cwrs y myfyriwr yn dod yn gwrs ôl-radd dynodedig;

(b)cydnabyddir bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn ffoadur neu mae'n dod yn berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(c)mae'r wladwriaeth y mae'r myfyriwr yn un o'i dinasyddion yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd pan fo'r myfyriwr wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd trwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(ch)mae'r myfyriwr yn caffael yr hawl i breswylio'n barhaol;

(d)daw'r myfyriwr yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(dd)daw'r myfyriwr yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Ran 2 o Atodlen 1; neu

(e)daw'r myfyriwr yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

Cyrsiau ôl-radd dynodedig

110.—(1Mae cwrs ôl-radd yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o'r Ddeddf a rheoliad 109–

(a)os yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) neu'n uwch i gael mynediad iddo fel rheol;

(b)os yw'n gwrs—

(i)sy'n parhau am o leiaf un flwyddyn academaidd; a

(ii)yn achos cwrs rhan-amser, y mae fel arfer yn bosibl cwblhau'r cwrs mewn nid mwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;

(c)os yw'n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac

(ch)nad yw'n gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon neu gwrs yr ymgymerir ag ef fel rhan o gynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth.

(2At ddibenion paragraff (1)—

(a)mae cwrs yn cael ei ddarparu gan sefydliad os yw'r sefydliad yn darparu'r addysgu a'r goruchwylio sy'n ffurfio'r cwrs, pa un a yw'r sefydliad wedi gwneud cytundeb gyda'r myfyriwr i ddarparu'r cwrs neu beidio;

(b)bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac

(c)ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(88).

(3At ddibenion paragraff (1)(b)(ii)—

(a)ystyr “cwrs amser-llawn cyfatebol” (“full-time equivalent”) yw cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r cwrs o dan sylw;

(b)ystyr “cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol” (“period ordinarily required to complete the full-time equivalent”) yw'r cyfnod y byddai ei angen ar fyfyriwr amser-llawn safonol i gwblhau'r cwrs amser-llawn cyfatebol;

(c)ystyr “myfyriwr amser-llawn safonol” (“standard full-time student”) yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un—

(i)sydd wedi dechrau ar y cwrs amser-llawn cyfatebol ar yr un dyddiad ag y dechreuodd myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs o dan sylw;

(ii)nad yw wedi'i esgusodi o unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn gyfatebol;

(iii)nad yw wedi ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs amser-llawn cyfatebol; ac

(iv)nad yw wedi bod yn absennol o'r cwrs amser-llawn cyfatebol ac eithrio yn ystod gwyliau.

(4At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 109, caiff Gweinidogion Cymru ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).

Cyfnod cymhwystra

111.—(1Mae myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys hyd oni therfynir y statws yn unol â'r rheoliad hwn a rheoliad 109.

(2Y cyfnod y bydd myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn cadw'r statws yw'r “cyfnod cymhwystra” (“period of eligibility”).

(3Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 109, mae'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar ddiwedd y cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig.

(4Mae'r cyfnod cymhwystra yn terfynu pan fydd y myfyriwr ôl-raddedig cymwys—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs ôl-radd dynodedig o dan amgylchiadau lle nad yw Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu lle na fyddant yn trosglwyddo ei statws fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i gwrs arall o dan reoliad 112; neu

(b)yn cefnu ar ei gwrs ôl-radd dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(5Caiff Gweinidogion Cymru derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.

(6Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rhan hon neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw rai o'r camau canlynol y maent yn credu eu bod yn briodol o dan yr amgylchiadau—

(a)terfynu'r cyfnod cymhwystra;

(b)penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant;

(c)trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 117.

(7Pan fo'r cyfnod cymhwystra'n dod i ben ar y dyddiad y daw'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs ôl-radd dynodedig i ben neu cyn y dyddiad hwnnw, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw adeg, adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfryw gyfnodau ag y byddant yn penderfynu arnynt.

Trosglwyddo statws

112.—(1Os yw myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn trosglwyddo i gwrs ôl-radd arall, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys i'r cwrs hwnnw—

(a)os cânt gais oddi wrth y myfyriwr ôl-raddedig cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi'u bodloni bod un neu fwy o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac

(c)os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi'i derfynu.

(2Y seiliau trosglwyddo yw—

(a)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar argymhelliad yr awdurdod academaidd, yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig arall yn y sefydliad; neu

(b)bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-radd dynodedig mewn sefydliad arall.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau i gael, mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi arno am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi.

(4Caiff Gweinidogion Cymru ailasesu swm y cymorth sy'n daladwy ar ôl y trosglwyddo.

(5Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru benderfynu ar ei gymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho ond cyn iddo gwblhau'r flwyddyn honno wneud cais am grant arall o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo.

Ceisiadau am gymorth

113.—(1Rhaid i berson (y “ceisydd”) wneud cais am grant o dan y Rhan hon mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs ôl-radd dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i Weinidogion Cymru gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn amdanynt.

(2Rhaid i'r cais gyrraedd Gweinidogion Cymru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael grant a swm y grant sy'n daladwy, os oes grant yn daladwy o gwbl.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd

(a)pa un a oes gan y ceisydd hawl i gael grant neu beidio;

(b)os oes gan y ceisydd hawl, y swm sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes swm yn daladwy o gwbl; ac

(c)sut y dyrennir y swm hwnnw rhwng y mathau o wariant cymwys.

Gwybodaeth

114.  Mae Atodlen 3 yn gymwys i roi gwybodaeth.

Swm y grant

115.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), grant o dan y Rhan hon yw unrhyw swm sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru, i gynorthwyo gydag un neu fwy o fathau o wariant cymwys.

(2Rhaid i'r grant beidio â bod yn fwy na £10,260 mewn perthynas â blwyddyn academaidd.

(3At ddibenion y Rhan hon, y canlynol yw'r “mathau o wariant cymwys”—

(a)gwariant ar gynorthwyydd nad yw'n gynorthwyydd meddygol;

(b)gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; a

(c)gwariant ychwanegol a dynnir—

(i)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben mynychu sefydliad;

(ii)o fewn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi at ddiben mynychu, fel rhan o'r cwrs, unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion mynychu'r Athrofa.

Talu'r grant

116.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu grant y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael o dan y Rhan hon a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y maent yn credu eu bod yn briodol ac wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon fe gânt wneud taliadau dros dro hyd nes y ceir cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael.

(2Caniateir i daliadau gael eu gwneud mewn unrhyw fodd sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru a chânt ei gwneud yn un o amodau'r hawlogaeth i gael taliad fod rhaid i'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi iddynt fanylion cyfrif banc neu gyfrif cymdeithas adeiladu yn y Deyrnas Unedig y gall taliadau gael eu talu iddo drwy eu trosglwyddo'n electronig.

Gordaliadau

117.—(1Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn iddo, rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr o dan y Rhan hon sydd am ba reswm bynnag yn fwy na swm y grant y mae ganddo hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru adennill gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid ydynt o'r farn nad yw'n briodol i wneud hynny.

(3Dyma'r dulliau ar gyfer adennill—

(a)tynnu'r gordaliad o unrhyw fath o grant sy'n daladwy i'r myfyriwr o bryd i'w gilydd yn unol â rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o'r Ddeddf;

(b)cymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael iddynt.

(4Mae taliad grant o dan y Rhan hon a wnaed cyn y dyddiad perthnasol yn ordaliad os yw'r myfyriwr yn rhoi'r gorau i'r cwrs cyn y dyddiad perthnasol onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(5Yn y rheoliad hwn, y “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw'r dyddiad y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd dan sylw yn dechrau mewn gwirionedd.

(6Yn yr amgylchiadau ym mharagraffau (7) a (8), mae gordaliad o grant o dan y Rhan hon onid yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu fel arall.

(7Yr amgylchiadau yw—

(a)mae Gweinidogion Cymru yn cymhwyso'r cyfan neu ran o'r grant o dan y Rhan hon i brynu offer arbenigol ar ran y myfyriwr ôl-raddedig cymwys;

(b)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn dod i ben ar ôl y dyddiad perthnasol; ac

(c)nid yw'r offer wedi'i ddanfon at y myfyriwr cyn i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(8Yr amgylchiadau yw—

(a)mae cyfnod cymhwystra'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben; a

(b)gwneir taliad grant o dan y Rhan hon mewn perthynas ag offer arbenigol i'r myfyriwr ar ôl i gyfnod cymhwystra'r myfyriwr ddod i ben.

(9Pan fo gordaliad o grant o dan y Rhan hon, caiff Gweinidogion Cymru dderbyn yn ôl offer arbenigol a brynwyd â'r grant yn fodd i adennill y cyfan neu ran o'r gordaliad os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny.

RHAN 14DIWYGIO RHEOLIADAU (RHIF 2) 2008

Diwygio Rheoliadau (Rhif 2) 2008

118.—(1Diwygir Rheoliadau (Rhif 2) 2008 yn unol â'r paragraffau canlynol.

(2Yn rheoliad 6(4)(a), ar ôl “o dan” mewnosoder “reoliad 8,”.

(3Yn rheoliad 6(9), yn lle “yn ddarostyngedig i baragraff (6)” rhodder “yn ddarostyngedig i baragraff (11)”.

(4Yn rheoliad 6(10), yn lle “Mae paragraff (6) yn gymwys” rhodder “Mae paragraff (11) yn gymwys”.

(5Yn rheoliad 6(13), yn lle “yn ddarostyngedig i baragraff (9)” rhodder “yn ddarostyngedig i baragraff (14)”.

(6Yn rheoliad 42(1)(b), yn lle “rheoliad 23(3)(c)” rhodder “rheoliad 23(3)(b)”.

(7Yn rheoliad 49(1)(ff)(i), yn lle “rheoliad 23(3)(a), (b) neu (c) rhodder “rheoliad 23(3)(a) neu (b)”.

(8Yn rheoliad 82(5), yn lle “rheoliad 96” rhodder “rheoliad 97(6)”.

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

12 Hydref 2009

Rheoliadau 4, 68, 85 a 109

ATODLEN 1Myfyrwyr Cymwys

RHAN 1

Dehongli

1.—(1At ddibenion yr Atodlen hon—

  • ystyr “aelod o deulu” (“family member”) (oni nodir fel arall) yw—

    (a)

    o ran gweithiwr ffin yr AEE, gweithiwr mudol o'r AEE, person hunangyflogedig ffin yr AEE neu berson hunangyflogedig o'r AEE—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil;

    (ii)

    ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (iii)

    perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

    (b)

    o ran person cyflogedig Swisaidd, person cyflogedig ffin y Swistir, person hunangyflogedig ffin y Swistir neu berson hunangyflogedig Swisaidd—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (ii)

    ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil;

    (c)

    o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(c) o Gyfarwyddeb 2004/38—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (ii)

    ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd—

    (aa)

    o dan 21 oed; neu

    (bb)

    yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;

    (ch)

    o ran gwladolyn o'r GE sy'n dod o fewn Erthygl 7(1)(b) o Gyfarwyddeb 2004/38—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (ii)

    ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd—

    (aa)

    o dan 21 oed; neu

    (bb)

    yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;

    (iii)

    perthnasau uniongyrchol dibynnol yn ei linach esgynnol ef neu yn llinach esgynnol ei briod neu ei bartner sifil;

    (d)

    o ran gwladolyn o'r Deyrnas Unedig, at ddibenion paragraff 9—

    (i)

    ei briod neu ei bartner sifil; neu

    (ii)

    ei ddisgynyddion uniongyrchol ef neu ddisgynyddion uniongyrchol ei briod neu ei bartner sifil sydd—

    (aa)

    o dan 21 oed; neu

    (bb)

    yn ddibynyddion iddo ef neu i'w briod neu ei bartner sifil;

  • ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a ffurfir gan y Gwladwriaethau AEE;

  • ystyr “Cytundeb y Swistir” (“Swiss Agreement”) yw'r Cytundeb rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau, o'r naill ran, a Chydffederasiwn y Swistir, o'r rhan arall, ar Symud Rhydd Personau a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999(89) ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002;

  • ystyr “gweithiwr” yw “worker” o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd;

  • ystyr “gweithiwr mudol o'r AEE” (“EEA migrant worker”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n weithiwr, ac eithrio gweithiwr ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “gweithiwr ffin yr AEE” (“EEA frontier worker”) yw gwladolyn o'r AEE—

    (a)

    sy'n weithiwr yng Nghymru; a

    (b)

    sy'n preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “gwladolyn o'r AEE” (“EEA national”) yw gwladolyn o Wladwriaeth yn yr AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig;

  • ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd;

  • ystyr “person cyflogedig” (“employed person”) yw person cyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person cyflogedig Swisaidd” (“Swiss employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson cyflogedig, ac eithrio person cyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person cyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

    (a)

    yn berson cyflogedig yng Nghymru; a

    (b)

    yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person hunangyflogedig” (“self-employed person”) yw—

    (a)

    o ran gwladolyn o'r AEE, person sy'n hunangyflogedig o fewn ystyr Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu Gytundeb yr AEE, yn ôl y digwydd; neu

    (b)

    o ran gwladolyn Swisaidd, person sy'n berson hunangyflogedig o fewn ystyr Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

  • ystyr “person hunangyflogedig o'r AEE” (“EEA self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin yr AEE, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig ffin yr AEE” (“EEA frontier self-employed person”) yw gwladolyn o'r AEE sydd—

    (a)

    yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

    (b)

    yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth AEE ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth AEE honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • ystyr “person hunangyflogedig Swisaidd” (“Swiss self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sy'n berson hunangyflogedig, ac eithrio person hunangyflogedig ffin y Swistir, yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “person hunangyflogedig ffin y Swistir” (“Swiss frontier self-employed person”) yw gwladolyn Swisaidd sydd—

    (a)

    yn berson hunangyflogedig yng Nghymru; a

    (b)

    yn preswylio yn y Swistir neu yn nhiriogaeth Gwladwriaeth EEA ac eithrio'r Deyrnas Unedig ac sy'n dychwelyd i'w breswylfa yn y Swistir neu'r Wladwriaeth EEA honno, yn ôl y digwydd, yn ddyddiol neu o leiaf unwaith yr wythnos;

  • mae i “wedi setlo” yr ystyr a roddir i “settled” gan adran 33(2A) o Ddeddf Mewnfudo 1971(90).

(2At ddibenion yr Atodlen hon, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sydd â gofal am blentyn ac mae “plentyn” (“child”) i'w ddehongli yn unol â hynny.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu yn yr Ynysoedd, o ganlyniad i fod wedi symud o un arall o'r ardaloedd hynny at ddiben ymgymryd ag—

(a)y cwrs presennol; neu

(b)a diystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, cwrs yr ymgymerodd y myfyriwr ag ef yn syth cyn ymgymryd â'r cwrs presennol,

i'w ystyried yn berson sy'n preswylio'n arferol yn y lle y mae wedi symud ohono.

(4At ddibenion yr Atodlen hon, mae person i gael ei drin fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci pe bai wedi bod yn preswylio felly oni bai am y ffaith bod—

(a)y person hwnnw;

(b)ei briod neu ei bartner sifil;

(c)ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn ef neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,

yn gyflogedig dros dro neu wedi bod yn gyflogedig dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn ôl y digwydd, y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir.

(5At ddibenion is-baragraff (4), mae cyflogaeth dros dro y tu allan i Gymru, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd y Swistir a Thwrci yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o luoedd rheolaidd y llynges, y fyddin neu'r llu awyr y Goron, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r Deyrnas Unedig fel aelodau o'r cyfryw luoedd; a

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth EEA neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir fel aelodau o'r cyfryw luoedd.

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fyddant yn gwasanaethu y tu allan i'r diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci fel aelodau o'r cyfryw luoedd.

(6At ddibenion yr Atodlen hon mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd neu'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall, neu o'r ddwy, o'r ardaloedd hyn,

i'w hystyried fel pe bai wastad wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

RHAN 2Categorïau

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig

2.—(1Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—

(a)wedi setlo yn y Deyrnas Unedig heblaw am y rheswm ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)yn preswylio fel arfer yng Nghymru;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd yn unol â pharagraff 1(4).

3.  Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd y ffaith ei fod wedi ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos lle'r oedd y preswylio y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Ffoaduriaid ac aelodau o'u teuluoedd

4.—(1Person—

(a)sy'n ffoadur;

(b)sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers iddo gael ei gydnabod yn ffoadur; ac

(c)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur;

(b)oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(c)sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly ers iddo gael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; ac

(ch)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy'n blentyn i ffoadur neu'n blentyn i briod neu i bartner sifil ffoadur;

(b)ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches, oedd yn blentyn i'r ffoadur neu'n blentyn i berson a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r ffoadur ar y dyddiad hwnnw;

(c)oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y ffoadur ei gais am loches;

(ch)sy'n preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â bod yn preswylio felly ers iddo gael caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig; a

(d)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o'u teuluoedd

5.—(1Person—

(a)sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros—

(b)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(c)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Person—

(a)sy'n briod neu'n bartner sifil i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad y gwnaeth y person hwnnw ei gais am loches;

(c)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(3Person—

(a)sy'n blentyn i berson â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu sy'n blentyn i briod neu i bartner sifil person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)a oedd, ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches, yn blentyn i'r person hwnnw neu'n blentyn i berson oedd yn briod neu'n bartner sifil i'r person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ar y dyddiad hwnnw;

(c)a oedd o dan 18 oed ar y dyddiad y gwnaeth y person â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ei gais am loches;

(ch)sy'n preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)sydd wedi bod yn preswylio'n arferol yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o'u teuluoedd

6.—(1Person—

(a)sydd—

(i)yn weithiwr mudol o'r EEA neu yn berson hunangyflogedig o'r EEA;

(ii)yn berson cyflogedig Swisaidd neu'n berson hunangyflogedig Swisaidd;

(iii)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (i) neu (ii);

(iv)yn weithiwr ffin yr EEA neu yn berson hunangyflogedig ffin yr EEA;

(v)yn berson cyflogedig ffin y Swistir neu'n berson hunangyflogedig ffin y Swistir; neu

(vi)yn aelod o deulu person a grybwyllir ym mharagraff (iv) neu (v);

(b)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

(2Nid yw paragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys os yw'r person sy'n gwneud cais am gymorth yn dod o fewn paragraff (a)(iv), (v) neu (vi) o is-baragraff (1).

7.  Person sydd—

(a)yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)â hawlogaeth i gael cymorth yn rhinwedd Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1612/68 ar ryddid gweithwyr i symud(91), fel y'i hestynnwyd gan Gytundeb yr AEE (92).

Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio yn rhywle arall

8.—(1Person—

(a)sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig;

(b)a oedd yn preswylio fel arfer yng Nghymru ac wedi setlo yn y Deyrnas Unedig yn union cyn gadael y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio;

(c)sy'n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf mewn gwirionedd yn dechrau;

(ch)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; a

(d)mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (ch).

(2At ddibenion y paragraff hwn, mae person wedi arfer hawl i breswylio os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, yn aelod o deulu gwladolyn o'r Deyrnas Unedig at ddibenion Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 (neu ddibenion cyfatebol o dan Gytundeb yr EEA neu Gytundeb y Swistir) neu'n berson sydd â hawl i breswylio'n barhaol sydd yn y ddau achos wedi arfer hawl o dan Erthygl 7 o Gyfarwyddeb 2004/38 neu unrhyw hawl gyfatebol o dan Gytundeb yr AEE neu Gytundeb y Swistir mewn gwladwriaeth heblaw'r Deyrnas Unedig neu, yn achos person sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd â hawl i breswylio'n barhaol, os yw'n mynd i'r wladwriaeth o fewn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir y mae'n wladolyn iddi neu y mae'r person y mae'n aelod o deulu gwladolyn iddi mewn perthynas ag ef yn wladolyn iddi.

Gwladolion o'r GE

9.—(1Person—

(a)sydd naill ai—

(i)yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; neu

(ii)yn aelod o deulu person o'r fath;

(b)sydd—

(i)yn mynychu cwrs dynodedig yng Nghymru; neu

(ii)yn ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig neu gwrs ôl-radd dynodedig yng Nghymru;

(c)wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fu'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn.

(2Nid yw paragraff (ch) o is-baragraff (1) yn gymwys i berson yr ymdrinnir ag ef fel rhywun sy'n preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn unol â pharagraff 1(4).

(3Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu gwladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r GE ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

10.—(1Person—

(a)sy'n wladolyn o'r GE ac eithrio gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd yn union cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

(2Os yw gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd ar ôl diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod person yn wladolyn o'r wladwriaeth honno, trinnir y gofyniad ym mharagraff (a) o is-baragraff (1) bod rhywun yn wladolyn o'r GE heblaw gwladolyn o'r Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs fel gofyniad sydd wedi'i fodloni.

Plant gwladolion Swisaidd

11.  Person—

(a)sy'n blentyn i wladolyn Swisaidd y mae ganddo hawl i gael cymorth yn y Deyrnas Unedig yn rhinwedd Erthygl 3(6) o Atodiad 1 i Gytundeb y Swistir;

(b)sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs;

(c)sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(ch)mewn achos lle'r oedd y preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn derbyn addysg amser-llawn, a oedd yn preswylio fel arfer yn y diriogaeth sy'n ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir yn union cyn y cyfnod preswylio arferol y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Plant gweithwyr Twrcaidd

12.  Person—

(a)sydd yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(b)sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac

(c)sydd wedi preswylio fel arfer yn y diriogaeth sydd yn ffurfio'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci drwy'r cyfnod o dair blynedd yn union o flaen diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.

Rheoliadau 5, 70 ac 86

ATODLEN 2CYRSIAU DYNODEDIG

1.  Cwrs gradd gyntaf.

2.  Cwrs ar gyfer y Ddiploma Addysg Uwch.

3.  Cwrs ar gyfer Diploma Genedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—

(a)Cyngor Addysg Busnes a Thechnegwyr; neu

(b)Awdurdod Cymwysterau'r Alban.

4.  Cwrs ar gyfer tystysgrif Addysg Uwch.

5.  Cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon.

6.  Cwrs o hyfforddiant pellach i weithwyr ieuenctid a chymuned.

7.  Cwrs i baratoi at arholiad proffesiynol o safon sy'n uwch na'r canlynol—

(a)yr arholiad safon uwch ar gyfer y Dystysgrif Addysg Gyffredinol neu'r arholiad lefel uwch ar gyfer Tystysgrif Addysg yr Alban; neu

(b)yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Genedlaethol y naill neu'r llall o'r cyrff a grybwyllwyd ym mharagraff 3,

nad yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.

8.  Cwrs—

(a)sy'n darparu addysg (boed i baratoi at arholiad neu beidio) y mae ei safon yn uwch na safon cyrsiau sy'n darparu addysg i baratoi at unrhyw un o'r arholiadau a grybwyllwyd ym mharagraff 7(a) neu (b) ond heb fod yn uwch na chwrs gradd gyntaf; a

(b)nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.

Rheoliadau 11, 78, 102 a 114

ATODLEN 3GWYBODAETH

1.  Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod arnynt ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.

2.  Rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi'r manylion iddynt os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd—

(a)ei fod yn tynnu'n ôl o'i gwrs, yn cefnu arno neu'n cael ei ddiarddel oddi arno;

(b)ei fod yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol;

(c)ei fod yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'i gwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw'n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;

(ch)ei fod yn absennol o'i gwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

(d)bod y mis ar gyfer dechrau ar y cwrs neu ei gwblhau yn newid;

(dd)bod ei gyfeiriad neu ei rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor yn newid.

3.  Rhaid i'r wybodaeth a roddir i Weinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru ac, os ydynt yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, caniateir i lofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan Weinidogion Cymru fodloni'r gofyniad hwnnw.

Rheoliad 58

ATODLEN 4BENTHYCIADAU AT FFIOEDD COLEG

Y benthyciadau at ffioedd coleg sydd ar gael

1.  Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs cymhwysol yn unol â'r Atodlen hon.

2.  Mae gan berson hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg os yw'n bodloni'r amodau canlynol—

(a)ei fod yn fyfyriwr cymwys na chafodd ei wahardd rhag bod â hawl gan baragraff 3;

(b)bod ganddo radd anrhydedd o sefydliad yn y Deyrnas Unedig;

(c)ei fod yn cymryd cwrs cymhwysol–

(i)sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac y bydd y myfyriwr yn parhau i'w fynychu ar ôl 31 Awst 2010; neu

(ii)sy'n cychwyn ar neu ar ôl 1 Medi 2010;

(ch)ei fod yn aelod o goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu'n aelod o goleg ym Mhrifysgol Caergrawnt;

(d)ei fod o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs cymhwysol; ac

(dd)nad oes dim o'r amgylchiadau yn rheoliad 4(3) yn gymwys iddo.

3.  Nid oes gan fyfyriwr cymwys sy'n dod o fewn paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg o dan y Rheoliadau hyn os yw'n preswylio fel arfer yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.

Myfyrwyr anabl

4.  Ymdrinnir â myfyriwr anabl sy'n ymgymryd â chwrs cymhwysol yn y Deyrnas Unedig ond heb fod yn bresennol arno oherwydd ei fod yn anabl i fod yn bresennol am reswm sy'n ymwneud â'i anabledd fel pe bai'n bresennol ar y cwrs cymhwysol at y diben o gymhwyso ar gyfer benthyciad at ffioedd coleg.

Myfyrwyr sy'n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd

5.  Os bydd un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff 6 yn digwydd yn ystod blwyddyn academaidd—

(a)gall myfyriwr gael yr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg yn unol â'r Atodlen hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ar yr amod bod y digwyddiad perthnasol wedi digwydd yn ystod tri mis cyntaf y flwyddyn academaidd; a

(b)nid oes benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.

6.  Y digwyddiadau yw—

(a)bod y myfyriwr, ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros;

(b)bod gwladwriaeth yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd os yw'r myfyriwr yn wladolyn o'r wladwriaeth honno neu'n aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r wladwriaeth honno;

(c)bod y myfyriwr yn dod yn aelod o deulu (fel y'i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) gwladolyn o'r GE;

(ch)bod y myfyriwr yn ennill yr hawl i breswylio'n barhaol;

(d)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i weithiwr Twrcaidd;

(dd)bod y myfyriwr yn dod yn berson a ddisgrifir ym mharagraff 6(1)(a) o Atodlen 1;

(e)bod y myfyriwr yn dod yn blentyn i wladolyn Swisaidd.

7.  Mae benthyciad at ffioedd coleg ar gael mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd safonol ar y cwrs cymhwysol ac mewn perthynas ag un flwyddyn academaidd ar y cwrs cymhwysol nad yw'n flwyddyn academaidd safonol.

8.  Os caniateir i fyfyriwr cymhwysol astudio cynnwys un flwyddyn academaidd safonol o'r cwrs cymhwysol dros ddwy flwyddyn academaidd neu fwy, er mwyn penderfynu a oes gan y myfyriwr hawl i gael benthyciad at ffioedd coleg ar gyfer y blynyddoedd hynny, ymdrinnir â'r gyntaf o'r cyfryw flynyddoedd o astudio fel blwyddyn academaidd safonol ac ymdrinnir â'r blynyddoedd canlynol o'r fath fel blynyddoedd academaidd nad ydynt yn flynyddoedd academaidd safonol.

9.  Yn yr Atodlen hon ystyr “blwyddyn academaidd safonol” (“standard academic year”) yw blwyddyn academaidd o'r cwrs cymhwysol y byddai person nad yw'n ailadrodd unrhyw ran o'r cwrs ac a fyddai'n dechrau ar y cwrs ar yr un pwynt â'r myfyriwr cymwys yn ymgymryd â hi.

10.  I gael benthyciad at ffioedd coleg rhaid i fyfyriwr cymwys ymrwymo i gontract â Gweinidogion Cymru.

Swm y benthyciad at ffioedd coleg

11.—(1Rhaid i swm y benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar gwrs cymhwysol beidio â bod yn fwy na swm sy'n hafal i'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan y myfyriwr i'w goleg neu i'w neuadd breifat barhaol mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(2Os yw'r myfyriwr cymhwysol wedi gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, caiff wneud cais am fenthyg swm ychwanegol nad yw, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm sydd ar gael.

Trosglwyddo

12.  Er gwaethaf rheoliad 8, os bydd myfyriwr cymhwysol yn trosglwyddo o un cwrs cymhwysol i gwrs cymhwysol arall—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymhwysol i'r cwrs arall ar gais y myfyriwr oni bai bod y cyfnod cymhwystra wedi dod i ben;

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (c) os yw'r myfyriwr yn trosglwyddo cyn diwedd y flwyddyn academaidd ar ôl gwneud cais am fenthyciad at ffioedd coleg, telir y swm y gwnaed cais amdano i'r coleg neu'r neuadd breifat barhaol berthnasol mewn perthynas â'r cwrs cymhwysol y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddo ar yr amod bod yr amodau ym mharagraff 13 wedi'u bodloni ac nad yw'n gallu sicrhau hawl i gael benthyciad arall at ffioedd coleg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno;

(c)os yw'r myfyriwr yn trosglwyddo ar ôl i'r benthyciad at ffioedd coleg gael ei dalu a chyn diwedd y flwyddyn academaidd, ni chaiff wneud cais am fenthyciad arall at ffioedd coleg mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs cymhwysol y mae'n trosglwyddo iddo.

Talu

13.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r benthyciad at ffioedd coleg y mae gan fyfyriwr cymhwysol hawl i'w gael i'r coleg neu'r neuadd breifat barhaol y mae'r myfyriwr yn atebol i wneud y taliad iddo neu iddi.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru dalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn cyfandaliad unigol.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg—

(a)cyn eu bod wedi cael cais dilys am daliad oddi wrth y coleg neu'r neuadd breifat barhaol; a

(b)cyn bod cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd wedi dod i ben.

(4Mae'n ofynnol i goleg neu neuadd breifat barhaol anfon cadarnhad o bresenoldeb at Weinidogion Cymru ar unrhyw ffurf y caiff Weinidogion Cymru ofyn amdani a rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu'r benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd nes eu bod wedi cael cadarnhad o bresenoldeb gan y coleg neu'r neuadd breifat berthnasol oni bai eu bod yn penderfynu oherwydd amgylchiadau eithriadol, y byddai'n briodol gwneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb. Yn y paragraff hwn mae i “cadarnhad o bresenoldeb” yr un ystyr ag yn rheoliad 67.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thalu benthyciad at ffioedd coleg mewn perthynas â chwrs cymhwysol—

(a)os bydd y myfyriwr cymhwysol cyn i'r cyfnod o dri mis sy'n dechrau ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd ddod i ben yn rhoi'r gorau i fynychu'r cwrs neu yn achos myfyriwr y bernir ei fod yn bresennol o dan baragraff 4, yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'r cwrs; a

(b)os bydd y coleg neu'r neuadd breifat barhaol wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau mynychu neu, yn ôl y digwydd, yn ymgymryd â'r cwrs yn y Deyrnas Unedig eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd coleg yn daladwy ar ei chyfer neu o gwbl.

Amodau hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd coleg

14.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn amod hawlogaeth i gael taliad o fenthyciad at ffioedd coleg bod yn rhaid i'r myfyriwr cymwys roi iddynt rif ei yswiriant gwladol yn y Deyrnas Unedig.

(2Os yw Gweinidogion Cymru wedi gosod amod o dan is-baragraff (1), rhaid iddynt beidio â gwneud unrhyw daliad o'r benthyciad i'r myfyriwr cymwys cyn eu bod wedi'u bodloni bod y myfyriwr wedi cydymffurfio â'r amod hwnnw.

(3Er gwaethaf is-baragraff (2), caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad o fenthyciad i fyfyriwr cymwys os ydynt wedi'u bodloni oherwydd amgylchiadau eithriadol y byddai'n briodol gwneud taliad o'r fath heb fod y myfyriwr cymwys wedi cydymffurfio â'r amod a osodwyd o dan is-baragraff (1).

Gofynion gwybodaeth

15.—(1Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymwys am wybodaeth y maent o'r farn bod ei hangen i adennill benthyciad.

(2Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys ymrwymo i gytundeb i ad-dalu benthyciad drwy ddull penodol.

(3Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg ofyn i fyfyriwr cymwys am gael gweld ei gerdyn adnabod cenedlaethol dilys, ei basbort dilys a ddyroddwyd gan y wladwriaeth y mae'n wladolyn ohoni neu ei dystysgrif geni.

(4Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am wybodaeth o dan y rheoliad hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad nes i'r person ddarparu'r hyn y gofynnwyd amdano neu roi esboniad boddhaol am beidio â chydymffurfio â'r cais.

(5Os bydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am gytundeb ynghylch y dull o dalu o dan y paragraff hwn, cânt ddal yn ôl unrhyw daliad o fenthyciad at ffioedd coleg nes i'r person ddarparu yr hyn y gofynnwyd amdano.

Gordaliadau

16.  Caiff Gweinidogion Cymru adennill unrhyw ordaliad benthyciad at ffioedd coleg oddi wrth y coleg neu'r neuadd breifat barhaol.

Rheoliad 59

ATODLEN 5ASESIAD ARIANNOL

Diffiniadau

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “myfyriwr presennol” (“existing student”) yw myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys newydd;

(b)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(c)mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd”, (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 3;

(ch)mae i “myfyriwr cymwys annibynnol” (“independent eligible student”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

(d)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;

(dd)ystyr “myfyriwr cymwys newydd” (“new eligible student”) yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;

(e)ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;

(f)ystyr “myfyriwr sy'n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr cymwys sy'n rhiant i fyfyriwr cymwys;

(ff)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil iddo os yw myfyriwr cymwys yn dod o fewn paragraff 2(1)(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(g)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol ac eithrio rhiant arall i'r myfyriwr cymwys—

(i)priod rhiant myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil rhiant myfyriwr cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod â'r rhiant;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;

(ng)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(h)ystyr “blwyddyn ariannol gynharach” (“prior financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol flaenorol;

(i)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;

(j)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr cymwys), paragraff 5 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), paragraff 6 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff 7 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys newydd) ac incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), sef incwm sy'n weddill ar ôl didynnu treth incwm; ac

(l)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 4, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei chyfer o dan reoliad 9 ac, o ran paragraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 5) â'r flwyddyn ariannol gynharach, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell wedi'i gyfrifiannu at ddibenion—

(i)y Deddfau Treth Incwm;

(ii)deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu

(iii)os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5),

ac eithrio bod incwm, y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall, yn cael ei ddiystyru.

(2Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973(93) sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o'r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004(94) sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o'r Atodlen honno.

Myfyriwr cymwys annibynnol

2.—(1Myfyriwr cymwys yw myfyriwr cymwys annibynnol ym mhob achos—

(a)lle mae'n 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;

(b)lle mae'n briod neu lle mae mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, pa un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio;

(c)lle nad oes ganddo riant yn fyw;

(ch)lle mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt;

(d)lle nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn Gweinidogion Cymru, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi;

(dd)pan yw wedi bod dan ofal awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22 o Ddeddf Plant 1989(95) a hynny drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis yn gorffen ar neu ar ôl y dyddiad y cyrhaeddodd 16 oed a chyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs (“y cyfnod perthnasol”) ar yr amod nad yw wedi bod mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol o dan ofal neu reolaeth ei rieni;

(e)lle mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni naill ai—

(i)y byddai asesu incwm yr aelwyd drwy gyfeirio at eu hincwm gweddilliol yn gosod y rhieni hynny mewn perygl; neu

(ii)na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8 neu 9;

(f)lle mae paragraff 5(9) yn gymwys a lle mae'r rhiant y barnodd Gweinidogion Cymru mai'r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);

(ff)lle dechreuodd ar y cwrs presennol cyn 1 Medi 2009 ac yntau'n aelod o urdd grefyddol sy'n preswylio yn un o dai'r urdd honno;

(g)lle mae yn gofalu am berson o dan 18 oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol; neu

(ng)lle mae wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn mae i'w drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—

(i)pan oedd yn cymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi'r di-waith o dan unrhyw gynllun a oedd yn cael ei weithredu, ei noddi neu ei ariannu gan unrhyw un o awdurdodau neu asiantaethau'r wladwriaeth, boed cenedlaethol, rhanbarthol neu leol (“awdurdod perthnasol”);

(ii)pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith;

(iii)pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn y budd-dal hwnnw;

(iv)pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth(96) neu ddyfarniad tebyg; neu

(v)pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.

(2Mae myfyriwr cymwys sy'n gymwys i fod yn fyfyriwr cymwys annibynnol o dan baragraff 2(1)(g) mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs dynodedig yn cadw'r statws hwnnw tra pery'r cyfnod cymhwystra.

Incwm yr aelwyd

3.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd yw'r canlynol—

(a)yn achos myfyriwr cymwys nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol rhieni'r myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i baragraff 5(9)) ac—

(i)yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs dynodedig a bennir cyn 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner (ac eithrio partner o fewn ystyr paragraff 1(g)(iv)) rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9)); neu

(ii)yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9));

(b)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

(c)yn achos myfyriwr cymwys annibynnol nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys.

(3Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu—

(a)am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys; neu

(b)am bob plentyn ac eithrio'r myfyriwr cymwys sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr cymwys neu bartner rhiant y myfyriwr cymwys y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.

(4Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (b) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn ef neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys

4.—(1Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) gyfanswm unrhyw symiau sy'n dod o fewn unrhyw un o'r is-baragraffau canlynol–

(a)unrhyw dâl am waith a wnaed yn ystod unrhyw flwyddyn academaidd ar gwrs y myfyriwr cymwys, ar yr amod nad yw'r tâl hwnnw'n cynnwys unrhyw symiau a dalwyd mewn perthynas ag unrhyw gyfnod pan oedd ganddo ganiatâd i fod yn absennol neu pan oedd wedi'i ryddhau o'i ddyletswyddau arferol er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs hwnnw;

(b)swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(97) neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(98), neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 9 yw'r unig baragraff o Ran 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn dod odano ac os yw ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei anwybyddu yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei anwybyddu i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

(3Os yw'r myfyriwr cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw—

(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(99) ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.

Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant

5.—(1Er mwyn pennu incwm trethadwy rhiant myfyriwr cymwys, rhaid i ddidyniadau y disgwylir eu gwneud neu esemptiadau a ganiateir–

(a)ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol tebyg;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly yn unol â hwy; neu

(c)o dan is-baragraff (2)

beidio â chael eu gwneud neu eu caniatáu.

(2Er mwyn pennu incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n dod o dan unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol–

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy'n ymwneud â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988, neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os byddai'r ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a) o'r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm;

(c)yn achos myfyriwr sy'n rhiant neu riant myfyriwr cymwys y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,130.

(3Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”), yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm gweddilliol yn y flwyddyn ariannol gynharach, rhaid i Weinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm gweddilliol y rhiant am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Mewn blwyddyn academaidd yn union ar ôl un y mae Gweinidogion Cymru wedi canfod ynddi incwm gweddilliol y rhiant am y flwyddyn ariannol gyfredol o dan is-baragraff (3), rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol flaenorol.

(5Os yw rhiant y myfyriwr cymwys yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol gynharach yn golygu'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol gynharach y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn perthynas ag ef sy'n ymwneud â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw rhiant myfyriwr cymwys yn derbyn unrhyw incwm nad yw'n ffurfio rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth teth incwm Aelod-wladwriaeth arall dim ond am y rheswm—

(a)nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw ei incwm yn cael ei gyfrifiannu fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, os nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

(b)nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw'n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

(c)bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae ei incwm trethadwy at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

(7Os yw incwm rhiant y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifiannu fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae'n cael ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm rhiant y myfyriwr cymwys at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i bennu yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn digwydd ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os yw un o rieni'r myfyriwr cymwys yn marw naill ai cyn neu yn ystod y flwyddyn berthnasol a bod incwm y rhiant hwnnw wedi'i gymryd i ystyriaeth er mwyn pennu incwm yr aelwyd neu y byddai wedi'i gymryd i ystyriaeth felly, mae incwm yr aelwyd—

(a)os yw'r rhiant yn marw cyn y flwyddyn berthnasol, yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi; neu

(b)os yw'r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, yn gyfanswm y canlynol—

(i)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir drwy gyfeirio at incwm y ddau riant, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan oedd y ddau riant yn fyw; a

(ii)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir dryw gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.

(9Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm pa un bynnag o'r rhieni y mae Gweinidogion Cymru yn credu mai ef yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.

(10Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y rhieni'n gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at gyfanswm y canlynol—

(a)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir yn unol ag is-baragraff (9), sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol pan fydd y rhieni ar wahân; a

(b)y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2), (3) a (4) o'r paragraff hwn, mae incwm partner myfyriwr cymwys yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 5 (a chan eithrio is-baragraffau (8), (9) a (10) o baragraff 5), gan ddehongli cyfeiriadau at y rhiant fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner yn gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei bennu drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'u luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner heb wahanu.

(4Os oes gan fyfyriwr cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Cyfrifo incwm gweddilliol partner rhiant

7.  Mae incwm partner rhiant myfyriwr cymwys newydd y mae ei incwm yn rhan o incwm yr aelwyd yn rhinwedd paragraff 3(2)(a) yn cael ei bennu yn unol â pharagraff 6, gan ddehongli cyfeiriadau at bartner y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at bartner rhiant y myfyriwr cymwys newydd, a chan ddehongli cyfeiriadau at y myfyriwr cymwys fel pe baent yn gyfeiriadau at riant y myfyriwr cymwys newydd.

Cyfrifo cyfraniad — myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn

8.—(1Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn nad yw'n fyfyriwr cymwys annibynnol, neu sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol ac iddo bartner fel a ganlyn—

(a)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £23,680 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob swm cyflawn o £9.27 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £23,680; a

(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £23,680, dim.

(2Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys o dan yr hen drefn sy'n fyfyriwr cymwys annibynnol heb bartner fel a ganlyn—

(a)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn £11,025 neu fwy, £45 gyda £1 yn cael ei hychwanegu am bob swm cyflawn o £9.27 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £11,025; a

(b)mewn unrhyw achos pan fo incwm yr aelwyd yn llai na £11,025, dim.

(3Rhaid i swm y cyfraniad sy'n daladwy o dan is-baragraff (1) neu (2) beidio â bod yn fwy na £7,992 mewn unrhyw achos.

(4Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 10.

(5Pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £7,992.

(6Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd) mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu

(b)os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Cyfrifo cyfraniad — myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd

9.—(1Pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd a phan nad yw'n fyfyriwr carfan 2010, y cyfraniad sy'n daladwy yw—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £39,793, £1 am bob swm cyflawn o £9.27 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £39,793; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,793 neu lai, dim.

(2Pan fo'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd ac yn fyfyriwr carfan 2010, y cyfraniad sy'n daladwy yw—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £50,778, £1 am bob swm cyflawn o £5 o incwm yr aelwyd sydd uwchlaw £50,778; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £50,778 neu lai, dim.

(3Rhaid i'r cyfaniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.

(4Caniateir addasu'r cyfraniad yn unol â pharagraff 10.

(5Pan fo is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.

(6Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys—

(a)os bydd cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys (ac eithrio myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn) mewn perthynas â'r un incwm o dan baragraff 5 neu, pan fo incwm gweddilliol partner y rhiant perthnasol yn cael ei ystyried, o dan baragraffau 5 a 7; neu

(b)os incwm gweddilliol myfyriwr cymwys annibynnol a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Cyfraniadau hollt

10.  Pan fo'r un incwm aelwyd yn cael ei ddefnyddio i asesu swm y dyfarniad statudol y mae gan ddau neu fwy o bersonau hawl i'w gael, rhennir y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys â nifer y personau hynny.

Rheoliad 97

ATODLEN 6ASESIAD ARIANNOL — GRANTIAU RHAN-AMSER AR GYFER DIBYNYDDION

Diffiniadau

1.—(1Yn yr Atodlen hon—

(a)ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person, y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon, yn cael ei gyfrifiannu mewn perthynas â hi at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo;

(b)mae i “incwm aelwyd”, “incwm yr aelwyd” ac “incwm sydd gan yr aelwyd” (“household income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;

(c)ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“Member State”) yw un o Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd;

(ch)“ystyr “rhiant” (“parent”) yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir “plentyn” (“child”) yn unol â hynny;

(d)ystyr “myfyriwr sy'n rhiant” (“parent student”) yw myfyriwr rhan-amser cymwys sy'n rhiant i fyfyriwr cymwys;

(dd)ystyr “partner” (“partner”) mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr rhan-amser cymwys;

(ii)partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol a'i fod yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol a'i fod yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(e)ystyr “blwyddyn ariannol flaenorol” (“preceding financial year”) yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol;

(f)ystyr “blwyddyn berthnasol” (“relevant year”) yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi;

(ff)ystyr “incwm gweddilliol” (“residual income”) yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 3 (yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys) neu baragraff 4 (yn achos partner myfyriwr rhan-amser cymwys) a'r incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) a hwnnw'n incwm a gafwyd ar ôl didynnu treth incwm; ac

(g)ystyr “incwm trethadwy” (“taxable income”), o ran paragraff 3, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei chyfer o dan reoliad 100 ac, o ran paragraff 4, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 4) â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell fel petai wedi'i gyfrifiannu at ddibenion—

(i)y Deddfau Treth Incwm;

(ii)deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu

(iii)os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru o'r farn y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth oddi tani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 4),

ac eithrio bod incwm y cyfeirir ato yn is-baragraff (2) ac a dalwyd i barti arall yn cael ei ddiystyru.

(2Yr incwm y cyfeirir ato yn yr is-baragraff hwn yw unrhyw fudd-daliadau o dan drefniant pensiwn yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 23 o Ddeddf Achosion Priodasol 1973 sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd adrannau 25B(4) a 25E(3) o'r Ddeddf honno neu fudd-daliadau pensiwn o dan Ran 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 sy'n cynnwys darpariaeth a wnaed yn rhinwedd Rhannau 6 a 7 o'r Atodlen honno.

Incwm yr aelwyd

2.—(1Mae swm cyfraniad myfyriwr rhan-amser cymwys yn dibynnu ar incwm yr aelwyd.

(2Incwm yr aelwyd—

(a)yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys a chanddo bartner, yw incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr hwnnw (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu

(b)yn achos myfyriwr rhan-amser cymwys ond nad oes ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr hwnnw.

(3Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,130 yn cael ei ddidynnu am bob plentyn sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar y myfyriwr rhan-amser cymwys neu bartner y myfyriwr hwnnw.

(4Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, rhaid i incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant beidio â chael ei agregu o dan baragraff (a) o is-baragraff (2) yn achos myfyriwr sy'n rhiant ac y mae gan ei blentyn ef neu blentyn ei bartner sy'n fyfyriwr cymwys ddyfarniad y mae incwm yr aelwyd yn cael ei gyfrifo mewn perthynas ag ef gan gyfeirio at incwm gweddilliol y myfyriwr sy'n rhiant neu bartner y myfyriwr sy'n rhiant neu'r ddau.

Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr rhan-amser cymwys

3.—(1Er mwyn pennu incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys, didynnir o'i incwm trethadwy (oni bai ei fod wedi'i ddidynnu eisoes wrth bennu'r incwm trethadwy) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall sy'n daladwy o dan bolisi a dalwyd gan y myfyriwr rhan-amser cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988(100) neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004(101), neu pan fo incwm y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, cyfanswm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad drosto yn cael ei roi petai'r ddeddfwriaeth honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol i ddarpariaeth y Deddfau Treth Incwm.

(2Os paragraff 9 yw'r unig baragraff yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae myfyriwr rhan-amser cymwys yn dod odano a c os yw ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei ddiystyru yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei ddiystyru i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Rhan 2 o Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.

(3Pan fo'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael incwm mewn arian cyfredol heblaw sterling, gwerth yr incwm hwnnw at ddibenion y paragraff hwn yw—

(a)os yw'r myfyriwr yn prynu sterling â'r incwm, swm y sterling a gaiff y myfyriwr fel hyn;

(b)fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd ar gyfer y mis y daeth i law, sef cyfradd a gyhoeddir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol(102).

Cyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys

4.—(1Er mwyn pennu incwm trethadwy partner myfyriwr rhan-amser cymwys, rhaid i unrhyw ddidyniadau sydd i'w gwneud neu unrhyw esemptiadau a ganiateir—

(a)ar ffurf y rhyddhad personol y darperir ar ei gyfer ym Mhennod 1 o Ran VII o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988 neu, os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, unrhyw ryddhad personol cyffelyb;

(b)yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly odano neu odani; neu

(c)o dan is-baragraff (2)

beidio â chael eu gwneud na'u caniatáu.

(2Er mwyn pennu incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n dod o dan unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol —

(a)swm gros unrhyw bremiwm neu swm sy'n ymwneud â phensiwn (nad yw'n bremiwm sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988, neu o dan adran 188 o Ddeddf Cyllid 2004, neu os yw'r incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm;

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a) o'r is-baragraff hwn, ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm partner y myfyriwr rhan-amser cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm.

(3Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm gweddilliol y partner yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol (“y flwyddyn ariannol gyfredol”) yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm gweddilliol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm gweddilliol y partner am y flwyddyn ariannol gyfredol.

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod incwm gweddilliol y rhiant mewn unrhyw flwyddyn ariannol, o ganlyniad i unrhyw ddigwyddiad, yn debyg o beidio â bod, ac o barhau ar ôl y flwyddyn honno i beidio â bod, yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm gweddilliol yn y flwyddyn ariannol flaenorol, rhaid i Weinidogion Cymru, er mwyn galluogi'r myfyriwr rhan-amser cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ganfod incwm yr aelwyd am flwyddyn academaidd o'i gwrs y digwyddodd y digwyddiad hwnnw ynddi drwy gymryd cyfartaledd incwm gweddilliol y partner am bob un o'r blynyddoedd ariannol y mae'r flwyddyn academaidd honno'n digwydd ynddynt fel ei incwm gweddilliol.

(5Os yw partner y myfyriwr rhan-amser cymwys yn bodloni Gweinidogion Cymru fod ei incwm yn deillio'n gyfan gwbl neu'n bennaf o elw busnes neu broffesiwn y mae'n ei gynnal, yna mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at flwyddyn ariannol flaenorol yn golygu'r cyfnod cynharaf o ddeuddeng mis sy'n diweddu ar ôl dechrau'r flwyddyn ariannol flaenorol ac y mae cyfrifon yn cael eu cadw mewn perthynas ag ef ynglŷn â'r busnes neu'r proffesiwn hwnnw.

(6Os yw partner myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael unrhyw incwm nad yw'n ffurfio rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall a'r unig reswm am hynny yw—

(a)nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw ei incwm yn cael ei gyfrifiannu fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw'n preswylio, yn preswylio fel arfer neu wedi ymgartrefu felly yn yr Aelod-wladwriaeth honno;

(b)nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y partner yn cael ei gyfrifiannu at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw'n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu

(c)bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,

mae ei incwm trethadwy at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifiannu fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl y digwydd.

(7Os yw incwm partner y myfyriwr rhan-amser cymwys yn cael ei gyfrifiannu fel petai at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, mae'n cael ei gyfrifiannu o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn arian cyfredol yr Aelod-wladwriaeth honno, ac incwm partner y myfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion yr Atodlen hon yw gwerth sterling yr incwm hwnnw wedi'i bennu yn unol â'r gyfradd ar gyfer y mis y mae diwrnod olaf y flwyddyn ariannol o dan sylw yn digwydd ynddo, fel y'i cyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

(8Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr cymwys a'i bartner wedi gwahanu drwy gydol y flwyddyn berthnasol, nid yw incwm y partner yn cael ei gymryd i ystyriaeth wrth bennu incwm yr aelwyd.

(9Os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a'i bartner wedi gwahanu yn ystod y flwyddyn berthnasol, mae incwm y partner yn cael ei bennu drwy gyfeirio at ei incwm o dan is-baragraff (1) wedi'i rannu â hanner cant a dau ac wedi'i luosi â'r nifer o wythnosau cyflawn yn y flwyddyn berthnasol y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod y myfyriwr rhan-amser cymwys a'i bartner heb wahanu.

(10Os oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys fwy nag un partner mewn unrhyw un flwyddyn academaidd, mae darpariaethau'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob un.

Cyfrifo'r cyfraniad

5.—(1Mae'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys fel a ganlyn—

(a)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd dros £39,793, £1 am bob swm cyflawn o £9.27 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £39,793; a

(b)mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £39,793 neu lai, dim.

(2Rhaid i'r cyfraniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £6,208.

(3Caniateir i'r cyfraniad gael ei addasu'n unol â pharagraff 6.

(4Pan fo is-baragraff (5) yn gymwys, rhaid i gyfanswm y cyfraniadau beidio â bod yn fwy na £6,208.

(5Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys os incwm gweddilliol myfyriwr rhan-amser cymwys a'i bartner yw incwm yr aelwyd a bod gan y ddau ddyfarniad statudol.

Cyfraniadau hollt

6.  Os yw'r un incwm aelwyd yn cael ei ddefnyddio i asesu swm dyfarniad statudol y mae gan ddau neu fwy o bersonau hawl i'w gael, rhennir y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr rhan-amser cymwys â nifer y personau hynny.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â blynyddoedd academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010. Maent yn cydgrynhoi, gyda rhai newidiadau, Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) (Rhif 2) 2008, fel y'u diwygiwyd (“Rheoliadau (Rhif 2) 2008”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau (Rhif 2) 2008. Nodir graddau'r dirymu yn rheoliad 3. Amlygir isod y newidiadau o ran sylwedd a wneir yn y Rheoliadau hyn (ac eithrio cyfraddau'r grantiau a'r benthyciadau).

I fod yn gymwys am gymorth ariannol, rhaid i fyfyriwr fod yn “fyfyriwr cymwys”. Yn fras, mae person yn fyfyriwr cymwys os yw'n dod o fewn un o'r categorïau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 a'r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2 o'r Rheoliadau. Mae'r Rheoliadau yn gymwys i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, ble bynnag y bônt yn astudio ar gwrs dynodedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw, o ganlyniad i symud o unrhyw un o'r ardaloedd hyn er mwyn ymgymryd â'i gwrs, yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd ohono (Atodlen 1, paragraff 1(3)). Rhaid i fyfyriwr cymwys fodloni hefyd unrhyw ofynion a bennir mewn mannau eraill yn y Rheoliadau; yn enwedig y gofynion penodol sy'n gymwys i bob math o gymorth ariannol.

Ar gyfer cyrsiau “dynodedig” o fewn ystyr rheoliadau 5, 70, 86, 110 ac Atodlen 2, yn unig, y mae cymorth ar gael o dan y Rheoliadau.

Mae'r gwahaniaeth (a gyflwynwyd gan Reoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006) rhwng myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn a myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd o ran cymorth ariannol i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau amser-llawn wedi ei gadw yn y Rheoliadau hyn (rheoliad 2(1)).

Myfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn yw myfyrwyr cymwys sy'n dilyn cyrsiau a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006, myfyrwyr a gymerodd flwyddyn i ffwrdd ac sy'n dechrau ar gyrsiau cyn 1 Medi 2007 a chategorïau penodol eraill o fyfyrwyr. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys o dan yr hen drefn, yn ddarostyngedig i'r amodau a bennir—

  • Grant at ffioedd (rheoliadau 16 i 18);

  • Benthyciad at gyfraniad at ffioedd (rheoliad 21);

  • Grant at gostau byw myfyrwyr anabl (rheoliad 25);

  • Grant ar gyfer dibynyddion (rheoliadau 26 i 31);

  • Grant at deithio (rheoliad 32 i 34);

  • Grant addysg uwch (rheoliad 36); a

  • Benthyciadau at gostau byw (Rhan 6).

Mae myfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn fyfyriwr cymwys a ddechreuodd ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 ac yn parhau ar y cwrs hwnnw ar ôl 31 Awst 2010, neu sy'n dechrau ei gwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010, ac nad yw'n fyfyriwr cymwys o dan yr hen drefn.

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno dau gategori newydd o fyfyriwr, sef “myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010” a “myfyriwr carfan 2010”. Diffinnir y term myfyriwr blwyddyn i ffwrdd 2010 yn rheoliad 2(13) i (16). Myfyriwr carfan 2010 yw myfyriwr cymwys sy'n cychwyn y cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2010. Fel y cyfryw, mae myfyrwyr carfan 2010 yn dod o fewn y categori myfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd. Mae'r diffiniad o fyfyriwr carfan 2010 yn rheoliad 2(1) yn darparu nad yw myfyrwyr blwyddyn i ffwrdd 2010, nac ychwaith rhai myfyrwyr eraill, yn cael eu dosbarthu fel myfyrwyr carfan 2010.

Yn ychwanegol, mae rheoliad 2(1) (yn y diffiniad o “gwrs HCA hyblyg i ôl-raddedigion” (“flexible postgraduate ITT course”) a'r diffiniadau o fyfyriwr math 1, math 2 a math 3 ar gwrs hyfforddi athrawon) a rheoliadau 5, 6, 7, 17, 24, 25 ac 86 yn dirymu'r darpariaethau arbennig ar gyfer myfyrwyr cymwys amser-llawn a myfyrwyr cymwys rhan-amser sy'n cychwyn ar gyrsiau hyfforddiant cychwynnol athrawon ar neu ar ôl 1 Medi 2010.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â chymhwystra. Gwnaed newid bach yn rheoliad 4, sy'n cynyddu'r cymhwystra ar gyfer cymorth i fyfyrwyr amser-llawn, y penderfynodd Gweinidogion Cymru eisoes eu bod yn fyfyrwyr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig blaenorol, pan fo'r statws hwnnw wedi ei drosi neu'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol.

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau am gymorth (rheoliad 9), terfynau amser ar gyfer ceisiadau (rheoliad 10) ac y mae rheoliad 11 ac Atodlen 3 yn pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i geiswyr ei darparu.

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth at ffioedd, ar ffurf grantiau at ffioedd a benthyciadau at ffioedd. Darperir yn y Rheoliadau nad yw myfyriwr sy'n fyfyriwr carfan 2010 yn gymwys i gael grant newydd at ffioedd (rheoliad 19(6)). Mae rheoliad 22 yn darparu ar gyfer talu benthyciadau at ffioedd i fyfyrwyr cymwys o dan y drefn newydd nad oes hawl ganddynt i gael grant newydd at ffioedd. Mae myfyrwyr carfan 2010 yn dod o fewn y categori hwnnw. Mae rheoliad 23 yn darparu ar gyfer benthyciadau at ffioedd i fyfyrwyr sydd â hawl i gael grant newydd at ffioedd.

Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer grantiau at gostau byw, sy'n cynnwys grantiau at deithio, i gategorïau penodol o fyfyrwyr cymwys. Mae rheoliad 31 yn darparu, ynglŷn â chyfrifo incwm net dibynnydd (at ddibenion grantiau ar gyfer dibynyddion), bod rhaid anwybyddu unrhyw daliad a wneir i ddibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989. Yn ychwanegol, mae'r Rheoliadau'n darparu bod swm y grant cynhaliaeth neu'r grant cymorth arbennig sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd yn amrywio yn ôl pa un a yw'r myfyriwr yn fyfyriwr carfan 2010 (gweler rheoliadau 39 a 42), neu nad yw (gweler rheoliadau 38 a 41). Uchafswm y grant cynhaliaeth neu'r grant cymorth arbennig sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd sy'n fyfyriwr carfan 2010, mewn perthynas â blwyddyn academaidd, yw £5,000 (gweler rheoliadau 39(1) a 42(1)).

Mae Rhan 6 yn darparu ar gyfer benthyciadau at gostau byw. Gall swm y benthyciad sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd amrywio yn ôl pa un a yw'r myfyriwr yn fyfyriwr carfan 2010 (rheoliad 48), ynteu nad yw (rheoliad 46).

Mae Rhan 7 yn nodi darpariaethau cyffredinol ynglŷn â benthyciadau a wneir o dan y Rheoliadau.

Mae Rhan 8 ac Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer “benthyciadau at ffioedd coleg”. Benthyciadau yw'r rhain mewn perthynas â'r ffioedd coleg sy'n daladwy gan fyfyriwr cymhwysol i goleg neu neuadd breifat barhaol ym Mhrifysgol Rhydychen neu i un o golegau Prifysgol Caergrawnt mewn perthynas â phresenoldeb myfyriwr cymhwysol ar gwrs cymhwysol.

Mae Rhan 9 ac Atodlen 5 yn parhau i ddarparu ar gyfer prawf modd i fyfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau amser-llawn dynodedig. Cyfrifir y cyfraniad a fynnir gan y myfyriwr ar sail incwm yr aelwyd. Mae'r cyfraniad i'w gymhwyso at grantiau a benthyciadau penodedig hyd nes dihysbyddir yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae hawl gan y myfyriwr i'w cael. Ynglŷn â chyfrifo incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, mae paragraff 5(3) o Atodlen 5 yn darparu, os bodlonir Gweinidogion Cymru bod incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol gyfredol (fel y'i diffinnir) yn annhebygol o fod yn fwy nag 85 y cant o incwm gweddilliol y rhiant yn y flwyddyn ariannol flaenorol, bod rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm gweddilliol y rhiant gan gyfeirio at y flwyddyn ariannol gyfredol. Gwnaed newid arall hefyd yn Atodlen 5, yn y dull o gyfrifo'r cyfraniad sydd i'w wneud gan fyfyriwr cymwys o dan y drefn newydd, yn ôl pa un a yw'n fyfyriwr carfan 2010 ai peidio (gweler paragraff 9 o Atodlen 5).

Mae Rhan 10 yn darparu ar gyfer talu grantiau a benthyciadau.

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cymorth i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â chyrsiau dysgu o bell dynodedig. Mae rheoliad 72 yn darparu y gall fod hawl gan fyfyriwr dysgu o bell cymwys i gael cymorth o dan Ran 11 hyd yn oed pan fo gan y myfyriwr hwnnw radd eisoes (ac eithrio gradd anrhydedd). Pan fo myfyriwr o'r fath yn dechrau ar gwrs dysgu o bell at y diben o gael gradd anrhydedd, nid oes raid i'r cwrs dysgu o bell hwnnw fod yn barhad o gwrs gradd y myfyriwr yn yr un sefydliad addysgol er mwyn i'r myfyriwr fod â hawl i gael cymorth (rheoliad 72(8)).

Mewn perthynas â grant sy'n daladwy o dan reoliad 72, mae rheoliad 74(3) yn darparu, os bodlonir Gweinidogion Cymru bod adnoddau ariannol myfyriwr dysgu o bell cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy o £1,000 neu ragor na'i adnoddau ariannol yn y flwyddyn gyfredol, bod rhaid i Weinidogion Cymru asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw gan gyfeirio at y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae rheoliad 74 hefyd yn darparu bod rhaid, wrth asesu adnoddau ariannol myfyriwr dysgu o bell cymwys, anwybyddu unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989.

Mae Rhan 12 ac Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chymorth ar gyfer cyrsiau rhan-amser. Gwnaed newid bach yn rheoliad 85(9), sy'n cynyddu'r cymhwystra ar gyfer cymorth i fyfyrwyr rhan-amser, y penderfynodd Gweinidogion Cymru eisoes eu bod yn fyfyrwyr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dysgu o bell dynodedig blaenorol, a phan fo'r statws hwnnw wedi ei drosi neu ei drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol. O dan reoliad 85, gall fod hawl gan fyfyriwr rhan-amser cymwys i gael cymorth o dan Ran 12 o'r Rheoliadau, hyd yn oed pan fo gan y myfyriwr hwnnw radd eisoes (ac eithrio gradd anrhydedd). Pan fo myfyriwr o'r fath yn dechrau ar gwrs rhan-amser at y diben o gael gradd anrhydedd, nid oes raid i'r cwrs rhan-amser hwnnw fod yn barhad o gwrs gradd y myfyriwr yn yr un sefydliad addysgol er mwyn i'r myfyriwr fod â hawl i gael cymorth (rheoliad 85(18)).

Mae rheoliad 88 yn darparu, wrth ganfod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwnnw, bod rhaid anwybyddu unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989. Mae rheoliad 88 hefyd yn darparu, os bodlonir Gweinidogion Cymru bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy, o £1,000 neu ragor, na'i adnodau ariannol yn y flwyddyn ariannol gyfredol, bod rhaid i Weinidogion Cymru asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw gan gyfeirio at y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae rheoliad 96 yn darparu, wrth gyfrifo incwm net dibynnydd (at ddibenion grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion), bod rhaid anwybyddu unrhyw daliad a wneir o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989.

Mae Atodlen 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi prawf modd ar fyfyrwyr rhan-amser mewn perthynas â grantiau rhan-amser ar gyfer dibynyddion. Wrth gyfrifo incwm gweddilliol partner myfyriwr rhan-amser cymwys, mae paragraff 4(3) o Atodlen 6 yn darparu, os bodlonir Gweinidogion Cymru bod incwm gweddilliol y partner yn y flwyddyn ariannol gyfredol (fel y'i diffinnir) yn annhebygol o fod yn fwy nag 85 y cant o incwm gweddilliol y partner yn y flwyddyn ariannol flaenorol, bod rhaid i Weinidogion Cymru ganfod incwm gweddilliol y partner gan gyfeirio at y flwyddyn ariannol gyfredol.

Mae Rhan 13 yn gwneud darpariaeth ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig sydd ag anableddau.

Mae Rhan 14 yn gwneud diwygiadau bach ac argraffyddol o ran eu natur i Reoliadau (Rhif 2) 2008.

(1)

1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c) (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)), fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159) (C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

Gynt yr enw ar Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis oedd y Sefydliad Prydeinig ym Mharis. Newidiodd y Sefydliad Prydeinig ym Mharis ei enw'n ffurfiol ar 1 Ionawr 2005.

(5)

Mae ERASMUS yn rhan o raglen gweithredu'r Gymuned Ewropeaidd SOCRATES; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t.1.

(6)

1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, Rheoliadau Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn (Rhif 2) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480), O.S. 2004/288, erthygl 7; Deddf Plant 2004 (p.31), adran 55; O.S. 2004/957, yr Atodlen; Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43), Atodlen 1 ac O.S. 2007/961, yr Atodlen.

(7)

O.S. 1972/1265 (G.I. 14) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(8)

Sefydlwyd y corff hwn yn wreiddiol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994 (p. 30) fel yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon. Mae'n parhau mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ond ei enw fydd yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion.

(9)

Gweler adrannau 85—90 o Ddeddf Addysg 2005 i weld swyddogaeth CCAUC ynghylch hyfforddi athrawon.

(10)

OJ L158, 30.04.2004, t.77—123.

(12)

1962 p. 12; amnewidiwyd adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 gan y darpariaethau a nodwyd yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p. 20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p. 11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodwyd yng Ngorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3.

(13)

O.S. 1998/1166, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1972 ac a ddirymwyd gydag arbedion gan O.S. 1999/1494.

(14)

1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4.

(15)

O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/1274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a'r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6 ac a ddi-rymwyd, gydag arbedion, gan Rh. St. (GI) 1998 Rhif 306.

(16)

O.S. 1998/1760 (G.I. 14) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(17)

Gorch. 9171.

(18)

Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).

(20)

1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunanlywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).

(21)

2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr, etc) 2004 (p.19), Atodlenni 2 a 4 a Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), adran 9.

(23)

O.S. 1999/496, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2266 ac O.S. 2000/1120.

(47)

2004 p.8.

(48)

O.S.A. 2007/151 a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2007/503.

(49)

2002 p.41.

(50)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(51)

O.S. 1999/2263, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2893.

(52)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(53)

2006 p.41.

(54)

2006 p.42.

(56)

O.S. 1972/1265 (G.I. 14), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(57)

1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31 a Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraff 56 a Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), Atodlen 1, paragraff 3.

(58)

2002 (p.21) y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(59)

Mae rheoliad 14 o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a'r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005) fel y'i diwygir gan O.S. 2003/701, O.S 2003/2815, O.S. 2004/762, O.S. 2004/1276, O.S 2004/2663, O.S. 2005/769, O.S 2005/2919, O.S 2006/766, O.S 2007/824, O.S 2007/2479, O.S. 2008/604, O.S. 2008/2169 ac O.S.2009/697 yn nodi'r costau a ragnodir, ac felly gostau gofal plant perthnasol, at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002.

(60)

1992 p. 4 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(62)

1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p.41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), Atodlen 4, paragraff 14, Deddf Plant 2004 (p.31), adran 49(3) a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008, Atodlen 3, paragraffau 1 a 7.

(63)

Mewnosodwyd is-adrannau (5A) i (5C) o adran 23C o Ddeddf Plant 1989, o ran Lloegr, gan adran 21 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac mae O.S. 2009/268 ac O.S. 2009/2273 yn cyfeirio at hyn.

(64)

Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(65)

2002 p.21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(66)

1992 p. 4. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 4ZA o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 (O.S. 1987/1967). Mewnosodwyd rheoliad 4ZA gan O.S. 1996/206, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1981 ac O.S. 2006/2144; mae offerynnau diwygio eraill ond nid oes unrhyw un ohonynt yn berthnasol.

(67)

Mae diwygiadau i adran 130 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn. Y rheoliad perthnasol yw rheoliad 56 o Reoliadau Cymhorthdal Tai 2006 (O.S. 2006/213 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/718).

(68)

O.S.A. 2007/151, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2007/503.

(69)

2002 p.41. Diwygiwyd adran 104 gan Ddeddf Lloches a Mewnfudo (Trin Ceiswyr etc) 2004 (p.19), Atodlenni 2 a 4 a Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006 (p.13), adran 9.

(70)

O.S. 1998/1760 (G.I.14), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(71)

1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2). Mewnosodwyd adran 73B gan adran 29(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 ac fe'i diwygiwyd gan adran 34(1) o Ddeddf Methdaliad a Diwydrwydd etc. (Yr Alban) 2007 (dsa 3). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).

(72)

1992 p. 4; Diwygiwyd Rhan VII gan Ddeddf Tai 1991 (p. 52), Atodlen 19; Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), Atodlen 9 ac Atodlen 14; Deddf Ceiswyr Gwaith 1995 (p. 18), Atodlen 2 ac Atodlen 3; Deddf Tai 1996 (p. 52), Atodlen 19 Rhan 6; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 8; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 6, Rhan 3; Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2 ac Atodlen 3, Deddf Credydau Treth 2002 (p. 21), Atodlen 6; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, paragraffau 169 a 179, Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), Atodlen 24 a Deddf Diwygio Lles 2007 (p. 40), Atodlen 30(2) a 31(1), Atodlen 3, Atodlen 5 ac Atodlen 8; O.S. 2008/632, O.S. 2008/787 ac O.S. 2009/497.

(73)

1995 p. 18; diwygiwyd Rhan I gan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18), Atodlen 1; Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p. 14), Atodlenni 7 ac 8; Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlenni 1, 7, ac 8; Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2; Deddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2002 (p. 19), Atodlen 1; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 18), Atodlen 6; Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), Atodlen 24 ac O.S. 2006/343; a Deddf Diwygio Lles 2007, Atodlen 3.

(74)

1973 p. 50; diwygiwyd adran 2 fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p.19) gan Ddeddf Cyflogaeth 1989 (p. 38), Atodlen 7. Mewnosodwyd is-adrannau (3A) a (3B) gan Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p. 19), adran 47 mewn perthynas â'r Alban yn unig.

(75)

2007 p.5.

(76)

2002 p.21, diwygiwyd adran 3 gan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, adran 254 ac Atodlen 24.

(77)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(78)

1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Atodlen 7, paragraff 23, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31 a Deddf Dysgu a Medrau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraff 56 a Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 (p.40), Atodlen 1, paragraff 3.

(79)

2002 (p. 21) y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(80)

Mae rheoliad 14 o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a'r Gyfradd Uchaf) 2002 (O.S. 2002/2005) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/701, O.S. 2003/2815, O.S. 2004/762, O.S. 2004/1276, , O.S. 2004/2663, O.S. 2005/769, O.S. 2005/2919, O.S. 2006/766, O.S. 2007/824, O.S 2007/2479, O.S. 2008/604 a O.S. 2008/1879.yn nodi'r costau a ragnodir, ac felly costau gofal plant perthnasol, at ddibenion adran 12 o Ddeddf Credydau Treth 2002.

(81)

1992 p. 4 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(83)

1989 p. 41. Diwygiwyd adran 23 gan Ddeddf y Llysoedd a Gwasanaethau Cyfreithiol 1990 (p.41), Atodlen 16, paragraff 12, Deddf Safonau Gofal 2000 (p.14), Atodlen 4, paragraff 14 a Deddf Plant 2004 (p.31), adran 49 (3).

(84)

Mae diwygiadau i adrannau 15 a 24 ac Atodlen 1 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(85)

2002 p.21 y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(86)

Sefydlwyd y corff hwn o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch (yr Alban) 2005 (dsa 6).

(87)

2000 p.14.

(88)

1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.

(89)

Gorch. 4904.

(90)

1971 p. 77; mewnosodwyd adran 33(2A) gan baragraff 7 o Atodlen 4 i Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61).

(91)

OJ Rhif L257, 19.10.1968, t.2. (OJ/SE 1968 (II) t.475).

(92)

ystyr “Cytundeb yr EEA” (“EEA Agreement”) yw'r Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 — Gorch. 2073, fel y'i haddaswyd gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, Gorch. 2183.

(93)

1973 p.18; diwygiwyd adran 23 o Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder 1982 (p.53), adran 16. Mewnosodwyd adran 25B gan Ddeddf Pensiynau 1995 (p.26), adran 116(1) ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p.30), Atodlen 4. Mewnosodwyd adran 25E gan Ddeddf Pensiynau 2004 (p.35), adran 319(1), Atodlen 12, paragraff 3.

(94)

2004 p.33; addaswyd paragraff 25 o Atodlen 5 gan O.S. 2006/1934.

(95)

1989 p.41. Diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 (p.35), adran 2, Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.41), Atodlen 5, paragraff 19, Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (p.38), adran 116(2), Deddf Plant 2004 (p.31), adran 52 a Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008, adran 39 ac Atodlen 3.

(96)

Darperir cyllid gan y Cynghorau Ymchwil o ran astudio ôl-radd amser-llawn.

(97)

1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), Atodlen 3, paragraff 10 a Deddf Treth Incwm (Masnachu ac Incwm Arall) 2005 (p. 5), Atodlen 1, Deddf Cyllid 2004 (p.12), adran 281 ac Atodlen 35 a Deddf Treth Incwm 2007, Atodlen 1.

(98)

2004 p.12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007, adrannau 68, 69 a 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27.

(99)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

(100)

1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), Atodlen 3, paragraff 10, Deddf Cyllid 2004 (p.12), adran 281, Atodlen 35, Deddf Treth Incwm (Masnachu ac Incwm Arall) 2005 (p.5), Atodlen 1, a Deddf Treth Incwm 2007, Atodlen 1 .

(101)

2004 p.12; diwygiwyd adran 188 gan Ddeddf Cyllid 2007, adrannau 68, 69 a 114 ac Atodlenni 18, 19 a 27.

(102)

“Financial Statistics” (ISSN 0015-203X).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources