xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Mae aelodau o'r cydbwyllgor yn cynnwys y prif weithredwyr ynghyd â'r canlynol—
(a)cadeirydd;
(b)is-gadeirydd a benodir gan y cyd-bwyllgor o blith aelodau Bwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion;
(c)dau aelod nad ydynt yn swyddogion ac a benodir gan y cyd-bwyllgor o blith aelodau presennol Bwrdd Iechyd Lleol nad ydynt yn swyddogion; ac
(ch)swyddog-aelodau a gyflogir gan y Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol.
(2) Mae'r swyddog-aelodau'n cynnwys—
(a)cyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol;
(b)cyfarwyddwr meddygol gwasanaethau arbenigol a thrydyddol;
(c)cyfarwyddwr cyllid gwasanaethau arbenigol a thrydyddol; ac
(ch)nyrs-gyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol.
(3) Yn ychwanegol, bydd tri aelod cyswllt, sef Prif Weithredwyr Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
4.—(1) Penodir y cadeirydd gan Weinidogion Cymru.
(2) Penodir yr is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion gan y cyd-bwyllgor.
(3) Penodir y swyddog-aelodau gan y cyd-bwyllgor.
(4) Rhaid i'r penodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1) fod yn unol â'r darpariaethau yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(5) Pan fo'r cyd-bwyllgor yn penodi'r is-gadeirydd a'r aelodau nad ydynt yn swyddogion yn unol â pharagraff (2) a'r swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (3), rhaid i'r penodiadau fod yn ddarostyngedig i reolau sefydlog sy'n ymwneud â'r cyd-bwyllgor.
(6) Pan fo cadeirydd yn cael ei benodi'n unol â pharagraff (1), rhaid rhoi sylw i'r angen i hyrwyddo amrywiaeth yn y rhychwant o bersonau y caniateir eu penodi.
5.—(1) Cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n gadeirydd y cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a pharhau i gyflawni'r gofynion tra bo'n dal y swydd honno.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), cyn y caniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n swyddog-aelod o'r cyd-bwyllgor, rhaid iddo fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a pharhau i gyflawni'r gofynion tra bo'n dal y swydd honno.
(3) Yn ychwanegol at fodloni'r gofynion o ran cymhwystra yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, rhaid i swyddog-aelod sy'n gyfarwyddwr meddygol gwasanaethau arbenigol a thrydyddol neu sy'n nyrs-gyfarwyddwr gwasanaethau arbenigol a thrydyddol y cyd-bwyllgor fodloni hefyd y gofynion perthnasol o ran cymhwystra yn Rhan 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Caiff unrhyw berson a benodir yn unol â rheoliad 4(2) i fod yn is-gadeirydd neu'n aelod nad yw'n swyddog neu sy'n aelod cyswllt o'r cyd-bwyllgor neu'n brif weithredwr y cyd-bwyllgor ddim ond dal swydd ar y cyd-bwyllgor cyhyd â'i fod yn parhau i ddal y swydd honno fel y bo'n briodol fel aelod presennol o Fwrdd Iechyd Lleol nad yw'n swyddog neu fel Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol.
6.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd y cyd-bwyllgor.
(2) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, bydd cadeirydd yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau ei benodiad.
(3) Caniateir i gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na phedair blynedd.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliad 4(1).
(5) Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd i'r cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.
7.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn is-gadeirydd y cyd-bwyllgor neu'n aelod o'r cyd-bwyllgor nad yw'n swyddog.
(2) Caniateir i is-gadeirydd ac aelod nad yw'n swyddog gael ei benodi am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliad 5(4) a pharagraff (4), caniateir i is-gadeirydd neu aelod nad yw'n swyddog, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi'n unol â rheoliad 4(2).
(4) Ni chaiff person ddal swydd fel is-gadeirydd y cyd-bwyllgor neu fel aelod o'r cyd-bwyllgor nad yw'n swyddog am gyfnod cyfan o fwy na phedair blynedd.
8.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru symud cadeirydd o'i swydd ar unwaith os byddant yn penderfynu—
(a)nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; neu
(b)nad yw'n ffafriol i reoli da ar y cyd-bwyllgor,
i'r cadeirydd hwnnw barhau i ddal y swydd honno.
(2) Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod cadeirydd a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o'i swydd.
(3) Rhaid i gadeirydd a benodwyd hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(4) Os yw cadeirydd a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o'i swydd oni chânt eu bodloni —
(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b)y bydd y cadeirydd yn gallu bod yn bresennol yn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd Gweinidogion Cymru yn credu sy'n rhesymol.
(5) Caiff cadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw bryd o'i swydd drwy roi hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru a phob Bwrdd Iechyd Lleol ond bydd ei ymddiswyddiad yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.
9.—(1) Cyn penderfynu a ddylid symud cadeirydd o swydd o dan reoliad 8, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd hwnnw am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.
(2) Pan fo cadeirydd wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cadeirydd hwnnw a phob Bwrdd Iechyd Lleol ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.
(3) Ni chaiff cadeirydd y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau cadeirydd.
10.—(1) Caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud swyddog-aelod o'i swydd ar unwaith—
(a)os ydynt o'r farn nad yw er budd y cyd-bwyllgor i berson sy'n swyddog-aelod barhau i ddal y swydd honno fel aelod; neu
(b)os ydynt, ar ôl cael eu hysbysu gan swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), o'r farn nad yw er budd y cyd-bwyllgor i berson sy'n swyddog-aelod barhau i ddal ei swydd.
(2) Os yw'r holl swyddog-aelodau (ac eithrio swyddog-aelod sy'n destun hysbysiad o dan y paragraff hwn) o'r farn na ddylai person sy'n swyddog-aelod barhau i ddal swydd fel aelod, cânt hysbysu'r cyd-bwyllgor.
(3) Pan fo'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr yn symud person o swydd yn unol â pharagraff (1) neu, ar ôl iddynt gael eu hysbysu gan y swyddog-aelodau yn unol â pharagraff (2), yn penderfynu na ddylai person barhau i ddal swydd, rhaid iddynt hysbysu pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros eu penderfyniad.
(4) Pan fo person wedi ei benodi i fod yn swyddog-aelod, os daw i sylw'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, unrhyw un o'r aelodau nad ydynt yn swyddogion neu'r prif weithredwyr fod y person hwnnw—
(a)wedi dod yn anghymwys i'w benodi o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn; neu
(b)adeg ei benodi, yn anghymwys i gael ei benodi o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn,
rhaid iddo hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith a rhaid i'r cadeirydd hysbysu'r swyddog-aelod hwnnw, pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen o'r anghymhwystra hwnnw.
(5) Rhaid i swyddog-aelod hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith os daw'r aelod hwnnw'n anghymwys o dan Ran 1, a phan fo'n gymwys, o dan Ran 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
(6) Pan fo hysbysiad wedi ei roi yn unol â pharagraff (4), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud y person hwnnw o'i swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.
(7) Os yw'n ymddangos i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr fod swyddog-aelod wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 17 o Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009 (anabledd aelodau oherwydd buddiant ariannol), caniateir iddynt symud y person hwnnw o'i swydd a bydd y person hwnnw'n peidio â gweithredu fel swyddog-aelod.
(8) Pan fo swyddog-aelod wedi ei symud o'i swydd yn unol â pharagraffau (6) a (7), rhaid i'r cadeirydd hysbysu pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru o hynny ar unwaith.
(9) Os bydd person sy'n swyddog-aelod wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr symud y person hwnnw o'i swydd oni chânt eu bodloni—
(a)bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b)y bydd y person yn gallu bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr yn credu sy'n rhesymol.
11.—(1) Cyn penderfynu a ddylid symud person o'i swydd yn unol â rheoliad 10, caiff y cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr, os byddant yn credu ei bod yn briodol gwneud hynny, atal dros dro ddeiliadaeth swydd swyddog-aelod am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.
(2) Pan fo swyddog-aelod wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r cadeirydd, yr is-gadeirydd, yr aelodau nad ydynt yn swyddogion a'r prif weithredwyr hysbysu'r aelod hwnnw, pob Bwrdd Iechyd Lleol a Gweinidogion Cymru ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.
(3) Ni chaiff swyddog-aelod y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi ei hatal dros dro gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod o'r cyd-bwyllgor.