RHAN 3Cyfarfodydd a thrafodion y cyd-bwyllgor
Pwerau is-gadeirydd13
Pan fo cadeirydd yr is-bwyllgor—
a
wedi marw;
b
wedi peidio â dal ei swydd; neu
c
yn analluog i gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw achos arall,
caiff yr is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes y bydd y cadeirydd presennol yn ailafael yn ei ddyletswyddau fel cadeirydd, yn ôl y digwydd.