RHAN 2Aelodaeth o'r cyd-bwyllgor
Terfynu penodiad cadeirydd8
1
Caiff Gweinidogion Cymru symud cadeirydd o'i swydd ar unwaith os byddant yn penderfynu—
a
nad yw er budd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; neu
b
nad yw'n ffafriol i reoli da ar y cyd-bwyllgor,
i'r cadeirydd hwnnw barhau i ddal y swydd honno.
2
Os daw i sylw Gweinidogion Cymru fod cadeirydd a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o'i swydd.
3
Rhaid i gadeirydd a benodwyd hysbysu'r cyd-bwyllgor ar unwaith os daw'n anghymwys o dan Ran 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
4
Os yw cadeirydd a benodwyd wedi methu â bod yn bresennol mewn unrhyw un o gyfarfodydd y cyd-bwyllgor am gyfnod o chwe mis neu fwy, caiff Gweinidogion Cymru symud y cadeirydd hwnnw o'i swydd oni chânt eu bodloni —
a
bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
b
y bydd y cadeirydd yn gallu bod yn bresennol yn unrhyw gyfarfodydd o fewn unrhyw gyfnod y bydd Gweinidogion Cymru yn credu sy'n rhesymol.
5
Caiff cadeirydd ymddiswyddo ar unrhyw bryd o'i swydd drwy roi hysbysiad mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru a phob Bwrdd Iechyd Lleol ond bydd ei ymddiswyddiad yn ddarostyngedig i delerau ei benodiad.