RHAN 2Aelodaeth o'r cyd-bwyllgor
Atal cadeirydd dros dro9
1
Cyn penderfynu a ddylid symud cadeirydd o swydd o dan reoliad 8, caiff Gweinidogion Cymru atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd hwnnw am unrhyw gyfnod y maent yn credu ei fod yn rhesymol.
2
Pan fo cadeirydd wedi ei atal dros dro yn unol â pharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cadeirydd hwnnw a phob Bwrdd Iechyd Lleol ar unwaith mewn ysgrifen, gan ddatgan y rhesymau dros ei atal dros dro.
3
Ni chaiff cadeirydd y mae ei ddeiliadaeth swydd wedi ei atal dros dro o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau cadeirydd.