2. Rhaid i Weinidogion Cymru'n sicrhau bod trefniadau priodol wedi eu gwneud ar gyfer penodi'r cadeirydd a bod y trefniadau hynny'n cymryd i ystyriaeth —
(a)yr egwyddorion a osodir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus;
(b)ei bod yn ofynnol i'r penodi fod yn agored a thryloyw;
(c)ei bod yn ofynnol penodi drwy gystadleuaeth deg ac agored; ac
(ch)yr angen i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni'r gofynion ynghylch cymhwystra a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.