ATODLEN 1Y GWEITHDREFNAU AR GYFER PENODI CADEIRYDD
1
Mae'r Atodlen hon yn gymwys i benodi cadeirydd y cyd-bwyllgor.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru'n sicrhau bod trefniadau priodol wedi eu gwneud ar gyfer penodi'r cadeirydd a bod y trefniadau hynny'n cymryd i ystyriaeth —
a
yr egwyddorion a osodir o bryd i'w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus;
b
ei bod yn ofynnol i'r penodi fod yn agored a thryloyw;
c
ei bod yn ofynnol penodi drwy gystadleuaeth deg ac agored; ac
ch
yr angen i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni'r gofynion ynghylch cymhwystra a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
ATODLEN 2Y GOFYNION O RAN CYMHWYSTRA
RHAN 1Y gofynion o ran cymhwystra ar gyfer cadeirydd a swyddog-aelodau
Gofynion cyffredinol1
1
Mae'r Rhan hon o'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra person i gael ei benodi'n gadeirydd a'n swyddog-aelod y cyd-bwyllgor.
2
Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), ni fydd person yn gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod os yw—
a
yn ystod y pum mlynedd blaenorol wedi ei gollfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw dramgwydd ac wedi cael dedfryd o garchar (p'un a yw wedi ei hatal ai peidio) am gyfnod nad yw'n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy;
b
yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr;
c
wedi ei ddiswyddo, ac eithrio oherwydd anghyflogaeth, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd; neu
ch
os yw ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd, wedi ei therfynu am reswm ac eithrio anghyflogaeth, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu am fod cyfnod y swydd y penodwyd y person hwnnw iddi wedi dod i ben.
3
At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu yw'r dyddiad y bydd y cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o'r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais, neu'r dyddiad y rhoddir y gorau i'r naill neu'r llall, neu'r dyddiad y mae'r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu'r dyddiad y mae'r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.
4
At ddibenion paragraff (2)(c), nid yw person i'w drin fel un sydd wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny ddim ond am ei fod wedi dal swydd aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd.
5
Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(b)—
a
os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar ddyddiad y diddymiad;
b
os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar ddyddiad y rhyddhau;
c
os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar y dyddiad y caiff y dyledion hynny eu talu'n llawn; ac
ch
ar ôl gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person yn dod yn gymwys i gael ei benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar derfyn pum mlynedd o'r dyddiad y cyflawnwyd telerau gweithred y compownd neu'r trefniant.
6
Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(c), caiff, ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru i ddileu'r anghymhwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod yr anghymhwystra'n dod i ben.
7
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymhwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach cyn pen dwy flynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.
8
Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2) (ch), daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi'n gadeirydd neu'n swyddog-aelod ar derfyn dwy flynedd o ddyddiad terfynu'r aelodaeth neu derfyn unrhyw gyfnod hirach a bennwyd gan y corff a derfynodd yr aelodaeth, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt mewn ysgrifen gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymhwystra.
RHAN 2Y gofynion o ran cymhwystra ar gyfer categorïau penodol o swyddog-aelodau
Cyfarwyddwr Meddygol Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol2
Nyrs-gyfarwyddwr Gwasanaethau Arbenigol a Thrydyddol3
I fod yn gymwys i gael ei benodi'n nyrs-gyfarwyddwr yn rheoliad 3(2)(ch), rhaid i berson fod wedi ei gynnwys ar y gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth6.