xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3192 (Cy.277)

PRIFFYRDD, CYMRU

GORCHYMYN CEFNFFORDD LLUNDAIN I ABERGWAUN (YR A40) (GWELLIANT WRTH THE KELL, TREFGARN) 2009

Gwnaed

3 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

11 Rhagfyr 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980(1) a phob pŵer galluogi arall(2):—

1.  Daw'r briffordd newydd y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.

2.  Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y map a adneuwyd.

3.  Yn y Gorchymyn hwn:—

4.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 11 Rhagfyr 2009 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Llundain i Abergwaun (yr A40) (Gwelliant wrth The Kell, Trefgarn) 2009.

Llofnodwyd ar ran Gweinidogion Cymru

J Collins

Dirprwy Gyfarwyddwr Cynllunio a Llywodraethu Trafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru

3 Rhagfyr 2009

YR ATODLENLLWYBR Y GEFNFFORDD NEWYDD

Mae llwybr y gefnffordd newydd yn llwybr o oddeutu 0.48 o gilometrau o hyd, yn cychwyn wrth bwynt ar y gefnffordd oddeutu 622 o fetrau i'r de o linell ganol y gyffordd â chefnffordd yr A40 â'r ffordd C3059 i Spittal ac sy'n ymestyn i gyfeiriad gogleddol yn gyffredinol at bwynt 112 o fetrau i'r de o gyffordd y gefnffordd â'r ffordd C3059 i Spittal.

(2)

Yn rhinwedd O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1 a pharagraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae'r pwerau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.