- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Gwnaed
9 Rhagfyr 2009
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
11 Rhagfyr 2009
Yn dod i rym
1 Ionawr 2010
Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd, ac maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno a pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at offeryn y Gymuned Ewropeaidd gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau yw Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) (Diwygio) 2009.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2010.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006 (3) yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a)Dileer diffiniad o “gweithrediad a gymeradwywyd”,
(b)Yn y man priodol mewnosoder y diffiniadau canlynol—
“ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd neu gost sefydlu a gymeradwywyd” (“approved operation or approved setting up cost”) yw gweithrediad neu gost sefydlu y mae Gweinidogion Cymru wedi'u cymeradwyo'n ysgrifenedig ar gyfer cael cymorth ariannol, ac mae “cymeradwyo” (“approve”) a “cymeradwyaeth” (“approval) i'w dehongli'n unol â hynny;
ystyr “cost sefydlu” (“setting up cost”) yw gwariant a dynnir neu sydd i'w dynnu wrth sefydlu ffermwyr ifanc yn unol ag Erthygl 7 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1857/2006 ar 15 Rhagfyr 2006 ar gymhwysiad Erthyglau 87 ac 88 o'r Cytuniad i gymorth gwladwriaethol i fusnesau bach a chanolig sy'n weithgar ym maes cynhyrchu cynhyrchion amaethyddol ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 70/2001.”(4).
(3) Yn rheoliadau 3(1), 6(1), 7(1)(a), 7(1)(b), 7(2)(a), 7(7), 8(1) 9(1), 9(1)(ch), 9(1)(e), 9(1)(f), 9(1)(ff), 9(1)(h), 9(2)(b) ar ôl “gweithrediad a gymeradwywyd” mewnosoder “neu gost sefydlu a gymeradwywyd”.
(4) Yn rheoliadau 4(1) a 9(2)(a) ar ôl “gweithrediad” mewnosoder “neu gost sefydlu”.
(5) Yn lle rheoliad 4(2), rhodder—
“4—(2) Caiff Gweinidogion Cymru,
(i)ar yr amod eu bod wedi'u bodloni bod gweithrediad y mae'r cais yn ymwneud ag ef yn gymwys i gael cymorth Cymunedol, gymeradwyo'r gweithrediad hwnnw, neu
(ii)gymeradwyo'r gost sefydlu ar gyfer cael cymorth ariannol, a chaniateir rhoi cymeradwyaeth o'r fath yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y caiff Gweinidogion Cymru eu penderfynu.”.
(6) Yn rheoliad 8(1) yn lle “â'r gweithrediad hwnnw” mewnosoder “ â gweithrediad neu gost sefydlu”.
(7) Yn yr Atodlen—
(a)Ym mharagraff 4 disodler y cofnod gan y testun canlynol—
“4. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1120/2009 dyddiedig 29 Hydref 2009 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu'r cynllun taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Nheitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.”(5);
(b)Ym mharagraff 5 disodler y cofnod gan y testun canlynol—
“5. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1122/2009 dyddiedig 30 Tachwedd 2009 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 o ran trawsgydymffurfio, modiwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli, o dan y cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad hwnnw, yn ogystal â gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 o ran trawsgydymffurfio o dan y cynllun cymorth a ddarperir i'r sector gwin.”(6);
(c)Ym mharagraff 6 disodler y cofnod gan y testun canlynol—
“6. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009 dyddiedig 19 Ionawr 2009 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol i ffermwyr o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.”(7).
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Rhagfyr 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2006 (O.S. 2006/3343 (Cy. 304) (“y prif Reoliadau”).
Diben y diwygio yw rhoi pwerau i Weinidogion Cymru o ran Cynllun Cymorth i Newydd-ddyfodiaid i fyd ffermio (“y Cynllun”) a fydd yn agor yn 2010. Bydd y Cynllun yn caniatáu rhoi cymorth i newydd-ddyfodiaid ifanc o'r fath yn unol ag Erthygl 7 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1857/2006 ar 15 Rhagfyr 2006 ar gymhwysiad Erthyglau 87 ac 88 o'r Cytuniad i gymorth gwladwriaethol i fusnesau bach a chanolig sy'n weithgar ym maes cynhyrchu cynhyrchion amaethyddol ac yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 70/2001. Rhaid i'r newydd-ddyfodiaid fodloni meini prawf a osodir yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 ar 20 Medi 2005 ar gymorth i ddatblygu gwledig gan Gronfa Amaethyddiaeth Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Diwygir y prif Reoliadau i ganiatáu i Weinidogion Cymru, o ran y Cynllun, wneud y canlynol: cymeradwyo gwariant ar gyfer cael cymorth ariannol; clymu amodau wrth unrhyw gymeradwyaeth o'r fath; talu cymorth ariannol; gosod yr amgylchiadau y caniateir dirymu cymeradwyaeth o'r gwariant ac y caniateir atal neu adennill unrhyw gymorth ariannol i fuddiolwr odanynt; darparu pwerau mynediad a phwerau archwilio i bersonau awdurdodedig o ran tir neu ddogfennau sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd; ei gwneud yn ofynnol i fuddiolwyr cymorth ariannol gadw cofnodion perthnasol am gyfnod penodol, rhoi gwybodaeth sy'n ymwneud â'r gwariant a gymeradwywyd a chynorthwyo personau awdurdodedig; ei gwneud yn dramgwydd os bydd buddiolwyr yn gwneud datganiadau anwir, yn fwriadol yn rhwystro person awdurdodedig wrth iddo arfer pwerau'r person hwnnw, methu â chadw cofnodion perthnasol am y cyfnod y mae ei angen, methu â rhoi cymorth i'r person awdurdodedig; ei gwneud yn ofynnol i fuddiolwr roi ymgymeriad pan fo'n briodol.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diweddaru'r cyfeiriadau at offerynnau deddfwriaethol Ewropeaidd penodol a restrir yn y prif Reoliadau.
Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Mae copïau ohono ar gael gan Is-adran Polisi Cefn Gwlad, Adran Materion Gwledig, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3UR.
O.S. 2005/2766. Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o ac Atodlen 11 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
O.S. 2006/3343 (Cy. 304), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2007/2900 (Cy. 251).
OJ Rhif 358, 16.12.2006, t. 3.
OJ Rhif 316, 2.12.09, t. 1.
OJ Rhif 316, 2.12.09, t. 65.
OJ Rhif 30, 31.1.09, t. 16.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: