Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3294 (Cy.291) (C.146)

TRAFNIDIAETH, CYMRU

Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2009

Gwnaed

14 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

31 Ionawr 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 134(6) o Ddeddf Trafnidiaeth Leol 2008(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2010 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Trafnidiaeth Leol 2008.

Cychwyn ar ddarpariaethau trafnidiaeth leol o ran Cymru

2.  31 Ionawr 2010 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym–

(a)Adran 13 (i'r graddau nad yw eisoes mewn grym).

(b)Adrannau 14—18.

(c)Adran 68(2).

(ch)Adran 131 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r canlynol —

  • Rhan 1 o Atodlen 7,

  • Yn Rhan 2 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud ag adran 116(2) ac Atodlen 10 i Ddeddf Trafnidiaeth 2000(2),

  • Yn Rhan 2 o Atodlen 7, y diddymiad sy'n ymwneud â Deddf Fenter 2002(3),

  • Yn Rhan 3 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud ag Adrannau 74, 75 a 79 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985(4),

  • Yn Rhan 3 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud â Deddf Trafnidiaeth 2000,

  • Yn Rhan 5 o Atodlen 7, y diddymiadau sy'n ymwneud â Deddf Trafnidiaeth 2000,

ac felly â'r diddymiadau hynny.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

14 Rhagfyr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 31 Ionawr 2010 ddarpariaethau canlynol Deddf Trafnidiaeth Leol 2008 (“y Ddeddf”)(5).

Rhan 3

Adrannau 13 i 18 (ac eithrio adran 13(1) a 13(2) a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2009) sy'n diwygio pwerau yn Neddf Trafnidiaeth 2000(6) i awdurdodau trafnidiaeth lleol wneud cynlluniau partneriaeth ansawdd.

Rhan 4

Adran 68(2) sy'n estyn pwerau Gweinidogion Cymru i roi nawdd ar gyfer darparu gwasanaethau penodol i gludo teithwyr.

Rhan 8

Adran 131 i'r graddau y mae'n ymwneud â diddymiadau yn Atodlen 7 ac felly â'r diddymiadau hynny.