Search Legislation

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysol Ewropeaidd) (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009 a deuant i rym ar 21 Ionawr 2010.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “yr Athrofa” (“the Institute”) yw'r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd;

  • ystyr “awdurdod academaidd” (“academic authority”), mewn perthynas â'r Athrofa, yw'r corff llywodraethu neu'r corff arall sydd â swyddogaethau corff llywodraethu ac mae'n cynnwys person sy'n gweithredu gydag awdurdod y corff hwnnw;

  • ystyr “cwrs cyfredol” (“current course”) yw'r cwrs dynodedig y mae person yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad ag ef neu am gael ei gydnabod yn fyfyriwr cymwys;

  • ystyr “cwrs cymwys” (“qualifying course”) yw cwrs—

    (a)

    sydd—

    (i)

    yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs cyffelyb; a

    (ii)

    sy'n para am o leiaf ddwy flynedd academaidd; a

    (b)

    y cafodd y myfyriwr ar ei gyfer, am o leiaf ddwy flynedd academaidd o'r cwrs, ddyfarniad statudol ac eithrio dyfarniad a fwriadwyd i helpu gyda gwariant ychwanegol yr oedd y myfyriwr yn gorfod ei dynnu mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar y cwrs oherwydd anabledd y mae neu yr oedd yn ei ddioddef;

  • ystyr “Deddf 1998” (“1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

  • ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw 31 Ionawr 2010;

  • ystyr “dyfarniad statudol” (“statutory award”) yw unrhyw ddyfarniad a roddir, unrhyw grant a delir, neu unrhyw gymorth arall a ddarperir yn rhinwedd Deddf 1998 neu Ddeddf Addysg 1962(1), neu unrhyw ddyfarniad, grant neu gymorth arall cyffelyb mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs a delir o gronfeydd cyhoeddus;

  • ystyr “y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr” (“student loans legislation”) yw Deddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990(2), Gorchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990(3), Deddf Addysg (Yr Alban) 1980(4) a rheoliadau a wnaed odani, Gorchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998(5) a rheoliadau a wnaed odano neu Ddeddf 1998 a rheoliadau a wnaed odani;

  • ystyr “ffoadur” yw person a gydnabyddir gan lywodraeth Ei Mawrhydi fel ffoadur o fewn ystyr “refugee” yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig sy'n ymwneud â Statws Ffoaduriaid a wnaed yng Ngenefa ar 28 Gorffennaf 1951(6) fel y'i hestynnwyd gan y Protocol iddo a ddaeth i rym ar 4 Hydref 1967(7);

  • ystyr “grantiau at gostau byw a chostau eraill” (“grants for living and other costs”) yw'r grantiau sy'n daladwy o dan reoliad 16;

  • ystyr “grantiau atodol” (“supplementary grants”) yw'r grantiau sy'n daladwy o dan Bennod 2 o Ran 4;

  • ystyr “llofnod electronig” (“electronic signature”) yw cymaint o unrhyw beth ar ffurf electronig ag sydd—

    (a)

    wedi'i ymgorffori mewn unrhyw gyfathrebiad electronig neu ddata electronig neu sydd fel arall wedi'i gysylltu yn rhesymegol â hwy; a

    (b)

    yn honni ei fod wedi'i ymgorffori neu wedi'i gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i gadarnhau bod y cyfathrebiad neu'r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu'r data yn gyflawn, neu'r ddau;

  • mae i “myfyriwr cymwys” (“eligible student”) yr ystyr a roddir gan reoliad 8;

  • ystyr “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros” (“person with leave to enter or remain”) yw person—

    (a)

    sydd wedi'i hysbysu gan berson yn gweithredu dan awdurdod yr Ysgrifenydd Gwladol dros yr Adran Gartref y tybir, er ystyried nad yw'n gymwys i'w gydnabod fel ffoadur, ei bod yn iawn caniatáu iddo ddod i mewn i neu aros yn y Deyrnas Unedig;

    (b)

    a gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros yn unol â hynny;

    (c)

    nad yw cyfnod ei ganiatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben neu y mae'r cyfnod hwnnw wedi'i adnewyddu ac nad yw'r cyfnod y cafodd ei adnewyddu ar ei gyfer wedi dod i ben neu y mae apôl (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(8)) ynghylch caniatâd y person i ddod i mewn neu i aros yn yr arfaeth; ac

    (ch)

    sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod er pan gafodd ganiatâd i ddod i mewn neu aros;

  • ystyr “Rheoliadau 2008” (“the 2008 Regulations”) yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) 2008(9);

  • ystyr “Undeb Ewropeaidd” (“European Union”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd fel y'i cyfansoddir o dro i dro.

Dirymu a darpariaethau arbed

4.  Yn ddarostyngedig i reoliad 5 dirymir y rheoliadau canlynol ar 1 Medi 2010—

(a)Rheoliadau 2008;

(b)Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2008(10);

(c)Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2008(11);

(ch)Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Sefydliadau Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2009(12).

5.  Bydd Rheoliadau 2008 yn parhau i fod yn gymwys wrth ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2009 ond cyn 1 Medi 2010.

6.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran darparu cymorth i fyfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, p'un a gaiff unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn ei wneud cyn, ar neu ar ôl, 1 Medi 2010.

RHAN 2GWNEUD CAIS AM GYMORTHA CHYMHWYSTRA

Ceisiadau

7.—(1Onid yw person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 8(9), rhaid iddo gyflwyno cais am gael ei ystyried yn fyfyriwr cymwys a chais am gymorth ar y ffurf sy'n ofynnol gan Weinidogion Cymru i'r Athrofa erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau.

(2Pan fo person sy'n ceisio cymorth o dan y Rheoliadau hyn eisoes yn fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 8(9), rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ei fod yn dymuno gwneud cais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn.

(3Y dyddiad cau o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010 yw 31 Ionawr 2010.

(4Caiff Gweinidogion Cymru estyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau os ydynt o'r farn bod amgylchiadau'r achos yn cyfiawnhau hynny.

Myfyrwyr cymwys

8.—(1Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael cymorth ariannol mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) ac (7), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa—

(a)os yw'r awdurdod academaidd yn hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig bod gan y person gyfle rhesymol o gael cynnig lle ar y cwrs hwnnw gan yr awdurdod academaidd; a

(b)os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu mewn cysylltiad â chais am gymorth o dan y Rheoliadau hyn ei fod yn dod o fewn un o'r categorïau yn Rhan 2 o Atodlen 1.

(3Nid yw person yn fyfyriwr cymwys—

(a)os yw'r person hwnnw, yn ddarostyngedig i baragraff (4), wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys;

(b)os yw wedi torri rhwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;

(c)os yw wedi cyrraedd ei 18 oed ac nad yw wedi cadarnhau unrhyw gytundeb ynghylch benthyciad a wnaed gydag ef pan oedd o dan 18 oed; neu

(ch)os yw, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi dangos drwy ei ymddygiad ei fod yn anffit i gael cymorth.

(4Nid yw paragraff (3)(a) yn gymwys os yw'r person wedi bod yn bresennol ar gwrs cymwys ond bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, o roi sylw i amgylchiadau penodol y person hwnnw, ei bod yn briodol talu cymorth iddo mewn cysylltiad â'r cwrs cyfredol.

(5At ddibenion paragraff (3)(b) ac (c) ystyr “benthycia” yw benthyciad a wneir o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.

(6Mewn achos pan fo'r cytundeb ar gyfer benthyciad yn ddarostyngedig i gyfraith yr Alban, dim ond os cafodd y cytundeb ei wneud—

(a)cyn 25 Medi 1991; a

(b)gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan na fu ganddo guradur

y mae paragraff (3) (c) yn gymwys.

(7Rhaid i nifer y myfyrwyr cymwys beidio â bod yn fwy nag un.

(8Ni chaiff myfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn cysylltiad ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000, ar unrhyw adeg, gymhwyso i gael cymorth at fwy nag un cwrs dynodedig.

(9Er gwaethaf paragraffau (2) a (3) ac yn ddarostyngedig i baragraffau (7), (10) ac (11), mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa—

(a)os cymhwysodd fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad—

(i)â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs cyfredol; neu

(ii)â chwrs dynodedig yr oedd yn bresennol arno yn yr Athrofa ac y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a

(b)nad yw ei statws fel myfyriwr cymwys wedi'i derfynu.

(10Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ffoadur neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a

(b)statws ffoadur A neu statws ffoadur priod, partner sifil, rhiant neu lysriant i A, yn ôl y digwydd, i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi ac nad oes unrhyw apôl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(11Pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu'n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o'r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd ei statws fel myfyriwr cymwys ohono i'r cwrs cyfredol; a

(b)y cyfnod pryd y caniateir i'r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno'n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi'i roi nac unrhyw apôl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),

mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(12Nid yw paragraffau (10) a (11) yn gymwys os dechreuodd y myfyriwr y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys cyn 1 Medi 2007.

(13Caiff Gweinidogion Cymru gymryd y camau a gwneud yr ymholiadau y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a yw person yn fyfyriwr cymwys.

(14Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu person y rhoddwyd gwybod iddynt amdano o dan baragraff (2) (a) a yw'n cymhwyso fel myfyriwr cymwys.

(15Rhaid i berson sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (14) ei fod yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs yn yr Athrofa a pherson sy'n fyfyriwr cymwys yn yr Athrofa yn rhinwedd paragraff (9), roi i Weinidogion Cymru, erbyn y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y maent yn gofyn amdani er mwyn penderfynu swm y cymorth sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd.

(16Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010, yw 31 Ionawr 2010 neu, yn achos grantiau sy'n daladwy o dan reoliad 16(6), 31 Ionawr 2011.

(17Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu myfyriwr cymwys o swm y cymorth sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd, os o gwbl.

Cyrsiau dynodedig

9.  Mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 8 os yw—

(a)yn gwrs ôl-raddedig neu'n gwrs cyffelyb;

(b)yn gwrs llawnamser;

(c)yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac

(ch)yn cael ei ddarparu gan yr Athrofa.

Cyfnod cymhwystra

10.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol a rheoliad 8, bydd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn terfynu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd y byddai'r Athrofa fel arfer yn disgwyl i'r myfyriwr gwblhau'r cwrs ynddi (“cyfnod cymhwystra”).

(2Bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu pan fo'r myfyriwr—

(a)yn tynnu'n ôl o'i gwrs dynodedig o dan amgylchiadau lle na fyddai Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo ei statws fel myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 11; neu

(b)yn rhoi'r gorau i'w gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.

(3Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr os ydynt wedi'u bodloni bod ymddygiad y myfyriwr wedi dangos ei fod yn anffit i gael cymorth.

(4Os bydd cyfnod cymhwystra'r myfyriwr yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd pryd y bydd y myfyriwr yn cwblhau'r cwrs mewn gwirionedd, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw bryd, estyn neu adnewyddu'r cyfnod cymhwystra am y cyfnod y byddant yn penderfynu arno.

(5Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o'r canlynol—

(a)terfynu cyfnod cymhwystra'r myfyriwr;

(b)penderfynu nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso mwyach i gael unrhyw fath penodol o gymorth neu unrhyw swm penodol o gymorth;

(c)trin unrhyw gymorth sydd eisoes wedi'i dalu i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill yn unol â rheoliad 31.

Trosglwyddo cymhwystra

11.—(1Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs dynodedig arall yn yr Athrofa, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys—

(a)os byddant yn cael cais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;

(b)os ydynt wedi'u bodloni bod y myfyriwr cymwys wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs arall hwnnw ar argymhelliad yr awdurdod academaidd; ac

(c)os nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi terfynu.

(2Mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo weddill y cymorth a aseswyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

(3Ni chaiff myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho ond cyn i'r myfyriwr gwblhau'r flwyddyn honno, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo iddo, wneud cais am grant arall o fath y mae eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.

RHAN 3DARPARU GWYBODAETH

Gwybodaeth

12.  Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi i Weinidogion Cymru yr wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn credu bod arnynt ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.

13.  Rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi'r manylion iddynt os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd—

(a)ei fod yn tynnu'n ôl o'i gwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno;

(b)ei fod yn trosglwyddo i gwrs arall yn yr Athrofa;

(c)ei fod yn rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw'n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;

(ch) ei fod yn absennol o'i gwrs am fwy na 60 o ddiwrnodau oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;

(d)bod y mis ar gyfer dechrau'r cwrs neu ei gwblhau yn newid;

(dd)bod ei gyfeiriad cartref neu ei gyfeiriad yn ystod y tymor yn newid.

14.  Rhaid i'r wybodaeth a roddir i Weinidogion Cymru yn unol â'r Rheoliadau hyn fod ar y ffurf y gofynnir amdani gan Weinidogion Cymru ac, os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, mae llofnod electronig ar y ffurf a bennir ganddynt yn bodloni'r gofyniad hwn.

RHAN 4CYMORTHARIANNOL

Cyffredinol

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y rheol gyffredinol yw bod myfyriwr cymwys sy'n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan yr Athrofa yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael—

(a)grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 1; a

(b)grantiau atodol yn unol â Phennod 2.

(2Os yw'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn flwyddyn o ailadrodd astudiaethau, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu—

(a)nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael math neu swm penodol o gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau; neu

(b)nad yw'r myfyriwr yn cymhwyso i gael unrhyw gymorth mewn cysylltiad â'r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau.

(3Wrth benderfynu na fyddai myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael rhyw gymorth neu unrhyw gymorth yn unol â pharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i amgylchiadau'r achos ac yn benodol i'r rhesymau pam y gofynnwyd i'r myfyriwr ailadrodd blwyddyn academaidd.

(4At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn o ailadrodd astudiaethau” yw blwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr wedi bod yn bresennol arni o'r blaen ond y mae'r Athrofa yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol arni eto.

PENNOD 1GRANTIAU AT GOSTAU BYWA CHOSTAU ERAILL

Grantiau at gostau byw a chostau eraill

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.

(2Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr un o'r grantiau sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

(3Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at gostau byw o 18,099 ewro o ran blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2010.

(4Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant i deithio adref am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol un siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i'r Athrofa.

(5Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant ar gyfer teithio colegol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa'r myfyriwr, tra bydd yn bresennol yn yr Athrofa, i'r Athrofa.

(6Ar yr amod bod Gweinidogion Cymru'n cytuno ymlaen llaw a chyn tynnu costau mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi'i thynnu er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan yr Athrofa yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.

(7Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at yswiriant meddygol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol yswirio'r myfyriwr yn erbyn rhwymedigaeth i dalu cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i'r Deyrnas Unedig os yw cyfnod arferol y cwrs yn fwy nag un flwyddyn academaidd.

17.  Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw un o'r grantiau a gyfrifir o dan baragraffau (3) i (6) o reoliad 16.

PENNOD 2GRANTIAU ATODOL

Lwfans myfyriwr anabl

18.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael lwfans myfyriwr anabl i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod rhaid i'r myfyriwr ei dynnu oherwydd anabledd sydd ganddo mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig.

(2Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael lwfans myfyriwr anabl os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

Swm lwfans myfyriwr anabl

19.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y lwfans myfyriwr anabl yw'r swm y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau'r myfyriwr i fod yn gymorth at un neu ragor o fathau o wariant cymwys.

(2Rhaid i swm lwfans myfyriwr anabl beidio â bod yn fwy na £10,260 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.

(3Y “mathau o wariant cymwys” yw—

(a)gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;

(b)gwariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;

(c)unrhyw wariant ychwanegol a dynnir—

(i)yn yr Eidal er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa; a

(ii)yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi at ddibenion teithio i'r Athrofa er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs perthnasol.

Grant ar gyfer dibynyddion

20.—(1Mae'r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—

(a)grant dibynyddion mewn oed; a

(b)lwfans dysgu rhieni.

(2Nodir amodau cymhwyso ar gyfer pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 21 i 25.

Grant dibynyddion mewn oed

21.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Mae'r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn perthynas ag un dibynnydd myfyriwr cymwys sydd naill ai—

(a)yn bartner y myfyriwr; neu

(b)yn ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr a hwnnw'n ddibynnydd nad yw ei incwm net yn fwy na £3,801.

(3Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

22.  Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 24, a'r swm sylfaenol yw—

(a)mewn cysylltiad â'r flwyddyn academaidd gyfredol, £2,647; neu

(b)pan fo'r person y mae'r myfyriwr yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, y swm nad yw'n fwy na £2,647 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn yr amgylchiadau.

Lwfans dysgu rhieni

23.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso, mewn cysylltiad â bod yn bresennol ar gwrs dynodedig, i gael y lwfans dysgu rhieni os oes ganddo un neu fwy o blant dibynnol.

(2Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael y grant sy'n daladwy o dan y rheoliad hwn os paragraff 9 o Ran 2 o Atodlen 1 yw'r unig baragraff o Ran 2 o'r Atodlen honno y mae'r myfyriwr yn dod odano.

(3Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 24, a'r swm sylfaenol yw £1,508.

Cyfrifo

24.—(1Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w gael o dan reoliadau 21 i 23 yw swm yr elfen honno sy'n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben neu hyd nes nad oes elfen yn dal yn daladwy o dan reoliadau 21 i 23, swm sy'n hafal i (AB) fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—

(a)i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os yw'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 21; a

(b)i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os yw'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 23.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy nag A neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w chael yn daladwy.

(3Os yw (AB) yn hafal i agregiad y symiau sylfaenol o elfennau'r grant ar gyfer dibynyddion y mae'r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w cael neu'n fwy na'r agregiad hwnnw, y swm sy'n daladwy mewn cysylltiad â phob elfen yw dim.

(4Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o ran dibynnydd mewn oed gan un hanner—

(a)os yw partner y myfyriwr—

(i)yn fyfyriwr cymwys; neu

(ii)yn dal dyfarniad statudol; a

(b)os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw yn cymhwyso i'w gael, neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth i'w gael, o dan y dyfarniad statudol.

(5Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy'n daladwy yw £50.

(6At ddibenion y rheoliad hwn—

  • A yw agregiad incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a

  • B yw—

    (a)

    £1,159 os nad oes gan y myfyriwr unrhyw blentyn dibynnol;

    (b)

    £3,473 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    (c)

    £4,632 os nad yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;

    (ch)

    £4,632 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;

    (d)

    £5,797 os yw'r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.

25.  Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o'r swm sy'n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol yn y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliadau 21 i 24.

Dehongli

26.—(1At ddibenion rheoliadau 21 i 25—

(a)ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o'r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;

(b)mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy'n ddibynnol ar y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto sy'n ddibynnol arno;

(c)ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed i'r myfyriwr, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;

(ch)ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf;

(d)ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys yw plentyn sy'n ddibynnol ar y myfyriwr;

(dd)ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;

(e)mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);

(f)yn ddarostyngedig i is-baragraffau (ff), (g), (ng) ac (h), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o'r canlynol—

(i)priod myfyriwr;

(ii)partner sifil myfyriwr;

(iii)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n briod i'r myfyriwr—

(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a

(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;

(iv)person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai'r person hwnnw'n bartner sifil i'r myfyriwr—

(aa)os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a

(bb)os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;

(ff)oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (f) i'w drin fel partner—

(v)os yw'r person hwnnw a'r myfyriwr, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi'u gwahanu; neu

(vi)os yw'r person yn byw fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr;

(g)at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed” , mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;

(ng)at ddibenion diffinio “plentyn” a “rhiant unigol” , mae person i'w drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (f) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr y cwrs dynodedig neu'r ffaith nad oedd y myfyriwr y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau'r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;

(h)yn ddarostyngedig i is-baragraff (i), at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed” , caiff Gweinidogion Cymru drin oedolyn neu blentyn fel rhai sy'n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt wedi'u bodloni o ran yr oedolyn neu'r plentyn—

(i)nad yw'n ddibynnol ar—

(aa)y myfyriwr cymwys; neu

(bb) ei bartner; ond

(ii)ei fod yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a'i bartner gyda'i gilydd;

(i)rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thrin oedolyn (“A”) fel dibynnydd ar fyfyriwr cymwys yn unol ag is-baragraff (h), os Ayw—

(i)priod neu bartner sifil partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn barnu bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu

(ii)partner blaenorol partner y myfyriwr cymwys.

(j)at ddibenion penderfynu a yw person yn bartner blaenorol i bartner myfyriwr cymwys, ystyr “partner” o ran partner myfyriwr cymwys yw—

(i)priod partner myfyriwr cymwys;

(ii)partner sifil partner myfyriwr cymwys;

(iii)os dechreuodd y myfyriwr cymwys y cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000, person sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel pe bai yn briod iddo;

(iv)os dechreuodd y myfyriwr cymwys y cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005, person sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys fel pe bai yn bartner sifil iddo.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn cysylltiad â hi ond gan anwybyddu—

(a)unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;

(b)budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(13);

(c)unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(14);

(ch)unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

(d)yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw at ddibenion adran 23 o Ddeddf Plant 1989(15);

(dd)unrhyw daliad a wnaed i'r dibynnydd o dan adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 1989(16)

(e)unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn cysylltiad â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno(17); ac

(f)unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 2002(18).

(3Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) ac wedi'i ostwng yn ôl—

(a)swm sy'n hafal i'r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo'n rhesymol; neu

(b)y swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn briodol pe gallai rhwymedigaeth lai, yn eu barn hwy, fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol.

(4At ddibenion paragraff (2)—

(a)os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol; a

(b)os oes taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr tuag at gynhaliaeth y plentyn;

mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm i'r plentyn.

RHAN 5CYFRANIADAU

Cyfraniad y myfyriwr

27.—(1Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 2, os oes unrhyw swm o gwbl.

(2At ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr roi o dro i dro yr wybodaeth y mae arnynt ei hangen er mwyn asesu cyfraniad y myfyriwr.

Cymhwyso cyfraniad y myfyriwr

28.  Rhaid i'r cyfraniad a gyfrifir yn unol â rheoliad 33 gael ei gymhwyso yn unol â rheoliad 27.

29.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso cyfraniad y myfyriwr cymwys—

(a)yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(3);

(b)yn ail—

(i)yn achos myfyriwr sy'n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng yn y drefn ganlynol—

(aa)swm unrhyw grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir yn unol â rheoliad 24;

(bb)swm unrhyw lwfans dysgu rhieni a gyfrifir yn unol â rheoliad 24; ac

(cc)swm unrhyw grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(4);

(ii)mewn unrhyw achos arall, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(4);

(c)yn drydydd, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(5).

(ch)yn bedwerydd, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 16(6).

(2Os yw'r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(ch) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 16(6), swm y grant hwnnw sy'n daladwy i'r myfyriwr yw dim.

RHAN 6TALIADAU

Talu grantiau at gostau byw a chostau eraill a grantiau atodol

30.—(1Caiff Gweinidogion Cymru dalu'r grantiau at gostau byw a chostau eraill a'r grantiau atodol y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i'w cael yn y rhandaliadau ac ar yr adegau sy'n briodol yn eu barn hwy.

(2Os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru dalu grant sy'n daladwy o dan reoliad 16(3) i'r awdurdod academaidd er mwyn i'r awdurdod dalu'r grant ar eu rhan.

(3Pan na ellir gwneud, ar sail yr wybodaeth a ddarperir gan y myfyriwr, asesiad terfynol o swm y grantiau at gostau byw a chostau eraill neu o grantiau atodol sy'n daladwy i fyfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro mewn cysylltiad â'r grantiau hynny hyd oni wneir yr asesiad terfynol.

(4Os ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad lwfans myfyriwr anabl cyn dechrau'r flwyddyn academaidd y mae'r taliad hwnnw'n ddyledus mewn cysylltiad â hi.

(5Pan fo'r amgylchiadau yn rheoliad 13(a) neu yn rheoliad 13(c) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr ar ôl y dyddiad y mae'r myfyriwr yn peidio o bod yn bresennol ar ei gwrs onid ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr sy'n absennol o'r cwrs—

(a)am fwy na 60 o ddiwrnodau oherwydd salwch; neu

(b)am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall, onid ydynt o'r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.

Gordaliadau

31.  Os yw Gweinidogion Cymru'n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i'r myfyriwr hwnnw o dan Ran 4 ac sydd, am ba reswm bynnag, yn fwy na'r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan Ran 4.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

17 Rhagfyr 2009

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources