Search Legislation

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3364 (Cy.296)

ANIFEILIAID, CYMRU

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009

Wedi'i wneud

18 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2009

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1), ac 83(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn dwy arfer y pwerau hynny.

RHAN 1Rhagymadrodd

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009, mae'n gymwys yng Nghymru a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2009.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “anifail” (“animal”) yw unrhyw anifail o rywogaeth y ddafad neu'r afr;

  • ystyr “allforio” (“export”) yw anfon i Aelod-wladwriaeth arall neu i drydedd wlad;

  • ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd at ddibenion y Gorchymyn hwn gan Weinidogion Cymru neu gan awdurdod lleol;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) o ran ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

  • mae i “ceidwad” yr ystyr a roddir i “keeper” yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;

  • ystyr “cod adnabod” (“identification code”) yw'r cod a osodir ar fodd adnabod yn unol â'r gofynion o dan y Gorchymyn hwn neu o dan y Gorchmynion blaenorol;

  • ystyr “cofrestr” (“register”) yw'r gofrestr sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad y Cyngor;

  • ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC” (“Council Directive 92/102/EE ”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC yngl n ag adnabod a chofrestru anifeiliaid(3);

  • mae i “daliad” yr ystyr a roddir i “holding” yn Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor;

  • ystyr “dogfen symud” (“movement document”) yw'r ddogfen symud sy'n ofynnol gan Erthygl 6 o Reoliad y Cyngor;

  • ystyr “dull adnabod” (“method of identification”) yw tag clust, tag egwyd neu datŵa osodir mewn Aelod-wladwriaeth arall neu drydedd wlad;

  • ystyr “dyfais adnabod” (“identification device”) yw tag clust, tag clust electronig, tag egwyd, tag egwyd electronig neu folws;

  • ystyr “y Gorchmynion blaenorol” (“the previous Orders”) yw—

    (a)

    Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008(4);

    (b)

    Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2006(5);

    (c)

    Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Rhif 2) 2002(6);

    (ch)

    Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(7);

    (d)

    Rheoliadau Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002(8);

    (dd)

    Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2007(9);

    (e)

    Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Lloegr) 2005(10);

    (h)

    Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) (Rhif 2) 2002(11);

    (ff)

    Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Lloegr) 2002(12);

    (g)

    Gorchymyn Adnabod Defaid a Geifr (Lloegr) 2000(13);

    (ng)

    Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofrestru, Adnabod a Symud) (Gogledd Iwerddon) 2005(14);

    (h)

    Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 2004(15);

    (m)

    Gorchymyn Adnabod a Symud Defaid a Geifr (Gogledd Iwerddon) 1997(16);

    (n)

    Rheoliadau Defaid a Geifr (Adnabod a Gallu Olrhain) (Yr Alban) 2006(17);

    (l)

    Gorchymyn Symud Defaid a Geifr (Mesurau Dros Dro) (Yr Alban) 2002(18); neu

    (ll)

    Rheoliadau Adnabod Defaid a Geifr (Yr Alban) 2000(19);

  • ystyr “gweithredydd lladd-dy” (“slaughterhouse operator”) yw person sy'n rhedeg busnes lladd-dy neu gynrychiolydd i berson o'r fath a awdurdodwyd yn briodol;

  • ystyr “gweithredydd marchnad” (“market operator”) yw person sy'n gyfrifol am reoli derbyn neu werthu anifeiliaid mewn marchnad neu gynrychiolydd i berson o'r fath a awdurdodwyd yn briodol;

  • ystyr “marc adnabod” (“identification mark”) yw dull adnabod a osodwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall, modd adnabod neu fodd adnabod hŷn;

  • ystyr “modd adnabod” (“means of identification”) yw dyfais adnabod neu datŵ;

  • ystyr “nod diadell” (“flockmark”) yw'r Rhif a ddyrannwyd gan Weinidogion Cymru o ran diadell o ddefaid ar ddaliad;

  • ystyr “nod geifre” (“herdmark”) yw'r Rhif a ddyrannwyd gan Weinidogion Cymru o ran geifre o eifr ar ddaliad;

  • ystyr “pwynt cofnodi canolog” (“central point of recording”) yw daliad a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan Adran C.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor i gofnodi manylion adnabod anifeiliaid sy'n cyrraedd y daliad hwnnw;

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/200 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/4 2/EEC(20);

  • ystyr “Rhif unigryw” (“unique number”) yw Rhif sy'n unigryw i anifail mewn diadell neu eifre ac nad yw'n cynnwys mwy na 6 digid.

(2Mae i ymadroddion sydd heb eu diffinio ym mharagraff (1) ac y mae'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn cael eu defnyddio yn Rheoliad y Cyngor yr un ystr yn y Gorchymyn hwn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad hwnnw.

Awdurdod cymwys

3.  Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Rheoliad y Cyngor.

Awdurdodiadau

4.  Rhaid i unrhyw awdurdodiad neu gymeradwyaeth a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn neu o dan Reoliad y Cyngor fod mewn ysgrifen. Gallant fod yn ddarostyngedig i amodau a gellir eu diwygio, eu hatal neu eu dirymu trwy hysbysiad ar unrhyw adeg

RHAN 2Dyfeisiau adnabod

Cymeradwyo dyfeisiau adnabod

5.  Rhaid i ddyfeisiau adnabod a ddefnyddir i gydymffurfio â'r Gorchymyn hwn fod o fodel a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

Tagiau ychwanegol a dyfeisiau adnabod â gwybodaeth ychwanegol

6.—(1Ar gais ceidwad, caiff gweithgynhyrchydd dyfeisiau adnabod, yn ddarostyngedig i erthygl 6(2), ychwanegu gwybodaeth atodol at ddyfais adnabod neu ddyfais amnewid ar yr amod—

(a)bod yr wybodaeth atodol yn gwbl wahanol i'r cod adnabod; a

(b)bod y cod adnabod yn parhau'n ddarllenadwy ac y gellir ei weld yn eglur bob amser.

(2Caiff ceidwad osod tag ychwanegol ar anifail ond rhaid iddo beidio â chynnwys y llythrennau “UK” na dwyn nod diadell neu nod geifre, onid awdurdodir hynny gan Weinidogion Cymru.

Lliw dyfeisiau adnabod

7.—(1Rhaid i bob dyfais adnabod, heblaw dyfeisiau amnewid a bolysau, fod yn felyn ac ni chaiff ceidwad osod dyfais adnabod felyn nad yw'n electronig.

(2Ni chaiff neb osod dyfais adnabod goch ar unrhyw anifail, heblaw dyfais adnabod amnewid.

(3Pan fo ceidwad yn ailadnabod anifail ac nad yw'r anifail hwnnw ar ei ddaliad genedigol, neu pan nad yw'r ceidwad yn gwybod y daliad genedigol, rhaid iddo ddefnyddio dyfais adnabod amnewid goch ond nid yw'r gofyniad bod rhaid defnyddio dyfais adnabod goch yn gymwys i ddefnyddio bolysau.

(4Pan adnabyddir anifail drwy gyfrwng bolws ac ail ddyfais adnabod rhaid i'r ail ddyfais honno fod yn ddu a dim ond mewn cyfuniad â bolws y caniateir defnyddio dyfais adnabod ddu.

(5Rhaid i'r cymeriadau ar bob dyfais adnabod fod o liw gwahanol i gefndir y ddyfais a bod yn eglur i'w darllen bob adeg pan fo'r ddyfais wedi'i gosod ar anifail.

Dinistrio dyfeisiau adnabod

8.—(1Rhaid i weithredydd lladd-dy, iard nacer, cynel helfa neu safle rendro ac unrhyw berson arall sy'n cael gwared yn derfynol ar garcas anifail sydd wedi'i adnabod ddinistrio mewn modd diogel sy'n atal eu hailddefnyddio bob dyfais adnabod ar anifeiliaid y maent yn eu cigydda neu'n cael gwared arnynt mewn modd arall.

(2Mae dinistrio diogel yn cynnwys rendro unrhyw ddyfais adnabod.

RHAN 3Adnabod anifeiliaid

Adnabod anifeiliaid a anwyd ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2009

9.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i'r canlynol—

(a)defaid a anwyd ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2009;

(b)defaid a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009 na chawsant eu hadnabod cyn y dyddiad hwnnw ac sydd ar eu daliad genedigol ac y mae eu ceidwaid yn dewis eu hadnabod yn electronig;

(c)geifr a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009 na chawsant eu hadnabod cyn y dyddiad hwnnw ac sydd ar eu daliad genedigol ac y mae eu ceidwaid yn dewis eu hadnabod yn electronig; ac

(ch)geifr a anwyd ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2009 y mae eu ceidwaid yn dewis eu hadnabod yn electronig.

(2Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon oni bai bod y dull adnabod amgen a nodir yn erthygl 10 wedi'i awdurdodi.

(3At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw—

(a)9 mis o'r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir o dan amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu

(b)6 mis o'r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.

(4Ni chaniateir i anifail gael ei adnabod drwy ddefnyddio bolws mewn cyfuniad â thatŵ.

(5Rhaid i'r cod adnabod ar fodd adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn—

(a)y llythrennau “UK” neu, ar ddyfais adnabod electronig, y Rhif au “826”; a

(b)Rhif 12 digid a ragnodir gan Weinidogion Cymru;

a rhaid iddo fod yn union yr un fath ar y modd adnabod cyntaf ac ar yr ail fodd adnabod.

Adnabod anifeiliaid a anwyd ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2009 ac y bwriedir eu cigydda

10.—(1Ar gyfer anifeiliaid y bwriedir eu cigydda cyn 12 mis oed ac na fwriedir eu hallforio, awdurdodir y dull adnabod yn Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor.

(2Y cod adnabod sy'n orfodol at ddibenion Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor yw'r llythrennau “UK” ac wedyn nod y ddiadell neu nod yr eifre; ni chaniateir i unrhyw rif arall a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys gael ei gofnodi yn weledol ar y tag clust hwn.

(3Pan fwriedir cigydda ar ôl 12 mis oed neu allforio anifail a gafodd ei adnabod o dan baragraff (1) rhaid i'r anifail hwnnw gael ei adnabod yn unol ag erthygl 9 a rhaid tynnu'r tag clust gwreiddiol.

(4Caiff ceidwad ailadnabod o dan erthygl 9 anifail a gafodd ei adnabod o dan yr erthygl hon ac nid oes angen iddo gigydda'r anifail hwnnw cyn 12 mis oed ar yr amodau canlynol yn unig—

(a)os yw'r anifail ar ei ddaliad genedigol; neu

(b)os oes gan y ceidwad gofnod cyflawn o holl symudiadau'r anifail.

(5Pan ailadnabyddir anifail o dan baragraff (4)(b) rhaid i'r ceidwad groesgyfeirio'r hen god adnabod a'r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad.

(6Caiff ceidwad ailadnabod anifail a gafodd ei adnabod o dan baragraff (1) drwy ddefnyddio tag clust o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (2) sy'n cynnwys dynodiad electronig.

Adnabod anifeiliaid a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009 ac na chawsant eu hadnabod erbyn hynny

11.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i anifeiliaid a anwyd cyn y dyddiad hwn ond na chawsant eu hadnabod erbyn 31 Rhagfyr 2009 ac sydd dal ar eu daliad genedigol.

(2Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl (4)(1) (y paragraff cyntaf) ac Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon oni bai bod y dull adnabod amgen a nodir yn erthygl 12 wedi'i awdurdodi.

(3At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw—

(a)9 mis o'r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir o dan amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu

(b)6 mis o'r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.

(4Caiff dyfais adnabod a osodir fel y modd adnabod cyntaf neu'r ail fodd adnabod fod o unrhyw liw heblaw coch.

(5Rhaid i'r cod adnabod ar fodd adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn—

(a)Y llythrennau “UK”;

(b)Nod y ddiadell neu nod yr eifre y genir yr anifail iddi; ac

(c)Rhif unigryw.

Adnabod anifeiliaid a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009 a na chawsant eu hadnabod erbyn hynny ac y bwriedir eu cigydda

12.—(1Ar gyfer anifeiliaid a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009 ac y bwriedir eu cigydda cyn 12 mis oed ac na fwriedir eu hallforio, awdurdodir y dull adnabod yn Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fel dull amgen yn lle'r modd adnabod.

(2Rhaid i'r cod adnabod at ddibenion Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod yr un fath â'r hyn a nodir yn is-baragraff (a) i (c) o erthygl 11(5).

(3Rhaid i unrhyw anifail a gafodd ei adnabod â'r modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) (“y tag adnabod cyntaf ”) gael ei adnabod ag ail fodd adnabod yn unol â pharagraffau (4) i (6)—

(a)os na chaiff ei gigydda cyn 12 mis oed; neu

(b)os caiff ei draddodi i'w allforio.

(4Rhaid i'r ail fodd adnabod fod naill ai—

(a)yn dag adnabod ychwanegol neu, onid yw'n fwriad allforio'r anifail, yn datŵ, ac iddo'r un cod adnabod ag sydd ar y tag adnabod cyntaf; neu

(b)yn ddau dag adnabod ychwanegol neu, onid yw'n fwriad allforio'r anifail, yn dag adnabod a thatŵsy'n dwyn—

(i)y llythrennau “UK”;

(ii)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y gosodir y modd adnabod ychwanegol; a

(iii)Rhif unigryw.

(5Pan osodir dau fodd adnabod ychwanegol rhaid i'r ceidwad gofnodi gwybodaeth am ychwanegu'r modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod ychwanegol a'r llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod gwreiddiol yn y gofrestr onid yw'r anifail ar eu daliad genedigol.

(6Yn achos anifeiliaid a draddodir i'w hallforio rhaid i'r ceidwad osod yr ail fodd adnabod cyn i'r anifail adael y daliad gwreiddiol.

RHAN 4Tynnu neu amnewid modd adnabod anifeiliaid a gafodd eu hadnabod o dan Ran 3

Cymhwyso Rhan 4

13.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i bob anifail a gafodd ei adnabod o dan Ran 3.

Tynnu neu amnewid modd adnabod

14.—(1Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 4(6) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor na methu â chydymffurfio â hi.

(2Ond rhaid i geidwad amnewid modd adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy, yn unol ag erthyglau 15 neu 16 yn ôl gofynion yr achos, cyn gynted â phosibl ar ôl gweld bod y modd adnabod gwreiddiol ar goll neu'n annarllenadwy, ond beth bynnag—

(a)dim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl gweld ei fod ar goll neu'n annarllenadwy, a

(b)cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.

(3Pan amnewidir marc adnabod â marc adnabod sy'n dwyn cod adnabod gwahanol a bod yr hen god adnabod yn hysbys rhaid i'r ceidwad groesgyfeirio'r hen god adnabod a'r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad onis yw'r anifail ar eu daliad genedigol a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009.

(4Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir o dramgwydd o fynd yn groes i baragraffau (1) neu (2) neu o fethu â chydymffurfio â hwy brofi —

(a)bod y modd adnabod wedi'i dynnu i atal poen neu ddioddefaint diangen i anifail; a

(b)bod modd adnabod amnewid sy'n dwyn yr un cod adnabod wedi'i osod ar yr anifail cyn gynted ag y gellid.

Amnewid modd adnabod anifeiliaid a gafodd eu hadnabod yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11.

15.—(1Pan fo anifail a gafodd ei adnabod yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11 yn colli un modd adnabod, neu pan fo'r modd adnabod hwnnw'n annarllenadwy, mae'r modd adnabod yn cael ei amnewid yn unol â'r erthygl hon os yw'n cael ei amnewid ag un sy'n dwyn yr un Rhif 12 digid neu os tynnir y ddyfais adnabod sydd ar ôl a bod yr anifail yn cael ei ailadnabod yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11.

(2Pan fo anifail a gafodd ei adnabod yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11 yn colli'r ddau fodd adnabod, neu pan fo'r ddau fodd adnabod yn annarllenadwy mae'n cael ei ailadnabod yn unol â'r erthygl hon os yw'n cael ei ailadnabod yn unol ag erthygl 9 neu erthygl 11.

Amnewid modd adnabod a gollwyd neu sy'n annarllenadwy ar gyfer anifeiliaid a gafodd eu hadnabod yn unol ag erthygl 10 neu erthygl 12.

16.—(1Pan fo anifail a gafodd ei adnabod yn unol ag erthygl 10 neu erthygl 12 yn colli ei dag clust neu pan fo'r tag clust hwnnw'n annarllenadwy a'i fod ar ei ddaliad genedigol mae'n cael ei ailadnabod yn unol â'r erthygl hon os caiff y tag clust ei amnewid â thag clust sy'n dwyn yr un nod diadell neu'r un nod geifre.

(2Pan fo anifail a gafodd ei adnabod yn unol ag erthygl 10 neu erthygl 12 yn colli ei dag clust neu pan fo'r tag clust hwnnw'n annarllenadwy ac nad yw ar ei ddaliad genedigol, neu os nad yw'r ceidwad yn gwybod a yw ar ei ddaliad genedigol, mae'n cael ei ailadnabod yn unol â'r erthygl hon os caiff y tag clust ei amnewid â thag clust coch sy'n dwyn nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y daliad y mae'r anifail arno bellach.

RHAN 5Adnabod geifr a anwyd ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2009

Adnabod geifr

17.—(1Pan fo gafr ar ei daliad genedigol ac na chafodd ei hadnabod cyn 31 Rhagfyr 2009 rhaid i'r ceidwad, os nad yw wedi'i hadnabod yn unol â Rhan 3, ei hadnabod o fewn y terfynau amser a bennir yn Erthygl 9(3), â naill ai—

(a)dau dag clust;

(b)tag clust a thag egwyd; neu

(c)tag clust a thatŵ.

(2Rhaid i'r cod adnabod ar fodd adnabod fod fel a ganlyn—

(a)y llythrennau “UK”; a

(b)Rhif 12 digid yn unol â chynllun Rhif o a ragnodir gan Weinidogion Cymru;

a rhaid iddo fod yn union yr un fath ar y modd adnabod cyntaf a'r ail fodd adnabod.

Ailadnabod geifr

18.  Caniateir i eifr a gafodd eu hadnabod yn unol ag erthygl 17 gael eu hailadnabod yn unol ag erthygl 9.

RHAN 6Tynnu neu amnewid marciau adnabod ar anifeiliaid a gafodd eu hadnabod cyn 31 Rhagfyr 2009

Cymhwyso Rhan 6

19.  Mae'r Rhan hon yn gymwys i bob anifail a gafodd ei adnabod cyn 31 Rhagfyr 2009 ac i eifr a gafodd eu hadnabod yn unol ag erthygl 17.

Tynnu neu amnewid marciau adnabod

20.—(1Ni chaiff neb fynd yn groes i Erthygl 4(6) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor na methu â chydymffurfio â hi.

(2Ond rhaid i geidwad amnewid marc adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy, yn unol ag erthygl 21, erthygl 22 neu erthygl 23 (pa erthygl bynnag sy'n gymwys) cyn gynted â phosibl ar ôl gweld bod y marc adnabod gwreiddiol ar goll neu'n annarllenadwy, ond beth bynnag—

(a)dim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl gweld ei fod ar goll neu'n annarllenadwy, a

(b)cyn i'r anifail gael ei symud o'r daliad.

(3Pan amnewidir marc adnabod â marc adnabod sy'n dwyn cod adnabod gwahanol ac nad yw'r anifail ar ei ddaliad genedigol a bod yr hen god adnabod yn hysbys rhaid i'r ceidwad groesgyfeirio'r hen god adnabod a'r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad.

(4Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson a gyhuddir o dramgwydd o fynd yn groes i baragraffau (1) neu (2) neu o fethu â chydymffurfio â hwy brofi —

(a)bod y marc adnabod wedi'i dynnu i atal poen neu ddioddefaint diangen i anifail; a

(b)bod modd adnabod amnewid yn dwyn yr un cod adnabod wedi'i osod ar yr anifal cyn gynted ag y gellid.

(5Caiff ceidwad dynnu marciau adnabod ac ailadnabod anifail yn unol ag erthygl 9 ar unrhyw adeg.

Amnewid marc adnabod sengl ar anifail sydd â dau dag

21.  Mae anifail yn cael ei ailadnabod yn unol â'r erthygl hon os amnewidir y modd adnabod sydd ar goll neu sy'n annarllenadwy—

(a)â modd adnabod sy'n dwyn yr un Rhif unigryw â'r modd adnabod sydd ar goll neu sy'n annarllenadwy;

(b)â dau fodd adnabod anelectronig, ill dau'n dwyn yr un Rhif ; neu

(c)â'r modd adnabod a bennir yn Erthyglau 4(1) (y paragraff cyntaf), 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

Amnewid marc adnabod sengl ar anifail sydd ag un tag

22.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo'r modd adnabod neu'r modd adnabod hŷn ar anifail sydd â ffurf adnabod sengl ar goll neu'n annarllenadwy.

(2Yn yr erthygl hon ystyr “anifail â ffurf adnabod sengl” yw anifail a gafodd ei adnabod ag un modd adnabod h n yn unig a hwnnw'n cynnwys Rhif unigryw a osodwyd o dan y Gorchmynion blaenorol.

(3Os bydd ceidwad yn amnewid tag sydd ar goll neu'n annarllenadwy ar anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005 rhaid i fodd adnabod newydd neu fodd adnabod amnewid fod yn dag adnabod ac nid yn datŵ.

(4Os yw'r anifail ar ei ddaliad genedigol rhaid i'r ceidwad amnewid y modd adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy—

(a)â modd adnabod sy'n dwyn yr un Rhif unigryw â'r modd adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy;

(b)â modd adnabod newydd;

(c)â dau fodd adnabod anelectronig, ill dau'n dwyn yr un Rhif ; neu

(ch)â'r modd adnabod a bennir yn Erthyglau 4(1) (y paragraff cyntaf), 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

(5Os nad yw'r anifail ar ei ddaliad genedigol, caiff y ceidwad amnewid y modd adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy—

(a)â modd adnabod sy'n dwyn yr un Rhif unigryw â'r modd adnabod sydd ar goll neu'n annarllenadwy;

(b)â modd adnabod amnewid;

(c)â dau fodd adnabod anelectronig, ill dau'n dwyn yr un Rhif ; neu

(ch)â'r modd adnabod a bennir yn Erthyglau 4(1) (y paragraff cyntaf), 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

(6Os caiff anifail ei ailadnabod â'r modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (5)(b) i (ch) uchod rhaid i'r ceidwad gofnodi gwybodaeth am y modd amnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd amnewid a chofnodi'r llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod gwreiddiol, os ydynt yn hysbys, yng nghofrestr y daliad.

Ailadnabod anifeiliaid a gafodd eu hadnabod o dan Orchmynion blaenarol â marc adnabod nad yw'n cynnwys Rhif unigryw.

23.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i anifeiliaid a gafodd eu hadnabod o dan Orchmynion blaenarol â marc adnabod nad yw'n cynnwys Rhif unigryw.

(2Os bydd—

(a)y marc adnabod yn mynd ar goll neu'n annarllenadwy; neu

(b)yr anifail yn cael ei symud o ddaliad

rhaid i'r anifail gael ei ailadnabod yn unol â pharagraffau (3) neu (4).

(3Os yw'r anifail ar ei ddaliad genedigol rhaid i'r ceidwad ailadnabod yr anifail—

(a)â modd adnabod newydd;

(b)â dau fodd adnabod anelectronig, ill dau'n dwyn yr un Rhif ; neu

(c)â'r modd adnabod a bennir yn Erthyglau 4(1) (y paragraff cyntaf), 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

(4Os nad yw'r anifail ar ei ddaliad genedigol rhaid i'r ceidwad ailadnabod yr anifail—

(a)â modd adnabod newydd;

(b)â dau fodd adnabod anelectronig, ill dau'n dwyn yr un Rhif ; neu

(c)â'r modd adnabod a bennir yn Erthyglau 4(1) (y paragraff cyntaf), 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

(5Os caiff anifail ei ailadnabod â'r modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (4) uchod rhaid i'r ceidwad gofnodi gwybodaeth am y modd amnewid gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd amnewid a chofnodi'r llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod gwreiddiol, os ydynt yn hysbys, yng nghofrestr y daliad.

(6Os caiff anifail ei ailadnabod yn unol â pharagraffau (3) neu (4) rhaid i'r cod adnabod ar fodd adnabod newydd fod fel a ganlyn—

(a)y llythrennau “UK”; a

(b)Rhif 12 digid yn unol â chynllun Rhif o a ragnodir gan Weinidogion Cymru;

RHAN 7Cofrestri daliadau

Cofrestr y daliad

24.—(1Mae'n dramgwydd i geidwad, heblaw cludwr, fethu â chydymffurfio ag Erthygl 5(1), (3) a (5) o Reoliad y Cyngor.

(2Pan gaiff anifail ei symud i'w ddaliad neu ohono, rhaid i'r ceidwad gofnodi—

(a)yr wybodaeth sy'n ofynnol gan Adran B o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor; a

(b)nifer yr anifeiliaid a symudwyd.

(3Rhaid i'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) o ran anifeiliaid a symudir i ddaliad gael ei chofnodi gan y ceidwad drwy ei chofnodi yn y gofrestr ond caniateir i god adnabod unigol pob anifail, fel dewis arall, gael ei gofnodi drwy gadw copi deublyg neu gopi ardystiedig o'r dogfennau symud yn nhrefn eu dyddiadau a chroesgyfeirio'r rheiny â'r cofnodion symud perthnasol yng nghofrestr y daliad.

(4Rhaid i'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) o ran anifeiliaid a symudir o ddaliad gael ei chofnodi gan y ceidwad drwy naill ai—

(a)ei chofnodi yn y gofrestr; neu

(b)cadw copi deublyg neu gopi ardystiedig o'r ddogfen symud a chadw'r copi deublyg neu'r copi ardystiedig hwnnw gyda'r gofrestr yn eu trefn gronolegol gydag unrhyw ddogfennau symud eraill a gedwir.

(5Mae'n dramgwydd cadw'r gofrestr ar ffurf heblaw'r ffurf a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru.

(6Rhaid i'r ceidwad lenwi'r gofrestr—

(a)yn achos symud anifail i ddaliad neu ohono heblaw drwy bwynt cofnodi canolog, o fewn 36 awr ar ôl ei symud;

(b)yn achos symud anifail i ddaliad neu ohono drwy bwynt cofnodi canolog, o fewn 48 awr ar ôl ei symud;

(c)yn achos amnewid marc adnabod, o fewn 36 awr ar ôl ei amnewid;

(ch)yn achos cod adnabod anifail, blwyddyn ei eni, dyddiad ei adnabod, ei hil ac, os yw'n hysbys, ei genoteip, o fewn 36 awr ar ôl ei adnabod;

(d)yn achos marwolaeth anifail, o fewn 36 awr ar ôl darganfyddiad ei farwolaeth.

(7Os yw'r ceidwad yn symud ei anifeiliaid i ddaliad arall ond ei fod yn parhau yn geidwad iddynt, nid oes rhaid i'r ceidwad gadw'r gofrestr ar y daliad hwnnw ond rhaid iddo allu ei dangos o fewn amser rhesymol i Weinidogion Cymru pan ofynnir amdani.

(8At ddibenion Erthygl 5(3) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod y mae'n rhaid sicrhau bod y gofrestr, gan gynnwys y copïau deublyg neu'r copïau ardystiedig o'r dogfennau symud os ydynt yn cael eu cadw yn unol â pharagraff (4)(b) ar gael yw 3 blynedd o'r dyddiad olaf y bydd anifail y cyfeirir ato yn y ddogfen yn marw neu'n ymadael â'r daliad.

(9Pan ailadnabyddir anifail rhaid i'r ceidwad gofnodi dyddiad ei ailadnabod yn y gofrestr.

RHAN 8Dogfennau symud

Dogfen symud

25.—(1Mae'n dramgwydd i geidwad fethu â chydymffurfio ag Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor a llenwi'r ddogfen symud ar ffurf a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ac eithrio y caniateir i fanylion adnabod yr anifeiliaid a symudir gael eu cofnodi yn y daliad a gyrchir os yw'r daliad hwnnw'n bwynt cofnodi canolog ac os yw'r anifeiliaid yn cael eu cludo yn unol ag Adran C, pwynt 2(a) o'r Atodiad.

(2Mae'n dramgwydd i geidwad yn y daliad a gyrchir fethu â chydymffurfio ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor a methu â chadw'r dogfennau symud yn eu trefn gronolegol.

(3At ddibenion Erthygl 6(3) y cyfnod lleiaf y mae'n rhaid i'r ceidwad ar y daliad hwnnw gadw'r ddogfen symud yw 3 blynedd o ddyddiad symud anifail i'w ddaliad.

Cyflenwi dogfen symud

26.—(1Yn achos anifail a symudir i ddaliad arall—

(a)ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad arall hwnnw, rhaid i'r cludwr roi'r ddogfen symud i'r ceidwad yn y daliad hwnnw; a

(b)rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad.

(2Yn achos anifail a symudwyd o ddaliad i borthladd ac y bwriedir ei draddodi y tu allan i Brydain Fawr, rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn diwrnod ar ôl i'r anifail ymadael â'r daliad.

RHAN 9Cronfa ddata ganolog

Stocrestr o anifeiliaid

27.—(1At ddibenion Erthygl 7(2) o Reoliad y Cyngor, rhaid i geidwad sy'n cadw anifeiliaid yn barhaol wneud stocrestr o nifer yr anifeiliaid ar ei ddaliad ar 1 Ionawr bob blwyddyn.

(2Mae'n dramgwydd i geidwad fethu â darparu canlyniad y stocrestr flynyddol i Weinidogion Cymru erbyn 1 Chwefror bob blwyddyn.

Cyflenwi gwybodaeth

28.—(1 Ar ôl cael hysbysiad o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Cyngor fod person wedi dod yn geidwad daliad, rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i baragraff (2), ddyrannu nod diadell mewn perthynas â phob diadell o ddefaid ar y daliad a nod geifre mewn perthynas â phob geifre o eifr ar y daliad.

(2Os lladd-dy neu farchnad yw'r daliad, dim ond os ydynt o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ddyrannu nod diadell neu nod geifre.

(3Rhaid i'r ceidwad hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen am unrhyw newid yn yr wybodaeth a bennir yn Erthygl 8(2)(a) o Reoliad y Cyngor o fewn 30 diwrnod ar ôl newid o'r fath.

RHAN 10Marchnadoedd

Marchnadoedd

29.—(1Rhaid i weithredydd marchnad sicrhau bod yr holl anifeiliaid yn cael eu rhannu'n lotiau o un neu fwy o anifeiliaid yn union ar ôl iddynt gyrraedd y farchnad a bod Rhif lot yn cael ei ddyrannu i bob lot.

(2Ni chaiff neb brynu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn prynu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot y mae'r anifail yn perthyn iddo ac yn symud y lot gyfan o'r farchnad i'r un daliad.

(3Ni chaiff neb werthu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn gwerthu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot i'r un prynwr.

(4Ni chaiff gweithredydd marchnad dderbyn anifail i farchnad oni bai—

(a)ei fod wedi'i adnabod yn unol â'r Gorchymyn hwn; a

(b)bod dogfen symud yn cyd-fynd â'r anifail a honno wedi'i llenwi yn unol â Rhan 8.

(5Ond caniateir i weithredydd marchnad dderbyn anifail i farchnad sydd heb ei adnabod yn unol â'r Gorchymyn hwn gyda chymeradwyaeth yr awdurdod lleol.

Amnewid marciau adnabod a gollwyd mewn marchnadoedd

30.—(1Nid yw gofynion y Gorchymyn hwn I gyfnewid adnabod yn gymwys i weithredydd marchnad neu weithredydd lladd-dy.

(2Os bydd marc adnabod yn cael ei dynnu neu ei golli neu os sylwir ei fod yn annarllenadwy tra bydd anifail mewn marchnad, rhaid i'r ceidwad a fydd yn prynu'r anifail yn y farchnad osod marc adnabod amnewid yn unol â'r Gorchymyn hwn.

Cynlluniau wrth gefn ar gyfer methiant pŵer ac offer

31.—(1Caiff awdurdodau lleol esemptio gweithredwyr marchnadoedd, canolfannau casglu a lladd-dai rhag yr angen i gofnodi'r canlynol—

(a)Rhif unigryw anifail ar ddogfen symud;

(b)Rhif unigryw anifail yng nghofrestr daliad; neu

(c)Rhif au'r anifeiliaid mewn unrhyw lwyth sy'n dwyn nod diadell neu nod geifre penodol,

os oes cynllun wrth gefn wedi'i gytuno rhwng yr awdurdod lleol a'r gweithredydd marchnad neu'r gweithredydd lladd-dy.

(2Caiff awdurdod lleol dynnu unrhyw esemptiad o'r fath yn ôl os nad yw'n fodlon mwyach ar delerau'r cynllun wrth gefn neu sut y mae'n cael ei roi ar waith.

(3Rhaid i gynllun wrth gefn y cytunir arno o dan baragraff (1) nodi'r amodau y mae'n rhaid i'r gweithredydd marchnad neu'r gweithredydd lladd-dy eu bodloni ac o dan ba amgylchiadau y bydd yr esemptiadau ym mharagraff (1) yn gymwys, cyhyd ag y bodlonir yr amodau hynny.

(4Rhaid i weithredydd marchnad neu weithredydd lladd-dy ofyn am gydsyniad yr awdurdod lleol cyn gynted â phosibl bob tro y bydd yn dymuno defnyddio'r esemptiadau ym mharagraff (1) a rhaid iddo roi'r gorau i dderbyn anifeiliaid heb gofnodi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) os gwrthodir y cydsyniad hwnnw.

(5At ddibenion yr erthygl hon ystyr “canolfan gasglu” yw unrhyw ddaliad lle y bydd defaid neu eifr sy'n tarddu o ddaliadau gwahanol yn cael eu grwpio gyda'i gilydd i ffurfio llwythi o anifeiliaid y bwriedir eu hallforio neu a ddefnyddir wrth allforio.

RHAN 11Anifeiliaid y deuir a hwy i Gymru

Derbyn anifeiliaid o Aelod-wladwriaeth arall

32.—(1Ni chaiff neb dderbyn anifail o Aelod-wladwriaeth arall oni bai ei fod wedi'i adnabod yn unol â'r canlynol—

(a)Rheoliad y Cyngor, yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005; neu

(b)Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005.

(2Mae'n dramgwydd tynnu neu amnewid dull adnabod gwreiddiol anifail sy'n tarddu o Aelod-wladwriaeth arall yn groes i Erthygl 4(5) o Reoliad y Cyngor.

Derbyn anifeiliaid o Loegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Diriogaethau Dibynnol y Goron

33.  Ni chaiff neb dderbyn anifail o Loegr, yr Alban. Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw oni bai bod yr anifail wedi'i adnabod a bod dogfen symud yn cyd-fynd ag ef yn unol â'r canl ynol—

(a)yn achos anifail a anwyd ar ôl 9 Gorffennaf 2005, Rheoliad y Cyngor, gan gynnwys unrhyw randdirymiad a arferwyd o dan Reoliad y Cyngor; neu

(b)yn achos anifail o Loegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005 y Gorchmynion blaenorol ac unrhyw ofynion ychwanegol a osodwyd mewn deddfwriaeth sy'n gorfodi Rheoliad y Cyngor mewn perthynas â'r anifeiliaid hynny; neu

(c)yn achos anifeiliaid o Diriogaethau Dibynnol y Goron a anwyd ar neu cyn 9 Gorffennaf 2005 Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC.

Adnabod anifeiliaid a fewnforir o drydydd gwledydd

34.—(1Mae'n dramgwydd i geidwad fethu â chydymffurfio ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon.

(2At ddibenion Erthygl 4(4) (y paragraff cyntaf) o Reoliad y Cyngor, y cyfnod ar gyfer adnabod anifail yw 14 diwrnod.

(3Rhaid i fodd adnabod anifeiliaid a fewnforir o drydedd wlad fod yr un fath â'r hyn a nodir yn Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor a'r cod adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad yw—

(a)y llythrennau “UK”;

(b)Rhif 12 digid yn unol â chynllun Rhif o a ragnodir gan Weinidogion Cymru.

(4Pan gaiff anifail ei fewnforio o drydedd wlad a'i ailadnabod yn unol â'r erthygl hon, rhaid i'r ceidwad gofnodi gwybodaeth am ychwanegu'r modd adnabod newydd yn y gofrestr ynghyd â'r cod adnabod llawn ar y modd adnabod newydd a'r cod adnabod llawn ar y dull adnabod a osodwyd yn y drydedd wlad.

Colli dulliau adnabod a osodwyd mewn trydedd wlad

35.  Pan gaiff anifail ei fewnforio o drydedd wlad a'i ailadnabod yn unol ag Erthygl 4(4) o Reoliad y Cyngor, nid yw'n ofynnol i'r ceidwad amnewid dull adnabod a osodwyd yn y drydedd wlad os bydd hwnnw wedyn yn cael ei golli neu'n mynd yn annarllenadwy.

RHAN 12Amrywiol

Adnabod a chofnodi anifeiliaid i'w hallforio

36.—(1Rhaid i geidwad adnabod pob anifail a draddodir i'w allforio yn unol ag Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

(2Pan fydd anifail a gafodd eu hadnabod cyn 31 Rhagfyr 2009 yn cael ei draddodi i'w allforio rhaid i'r ceidwad gofnodi ei fanylion adnabod unigol yng nghofrestr y daliad ac ni chaiff allforio'r anifail hwnnw tan 30 diwrnod ar ôl i'w fanylion adnabod gael eu cofnodi.

Amddiffyniad ynghylch symud ar gyfer triniaeth filfeddygol frys

37.  Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson sydd wedi'i gyhuddo o dramgwydd o fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn sy'n ymwneud â symud anifail o ddaliad heb osod neu roi arno y modd adnabod sy'n ofynnol neu o beidio â chydymffurfio â hi brofi bod yr anifail wedi'i symud o'r daliad er mwyn cael triniaeth filfeddygol frys.

Pwerau arolygwyr

38.—(1Caiff arolygydd, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud â gorfodi'r Gorchymyn hwn—

(a)casglu, corlannu a marcio unrhyw anifail a'i gwneud yn ofynnol i geidwad drefnu casglu, corlannu, marcio a diogelu unrhyw anifail;

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad ddangos neu gopïo unrhyw ddogfen neu gofnod;

(c)symud a chadw unrhyw ddogfen neu gofnod;

(ch)cael mynediad at, a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â chofnodion;

(d)os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnod gael ei ddangos ar ffurf y gellir mynd â hi ymaith;

(dd)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddyfei si au adnabod sydd heb eu defnyddio gael eu dangos, a chofnodi eu Rhif au;

(e)mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef sy'n gweithredu at ddibenion Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu fynd ag unrhyw bobl neu bethau gydag ef y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol.

(2Rhaid i berson y mae arolygydd sy'n gweithredu o dan baragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud unrhyw beth wneud hynny'n ddi-oed, oni bai bod ganddo achos rhesymol a mater i'r person hwnnw yw profi unrhyw achos rhesymol o'r fath.

Pŵer i wahardd symud anifeiliaid

39.—(1Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud defaid i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os yw wedi'i fodloni bod y gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn i'r Gorchymyn hwn gael ei orfodi'n iawn o ran y ddiadell honno.

(2Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud geifr i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os yw wedi'i fodloni bod y gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn i'r Gorchymyn hwn gael ei orfodi'n iawn o ran yr eifre honno.

(3Caniateir i hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon gael ei ddiwygio neu ei ddirymu drwy hysbysiad ychwanegol ar unrhyw adeg.

Gwybodaeth ffug

40.  Ni chaiff neb roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol i berson sy'n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn.

Addasu marciau adnabod

41.  Ni chaiff neb addasu, dileu neu ddifwyno'r wybodaeth ar unrhyw farc adnabod sydd wedi'i osod ar anifail o dan y canlynol—

(a)Rheoliad y Cyngor;

(b)y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth sy'n rhoi ei effaith i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

(c)y Gorchmynion blaenorol; neu

(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a farciwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall yn unol â'r Gyfarwyddeb honno.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

42.—(1Os dangosir bod tramgwydd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—

(a)wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,

bydd y swyddog yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys o ran gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr i'r corff.

(3Ystyr “swyddog”, o ran corff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath.

Tramgwyddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig

43.—(1Caniateir i achos am dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn yr honnir ei fod wedi'i gyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn enw'r bartneriaeth neu'r gymdeithas.

(2At ddibenion achosion o'r fath—

(a)mae rheolau llys yngl n â chyflwyno dogfennau i fod i gael effaith fel pe bai'r bartneriaeth neu'r gymdeithas yn gorff corfforaethol;

(b)mae adran o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(21) ac Atodlen i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(22) yn gymwys o ran y bartneriaeth neu'r gymdeithas fel y maent yn gymwys o ran corff corfforaethol.

(3Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas o'i chollfarnu am dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn i'w thalu o gronfeydd y bartneriaeth neu'r gymdeithas.

(4Os profir bod tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan bartneriaeth wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae'r partner hwnnw (yn ogystal â'r bartneriaeth) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

  • At y dibenion hyn, mae “partner” yn cynnwys person sy'n honni ei fod yn gweithredu fel partner.

(5Os profir bod tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r gymdeithas, neu y gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog, mae'r swyddog hwnnw (yn ogystal â'r gymdeithas) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

  • At y dibenion hyn, ystyr “swyddog” yw swyddog i'r gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath.

Gorfodi

44.—(1Yr awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag unrhyw achos penodol, fod rhaid i ddyletswydd orfodi a osodwyd ar awdurdod lleol gan y Gorchymyn hwn gael ei chyflawni gan Weinidogion Cymru ac nid gan yr awdurdod lleol.

Dirymu

45.  Mae Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008(23) wedi'i ddirymu.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwleidig, un o Weinidogion Cymru

18 Rhagfyr 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweinyddu a gorfodi yng Nghymru Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 21/2004 (sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru defaid a geifr ac sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1782/2003 a Chyfarwyddebau 92/102/EEC a 64/432/EEC). Mae'n dirymu ac yn disodli Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008, O.S. 2008/130 (Cy.17).

Mae Rhan 2 yn darparu bod rhaid i'r dyfeisiau adnabod sy'n cael eu defnyddio er mwyn cydymffurfio â'r Gorchymyn hwn fod o fath sydd wedi'i gymeradwyo gan Weinidogion Cymru ac yn nodi rhai darpariaethau cyffredinol o ran gosod dyfeisiau adnabod.

Mae Rhan 3 o'r Gorchymyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddau fodd adnabod, gan gynnwys un ddyfais electronig, gael eu gosod ar anifail sy'n cael ei adnabod neu ei fewnforio ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2009. Mae'n caniatáu adnabod drwy ddau fodd adnabod anelectronig yn achos anifeiliaid a anwyd cyn 1 Rhagfyr 2009 ond sydd heb eu hadnabod erbyn y dyddiad hwnnw. Mae'n darparu ar gyfer adnabod anifeiliaid na fwriedir eu hallforio ac y bwriedir eu cigydda o fewn 12 mis ar ôl cael eu geni ag un tag adnabod (erthyglau 10 a 12).

Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaethau ar gyfer tynnu neu amnewid marciau adnabod ar anifeiliaid a gafodd eu hadnabod o dan Ran 3.

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaethau ar gyfer adnabod geifr sydd heb eu hadnabod o dan Ran 3.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaethau ar gyfer amnewid marciau adnabod ar anifeiliaid a gafodd eu hadnabod cyn 31 Rhagfyr 2009 ac ar eifr.

Mae Rhan 7 yn gwneud darpariaeth i bob ceidwad gadw cofrestr gyfoes ar gyfer y daliad, gan nodi'r wybodaeth y mae'n rhaid iddi gael ei chofnodi yn y gofrestr a pha bryd.

Mae Rhan 8 yn gwneud darpariaeth i ddogfen adnabod gyd-fynd â phob anifail wrth iddo symud rhwng daliadau (erthygl 25) gan bennu pa bryd y mae'n rhaid cyflenwi'r ddogfen ac i bwy (erthygl 26).

Mae Rhan 9 yn nodi'r gofyniad bod rhaid i geidwaid gadw stocrestr flynyddol (erthygl 27) a rhoi gwybodaeth i Weinidogion Cymru ynghylch eu daliad (erthygl 28) a'r terfynau amser ar gyfer gwneud hynny.

Mae Rhan 10 yn darparu ar gyfer dyrannu Rhif au lot i anifeiliaid mewn marchnad ac yn gwahardd gwerthu neu brynu anifeiliaid oni bai bod yr holl anifeiliaid o lot yn cael eu gwerthu neu eu prynu (erthygl 29). Mae'n esemptio marchnadoedd o'r angen i ailadnabod anifeiliaid sydd a'u nodau adnabod yn eisiau (erthygl 30) ac yn darparu ar gyfer cytuno ar drefniadau i ganiatáu i farchnadoedd barhau i weithredu os bydd y pŵer neu'r offer yn methu (erthygl 31).

Mae Rhan 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y gofynion yngl n ag adnabod anifeiliaid y deuir â hwy i Gymru o Aelod-wladwriaethau eraill, rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, Tiriogaethau Dibynnol y Goron a thrydydd gwledydd (erthyglau 32 a 33).

Mae Rhan 12 yn cynnwys darpariaethau amrywiol a darpariaethau gorfodi gan gynnwys y gofynion ynghylch anifeiliaid sydd i'w hallforio. Mae erthygl 37 yn nodi amddiffyniad ar gyfer methu ag adnabod anifail yn gywir yn achos triniaeth filfeddygol frys. Mae erthygl 38 yn rhoi amryw o bwerau i arolygwyr ac mae erthygl 39 yn galluogi arolygwyr i wahardd symud diadell o ddefaid neu eifre o eifr i ddaliad neu ohono. Mae erthyglau 40 a 41 yn ymwneud â rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol ac addasu marciau adnabod. Mae erthygl 42 yn ymwneud â thramgwyddau gan gyrff corfforaethol ac mae erthygl 43 yn ymwneud â thramgwyddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig. Yr awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Gorchymyn, neu Weinidogion Cymru os cyfarwyddir hynny (erthygl 44).

Mae torri'r Gorchymyn yn dramgwydd o dan adran 73 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981, sef tramgwydd y gellir ei gosbi yn unol ag adran 75 o'r Ddeddf honno.

Ni luniwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn.

(1)

1981 p. 22 y mae iddi ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(2)

Gweler adran 86(1) i gael diffiniad o “the Ministers”. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd O.S. 1999/672 ac O.S. 2004/3044. Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 11 iddi.

(3)

OJ Rhif L355, 5.12.92, t.32 a ddiddymwyd gan Gyfarwyddeb 2008/71/EC. Bydd anifeiliaid hŷn yn dal yn cael eu hadnabod yn unol â'r gorchymyn hwn.

(10)

O.S. 2005/3100, a ddiwygiwyd gan O.S. 2006/2987.

(12)

O.S. 2002/240, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/764 ac 2002/1349.

(13)

O.S. 2000/2027, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/281.

(18)

O.S.A. 2002/38, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/221.

(20)

OJ Rhif L 5, 9.1.04, t 8 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(21)

1925 p. 86. Diddymwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 33 gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55), adran 132 ac Atodlen 6; diwygiwyd is-adran (3) gan Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23), adran 56(1) ac Atodlen 8, rhan II, paragraff 19; diwygiwyd is-adran (4) gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39), adran 109(1) a (3), Atodlen 8, paragraff 71 ac Atodlen 10, a chan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), adran 154 ac Atodlen 7, paragraff 5; diddymwyd is-adran (5) gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952, adran 132, Atodlen 6.

(22)

1980 p. 43. Diwygiwyd is-baragraff 2(a) gan Ddeddf Gweithdrefnau ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 (p. 25), adran 47, Atodlen 1, paragraff 13, a'i ddiddymu gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44), adrannau 41 a 332, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1), (13)(a) ac Atodlen 37, rhan 4 (i fod yn effeithiol o ddyddiad sydd i'w benodi); diddymwyd paragraff 5 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53), adrannau 25(2) a 101(2) ac Atodlen 13; diwygiwyd paragraff 6 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 41, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1) a (13)(b) (i fod yn effeithiol o ddyddiad sydd i'w benodi).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources