- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
29.—(1) Rhaid i weithredydd marchnad sicrhau bod yr holl anifeiliaid yn cael eu rhannu'n lotiau o un neu fwy o anifeiliaid yn union ar ôl iddynt gyrraedd y farchnad a bod Rhif lot yn cael ei ddyrannu i bob lot.
(2) Ni chaiff neb brynu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn prynu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot y mae'r anifail yn perthyn iddo ac yn symud y lot gyfan o'r farchnad i'r un daliad.
(3) Ni chaiff neb werthu anifail mewn marchnad oni bai ei fod yn gwerthu'r holl anifeiliaid eraill yn y lot i'r un prynwr.
(4) Ni chaiff gweithredydd marchnad dderbyn anifail i farchnad oni bai—
(a)ei fod wedi'i adnabod yn unol â'r Gorchymyn hwn; a
(b)bod dogfen symud yn cyd-fynd â'r anifail a honno wedi'i llenwi yn unol â Rhan 8.
(5) Ond caniateir i weithredydd marchnad dderbyn anifail i farchnad sydd heb ei adnabod yn unol â'r Gorchymyn hwn gyda chymeradwyaeth yr awdurdod lleol.
30.—(1) Nid yw gofynion y Gorchymyn hwn I gyfnewid adnabod yn gymwys i weithredydd marchnad neu weithredydd lladd-dy.
(2) Os bydd marc adnabod yn cael ei dynnu neu ei golli neu os sylwir ei fod yn annarllenadwy tra bydd anifail mewn marchnad, rhaid i'r ceidwad a fydd yn prynu'r anifail yn y farchnad osod marc adnabod amnewid yn unol â'r Gorchymyn hwn.
31.—(1) Caiff awdurdodau lleol esemptio gweithredwyr marchnadoedd, canolfannau casglu a lladd-dai rhag yr angen i gofnodi'r canlynol—
(a)Rhif unigryw anifail ar ddogfen symud;
(b)Rhif unigryw anifail yng nghofrestr daliad; neu
(c)Rhif au'r anifeiliaid mewn unrhyw lwyth sy'n dwyn nod diadell neu nod geifre penodol,
os oes cynllun wrth gefn wedi'i gytuno rhwng yr awdurdod lleol a'r gweithredydd marchnad neu'r gweithredydd lladd-dy.
(2) Caiff awdurdod lleol dynnu unrhyw esemptiad o'r fath yn ôl os nad yw'n fodlon mwyach ar delerau'r cynllun wrth gefn neu sut y mae'n cael ei roi ar waith.
(3) Rhaid i gynllun wrth gefn y cytunir arno o dan baragraff (1) nodi'r amodau y mae'n rhaid i'r gweithredydd marchnad neu'r gweithredydd lladd-dy eu bodloni ac o dan ba amgylchiadau y bydd yr esemptiadau ym mharagraff (1) yn gymwys, cyhyd ag y bodlonir yr amodau hynny.
(4) Rhaid i weithredydd marchnad neu weithredydd lladd-dy ofyn am gydsyniad yr awdurdod lleol cyn gynted â phosibl bob tro y bydd yn dymuno defnyddio'r esemptiadau ym mharagraff (1) a rhaid iddo roi'r gorau i dderbyn anifeiliaid heb gofnodi'r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) os gwrthodir y cydsyniad hwnnw.
(5) At ddibenion yr erthygl hon ystyr “canolfan gasglu” yw unrhyw ddaliad lle y bydd defaid neu eifr sy'n tarddu o ddaliadau gwahanol yn cael eu grwpio gyda'i gilydd i ffurfio llwythi o anifeiliaid y bwriedir eu hallforio neu a ddefnyddir wrth allforio.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: