Search Legislation

Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 12Amrywiol

Adnabod a chofnodi anifeiliaid i'w hallforio

36.—(1Rhaid i geidwad adnabod pob anifail a draddodir i'w allforio yn unol ag Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor.

(2Pan fydd anifail a gafodd eu hadnabod cyn 31 Rhagfyr 2009 yn cael ei draddodi i'w allforio rhaid i'r ceidwad gofnodi ei fanylion adnabod unigol yng nghofrestr y daliad ac ni chaiff allforio'r anifail hwnnw tan 30 diwrnod ar ôl i'w fanylion adnabod gael eu cofnodi.

Amddiffyniad ynghylch symud ar gyfer triniaeth filfeddygol frys

37.  Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson sydd wedi'i gyhuddo o dramgwydd o fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth yn y Gorchymyn hwn sy'n ymwneud â symud anifail o ddaliad heb osod neu roi arno y modd adnabod sy'n ofynnol neu o beidio â chydymffurfio â hi brofi bod yr anifail wedi'i symud o'r daliad er mwyn cael triniaeth filfeddygol frys.

Pwerau arolygwyr

38.—(1Caiff arolygydd, at unrhyw ddiben sy'n ymwneud â gorfodi'r Gorchymyn hwn—

(a)casglu, corlannu a marcio unrhyw anifail a'i gwneud yn ofynnol i geidwad drefnu casglu, corlannu, marcio a diogelu unrhyw anifail;

(b)ei gwneud yn ofynnol i'r ceidwad ddangos neu gopïo unrhyw ddogfen neu gofnod;

(c)symud a chadw unrhyw ddogfen neu gofnod;

(ch)cael mynediad at, a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â chofnodion;

(d)os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnod gael ei ddangos ar ffurf y gellir mynd â hi ymaith;

(dd)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddyfei si au adnabod sydd heb eu defnyddio gael eu dangos, a chofnodi eu Rhif au;

(e)mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd gydag ef sy'n gweithredu at ddibenion Erthygl 12 o Reoliad y Cyngor, neu fynd ag unrhyw bobl neu bethau gydag ef y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol.

(2Rhaid i berson y mae arolygydd sy'n gweithredu o dan baragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud unrhyw beth wneud hynny'n ddi-oed, oni bai bod ganddo achos rhesymol a mater i'r person hwnnw yw profi unrhyw achos rhesymol o'r fath.

Pŵer i wahardd symud anifeiliaid

39.—(1Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud defaid i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os yw wedi'i fodloni bod y gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn i'r Gorchymyn hwn gael ei orfodi'n iawn o ran y ddiadell honno.

(2Caiff arolygydd, drwy gyflwyno hysbysiad i geidwad, wahardd symud geifr i'r daliad a bennir yn yr hysbysiad neu ohono, os yw wedi'i fodloni bod y gwaharddiad yn angenrheidiol er mwyn i'r Gorchymyn hwn gael ei orfodi'n iawn o ran yr eifre honno.

(3Caniateir i hysbysiad a gyflwynir o dan yr erthygl hon gael ei ddiwygio neu ei ddirymu drwy hysbysiad ychwanegol ar unrhyw adeg.

Gwybodaeth ffug

40.  Ni chaiff neb roi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol i berson sy'n gweithredu o dan y Gorchymyn hwn.

Addasu marciau adnabod

41.  Ni chaiff neb addasu, dileu neu ddifwyno'r wybodaeth ar unrhyw farc adnabod sydd wedi'i osod ar anifail o dan y canlynol—

(a)Rheoliad y Cyngor;

(b)y Gorchymyn hwn neu unrhyw ddarpariaeth sy'n rhoi ei effaith i Reoliad y Cyngor yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

(c)y Gorchmynion blaenorol; neu

(ch)Cyfarwyddeb y Cyngor 92/102/EEC, yn achos anifail a farciwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall yn unol â'r Gyfarwyddeb honno.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

42.—(1Os dangosir bod tramgwydd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol—

(a)wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog; neu

(b)i'w briodoli i unrhyw esgeulustod ar ei ran,

bydd y swyddog yn ogystal â'r corff corfforaethol yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, mae paragraff (1) yn gymwys o ran gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n gyfarwyddwr i'r corff.

(3Ystyr “swyddog”, o ran corff corfforaethol, yw cyfarwyddwr, aelod o'r pwyllgor rheoli, prif weithredwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff, neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath.

Tramgwyddau gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig

43.—(1Caniateir i achos am dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn yr honnir ei fod wedi'i gyflawni gan bartneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig gael ei ddwyn yn enw'r bartneriaeth neu'r gymdeithas.

(2At ddibenion achosion o'r fath—

(a)mae rheolau llys yngl n â chyflwyno dogfennau i fod i gael effaith fel pe bai'r bartneriaeth neu'r gymdeithas yn gorff corfforaethol;

(b)mae adran o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925(1) ac Atodlen i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(2) yn gymwys o ran y bartneriaeth neu'r gymdeithas fel y maent yn gymwys o ran corff corfforaethol.

(3Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth neu gymdeithas o'i chollfarnu am dramgwydd o dan y Gorchymyn hwn i'w thalu o gronfeydd y bartneriaeth neu'r gymdeithas.

(4Os profir bod tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan bartneriaeth wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, mae'r partner hwnnw (yn ogystal â'r bartneriaeth) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

  • At y dibenion hyn, mae “partner” yn cynnwys person sy'n honni ei fod yn gweithredu fel partner.

(5Os profir bod tramgwydd o dan y Gorchymyn hwn a gyflawnwyd gan gymdeithas anghorfforedig wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad swyddog i'r gymdeithas, neu y gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog, mae'r swyddog hwnnw (yn ogystal â'r gymdeithas) yn euog o'r tramgwydd ac yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

  • At y dibenion hyn, ystyr “swyddog” yw swyddog i'r gymdeithas neu aelod o'i chorff llywodraethu neu berson sy'n honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd swydd o'r fath.

Gorfodi

44.—(1Yr awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Gorchymyn hwn.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu ag unrhyw achos penodol, fod rhaid i ddyletswydd orfodi a osodwyd ar awdurdod lleol gan y Gorchymyn hwn gael ei chyflawni gan Weinidogion Cymru ac nid gan yr awdurdod lleol.

Dirymu

45.  Mae Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2008(3) wedi'i ddirymu.

(1)

1925 p. 86. Diddymwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 33 gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952 (p. 55), adran 132 ac Atodlen 6; diwygiwyd is-adran (3) gan Ddeddf Llysoedd 1971 (p. 23), adran 56(1) ac Atodlen 8, rhan II, paragraff 19; diwygiwyd is-adran (4) gan Ddeddf Llysoedd 2003 (p. 39), adran 109(1) a (3), Atodlen 8, paragraff 71 ac Atodlen 10, a chan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), adran 154 ac Atodlen 7, paragraff 5; diddymwyd is-adran (5) gan Ddeddf Llysoedd Ynadon 1952, adran 132, Atodlen 6.

(2)

1980 p. 43. Diwygiwyd is-baragraff 2(a) gan Ddeddf Gweithdrefnau ac Ymchwiliadau Troseddol 1996 (p. 25), adran 47, Atodlen 1, paragraff 13, a'i ddiddymu gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (p. 44), adrannau 41 a 332, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1), (13)(a) ac Atodlen 37, rhan 4 (i fod yn effeithiol o ddyddiad sydd i'w benodi); diddymwyd paragraff 5 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1991 (p. 53), adrannau 25(2) a 101(2) ac Atodlen 13; diwygiwyd paragraff 6 gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003, adran 41, Atodlen 3, rhan 2, paragraff 51, is-baragraffau (1) a (13)(b) (i fod yn effeithiol o ddyddiad sydd i'w benodi).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources