xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Adnabod anifeiliaid

Adnabod anifeiliaid a anwyd ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2009

9.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i'r canlynol—

(a)defaid a anwyd ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2009;

(b)defaid a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009 na chawsant eu hadnabod cyn y dyddiad hwnnw ac sydd ar eu daliad genedigol ac y mae eu ceidwaid yn dewis eu hadnabod yn electronig;

(c)geifr a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009 na chawsant eu hadnabod cyn y dyddiad hwnnw ac sydd ar eu daliad genedigol ac y mae eu ceidwaid yn dewis eu hadnabod yn electronig; ac

(ch)geifr a anwyd ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2009 y mae eu ceidwaid yn dewis eu hadnabod yn electronig.

(2Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl 4(1) (y paragraff cyntaf), Erthygl 4(2)(a) a (b) ac Erthygl 9(3) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon oni bai bod y dull adnabod amgen a nodir yn erthygl 10 wedi'i awdurdodi.

(3At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw—

(a)9 mis o'r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir o dan amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu

(b)6 mis o'r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.

(4Ni chaniateir i anifail gael ei adnabod drwy ddefnyddio bolws mewn cyfuniad â thatŵ.

(5Rhaid i'r cod adnabod ar fodd adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn—

(a)y llythrennau “UK” neu, ar ddyfais adnabod electronig, y Rhif au “826”; a

(b)Rhif 12 digid a ragnodir gan Weinidogion Cymru;

a rhaid iddo fod yn union yr un fath ar y modd adnabod cyntaf ac ar yr ail fodd adnabod.

Adnabod anifeiliaid a anwyd ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2009 ac y bwriedir eu cigydda

10.—(1Ar gyfer anifeiliaid y bwriedir eu cigydda cyn 12 mis oed ac na fwriedir eu hallforio, awdurdodir y dull adnabod yn Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor.

(2Y cod adnabod sy'n orfodol at ddibenion Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor yw'r llythrennau “UK” ac wedyn nod y ddiadell neu nod yr eifre; ni chaniateir i unrhyw rif arall a ddyroddir gan yr awdurdod cymwys gael ei gofnodi yn weledol ar y tag clust hwn.

(3Pan fwriedir cigydda ar ôl 12 mis oed neu allforio anifail a gafodd ei adnabod o dan baragraff (1) rhaid i'r anifail hwnnw gael ei adnabod yn unol ag erthygl 9 a rhaid tynnu'r tag clust gwreiddiol.

(4Caiff ceidwad ailadnabod o dan erthygl 9 anifail a gafodd ei adnabod o dan yr erthygl hon ac nid oes angen iddo gigydda'r anifail hwnnw cyn 12 mis oed ar yr amodau canlynol yn unig—

(a)os yw'r anifail ar ei ddaliad genedigol; neu

(b)os oes gan y ceidwad gofnod cyflawn o holl symudiadau'r anifail.

(5Pan ailadnabyddir anifail o dan baragraff (4)(b) rhaid i'r ceidwad groesgyfeirio'r hen god adnabod a'r cod adnabod newydd yng nghofrestr y daliad.

(6Caiff ceidwad ailadnabod anifail a gafodd ei adnabod o dan baragraff (1) drwy ddefnyddio tag clust o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (2) sy'n cynnwys dynodiad electronig.

Adnabod anifeiliaid a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009 ac na chawsant eu hadnabod erbyn hynny

11.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i anifeiliaid a anwyd cyn y dyddiad hwn ond na chawsant eu hadnabod erbyn 31 Rhagfyr 2009 ac sydd dal ar eu daliad genedigol.

(2Rhaid i geidwad gydymffurfio ag Erthygl (4)(1) (y paragraff cyntaf) ac Erthygl 4(2)(a) a (b) o Reoliad y Cyngor a'r erthygl hon oni bai bod y dull adnabod amgen a nodir yn erthygl 12 wedi'i awdurdodi.

(3At ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Cyngor, y terfynau amser ar gyfer adnabod anifail yw—

(a)9 mis o'r dyddiad geni, yn achos anifail a gedwir o dan amodau ffermio llai dwys neu ar faes; neu

(b)6 mis o'r dyddiad geni, yn achos unrhyw anifail arall.

(4Caiff dyfais adnabod a osodir fel y modd adnabod cyntaf neu'r ail fodd adnabod fod o unrhyw liw heblaw coch.

(5Rhaid i'r cod adnabod ar fodd adnabod at ddibenion Adran A.2 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod fel a ganlyn—

(a)Y llythrennau “UK”;

(b)Nod y ddiadell neu nod yr eifre y genir yr anifail iddi; ac

(c)Rhif unigryw.

Adnabod anifeiliaid a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009 a na chawsant eu hadnabod erbyn hynny ac y bwriedir eu cigydda

12.—(1Ar gyfer anifeiliaid a anwyd cyn 31 Rhagfyr 2009 ac y bwriedir eu cigydda cyn 12 mis oed ac na fwriedir eu hallforio, awdurdodir y dull adnabod yn Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fel dull amgen yn lle'r modd adnabod.

(2Rhaid i'r cod adnabod at ddibenion Adran A.7 o'r Atodiad i Reoliad y Cyngor fod yr un fath â'r hyn a nodir yn is-baragraff (a) i (c) o erthygl 11(5).

(3Rhaid i unrhyw anifail a gafodd ei adnabod â'r modd adnabod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) (“y tag adnabod cyntaf ”) gael ei adnabod ag ail fodd adnabod yn unol â pharagraffau (4) i (6)—

(a)os na chaiff ei gigydda cyn 12 mis oed; neu

(b)os caiff ei draddodi i'w allforio.

(4Rhaid i'r ail fodd adnabod fod naill ai—

(a)yn dag adnabod ychwanegol neu, onid yw'n fwriad allforio'r anifail, yn datŵ, ac iddo'r un cod adnabod ag sydd ar y tag adnabod cyntaf; neu

(b)yn ddau dag adnabod ychwanegol neu, onid yw'n fwriad allforio'r anifail, yn dag adnabod a thatŵsy'n dwyn—

(i)y llythrennau “UK”;

(ii)nod y ddiadell neu nod yr eifre ar gyfer y ddiadell neu'r eifre lle y gosodir y modd adnabod ychwanegol; a

(iii)Rhif unigryw.

(5Pan osodir dau fodd adnabod ychwanegol rhaid i'r ceidwad gofnodi gwybodaeth am ychwanegu'r modd adnabod newydd gan gynnwys y cod adnabod llawn ar y modd adnabod ychwanegol a'r llythrennau a nod y ddiadell neu nod yr eifre ar y modd adnabod gwreiddiol yn y gofrestr onid yw'r anifail ar eu daliad genedigol.

(6Yn achos anifeiliaid a draddodir i'w hallforio rhaid i'r ceidwad osod yr ail fodd adnabod cyn i'r anifail adael y daliad gwreiddiol.