Gorchymyn Defaid a Geifr (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2009

RHAN 8Dogfennau symud

Dogfen symud

25.—(1Mae'n dramgwydd i geidwad fethu â chydymffurfio ag Erthygl 6(1) o Reoliad y Cyngor a llenwi'r ddogfen symud ar ffurf a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru ac eithrio y caniateir i fanylion adnabod yr anifeiliaid a symudir gael eu cofnodi yn y daliad a gyrchir os yw'r daliad hwnnw'n bwynt cofnodi canolog ac os yw'r anifeiliaid yn cael eu cludo yn unol ag Adran C, pwynt 2(a) o'r Atodiad.

(2Mae'n dramgwydd i geidwad yn y daliad a gyrchir fethu â chydymffurfio ag Erthygl 6(3) o Reoliad y Cyngor a methu â chadw'r dogfennau symud yn eu trefn gronolegol.

(3At ddibenion Erthygl 6(3) y cyfnod lleiaf y mae'n rhaid i'r ceidwad ar y daliad hwnnw gadw'r ddogfen symud yw 3 blynedd o ddyddiad symud anifail i'w ddaliad.

Cyflenwi dogfen symud

26.—(1Yn achos anifail a symudir i ddaliad arall—

(a)ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad arall hwnnw, rhaid i'r cludwr roi'r ddogfen symud i'r ceidwad yn y daliad hwnnw; a

(b)rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn 3 diwrnod ar ôl i'r anifail gyrraedd y daliad.

(2Yn achos anifail a symudwyd o ddaliad i borthladd ac y bwriedir ei draddodi y tu allan i Brydain Fawr, rhaid i'r ceidwad yn y daliad hwnnw anfon copi o'r ddogfen symud i'r awdurdod lleol o fewn diwrnod ar ôl i'r anifail ymadael â'r daliad.