RHAN 9Cronfa ddata ganolog

Stocrestr o anifeiliaid27

1

At ddibenion Erthygl 7(2) o Reoliad y Cyngor, rhaid i geidwad sy'n cadw anifeiliaid yn barhaol wneud stocrestr o nifer yr anifeiliaid ar ei ddaliad ar 1 Ionawr bob blwyddyn.

2

Mae'n dramgwydd i geidwad fethu â darparu canlyniad y stocrestr flynyddol i Weinidogion Cymru erbyn 1 Chwefror bob blwyddyn.

Cyflenwi gwybodaeth28

1

Ar ôl cael hysbysiad o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Cyngor fod person wedi dod yn geidwad daliad, rhaid i Weinidogion Cymru, yn ddarostyngedig i baragraff (2), ddyrannu nod diadell mewn perthynas â phob diadell o ddefaid ar y daliad a nod geifre mewn perthynas â phob geifre o eifr ar y daliad.

2

Os lladd-dy neu farchnad yw'r daliad, dim ond os ydynt o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ddyrannu nod diadell neu nod geifre.

3

Rhaid i'r ceidwad hysbysu Gweinidogion Cymru mewn ysgrifen am unrhyw newid yn yr wybodaeth a bennir yn Erthygl 8(2)(a) o Reoliad y Cyngor o fewn 30 diwrnod ar ôl newid o'r fath.