Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 2Y PRIF DDARPARIAETHAU

Awdurdodau cymwys

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (5), dynodir unrhyw gorff a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 4 yn awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 882/2004 a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol.

(2Pan fo'r awdurdod bwyd anifeiliaid wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1) mae'r dynodiad yn ymestyn i'w ardal neu ei ddosbarth yn unig, yn ôl fel y digwydd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) i (6), dynodir unrhyw gorff a bennir yng Ngholofn 1 o Atodlen 5 yn awdurdod cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 882/2004 a nodir yn y cofnod cyfatebol yng Ngholofn 2 o'r Atodlen honno i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny'n gymwys o ran cyfraith bwyd berthnasol.

(4Pan fo'r awdurdod bwyd wedi'i ddynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3) mae'r dynodiad yn ymestyn i'w ardal yn unig.

(5Pan fo'r Asiantaeth wedi'i dynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (1) neu (3) at ddibenion Erthygl 31(1) o Reoliad 882/2004, mae'r dynodiad yn ymestyn dim ond i'r gweithrediadau y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006(1) mewn perthynas â hwy yn rhinwedd rheoliad 5(1)(a) o'r Rheoliadau hynny.

(6Pan fo'r Asiantaeth wedi'i dynodi'n awdurdod cymwys yn unol â pharagraff (3) at ddibenion Erthygl 31(2) o Reoliad 882/2004, mae'r dynodiad yn ymestyn o ran Erthygl 31(2)(a) i (e), dim ond i'r gweithrediadau hynny y mae'r Asiantaeth yn gweithredu ac yn gorfodi Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 mewn perthynas â hwy yn rhinwedd rheoliad 5(2) o'r Rheoliadau hynny.

Cyfnewid a darparu gwybodaeth

4.—(1Er mwyn galluogi awdurdodau cymwys, awdurdodau OFFC eraill ac Aelod-wladwriaethau i gyflawni'r rhwymedigaethau a osodwyd arnynt gan Reoliad 882/2004 caiff yr awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd neu ddarparu i awdurdodau OFFC eraill unrhyw wybodaeth y maent wedi'i chael wrth weithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

(2Er mwyn gweithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdodau cymwys gyfnewid ymhlith ei gilydd unrhyw wybodaeth y maent wedi'i chael wrth weithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

(3Caiff awdurdodau cymwys rannu gwybodaeth y maent wedi'i chaelawrth weithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol gyda'r cyrff sy'n gweithredu ac yn gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban er mwyn hwyluso gweithredu a gorfodi'r gyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu'r gyfraith bwyd berthnasol yn y gwledydd hynny.

(4Mae paragraffau (1), (2) a (3) heb ragfarn i unrhyw bŵer arall sydd gan awdurdodau cymwys i ddatgelu gwybodaeth drwy ddeddfwriaeth Gymunedol neu odani.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “awdurdodau OFFC eraill” yw awdurdodau a ddynodwyd yn y Deyrnas Unedig yn awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 882/2004 heblaw'r awdurdodau cymwys a ddynodwyd o dan y Rheoliadau hyn.

Sicrhau gwybodaeth

5.—(1Er mwyn galluogi awdurdodau cymwys ac Aelod-wladwriaethau i gyflawni'r rhwymedigaethau a osodwyd arnynt gan Reoliad 882/2004 ac er mwyn gweithredu a gorfodi cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol, caiff awdurdod cymwys ei gwneud yn ofynnol i gorff rheoli—

(a)darparu i'r awdurdod cymwys unrhyw wybodaeth y mae ganddo achos rhesymol dros gredu bod y corff rheoli yn gallu ei rhoi; a

(b)trefnu bod unrhyw gofnodion y mae ganddo achos rhesymol dros gredu eu bod gan y corff rheoli neu eu bod fel arall o dan ei reolaeth ar gael i'r awdurdod cymwys i'w harchwilio ganddo (ac, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol, trefnu eu bod ar gael ar ffurf ddarllenadwy).

(2Caiff yr awdurdod cymwys gopïo unrhyw gofnodion y trefnir eu bod ar gael iddo o dan baragraff (1)(b).

(3Mae person sydd—

(a)yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (1); neu

(b)gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys neu sydd yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

(4At ddibenion paragraff (1), mae'r term “corff rheoli” yn cynnwys unrhyw aelod, swyddog neu gyflogai i gorff rheoli.

Pŵer i ddyroddi codau o arferion a argymhellir

6.—(1Er mwyn cyfarwyddo awdurdodau bwyd anifeiliaid ac awdurdodau bwyd caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi codau o arferion a argymhellir o ran y canlynol—

(a)swyddogaethau a roddir i'r awdurdodau hynny yn rhinwedd eu swydd fel awdurdodau cymwys drwy Reoliad 882/2004 neu odano; neu

(b)gweithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio;

a rhaid i unrhyw god o'r fath gael ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl ei ddyroddi.

(2Caiff yr Asiantaeth, ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru, roi cyfarwyddyd i awdurdod bwyd anifeiliaid neu awdurdod bwyd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod a ddyroddir o dan y rheoliad hwn.

(3Wrth arfer y swyddogaethau a roddwyd arnynt fel awdurdodau cymwys drwy Reoliad 882/2004 neu odano ac wrth iddynt weithredu a gorfodi'r Darpariaethau Mewnforio, rhaid i bob awdurdod bwyd anifeiliaid a phob awdurdod bwyd—

(a)rhoi sylw i unrhyw ddarpariaeth berthnasol mewn unrhyw god o'r fath; a

(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn ac sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gymryd unrhyw gamau penodedig er mwyn cydymffurfio â chod o'r fath.

(4Mae unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (2), ar gais yr Asiantaeth, yn orfodadwy drwy orchymyn mandadol.

(5Rhaid i'r Asiantaeth ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn gwneud cais o dan baragraff (4).

(6Cyn dyroddi unrhyw god o dan y rheoliad hwn, bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi sylw i unrhyw gyngor perthnasol a roddir gan yr Asiantaeth.

Monitro camau gorfodi

7.—(1Un o swyddogaethau'r Asiantaeth yw monitro perfformiad awdurdodau gorfodi wrth iddynt orfodi rheoliadau archwilio penodol.

(2Mae'r swyddogaeth honno'n cynnwys, yn benodol, gosod safonau perfformiad (boed i awdurdodau gorfodi yn gyffredinol ynteu i awdurdodau penodol) o ran gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol.

(3Rhaid i bob un o adroddiadau blynyddol yr Asiantaeth gynnwys adroddiad ar ei gweithgareddau yn ystod y flwyddyn wrth orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol y mae'n awdurdod gorfodi ar ei chyfer a'i pherfformiad o ran y canlynol—

(a)unrhyw safonau o dan baragraff (2) sy'n gymwys i'r gweithgareddau hynny; a

(b)unrhyw amcanion ynglŷn â'r gweithgareddau hynny a bennir yn y datganiad o amcanion ac arferion o dan adran 22 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999(2).

(4Caiff yr Asiantaeth gyflwyno adroddiad i unrhyw awdurdod gorfodi arall ar ei berfformiad wrth orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol a chaiff adroddiad o'r fath gynnwys canllawiau o ran camau y mae'r Asiantaeth yn credu y byddent yn gwella'r perfformiad hwnnw.

(5Caiff yr Asiantaeth gyfarwyddo awdurdod y mae adroddiad o'r fath wedi'i gyflwyno iddo—

(a)i drefnu cyhoeddi'r adroddiad mewn unrhyw fodd a bennir yn y cyfarwyddyd, neu wybodaeth benodedig ynglŷn â'r adroddiad; a

(b)o fewn unrhyw gyfnod a bennir fel hyn i roi gwybod i'r Asiantaeth am y camau y maent wedi'u cymryd neu'n bwriadu eu cymryd mewn ymateb i'r adroddiad.

(6Mae adran 19 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 yn gymwys o ran gwybodaeth a sicrheir drwy fonitro o dan y rheoliad hwn fel pe bai'n wybodaeth a sicrheir drwy fonitro o dan adran 12 o'r Ddeddf honno.

Pŵer wneud cais am wybodaeth sy'n ymwneud â chamau gorfodi

8.—(1Er mwyn cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi caiff yr Asiantaeth ei gwneud yn ofynnol i berson a grybwyllir ym mharagraff (2)—

(a)darparu i'r Asiantaeth unrhyw wybodaeth y mae ganddi achos rhesymol dros gredu bod y person hwnnw'n gallu ei rhoi; neu

(b)trefnu bod unrhyw gofnodion y mae gan yr Asiantaeth achos rhesymol dros gredu eu bod gan y person hwnnw neu eu bod fel arall o dan reolaeth y person hwnnw ar gael i'r Asiantaeth i'w harchwilio ganddi (ac, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol, trefnu eu bod ar gael ar ffurf ddarllenadwy).

(2Caniateir i ofyniad o dan baragraff (1) gael ei osod—

(a)ar yr awdurdod gorfodi neu unrhyw aelod, swyddog neu gyflogai i'r awdurdod; neu

(b)ar berson sy'n dod o dan unrhyw ddyletswydd o dan ddeddfwriaeth archwilio berthnasol (sef dyletswydd sy'n orfodadwy gan awdurdod gorfodi) neu unrhyw swyddog neu gyflogai i berson o'r fath.

(3Caiff yr Asiantaeth gopïo unrhyw gofnodion y trefnir eu bod ar gael iddi yn unol â gofyniad o dan baragraff (1)(b).

Pŵer i fynd i mewn ar gyfer personau sy'n monitro camau gorfodi

9.—(1Caiff yr Asiantaeth awdurdodi unrhyw unigolyn (boed yn aelod o'i staff neu beidio) i arfer y pwerau a bennir ym mharagraff (4) er mwyn cyflawni ei swyddogaeth o dan reoliad 7 mewn perthynas ag unrhyw awdurdod gorfodi.

(2Ni chaniateir i unrhyw awdurdodiad o dan y rheoliad hwn gael ei ddyroddi ac eithrio yn unol â phenderfyniad a gymerir gan yr Asiantaeth ei hun neu gan bwyllgor, is-bwyllgor neu aelod o'r Asiantaeth sy'n gweithredu ar ran yr Asiantaeth.

(3Rhaid i awdurdodiad o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a chaniateir iddo gael ei roi yn ddarostyngedig i unrhyw gyfyngiadau neu amodau a bennir yn yr awdurdodiad (gan gynnwys amodau sy'n ymwneud â rhagofalon hylendid sydd i'w cymryd wrth arfer pwerau yn unol â'r awdurdodiad).

(4Caiff person awdurdodedig—

(a)mynd i mewn i unrhyw fangre a grybwyllir ym mharagraff (5) ar unrhyw adeg resymol er mwyn arolygu'r fangre neu unrhyw beth a geir ynddi;

(b)cymryd samplau o unrhyw eitemau neu sylweddau a geir ar y fangre honno;

(c)arolygu a chopïo unrhyw gofnodion a geir ar y fangre honno (ac, os ydynt yn cael eu cadw ar ffurf gyfrifiadurol, ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu rhoi ar gael ar ffurf ddarllenadwy);

(ch)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n bresennol ar y fangre honno ddarparu iddo unrhyw gyfleusterau, unrhyw gofnodion neu wybodaeth ac unrhyw gymorth arall y bydd yn gofyn yn rhesymol amdanynt.

(5Y mangreoedd y caiff person awdurdodedig fynd i mewn iddynt yw—

(a)unrhyw fangre sydd wedi'i meddiannu gan yr awdurdod gorfodi;

(b)unrhyw labordy neu fangre debyg lle mae gwaith sy'n gysylltiedig â gorfodi unrhyw ddeddfwriaeth berthnasolawedi'i gyflawni i'r awdurdod gorfodi; ac

(c)unrhyw fangre arall (nad yw'n dŷ annedd preifat) y mae gan y person awdurdodedig achos rhesymol dros gredu ei bod yn fangre y mae pwerau gorfodi'r awdurdod gorfodi yn arferadwy (neu wedi bod yn arferadwy) ar ei chyfer.

(6Mae'r pŵer a roddwyd i berson awdurdodedig i fynd i mewn i fangre yn cynnwys pŵer i fynd ag unrhyw berson arall y gall fod y person awdurdodedig o'r farn ei fod yn briodol gydag ef.

(7Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson awdurdodedig—

(a)dangos ei awdurdodiad cyn arfer unrhyw bwerau o dan baragraff (4); a

(b)darparu dogfen sy'n enwi unrhyw sampl a gymerwyd, neu ddogfennau a gopïwyd, o dan y pwerau hynny.

(8Os bydd person sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth a gafwyd ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd, oni bai bod y datgeliad hwnnw wedi'i wneud wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd.

(9Os yr Asiantaeth yw'r awdurdod gorfodi o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol, mae'r rheoliad hwn, gan hepgor paragraff (5)(a), yn gymwys o ran yr Asiantaeth mewn perthynas â'i pherfformiad wrth orfodi'r darpariaethau hynny.

(10Yn y rheoliad hwn ystyr “person awdurdodedig” yw person sydd wedi'i awdurdodi o dan y rheoliad hwn.

Ystyr “awdurdod gorfodi” ac ymadroddion perthynol

10.—(1Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr “deddfwriaeth archwilio berthnasol” yw cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol a chyfraith bwyd berthnasol y mae'r Asiantaeth wedi'i dynodi'n awdurdod cymwys ar eu cyfer yn unol â pharagraffau (1) a (3) o reoliad 3 yn y drefn honno ond nid yw'n cynnwys deddfwriaeth berthnasol fel y diffinnir “relevant legislation” yn adran 15 o Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(2Yn rheoliadau 7 i 9 ystyr “awdurdod gorfodi” yw'r awdurdod y mae deddfwriaeth archwilio berthnasol i'w gorfodi ganddo ac mae'n cynnwys yr Asiantaeth ei hun os hi yw'r awdurdod gorfodi yn rhinwedd y ddeddfwriaeth honno ond nid yw'n cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd; ac mae “gorfodi” o ran deddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys gweithredu unrhyw ddarpariaethau yn y ddeddfwriaeth honno.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn rheoliadau 7 i 9 (sut bynnag y mae wedi'i fynegi) at berfformiad awdurdod gorfodi wrth orfodi unrhyw ddeddfwriaeth archwilio berthnasol yn cynnwys cyfeiriad at allu'r awdurdod hwnnw i'w gorfodi.

Tramgwyddau sy'n ymwneud â rheoliadau 8 a 9

11.  Bydd person sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro person sy'n arfer pwerau o dan baragraff (4)(a), (b) neu (c) o reoliad 9;

(b)yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir o dan baragraff (1) o reoliad 8 neu baragraff (4)(ch) o reoliad 9; neu

(c)gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad o'r fath yn rhoi gwybodaeth y mae'r person hwnnw yn gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys, neu sydd yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth y mae'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn unrhyw fanylyn o bwys,

yn euog o dramgwydd.

Yr hawl i apelio

12.—(1Caiff unrhyw berson a dramgwyddir gan benderfyniad gan yr awdurdod cymwys a gymerwyd ynghylch sefydliad sy'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth o dan Erthygl 4(2) o Reoliad 853/2004 yn unol ag un o'r Erthyglau canlynol, sef—

(a)Erthygl 31(2)(c) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth);

(b)Erthygl 31(2)(d) o Reoliad 882/2004 (cymeradwyaeth amodol a chymeradwyaeth lawn); neu

(c)Erthygl 31(2)(e) o Reoliad 882/2004 (tynnu cymeradwyaeth yn ôl ac atal cymeradwyaeth), apelio i lys ynadon.

(2Pan wneir apêl i lys ynadon o dan baragraff (1), y weithdrefn fydd ei gwneud ar ffurf achwyniad i gael gorchymyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980(3) yn gymwys i'r achosion.

(3Un mis o'r dyddiad y cyflwynwyd hysbysiad o'r penderfyniad i'r person sy'n dymuno apelio yw'r cyfnod y caniateir dwyn apêl ynddo o dan baragraff (1) a bernir bod gwneud achwyniad i gael gorchymyn yn gyfystyr â dwyn yr apêl at ddibenion y paragraff hwn.

(4Pan fo llys ynadon yn dyfarnu, yn dilyn apêl o dan baragraff (1), fod penderfyniad yr awdurdod cymwys yn anghywir, rhaid i'r awdurdod roi ei effaith i ddyfarniad y llys.

(5Pan fo cymeradwyaeth yn cael ei gwrthod neu ei thynnu'n ôl, caiff y gweithredydd busnes bwyd a oedd, yn union cyn bod y gymeradwyaeth wedi'i gwrthod neu wedi'i thynnu'n ôl, yn defnyddio'r sefydliad o dan sylw, barhau i'w ddefnyddio, yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodwyd gan yr awdurdod cymwys er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, oni bai—

(a)bod yr amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad i wrthod y gymeradwyaeth neu ei thynnu'n ôlawedi dod i ben heb fod apêl wedi'i chyflwyno; a

(b)pan fo apêl yn erbyn y penderfyniad hwnnw wedi'i chyflwyno, bod yr apêlawedi'i phenderfynu'n derfynol neu wedi'i gollwng.

(6Nid oes dim ym mharagraff (5) yn caniatáu i sefydliad gael ei ddefnyddio ar gyfer busnes bwyd—

(a)os oes gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid, hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid neu orchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid wedi'i osod mewn perthynas â'r sefydliad;

(b)os oes gorchymyn gwahardd, hysbysiad gwahardd brys, gorchymyn gwahardd brys neu orchymyn rheoli brys wedi'i osod mewn perthynas â'r sefydliad yn unol ag adran 11, 12 neu 13 o'r Ddeddf;

(c)os yw cymeradwyaeth y sefydliad wedi'i hatal yn unol ag Erthygl 31(2)(e) o Reoliad 882/2004; neu

(ch)os yw'r sefydliad wedi'i atal rhag gweithredu ar ôl i hysbysiad camau cywiro gael ei gyflwyno.

(7Yn y rheoliad hwn mae i bob un o'r termau “gorchymyn gwahardd at ddibenion hylendid”, “hysbysiad gwahardd brys at ddibenion hylendid”, “gorchymyn gwahardd brys at ddibenion hylendid” a “hysbysiad camau cywiro” yr un ystyr ag sydd iddo yn Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.

Apêl i Lys y Goron yn erbyn gwrthod apêl o dan reoliad 12(1)

13.  Caiff person a dramgwyddir oherwydd bod llys ynadon wedi gwrthod apêl iddo o dan reoliad 12(1) apelio i Lys y Goron.

Staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall

14.  Caiff swyddog awdurdodedig i awdurdod cymwys fynd ag aelod o staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef er mwyn cynnal ymchwiliad gweinyddol o dan Erthygl 36 o Reoliad 882/2004.

Arbenigwyr y Comisiwn

15.—(1Pan fo swyddog gorfodi yn mynd i mewn i fangre er mwyn gweithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol, caiff y swyddog hwnnw fynd ag arbenigydd o'r Comisiwn gydag ef er mwyn galluogi'r arbenigydd hwnnw i gyflawni swyddogaethau o dan Erthygl 45 o Reoliad 882/2004.

(2Ym mharagraff (1) ac ym mharagraff (5)(b) o reoliad 17 ystyr “swyddog gorfodi” yw swyddog awdurdodedig i unrhyw awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheolaethau swyddogol er mwyn gwirio cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol neu gyfraith bwyd berthnasol.

Gwahardd datgelu cyfrinachau masnachol

16.  Os bydd person yn mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd rheoliad 14 neu 15 ac yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd oni bai bod y datgeliad wedi'i wneud wrth gyflawni ei ddyletswydd.

Gweithredu a gorfodi

17.—(1 yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (3) o reoliad 5 yw'r awdurdod cymwys a osododd y gofyniad ar y corff rheoli o dan sylw o dan baragraff (1) o'r rheoliad hwnnw.

(2 yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (8) o reoliad 9 a rheoliad 11 yw'r Asiantaeth.

(3 yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliad 16 yw'r awdurdod y cymerodd ei swyddog y person a wnaeth y datgeliad i'r fangre o dan sylw.

(4 yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi paragraff (8) o reoliad 18 yw'r awdurdod a awdurdododd y person a aeth i mewn i'r fangre ac a ddatgelodd yr wybodaeth.

(5 yr awdurdod sy'n gyfrifol am weithredu a gorfodi rheoliad 19—

(a)pan fo'r tramgwydd yn ymwneud â gweithredu rheoliad 14, yw'r awdurdod cymwys yr aeth ei swyddog awdurdodedig ag aelod o staff awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth arall gydag ef;

(b)pan fo'r tramgwydd yn ymwneud â gweithredu rheoliad 15, yw'r awdurdod yr aeth ei swyddog gorfodi ag un o arbenigwyr y Comisiwn gydag ef; ac

(c)pan fo'r tramgwydd yn ymwneud â gweithredu rheoliad 18, yw'r awdurdod gorfodi perthnasol yr arferodd ei swyddog awdurdodedig bwerau o dan y rheoliad hwnnw.

Pwerau i fynd i mewn

18.—(1Bydd gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi perthnasol heblaw'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl ar bob adeg resymol—

(a)i fynd i mewn i unrhyw fangre o fewn ardal yr awdurdod, neu, yn ôl fel y digwydd, dosbarth yr awdurdod er mwyn darganfod a oes unrhyw ddarpariaeth y mae gan yr awdurdod hwnnw gyfrifoldeb ei gorfodi yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn unol â rheoliad 17 yn cael neu wedi cael ei thorri yn y fangre; a

(b)i fynd i mewn i unrhyw fangre, boed honno o fewn ardal yr awdurdod neu, yn ôl fel y digwydd, dosbarth yr awdurdod neu y tu allan iddynt, er mwyn darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o'r fath yn yr ardal honno neu'r dosbarth hwnnw,

ond ni chaniateir mynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n unig fel tŷ annedd preifat oni bai bod hysbysiad am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'i roi i'r meddiannydd 2 awr ymlaen llaw.

(2Bydd gan swyddog awdurdodedig i'r Asiantaeth, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog hwnnw, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre er mwyn—

(a)darganfod a oes unrhyw ddarpariaeth y mae gan yr Asiantaeth gyfrifoldeb ei gorfodi yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn yn unol â rheoliad 17 yn cael neu wedi cael ei thorri yn y fangre; a

(b)darganfod a oes ar y fangre unrhyw dystiolaeth o unrhyw doriad o'r fath,

ond ni chaniateir mynnu cael mynediad fel mater o hawl i unrhyw fangre sy'n cael ei defnyddio'n unig fel tŷ annedd preifat oni bai bod hysbysiad am y bwriad i fynd i mewn i'r fangre wedi'i roi i'r meddiannydd 2 awr ymlaen llaw.

(3Os bydd ynad heddwch, ar ôl cael gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi'i fodloni bod sail resymol dros fynd i unrhyw fangre at unrhyw ddiben o'r fath a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (2) a naill ai—

(a)bod mynediad i'r fangre wedi'i wrthod, neu y deellir y gall gael ei wrthod, a bod hysbysiad o'r bwriad i wneud cais am warant wedi'i roi i'r meddiannydd; neu

(b)y byddai cais am fynediad, neu roi hysbysiad o'r fath, yn mynd yn groes i'r amcan o fynd i mewn i'r fangre, neu fod yr achos yn achos brys, neu fod y fangre heb ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro,

caiff yr ynad, drwy warant a lofnodir ganddo awdurdodi'r swyddog awdurdodedig i fynd i mewn i'r fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol os bydd ei angen.

(4Bydd pob gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am gyfnod o un mis.

(5Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, fynd â'r personau eraill y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol gydag ef, ac wrth ymadael ag unrhyw fangre sydd heb ei meddiannu ac y mae wedi mynd i mewn iddi yn rhinwedd gwarant o'r fath, rhaid iddo ei gadael yn fangre sydd wedi'i diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno yn gyntaf.

(6Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, arolygu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y maent yn cael eu cadw), a phan fo'r cofnodion hynny yn cael eu storio ar unrhyw ffurf electronig—

(a)caiff fynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd perthynol a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad â'r cofnodion, a'u harolygu a gwirio eu gweithrediad; a

(b)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r swyddog unrhyw gymorth y mae arno angen rhesymol ei gael.

(7Caiff unrhyw swyddog sy'n arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan baragraff (6)—

(a)cipio a chadw unrhyw gofnodion y mae gan y swyddog reswm dros gredu y gallai fod angen amdanynt fel tystiolaeth mewn achos cyfreithiol o dan unrhyw un o'r darpariaethau yn y Rhan hon o'r Rheoliadau hyn; a

(b)pan fo'r cofnodion wedi'u storio ar unrhyw ffurf electronig, ei gwneud yn ofynnol i'r cofnodion gael eu darparu ar ffurf a fyddai'n caniatáu mynd â hwy oddi yno.

(8Os bydd unrhyw berson sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn, neu yn rhinwedd gwarant a ddyroddwyd odano, yn datgelu i unrhyw berson unrhyw wybodaeth y mae wedi'i chael ar y fangre o ran unrhyw gyfrinach fasnachol, bydd yn euog o dramgwydd, oni bai bod y datgeliad wedi'i wneud wrth iddo gyflawni ei ddyletswydd.

(9Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi unrhyw berson, ac eithrio gyda chaniatâd yr awdurdod lleol o dan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981(4), i fynd i mewn i unrhyw fangre—

(a)lle cedwir anifail neu aderyn, y mae unrhyw glefyd y mae'r Ddeddf honno yn gymwys iddo, wedi effeithio arno; a

(b)sydd wedi'i lleoli mewn man y datganwyd o dan y Ddeddf honno ei fod wedi'i heintio â chlefyd o'r fath.

Rhwystro etc. swyddogion

19.—(1Bydd unrhyw berson sydd—

(a)yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu rheoliad 14, 15 neu 18; neu

(b)yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu rheoliad 14, 15 neu 18 unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdanynt er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y rheoliadau hynny,

yn euog o dramgwydd.

(2Bydd unrhyw berson sydd, gan honni ei fod yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b)—

(a)yn rhoi gwybodaeth y mae'r person hwnnw'n gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys; neu

(b)yn ddi-hid yn darparu gwybodaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, yn euog o dramgwydd.

(3Rhaid peidio â dehongli dim ym mharagraff (1)(b) fel pe bai'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth os byddai gwneud hynny yn gallu ei argyhuddo.

Cosbau

20.—(1Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (8) o reoliad 18 yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, i ddirwy neu i'rddau.

(2Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (3) o reoliad 5, paragraff (8) o reoliad 9, neu reoliad 11 neu reoliad 16 yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(3Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan reoliad 19 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu i'r ddau.

Y terfyn amser ar gyfer erlyniadau

21.  Ni chaniateir cychwyn unrhyw erlyniad am dramgwydd o dan baragraff (8) o reoliad 18 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—

(a)tair blynedd o ddyddiad cyflawni'r tramgwydd; neu

(b)blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,

p'un bynnag yw'r cynharaf.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources