xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5GORFODI A DARPARIAETHAU ATODOL

Tramgwyddau oherwydd bai person arall

45.  Pan fo tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn cael ei gyflawni gan unrhyw berson oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o'r tramgwydd yn rhinwedd y rheoliad hwn p'un a ddygir achos cyfreithiol yn erbyn y person a grybwyllwyd yn gyntaf neu beidio.

Amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy

46.—(1Mewn unrhyw achos cyfreithiol am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, bydd yn amddiffyniad, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i'r sawl a gyhuddir brofi ei fod wedi cymryd pob rhagofal rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni'r tramgwydd ei hun neu i osgoi iddo gael ei gyflawni gan berson sydd o dan ei reolaeth.

(2Os yw'r amddiffyniad sy'n cael ei ddarparu gan baragraff (1) yn cynnwys mewn unrhyw achos, yr honiad bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu drwy ddibynnu ar wybodaeth a ddarparwyd gan berson arall, ni fydd gan y sawl a gyhuddir, heb ganiatâd y llys, hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw, oni bai bod y sawl a gyhuddir—

(a)o leiaf saith niwrnod clir cyn y gwrandawiad; a

(b)pan fo wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig, o fewn un mis i'w ymddangosiad cyntaf hwnnw,

wedi cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r erlynydd yn rhoi unrhyw wybodaeth a fyddai'n fodd i adnabod neu i helpu i adnabod y person arall hwnnw a honno'n wybodaeth a oedd ar y pryd ym meddiant y sawl a gyhuddir.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

47.—(1Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw un o'r canlynol, neu y gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw un o'r canlynol—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhywswydd o'r fath,

bernir bod y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Ym mharagraff (1)(a) ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas ag unrhyw gorff corfforaethol a sefydlwyd gan neu o dan unrhyw ddeddfiad er mwyn rhedeg o dan berchenogaeth genedlaethol unrhyw ddiwydiant, neu ran o ddiwydiant neu ymgymeriad, a hwnnw'n gorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol hwnnw.

Tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd

48.  Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan bartneriaeth Albanaidd wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad partner, neu y gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran partner, bernir bod y partner hwnnw, yn ogystal â'r bartneriaeth, yn euog o'r tramgwydd hwnnw a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll

49.—(1Ni fydd swyddog i gorff perthnasol yn atebol yn bersonol am unrhyw weithred a gyflawnir ganddo—

(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol; a

(b)o fewn cwmpas ei gyflogaeth,

os gwnaeth y swyddog y weithred honno gan gredu'n onest bod ei ddyletswydd o dan y Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol yn ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny neu'n rhoi hawl iddo wneud hynny.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1) i'w ddehongli fel pe bai'n rhyddhau unrhyw gorff perthnasol rhag unrhyw rwymedigaeth mewn perthynas â gweithredoedd ei swyddogion.

(3Pan fo achos cyfreithiolawedi'i ddwyn yn erbyn swyddog i gorff perthnasol mewn perthynas â gweithred a wnaed gan y swyddog—

(a)wrth iddo weithredu neu honni ei fod yn gweithredu'r Rheoliadau Rheolaeth Swyddogol; ond

(b)y tu allan i gwmpas ei gyflogaeth,

caiff y corff indemnio'r swyddog yn erbyn y cyfan neu ran o unrhyw iawndal y gorchmynnwyd i'r swyddog ei dalu neu unrhyw gostau y gall y swyddog fod wedi'u tynnu, os yw'r corff hwnnw wedi'i fodloni bod y swyddog yn credu'n onest bod y weithred y cwynir amdani o fewn cwmpas ei gyflogaeth.

(4I'r graddau y mae awdurdod bwyd yn gorff perthnasol at ddibenion y rheoliad hwn, rhaid ymdrin â dadansoddydd cyhoeddus a benodwyd gan awdurdod bwyd at ddibenion y rheoliad hwn fel swyddog i'r awdurdod, p'un a yw penodiad y dadansoddydd yn benodiad amser-cyfan neu beidio.

(5Yn y rheoliad hwn ystyr “corff perthnasol” yw corff sy'n gweithredu—

(a)fel awdurdod cymwys;

(b)fel awdurdod gorfodi fel y'i diffinnir yn rheoliad 22; neu

(c)fel awdurdod gorfodi perthnasol.

Cyflwyno dogfennau

50.—(1Caniateir i unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir ei chyflwyno i berson o dan y Rheoliadau hyn gael ei chyflwyno i'r person o dan sylw—

(a)drwy ei thraddodi i'r person hwnnw;

(b)yn achos person sy'n gorff corfforaethol ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, drwy ei thraddodi i'w ysgrifennydd yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff corfforaethol, neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at yr ysgrifennydd yn y swyddfa honno;

(c)yn achos person sy'n bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, drwy ei thraddodi i aelod dynodedig o'r bartneriaeth yn swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r bartneriaeth neu drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig a gyfeirir at aelod dynodedig o'r bartneriaeth yn y swyddfa honno;

(ch)yn achos person sy'n bartneriaeth ac eithrio partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, drwy ei thraddodi i brif fan busnes y bartneriaeth; neu

(d)yn achos unrhyw berson arall, drwy ei gadael neu ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig sydd wedi'i gyfeirio at y person hwnnw yn ei breswylfan arferol neu ei breswylfan hysbys ddiwethaf.

(2Pan fo dogfen i'w chyflwyno i feddiannydd unrhyw fangre o dan y Rheoliadau hyn ac nad yw'n rhesymol ymarferol darganfod enw a chyfeiriad y person y dylid ei chyflwyno iddo, neu pan fo'r fangre heb ei meddiannu, caniateir i'r ddogfen gael ei chyflwyno drwy ei chyfeirio at y person o dan sylw yn rhinwedd ei swyddogaeth fel “meddiannydd” y fangre (gan enwi'r meddiannydd), ac—

(a)drwy ei thraddodi i ryw berson arall yn y fangre; a

(b)os nad oes unrhyw berson arall yn y fangre y gellir ei thraddodi iddo, drwy osod y ddogfen neu gopi ohoni ar ryw ran amlwg o'r fangre.

Diwygio Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005

51.  Yn lle Atodlen 1 (Cyfraith Bwyd Anifeiliaid Benodedig) i Reoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005(1) rhodder yr Atodlen a geir yn Atodlen 7 i'r Rheoliadau hyn.

Dirymu

52.  Mae'r Rheoliadau canlynolawedi'u dirymu—

(a)Rheoliadau Bwyd (Tsilis, Cynhyrchion Tsilis, Cwrcwma ac Olew Palmwydd) (Rheolaeth Frys) (Cymru) 2005(2);

(b)Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd 2007(3).