2009 Rhif 3378 (Cy.300)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (b), (2)(e) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at Atodiad i offeryn UE a bennir yn rheoliad 2(6) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, rhoesant sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd 3, ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.