Search Legislation

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 3378 (Cy.300)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009

Gwnaed

21 Rhagfyr 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

23 Rhagfyr 2009

Yn dod i rym

20 Ionawr 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a), (e) ac (f), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (b), (2)(e) a (3), a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), a pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at Atodiad i offeryn UE a bennir yn rheoliad 2(6) gael ei ddehongli fel cyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, rhoesant sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd (3), ymgynghorwyd yn agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 20 Ionawr 2010.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “asid” (“asid”) yw unrhyw sylwedd sy'n cynyddu asidedd bwyd a/neu'n rhoi iddo flas sur;

  • mae i “awdurdod bwyd” (“food authority”), yn ddarostyngedig i baragraff (3), yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1A) o'r Ddeddf;

  • ystyr “babanod” (“infants”) yw plant sydd o dan un flwydd oed;

  • ystyr “bwyd” (“food”) yw bwyd a werthir, neu y bwriedir ei werthu, i'w fwyta gan bobl, ac at ddibenion rheoliad 16 ac yn rheoliad 17, sy'n cynnwys lliw, melysydd ac ychwanegyn bwyd;

  • ystyr “bwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc” (“food for infants or young children”) yw bwyd o fewn cwmpas Erthygl 1.1, 2 a 3(c) o Gyfarwyddeb 09/39, ond sydd hefyd yn cynnwys unrhyw fwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc nad yw eu hiechyd yn dda;

  • ystyr “cadwolyn” (“preservative”) yw unrhyw sylwedd sy'n estyn oes silff bwyd drwy ei amddiffyn rhag dirywiad a achosir gan ficro-organebau;

  • mae i “cludydd” (“carrier”) a “toddydd cludo” (“carrier solvent”) yr ystyron, yn eu trefn, a roddir i “carrier” a “carrier solvent” yng Nghyfarwyddeb 95/2;

  • ystyr “codydd” (“raising agent”) yw unrhyw sylwedd neu gyfuniad o sylweddau sy'n rhyddhau nwy a thrwy hynny yn cynyddu cyfaint toes neu gytew;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 88/388 ”(“Directive 88/388”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 88/388/EEC ar ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau ynglŷn â chyflasynnau i'w defnyddio mewn bwydydd ac â deunyddiau crai ar gyfer eu cynhyrchu(4);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 94/35” (“Directive 94/3”) yw Cyfarwyddeb 94/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar felysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd(5);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 94/36” (“Directive 94/36”) yw Cyfarwyddeb 94/36/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar liwiau i'w defnyddio mewn bwydydd (6);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 95/2” (“Directive 95/2”) yw Cyfarwyddeb 95/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion(7);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 08/60” (“Directive 08/60”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/60/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ynglŷn â melysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd(8);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 08/84” (“Directive 08/84”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/84/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion(9);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 08/128” (“Directive 08/128”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2008/128/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer lliwiau i'w defnyddio mewn bwydydd(10);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 09/39” (“Directive 09/39”) yw Cyfarwyddeb 2009/39/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwydydd i'w defnyddio at ddibenion maethol penodol (ail-luniwyd)(11);

  • mae i “cyflasyn” (“flavouring”) yr ystyr a roddir i “flavouring” yn Erthygl 1.2 o Gyfarwyddeb 88/388;

  • ystyr “cyfrwng ewynnu” (“foaming agent”) yw unrhyw sylwedd sy'n gwneud yn bosibl ffurfio gwasgariad homogenaidd o wedd nwyol yn bosibl mewn bwyd hylifol neu solid;

  • ystyr “cyfrwng gelio” (“gelling agent”) yw unrhyw sylwedd sy'n rhoi gwead i fwyd drwy ffurfio gel;

  • ystyr “cyfrwng gwrthdalpio” (“anti-caking agent”) yw unrhyw sylwedd sy'n lleihau tuedd gronynnau unigol o fwyd i lynu wrth ei gilydd;

  • ystyr “cyfrwng gwrthewynnu” (“anti-foaming agent”) yw unrhyw sylwedd sy'n atal neu'n lleihau ewynnu;

  • ystyr “cyfrwng sadio” (“firming agent”) yw unrhyw sylwedd sy'n gwneud neu'n cynnal meinweoedd ffrwythau neu lysiau mewn cyflwr cadarn neu gras, neu sy'n rhyngweithio â chyfrwng gelio i gynhyrchu neu gryfhau gel;

  • ystyr “cyfrwng sgleinio” (“glazing agent”) yw unrhyw sylwedd, pan osodir ef ar arwyneb allanol bwyd, sy'n rhoi gwedd loyw i'r bwyd neu'n darparu haen amddiffynnol, ac yn cynnwys ireidiau;

  • ystyr “cyfrwng swmpuso” (“bulking agent”) yw unrhyw sylwedd sy'n cyfrannu at gyfaint bwyd, heb gyfrannu'n sylweddol at yr ynni sydd ar gael ohono;

  • ystyr “cyfrwng trin blawd” (“flour treatment agent”) yw sylwedd a ychwanegir at flawd neu does i wella ei ansawdd ar gyfer pobi, ond nid yw'n cynnwys unrhyw emylsydd;

  • ystyr “cymhorthyn prosesu” (“processing aid”) yw unrhyw sylwedd, nas bwyteir fel bwyd ar ei ben ei hunan, a ddefnyddir yn fwriadol wrth brosesu deunyddiau crai, bwydydd neu'u cynhwysion i gyflawni diben technolegol penodol wrth drin neu brosesu, ac a allai achosi presenoldeb anfwriadol, ond technegol anochel, gweddillion o'r sylwedd neu'i ddeilliadau yn y cynnyrch terfynol, ond yn unig pan nad yw'r gweddillion hynny yn achosi unrhyw risg i iechyd nac yn cael unrhyw effaith dechnolegol ar y cynnyrch gorffenedig;

  • ystyr “darpariaeth Rheoliad 1333/2008 benodedig” (“specified Regulation 1333/2008 provision”) yw unrhyw ddarpariaeth o Reoliad 1333/2008 a nodir yn y golofn gyntaf o'r Atodlen ac y disgrifir ei bwnc yn ail golofn yr Atodlen honno;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “emylsydd” (“emulsifier”) yw unrhyw sylwedd sy'n gwneud yn bosibl ffurfio neu gynnal cymysgedd homogenaidd o ddwy neu ragor o weddau anghymysgadwy, megis olew a dŵr, mewn bwyd;

  • mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu ar gyfer gwerthu, a chynnig, dangos neu hysbysebu ar gyfer gwerthu, a dehonglir “gwerthiant” (“sale” ) a “sold” (“gwerthwyd” ) yn unol â hynny;

  • ystyr “gwlybyrydd” (“humectant”) yw unrhyw sylwedd sy'n atal bwyd rhag sychu, drwy wrthweithio yn erbyn effaith lleithder isel yn yr awyrgylch, neu sy'n hyrwyddo ymdoddiad powdr mewn cyfrwng dyfrllyd;

  • ystyr “gwrthocsidydd” (“antioxidant”) yw unrhyw sylwedd sy'n estyn oes silff bwyd drwy ei amddiffyn rhag dirywiad a achosir gan ocsideiddio, gan gynnwys egrwydd braster a newidiadau o ran lliw;

  • ystyr “gyrrydd” (“propellant”) yw unrhyw nwy, ac eithrio aer, sy'n allyrru bwyd allan o gynhwysydd;

  • ystyr “halwyn emylsio” (“emulsifying salt”) yw unrhyw sylwedd sy'n trawsnewid y proteinau mewn caws i ffurf wasgaredig, a thrwy hynny greu dosbarthiad homogenaidd o'r braster a'r cydrannau eraill;

  • mae i “lliw” (“colour”) yr ystyr a roddir i “colour” yng Nghyfarwyddeb 94/36;

  • ystyr “lliw a ganiateir” (“permitted colour”) yw unrhyw liw a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 94/36 sy'n bodloni'r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y lliw hwnnw, a bennir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 08/128;

  • ystyr “lliw penodedig a ganiateir” (“specified permitted colour”) yw unrhyw liw a ganiateir ac eithrio—

    (a)

    E123 Amaranth;

    (b)

    E127 Erythrosine;

    (c)

    E128 Red 2G;

    (ch)

    E154 Brown FK;

    (d)

    E160b Annatto, bixin, norbixin;

    (dd)

    E161g Canthaxanthin;

    (e)

    E173 Aluminium; ac

    (h)

    E180 Litholrubine BK;

  • ystyr “meini prawf purdeb” (“purity criteria”), mewn perthynas ag ychwanegyn amrywiol, yw'r meini prawf purdeb a bennir mewn perthynas â'r ychwanegyn hwnnw yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 08/84/EC;

  • ystyr “melysydd” (“sweetener”) yw unrhyw ychwanegyn bwyd a ddefnyddir neu a fwriedir i'w ddefnyddio—

    (a)

    i roi blas melys i fwyd; neu

    (b)

    fel melysydd pen-bwrdd;

  • ystyr “melysydd a ganiateir” (“permitted sweetener”) yw unrhyw felysydd a nodir yn yr ail golofn o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 94/35 sy'n bodloni'r meini prawf purdeb penodol ar gyfer y melysydd hwnnw, a bennir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb 08/60;

  • ystyr “nwy pecynnu” (“packaging gas”) yw unrhyw nwy ac eithrio aer, a osodir mewn cynhwysydd cyn, yn ystod, neu ar ôl rhoi bwyd yn y cynhwysydd hwnnw;

  • ystyr “plant ifanc” (“young children”) yw plant rhwng un flwydd a thair blwydd oed;

  • ystyr “Rheoliad 1333/2008” (“Regulation 1333/2008”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd (12);

  • ystyr “rheolydd asidedd” (“acidity regulator”) yw unrhyw sylwedd sy'n newid neu'n rheoli asidedd neu alcalinedd bwyd;

  • mae i'r ymadrodd “rhoi ar y farchnad” (“placing on the market”) yr ystyr a roddir i “placing on the market” yn Erthygl 3.8 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

  • ystyr “secwestrydd” (“sequestrant”) yw unrhyw sylwedd sy'n ffurfio cymhlygyn cemegol gydag ionau metelig;

  • mae i “sefydlogydd” (“stabiliser”) yr ystyr a roddir i “stabiliser” yng Nghyfarwyddeb 95/2;

  • ystyr “startsh addasedig” (“modified starch”) yw unrhyw sylwedd a geir drwy gyfrwng un neu ragor o driniaethau ar startsh bwytadwy, a allai fod wedi cael triniaeth ffisegol neu ensymatig ac wedi ei deneuo ag asid neu alcali, neu wedi ei gannu;

  • ystyr “sylwedd gwella blas” (“flavour enhancer”) yw unrhyw sylwedd sy'n gwella blas presennol a/neu arogl bwyd;

  • ystyr “tewychydd” (“thickener”) yw unrhyw sylwedd sy'n cynyddu gludedd bwyd;

  • ystyr “ychwanegyn amrywiol” (“miscellaneous additive”) yw unrhyw ychwanegyn bwyd a ddefnyddir neu a fwriedir i'w ddefnyddio yn bennaf fel asid, rheolydd asidedd, cyfrwng gwrthdalpio, cyfrwng gwrthewynnu, gwrthocsidydd, cyfrwng swmpuso, cludydd, toddydd cludo, emylsydd, halwyn emylsio, cyfrwng sadio, sylwedd gwella blas, cyfrwng trin blawd, cyfrwng ewynnu, cyfrwng gelio, cyfrwng sgleinio, gwlybyrydd, startsh addasedig, nwy pecynnu, cadwolyn, gyrrydd, codydd, secwestrydd, sefydlogydd neu dewychydd, ond nid yw'n cynnwys unrhyw gymhorthyn prosesu nac unrhyw ensym ac eithrio infertas neu lysosym;

  • ystyr “ychwanegyn amrywiol a ganiateir” (“permitted miscellaneous additive”) yw unrhyw ychwanegyn amrywiol a restrir yn Atodiad I,III, IV neu V i Gyfarwyddeb 95/2 sy'n bodloni'r meini prawf purdeb (os oes rhai) ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw;

  • mae i “ychwanegyn bwyd” (“food additive”) ystyr fel a ganlyn—

    (a)

    yn ddarostyngedig i baragraffau (b) ac (c), unrhyw sylwedd, pa un a oes iddo werth maethol ai peidio, nas bwyteir fel arfer fel bwyd ynddo'i hunan ac nas defnyddir fel cynhwysyn nodweddiadol mewn bwyd, ac o'i ychwanegu at fwyd yn fwriadol at ddiben technolegol wrth weithgynhyrchu, prosesu, paratoi, trin, pecynnu, cludo neu storio'r bwyd, sy'n peri, neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo beri, bod y sylwedd neu'i sgil-gynhyrchion yn mynd, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, yn gydran o'r bwyd dan sylw;

    (b)

    yn y diffiniad o “bwyd” ac at ddibenion rheoliadau 8 i 10, 16 ac 17, mae'n cynnwys cludydd neu doddydd cludo; ac

    (c)

    at ddibenion rheoliadau 8 i 10, nid yw'n cynnwys—

    (i)

    unrhyw sylwedd a ddefnyddir i drin dŵr yfed, y darperir ar ei gyfer yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl(13),

    (ii)

    unrhyw gynnyrch sy'n cynnwys pectin ac sy'n deillio o weisgion afalau sychion neu bil ffrwythau sitrws neu gymysgedd o'r ddau, drwy weithrediad asid gwanedig a ddilynir gan niwtraleiddio'n rhannol gyda halwynau sodiwm neu botasiwm (pectin hylifol),

    (iii)

    seiliau gwm cnoi,

    (iv)

    decstrin gwyn neu felyn, startsh wedi ei rostio neu'i ddecstrineiddio, startsh a addesir gan driniaeth ag asid neu alcali, startsh wedi ei gannu, startsh a addaswyd yn ffisegol a startsh a driniwyd ag ensymau amylolitig,

    (v)

    amoniwm clorid,

    (vi)

    plasma gwaed, gelatin bwytadwy, hydrolysadau protein a'u halwynau, protein llaeth a glwten,

    (vii)

    asidau amino a'u halwynau (ac eithrio asid glwmatig, glysin, cystein a chystin a'u halwynau) nad oes ganddynt swyddogaeth ychwanegiadol,

    (viii)

    caseinadau a chasein, ac

    (ix)

    inwlin; ac

  • ystyr “ychwanegyn bwyd perthnasol” (“relevant food additive”) yw ychwanegyn amrywiol, lliw neu felysydd, neu ensym nad yw'n gweithredu fel cymhorthyn prosesu.

(2Mae i'r ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir yr ymadroddion Saesneg cyfatebol yng Nghyfarwyddeb 94/35, 94/36 neu 95/2, yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae'r cyd-destun yn caniatáu ag y sydd i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn y Gyfarwyddeb dan sylw.

(3Pan aseinir unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(14), i awdurdod iechyd porthladd;

(b)drwy orchymyn o dan adran o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(15), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig; neu

(c)drwy orchymyn o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985(16), i awdurdod sengl ar gyfer sir fetropolitanaidd,

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u haseinio felly iddo.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at—

(a)lefel uchaf o liw a ganiateir mewn neu ar fwyd, yn gyfeiriad at y lefel uchaf, mewn miligramau, o'r sylwedd lliwio a gynhwysir yn y lliw a ganiateir hwnnw, am bob cilogram neu, yn ôl fel y digwydd, pob litr, o fwyd sy'n barod i'w fwyta ac wedi ei baratoi yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio;

(b)lefel uchaf o ychwanegyn amrywiol a ganiateir mewn neu ar fwyd, neu mewn perthynas ag ychwanegyn bwyd, yn gyfeiriad at y lefel uchaf o'r ychwanegyn amrywiol a ganiateir hwnnw sydd yn neu ar y bwyd, neu mewn perthynas â'r ychwanegyn bwyd, pan werthir y bwyd neu'r ychwanegyn bwyd, oni ddynodir fel arall; neu

(c)quantum satis, mewn perthynas â defnyddio lliwiau a ganiateir neu ychwanegion amrywiol a ganiateir mewn neu ar fwyd, yn golygu na phennwyd lefel uchaf o liw a ganiateir neu o ychwanegyn amrywiol a ganiateir ar gyfer ei ddefnyddio mewn neu ar fwyd penodol, ond ceir defnyddio lliw a ganiateir neu ychwanegyn amrywiol a ganiateir yn y bwyd hwnnw neu arno, yn unol ag arferion gweithgynhyrchu da, ar lefel nad yw'n uwch na'r lefel sydd ei hangen i gyflawni'r diben a fwriedir, a hynny yn unig os nad yw defnydd o'r fath yn camarwain y defnyddiwr.

(5Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Atodiad i offeryn UE a bennir ym mharagraff (6) yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd.

(6Yr offerynnau UE yw Cyfarwyddeb 94/35, Cyfarwyddeb 95/2 a Rheoliad 1333/2008.

Defnyddio lliwiau mewn neu ar fwyd

3.—(1Ni chaiff neb ddefnyddio, mewn neu ar unrhyw fwyd, unrhyw liw ac eithrio lliw a ganiateir.

(2Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw a ganiateir mewn neu ar unrhyw fwyd a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 94/36 ac eithrio yn unol â pharagraff (3)(a).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac i reoliadau 4 a 5, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw a ganiateir mewn neu ar unrhyw fwyd onid yw'r bwyd—

(a)yn un a restrir—

(i)yn y golofn gyntaf o Atodiad III i Gyfarwyddeb 94/36, ac os felly, ceir defnyddio, yn y cyfryw fwyd neu arno, unrhyw liw a ganiateir a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn ail golofn yr Atodiad hwnnw, mewn maint nad yw'n fwy na'r lefel uchaf ar gyfer y cyfryw liw a ganiateir yn y bwyd hwnnw neu arno, fel a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodiad hwnnw,

(ii)yn yr ail golofn o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 94/36, ac os felly, ceir defnyddio, yn y cyfryw fwyd neu arno, unrhyw liw a ganiateir a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yng ngholofn gyntaf yr Atodiad hwnnw, mewn maint nad yw'n fwy na'r lefel uchaf ar gyfer y cyfryw liw a ganiateir yn y bwyd hwnnw neu arno, fel a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodiad hwnnw; neu

(iii)yng ngholofn gyntaf y Tabl yn Rhan 2 o Atodiad V i Gyfarwyddeb 94/36, ac os felly, ceir defnyddio, yn y cyfryw fwyd neu arno, unrhyw liw a ganiateir a restrir yn Rhannau I neu 2 o'r Atodiad hwnnw, yn unol â'r amodau a gynhwysir yn yr Atodiad hwnnw sy'n llywodraethu'r defnydd o'r cyfryw liw yn y cyfryw fwyd neu arno; neu

(b)yn un nas rhestrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb 94/36 nac yn y golofn gyntaf o Atodiad III i'r Gyfarwyddeb honno, ac os felly ceir defnyddio, yn y cyfryw fwyd neu arno, unrhyw un neu ragor o'r lliwiau a ganiateir a restrir yn Rhan I o Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno, hyd at y maint quantum satis (ym mhob achos).

(4Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw a ganiateir, a restrir yn y golofn gyntaf o Atodiad IV i Gyfarwyddeb 94/36, mewn neu ar unrhyw fwyd ac eithrio'r bwyd neu fwydydd a restrir, mewn perthynas â'r lliw a ganiateir hwnnw, yn yr ail golofn o'r Atodiad hwnnw.

Marcio iechyd etc. cigoedd a chynhyrchion cig penodol

4.  Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw at ddiben y marcio iechyd sy'n ofynnol gan Erthygl 5.1(a) o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid(17) nac unrhyw farcio arall sy'n ofynnol ar unrhyw gynnyrch cig, ac eithrio'r lliwiau a ganiateir canlynol—

(a)E155 Brown HT;

(b)E133 Brilliant Blue FCF;

(c)E129 Allura Red AC; neu

(ch)cymysgedd priodol o (b) ac (c).

Defnyddio lliwiau ar blisgyn wyau

5.  Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw liw ar gyfer—

(a)lliwio addurniadol ar blisgyn wyau, neu

(b)marcio plisgyn wyau (fel y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac yn gwneud darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (y Rheoliad Sengl CMO))(18),

ac eithrio lliw a ganiateir.

Gwerthu lliwiau a bwyd sy'n cynnwys lliwiau

6.—(1Ni chaiff neb werthu unrhyw liw i'w ddefnyddio mewn neu ar fwyd onid yw'r lliw hwnnw yn lliw a ganiateir.

(2Ni chaiff neb werthu yn uniongyrchol i'r defnyddiwr unrhyw liw ac eithrio lliw penodedig a ganiateir.

(3Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd sydd ag unrhyw liw wedi ei ychwanegu ynddo neu arno, ac eithrio lliw a ganiateir, a ddefnyddiwyd yn y bwyd hwnnw neu arno heb dorri unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 3, 4 neu 5.

Darpariaeth drosiannol

7.  Mewn unrhyw achos ynglŷn â thramgwydd o dorri rheoliad 3, 4, 5 neu 6, mae'n amddiffyniad os profir—

(a)bod y lliw neu'r bwyd sy'n destun yr achos wedi ei roi ar y farchnad neu'i labelu cyn 1 Ebrill 2005; a

(b)na fyddai'r mater sy'n peri'r tramgwydd wedi peri tramgwydd o dan Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(19) fel yr oeddent yn union cyn i Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005(20) ddod i rym.

Defnyddio ychwanegion amrywiol

8.—(1Ni chaiff neb ddefnyddio mewn neu ar unrhyw fwyd unrhyw ychwanegyn amrywiol ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff cyntaf Nodyn 3 i Atodiad I i Gyfarwyddeb 95/2, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir a restrir yn yr Atodiad hwnnw mewn neu ar unrhyw fwyd sydd wedi ei restru yn Erthygl 2.3(a) o'r Gyfarwyddeb honno, ond nid yn y golofn gyntaf o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff cyntaf Nodyn 3 i Atodiad I i Gyfarwyddeb 95/2, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir a restrir yn yr Atodiad hwnnw mewn neu ar unrhyw fwyd a restrir yn y golofn gyntaf o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno, ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a restrir neu y cyfeirir ato mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn yr ail golofn o'r Atodiad hwnnw, mewn maint nad yw'n fwy na'r lefel uchaf (os oes un) ar gyfer y cyfryw ychwanegyn, yn y bwyd hwnnw neu arno, fel a restrir yn y drydedd golofn o'r Atodiad hwnnw.

(4Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb 95/2 mewn neu ar unrhyw fwyd nad yw wedi ei restru yn Erthygl 2.3(a) o'r Gyfarwyddeb honno nac yn y golofn gyntaf o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb honno ac nad yw'n fwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc, mewn maint sy'n fwy na quantum satis nac mewn modd nad yw'n cydymffurfio â Nodyn 2 ac ail baragraff Nodyn 3 i Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno.

(5Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir a restrir yn Atodiad III neu IV i Gyfarwyddeb 95/2 mewn neu ar unrhyw fwyd nad yw'n fwyd i fabanod neu blant ifanc, ac eithrio bwyd a restrir yn y naill neu'r llall o'r Atodiadau hynny mewn perthynas â'r ychwanegyn hwnnw ac yn unol â'r darpariaethau a gynhwysir yn yr Atodiadau hynny, sy'n llywodraethu'r defnydd o'r cyfryw ychwanegyn yn y bwyd hwnnw neu arno

(6Ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol yn bennaf fel cludydd neu doddydd cludo onid yw'r ychwanegyn hwnnw yn ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a restrir yn Atodiad V i Gyfarwyddeb 95/2, ac y mae ei ddefnyddio yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau (os oes rhai) a grybwyllir mewn perthynas â'r ychwanegyn hwnnw yn y drydedd golofn o'r Atodiad hwnnw.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff cyntaf Nodyn 3 i Atodiad I i Gyfarwyddeb 95/2, ni chaiff neb ddefnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir mewn neu ar unrhyw fwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc onid yw'r ychwanegyn hwnnw wedi ei restru yn Atodiad VI i Gyfarwyddeb 95/2 , ac os felly caniateir ei ddefnyddio yn unol â'r amodau hynny yn unig, a gynhwysir yn yr Atodiad hwnnw.

(8Ni chaiff neb ddefnyddio, mewn neu ar unrhyw fwyd ar gyfer babanod a phlant ifanc, unrhyw ychwanegyn bwyd perthnasol mewn cyfuniad gydag ychwanegyn amrywiol sydd wedi ei ddefnyddio'n bennaf fel cludydd neu doddydd cludo, onid yw'r ychwanegyn amrywiol hwnnw wedi ei restru yn Atodiad VI i Gyfarwyddeb 95/2 a'i bresenoldeb yn y bwyd neu arno yn unol â'r amodau a gynhwysir yn yr Atodiad hwnnw.

Gwerthu ychwanegion bwyd a bwyd sy'n cynnwys ychwanegion amrywiol

9.—(1Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn amrywiol ar gyfer ei ddefnyddio mewn neu ar fwyd onid yw'r ychwanegyn hwnnw'n ychwanegyn amrywiol a ganiateir.

(2Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn amrywiol ar gyfer ei ddefnyddio'n bennaf fel cludydd neu doddydd cludo onid yw'r ychwanegyn hwnnw'n ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a restrir yn Atodiad V i Gyfarwyddeb 95/2.

(3Ni chaiff neb werthu yn uniongyrchol i'r defnyddiwr unrhyw ychwanegyn amrywiol ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir.

(4Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd sydd ag unrhyw ychwanegyn amrywiol ynddo neu arno, onid yw'r ychwanegyn yn ychwanegyn amrywiol a ganiateir ac wedi ei ddefnyddio, neu'n bresennol, yn y bwyd hwnnw neu arno heb dorri unrhyw un o ddarpariaethau rheoliad 8(1), (2), (3), (4), (5), (7) neu (8).

(5Ni chaiff neb werthu unrhyw ychwanegyn bwyd perthnasol mewn cyfuniad gydag ychwanegyn amrywiol sydd wedi ei ddefnyddio'n bennaf fel cludydd neu doddydd cludo, onid yw'r ychwanegyn amrywiol hwnnw wedi ei ddefnyddio mewn perthynas â'r ychwanegyn bwyd perthnasol hwnnw heb dorri darpariaethau rheoliad 8(6).

Darpariaethau trosiannol ac esemptiad

10.—(1Mewn unrhyw achos ynglŷn â thramgwydd o dorri rheoliad 8(1) pan honnir nad yw ychwanegyn amrywiol wedi bodloni'r meini prawf purdeb ar gyfer yr ychwanegyn hwnnw, mae'n amddiffyniad os yw'r cyhuddedig yn dangos—

(a)mai'r ychwanegyn amrywiol dan sylw yw E431-E43 neu polyethylen glycol 000 a bod yr ychwanegyn amrywiol dan sylw, neu unrhyw fwyd y'i defnyddiwyd ynddo neu arno, wedi ei roi ar y farchnad neu'i labelu cyn 1 Tachwedd 2004; neu

(b)mai'r ychwanegyn amrywiol dan sylw yw E407, E407A, E1517 neu E1519 ac y rhoddwyd yr ychwanegyn amrywiol neu'r bwyd sydd dan sylw ar y farchnad, neu y'i labelwyd, cyn 1 Ebrill 2005,

ac na fyddai'r mater sy'n peri'r tramgwydd wedi peri tramgwydd o dan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(21) pe na bai'r diwygiadau a wnaed gan reoliad 3 o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Cymru) 2005(22) wedi bod mewn grym pan ddigwyddodd y mater hwnnw.

(2Mewn unrhyw achos ar gyfer tramgwydd o dorri rheoliad 8 neu 9 mewn perthynas ag unrhyw ychwanegyn bwyd, bwyd neu gyflasyn, mae'n amddiffyniad os profir bod—

(a)yr ychwanegyn bwyd, bwyd neu gyflasyn dan sylw wedi ei roi ar y farchnad neu'i labelu cyn 27 Ionawr 2006; a

(b)na fyddai'r mater sy'n peri'r tramgwydd wedi peri tramgwydd o dan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 pe na bai'r diwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau hynny gan reoliadau 3 i 6, 7(b), 8(a) a (b), 9(a), 10 ac 11(a) i (c), (d) i (ff) a (h) i (i) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2005(23) wedi bod mewn grym pan roddwyd yr ychwanegyn bwyd, bwyd neu gyflasyn ar y farchnad neu y'i labelwyd.

(3Mewn unrhyw achos ar gyfer tramgwydd o dorri rheoliad 8 neu 9 mewn perthynas ag unrhyw ychwanegyn bwyd neu fwyd, mae'n amddiffyniad os profir bod—

(a)yr ychwanegyn bwyd neu'r bwyd dan sylw wedi ei roi ar y farchnad neu'i labelu cyn 15 Awst 2008; a

(b)na fyddai'r mater sy'n peri'r tramgwydd wedi peri tramgwydd o dan Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 pe na bai'r diwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau hynny gan reoliadau 5(a), 6(a), (b) ac (ch), ac 8 o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol a Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2008(24) wedi bod mewn grym pan roddwyd yr ychwanegyn bwyd, neu'r bwyd ar y farchnad neu y'i labelwyd.

Rhoi melysyddion ar y farchnad, a'u defnyddio

11.—(1Ni chaiff neb roi ar y farchnad felysydd y bwriedir—

(a)ei werthu i'r defnyddiwr terfynol; neu

(b)ei ddefnyddio mewn, neu ar, unrhyw fwyd,

ac eithrio melysydd a ganiateir.

(2Ni chaiff neb ddefnyddio melysydd mewn, neu ar, unrhyw fwyd, ac eithrio melysydd a ganiateir—

(a)a ddefnyddir mewn neu ar unrhyw fwyd a restrir yn y drydedd golofn o'r Atodiad i Gyfarwyddeb 94/35 mewn maint nad yw'n fwy na'r dos defnyddiadwy mwyaf ar gyfer y melysydd hwnnw, a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn y bedwaredd golofn o'r Atodiad hwnnw; a

(b)a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn yr ail golofn o'r Atodiad hwnnw.

Gwerthu bwyd sy'n cynnwys melysyddion

12.  Ni chaiff neb werthu unrhyw fwyd sydd â melysydd ynddo neu arno, ac eithrio melysydd a ganiateir, a ddefnyddiwyd yn y bwyd hwnnw neu arno heb dorri paragraff (2) o reoliad 11.

Darpariaeth drosiannol

13.  Mewn unrhyw achos ar gyfer tramgwydd o dorri rheoliad 11 neu 12, mae'n amddiffyniad os profir—

(a)bod y weithred sy'n peri'r tramgwydd wedi ei chyflawni cyn 29 Ionawr 2006;

(b)mai'r weithred sy'n peri tramgwydd oedd—

(i)gwerthu melysydd neu fwyd, neu

(ii)defnyddio melysydd mewn neu ar fwyd,

a oedd, yn y naill achos neu'r llall wedi ei roi ar y farchnad cyn 29 Gorffennaf 2005; ac

(c)na fyddai'r weithred sy'n peri'r tramgwydd wedi peri tramgwydd o dan Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995(25) pe na bai'r diwygiadau a wnaed gan reoliadau 3(1)(a) ac (c) a (2) a 4, 5, 6 a 7 o Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2005(26) wedi bod mewn grym pan ddigwyddodd y weithred.

Tramgwyddau a chosbau

14.—(1Mae person sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o reoliad 3, 4, 5, 6, 8, 9, 11 neu 12 yn euog o dramgwydd ac yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol yn Erthygl 34 o Reoliad 1333/2008, mae person sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio ag—

(a)unrhyw ddarpariaeth benodedig o Reoliad 1333/2008;

(b)cyn 1 Ionawr 2011, Erthygl 4.2 (fel y'i darllenir ynghyd ag Erthyglau 12, 13.2, 18.3 a 35) o Reoliad 1333/2008 (gofyniad i ddefnyddio, mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd neu gyflasynnau bwyd, yr ychwanegion bwyd hynny yn unig a gynhwysir yn Rhan 1 neu 4 o Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw ac i'w defnyddio yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr Atodiad hwnnw);

(c)ar neu ar ôl 1 Ionawr 2011, Erthygl 4.2 (fel y'i darllenir ynghyd ag Erthyglau 12, 13.2, 18.3 a 35) o Reoliad 1333/2008 (gofyniad i ddefnyddio, mewn ychwanegion bwyd, ensymau bwyd neu gyflasynnau bwyd, yr ychwanegion bwyd hynny yn unig a gynhwysir yn Atodiad III i'r Rheoliad hwnnw ac i'w defnyddio yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr Atodiad hwnnw);

(ch)ar neu ar ôl 20 Ionawr 2011, Erthygl 23.4 o Reoliad 1333/2008 (gofyniad bod gweithgynhyrchwyr melysyddion pen-bwrdd yn rhoi ar gael, mewn ffyrdd priodol, yr wybodaeth angenrheidiol i ganiatáu i'r defnyddwyr eu defnyddio'n ddiogel); neu

(d)ar neu ar ôl 20 Gorffennaf 2010, Erthygl 24.1 (fel y'i darllenir ynghyd ag Erthygl 24.2 a'r trydydd paragraff o Erthygl 31) o Reoliad 1333/2008 (gofyniad bod y labeli ar fwyd sy'n cynnwys y lliwiau bwyd a restrir yn Atodiad V i'r Rheoliad hwnnw yn cynnwys yr wybodaeth ychwanegol a bennir yn yr Atodiad hwnnw),

yn euog o dramgwydd ac yn agored, ar gollfarn ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gweithredu a gorfodi

15.  Rhaid i bob awdurdod bwyd weithredu a gorfodi, o fewn ei ardal, y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1333/2008.

Cymhwyso amrywiol adrannau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990

16.—(1Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.);

(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(27) gyda'r addasiad bod—

(i)is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a

(ii)yn is-adran (4)(b) ystyrir bod y cyfeiriadau at “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market” ;

(ch)adran 22 (amddiffyniad o gyhoeddi yng nghwrs busnes);

(d)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(dd)adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)(28), i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(b);

(e)adran 35(2) a (3)(29), i'r graddau y mae'n ymwneud ag adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (3)(c);

(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac

(ff)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(30).

(2Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad), at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid dehongli'r cyfeiriadau at y Ddeddf yn is-adran (1) fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at Reoliad 1333/2008.

(3Mae'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at y Ddeddf yn y darpariaethau hynny i'w ddehongli fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at Reoliad 1333/2008 a'r Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybiaeth bod bwyd wedi ei fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl) gyda'r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriadau at “sold” a “sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “placed on the market” a “placing on the market”, yn eu trefn;

(b)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(c)adran 33(2), gyda'r addasiad yr ystyrir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (b); ac

(ch)adran 44 (diogelu swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).

(4Mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyniadau) yn gymwys i dramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys i dramgwyddau cosbadwy o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.

Condemnio bwyd

17.  Pan fo dadansoddwr bwyd yn ardystio bod unrhyw fwyd yn fwyd y byddai'n dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ei ddefnyddio, ei werthu neu ei roi ar y farchnad,ceir trin y bwyd hwnnw at ddibenion adran 9 o'r Ddeddf (sy'n caniatáu ymafael mewn bwyd a'i ddinistrio ar orchymyn ynad heddwch) fel bwyd nad yw'n cydymffurfio â gofynion diogelwch bwyd.

Diwygiadau canlyniadol

18.—(1Yn Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 1966(31) yn rheoliad 3 (esemptiadau), yn lle is-baragraff (d) o baragraff (1), i'r graddau y mae'r ddarpariaeth honno'n gymwys o ran Cymru, rhodder yr is-baragraff canlynol—

(d)any food containing mineral hydrocarbon that is used in the food as a miscellaneous additive as defined in the Food Additives (Wales) Regulations 2009 in compliance with the provisions of those Regulations..

(2Yn Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003(32), yn lle paragraff o Atodlen 3 (cynhwysion ychwanegol a ganiateir mewn cynhyrchion dynodedig penodol) rhodder y paragraff canlynol—

6.  Mewn unrhyw gynnyrch dynodedig, ceir ychwanegu unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd..

(3Yn Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003(33) yn lle paragraff (a) o Nodyn 1 i Atodlen 1 (cynhyrchion llaeth sydd wedi'u dadhydradu a'u preserfio yn rhannol neu'n llwyr a'u disgrifiadau neilltuedig) rhodder y Nodyn canlynol—

(a)Caiff unrhyw gynnyrch dynodedig gynnwys—

(i)unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd, a

(ii)fitaminau a mwynau yn unol â gofynion Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegu fitaminau a mwynau a sylweddau eraill penodol at fwydydd (34)..

(4Yn Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004(35), yn lle'r Nodyn cyntaf i Atodlen 3 (cynhwysion ychwanegol nad oes angen eu dynodi yn enw'r bwyd mewn achos cynnyrch cig y mae rheoliad 5 yn gymwys iddo) rhodder y Nodyn canlynol—

  • At ddibenion eitem 1 o'r Atodlen hon, ystyr “ychwanegyn” yw unrhyw sylwedd a ganiateir ar gyfer ei ddefnyddio mewn bwyd yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd neu Reoliad (EC) Rhif 1334/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â chyflasynnau a chynhwysion bwyd penodol sydd â phriodweddau cyflasu ar gyfer eu defnyddio mewn ac ar fwydydd ac yn diwygio Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1601/91, Rheoliadau (EC) Rhif 2232/96 ac (EC) Rhif 110/2008 a Chyfarwyddeb 2000/13/EC.(36).

(5Yn Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004(37)

(a)ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) yn lle'r diffiniad o “melysydd a ganiateir” (“permitted sweetener”) rhodder y diffiniad canlynol—

  • ystyr “melysydd a ganiateir” (“permitted sweetener”) yw unrhyw felysydd i'r graddau y caniateir ei ddefnyddio yn y cynnyrch jam neu'r cynnyrch tebyg penodedig gan Reoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2009;; a

(b)yn Atodlen 2 (cynhwysion ychwanegol a ganiateir a thriniaethau awdurdodedig ar gyfer cynhyrchion a ddisgrifiwyd yn eitemau 1 i 7 o Atodlen 1), yn lle is-baragraff (i) o baragraff (1) rhodder yr is-baragraff canlynol—

(i)unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd..

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr enodedig (Cymru) 2003

19.  Yn Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003(38), yn lle Nodyn 7 i Atodlen 1 (cynhyrchion siwgr penodedig a'u disgrifiadau neilltuedig) rhodder y Nodyn canlynol—

7.  Caiff cynhyrchion siwgr penodedig gynnwys unrhyw sylwedd a ganiateir yn unol â Chyfarwyddeb 2009/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-Wladwriaethau ynglŷn â thoddyddion echdynnu a ddefnyddir wrth gynhyrchu bwydydd a chynhwysion bwyd (Ail-luniwyd)(39) neu Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd..

Dirymiadau

20.  Dirymir y Rheoliadau canlynol i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992(40);

(b)Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995;

(c)Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995; ac

(ch)Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995.

Gwenda Thomas

Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

21 Rhagfyr 2009

Rheoliad 2(1)

YR ATODLENDARPARIAETHAU RHEOLIAD 1333/2008 PENODEDIG

Darpariaeth Rheoliad 1333/2008Y Pwnc
Erthygl 4.1 (fel y'i darllenir ar y cyd ag Erthyglau 11.3 a 4, 12, 13.2, 15, 16 ac 18.1(a), 2 a 3)Gofyniad mai ychwanegion bwyd a gynhwysir yn y rhestr yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008, yn unig, a osodir ar y farchnad fel y cyfryw, ac y'u defnyddir yn unol ag unrhyw amodau a bennir yn yr Atodiad hwnnw.
Erthygl 4.5Gofyniad bod ychwanegion bwyd yn cydymffurfio â'r manylebau y cyfeirir atynt yn Erthygl 14 o Reoliad 1333/2008.
Erthygl 5Gwaharddiad ar osod ar y farchnad ychwanegion bwyd neu fwyd sy'n cynnwys ychwanegion bwyd, os nad yw'r defnydd o'r ychwanegyn bwyd yn cydymffurfio â Rheoliad 1333/2008.
Erthygl 11.2Gofyniad i ddefnyddio ychwanegion bwyd yn unol ag egwyddor y quantum satis, nad yw'n pennu unrhyw lefel uchaf rifyddegol benodol ar gyfer yr ychwanegyn dan sylw.
Erthygl 15Gwaharddiad ar ddefnyddio ychwanegion bwyd mewn bwydydd nas prosesir ac eithrio fel y darperir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008.
Erthygl 16Gwaharddiad ar ddefnyddio ychwanegion bwyd mewn bwydydd ar gyfer babanod a phlant ifanc (gan gynnwys bwydydd dietegol i fabanod a phlant ifanc at ddibenion meddygol arbennig) ac eithrio fel y darperir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008.
Erthygl 17Gofyniad i ddefnyddio'r lliwiau bwyd hynny, yn unig, a restrir yn Atodiad II i Reoliad 1333/2008, at ddibenion marcio iechyd ar gig neu gynhyrchion cig, lliwio addurniadol ar blisgyn wyau neu stampio plisgyn wyau.
Erthygl 18.1(b) (fel y'i darllenir ar y cyd ag Erthygl 18.2)Gofyniad na chaiff ychwanegion bwyd fod yn bresennol mewn bwyd yr ychwanegwyd ychwanegyn bwyd, ensym bwyd neu gyflasyn bwyd ato, onid yw'r ychwanegyn yn un a ganiateir yn yr ychwanegyn, ensym neu gyflasyn o dan Reoliad 1333/2008, ei fod wedi ei gludo drosodd i'r bwyd drwy gyfrwng yr ychwanegyn, ensym neu gyflasyn, ac nad oes iddo swyddogaeth dechnolegol yn y bwyd terfynol.
Erthygl 18.1(c) (fel y'i darllenir ar y cyd ag Erthygl 18.2)Gofyniad na chaiff ychwanegion bwyd fod yn bresennol mewn bwydydd sydd i'w defnyddio yn unig i baratoi bwyd cyfansawdd, oni fydd y bwyd cyfansawdd yn cydymffurfio â Rheoliad 1333/2008.
Erthygl 18.4Gofyniad na cheir defnyddio ychwanegion bwyd yn felysyddion mewn bwydydd cyfansawdd sydd heb siwgrau ychwanegol, bwydydd cyfansawdd ynni isel sydd heb siwgrau ychwanegol, bwydydd cyfansawdd ynni isel, bwydydd dietegol cyfansawdd a fwriedir ar gyfer dietau calor 149 au isel, bwydydd cyfansawdd gwrth-gariogenig a bwydydd cyfansawdd sydd ag oes silff estynedig, oni fydd y melysydd yn un a ganiateir yn unrhyw un o gynhwysion y bwyd cyfansawdd.
Erthygl 21.1Gofyniad bod ychwanegion bwyd nas bwriedir ar gyfer eu gwerthu i'r defnyddwyr terfynol yn cael eu labelu, yn unol ag Erthygl 22 o Reoliad 1333/2008, yn weladwy, yn eglur ddarllenadwy ac yn annileadwy mewn iaith a ddeellir yn hawdd gan y prynwyr.
Erthygl 22.1 (fel y'i darllenir ar y cyd ag Erthygl 22.4 a 5 a'r ail baragraff o Erthygl 31)Gofyniad na cheir gwerthu ychwanegion bwyd, nas bwriedir ar gyfer eu gwerthu i'r defnyddwyr terfynol, oni ddangosir gwybodaeth benodedig ar eu pecynnau neu'u cynhwysyddion.
Erthygl 22.2 (fel y'i darllenir ar y cyd ag Erthygl 22.4 a 5 a'r ail baragraff o Erthygl 31)Gofyniad na cheir gwerthu ychwanegion bwyd a gymysgwyd â'i gilydd ac/neu â chynhwysion bwyd eraill oni dangosir, ar eu pecynnau neu'u cynhwysyddion, restr o'r cynhwysion yn nhrefn ddisgynnol eu pwysau fel canran o'r cyfanswm.
Erthygl 22.3 (fel y'i darllenir ar y cyd ag Erthygl 22.4 a 5 a'r ail baragraff o Erthygl 31)Gofyniad, pan ychwanegir sylweddau (gan gynnwys ychwanegion bwyd neu gynhwysion bwyd eraill) at ychwanegion bwyd i hwyluso'u storio, eu gwerthu, eu safoni neu'u hydoddi, y dangosir, ar eu pecynnau neu'u cynhwysyddion, restr o'r holl sylweddau o'r fath yn nhrefn ddisgynnol eu pwysau fel canran o'r cyfanswm.
Erthygl 23.1 (fel y'i darllenir ar y cyd ag Erthygl 23.2 a 5)Gwaharddiad ar farchnata ychwanegion bwyd, a werthir yn unigol neu'n gymysg â'i gilydd ac/neu'n gymysg â chynhwysion bwyd eraill, ac a fwriedir ar gyfer eu gwerthu i'r defnyddwyr terfynol, oni ddangosir gwybodaeth benodedig ar eu pecynnau.
Erthygl 23.3 (fel y'i darllenir ar y cyd ag Erthygl 23.5)Gofyniad bod y labelu ar felysyddion pen-bwrdd sy'n cynnwys polyolau ac/neu aspartame ac/neu halen aspartame-acesulfame yn cynnwys rhybuddion penodedig.
Erthygl 26.1Gofyniad bod cynhyrchwyr a defnyddwyr ychwanegion bwyd yn hysbysu'r Comisiwn ar unwaith ynghylch unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd a allai effeithio ar yr asesiad o ddiogelwch yr ychwanegyn bwyd dan sylw.
Erthygl 26.2Gofyniad bod cynhyrchwyr a defnyddwyr ychwanegion bwyd, ar gais y Comisiwn, yn ei hysbysu ynghylch y defnydd gwirioneddol o'r ychwanegyn bwyd dan sylw.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, Rheoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992 (O.S. 1992/1978), Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123), Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3124) a Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (O.S. 1995/3187) (pob un ohonynt yn ymestyn i'r cyfan o Brydain Fawr), ac yn ailddeddfu gyda newidiadau ac ar sail drosiannol darpariaethau penodol o'r tri olaf o'r offerynnau hynny.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi, o ran Cymru, Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ychwanegion bwyd (OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.16) (“y Rheoliad”) ac yn rhoi effaith yng Nghymru i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/10/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/84/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L44, 14.2.2009, t.62).

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gwahardd—

(a)defnyddio unrhyw liw ac eithrio lliw a ganiateir mewn neu ar unrhyw fwyd, a defnyddio unrhyw liw a ganiateir oni fodlonir gofynion penodol (diffinnir y termau “lliw” a “lliw a ganiateir” yn rheoliad 2(1))(rheoliad 3);

(b)defnyddio lliwiau ac eithrio lliwiau penodol a ganiateir, ar gyfer marcio iechyd a mathau eraill o farcio ar rai cigoedd a chynhyrchion cig (rheoliad 4);

(c)defnyddio lliw ac eithrio lliw a ganiateir i liwio'n addurniadol plisgyn wyau neu farcio plisgyn wyau fel y darperir ar ei gyfer mewn offeryn UE penodedig (rheoliad 5);

(ch)gwerthu—

(i)unrhyw liw i'w ddefnyddio mewn neu ar unrhyw fwyd, onid yw'r lliw yn un a ganiateir,

(ii)yn uniongyrchol i ddefnyddwyr unrhyw liw ac eithrio lliw penodedig a ganiateir (diffinnir y term “lliw penodedig a ganiateir” yn rheoliad 2(1)), neu

(iii)unrhyw fwyd sydd ag unrhyw liw ynddo neu arno, ac eithrio lliw a ganiateir ac a ddefnyddiwyd yn y bwyd neu arno heb dorri darpariaethau penodedig o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 6);

(d)defnyddio mewn neu ar unrhyw fwyd unrhyw ychwanegyn amrywiol ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir (diffinnir y termau “ychwanegyn amrywiol” ac “ychwanegyn amrywiol a ganiateir” yn rheoliad 2(1)) (rheoliad 8(1));

(dd)yn ddarostyngedig i ddarpariaeth UE benodedig, defnyddio ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a restrir mewn man arall yn yr offeryn UE lle mae'r ddarpariaeth honno'n ymddangos, mewn neu ar fwyd a restrir mewn rhan benodedig o'r offeryn hwnnw (rheoliad 8(2));

(e)yn ddarostyngedig i ddarpariaeth UE benodedig yn achos y gwaharddiad a osodir gan reoliad 8(3), defnyddio ychwanegion amrywiol a ganiateir penodol mewn neu ar fwydydd penodedig oni fydd gofynion penodedig wedi eu bodloni (rheoliad 8(3), (4) a (5));

(f)defnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol fel cludydd neu doddydd cludo yn bennaf, onid yw'r ychwanegyn yn ychwanegyn amrywiol a ganiateir sydd wedi ei restru mewn darpariaeth UE benodedig, a'r defnydd ohono yn cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau, os oes rhai, a grybwyllir mewn perthynas â'r ychwanegyn yn y ddarpariaeth honno (diffinnir y termau “cludydd” a “toddydd cludo” yn rheoliad 2(1))(rheoliad 8(6));

(ff)yn ddarostyngedig i ddarpariaeth UE benodedig, defnyddio unrhyw ychwanegyn amrywiol a ganiateir mewn neu ar fwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc, onid yw wedi ei restru mewn darpariaeth UE benodedig ac oni ddefnyddir ef yn unig yn unol â'r amodau a gynhwysir yn y ddarpariaeth honno (diffinnir y term “bwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc” yn rheoliad 2(1)) (rheoliad 8(7));

(g)defnyddio, mewn neu ar unrhyw fwyd ar gyfer babanod neu blant ifanc, unrhyw ychwanegyn bwyd perthnasol mewn cyfuniad ag ychwanegyn amrywiol a ddefnyddir yn bennaf fel cludydd neu doddydd cludo, onid yw'r ychwanegyn bwyd amrywiol wedi ei restru mewn darpariaeth UE benodedig, a'i bresenoldeb yn neu ar y bwyd yn cydymffurfio â'r amodau a gynhwysir yn y ddarpariaeth honno (diffinnir y term “ychwanegyn bwyd perthnasol” yn rheoliad 2(1)) (rheoliad 8(8));

(ng)gwerthu unrhyw ychwanegyn amrywiol i'w ddefnyddio mewn neu ar fwyd, ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir (rheoliad 9(1));

(h)gwerthu unrhyw ychwanegyn amrywiol i'w ddefnyddio yn bennaf fel cludydd neu doddydd cludo onid yw'r ychwanegyn yn fath penodol o ychwanegyn amrywiol a ganiateir (rheoliad 9(2));

(i)gwerthu yn uniongyrchol i ddefnyddwyr unrhyw ychwanegyn amrywiol ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir (rheoliad 9(3));

(j)gwerthu unrhyw fwyd sydd ag ychwanegyn amrywiol ynddo neu arno, ac eithrio ychwanegyn amrywiol a ganiateir, a ddefnyddiwyd, neu sy'n bresennol yn y bwyd neu arno, heb dorri darpariaethau penodedig o'r Rheoliadau hyn (rheoliad 9(4));

(l)gwerthu unrhyw ychwanegyn bwyd perthnasol mewn cyfuniad ag ychwanegyn amrywiol a ddefnyddir yn bennaf fel cludydd neu doddydd cludo, oni ddefnyddiwyd yr ychwanegyn amrywiol mewn perthynas â'r ychwanegyn bwyd perthnasol heb dorri gofynion rheoliad 8(6) (rheoliad 9(5));

(ll)rhoi ar y farchnad unrhyw felysydd a fwriedir ar gyfer ei werthu i'r defnyddwyr terfynol neu ar gyfer ei ddefnyddio mewn neu ar unrhyw fwyd, ac eithrio melysydd a ganiateir (diffinnir y termau “melysydd” a “melysydd a ganiateir” yn rheoliad 2(1)) (rheoliad 11(1));

(m)defnyddio unrhyw felysydd mewn neu ar unrhyw fwyd, ac eithrio melysydd a ganiateir—

(i)a ddefnyddir mewn neu ar fwyd a restrir mewn darpariaeth UE benodedig mewn maint nad yw'n fwy na'r dos defnyddiadwy mwyaf o'r melysydd a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn y ddarpariaeth honno, a

(ii)a restrir mewn perthynas â'r bwyd hwnnw yn y ddarpariaeth honno (rheoliad 11(2)); ac

(n)gwerthu unrhyw fwyd sydd ag unrhyw felysydd ynddo neu arno ac eithrio melysydd a ganiateir, a ddefnyddiwyd yn y bwyd neu arno heb dorri rheoliad 11(2) (rheoliad 12).

4.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn—

(a)ailddeddfu gyda newidiadau ar sail drosiannol (gweler paragraff 1 uchod) darpariaethau penodol a gynhwysir yn Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995, Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995 a Rheoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995 (rheoliadau 7, 10 a 13);

(b)darparu bod person sy'n torri neu'n peidio â chydymffurfio â darpariaethau penodedig o'r Rheoliadau hyn neu (yn ddarostyngedig i ddarpariaeth drosiannol a gynhwysir yn Erthygl 34 o'r Rheoliad) y Rheoliad, yn euog o dramgwydd diannod, ac yn agored, o'i gollfarnu, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol (£5,000) (rheoliad 14);

(c)darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad (rheoliad 15);

(ch)cymhwyso, gydag addasiadau at ddibenion y Rheoliadau hyn, darpariaethau penodol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliad 16);

(d)darparu, pan ardystir bod bwyd yn fwyd y byddai'n dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn ei ddefnyddio, ei werthu neu ei roi ar y farchnad, y trinnir y bwyd at ddibenion adran 9 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel bwyd nad yw'n cydymffurfio â'r gofynion diogelwch bwyd (rheoliad 17);

(dd)gwneud newidiadau canlyniadol yn Rheoliadau Hydrocarbonau Mwynol mewn Bwyd 19 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (O.S. 1966/1073), Rheoliadau Suddoedd Ffrwythau a Neithdarau Ffrwythau (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3041 (Cy.286)), Rheoliadau Llaeth Cyddwys a Llaeth Sych (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3053 (Cy.291)), Rheoliadau Cynhyrchion Cig (Cymru) 2004 (O.S. 2004/139 (Cy.141)) a Rheoliadau Cynhyrchion Jam a Chynhyrchion Tebyg (Cymru) 2004 (O.S. 2004/553 (Cy.56)) (rheoliad 18); ac

(e)gwneud newid bychan yn Rheoliadau Cynhyrchion Siwgr Penodedig (Cymru) 2003 (O.S. 2003/3047 (Cy.290)) (rheoliad 19).

5.  Gwnaed asesiad effaith rheoleiddiol llawn mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn, ac y mae ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Tŷ Southgate, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p.16. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Ddeddf lywodraeth Cymru 2006 (p.32) ac Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif L596/2009 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu nifer o offerynnau, yn ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC mewn perthynas â'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu: Addasu'r weithdrefn reoleiddiol gyda chraffu — Rhan Pedwar (OJ Rhif L188, 18.7.2009, t.14).

(4)

OJ Rhif L184, 15.7.1988, t.61, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1882/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n addasu i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC y darpariaethau yngl n â phwyllgorau sy'n cynorthwyo'r Comisiwn i arfer ei bwerau gweithredu a bennir mewn offerynnau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn y cyfeirir ati yn Erthygl 251 o'r Cytuniad EC (OJ Rhif 284, 31.10.2003, t.1).

(5)

OJ Rhif L237, 10.9.1994, t.3, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2006/52/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/2/EC ar ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion a Cyfarwyddeb 94/35/EC ar felysyddion i'w defnyddio mewn bwydydd. (OJ Rhif L204, 20.7.2006, t.10).

(6)

OJ Rhif L237, 10.9.1994, t.13.

(7)

OJ Rhif L61, 18.3.1995, t.1, fel y'i darllenir gyda'r Corigendwm yn OJ Rhif L248, 14.10.1995, t.60 ac a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2006/52/EC.

(8)

OJ Rhif L158, 18.6.2008, t.1.

(9)

OJ Rhif L253, 20.9.2008, t.1. a ddiwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2009/10/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2008/84/EC sy'n pennu meini prawf purdeb penodol ar gyfer ychwanegion bwyd ac eithrio lliwiau a melysyddion (OJ Rhif L44, 14.2.2009, t.62).

(10)

OJ Rhif L6, 10.1.2009, t.20.

(11)

OJ Rhif L124, 20.05.2009, t.21.

(12)

OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.16.

(13)

OJ Rhif L330, 5.12.1998, t.32.

(14)

1984 p.22; disodlwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16).

(15)

193 p.49; darllener adran 6 ar y cyd â pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(16)

1985 p.51; diwygiwyd paragraff 15(6) gan baragraff 31(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(17)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 bellach wedi ei gynnwys mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22) y dylid ei ddarllen ar y cyd â Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.2 ). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1020/2008 sy'n diwygio Atodiadau II a III i Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid a Rheoliad (EC) Rhif 207 /2005 ynglŷn â marcio ar gyfer adnabod, llaeth amrwd a chynhyrchion llaeth, wyau a chynhyrchion wyau, a chynhyrchion pysgodfeydd penodol (OJ Rhif L277, 18.10.2008, t.8).

(18)

OJ Rhif L299,16.11.2007, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 183/2009 sy'n diwygio Atodiad VI i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ynglŷn ag addasu'r cwotâu ar gyfer y flwyddyn farchnata 2009/10 yn y sector siwgr (OJ Rhif L63, 7.3.2009, t.9).

(19)

O.S. 1995/3124 fel y'i diwygiwyd.

(21)

O.S. 1995/3187 fel y'i diwygiwyd.

(25)

O.S. 1995/3123 fel y'i diwygiwyd.

(27)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

(28)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, para 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.

(29)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

(30)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf 1999, Atodlen 5, paragraff 14.

(31)

O.S. 1966/1073 fel y'i diwygiwyd.

(33)

O.S. 2003/3053 (Cy.291) fel y'i diwygiwyd.

(34)

OJ Rhif L404, 30.12.2006, t.26,fel y'i diwygiwyd gan Reoliad (EC) Rhif 108/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 1925/2006 ar ychwanegu fitaminau,mwynau a sylweddau penodol eraill at fwydydd (OJ Rhif L39, 13.2.2008, t.11).

(35)

O.S. 2004/1396 (Cy.141) fel y'i diwygiwyd.

(36)

OJ Rhif L354, 31.12.2008, t.34.

(39)

OJ Rhif L141, 6.6.2009, t.3.

(40)

O.S. 1992/1978 fel y'i diwygiwyd.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources