Search Legislation

Rheoliadau Cronfa Pysgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 360 (Cy.35)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Rheoliadau Cronfa Pysgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2009

Gwnaed

23 Chwefror 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

25 Chwefror 2009

Yn dod i rym

18 Mawrth 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac fe ymddengys i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad y Cyngor (EC) 1198/2006 a Rheoliad y Comisiwn (EC) 498/2007 fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi(3), mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cronfa Pysgodfeydd Ewrop (Grantiau) (Cymru) 2009. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 18 Mawrth 2009.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “amodau perthnasol” (“relevant conditions”) yw unrhyw amodau sy'n ymwneud â chymeradwyo cais neu â thalu unrhyw gymorth ariannol y rhoddwyd gwybod amdanynt i fuddiolwr o dan reoliadau 5(3)(b) neu 7;

  • ystyr “buddiolwr” (“beneficiary”) yw person y cymeradwywyd ei gais am gymorth ariannol, a dehonglir “buddiolwyr” (“beneficiaries”) yn unol â hynny;

  • ystyr “cais” (“application”) yw cais am daliad o gymorth ariannol o dan reoliad 3(1), ac mae “ceisydd” (“applicant”) i'w ddehongli yn unol â hynny;

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw Comisiwn y Cymunedau Ewropeaidd;

  • ystyr “cymeradwyaeth” (“approval”) yw cymeradwyaeth a roddir o dan reoliad 5 ac mae'n cynnwys y telerau a'r amodau y mae'r gymeradwyaeth honno wedi'i rhoi odanynt ac mae “cymeradwyo” (“approve”) ac “a gymeradwywyd” (“approved”) i'w dehongli yn unol â hynny;

  • ystyr “cwch pysgota Cymunedol” (“Community fishing vessel”) yw cwch pysgota sy'n cwhwfan baner Aelod-wladwriaeth o'r Gymuned Ewropeaidd ac a gofrestrwyd yno;

  • ystyr “cymorth ariannol” (“financial assistance”) yw unrhyw swm a dalwyd neu sy'n daladwy ar ffurf grant neu gymorth Cymunedol o dan y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “cymorth Cymunedol” (“Community aid”) yw cymorth tuag at wariant cymwys sydd ar gael o Gronfa Pysgodfeydd Ewrop ac sy'n daladwy yn unol â Rheoliad y Cyngor 1198/2006 a Rheoliad y Comisiwn 498/2007;

  • ystyr “dogfennau perthnasol” (“relevant documents”) yw unrhyw dderbynneb, anfoneb, cyfrif, lluniad, plan, manyleb dechnegol neu ddogfen arall sy'n ymwneud â'r gweithrediad a gymeradwywyd;

  • ystyr “grant” (“grant”) yw grant tuag at wariant cymwys sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn yn ychwanegol at unrhyw gymorth Cymunedol;

  • ystyr “gwariant cymwys” (“eligible expenditure”) yw gwariant a dynnwyd neu sydd i'w dynnu mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd ac y mae Gweinidogion Cymru wedi'i gymeradwyo at ddibenion cael cymorth ariannol o dan reoliad 5;

  • ystyr “gweithfeydd” (“works”) yw unrhyw adeiladwaith, harbwr neu weithfeydd adeiladu eraill, wedi'u cwblhau neu beidio, y mae cymorth ariannol wedi'i hawlio neu wedi'i dalu ar eu cyfer;

  • ystyr “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”) yw gweithrediad perthnasol y mae Gweinidogion Cymru wedi'i gymeradwyo yn ysgrifenedig;

  • ystyr “gweithrediad perthnasol” (“relevant operation”) yw buddsoddiad, prosiect neu weithred sy'n gymwys i gael cymorth Cymunedol;

  • ystyr “LIBOR” (“LIBOR”) mewn perthynas ag unrhyw ddiwrnod penodol yw'r gyfradd a gynigir rhwng banciau Llundain â'i gilydd am gyfnod o dri mis mewn sterling sydd mewn grym ar y diwrnod hwnnw fel yr hysbysodd Banc Lloegr Weinidogion Cymru ohoni, wedi'i thalgrynnu os oes angen hynny i ddau bwynt degol;

  • ystyr “offer perthnasol” (“relevant equipment”) yw unrhyw beirianwaith, peiriannau neu offer eraill y mae cymorth ariannol ar eu cyfer wedi'i hawlio neu wedi'i dalu;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn 498/2007” (“Commission Regulation 498/2007”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 498/2007 dyddiedig 26 Mawrth 2007 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1198/2006 ar Gronfa Pysgodfeydd Ewrop(4);

  • ystyr “Rheoliad y Cyngor 1198/2006” (“Council Regulation 1198/2006”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1198/2006 dyddiedig 27 Gorffennaf 2006 ar Gronfa Pysgodfeydd Ewrop (5); ac

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru i fod yn swyddog at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac mae'n cynnwys unrhyw swyddog o'r Comisiwn a benodwyd yn briodol sy'n dod gyda'r cyfryw swyddog awdurdodedig.

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn sy'n ymddangos neu y cyfeirir atynt yn Rheoliad y Cyngor 1198/2006 neu yn Rheoliad y Comisiwn 498/2007 ac nas diffinnir yn y rheoliad hwn, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y ddeddfwriaeth honno, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(3Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Reoliad y Cyngor 1198/2006 neu Reoliad y Comisiwn 498/2007 yn gyfeiriad at yr offerynnau hynny fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

(4Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at reoliad â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(5Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at unrhyw beth a wneir yn ysgrifenedig neu a gynhyrchir ar ffurf ysgrifenedig yn cynnwys cyfeiriad at gyfathrebiad electronig, fel y'i diffinir yn Neddf Cyfathrebu Electronig 2000(6), a gafodd ei recordio ac y mae modd o ganlyniad ei atgynhyrchu.

Cymorth ariannol

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheoliad y Cyngor 1198/2006, Rheoliad y Comisiwn 498/2007 a'r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru dalu cymorth Cymunedol ac, os ydynt yn penderfynu felly, grant i unrhyw berson—

(a)sydd wedi gwneud cais, yn unol â rheoliad 4, er mwyn cael cymorth ariannol o'r fath, am gymeradwyaeth o dan reoliad 5 o—

(i)gweithrediad perthnasol; a

(ii)gwariant a dynnir neu sydd i'w dynnu mewn cysylltiad â'r gweithrediad hwnnw; a

(b)y maent wedi cymeradwyo ei gais.

(2Wrth benderfynu o dan baragraff (1)—

(a)a ddylid talu grant yn ychwanegol at gymorth Cymunedol; a

(b)swm unrhyw grant o'r fath,

rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i ofynion Rheoliad y Cyngor 1198/2006 a Rheoliad y Comisiwn 498/2007 ac, yn benodol, i'r terfynau ar gyfanswm cyfranogiad ariannol y Wladwriaeth (ar lefel genedlaethol, rhanbarthol ac arall) fel y'u nodir yn Atodiad II i Reoliad y Cyngor 1198/2006.

Ceisiadau

4.—(1Rhaid i geisiadau—

(i) cael eu gwneud yn y fath ffurf a dull;

(ii) cael eu gwneud ar y fath adeg;

(iii)cynnwys y fath wybodaeth; a

(iv) cael eu hanfon i'r fath gyfeiriad,

ag y dichon Gweinidogion Cymru ofyn amdanynt o bryd i'w gilydd.

(2Rhaid i geiswyr ddarparu'r fath wybodaeth bellach a'r fath ddogfennau pellach sy'n ymwneud â'r cais ag y dichon Gweinidogion Cymru ofyn amdanynt.

Penderfynu ar geisiadau

5.—(1Yn ddarostyngedig i Reoliad y Cyngor 1198/2006 a Rheoliad y Comisiwn 498/2007 caiff Gweinidogion Cymru —

(a)gwrthod cymeradwyo cais am gymorth ariannol; neu

(b)ei gymeradwyo yn gyfan gwbl neu'n rhannol a hynny naill ai yn ddiamod neu o dan unrhyw amodau y maent yn penderfynu arnynt.

(2Caiff Gweinidogion Cymru amrywio cymeradwyaeth o dro i dro drwy ddiwygio unrhyw amodau y mae'r gymeradwyaeth wedi'i rhoi odanynt neu drwy ychwanegu amodau.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu ceiswyr yn ysgrifenedig o'u penderfyniad ar y cais hwnnw;

(b)hysbysu buddiolwyr o unrhyw amodau y mae cymeradwyaeth wedi'i rhoi odanynt neu sydd wedi'u hamrywio yn unol â'r rheoliad hwn.

(4Os bydd Gweinidogion Cymru yn hysbysu ceisydd eu bod wedi gwrthod cymeradwyo cais neu'n hysbysu buddiolwr eu bod wedi rhoi cymeradwyaeth yn ddarostyngedig i amodau neu wedi amrywio telerau cymeradwyaeth sydd eisoes yn bodoli, rhaid iddynt roi i bob ceisydd neu fuddiolwr o'r fath—

(a)rhesymau ysgrifenedig dros eu penderfyniad; a

(b)cyfle i gyflwyno sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw o fewn unrhyw amser sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol ac sydd wedi'i hysbysu i'r ceisydd neu'r buddiolwr.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)ystyried unrhyw sylwadau a dderbyniwyd o dan baragraff (4);

(b)gwneud penderfyniad a fydd naill ai yn cadarnhau eu penderfyniad o dan baragraff (4) neu yn gosod penderfyniad gwahanol yn ei le; ac

(c)hysbysu'r ceisydd neu'r buddiolwr yn ysgrifenedig yn unol â hynny.

Cymhwystra a hawliadau am daliad o gymorth ariannol

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) ac i reoliad 14, bydd buddiolwr yn gymwys i gael taliad cymorth ariannol.

(2Ni thelir unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â chais a gymeradwywyd oni bai bod y canlynol wedi'u rhoi i Weinidogion Cymru—

(a)tystiolaeth foddhaol bod swm y gwariant y gwneir cais am gymorth ariannol ar ei gyfer wedi'i dynnu gan y buddiolwr, gan gynnwys manylion unrhyw ddisgownt a gafodd y buddiolwr; a

(b)tystiolaeth foddhaol bod y gweithrediad a gymeradwywyd y mae'r cais yn gysylltiedig ag ef wedi'i gyflawni'n briodol.

Dull talu'r cymorth ariannol

7.  Gall taliadau cymorth ariannol gael eu gwneud—

(a)ar y fath adeg neu fesul unrhyw randaliadau ar unrhyw gyfnodau neu adegau; a

(b)yn ddarostyngedig i'r fath amodau,

ag y caiff Gweinidogion Cymru benderfynu'n rhesymol arnynt a rhaid i unrhyw amodau mewn perthynas ag unrhyw daliad gael eu hysbysu i'r buddiolwr yn ysgrifenedig.

Ymrwymiadau

8.  Rhaid i fuddiolwr roi unrhyw ymrwymiadau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth

9.—(1Rhaid i fuddiolwr roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth am weithrediad a gymeradwywyd y caiff Gweinidogion Cymru ofyn yn rhesymol amdani o dro i dro.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn gofyn am wybodaeth o dan baragraff (1), rhaid i'r buddiolwr roi'r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru o fewn y fath gyfnod ag y dichon Gweinidogion Cymru benderfynu'n rhesymol arno.

Cofnodion

10.—(1Rhaid i fuddiolwr—

(a)cadw cofnod o bob dim a dderbynnir a phob gwariant a dynnir mewn cysylltiad â gweithrediad a gymeradwywyd; a

(b)tra bydd gweithrediad a gymeradwywyd yn cael ei gyflawni ac ar ôl cwblhau'r gweithrediad a gymeradwywyd ac wedyn drwy gydol y cyfnod rheoli, cadw unrhyw gofnod o'r fath ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol sy'n ymwneud â'r gweithrediad a gymeradwywyd, ac eithrio i'r graddau y mae swyddog awdurdodedig wedi mynd â hwy a'u cadw o dan reoliad 12(6).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), y “cyfnod rheoli” yw—

(a)cyfnod o chwe blynedd yn dechrau gyda thaliad olaf y cymorth ariannol mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd; neu

(b)unrhyw gyfnod pellach y tu hwnt i'r cyfnod hwnnw o chwe blynedd y mae Gweinidogion Cymru wedi'i hysbysu'r buddiolwr ohono yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg cyn i'r cyfnod hwnnw o chwe blynedd ddod i ben.

(3Wrth benderfynu mewn unrhyw achos ar ba ddyddiad y daw'r cyfnod rheoli i ben, rhaid peidio â chymryd unrhyw amser rhwng cychwyn unrhyw achos a ddygir o dan reoliad 13 i adennill unrhyw gymorth ariannol a dalwyd mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd a phenderfyniad terfynol yr achos hwnnw.

(4Pan fo buddiolwr, yng nghwrs arferol ei fusnes, yn trosglwyddo unrhyw ddogfen wreiddiol y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i berson arall, rhaid i'r buddiolwr ddal gafael ar gopi o'r ddogfen honno hyd ddiwedd y cyfnod rheoli perthnasol.

Cymorth i swyddogion awdurdodedig

11.  Rhaid i unrhyw fuddiolwr ac unrhyw gyflogai, gwas neu asiant i unrhyw fuddiolwr roi unrhyw gymorth i swyddog awdurdodedig y mae'r swyddog hwnnw yn gofyn yn rhesymol amdano er mwyn arfer unrhyw bwer a roddir iddo gan reoliad 12.

Pwerau swyddogion awdurdodedig

12.—(1Ar ôl cyflwyno dogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir iddo wneud hynny, caiff swyddog awdurdodedig ar bob adeg resymol arfer y pwerau a bennir yn y rheoliad hwn er mwyn—

(a)dilysu cywirdeb unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth a geir mewn cais, a gynhwysir gyda chais neu a roddir o dan reoliad 6;

(b)darganfod a ddylai unrhyw wariant y gwneir cais am gymorth ariannol mewn perthynas ag ef gael ei gymeradwyo, ac i ba raddau;

(c)darganfod a gydymffurfiwyd ag unrhyw ymrwymiadau a roddwyd gan fuddiolwr o dan reoliad 8 neu ag unrhyw amod perthnasol, ac i ba raddau;

(ch)darganfod a oes unrhyw swm o gymorth ariannol yn daladwy, neu a ddylai gael ei gwtogi, ei ddal yn ôl neu ei adennill, ac i ba raddau, o dan reoliad 13;

(d)darganfod a oes tramgwydd o dan reoliad 16 wedi'i gyflawni neu wrthi'n cael ei gyflawni; neu

(dd)darganfod fel arall, yn unol ag Erthygl 57 o Reoliad y Cyngor 1198/2006, a yw'r cymorth Cymunedol dan reolaeth briodol ac yn cael ei reoli'n briodol;

ac mae'r cyfryw bwerau yn arferadwy at y dibenion hyn ar sail dewis ar hap, gwirio dirybudd neu samplu yn ogystal â thrwy gyfeirio at amgylchiadau penodol achosion unigol neu eu hamgylchiadau tybiedig.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff swyddog awdurdodedig fynd i mewn i unrhyw fangre sydd yn fangre berthnasol, neu y cred y cyfryw swyddog gydag achos rhesymol ei bod yn fangre berthnasol.

(3Os mai fel ty annedd yn unig y defnyddir y fangre, dim ond ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol i holl breswylwyr y ty annedd hwnnw o'r bwriad i wneud hynny y caniateir defnyddio'r pwer a roddir gan baragraff (2).

(4Caiff unrhyw swyddog awdurdodedig sydd wedi mynd i mewn i unrhyw fangre yn unol â pharagraff (2) —

(a)arolygu'r fangre honno;

(b)arolygu unrhyw offer sy'n offer perthnasol, neu y mae gan y swyddog hwnnw achos rhesymol dros gredu ei fod yn offer perthnasol; ac

(c)arolygu unrhyw ddogfennau yn y fangre honno sy'n ddogfennau perthnasol, neu y mae gan y swyddog hwnnw achos rhesymol dros gredu eu bod yn ddogfennau perthnasol.

(5Caiff swyddog awdurdodedig sy'n mynd i mewn i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd ag unrhyw berson arall y mae'n credu fod ei angen a bydd paragraffau (2), (4), (6) a (7) a rheoliad 11 yn gymwys mewn perthynas â'r person arall hwnnw wrth iddo weithredu o dan gyfarwyddyd y swyddog fel pe bai yn swyddog awdurdodedig.

(6Caiff swyddog awdurdodedig—

(a)ei gwneud yn ofynnol i fuddiolwr neu i gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr gyflwyno unrhyw ddogfennau perthnasol a rhoi unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ym meddiant y person hwnnw neu o dan ei reolaeth ac sy'n ymwneud â chais neu â gweithrediad a gymeradwywyd y bydd y swyddog yn gofyn yn rhesymol amdanynt;

(b)arolygu unrhyw ddogfennau o'r fath ac, os oes unrhyw ddogfennau o'r fath yn cael eu cadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, mynd at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw offer neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r dogfennau hynny, a'u harolygu ac edrych i weld sut y maent yn gweithio;

(c)ei gwneud yn ofynnol bod copïau o unrhyw ddogfennau perthnasol, neu o ddarnau ohonynt, yn cael eu cyflwyno; neu

(ch)cymryd a dal gafael ar, am gyfnod rhesymol, unrhyw ddogfen berthnasol o'r fath y mae ganddo reswm dros gredu y gall fod ei hangen yn dystiolaeth mewn achos o dan y Rheoliadau hyn neu y gall fod yn ofynnol i Weinidogion Cymru drefnu ei bod ar gael i'r Comisiwn yn unol ag Erthygl 87 o Reoliad 1198/2006;

ac, os oes unrhyw ddogfen o'r fath yn cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei chyflwyno ar ffurf a all gael ei chymryd i ffwrdd, a honno'n ffurf y mae'n weladwy ac yn ddarllenadwy ynddi.

(7Ni fydd swyddog awdurdodedig yn atebol mewn unrhyw achos llys am unrhyw beth a wnaed drwy arfer honedig o'r pwerau a roddwyd i swyddog awdurdodedig gan y Rheoliadau hyn os bydd y llys wedi'i fodloni—

(a)bod yr hyn a wnaed wedi ei wneud yn ddidwyll;

(b)bod yna seiliau rhesymol dros ei wneud; ac

(c)ei bod wedi ei gwneud gyda gofal a medr rhesymol.

(8Yn y rheoliad hwn—

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw gwch, man, cerbyd, ôl-gerbyd neu gynhwysydd; ac

  • ystyr “mangre berthnasol” (“relevant premises”) yw unrhyw fangre y mae gweithrediad a gymeradwywyd yn ymwneud â hi neu lle cedwir dogfennau perthnasol neu offer perthnasol neu lle mae gan swyddog awdurdodedig seiliau rhesymol dros gredu y gall fod dogfennau neu offer o'r fath yn cael eu cadw ynddi.

Cwtogi cymorth ariannol, ei ddal yn ôl a'i adennill

13.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar unrhyw adeg ar ôl iddynt gymeradwyo cais—

(a)na chydymffurfiwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol ag unrhyw amod perthnasol;

(b)nad oedd y cais a gymeradwywyd felly, neu unrhyw ran ohono, yn gais yr oedd y buddiolwr yn gymwys i'w wneud;

(c)bod y buddiolwr, neu gyflogai, gwas neu asiant i fuddiolwr—

(i)wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 9, 10, 11 neu 12(6);

(ii) wedi rhwystro unrhyw swyddog awdurdodedig yn fwriadol wrth iddo arfer ei bwerau o dan reoliad 12; neu

(iii)wedi rhoi gwybodaeth am unrhyw fater sy'n berthnasol i roi'r gymeradwyaeth neu i wneud taliad sy'n berthnasol i'r gymeradwyaeth sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn ystyr berthnasol;

(ch)bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi'i gychwyn cyn y dyddiad y rhoddodd Gweinidogion Cymru ganiatâd ysgrifenedig iddo gychwyn;

(d)nad yw'r gweithrediad a gymeradwywyd y tynnwyd y gwariant mewn perthynas ag ef wedi'i gyflawni neu ei fod heb ei gyflawni'n briodol neu yn unol â'r gymeradwyaeth sy'n ymwneud ag ef;

(dd)bod y gweithrediad a gymeradwywyd wedi'i ohirio neu yn cael ei ohirio yn afresymol y tu hwnt i'r terfynau amser a nodwyd yn yr hysbysiad o gymeradwyaeth neu ei fod yn annhebyg o gael ei gwblhau;

(e)na chydymffurfiwyd ag unrhyw ymrwymiad a roddwyd gan y buddiolwr o dan reoliad 8;

(f)bod y Comisiwn wedi penderfynu cwtogi neu atal dros dro gymorth Cymunedol yn unol ag Erthygl 89 o Reoliad y Cyngor 1198/2006;

(ff)mewn unrhyw achos o gymorth ariannol ar gyfer adeiladu neu foderneiddio cwch pysgota, bod unrhyw un o'r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (2) wedi digwydd cyn pen deng mlynedd ar ôl cwblhau adeiladu'r cwch neu bum mlynedd ar ôl cwblhau moderneiddio'r cwch;

(g)mewn unrhyw achos o gymorth ariannol i unrhyw weithrediad perthnasol heblaw adeiladu neu foderneiddio cwch pysgota, bod unrhyw un o'r digwyddiadau a bennir ym mharagraff (3) wedi digwydd cyn pen chwe blynedd o brynu'r offer perthnasol neu cyn pen deng mlynedd o brynu'r fangre neu gwblhau'r gweithfeydd;

(ng)mae'r cymorth ariannol yn dyblygu neu fe fyddai'n dyblygu cymorth a roddir neu a fydd yn cael ei roddi o gronfeydd y perir eu bod ar gael—

(i)gan y Cymunedau Ewropeaidd,

(ii)gan Weinidogion Cymru, neu

(iii)gan gorff sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus o fewn y Deyrnas Unedig;

(h)mae'r buddiolwr wedi torri unrhyw ofyniad y mae'n ddarostyngedig iddo o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Reoliad y Cyngor 1198/2006 neu Reoliad y Comisiwn 498/2007; neu

(i)mae'r gweithrediad a gymeradwywyd yn ddarostyngedig i gosbau sy'n gymwys o dan Reoliad y Cyngor 1198/2006 neu Reoliad y Comisiwn 498/2007,

caiff Gweinidogion Cymru ddirymu'r gymeradwyaeth yn gyfan gwbl neu'n rhannol neu caiff gwtogi neu ddal yn ôl unrhyw gymorth ariannol mewn perthynas â'r gweithrediad a gymeradwywyd ac, os oes taliad cymorth ariannol wedi'i wneud, caiff adennill, ar gais, fel dyled, swm sy'n gyfartal â'r cyfan neu ag unrhyw ran a benderfynir ganddynt o'r taliad sydd wedi'i wneud.

(2Dyma'r digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(ff) —

(a)colli'r cwch yn gyfan gwbl;

(b)difrodi neu ddinistrio unrhyw offer perthnasol sy'n arwain at daliad o dan bolisi yswiriant neu dâl digolledu neu iawndal;

(c)morgais ar y cwch (heblaw morgais sy'n cael ei greu i godi arian a ddefnyddir ar gyfer cost adeiladu neu foderneiddio'r cwch, sef morgais a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru cyn iddo gael ei wneud);

(ch)defnyddio'r cwch yn bennaf at ddibenion heblaw'r rheini y cymeradwywyd cymorth ariannol ar ei gyfer;

(d)gwaredu'r cwch neu unrhyw ran ohono, ei injan neu unrhyw ran ohoni neu unrhyw offer perthnasol neu offer neu gyfarpar arall a ddefnyddir ar y cwch neu mewn cysylltiad ag ef, boed drwy werthu neu drwy ddull arall; neu

(dd)bod y cwch yn peidio â bod yn gwch pysgota Cymunedol.

(3Dyma'r digwyddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(g)—

(a)colli'r offer perthnasol yn gyfan gwbl;

(b)difrodi neu ddinistrio unrhyw offer, unrhyw fangre, neu unrhyw weithfeydd perthnasol sy'n arwain at daliad o dan bolisi yswiriant neu dâl digolledu neu iawndal;

(c)creu hawl mewn gwarant dros yr offer, y fangre neu'r gweithfeydd perthnasol (heblaw hawl mewn gwarant sy'n cael ei chreu er mwyn codi arian a ddefnyddir ar gyfer cost adeiladu neu foderneiddio'r offer, y fangre neu'r gweithfeydd perthnasol, sef hawl mewn gwarant a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru cyn iddi gael ei gwneud);

(ch)defnyddio'r offer, y fangre neu'r gweithfeydd perthnasol yn bennaf at ddibenion heblaw'r dibenion y cymeradwywyd y cymorth ariannol mewn perthynas â hwy; neu

(d)gwaredu'r offer, y fangre neu'r gweithfeydd perthnasol neu unrhyw ran ohonynt, boed drwy werthu neu drwy ddull arall.

(4At ddibenion paragraff (1)(ng), mae swm yn dyblygu cymorth ariannol os yw'n cael ei dalu, neu pe byddai'n cael ei dalu, at unrhyw un o'r un dibenion.

(5Os yw paragraff (1)(ff) neu (g) yn gymwys ac nad oes dim o'r is-baragraffau eraill ym mharagraff (1) yn gymwys, bydd yr uchafswm y caiff Gweinidogion Cymru ei adennill oddi ar fuddiolwr o dan y rheoliad hwn yn swm sy'n hafal i'r rhan o'r cyfnod o ddeng mlynedd, neu yn ôl fel y digwydd, o'r cyfnod o bum mlynedd neu chwe mlynedd sydd heb ddod i ben, wedi'i gyfrifo fel swm cyfrannol o gyfanswm y taliad cymorth ariannol ynghyd â'r llog arno o dan reoliad 14.

(6Cyn dirymu cymeradwyaeth yn gyfan gwbl neu'n rhannol neu ostwng neu ddal yn ôl unrhyw gymorth ariannol neu cyn gwneud hawliad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi esboniad ysgrifenedig i'r buddiolwr o'r rhesymau dros y cam y bwriedir ei gymryd;

(b)rhoi cyfle i'r buddiolwr gyflwyno sylwadau ysgrifenedig o fewn amser rhesymol; ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau.

Llog

14.—(1Os yw Gweinidogion Cymru yn bwriadu adennill cymorth ariannol drwy hawliad yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn unol â rheoliad 13, cânt hefyd adennill yn ychwanegol ato, y llog ar y swm hwnnw ar gyfradd o un y cant uwchlaw LIBOR wedi'i gyfrifo ar sail feunyddiol am y cyfnod sy'n dechrau—

(a)mewn unrhyw achos y mae rheoliad 13(4) yn gymwys iddo, ar y dyddiad pan ddigwyddodd y digwyddiad dan sylw hyd ddyddiad yr adennill; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, ar y dyddiad y talwyd y cymorth ariannol,

hyd y dyddiad pan yw Gweinidogion Cymru yn adennill y swm.

(2Mewn unrhyw achos ynglyn ag adennill llog o dan y Rheoliadau hyn, bydd tystysgrif a roddir gan Weinidogion Cymru i ddangos y gyfradd neu gyfraddau llog sy'n gymwys, swm y llog o'r fath sy'n adenilladwy a'r cyfnod y cyfrifir y llog ar ei gyfer yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r materion hynny oni phrofir i'r gwrthwyneb.

Symiau sy'n daladwy i Weinidogion Cymru i'w hadennill fel dyled

15.  Mewn unrhyw achos pan fo swm yn dod yn daladwy i Weinidogion Cymru yn rhinwedd y Rheoliadau hyn (neu yn rhinwedd camau a gymerir o dan y Rheoliadau hyn), mae'r cyfryw swm yn adenilladwy fel dyled.

Tramgwyddau a chosbau

16.—(1Mae unrhyw berson sydd, er mwyn sicrhau cymorth ariannol iddo'i hun neu i unrhyw berson arall—

(a)wrth roi unrhyw wybodaeth gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir gan neu o dan reoliad 4 neu 12(6)(a), yn fwriadol neu'n ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol; neu

(b)gan honni ei fod yn cydymffurfio â gofyniad a osodir o dan reoliad 4(2), neu 12(6)(a) neu (c) yn fwriadol neu'n ddi-hid yn cyflwyno dogfen sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn manylyn perthnasol,

yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Mae unrhyw berson sydd—

(a)yn methu â chydymffurfio â rheoliadau 9, 10 neu 11; neu

(b)yn fwriadol yn gwrthod rhoi unrhyw wybodaeth, llenwi unrhyw ffurflen, neu gyflwyno unrhyw ddogfen pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog awdurdodedig (neu berson sy'n mynd gydag ef ac yn gweithredu o dan gyfarwyddiadau'r swyddog hwnnw) sy'n gweithredu i arfer pwer a roddir gan reoliad 12, neu sydd fel arall yn ei rwystro'n fwriadol,

yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(3Caniateir dwyn achos ynglyn â thramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, yn ddarostyngedig i baragraff (4), ar unrhyw adeg o fewn cyfnod o chwe mis o'r dyddiad y caiff yr erlynydd wybod am dystiolaeth sy'n ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos.

(4Ni chaniateir dwyn achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fwy na phum mlynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

(5At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)bydd tystysgrif a lofnodir gan neu ar ran yr erlynydd sy'n datgan y dyddiad y cafodd wybod am dystiolaeth a oedd yn ddigonol yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r ffaith honno; a

(b)bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n ymhonni ei bod wedi'i llofnodi felly yn dystysgrif sydd wedi'i llofnodi felly oni phrofir i'r gwrthwyneb.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

17.—(1Os profir bod tramgwydd o dan y Rheoliadau hyn a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol wedi'i gyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad unrhyw berson y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo, neu os gellir priodoli'r tramgwydd hwnnw i unrhyw esgeulustod ar ran y person hwnnw, bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd hwnnw ac yn agored i achos yn ei erbyn a chosb yn unol â hynny.

(2Mae paragraff (1) yn gymwys i unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall o'r corff corfforaethol ac i unrhyw berson oedd yn honni gweithredu mewn unrhyw swyddogaeth o'r fath.

(3Os yw materion corff corfforaethol yn cael eu rheoli gan ei aelodau, bydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd a diffyg gweithredoedd aelod mewn cysylltiad â'i swyddogaethau rheoli fel pe bai'n un o gyfarwyddwyr y corff corfforaethol.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru.

23 Chwefror 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac maent yn atodi Rheoliad y Cyngor 1198/2006 ar Gronfa Pysgodfeydd Ewrop (“Rheoliad y Cyngor”) a Rheoliad y Comisiwn 498/2007 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (“Rheoliad y Comisiwn”). Wrth arfer y pwer a gyflwynwyd gan Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006, mae cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn yn gyfeiriadau at yr offerynnau hyn fel y'u diwygiwyd o bryd i'w gilydd.

Mae Rheoliad y Cyngor yn darparu ar gyfer talu cymorth (“cymorth Cymunedol”) o Gronfa Pysgodfeydd Ewrop a sefydlwyd gan y Gymuned Ewropeaidd mewn perthynas â chategorïau penodol o fuddsoddiadau, prosiectau a gweithrediadau (“gweithrediadau perthnasol”) yn y sector pysgodfeydd a dyframaethu ac yn y sector o'r diwydiant sy'n prosesu a marchnata ei gynhyrchion.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer ac yn rheoleiddio talu cymorth Cymunedol a grantiau yn ychwanegol at y cymorth gan Weinidogion Cymru tuag at wariant ar weithrediadau a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru yn unol â'r Rheoliadau hyn, Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn.

Mae'r Rheoliadau hyn (rheoliadau 3, 4 a 5) yn gosod gweithdrefn ar gyfer gwneud a chymeradwyo ceisiadau i gymeradwyo gweithrediadau perthnasol a gwariant at ddibenion talu cymorth Cymunedol ac, os yw Gweinidogion Cymru yn penderfynu felly, talu grant yn ychwanegol at y cymorth hwnnw. Cyfeirir at gymorth a grant o'r fath gyda'i gilydd fel “cymorth ariannol”. Wrth benderfynu p'un ai i dalu grant yn ychwanegol at gymorth Cymunedol ai peidio ac, os ydynt yn penderfynu talu grant o'r fath, swm y grant hwnnw, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i ofynion Rheoliad y Cyngor a Rheoliad y Comisiwn (rheoliad 3). Ymhlith pethau eraill, mae Rheoliad y Cyngor yn ei gwneud yn ofynnol fod yna lefel benodol o ymwneud ariannol gan Aelod-wladwriaethau er mwyn galluogi gweithrediadau perthnasol i gymhwyso am gymorth Cymunedol gyda'r lefelau o ymwneud yn cael eu gosod yn Atodiad II i Reoliad y Cyngor.

Mae talu cymorth ariannol yn dibynnu ar ddarparu tystiolaeth foddhaol o'r gwariant a dducpwyd ac o wneud y gweithrediad perthnasol yn briodol (rheoliad 6).

Gwneir darpariaeth ynghylch y dull o dalu cymorth ariannol (rheoliad 7). Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i berson y cymeradwyir ei gais roi ymrwymiadau (rheoliad 8).

Gwneir darpariaeth (rheoliad 9) ar gyfer personau y cymeradwywyd eu ceisiadau am gymorth ariannol i roi i Weinidogion Cymru y fath wybodaeth ag y dichon Gweinidogion Cymru ofyn yn rhesymol amdani o bryd i'w gilydd ac (o dan reoliad 10) iddynt ddal gafael ar gofnodion penodol am gyfnod o 6 blynedd. Caiff Gweinidogion Cymru estyn y cyfnod hwnnw.

Mae'n ofynnol i geisyddion, os gofynnir iddynt wneud hynny, roi cymorth i swyddogion awdurdodedig, y rhoddir iddynt bwerau mynediad ac arolygu at ddibenion penodedig (rheoliadau 11 a 12). Gwneir darpariaeth, mewn amgylchiadau penodol, ar gyfer cwtogi, dal yn ôl ac adennill cymorth ariannol (rheoliad 13) ac ar gyfer talu llog ar symiau a adenillwyd (rheoliad 14). Mae rheoliad 11 yn darparu bod symiau sy'n daladwy i Weinidogion Cymru yn adenilladwy fel dyled.

Mae'r Rheoliadau yn creu tramgwyddau ac yn darparu cosbau ar gyfer gwneud datganiadau anwir er mwyn cael cymorth ariannol, methiant i gadw cofnodion neu i ddarparu gwybodaeth y gofynnir yn rhesymol amdani gan Weinidogion Cymru, methiant i gydymffurfio â gofynion a wneir gan swyddogion awdurdodedig wrth arfer eu pwerau mynediad ac arolygu a rhwystro'r cyfryw swyddogion wrth iddynt arfer y pwerau hynny (rheoliad 16). Maent hefyd yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â thramgwyddau gan gyrff corfforaethol (rheoliad 17).

Gwnaed asesiad effaith rheoleiddiol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

O.S. 2005/2766 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329). Yn rhinwedd adrannau 59(1) ac 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).

(4)

OJ Rhif L120, 10.5.2007, t.1.

(5)

OJ Rhif L223, 15.8.2006, t.1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources