2009 Rhif 631 (Cy.57) (C.43)
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009
Gwnaed
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 170(3) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 20081, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a Chymhwyso1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009.
2
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Y Diwrnod Penodedig2
6 Ebrill 2009 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dyfod i rym y darpariaethau canlynol o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 —
a
adran 147 (diddymu atebolrwydd perthnasau am dâl cynnal);
b
Atodlen 13 (darpariaethau trosiannol yn ymwneud ag adran 147); ac
c
Rhan 5 o Atodlen 15 (diddymiadau a dirymiadau) ac adran 166 (diddymiadau) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r Rhan honno.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Hwn yw'r Gorchymyn Cychwyn cyntaf i gael ei wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14).
Mae'r Gorchmynion Cychwyn canlynol wedi cael eu gwneud o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p.14) o ran Cymru a Lloegr:
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 1) 2008 (O.S. 2008/2214) (P.100).
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 2) 2008 (O.S. 2008/2497) (P.106).
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 3) 2008 (O.S. 2008/2717) (P.120).
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 4) 2008 (O.S. 2008/2994) (P.129).
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 5) 2008 (O.S. 2008/3137) (P.136).
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2008 (O.S. 2008/3168) (P.143).
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 7) 2008 (O.S. 2008/3244) (P.148).
Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 8) 2009 (O.S. 2009/270) (P.12).