- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Gwnaed
18 Mawrth 2009
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 40 a 44(3) a (5) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2009.
(2) Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Plant a Phobl Ifanc 2008.
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. 6 Ebrill 2009 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf ddod i rym —
(a)adran 30 (symud y cyfyngiad ar wrando cais am ryddhau gorchymyn amddiffyn brys);
(b)adran 35 (estyn y cyfnod a ganiateir i wneud rheoliadau o dan adran 45 neu 46 o Ddeddf Plant 2004(2)); ac
(c)adran 42 ac Atodlen 4 (diddymu) i'r graddau y maent yn ymwneud â diddymu adran 45(9) o Ddeddf Plant 1989(3).
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
18 Mawrth 2009
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn adrannau 30, 35 a 42 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 ac Atodlen 4 iddi i rym ar 6 Ebrill 2009 i'r graddau a bennir yn y Gorchymyn hwn.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Dygwyd y darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2008 i rym o ran Cymru gan Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.
Darpariaeth | Dyddiad Cychwyn | O.S. Rhif |
---|---|---|
Adran 31 | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 (C.11) |
Adran 32 | 1 Ebrill 2009 | 2009/268 (C.11) |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: