Search Legislation

Gorchymyn Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 784 (Cy.70) (C.51)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2009

Gwnaed

24 Mawrth 2009

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 173(3) o Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008(1):

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg a Sgiliau 2008 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2009.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi ac yn dod i ben ar y 31 Awst nesaf;

  • ystyr “DSFfY 1998” (“the SSFA 1998”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(2);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg a Sgiliau 2008.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Mawrth 2009

2.  Daw'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf i rym ar 31 Mawrth 2009—

(a)adran 162(1), (2), (3)(a), (3)(b) a (4) i (10).

3.  Daw'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf i rym, yn ddarostyngedig i erthygl 4, ar 31 Mawrth 2009—

(a)adrannau 150, 152 a 153;

(b)adran 169(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Atodlen 1 a bennir isod;

(c)adran 169(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 2 a bennir isod;

(ch)yn Atodlen 1, paragraffau 54, 55, 59(7), 66 a 67, ac, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny, paragraff 53;

(d)yn Atodlen 2, y diddymiadau i'r graddau y maent yn ymwneud ag adrannau 86 a 94 o DSFfY 1998.

4.  Er bod adran 150 yn dod i rym ac er gwaethaf y diwygiadau a'r diddymiadau i adrannau 86 a 94 o DSFfY 1998 a wneir gan adrannau 152 a 169 o'r Ddeddf ac Atodlenni 1 a 2 iddi, bydd adrannau 86 a 94 yn parhau i fod yn gymwys heb y diwygiadau a'r diddymiadau hynny o ran derbyn plant i'r flwyddyn ysgol 2009-2010.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 31 Hydref 2009

5.  Daw'r darpariaethau canlynol o'r Ddeddf i rym ar 31 Hydref 2009—

(a)adran 162(3)(c).

Jane Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

24 Mawrth 2009

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Dyma'r gorchymyn cychwyn cyntaf i'w wneud gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Addysg a Sgiliau 2008 (“y Ddeddf”).

Mae erthygl 2 yn dwyn mwyafrif adran 162 o'r Ddeddf i rym ar 31 Mawrth 2009. Mae'n diwygio swyddogaethau Gweinidogion Cymru o ran cymwysterau galwedigaethol ac academaidd allanol o dan adran 30 o Ddeddf Addysg 1997. Mae'n gosod swyddogaethau newydd, sef datblygu a chyhoeddi meini prawf i gydnabod personau sy'n dymuno dyfarnu neu ddilysu cymwysterau a chydnabod personau sy'n gwneud cais am gael eu cydnabod ac sy'n bodloni'r meini prawf. Mae gweddill adran 162 yn cael ei gychwyn gan erthygl 5.

Daw erthygl 3 ag adrannau 150, 152 a 153 o'r Ddeddf i rym ar 31 Mawrth 2009. Maent yn cyflwyno darpariaethau newydd ynghylch dymuniadau o ran addysg chweched dosbarth o'r flwyddyn ysgol 2010-2011 ac yn gwneud mân ddiwygiadau canlyniadol eraill ynghylch derbyn plant i ysgolion.

Mae erthygl 4 yn darparu nad yw'r diwygiadau i adrannau 86 a 94 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn effeithio ar dderbyn plant i ysgolion ar gyfer y flwyddyn ysgol 2009-2010.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources