Search Legislation

Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2009

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 793 (Cy.71)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2009

Gwnaed

25 Mawrth 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

27 Mawrth 2009

Yn dod i rym

17 Ebrill 2009

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i unrhyw gyfeiriad at y Rheoliadau canlynol gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygir o bryd i'w gilydd:

(a)Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n gosod darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (y Rheoliad Sengl CMO); a

(b)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau deor a chywion dofednod buarth fferm.

I'r graddau y gwneir y Rheoliadau hyn wrth arfer pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(3), mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel sy'n ofynnol gan adran 48(4A)(4) o'r Ddeddf honno.

Bu ymgynghori agored a thryloyw yn ystod paratoi'r Rheoliadau canlynol yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor(5) sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Yn unol â hyn, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn wrth arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A(6) o Atodlen 2 iddi; ac adrannau 6(4)(7), 16(1)(8), 17(9), 26(2) a (3)(10) a 48(1)(11) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru(12).

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2009.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Ebrill 2009.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys—

(a)i wyau deor a chywion y mae pwynt I(1) o Ran C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 yn gymwys; a

(b)i wyau y mae pwynt I(1) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 yn gymwys (wyau yn eu plisgyn a gynhyrchir gan ieir o'r rhywogaeth Gallus gallus ar gyfer eu bwyta).

(5Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys—

(a)i sefydliadau a deorfeydd o'r math a grybwyllir ym mhwynt I(2) o Ran C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO.

(b)i werthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 yn gymwys, os gwerthir yr wyau, heb unrhyw raddio yn ôl ansawdd neu bwysau, yn uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol gan y cynhyrchydd —

(i)ar y safle cynhyrchu;

(ii)gan werthu o dŷ i dŷ yn y rhanbarth cynhyrchu; neu

(c)ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â'r gofyniad a osodir gan bwynt III(3) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO, i werthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad hwnnw a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 yn gymwys iddynt, os gwerthir yr wyau gan y cynhyrchydd, heb unrhyw raddio yn ôl ansawdd neu bwysau, yn uniongyrchol i'r defnyddiwr terfynol mewn marchnad gyhoeddus leol yn y rhanbarth cynhyrchu.

(6Ym mharagraff (5)(b)(ii) ystyr “gwerthu o dŷ i dŷ” (“door-to-door selling”) yw gwerthu yn ystod ymweliad digymell gan gynhyrchydd â chartref y defnyddiwr terfynol, neu â chartref person arall, neu â gweithle'r defnyddiwr terfynol.

Dirymu

2.  Dirymir y Rheoliadau a bennir yn Atodlen 1 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

  • ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw awdurdod sy'n arfer swyddogaeth a roddir iddo gan reoliad 16;

  • mae i “canolfan becynnu” (“packing centre”) yr ystyr a roddir i “packing centre” gan is-baragraff (q) o ail baragraff Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008;

  • ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC (“Council Directive 1999/74/EC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC(13) sy'n gosod y safonau gofynnol ar gyfer amddiffyn ieir dodwy;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2000/13/EC” (“Directive 2000/13/EC”) yw Cyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu deunydd bwyd;

  • mae i “cywion” (“chicks”) yr ystyr a roddir i “chicks” gan Erthygl 1(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 618/2008;

  • mae i “defnyddiwr terfynol” (“final consumer”) yr ystyr a roddir i “final consumer” gan is-baragraff (r) o ail baragraff Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008;

  • mae i “deorfa” (“hatchery”) yr ystyr a roddir i “hatchery” gan Erthygl 1(3)(c) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008” (“Commission Regulation (EC) No. 589/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau, fel y'i mabwysiadwyd gan y Comisiwn ar 23 Mehefin 2008;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008” (“Commission Regulation (EC) No. 617/2008”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1234/2007 o ran safonau marchnata ar gyfer wyau deor a chywion dofednod buarth fferm, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;

  • ystyr “y Rheoliad Sengl CMO” (“Single CMO Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu trefniadaeth gyffredin o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n gosod darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodol (y Rheoliad Sengl CMO), fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd;

  • mae i “safle cynhyrchu” (“production site”) yr ystyr a roddir i “production site” gan is-baragraff (p) o ail baragraff Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008;

  • mae i “sefydliad bridio” (“breeding establishment”) yr ystyr a roddir i “breeding establishment” gan Erthygl 1(3)(b) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008;

  • mae i “sefydliad bridio pedigri” (“pedigree breeding establishment”) yr ystyr a roddir i “pedigree breeding establishment” gan Erthygl 1(3)(a) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008;

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan awdurdod gorfodi i weithredu mewn cysylltiad â materion sy'n codi o dan neu mewn perthynas â'r Ddeddf neu â'r Rheoliadau hyn;

  • mae i “wyau” (“eggs”) yr ystyr sydd i “eggs” yn is-baragraff (k) o ail baragraff Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008; ac

  • mae i “wyau deor” (“eggs for hatching”) yr ystyr a roddir i “eggs for hatching” gan Erthygl 1(1) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 617/2008.

(2Mae i unrhyw ymadrodd nas diffinnir ym mharagraff (1), ond a ddefnyddir yn Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn neu yn Atodlen 2 iddynt, ac yn Rhan C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn y Rheoliad Sengl CMO, yr un ystyr yn y darpariaethau hynny yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliad Sengl CMO.

(3Mae i unrhyw ymadrodd nas diffinnir ym mharagraff (1), ond a ddefnyddir yn rheoliad 1(5) neu yn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn, neu yn Atodlen 3 iddynt, ac yn Rhan A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO neu yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg sy'n cyfateb iddo yn y Rheoliadau hynny, yr un ystyr yn y darpariaethau hynny yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadrodd Saesneg cyfatebol yn y Rheoliadau CE hynny lle y'i defnyddir.

(4Ystyr unrhyw gyfeiriad at fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2 neu at fethiant i gydymffurfio â hi yw mynd yn groes i'r canlynol neu fethu â chydymffurfio â'r canlynol—

(a)unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliad Sengl CMO a grybwyllir yng ngholofn 1 yn Rhan 1 o Atodlen 2, fel y'i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir mewn unrhyw gofnod cyfatebol yng ngholofn 2 yn y Rhan honno; neu

(b)unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2007 a grybwyllir yng ngholofn 1 yn Rhan 2 o Atodlen 2, fel y'i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir mewn unrhyw gofnod cyfatebol yng ngholofn 2 yn y Rhan honno.

(5Ystyr unrhyw gyfeiriad at fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 3 neu at fethu â chydymffurfio â hi yw mynd yn groes i'r canlynol neu fethu â chydymffurfio â'r canlynol—

(a)unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliad Sengl CMO a grybwyllir yng ngholofn 1 yn Rhan 1 o Atodlen 3, fel y'i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir mewn unrhyw gofnod cyfatebol yng ngholofn 2 yn y Rhan honno; neu

(b)unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 a grybwyllir yng ngholofn 1 yn Rhan 2 o Atodlen 3, fel y'i darllenir gydag unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir mewn unrhyw gofnod cyfatebol yng ngholofn 2 yn y Rhan honno.

RHAN 2Wyau deor a chywion

Cydymffurfio â darpariaethau Cymunedol

4.  Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2, neu'n methu â chydymffurfio â hi.

Cofrestru sefydliadau bridio pedigri, sefydliadau bridio a deorfeydd

5.—(1Dynodir Gweinidogion Cymru yn awdurdod cymwys at ddiben Erthygl 2(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 (cofrestru sefydliadau bridio pedigri, sefydliadau bridio eraill a deorfeydd).

(2Os gwneir cais i Weinidogion Cymru yn unol ag Erthygl 2(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008, rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd o fewn 28 o ddiwrnodau o'r materion a bennir ym mharagraff (3).

(3Dyma'r materion—

(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais;

(b)y rhesymau dros wrthod caniatáu'r cais; ac

(c)yn achos gwrthod caniatáu'r cais, yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 18.

(4Os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon y dylid caniatáu cais, cânt (yn lle gwrthod y cais) hysbysu'r ceisydd o'r rheswm dros hyn, ac—

(a)os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon bod digon o ddata wedi ei ddarparu i gefnogi'r cais, cânt ofyn i'r ceisydd ddarparu rhagor o ddata;

(b)os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon y cydymffurfir ar ôl cofrestru'r sefydliad hwnnw â'r holl ddarpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 2 ac sy'n berthnasol i'r math o sefydliad sydd i'w gofrestru, cânt ofyn i'r ceisydd gymryd camau i sicrhau y cydymffurfir â'r darpariaethau hynny; ac

(c)caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i'r ceisydd ddarparu ar eu cyfer esboniadau llafar neu ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r cais.

(5Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu tynnu'n ôl gofrestriad sefydliad bridio pedigri, sefydliad bridio arall neu ddeorfa oherwydd i'r sefydliad neu'r ddeorfa fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2, neu iddo neu iddi fethu â chydymffurfio â'r ddarpariaeth honno, rhaid iddynt, o fewn 28 o ddiwrnodau, hysbysu'r person sy'n rhedeg busnes yn y sefydliad o dan sylw (“y gweithredydd”) o'r materion a bennir ym mharagraff (6).

(6Dyma'r materion—

(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru i dynnu'n ôl y cofrestriad;

(b)y dyddiad y mae tynnu'n ôl y cofrestriad i fod yn effeithiol;

(c)y rhesymau dros dynnu'n ôl y cofrestriad; ac

(ch)yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 18.

(7Os bydd Gweinidogion Cymru â'u bryd ar dynnu'n ôl gofrestriad sefydliad bridio pedigri, sefydliad bridio arall neu ddeorfa oherwydd i'r sefydliad neu'r ddeorfa fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2 neu iddo neu iddi fethu â chydymffurfio â hi, (yn lle tynnu'n ôl y cofrestriad) cânt hysbysu'r gweithredydd eu bod â'u bryd ar dynnu'n ôl y cofrestriad, a rhoi iddo'r rhesymau dros wneud hyn, ac—

(a)os bydd y sefydliad neu'r ddeorfa'n parhau i fynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2, neu'n parhau i fethu â chydymffurfio â'r cyfryw ddarpariaeth, cânt ofyn i'r gweithredydd gymryd camau i sicrhau y cydymffurfir â'r ddarpariaeth honno; a

(b)cânt roi cyfle i'r gweithredydd ddarparu ar eu cyfer esboniadau llafar neu ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r mater.

(8Os yw Gweinidogion Cymru'n rhoi hysbysiad i geisydd o dan baragraff (4), neu i weithredydd o dan baragraff (7), rhaid i Weinidogion Cymru bennu yn yr hysbysiad derfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid i unrhyw gamau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd.

(9Caniateir i unrhyw derfyn amser a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn gael ei estyn ar un achlysur neu ar fwy nag un.

(10Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig.

(11At ddibenion cyfrifo terfyn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a bennir ym mharagraff (2), bydd y cloc yn cael ei stopio yn ystod unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ei roi i geisydd i gymryd unrhyw gamau a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (4).

Rhanddirymu mewn perthynas â marcio wyau deor

6.  Caniateir i wyau deor gael eu marcio mewn dull gwahanol i'r dull a bennir yn Erthygl 3(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 os bydd marcio'r wyau—

(a)mewn du, yn annileadwy, i'w weld yn glir ac yn o leiaf 10mm2 ei arwynebedd; a

(b)yn cael ei wneud cyn iddynt gael eu rhoi yn y deorydd, naill ai yn y sefydliad cynhyrchu neu mewn deorfa.

RHAN 3Wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta

Cydymffurfio â darpariaethau Cymunedol

7.  Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 3 neu'n methu â chydymffurfio â hi.

Awdurdodi canolfannau pecynnu i raddio wyau

8.—(1Dynodwyd Gweinidogion Cymru yn awdurdod cymwys at ddiben is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 (awdurdodi ymgymeriadau yn ganolfannau pecynnu i raddio wyau).

(2Os gwneir cais i Weinidogion Cymru o dan is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 i awdurdodi ymgymeriad yn ganolfan becynnu i raddio wyau, rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd o fewn 28 o ddiwrnodau o'r materion a bennir ym mharagraff (3).

(3Dyma'r materion—

(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru ar y cais;

(b)y rhesymau dros wrthod rhoi awdurdodiad; ac

(c)yn achos gwrthod rhoi awdurdodiad, yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 18.

(4Os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon y dylid rhoi awdurdodiad, cânt (yn lle gwrthod y cais) hysbysu'r ceisydd o'r rheswm dros hyn, ac

(a)os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon bod digon o ddata wedi ei ddarparu i gefnogi'r cais, cânt ofyn i'r ceisydd ddarparu rhagor o ddata;

(b)os nad yw Gweinidogion Cymru'n fodlon bod yr holl ofynion a geir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 589/2008 ac sy'n berthnasol i'r math o ganolfan becynnu sydd i'w hawdurdodi wedi eu bodloni, cânt ofyn i'r ceisydd gydymffurfio ag unrhyw ofyniad nad yw eto wedi ei fodloni; ac

(c)caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i'r ceisydd ddarparu ar eu cyfer esboniadau llafar ac ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r cais.

(5Os bydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu tynnu'n ôl awdurdodiad canolfan becynnu i raddio wyau oherwydd i'r ganolfan fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu rai o'r darpariaethau a osodir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 rhaid iddynt hysbysu'r person sy'n rhedeg busnes yn y ganolfan becynnu (“y gweithredydd”) o'r materion a bennir ym mharagraff (6) o fewn 28 o ddiwrnodau.

(6Dyma'r materion—

(a)penderfyniad Gweinidogion Cymru i dynnu'n ôl yr awdurdodiad;

(b)y dyddiad y mae tynnu'n ôl yr awdurdodiad i fod yn effeithiol;

(c)y rhesymau dros dynnu'n ôl yr awdurdodiad; ac

(ch)yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 18.

(7Os bydd Gweinidogion Cymru â'u bryd ar dynnu'n ôl awdurdodiad canolfan becynnu i raddio wyau oherwydd i'r ganolfan fethu â chydymffurfio ag unrhyw un neu rai o'r darpariaethau a osodir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, (yn lle tynnu'n ôl yr awdurdodiad) cânt hysbysu'r gweithredydd eu bod â'u bryd ar dynnu'n ôl yr awdurdodiad, a rhoi'r rhesymau dros wneud hyn, ac—

(a)os bydd y methiant i gydymffurfio ag unrhyw un neu rai o'r gofynion a osodir yn is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 yn parhau, cânt ofyn i'r gweithredydd gymryd camau i sicrhau y cydymffurfir â'r gofynion hynny; a

(b)caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i'r gweithredydd ddarparu ar eu cyfer esboniadau llafar neu ysgrifenedig mewn cysylltiad â'r mater.

(8Os yw Gweinidogion Cymru'n rhoi hysbysiad i geisydd o dan baragraff (4) neu i weithredydd o dan baragraff (7), rhaid i Weinidogion Cymru bennu yn yr hysbysiad derfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid i unrhyw gamau a bennir yn yr hysbysiad gael eu cymryd.

(9Caniateir i unrhyw derfyn amser a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn gael ei estyn ar un achlysur neu ar fwy nag un.

(10Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig.

(11At ddibenion cyfrifo terfyn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a bennir ym mharagraff (2), bydd y cloc yn cael ei stopio yn ystod unrhyw gyfnod y mae Gweinidogion Cymru yn ei roi i geisydd i gymryd unrhyw gamau a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (4).

Rhanddirymiadau sy'n ymwneud â marcio wyau

9.—(1Nid yw'r darpariaethau yn ail is-baragraff pwynt III (1) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO (sy'n ei gwneud yn ofynnol i wyau dosbarth B gael eu marcio) yn gymwys os yw wyau dosbarth B i'w marchnata yn y Deyrnas Unedig yn unig.

(2Nid yw'r darpariaethau yn is-baragraff cyntaf pwynt III (3) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO (sy'n ei gwneud yn ofynnol i wyau a werthir gan gynhyrchydd i ddefnyddiwr terfynol mewn marchnad gyhoeddus leol yn y rhanbarth cynhyrchu gael eu marcio'n unol â phwynt III (1) o Ran A o Atodiad XIV Reoliad y Cyngor) yn gymwys yn achos cynhyrchydd sy'n cadw hyd at 50 o ieir dodwy os nodir enw a chyfeiriad y cynhyrchydd yn y man gwerthu.

Pori da byw ar libartau awyr agored

10.  At ddiben pwynt 1 yn Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 (sy'n gosod y gofynion sylfaenol y mae angen eu bodloni er mwyn i wyau gael eu marchnata fel wyau buarth), awdurdodir pori da byw ar libartau awyr agored y mae gan ieir dodwy fynediad iddynt.

Rhanddirymiadau sy'n ymwneud ag wyau buarth

11.—(1Trwy randdirymiad o ddarpariaethau pwynt 1 yn Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, caniateir i wyau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt gael eu marchnata fel wyau buarth er iddynt gael eu cynhyrchu mewn system gynhyrchu nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw un neu fwy o'r amodau a bennir ym mharagraff (3).

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i wyau a gynhyrchir mewn sefydliad a chanddo lai na 350 o ieir dodwy neu sy'n magu ieir dodwy sy'n bridio ar yr adeg pan gynhyrchir yr wyau.

(3Pennir amodau canlynol Erthygl 4(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC at ddiben paragraff (1)—

(a)ail frawddeg pwynt 1(d);

(b)pwynt 1(e);

(c)pwynt 2;

(ch)pwynt 3(a)(i); ac

(d)pwynt 3(b)(i).

Rhanddirymiadau sy'n ymwneud ag wyau sgubor

12.—(1Trwy randdirymiad o ddarpariaethau pwynt 2 yn Atodiad II i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, caniateir i wyau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt gael eu marchnata fel wyau sgubor er iddynt gael eu cynhyrchu mewn system gynhyrchu nad yw'n cydymffurfio ag unrhyw un neu fwy o'r amodau a bennir ym mharagraff (3).

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i wyau a gynhyrchir mewn sefydliad a chanddo lai na 350 o ieir dodwy neu sy'n magu ieir dodwy sy'n bridio ar yr adeg pan gynhyrchir yr wyau.

(3Pennir amodau canlynol Erthygl 4(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/EC at ddiben paragraff (1)—

(a)ail frawddeg pwynt 1(d);

(b)pwynt 1(e);

(c)pwynt 2;

(ch)pwynt 3(a)(i); ac

(d)pwynt 3(b)(i).

RHAN 4Amrywiol Ddarpariaethau

Pwerau swyddogion awdurdodedig

13.—(1Caiff swyddog awdurdodedig gyfarwyddo unrhyw berson i adael y canlynol heb aflonyddu arnynt, cyhyd ag y byddo'n rhesymol angenrheidiol at ddiben unrhyw archwiliad neu ymchwiliad—

(a)wyau;

(b)wyau deor;

(c)pecynnau neu gynwysyddion eraill ar gyfer wyau, wyau deor neu gywion;

(ch)labeli neu ddogfennau'n ymwneud ag wyau, wyau deor neu gywion; a

(d)unrhyw fangre lle y deuir o hyd i unrhyw wyau, wyau deor neu gywion, unrhyw becynnau neu gynwysyddion eraill ar gyfer wyau, wyau deor neu gywion, ac unrhyw labeli neu ddogfennau'n ymwneud â'r cyfryw wyau neu gywion.

(2Os na fydd archwiliad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal ar unwaith ar ôl i gyfarwyddyd gael ei roi o dan baragraff (1), caiff swyddog awdurdodedig roi tâp ynghlwm wrth y pecynnau neu gynwysyddion eraill ar gyfer wyau neu wyau deor sy'n ddarostyngedig i'r cyfarwyddyd hwnnw, neu eu diogelu mewn ffordd arall tra disgwylir yr archwiliad neu'r ymchwiliad.

(3Caiff swyddog awdurdodedig gyfarwyddo unrhyw berson i sicrhau bod unrhyw—

(a)wyau;

(b)wyau deor;

(c)pecynnau neu gynwysyddion eraill ar gyfer wyau, wyau deor neu gywion; neu

(ch)labeli neu ddogfennau'n ymwneud ag wyau, wyau deor neu gywion,

nad ydynt yn cydymffurfio mewn unrhyw ffordd â gofynion unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2 (o ran wyau deor a chywion) neu 3 (o ran wyau eraill), yn cydymffurfio â'r gofynion hynny cyn iddynt gael eu symud o unrhyw dir, cerbyd neu ôl-gerbyd, ac eithrio fel y byddo swyddog awdurdodedig yn cyfarwyddo'n ysgrifenedig fel arall.

(4Caiff swyddog awdurdodedig atafaelu unrhyw gyfrifiadur ac offer cysylltiedig at ddiben copïo dogfennau ar yr amod eu bod yn cael eu dychwelyd cyn gynted ag y bo'n ymarferol a, beth bynnag, o fewn 28 o ddiwrnodau.

(5Os yw swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵer o dan baragraff (4), rhaid i'r swyddog awdurdodedig hysbysu'r person a chanddo ofal o'r fangre lle yr atafaelwyd y cyfarpar o'r hawl i apelio a roddir gan reoliad 18.

(6Ac eithrio fel a ddatgenir ym mharagraff (3), gall unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig o dan baragraff (1) neu (3) gael ei roi ar lafar neu'n ysgrifenedig ond rhaid i unrhyw gyfarwyddyd a roddir ar lafar gael ei gadarnhau'n ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n ymarferol a, beth bynnag, o fewn 24 awr.

(7Rhaid i swyddog awdurdodedig beidio ag arfer y pwerau o dan baragraffau (1) i (4) onid yw'n cyflwyno, os gofynnir iddo wneud hynny, ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod y swyddog.

(8Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw—

(a)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y person hwnnw gan gyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig o dan baragraff (1);

(b)oni chaiff ei awdurdodi'n ysgrifenedig i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig, yn ymyrryd ag unrhyw becynnau neu gynwysyddion a ddiogelwyd gan swyddog awdurdodedig o dan baragraff (2); neu

(c)heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y person hwnnw gan gyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig o dan baragraff (3).

Gofynion cadw cofnodion

14.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw berson sy'n gwneud unrhyw weithgaredd a reoleiddir gan ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2 neu 3 i gydymffurfio ag unrhyw un neu rai o'r gofynion a bennir ym mharagraff (2).

(2Dyma'r gofynion—

(a)cadw'r cyfryw gofnodion ag y byddo'n rhesymol i Weinidogion Cymru ofyn amdanynt at ddibenion gorfodi unrhyw ddarpariaeth o'r fath, neu beri eu bod yn cael eu cadw;

(b)darparu ar gyfer Gweinidogion Cymru y cyfryw wybodaeth sy'n deillio o'r cyfryw gofnodion ag y byddo Gweinidogion Cymru'n gofyn amdani ar yr adegau a bennir yn yr hysbysiad; ac

(c)cadw'r cyfryw gofnodion am y cyfryw gyfnod ag y byddo'n rhesymol i Weinidogion Cymru ofyn am eu cadw.

(3Ond rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (1) onid yw'r cofnodion y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy o fath a gedwir yn aml gan bersonau sy'n gwneud unrhyw weithgaredd a reoleiddir gan ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2 neu 3 (p'un ai'r person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo sy'n eu cadw ai peidio) ac—

(a)oni roddir y cyfarwyddyd ar neu cyn 17 Hydref 2009 a'i bod yn rhesymol i Weinidogion Cymru amau bod y person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wedi mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2 neu 3 neu wedi methu â chydymffurfio â'r ddarpariaeth honno ers i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;

(b)oni roddir y cyfarwyddyd ar neu cyn 17 Hydref 2009, onid yw'r person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wedi ei gollfarnu o dramgwydd o dan reoliad 4 neu 7 o'r Rheoliadau hyn ers i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ac onid yw'n rhesymol i Weinidogion Cymru amau bod y person hwnnw, ers iddo gael ei gollfarnu—

(i)wedi parhau i fynd yn groes i'r ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2 neu 3 ac y mae'r gollfarn yn ymwneud â hi, neu'n parhau i fethu â chydymffurfio â hi; neu

(ii)wedi mynd yn groes i ryw ddarpariaeth arall a grybwyllir yn Atodlen 2 neu 3 neu wedi methu â chydymffurfio â hi;

(c)oni roddir y cyfarwyddyd ar neu ar ôl 18 Hydref 2009 ac onid yw'n rhesymol i Weinidogion Cymru amau bod y person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wedi mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2 neu 3 neu wedi methu â chydymffurfio â hi o fewn y cyfnod o chwe mis yn union cyn i'r cyfarwyddyd gael ei roi; neu

(ch)oni roddir y cyfarwyddyd ar neu ar ôl 18 Hydref 2009, ac onid yw'r person y rhoddir y cyfarwyddyd iddo wedi ei gollfarnu o dramgwydd o dan reoliad 4 neu 7 o'r Rheoliadau hyn o fewn y cyfnod o chwe mis yn union cyn i'r cyfarwyddyd gael ei roi, ac onid yw'n rhesymol i Weinidogion Cymru amau bod y person hwnnw, ers ei gollfarnu —

(i)wedi parhau i fynd yn groes i'r ddarpariaeth a grybwyllir yn Atodlen 2 neu 3 ac y mae'r gollfarn yn ymwneud â hi, neu'n parhau i fethu â chydymffurfio â hi; neu

(ii)wedi mynd yn groes i ryw ddarpariaeth arall a grybwyllir yn Atodlen 2 neu 3 neu wedi methu â chydymffurfio â hi.

(4Rhaid i unrhyw gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (1) fod yn ysgrifenedig.

(5Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad a osodir ar y person hwnnw gan gyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (1).

Rhwystro

15.—(1Mae person yn euog o dramgwydd os yw'r person hwnnw—

(a)yn fwriadol yn rhwystro swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;

(b)heb esgus rhesymol, yn methu â rhoi i swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'n rhesymol iddo neu iddi fod yn ofynnol ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r swyddog awdurdodedig o dan y Rheoliadau hyn;

(c)yn rhoi i swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn dwyllodrus neu'n gamarweiniol, neu y dylai'n rhesymol wybod ei bod yn dwyllodrus neu'n gamarweiniol; neu

(ch)yn methu â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddog awdurdodedig sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith.

(2Nid oes dim ym mharagraff (1)(b) i'w ddehongli fel ei bod yn ofynnol i unrhyw berson ateb unrhyw gwestiwn neu roi unrhyw wybodaeth pe byddai'r person hwnnw o wneud hynny'n ei hunan-argyhuddo.

Gorfodi

16.—(1Rhaid i bob awdurdod bwyd—

(a)gorfodi'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 3, fel y'i darllenir gyda rheoliad 7, i'r graddau y maent yn ymwneud â—

(i)manwerthu wyau o fewn ei ardal; a

(ii)gwerthu wyau i arlwywyr mawr yn ei ardal;

(b)gorfodi darpariaethau rheoliad 13(8)—

(i)yn achos cyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig sydd wedi ei awdurdodi gan yr awdurdod bwyd; a

(ii)yn achos pecyn neu gynhwysydd a ddiogelir gan swyddog awdurdodedig a awdurdodir gan yr awdurdod bwyd; ac

(c)gorfodi darpariaethau rheoliad 15 (1) yn achos rhwystro swyddog awdurdodedig a awdurdodir gan yr awdurdod bwyd.

(2Caiff Gweinidogion Cymru orfodi'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 3, fel y'i darllenir gyda rheoliad 7, i'r graddau y maent yn gymwys i fanwerthu wyau neu werthu wyau i arlwywr mawr.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)gorfodi'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 2, fel y'i darllenir gyda rheoliad 4;

(b)gorfodi'r darpariaethau a grybwyllir yn Atodlen 3, fel y'i darllenir gyda rheoliad 7, i'r graddau nad ydynt yn gymwys i fanwerthu wyau neu werthu wyau i arlwywr mawr;

(c)gorfodi darpariaethau rheoliad 13(8)—

(i)yn achos cyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig a awdurdodir gan Weinidogion Cymru; ac

(ii)yn achos pecyn neu gynhwysydd a ddiogelir gan swyddog awdurdodedig sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru;

(ch)gorfodi darpariaethau rheoliad 14(5); a

(d)gorfodi darpariaethau rheoliad 15 (1) (a) i (ch) yn achos rhwystro swyddog awdurdodedig sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru.

(4Yn y rheoliad hwn—

  • mae “gwerthu” (“sale”) yn cynnwys meddu ar gynnyrch ar gyfer ei werthu, ei gynnig a'i arddangos ar gyfer ei werthu a hysbysebu ei fod ar werth; ac

  • ystyr “manwerthu” (“retail sale”) yw unrhyw werthu ac eithrio gwerthu'r cynnyrch ar gyfer ei ddefnyddio neu ei ailwerthu wrth fasnachu neu redeg busnes.

Dyletswydd i roi cymorth a darparu gwybodaeth

17.  Rhaid i bob awdurdod gorfodi roi'r cyfryw gymorth a'r cyfryw wybodaeth i unrhyw awdurdod gorfodi arall ag y byddo'r awdurdod arall hwnnw'n gofyn yn rhesymol amdano neu amdani at ddiben eu dyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn.

Apelau

18.—(1Caiff unrhyw berson y mae penderfyniad a bennir ym mharagraff (2) yn ei dramgwyddo apelio i lys ynadon yn erbyn y penderfyniad hwnnw.

(2Mae'r canlynol yn benderfyniad penodedig at ddiben paragraff (1) —

(a)penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod cofrestru sefydliad yn sefydliad bridio pedigri, yn sefydliad bridio arall neu'n ddeorfa o dan Erthygl 2(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008, neu i dynnu'n ôl y cyfryw gofrestriad;

(b)penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod awdurdodi ymgymeriad yn ganolfan becynnu i raddio wyau o dan is-baragraff cyntaf Erthygl 5(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, neu i dynnu'n ôl y cyfryw awdurdodiad; ac

(c)penderfyniad gan swyddog awdurdodedig i atafaelu unrhyw gyfrifiadur neu gyfarpar cysylltiedig o dan reoliad 13(4).

(3Mae adran 37(3), (5) a (6) o'r Ddeddf yn effeithiol mewn perthynas ag apêl o dan y rheoliad hwn fel y mae'n effeithiol mewn perthynas ag apêl o dan yr adran honno, ond gyda hepgor—

(a)yn is-adran (3), y geiriau “, or an appeal to such a court for which provision is made by regulations under Part II of this Act,”;

(b)is-adran (5)(b), a'r gair “or” sy'n dod yn union o'i blaen; ac

(c)yn is-adran (6)(a), y geiriau “or to the sheriff”.

(4Nid yw tynnu'n ôl awdurdodiad neu gofrestriad y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn effeithiol hyd oni fydd yr amser ar gyfer apelio yn ei erbyn wedi dod i ben, ac, os cyflwynir apêl, hyd oni waredir yr apêl yn derfynol, hyd oni chaiff ei thynnu'n ôl, neu hyd oni chaiff, yn niffyg erlyniad, ei dileu.

Cosb

19.  Mae person sy'n euog o dramgwydd a bennir yn rheoliad 4, 7, 13(8), 14(5) neu 15 (1) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Cyfnod estynedig ar gyfer dwyn erlyniad

20.—(1Caniateir cychwyn achos am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn o fewn y cyfnod o un flwyddyn o'r dyddiad pryd y daeth tystiolaeth sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos i sylw'r erlynydd.

(2Ond nid yw'r cyfryw achos i'w gychwyn yn rhinwedd paragraff (1) fwy na thair blynedd ar ôl i'r tramgwydd gael ei gyflawni.

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan yr erlynydd neu ar ei ran ac y nodir arni'r dyddiad pryd y daeth tystiolaeth sy'n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn achos i sylw'r erlynydd yn dystiolaeth ddigamsyniol o'r ffaith honno; a

(b)bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac yr honnir iddi gael ei llofnodi felly wedi ei llofnodi felly oni cheir prawf i'r gwrthwyneb.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf

21.—(1Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiadau a bennir ym mharagraff (2)—

  • adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

  • adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

  • adran 21(14) (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy);

  • adran 29 (caffael samplau);

  • adran 30(8) (tystiolaeth ddogfennol);

  • adran 32(1) i (8)(15) (pwerau mynediad);

  • adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

  • adran 36A(16) (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd);

  • adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll);

  • adran 46(1) (treuliau swyddogion awdurdodedig); ac

  • adran 50(17) (cyflwyno dogfennau).

(2Mae'r addasiadau fel a ganlyn—

(a)dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (1) at y Ddeddf (neu at Ran o'r Ddeddf) fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn, a hefyd, mewn perthynas ag adran 32(1)(a), dehongli'r cyfeiriad at “the provisions of this Act” fel cyfeiriad at y darpariaethau a grybwyllir yn Atodlenni 2 a 3;

(b)dehongli unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (1) at swyddog awdurdodedig, neu swyddog i awdurdod gorfodi neu awdurdod bwyd, fel cyfeiriad at swyddog awdurdodedig fel y'i diffinnir yn rheoliad 3 (1) o'r Rheoliadau hyn;

(c)mewn perthynas ag adran 20, dehongli'r cyfeiriad at yr adran fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at yr adran honno fel y'i cymhwysir i'r Rheoliadau hyn gan baragraff (1);

(ch)mewn perthynas ag adran 21(2), rhodder yn lle'r geiriau “section 14 or 15 above” y geiriau “these Regulations”;

(d)mewn perthynas ag adran 29—

(i)ym mharagraff (b)(ii), dehongli'r cyfeiriad at adran 32 fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at adran 32 fel y'i cymhwysir i'r Rheoliadau hyn gan baragraff (1); a

(ii)ym mharagraff (d), hepgorer y geiriau “or of regulations or orders made under it”;

(dd)mewn perthynas ag adran 30(8)(a), hepgorer y geiriau “under subsection (6) above”;

(e)mewn perthynas ag adran 32—

(i)yn is-adran (1)(a), hepgorer y geiriau “, or of regulations or orders made under it”;

(ii)yn is-adran (4), dehongli'r cyfeiriad at yr adran fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at yr adran honno fel y'i cymhwysir i'r Rheoliadau hyn gan baragraff (1);

(iii)yn is-adran (5), dehongli'r cyfeiriad at yr adran fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at yr adran honno fel y'i cymhwysir i'r Rheoliadau hyn gan baragraff (1) a dehongli'r cyfeiriad at “a food business” fel pe bai'n cynnwys deorfa;

(iv)yn is-adran (6)(a), hepgorer y geiriau “or of regulations or orders made under it”; a

(v)yn is-adran (7), dehongli'r cyfeiriad at yr adran fel pe bai'n cynnwys cyfeiriad at yr adran honno fel y'i cymhwysir i'r Rheoliadau hyn gan baragraff (1); a

(f)mewn perthynas ag adran 44, dehongli unrhyw gyfeiriad at awdurdod bwyd fel cyfeiriad at awdurdod gorfodi.

Darpariaeth drosiannol

22.  Mae unrhyw awdurdod ysgrifenedig a roddwyd i unrhyw berson i weithredu mewn materion sy'n deillio o dan neu mewn perthynas â Rheoliadau Wyau (Safonau Marchnata) 1995(18) yn effeithiol fel pe bai'n cyfeirio at y Rheoliadau hyn.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

25 Mawrth 2009

Rheoliad 2

ATODLEN 1DIRYMIADAU

  • Rheoliadau Wyau (Safonau Marchnata) 1995

  • Rheoliadau Wyau (Safonau Marchnata) (Diwygio) 1996(19)

  • Rheoliadau Wyau (Safonau Marchnata) (Diwygio) 1997(20)

  • Rheoliadau Wyau (Safonau Marchnata) (Diwygio) 1998(21)

  • Rheoliadau Wyau (Safonau Marchnata) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2006(22)

Rheoliad 4

ATODLEN 2DARPARIAETHAU CYMUNEDOL YN YMWNEUD AG WYAU DEOR A CHYWION Y MAE METHIANT I GYDYMFFURFIO Å HWY YN DRAMGWYDD

RHAN 1DARPARIAETHAU'R RHEOLIAD SENGL CMO

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Y ddarpariaeth berthnasol yn y Rheoliad Sengl CMODarpariaethau i'w darllen gyda darpariaethau'r Rheoliad Sengl CMO a grybwyllir yng ngholofn 1Y pwnc
Erthygl 113(3) i'r graddau y mae'n ymwneud â marchnata wyau deor a chywionRhan C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008Gwaharddiad ar farchnata wyau deor a chywion ac eithrio yn unol â'r safonau marchnata a osodir yn Rhan C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008.
Pwynt II(1) o Ran C o Atodiad XIVErthygl 3(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008Marcio wyau deor.
Pwynt II(2) o Ran C o Atodiad XIVErthygl 3(4) a (5) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008Cludo a phacio wyau deor.
Pwynt II(3) o Ran C o Atodiad XIVErthygl 3(8) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008Mewnforio pecynnau o wyau deor o drydedd wlad.
Pwynt III(1) o Ran C o Atodiad XIVErthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008Pacio cywion yn ôl rhywogaeth, math a chategori o ddofednod.
Pwynt III(2) o Ran C o Atodiad XIVErthygl 4(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008Cynnwys a marciau bocsus o gywion.
Pwynt III(3) o Ran C o Atodiad XIVErthygl 4(1) a (3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008,Mewnforio cywion o drydedd wlad.

RHAN 2DARPARIAETHAU RHEOLIAD Y COMISIWN (EC) RHIF 617/2008

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Darpariaeth berthnasol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008Darpariaethau sydd i'w darllen gyda darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 a grybwyllir yng ngholofn 1Y pwnc
Erthygl 2(1)Cofrestru sefydliadau bridio pedigri, sefydliadau bridio a deorfeydd.
Erthygl 3(1)Erthygl 3(2) a (3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008Marcio wyau deor fesul un.
Erthygl 3(2)Erthygl 3(3) a (5) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 a rheoliad 6Marcio wyau deor yn y sefydliad cynhyrchu.
Erthygl 3(4)Erthygl 3(5) a (6) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 ac Atodiad II iddoPacio wyau deor.
Erthygl 3(6)Erthygl 3(4) a (5) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008Rhif unigryw'r sefydliad cynhyrchu ar becynnau a chynwysyddion y cludir wyau deor ynddynt.
Erthygl 3(7)Erthygl 3(1), (2) a (3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 a rheoliad 6Gwaharddiad ar gludo neu fasnachu wyau deor rhwng Aelod— wladwriaethau onid ydynt wedi'u marcio'n gywir.
Erthygl 3(8)Mewnforio wyau deor
Erthygl 4(1)Pwynt III (1) o Ran C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO ac Erthygl 4(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008Pacio cywion yn ôl rhywogaeth, math a chategori o ddofednod.
Erthygl 4(2)Pwynt III (2) o Ran C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO ac Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008Cynhwysiad a gofynion marcio sylfaenol ar gyfer pecynnau sy'n cynnwys cywion.
Erthygl 4(3)Pwynt III (3) o Ran C o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO ac Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008Mewnforio cywion o drydydd gwledydd, gan gynnwys cynhwysiad a gofynion marcio sylfaenol ar gyfer pecynnau sy'n cynnwys cywion.
Erthygl 5(1)Dogfennau sy'n gorfod bod gyda sypiau o wyau deor a chywion.
Erthygl 5(2)Erthygl 5(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008Gofynion arbennig o ran gwybodaeth sydd i'w darparu o ran dogfennau sy'n gorfod bod gyda sypiau o wyau deor a chywion a fewnforir o drydedd wlad.
Erthygl 6Cadw cofrestri gan ddeorfeydd.
Erthygl 7Cyfyngiad ar y defnydd o wyau a dynnwyd o ddeorydd.
Erthygl 8(1)Ymrwymiad ar ddeorfeydd i ddarparu adroddiadau misol.

Rheoliad 7

ATODLEN 3DARPARIAETHAU CYMUNEDOL YN YMWNEUD AG WYAU YN EU PLISGYN I'W BWYTA Y MAE METHIANT I GYDYMFFURFIO Å HWY YN DRAMGWYDD

RHAN 1DARPARIAETHAU'R RHEOLIAD SENGL CMO

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Y ddarpariaeth berthnasol yn y Rheoliad Sengl CMODarpariaethau i'w darllen gyda darpariaethau'r Rheoliad Sengl CMO a grybwyllir yng ngholofn 1Y pwnc
Erthygl 113(3) i'r graddau y mae'n ymwneud â marchnata wyauRhan A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Gwaharddiad ar farchnata wyau ac eithrio yn unol â'r safonau marchnata a osodir yn Rhan A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008.
Pwynt II(1) o Ran A o Atodiad XIVErthygl 2(1) a (4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Graddio ansawdd.
Pwynt II(2) o Ran A o Atodiad XIVErthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Graddio pwysau wyau dosbarth A.
Pwynt II(3) o Ran A o Atodiad XIVGwaharddiad ar gyflenwi wyau dosbarth B ac eithrio i'r diwydiant bwyd a diwydiant nad yw'n ddiwydiant bwyd.
Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV, yr is-baragraff cyntafPwynt III(3) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO ac Erthyglau 9(1) ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Marcio wyau dosbarth A.
Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV, yr ail is-baragraffErthyglau 9, 10 ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 a rheoliad 9(1)Marcio wyau dosbarth B.
Pwynt III(2) o Ran A o Atodiad XIVPwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMOY man lle caiff wyau eu marcio.
Pwynt III(3) o Ran A o Atodiad XIV, yr is-baragraff cyntafPwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV ac ail is— baragraff pwynt III(3) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO a rheoliad 9(2)Marcio wyau a werthir gan gynhyrchydd i'r cwsmer terfynol mewn marchnad gyhoeddus leol.
Pwynt IV(1) o Ran A o Atodiad XIV, y drydedd frawddegErthygl 30(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad os canfyddwyd bod y rheolau a gymhwysir mewn perthynas â'r wyau hynny yn y drydedd wlad o dan sylw yn cynnig digon o warant bod y rheolau'n gyfwerth â deddfwriaeth Gymunedol.
Pwynt IV(3) o Ran A o Atodiad XIVErthygl 30(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad os canfyddwyd nad yw'r rheolau a gymhwysir mewn perthynas â'r wyau hynny'n cynnig digon o warant bod y rheolau'n gyfwerth â deddfwriaeth Gymunedol.

RHAN 2DARPARIAETHAU RHEOLIAD Y COMISIWN (EC) RHIF 589/2008

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
Darpariaeth berthnasol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Darpariaethau sydd i'w darllen gyda darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 a grybwyllir yng ngholofn 1Y pwnc
Erthygl 2(1)Pwynt II(1) o Ran A o Atodiad XIV, yr indent cyntaf, i'r Rheoliad Sengl CMONodweddion ansawdd wyau dosbarth A.
Erthygl 2(2)Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Gwahardd golchi a glanhau wyau dosbarth A cyn eu graddio neu ar ôl hynny.
Erthygl 2(3)Gwahardd trin wyau dosbarth A ar gyfer eu cadw ac oeri wyau mewn mangreoedd neu weithfeydd lle y cedwir y tymheredd drwy ddulliau artiffisial yn is na 5°C.
Erthygl 2(4)Pwynt II(1) o Ran A o Atodiad XIV, yr ail indent, i'r Rheoliad Sengl CMONodweddion ansawdd wyau dosbarth B.
Erthygl 4(1)Pwynt II(2) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO ac Erthygl 4(3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Graddio wyau dosbarth A yn ôl eu pwysau.
Erthygl 4(2)Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 a Chyfarwyddeb 2000/13/ECDangosiadau graddio yn ôl pwysau.
Erthygl 4(3)Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Isafswm pwysau net mewn gramau a'r dangosiad “eggs of different sizes” neu dermau cyfwerth i'w gosod ar wyneb allanol pecyn o wyau dosbarth A o wahanol feintiau.
Erthygl 5(1), yr is-baragraff cyntafGraddio a phacio wyau a labelu pecynnau yn ôl canolfannau pecynnu.
Erthygl 5(3)Canolfannau pecynnu i feddu ar y cyfarpar technegol angenrheidiol i sicrhau bod wyau'n cael eu trafod yn briodol.
Erthygl 6(1)Wyau i'w graddio, i'w marcio ac i'w pecynnu o fewn 10 niwrnod i'w dodwy.
Erthygl 6(2)Erthygl 14 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Wyau dosbarth A a gaiff eu marchnata fel wyau “extra” neu “extra fresh” i'w graddio, i'w marcio ac i'w pecynnu o fewn pedwar diwrnod i'w dodwy.
Erthygl 6(3)Erthyglau 12(1)(d) a 13 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 ac Erthygl 9(2) o Gyfarwyddeb 2000/13/ECPecynnau i'w marcio gyda dyddiad isafswm eu parhauster adeg eu pacio.
Erthygl 7(1), yr is-baragraff cyntafErthygl 7(1), yr ail is-baragraff, o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Cynhyrchwyr i nodi gwybodaeth benodol ar bob deunydd pacio ar gyfer cludo sy'n cynnwys wyau.
Erthygl 7(2), yr is-baragraff cyntaf, y frawddeg gyntafErthygl 7(1), ac Erthygl 7(2), yr ail is-baragraff, o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Cymhwyso'r wybodaeth a bennir yn Erthygl 7(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 i bob deunydd pacio ar gyfer cludo sy'n cynnwys wyau a chynnwys yr wybodaeth honno mewn dogfennau sy'n mynd gyda'r deunydd pacio.
Erthygl 7(2), yr is-baragraff cyntaf, yr ail frawddegErthygl 7(2), yr is-baragraff cyntaf, y frawddeg gyntaf, a'r ail is-baragraff, o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Gweithredwyr camau canol y broses i gadw copi o'r dogfennau a bennir ym mrawddeg gyntaf is-baragraff cyntaf Erthygl 7(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008.
Erthygl 7(2), yr is-baragraff cyntaf, y drydedd frawddegErthygl 7(2), yr is-baragraff cyntaf, y frawddeg gyntaf, a'r ail is-baragraff, o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Y ganolfan becynnu sy'n graddio wyau y mae'r dogfennau'n ymwneud â hwy i gadw dogfennau gwreiddiol y cyfeirir atynt ym mrawddeg gyntaf is-baragraff cyntaf Erthygl 7(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008.
Erthygl 7(3)Erthygl 7(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Gwahardd addasu neu symud yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Erthygl 7(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 ar ddeunydd pacio ar gyfer cludo sy'n cynnwys wyau hyd oni symudir yr wyau ar gyfer eu graddio, eu marcio a'u pecynnu yn ddiymdroi.
Erthygl 8(1)Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Wyau a gyflenwir o safle cynhyrchu i gasglwr, i ganolfan becynnu neu i ddiwydiant nad yw'n ddiwydiant bwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall i'w marcio â chod y cynhyrchydd cyn gadael y safle cynhyrchu, ac eithrio pan fo esemptiad wedi ei roi o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008.
Erthygl 8(2), y frawddeg olafCopi o'r contract cyflenwi i fynd gyda llwyth o wyau y rhoddwyd esemptiad iddo o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008.
Erthygl 8(5)Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV ail is-baragraff, y Rheoliad Sengl CMO, ac Erthygl 10 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 598/2008Marcio wyau dosbarth B i'w marchnata mewn Aelod— wladwriaeth arall.
Erthygl 9(1)Pwynt 2 o'r Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/4/EC(23) ar gofrestriad sefydliadau sy'n cadw ieir dodwy, a gwmpesir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/ ECCod cynhyrchydd.
Erthygl 10Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV yr ail is-baragraff, i'r Rheoliad Sengl CMOY dangosiadau ar wyau dosbarth B.
Erthygl 12(1)Marcio pecynnau o wyau dosbarth A.
Erthygl 12(2), yr is-baragraff cyntaf a'r ail is-baragraffErthygl 12(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 a Rhan A o Atodiad I iddo, ac Atodiad II iddo, Erthygl 2 o Reoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2092/91 (24) ar gynhyrchu cynhyrchion amaethyddol yn organig a dangosiadau sy'n cyfeirio at hynny ar gynhyrchion amaethyddol a chynhyrchion bwyd, a rheoliadau 10, 11 a 12Y dull ffermio i'w ddangos ar wyneb allanol y pecynnau sy'n cynnwys wyau dosbarth A.
Erthygl 12(2), y trydydd is-baragraffErthygl 9(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Cod cynhyrchydd i'w egluro ar becynnau neu y tu mewn iddynt.
Erthygl 12(2), y pedwerydd is-baragraffRhan B o Atodiad 1 i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 a Phennod III o Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/74/ECDefnyddio dangosiad a restrir yn Rhan B o Atodiad I i Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 (caetsus a gyfoethogwyd).
Erthygl 12(4)Marcio pecynnau o wyau dosbarth B.
Erthygl 13Erthygl 3(1)(5) o Gyfarwyddeb 2000/13/ECDyddiad parhauster lleiaf.
Erthygl 14(1)Defnyddio'r geiriau “extra” ac “extra fresh” fel dangosiad ychwanegol o ran ansawdd ar becynnau'n cynnwys wyau dosbarth A.
Erthygl 14(2)Erthygl 14(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Y dyddiad dodwy a'r terfyn amser naw niwrnod a bennir yn Erthygl 14(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 598/2008 i'w ddangos yn y fan lle y defnyddir y geiriau “extra” neu “extra fresh” fel dangosiad ychwanegol o ran ansawdd ar becynnau'n cynnwys wyau dosbarth A.
Erthygl 15Cyfeiriad at rawnfwyd fel cynhwysyn bwyd anifeiliaid pan roddir dangosiad ynghylch sut y bwydir ieir dodwy.
Erthygl 16Gwybodaeth i'w rhoi am werthiant wyau heb eu pecynnu.
Erthygl 17Ansawdd y pecynnau.
Erthygl 18Cynwysyddion pacio y caiff wyau diwydiannol eu marchnata ynddynt.
Erthygl 19Ailbecynnu wyau dosbarth A.
Erthygl 20(1)Erthygl 20(4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Cofnodion cynhyrchydd ar ddulliau ffermio.
Erthygl 20(2)Erthyglau 15 a 20(4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Cofnodion cynhyrchydd ar fwyd anifeiliaid.
Erthygl 20(3)Erthygl 20(1) a (2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Gwybodaeth a gofnodir gan gynhyrchwyr o dan Erthygl 20(1) a (2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 i'w chofnodi fesul cwt ieir pan fo cynhyrchydd yn defnyddio dulliau ffermio gwahanol ar un safle cynhyrchu unigol.
Erthygl 21(1)Erthygl 21(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Casglwyr i gofnodi gwybodaeth benodol ar wyau a gesglir ac a gyflenwir ganddynt.
Erthygl 22(1), yr is-baragraff cyntafErthygl 22(3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Cofnodion canolfannau pecynnu.
Erthygl 22(1), yr ail is-baragraffCanolfannau pecynnu i ddiweddaru eu cofnodion stoc ffisegol bob wythnos.
Erthygl 22(2)Erthyglau 15 a 22(1) a (3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Canolfannau pecynnu i gadw cofnodion ar wahân pan fo wyau dosbarth A a'u pecynnau'n dwyn dangosiad ynghylch sut y bwydir ieir dodwy.
Erthygl 23Erthyglau 7(2), 20, 21 a 22 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Cofnodion a ffeiliau y cyfeirir atynt yn Erthyglau 7(2), 20, 21 a 22 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 i'w cadw am o leiaf 12 mis o ddyddiad eu creu.
Erthygl 24(5)Erthyglau 20, 21 a 22 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008Cofnodion y cyfeirir atynt yn Erthyglau 20, 21 a 22 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 i fod ar gael i'r gwasanaethau arolygu y tro cyntaf y gofynnir amdanynt.
Erthygl 30(2)Wyau a gaiff eu mewnforio o drydydd gwledydd i fod wedi eu marcio yn y darddwlad yn glir ac yn ddarllenadwy yn unol â'r cod gwlad ISO 3166.
Erthygl 30(3)Pwynt IV(3) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMOMarcio pecynnau'n cynnwys wyau a fewnforir o drydedd wlad os canfyddwyd nad yw'r rheolau a gymhwysir mewn perthynas â'r wyau hynny'n cynnig digon o warant bod y rheolau'n gyfwerth â deddfwriaeth Gymunedol.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu, gydag addasiadau, Reoliadau Wyau (Safonau Marchnata) 1995 (O.S. 1995/1544) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

Gwnaeth Rheoliadau 1995, fel y'u diwygiwyd, ddarpariaeth ar gyfer gorfodi darpariaethau penodol yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 2782/75 (OJ Rhif L282, 1.11.1975, t.100) ar gynhyrchu a marchnata wyau deor a chywion dofednod buarth fferm a Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1868/77 (OJ Rhif L209, 17.8.1977, t.1) sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EEC) Rhif 2782/75. Gwnaethant ddarpariaeth hefyd ar gyfer gorfodi darpariaethau penodol yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1907/90 (OJ Rhif L173, 6.7.1990, t.5) ar safonau marchnata penodol ar gyfer wyau a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2295/2003 (OJ Rhif L340, 24.12.2003, t.16) sy'n cyflwyno rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1907/90.

Dirymwyd Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1907/90 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2295/2003 a'u disodli gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1028/2006 (OJ Rhif L186, 7.7.2006, t.1) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 557/2007 (OJ Rhif L132, 24.5.2007, t.5).

Diddymwyd Rheoliad (EEC) Rhif 2782/75 a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1028/2006 gan y Rheoliad Sengl CMO. Diddymwyd Rheoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1868/77 gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 a diddymwyd Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 557/2007 gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008. O ran wyau i'w deor a chywion ac wyau eraill, cymerwyd lle Rheoliadau'r CE a ddiddymwyd gan ddarpariaethau penodol yn y Rheoliad Sengl CMO, gan gynnwys y rheini yn Rhannau A ac C o Atodiad XIV i'r Rheoliad, a chan Reoliadau'r Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 (wyau i'w deor a chywion) a 589/2008 (wyau eraill).

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi darpariaethau penodol yn y Rheoliad Sengl CMO i'r graddau y maent yn ymwneud ag wyau i'w deor a chywion dofednod buarth fferm ac wyau eraill, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008, fel y'i diwygir o bryd i'w gilydd, a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 fel y'i mabwysiadwyd ar 23 Mehefin 2008.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau —

(a)sy'n gwneud y methiant i gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 a grybwyllir yn Atodlen 2 yn dramgwydd (rheoliad 4);

(b)sy'n ymwneud â chofrestru sefydliadau bridio pedigri, sefydliadau bridio eraill a deorfeydd (rheoliad 5);

(c)sy'n darparu eithriad rhag Erthygl 3(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 617/2008 drwy ganiatáu i wyau deor gael eu marcio mewn dull gwahanol i'r dull a bennir yn y ddarpariaeth honno (rheoliad 6);

(ch)sy'n gwneud y methiant i gydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliad Sengl CMO a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008 a grybwyllir yn Atodlen 3 yn dramgwydd (rheoliad 7);

(d)sy'n ymwneud ag awdurdodi canolfannau pecynnu i raddio wyau (rheoliad 8);

(dd)sy'n creu eithriad rhag darpariaethau pwyntiau III(1) a (3) o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO o ran marcio wyau bwyta (rheoliad 9);

(e)sy'n amrywio'r gofynion sylfaenol ar gyfer marchnata wyau fel wyau buarth drwy awdurdodi pori da byw ar libartau awyr agored ar gyfer ieir sy'n cynhyrchu'r cyfryw wyau (rheoliad 10);

(f)sy'n darparu eithriad rhag darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, drwy ganiatáu i wyau gael eu marchnata fel wyau buarth er nad yw'r holl ofynion a osodir yn y Rheoliad hwnnw ar gyfer wyau buarth wedi eu bodloni (rheoliad 11);

(ff)sy'n darparu eithriad rhag darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, drwy ganiatáu i wyau gael eu marchnata fel wyau sgubor er nad yw'r holl ofynion a osodir yn y Rheoliad hwnnw ar gyfer wyau sgubor wedi eu bodloni (rheoliad 12);

(g)sy'n darparu hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau penodol a wneir gan Weinidogion Cymru a swyddogion awdurdodedig (rheoliad 18); a

(ng)sy'n creu cosb am dramgwyddau o dan y Rheoliadau (rheoliad 19).

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes, elusennau na'r sector gwirfoddol.

(1)

O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59 a 162 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(3)

1990 p.16. Trosglwyddodd O.S. 1999/672 swyddogaethau perthnasol y Gweinidog o dan y Ddeddf hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ac Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(4)

Mewnosodwyd adran 48(4A) gan baragraffau 7 a 21 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p.28).

(5)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(6)

Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).

(7)

Diwygiwyd adran 6(4) gan baragraff 6 o Atodlen 9 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (p.40), paragraffau 7, 10(1) a (3) o Atodlen 5, ac Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999, ac Atodlen 2 i O.S. 2002/794.

(8)

Diwygiwyd adran 16(1) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(9)

Diwygiwyd adran 17 gan baragraffau 7, 8 a 12 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(10)

Diwygiwyd adran 26 gan Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(11)

Diwygiwyd adran 48(1) gan baragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(12)

Mae swyddogaethau “the Ministers”, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru, gan eu bod wedi eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, fel y'u darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999, ac yna wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan baragraff 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(13)

OJ Rhif L203, 3.8.1999, t.53, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 806/2003 (OJ Rhif L122, 16.5.2003, t.1).

(14)

Diwygiwyd adran 21(2) gan O.S. 2004/3279.

(15)

Diwygiwyd adran 32 gan baragraff 18 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16).

(16)

Mewnosodwyd adran 36A gan baragraffau 7 ac 16 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999.

(17)

Diwygiwyd adran 50 gan baragraff 18 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994.

(23)

OJ Rhif L30, 31.1.2002, t.44, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/83/EC (OJ Rhif L362, 20.12.2006, t.97).

(24)

OJ Rhif L198, 22.7.1991, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 404/2008 (OJ Rhif L120, 7.5.2008, t.8).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources