Search Legislation

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2009 Rhif 995 (Cy.81)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009

Gwnaed

11 Ebrill 2009

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

15 Ebrill 2009

Yn dod i rym

6 Mai 2009

Mae Gweinidogion Cymru, gan eu bod wedi eu dynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) yn gwneud y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno fel y'i darllenir gyda pharagraff 1A o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth at ddiben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 a pharagraff 1A o Atodlen 2 iddi, ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r offerynnau Cymunedol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn gael eu dehongli fel cyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

RHAN 1Darpariaethau rhagarweiniol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Mai 2009.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru a'r ardaloedd a bennir yn rheoliad 6.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “adnoddyn naturiol” (“natural resource”) yw—

    (a)

    rhywogaethau a warchodir;

    (b)

    cynefinoedd naturiol;

    (c)

    rhywogaethau neu gynefinoedd ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yr hysbyswyd o'r safle o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3);

    (ch)

    dŵr; a

    (d)

    tir;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

  • mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(4);

  • ystyr “cynefin naturiol” (“natural habitat”) yw—

    (a)

    cynefinoedd rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC ar warchod adar gwyllt, neu Atodiad I iddi(5) neu a restrir yn Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC ar warchod cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt(6);

    (b)

    y cynefinoedd naturiol a restrir yn Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC; ac

    (c)

    safleoedd bridio neu orffwysfannau'r rhywogaethau a restrir yn Atodiad IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC;

  • ystyr “dŵr daear” (“groundwater”) yw'r holl ddŵr sydd o dan wyneb y ddaear yn y parth dirlawnder ac sydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r ddaear neu'r isbridd;

  • ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw'r swyddogaethau a gyflawnir gan adnoddyn naturiol er budd adnoddyn naturiol arall neu'r cyhoedd;

  • ystyr “gweithgaredd” (“activity”) yw unrhyw weithgaredd economaidd, p'un ai'n gyhoeddus neu'n breifat a ph'un a yw'n cael ei gyflawni er elw ai peidio;

  • ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sy'n gweithredu neu'n rheoli gweithgaredd, deiliad trwydded neu awdurdodiad sy'n ymwneud â'r gweithgaredd hwnnw neu'r person sy'n cofrestru gweithgaredd o'r fath neu'n hysbysu ohono;

  • ystyr “rhywogaethau a warchodir” (“protected species”) yw'r rhywogaethau a grybwyllir yn Erthygl 4(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 79/409/EEC neu a restrir yn Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno neu Atodiadau II a IV i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC.

(2Onid ydynt wedi'u diffinio fel arall yn y Rheoliadau hyn, mae i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol parthed atal a chywiro difrod amgylcheddol(7) yr un ystyr â'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.

(3Mewn perthynas â gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol a'u rhoi ar y farchnad, mae “gweithredwr” (“operator”) a “gweithredwr cyfrifol” (“responsible operator”) yn cynnwys—

(a)deiliad cydsyniad perthnasol a ddyroddwyd o dan Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig(8);

(b)deiliad cydsyniad perthnasol ar gyfer gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig a ddyroddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(9); neu

(c)deiliad awdurdodiad perthnasol a ddyroddwyd o dan Reoliad (EC) Rhif 1829/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar fwyd a bwyd anifeiliaid a addaswyd yn enetig(10).

Cyfeiriadau at offerynnau Cymunedol

3.  Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at offerynnau Cymunedol yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.

Ystyr “difrod amgylcheddol”

4.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag atal difrod amgylcheddol ac adfer i gywiro'r difrod hwnnw; ac mae “difrod amgylcheddol” (“environmental damage”) yn ddifrod i'r canlynol—

(a)rhywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol, neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig,

(b)dŵr wyneb neu ddŵr daear, neu

(c)tir,

fel a bennir yn y rheoliad hwn.

(2Mae difrod amgylcheddol i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn golygu difrod o fath a bennir yn Atodlen 1.

(3Mae difrod amgylcheddol i ddŵr wyneb yn golygu difrod i grynofa dŵr wyneb sydd wedi'i dosbarthu fel y cyfryw yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr(11) fel bod—

(a)elfen ansawdd biolegol a restrir yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno,

(b)lefel cemegyn a restrir yn y ddeddfwriaeth yn Atodiad IX neu gemegyn sydd wedi'i restru yn Atodiad X i'r Gyfarwyddeb honno, neu

(c)elfen ansawdd ffisiogemegol a restrir yn Atodiad V i'r Gyfarwyddeb honno,

yn newid digon i leihau statws y grynofa ddŵr yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (p'un a yw'r grynofa ddŵr wedi'i hailddosbarthu mewn gwirionedd fel un y mae ei statws yn is ai peidio).

(4Mae difrod amgylcheddol i ddŵr daear yn golygu unrhyw ddifrod i grynofa dŵr daear fel bod ei ddargludedd, lefel neu grynodiad y llygryddion yn newid digon i leihau ei statws yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (ac ar gyfer llygryddion Cyfarwyddeb 2006/118/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a dirywiad(12)) (p'un a yw'r grynofa dŵr daear wedi'i hailddosbarthu mewn gwirionedd fel un y mae ei statws yn is ai peidio).

(5Mae difrod amgylcheddol i dir yn golygu halogi tir â sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau sy'n arwain at risg sylweddol o effeithiau andwyol ar iechyd dynol.

Difrod amgylcheddol y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo

5.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â difrod amgylcheddol os yw wedi'i achosi gan weithgaredd yn Atodlen 2.

(2Yn achos difrod amgylcheddol i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, mae'r Rheoliadau yn gymwys hefyd o ran difrod amgylcheddol a achosir gan unrhyw weithgaredd arall os oedd y gweithredwr—

(a)yn bwriadu achosi difrod amgylcheddol; neu

(b)yn esgeulus ynghylch a fyddai difrod amgylcheddol yn cael ei achosi.

Yr ardaloedd lle'r mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys

6.—(1Rhaid i'r difrod fod mewn ardal a bennir yn y tabl canlynol—

Y math o ddifrodYr ardal lle mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys
Difrod i ddŵrCymru a'r holl ddyfroedd hyd at un filltir fôr tua'r môr o'r gwaelodlin yng Nghymru
Difrod mewn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennigCymru
Difrod i rywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiolCymru
Difrod i dirCymru

(2Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gwaelodlin” (“the baseline”) yw'r gwaelodlinau y mesurir lled y môr tiriogaethol ohonynt at ddibenion Deddf Moroedd Tiriogaethol 1987(13)

Deddfwriaeth arall

7.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn lleihau effaith unrhyw ddeddfiad arall ynghylch difrod i'r amgylchedd.

(2Nid ydynt yn lleihau hawl gweithredwr i gyfyngu atebolrwydd yn unol â Chonfensiwn ar Gyfyngu Atebolrwydd am Hawliadau Morol 1976(14).

Esemptiadau

8.—(1Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran—

(a)difrod a ddigwyddodd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym;

(b)difrod sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, neu y mae bygythiad y bydd yn digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw, ond bod y difrod hwnnw wedi'i achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad a ddigwyddodd cyn y dyddiad hwnnw; neu

(c)difrod sy'n cael ei achosi gan ddigwyddiad, achlysur neu allyriad sy'n digwydd ar ôl y dyddiad hwnnw os yw'n deillio o weithgaredd a ddigwyddodd ac a ddaeth i ben cyn y dyddiad hwnnw.

(2Nid ydynt yn gymwys o ran difrod amgylcheddol sy'n cael ei achosi gan—

(a)gweithred frawychiaeth;

(b)ffenomenon naturiol eithriadol, ar yr amod bod gweithredwr y gweithgaredd o dan sylw wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i ddiogelu rhag bod difrod yn cael ei achosi gan achlysur o'r fath;

(c)gweithgareddau a'u hunig bwrpas yw diogelu rhag trychinebau naturiol;

(ch)digwyddiad y mae atebolrwydd neu iawndal amdano yn dod o fewn cwmpas—

(i)Confensiwn Rhyngwladol 27 Tachwedd 1992 ar Atebolrwydd Sifil am Ddifrod drwy Lygredd Olew;

(ii) Confensiwn Rhyngwladol 27 Tachwedd 1992 ar Sefydlu Cronfa Ryngwladol ar gyfer Iawndal am Ddifrod drwy Lygredd Olew(15); neu

(iii) Confensiwn Rhyngwladol ar Atebolrwydd Sifil am Ddifrod drwy Lygredd Olew Byncer 2001(16);

(d)gweithgareddau a'u prif bwrpas yw gwasanaethu dibenion amddiffyn gwladol neu ddiogelwch rhyngwladol;

(dd)ymbelydredd o weithgaredd y mae'r Cytuniad a sefydlodd Gymuned Ynni Atomig Ewrop yn ei gwmpasu neu ymbelydredd a achoswyd gan ddigwyddiad neu weithgaredd y mae atebolrwydd neu iawndal amdano yn dod o fewn cwmpas Confensiwn Paris dyddiedig 29 Gorffennaf 1960 ar Atebolrwydd Trydydd Partïon ym Maes Ynni Niwclear a Chonfensiwn Atodol Brwsel dyddiedig 31 Ionawr 1963; neu

(e)difrod a achoswyd wrth ymgymryd â physgota môr masnachol os cydymffurfiwyd â phob deddfwriaeth sy'n ymwneud â'r pysgota hwnnw.

(3Dim ond os yw'n bosibl cadarnhau cysylltiad achosol rhwng y difrod a gweithgareddau penodol y maent yn gymwys i ddifrod amgylcheddol a achoswyd gan lygredd gwasgarog ei natur.

Esemptiad rhag difrod i ddŵr

9.—(1Nid yw difrod i ddŵr yn cynnwys—

(a)difrod a achosir gan addasiadau newydd i nodweddion ffisegol crynofa dŵr wyneb,

(b)newid i lefel crynofa dŵr daear yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor, neu

(c)dirywio o statws uchel i statws da crynofa dŵr wyneb sy'n ganlyniad i weithgareddau newydd o ran datblygiadau dynol cynaliadwy yn unol â'r Gyfarwyddeb honno,

os caiff pob amod ym mharagraff (2) ei gyflawni.

(2Yr amodau yw—

(a)bod pob cam ymarferol yn cael ei gymryd i leddfu ar yr effaith andwyol ar statws y grynofa ddŵr;

(b)bod y rhesymau dros yr addasiadau neu'r newidiadau wedi'u gosod a'u hesbonio yn benodol yn y cynllun rheoli basn afon sy'n ofynnol o dan Erthygl 13 o Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor a bod yr amcanion yn cael eu hadolygu bob chwe mlynedd;

(c)bod y rhesymau dros yr addasiadau neu'r newidiadau o ddiddordeb cyhoeddus hollbwysig, neu fod manteision yr addasiadau newydd neu'r newidiadau newydd i iechyd dynol, i waith cadw pobl yn ddiogel neu i ddatblygu cynaliadwy yn drech na chanlyniad y difrod; ac

(ch)nad oes modd i'r amcanion buddiol, y mae'r addasiadau neu'r newidiadau hynny i'r grynofa ddŵr yn gyfrwng i'w cyflawni, gael eu sicrhau drwy ddulliau eraill oherwydd dichonolrwydd technegol neu gostau anghymesur.

Yr awdurdodau gorfodi o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007

10.—(1Bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi yn unol â'r rheoliad hwn os bydd y difrod wedi'i achosi gan weithfa, gweithred wastraff neu offer symudol y mae trwydded neu gofrestriad yn ofynnol ar ei chyfer neu ar eu cyfer o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007(17).

(2Os Asiantaeth yr Amgylchedd sy'n gyfrifol am roi'r drwydded, caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan Asiantaeth yr Amgylchedd ym mhob achos.

(3Os yr awdurdod lleol sy'n gyfrifol am roi'r drwydded—

(a)gorfodir Rhan 2 gan yr awdurdod lleol;

(b)gorfodir Rhan 3 gan—

(i)yr awdurdod lleol os yw'r difrod yn ddifrod i dir;

(ii)Asiantaeth yr Amgylchedd os yw'r difrod yn ddifrod i ddŵr;

(iii)Cyngor Cefn Gwlad Cymru os yw'r difrod yn ddifrod i gynefinoedd naturiol neu rywogaethau a warchodir neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Yr awdurdodau gorfodi mewn achosion eraill

11.—(1Os yw'r difrod wedi'i achosi gan weithgaredd nad yw'n ofynnol cael trwydded neu gofrestriad ar ei gyfer o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007, gorfodir y Rheoliadau hyn yn unol â'r tabl canlynol.

Y math o ddifrod amgylcheddolMan y difrodYr awdurdod gorfodi
Difrod i ddŵr—Asiantaeth yr Amgylchedd
Difrod i r ywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig—tirCyngor Cefn Gwlad Cymru
dŵr ond nid yn y môr(1)Asiantaeth yr Amgylchedd
y môr— os yw'r difrod oherwydd gweithgaredd a awdurdodwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd, Asiantaeth yr Amgylchedd;
— fel arall, Gweinidogion Cymru
Niwed i dir—Yr awdurdod lleol

(1Mae “môr” yn cynnwys—

(a)unrhyw fan sydd dan y dŵr adeg llanw uchaf cymedrig y gorllanw; a

(b)pob un o'r canlynol, i'r graddau y mae'r llanw'n llifo adeg llanw uchaf cymedrig y gorllanw—

(i)pob aber neu forgainc; a

(ii)dyfroedd unrhyw sianel, cilfach, bae neu afon.

(2Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol eu natur i awdurdod gorfodi ynghylch cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i awdurdod gorfodi gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo o dan y Rheoliadau hyn.

Gorfodi

12.—(1Os oes mwy nag un math o ddifrod, fel bod mwy nag un awdurdod gorfodi, gorfodir y Rheoliadau hyn gan unrhyw un neu gan bob un o'r awdurdodau gorfodi penodedig.

(2Caiff awdurdod gorfodi ymrwymo i drefniant gydag unrhyw awdurdod gorfodi arall i weithredu ar ei ran.

RHAN 2Atal difrod amgylcheddol

Atal difrod amgylcheddol

13.—(1Rhaid i weithredwr gweithgaredd sy'n peri bod bygythiad agos o ddifrod amgylcheddol, neu fygythiad agos o ddifrod y mae seiliau rhesymol dros gredu y bydd yn datblygu i fod yn ddifrod amgylcheddol, wneud y canlynol ar unwaith—

(a)cymryd pob cam ymarferol i atal y difrod; a

(b)(onid yw'r bygythiad wedi'i ddileu) hysbysu'r awdurdod gorfodi y mae'n ymddangos mai hwnnw yw'r un priodol o'r holl fanylion perthnasol.

(2Caiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr hwnnw sydd—

(a)yn disgrifio'r bygythiad;

(b)yn pennu'r mesurau sy'n ofynnol i atal y difrod; ac

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr gymryd y mesurau hynny, neu'r mesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3Mae methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2) yn dramgwydd.

Atal difrod amgylcheddol pellach

14.—(1Rhaid i weithredwr gweithgaredd sydd wedi achosi difrod amgylcheddol, neu sydd wedi achosi difrod pan fo seiliau rhesymol dros gredu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol neu y bydd yn datblygu i fod yn ddifrod o'r fath, wneud y canlynol ar unwaith—

(a)cymryd pob cam ymarferol i atal difrod pellach; a

(b)hysbysu'r awdurdod gorfodi, y mae'n ymddangos mai hwnnw yw'r un priodol, o'r holl fanylion perthnasol.

(2Caiff yr awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiad i'r gweithredwr hwnnw sydd—

(a)yn disgrifio'r difrod;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr ddarparu gwybodaeth ychwanegol am unrhyw ddifrod sydd wedi digwydd;

(c)yn pennu'r mesurau sy'n ofynnol i atal difrod pellach; ac

(ch)yn ei gwneud yn ofynnol i'r gweithredwr gymryd y mesurau hynny, neu fesurau sydd o leiaf yn gyfwerth â hwy, o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3Mae methu â chydymffurfio â pharagraff (1) neu hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff (2) yn dramgwydd.

Camau gan yr awdurdod gorfodi

15.  Caniateir i unrhyw ddyletswydd yn y Rhan hon sydd ar weithredwr gweithgaredd gael ei chyflawni gan yr awdurdod gorfodi yn lle'r gweithredwr—

(a)mewn argyfwng;

(b)os nad oes modd darganfod pwy yw'r gweithredwr; neu

(c)os yw'r gweithredwr yn methu â chydymffurfio â hysbysiad.

Dilyn cyfarwyddiadau gan awdurdod cyhoeddus

16.  Pan fo gweithredwr yn gweithredu'n unol â chyfarwyddiadau awdurdod cyhoeddus, ac o ganlyniad yn achosi neu'n bygwth achosi difrod amgylcheddol, ac felly bod camau yn cael eu cymryd o dan reoliadau 13, 14 neu 15 yna, oni bai bod y cyfarwyddiadau yn ymwneud ag allyriad neu ddigwyddiad a achoswyd gan weithgareddau'r gweithredwr ei hun, caiff y gweithredwr adennill costau gweithredoedd o dan y rheoliadau hynny oddi wrth yr awdurdod cyhoeddus hwnnw.

RHAN 3Adfer

Asesu difrod

17.  Pan fo difrod wedi'i achosi, a bod seiliau rhesymol dros gredu ei fod, neu y gall fod, yn ddifrod amgylcheddol, rhaid i'r awdurdod gorfodi gadarnhau a yw'n ddifrod amgylcheddol ai peidio.

Penderfynu atebolrwydd i adfer

18.—(1Os bydd yr awdurdod gorfodi'n penderfynu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol, rhaid iddo hysbysu gweithredwr neu weithredwyr unrhyw weithgaredd neu weithgareddau a achosodd y difrod (gweithredwr y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y gweithredwr cyfrifol” (“the responsible operator”))—

(a)bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol;

(b)bod gweithgaredd y gweithredwr cyfrifol yn un o achosion y difrod amgylcheddol;

(c)bod rhaid i'r gweithredwr cyfrifol gyflwyno cynigion, o fewn amser a bennir gan yr awdurdod gorfodi, ar gyfer mesurau a fyddai'n sicrhau adferiad i gywiro'r difrod amgylcheddol yn unol ag Atodlen 4; ac

(ch)bod gan y gweithredwr cyfrifol hawl i apelio.

(2Caiff yr awdurdod gorfodi dynnu'r hysbysiad yn ôl neu ei amrywio os yw wedi'i fodloni na ddylai'r hysbysiad fod wedi'i gyflwyno neu fod apêl yn erbyn yr hysbysiad yn debyg o lwyddo.

Apelau yn erbyn atebolrwydd i adfer

19.—(1Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan reoliad 18 hysbysu Gweinidogion Cymru bod y person hwnnw'n bwriadu apelio yn erbyn yr hysbysiad hwnnw.

(2Rhaid i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 28 niwrnod i gyflwyno hysbysiad o dan reoliad 18 oni chaiff y terfyn amser ei estyn gan Weinidogion Cymru.

(3Y seiliau dros apelio yw—

(a)nad oedd gweithgaredd y gweithredwr yn un o achosion y difrod amgylcheddol;

(b)bod yr awdurdod gorfodi wedi gweithredu'n afresymol drwy benderfynu bod y difrod yn ddifrod amgylcheddol;

(c)bod y difrod amgylcheddol wedi bod yn ganlyniad i gydymffurfio â chyfarwyddyd gan awdurdod cyhoeddus (ac eithrio cyfarwyddyd sy'n ymwneud ag allyriad neu ddigwyddiad a achoswyd gan weithgareddau'r gweithredwr ei hun);

(ch)nad oedd y gweithredwr cyfrifol ar fai nac yn esgeulus a bod y difrod amgylcheddol wedi'i achosi gan allyriad neu ddigwyddiad a awdurdodwyd yn bendant gan drwydded a restrir yn Atodlen 3 ac a oedd yn cydymffurfio'n llawn ag amodau'r drwydded honno;

(d)nad oedd y gweithredwr cyfrifol ar fai nac yn esgeulus a bod y difrod amgylcheddol wedi'i achosi gan allyriad neu weithgaredd neu unrhyw ddull o ddefnyddio cynnyrch yn ystod gweithgaredd y mae'r gweithredwr yn dangos nad oedd yn cael ei ystyried yn debyg o achosi difrod amgylcheddol yn ôl cyflwr gwybodaeth wyddonol a thechnegol pan gafodd yr allyriad ei ollwng neu pan ddigwyddodd y gweithgaredd;

(dd)bod y difrod amgylcheddol yn ganlyniad i weithred trydydd parti a'i fod wedi digwydd er gwaethaf y ffaith bod y gweithredwr cyfrifol wedi cymryd pob mesur diogelwch priodol.

(4Nid yw paragraff 3(d) yn gymwys mewn perthynas â gollwng yn fwriadol organeddau a addaswyd yn enetig.

(5Mae Atodlen 5 yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer yr apêl.

(6Caiff y person sy'n penderfynu'r apêl gadarnhau neu ddiddymu'r hysbysiad.

Hysbysiadau adfer

20.—(1Pan fydd yn cael y cynigion oddi wrth y gweithredwr cyfrifol (neu, os na cheir cynnig o fewn terfyn amser penodedig, unrhyw bryd ar ôl i'r terfyn amser ddirwyn i ben), rhaid i'r awdurdod gorfodi, i'r graddau y mae'n ymarferol, ymgynghori â'r canlynol—

(a)unrhyw un sydd wedi hysbysu awdurdod gorfodi o dan reoliad 29, a

(b)unrhyw berson y bydd y mesurau adfer yn cael eu cyflawni ar ei dir,

a chaiff ymgynghori ag unrhyw berson arall y mae'n ymddangos yn angenrheidiol ymgynghori ag ef.

(2Ar ôl ymgynghori rhaid i'r awdurdod gorfodi gyflwyno i'r gweithredwr cyfrifol hysbysiad adfer sy'n rhoi manylion—

(a)y difrod;

(b)y mesurau sy'n angenrheidiol ar gyfer adfer i gywiro'r difrod, ynghyd â'r rhesymau;

(c)y cyfnod pryd y mae'n rhaid cymryd y mesurau hynny ynddo;

(ch)unrhyw fesurau ychwanegol i fonitro neu i ymchwilio y mae'n rhaid i'r gweithredwr cyfrifol eu cyflawni yn ystod adferiad; a

(d)yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad adfer.

(3Caiff yr awdurdod gorfodi dynnu'r hysbysiad adfer yn ôl neu ei amrywio os yw wedi'i fodloni na ddylai'r hysbysiad adfer fod wedi'i gyflwyno neu y byddai apêl yn erbyn yr hysbysiad adfer yn debyg o lwyddo.

(4Mae methu â chydymffurfio â hysbysiad adfer yn dramgwydd.

Apelio yn erbyn yr hysbysiad adfer

21.—(1Caiff y gweithredwr cyfrifol hysbysu Gweinidogion Cymru fod y person hwnnw'n bwriadu apelio yn erbyn yr hysbysiad adfer ar y sail bod cynnwys yr hysbysiad hwnnw'n afresymol.

(2Dim ond yn erbyn y rhannau hynny o'r hysbysiad adfer sy'n wahanol i'r cynigion a wnaed gan y gweithredwr cyfrifol y caniateir i apêl gael ei dwyn.

(3Rhaid i hysbysiad o apêl gael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 28 niwrnod i ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad adfer oni chaiff y terfyn amser gael ei estyn gan Weinidogion Cymru.

(4Mae Atodlen 5 yn cynnwys gweithdrefnau ar gyfer yr apêl.

(5Caiff Gweinidogion Cymru neu'r person penodedig gadarnhau, amrywio neu ddiddymu'r hysbysiad, a rhaid i'r Gweinidogion neu'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad terfynol a'r rhesymau drosto, a chaniateir iddynt neu iddo ychwanegu, os yw'n briodol, gofynion adfer cydadferol pellach y mae'r treiglad amser ers i'r hysbysiad adfer gael ei gyflwyno yn eu gwneud yn angenrheidiol.

(6Nid oes angen cydymffurfio â hysbysiad adfer tra'n aros i apêl gael ei phenderfynu onid yw'r person sy'n gwrando'r apêl yn cyfarwyddo fel arall.

Darpariaethau pellach am hysbysiadau adfer

22.  Caiff awdurdod gorfodi gyflwyno hysbysiadau adfer pellach ar unrhyw bryd tra bo gwaith adfer yn cael ei wneud, neu os na fydd y gwaith adfer wedi'i gyflawni, ar ddiwedd y cyfnod adfer, yn ei gwneud yn ofynnol bod gwaith adfer pellach neu wahanol yn cael ei wneud.

Camau gan yr awdurdod gorfodi

23.  Pan fo wedi'i gadarnhau bod y difrod yn ei farn ef yn ddifrod amgylcheddol, caiff yr awdurdod gorfodi wneud unrhyw waith rhesymol—

(a)ar unrhyw bryd os na ellir darganfod pwy yw'r gweithredwr cyfrifol;

(b)os bydd gweithredwr cyfrifol yn methu â chydymffurfio â hysbysiad adfer, p'un a oes apêl yn yr arfaeth ai peidio; neu

(c)os nad yw'n ofynnol i'r gweithredwr cyfrifol adfer o dan y Rheoliadau hyn.

RHAN 4Gweinyddu a gorfodi

Costau pan fo'r awdurdod gorfodi yn gweithredu'n lle'r gweithredwr

24.—(1Mae gweithredwr sy'n atebol i wneud gwaith o dan Ran 2 yn atebol am unrhyw gostau rhesymol a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth gymryd unrhyw gamau rhesymol o dan reoliad 15.

(2Mae'r gweithredwr cyfrifol yn atebol am gostau rhesymol yr awdurdod gorfodi am unrhyw gamau a gymerwyd o dan reoliad 23 onid oedd y gweithredwr cyfrifol yn atebol am y camau a gymerwyd.

Costau sy'n ymwneud â gweinyddu

25.—(1Mae gweithredwr sy'n atebol am wneud gwaith o dan Ran 2 yn atebol am gostau rhesymol a dynnir gan yr awdurdod gorfodi wrth baratoi unrhyw hysbysiad o dan Ran 2, neu wrth sicrhau cydymffurfedd â'r Rhan honno.

(2Mae'r gweithredwr cyfrifol yn gyfrifol am y costau a dynnir gan yr awdurdod gorfodi o dan Ran 3, sef costau—

(a)asesu a yw'r difrod yn ddifrod amgylcheddol;

(b)darganfod pwy yw'r gweithredwr cyfrifol;

(c)darganfod pa waith adfer sy'n briodol;

(ch)gwneud unrhyw ymgynghori sy'n angenrheidiol; a

(d)monitro'r adferiad, yn ystod y gwaith ac ar ei ôl.

(3Mae costau'n golygu costau, y mae'r angen i sicrhau bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi'n briodol ac yn effeithiol, yn eu cyfiawnhau.

Achosion cyfreithiol am gostau gan awdurdod gorfodi

26.  Ni chaniateir i unrhyw achos cyfreithiol i adennill costau gael ei gychwyn gan yr awdurdod gorfodi o dan y Rheoliadau hyn ar ôl i gyfnod o 5 mlynedd fynd heibio ers dyddiad—

(a)cwblhau'r mesurau y mae'r achos yn ymwneud â hwy, neu

(b)canfod p'un yw'r gweithredwr sy'n atebol am gyflawni'r mesurau,

p'un bynnag yw'r diweddaraf.

Costau y gellir eu hadennill oddi wrth berchennog i fod yn arwystl ar fangre

27.—(1Pan ellir adennill unrhyw gostau o dan y Rheoliadau hyn gan awdurdod gorfodi oddi wrth berson sy'n berchennog ar fangre a bod yr awdurdod gorfodi yn cyflwyno hysbysiad i'r person hwnnw o dan y rheoliad hwn—

(a)mae'r costau yn dwyn llog, yn ôl unrhyw gyfradd resymol y bydd yr awdurdod yn penderfynu arni, o ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad hyd nes y caiff y swm cyfan ei dalu; a

(b)yn ddarostyngedig i'r canlynol, mae'r costau a'r llog cronedig yn arwystl ar y fangre.

(2Rhaid i hysbysiad a gyflwynir o dan y rheoliad hwn—

(a)pennu swm y costau y mae'r awdurdod gorfodi yn hawlio y gellir eu hadennill;

(b)datgan effaith paragraff (1) a chyfradd y llog a benderfynwyd gan yr awdurdod gorfodi o dan y paragraff hwnnw; ac

(c)datgan effaith paragraffau (4) i (6).

(3Ar y dyddiad y bydd awdurdod gorfodi yn cyflwyno hysbysiad i berson o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r awdurdod gyflwyno copi o'r hysbysiad hefyd i bob person arall sydd, yn ôl gwybodaeth yr awdurdod, â buddiant yn y fangre a hwnnw'n fuddiant y gallai'r arwystl effeithio arno.

(4Yn ddarostyngedig i unrhyw orchymyn o dan baragraff (7)(b) neu (c) isod, mae swm unrhyw gostau a bennir mewn hysbysiad o dan y rheoliad hwn a'r llog cronedig yn arwystl ar y fangre—

(a)o ddiwedd y cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad, neu

(b)pan fo apêl yn cael ei dwyn o dan baragraff (6), o ddyddiad penderfynu'r apêl yn derfynol,

hyd nes y caiff y costau a'r llog eu hadennill.

(5At ddibenion paragraff (4), mae tynnu apêl yn ôl yn cael yr un effaith â phenderfynu apêl yn derfynol.

(6Caiff person y cyflwynwyd hysbysiad neu gopi o hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn apelio yn erbyn yr hysbysiad i'r llys sirol cyn pen y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy'n dechrau ar y dyddiad cyflwyno.

(7Ar apêl o'r fath caiff y llys—

(a)cadarnhau'r hysbysiad heb ei addasu;

(b)gorchymyn bod yr hysbysiad i gael effaith drwy roi swm gwahanol yn lle'r swm a bennwyd ynddo yn wreiddiol; neu

(c)gorchymyn na fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad.

(8Mae gan awdurdod gorfodi, at ddibenion gorfodi arwystl o dan y rheoliad hwn, bob un o'r un pwerau a rhwymedïau o dan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925(18), ac fel arall, fel petai'n forgeisai drwy weithred a chanddo bwerau gwerthu a lesio, derbyn ildiadau lesoedd a phenodi derbynnydd.

(9Yn y rheoliad hwn, ystyr “perchennog” (“owner”), mewn perthynas ag unrhyw fangre, yw person (ac eithrio morgeisai nad yw mewn meddiant) y mae ganddo, p'un ai yn hawl ei hun neu fel ymddiriedolwr i unrhyw berson arall, hawlogaeth i gael crogrent y fangre neu, pan na fo'r fangre wedi'i lesio ar grogrent, y byddai ganddo'r hawlogaeth honno pe bai'r fangre'n cael ei lesio felly.

Adennill costau oddi wrth bersonau eraill

28.  Caiff gweithredwr sy'n dod yn atebol i'r awdurdod gorfodi o dan y Rheoliadau hyn (p'un ai wrth gyflawni'r gwaith neu wrth dalu i'r awdurdod gorfodi) adennill y cyfan neu rywfaint o'r costau hynny oddi wrth unrhyw berson arall a achosodd y difrod hefyd.

Ceisiadau am gamau gan bartïon sydd â buddiant

29.—(1Caiff unrhyw berson—

(a)y mae difrod amgylcheddol yn effeithio arno neu y mae'n debyg o effeithio arno, neu

(b)y mae ganddo fuddiant digonol fel arall,

hysbysu'r awdurdod gorfodi priodol o unrhyw ddifrod amgylcheddol sy'n cael ei achosi, neu sydd wedi'i achosi neu y mae bygythiad agos y byddai'n cael ei achosi.

(2Rhaid bod y canlynol yn mynd gyda'r hysbysiad—

(a)datganiad yn esbonio'r ffordd y bydd y difrod yn effeithio ar yr hysbysydd, neu'r rheswm bod gan yr hysbysydd fuddiant digonol; a

(b)gwybodaeth sy'n ddigon i alluogi'r awdurdod gorfodi i ganfod lleoliad a natur y digwyddiad.

(3Rhaid i'r awdurdod gorfodi ystyried yr hysbysiad a rhoi gwybod i'r hysbysydd am y camau, os oes rhai, y mae'n bwriadu eu cymryd.

(4Cyn cymryd unrhyw benderfyniad, rhaid i'r awdurdod gorfodi, os yw'n ymarferol—

(a)hysbysu'r gweithredwr o dan sylw o'r hysbysiad a'r wybodaeth sy'n dod gyda'r hysbysiad; a

(b)gwahodd y gweithredwr hwnnw i gyflwyno sylwadau arnynt.

(5Ni fydd paragraffau (3) a (4) yn gymwys—

(a)os nad yw'r hysbysydd yn debyg o gael ei effeithio neu os nad oes ganddo fuddiant digonol;

(b)os nad yw'r wybodaeth a ddarperir, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn datgelu unrhyw ddifrod amgylcheddol neu fygythiad o ddifrod amgylcheddol; neu

(c)os nad yw'n ymarferol, oherwydd natur frys y sefyllfa, i'r awdurdod gorfodi gydymffurfio â'r paragraffau hynny.

Rhoi hawliau mynediad etc. ac iawndal amdanynt

30.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae'n ofynnol cael ei gydsyniad cyn bod unrhyw waith sy'n ofynnol gan y Rheoliadau hyn yn cael ei wneud, roi, neu ymuno i roi, hawliau o'r fath mewn perthynas ag unrhyw dir neu ddŵr a fyddai'n galluogi'r gweithredwr, neu berson sy'n gweithredu ar ran y gweithredwr, wneud y gwaith hwnnw.

(2Mae gan berson sy'n rhoi, neu sy'n ymuno i roi, unrhyw hawliau sy'n ofynnol gan baragraff (1) hawlogaeth i gael gan y gweithredwr iawndal a benderfynir yn unol ag Atodlen 6.

Pwerau personau awdurdodedig

31.—(1Caiff awdurdodau gorfodi awdurdodi personau at ddibenion gorfodi'r Rheoliadau hyn.

(2Mae'r pwerau yn adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(19) yn gymwys o ran y Rheoliadau hyn, ac mae pwerau personau a awdurdodwyd gan Asiantaeth yr Amgylchedd yn yr adran honno'n arferadwy gan bersonau a awdurdodwyd gan unrhyw awdurdod gorfodi.

(3Mae'r pwerau hynny wedi'u hestyn i bob ardal y mae'r Rheoliadau hynny'n gymwys iddi.

(4Yn ychwanegol, caiff person a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru sy'n gorfodi'r Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r môr fynd ar fwrdd llong neu weithfa forol ar unrhyw bryd a'i harolygu.

(5At ddibenion arfer y pwerau yn y rheoliad hwn, caiff y person awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol i long neu weithfa forol—

(a)stopio; neu

(b)gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n hwyluso mynd ar fwrdd y llong neu weithfa forol honno neu unrhyw long neu weithfa forol arall.

(6Caiff person awdurdodedig sydd wedi mynd ar fwrdd llong neu weithfa forol, er mwyn glanio o'r llong neu'r weithfa, ei gwneud yn ofynnol i'r llong neu weithfa forol honno neu unrhyw long neu weithfa forol arall—

(a)stopio; neu

(b)gwneud unrhyw beth arall a fyddai'n galluogi'r person awdurdodedig, ac unrhyw berson sydd gydag ef, i lanio.

(7Caiff person awdurdodedig ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd ar fwrdd llestr neu weithfa forol roi unrhyw gyfleusterau a chymorth ynghylch materion sydd o dan reolaeth y person hwnnw y byddai'r person awdurdodedig yn barnu y byddent yn hwyluso'r broses o arfer unrhyw bŵer a roddwyd gan y rheoliad hwn.

(8Mae'n dramgwydd peidio â chydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir o dan y rheoliad hwn, neu ddarparu'n fwriadol wybodaeth anwir neu gamarweiniol.

Darparu gwybodaeth i'r awdurdod gorfodi

32.  Caiff awdurdod gorfodi ei gwneud yn ofynnol i weithredwr ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd ar yr awdurdod gorfodi angen rhesymol amdani i gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, a bydd methiant i ddarparu'r wybodaeth honno yn dramgwydd.

Gorfodi

33.  Ni chaniateir i unrhyw gamau gorfodi gael eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn 30 o flynyddoedd neu fwy ar ôl yr allyriad, yr achlysur neu'r digwyddiad o dan sylw.

Cosbau

34.—(1Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored—

(a)ar gollfarn ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

(2Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i gyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o'r fath,

mae'r person hwnnw yn euog o'r tramgwydd yn ogystal â'r corff corfforaethol.

(3At ddibenion paragraff (2) , ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

11 Ebrill 2009

Rheoliad 4

ATODLEN 1Difrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig

Difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol

1.—(1Yn achos rhywogaeth a warchodir neu gynefin naturiol (ac eithrio difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig y mae paragraff 4 yn gymwys iddo), rhaid i natur y difrod olygu bod ganddo effaith andwyol sylweddol ar gyrraedd neu gadw statws cadwraeth ffafriol y rhywogaeth a warchodir neu'r cynefin naturiol gan gymryd i ystyriaeth—

(a)y statws cadwraeth adeg y difrod;

(b)y gwasanaethau a ddarperir gan yr amwynderau y maent yn eu cynhyrchu;

(c)eu gallu i adfywio'n naturiol;

(ch)nifer yr unigolion, eu dwysedd neu'r ardal a gwmpesir;

(d)rôl yr unigolion penodol neu'r ardal a ddifrodwyd mewn perthynas â'r rhywogaeth neu gadwraeth y cynefin a phrinder y rhywogaeth neu'r cynefin a aseswyd ar y lefel berthnasol p'un ai'n lleol, yn rhanbarthol neu ledled y Gymuned;

(dd)gallu'r rhywogaeth i luosogi, ei hyfywedd neu allu'r cynefin i adfywio'n naturiol; ac

(e)gallu'r rhywogaeth neu'r cynefin i ymadfer o fewn cyfnod byr i'r amser yr achoswyd y difrod i gyflwr a arweiniodd at ei gyflwr adeg y difrod neu gyflwr gwell heb unrhyw ymyrraeth ac eithrio cynyddu mesurau gwarchod.

Statws cadwraeth cynefinoedd naturiol

2.—(1Statws cadwraeth cynefin naturiol yw swm y dylanwadau sy'n effeithio ar y cynefin hwnnw a'i rywogaethau nodweddiadol a'r rheini'n ddylanwadau a allai effeithio ar ddosbarthiad, strwythur a swyddogaethau naturiol hirdymor y cynefin hwnnw yn ogystal â goroesiad hirdymor ei rywogaethau nodweddiadol.

(2Mae ei statws cadwraeth yn ffafriol—

(a)os yw'r gwasgariad naturiol a'r ardaloedd sy'n cael eu cwmpasu yn y gwasgariad naturiol hwnnw yn sefydlog neu'n cynyddu;

(b)os yw'r strwythur a'r swyddogaethau penodol sy'n angenrheidiol ar gyfer gwaith cynnal hirdymor ar y cynefin naturiol yn bodoli a'u bod yn debyg o barhau i fodoli hyd y gellir rhag-weld; ac

(c)os yw statws cadwraeth ei rywogaethau nodweddiadol yn ffafriol.

Statws cadwraeth rhywogaethau

3.—(1Statws cadwraeth rhywogaeth yw swm y dylanwadau sy'n effeithio ar y rhywogaeth o dan sylw ac a allai effeithio ar ddosbarthiad a helaethrwydd ei phoblogaethau yn y tymor hir.

(2Mae statws cadwraeth yn ffafriol—

(a)os yw'r data am ddynameg poblogaeth y rhywogaeth o dan sylw yn dangos ei bod yn ymgynnal ei hun ar sail hirdymor fel cydran hyfyw o'i chynefin naturiol;

(b)os nad yw gwasgariad naturiol y rhywogaeth yn cael ei leihau nac yn debyg o gael ei leihau hyd y gellir rhag-weld; ac

(c)os oes, a'i bod yn debyg y bydd o hyd, gynefin digon mawr i gynnal ei phoblogaethau ar sail hirdymor.

Safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig

4.—(1Yn achos safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, rhaid i'r difrod fod yn ddifrod—

(a)i'r rhywogaethau neu'r cynefinoedd a hysbyswyd o dan adran 28 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad Act 1981(20); neu

(b)rhywogaethau a warchodir neu gynefinoedd naturiol.

(2Rhaid bod y difrod wedi cael effaith andwyol ar gyfanrwydd y safle (hynny yw, cydlyniad ei strwythur ecolegol a'i swyddogaeth, ar draws ei arwynebedd cyfan, sy'n ei alluogi i gynnal cynefin, cymhlethfa o gynefinoedd neu lefelau poblogaethau'r rhywogaethau yr effeithiwyd arnynt).

Awdurdodiad pendant

5.  Nid yw difrod i rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol, a difrod ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig yn cynnwys difrod a achoswyd gan weithred a awdurdodwyd yn bendant gan yr awdurdodau perthnasol yn unol â Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, etc.) 1994(21) neu Ran II o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.

Rheoliad 5

ATODLEN 2Gweithgareddau sy'n achosi difrod

Gweithrediadau y mae'r Atodlen hon yn gymwys iddynt

1.  Mae'r Atodlen hon yn rhestru'r gweithgareddau y mae atebolrwydd amdanynt o dan reoliad 5(1).

Gweithredu gweithfeydd a ganiateir

2.  Gweithredu gweithfeydd sy'n ddarostyngedig i drwydded yn unol â Chyfarwyddeb 2008/1/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch dulliau integredig o atal a rheoli llygredd(22) (pob gweithgaredd a restrir yn Atodiad I i'r Gyfarwyddeb honno ac eithrio gweithfeydd neu rannau o weithfeydd a ddefnyddir ar gyfer ymchwilio i gynhyrchion a phrosesau newydd, eu datblygu a'u profi).

Gweithrediadau rheoli gwastraff

3.—(1Gweithrediadau rheoli gwastraff, gan gynnwys casglu, cludo, adfer a gwaredu gwastraff a gwastraff peryglus, goruchwylio gweithrediadau o'r fath ac ôl-ofal dros safleoedd gwaredu, yn ddarostyngedig i drwydded neu gofrestriad yn unol â Chyfarwyddeb 2006/12/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar wastraff(23) a Chyfarwyddeb y Cyngor 91/689/EEC ar wastraff peryglus(24).

(2Gweithredu safleoedd tirlenwi o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 1999/31/EC ar gladdu gwastraff(25) a gweithredu gweithfeydd hylosgi o dan Gyfarwyddeb 2000/76/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylosgi gwastraff(26).

(3Nid yw hyn yn cynnwys taenu slwtsh carthion o weithfeydd trin dŵr gwastraff trefol, sydd wedi'i drin yn unol â safon gymeradwy, at ddibenion amaethyddol.

Gwastraff mwyngloddio

4.  Rheoli gwastraff echdynnol o dan Gyfarwyddeb 2006/21/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reoli gwastraff o ddiwydiannau echdynnol(27).

Gollyngiadau y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ar eu cyfer

5.—(1Pob gollyngiad i mewn i'r dŵr wyneb mewndirol y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ymlaen llaw ar ei gyfer yn unol â Chyfarwyddeb 2006/11/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar lygredd a achosir gan sylweddau peryglus penodol a ollyngir i amgylchedd dyfrol y Gymuned(28).

(2Pob gollyngiad sylwedd i mewn i ddŵr daear y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ymlaen llaw ar ei gyfer yn unol â Chyfarwyddeb 80/68/EEC ar ddiogelu dŵr daear rhag llygredd a achosir gan sylweddau peryglus penodol(29).

(3Pob gollyngiad neu chwistrelliad llygrydd i mewn i ddŵr wyneb neu ddŵr daear y mae'n ofynnol cael trwydded, awdurdodiad neu gofrestriad ar ei gyfer o dan Gyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr(30).

Tynnu dŵr a'i gronni

6.  Tynnu dŵr a chronni dŵr yn ddarostyngedig i awdurdodiad ymlaen llaw yn unol â Chyfarwyddeb 2000/60/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor yn sefydlu fframwaith ar gyfer camau Cymunedol ym maes polisi dŵr.

Sylweddau peryglus, cynhyrchion diogelu planhigion a chynhyrchion bywleiddiol

7.  Gweithgynhyrchu, defnyddio, storio, prosesu, llenwi, gollwng i'r amgylchedd a chludo ar safle y deunyddiau canlynol—

(a)sylweddau peryglus fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb y Cyngor 67/548/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol yr Aelod-wladwriaethau ynglŷn â dosbarthu, pecynnu a labelu sylweddau peryglus (31);

(b)paratoadau peryglus fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(2) o Gyfarwyddeb 1999/45/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch cyd-ddynesu cyfreithiau, rheoliadau a darpariaethau gweinyddol yr Aelod-wladwriaethau ynglŷn â dosbarthu, pecynnu a labelu paratoadau peryglus(32);

(c)cynhyrchion diogelu planhigion fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(1) o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/414/EEC ynghylch rhoi cynhyrchion diogelu planhigion ar y farchnad(33); ac

(ch)cynhyrchion bywleiddiol fel y'u diffinnir yn Erthygl 2(1)(a) o Gyfarwyddeb 98/8/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch rhoi cynhyrchion bywleiddiol ar y farchnad(34).

Cludiant

8.  Cludo ar hyd ffordd, rheilffordd, dyfrffyrdd mewndirol, ar y môr neu drwy'r awyr nwyddau peryglus neu nwyddau llygru fel y'u diffinnir yn—

(a)Atodiad A i Gyfarwyddeb y Cyngor 94/55/EC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau parthed cludo nwyddau peryglus ar hyd y ffordd(35);

(b)yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/49/EC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau parthed cludo nwyddau peryglus ar hyd y rheilffordd(36); ac

(c)Cyfarwyddeb y Cyngor 93/75/EEC ynghylch isafswm y gofynion ar gyfer llestrau sy'n mynd i borthladdoedd Cymunedol neu'n ymadael â hwy ac yn cario nwyddau peryglus neu nwyddau llygru(37).

Organeddau a addaswyd yn enetig

9.—(1Unrhyw ddefnydd amgaeëdig, gan gynnwys cludo, sy'n cynnwys organeddau a addaswyd yn enetig (gan gynnwys micro-organeddau a addaswyd yn enetig fel y'u diffinnir gan Gyfarwyddeb y Cyngor 90/219/EEC ar ddefnydd amgaeëdig o ficro-organeddau a addaswyd yn enetig(38)).

(2Unrhyw weithred o ollwng yn fwriadol i'r amgylchedd, cludo a rhoi ar y farchnad organeddau a addaswyd yn enetig fel y'i diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/18/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol i'r amgylchedd(39).

Cludo llwythi gwastraff ar draws ffiniau

10.  Cludo llwythi gwastraff ar draws ffiniau o fewn y Gymuned, i mewn iddi neu allan ohoni, a honno'n weithred y mae'n ofynnol cael awdurdodiad ar ei chyfer neu'n weithred sydd wedi ei gwahardd o dan Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar gludo llwythi gwastraff(40).

Rheoliad 19

ATODLEN 3Trwyddedau, etc.

1.  Mae'r canlynol yn drwyddedau at ddibenion rheoliad 19(3) i'r graddau y maent yn ymwneud â gweithgaredd yn Atodlen 2—

(a)trwydded a roddir o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007(41) neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hynny;

(b)trwydded a roddir o dan Ran II o Ddeddf Bwyd a Diogelu'r Amgylchedd 1985(42);

(c)cydsyniad gollwng dŵr, gorchymyn sychder cyffredin neu orchymyn sychder brys neu drwydded sychder o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(43);

(ch)awdurdodiad o dan Reoliadau Dŵr Daear 1998(44);

(d)trwydded tynnu dŵr neu drwydded cronni dŵr o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991;

(dd)cymeradwyaeth o blaleiddiad o dan Reoliadau Rheoli Plaleiddiaid 1986(45), awdurdodiad o gynnyrch bywleiddiol o dan Reoliadau Cynhyrchion Bywleiddiol 2001(46) neu awdurdodiad o blaleiddiad o dan Reoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion 2005(47).

Rheoliad 18

ATODLEN 4Adfer

RHAN 1Adfer i gywiro difrod i adnoddau naturiol ac eithrio tir

Cymhwyso Rhan 1

1.  Mae'r Rhan hon yn ymwneud ag adfer i gywiro difrod i adnoddau naturiol ac eithrio tir.

Risg i iechyd dynol

2.  Rhaid i waith adfer ddileu unrhyw risg o bwys i iechyd dynol.

Yr amcan

3.  Amcan adfer yw sicrhau'r un lefel o adnoddyn neu wasanaethau naturiol â'r hyn a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd.

Adferiad sylfaenol ac adferiad cydategol

4.—(1Rhaid i'r adferiad gynnwys unrhyw adferiad sylfaenol neu adferiad cydategol a fydd yn sicrhau'r amcan neu'r ddau os bydd hynny'n ei sicrhau.

(2Mae adferiad sylfaenol yn unrhyw fesur adfer sy'n peri i'r adnoddau naturiol a ddifrodwyd neu'r gwasanaethau amharedig ddychwelyd i'r cyflwr, neu tua'r cyflwr, a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd (mae ymadferiad naturiol yn ffurf a ganiateir ar adferiad sylfaenol mewn achosion priodol).

(3Mae adferiad cydategol yn unrhyw fesur adfer a gymerir mewn perthynas ag adnoddau neu wasanaethau naturiol i wneud iawn am y ffaith nad yw adferiad sylfaenol yn arwain at edfryd yr adnoddau naturiol a ddifrodwyd neu'r gwasanaethau amharedig yn gyfan gwbl yn ôl i'r cyflwr a fyddai wedi bodoli pe na bai'r difrod wedi digwydd.

Adferiad cydadferol

5.—(1Yn ychwanegol rhaid darparu adferiad cydadferol i wneud iawn am golledion interim o ran adnoddau neu wasanaethau naturiol sy'n digwydd o ddyddiad y difrod hyd nes y bydd yr adferiad wedi cyflawni ei amcan; ac yn y paragraff hwn ystyr “colledion interim” (“interim losses”) yw colledion sy'n deillio o'r ffaith nad yw'r adnoddau naturiol a ddifrodwyd na'r gwasanaethau yn gallu cyflawni eu swyddogaethau ecolegol na darparu gwasanaethau i adnoddau naturiol eraill nac i'r cyhoedd hyd nes y bydd yr adferiad sylfaenol wedi'i gwblhau.

(2Nid yw adferiad cydadferol yn cynnwys iawndal.

Y dewis o ran adferiad

6.—(1Rhaid gwerthuso'r opsiynau adfer gan ddefnyddio'r dulliau gorau sydd ar gael, ac ar sail—

(a)effaith pob opsiwn ar iechyd a diogelwch y cyhoedd;

(b)y gost o weithredu'r opsiwn;

(c)yn achos pob opsiwn, pa mor debyg yw hi y byddai'n llwyddo;

(ch)i ba raddau y bydd pob opsiwn yn atal difrod yn y dyfodol, ac yn osgoi difrod ystlysol o ganlyniad i weithredu'r opsiwn;

(d)i ba raddau y mae pob opsiwn o fudd i bob un o gydrannau'r adnoddyn naturiol neu'r gwasanaeth;

(dd)i ba raddau y mae pob opsiwn yn cymryd i ystyriaeth bryderon cymdeithasol, economaidd a diwylliannol perthnasol a ffactorau perthnasol eraill sy'n ymwneud yn benodol â'r lleoliad;

(e)faint o amser y bydd yn ei gymryd i'r gwaith edfryd a wneir i gywiro'r difrod amgylcheddol fod yn effeithiol;

(f)i ba raddau y mae pob opsiwn yn sicrhau bod safle'r difrod amgylcheddol yn cael ei edfryd; ac

(ff)y cysylltiad daearyddol â'r safle a ddifrodwyd.

Canfod adferiad cydategol ac adferiad cydadferol

7.—(1Os yw'n bosibl, rhaid i fesurau adfer cydategol a rhai cydadferol ddarparu adnoddau neu wasanaethau naturiol o'r un math, ansawdd a nifer â'r rhai a ddifrodwyd.

(2Pan na fo hynny'n bosibl, rhaid darparu adnoddau neu wasanaethau naturiol tebyg ond gwahanol (er enghraifft, drwy wrthbwyso lleihad yn ansawdd adnoddau neu wasanaethau naturiol drwy gynyddu'r nifer ohonynt).

(3Pan na fo hynny'n bosibl, caniateir i adnoddau neu wasanaethau naturiol gwahanol gael eu darparu, a rhaid i brisiad ariannol y mesurau adfer fod yr un fath â phrisiad ariannol yr adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd.

(4Os yw'n ymarferol prisio'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd, ond nad oes modd prisio'r mesurau adfer o fewn cyfnod amser rhesymol neu am bris rhesymol, yna caniateir darparu mesurau adfer y mae eu cost (yn lle eu prisiad ariannol) yn gyfwerth â'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol a gollwyd.

(5Yn achos adferiad cydategol ar safle newydd, pan fo'n bosibl ac yn briodol, dylai'r safle hwn fod yn ddaearyddol gysylltiedig â'r safle a ddifrodwyd.

Opsiynau

8.—(1Wrth werthuso'r gwahanol opsiynau adfer a ganfyddwyd, caniateir penderfynu ar fesurau adfer sylfaenol nad ydynt yn edfryd yn llawn y dŵr neu'r rhywogaethau a warchodir neu'r cynefin naturiol a ddifrodwyd yn ôl i'w gyflwr neu i'w cyflwr adeg y digwyddiad neu benderfynu ar fesurau adfer sylfaenol sy'n ei edfryd neu'n eu hedfryd yn fwy araf (er enghraifft, pan ellid darparu'r adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol cyfwerth yn rhywle arall am gost is).

(2Dim ond os gwneir iawn am yr adnoddau neu'r gwasanaethau naturiol sy'n cael eu hepgor o ganlyniad i'r penderfyniad drwy gynyddu'r camau cydategol neu'r rhai cydadferol i ddarparu lefel debyg o adnoddau neu wasanaethau naturiol y ceir gwneud y penderfyniad hwn.

(3Caiff yr awdurdod gorfodi benderfynu ar unrhyw bryd nad oes angen cymryd unrhyw fesurau adfer pellach—

(a)os yw'r mesurau adfer sydd eisoes wedi'u cymryd wedi dileu unrhyw risg sylweddol o effeithio'n andwyol ar iechyd dynol, dŵr neu rywogaethau a warchodir a chynefinoedd naturiol; a

(b)os byddai cost y mesurau adfer y mae eu hangen i edfryd yr hyn a ddifrodwyd yn ôl i'w gyflwr cyn y digwyddiad yn anghymesur o'u cymharu â'r buddion amgylcheddol y gellid eu cael.

RHAN 2Adfer i gywiro difrod i dir

Adfer i gywiro difrod i dir

9.—(1Mae'r Rhan hon yn gymwys mewn perthynas â difrod i dir.

(2Rhaid i'r adferiad sicrhau, o leiaf, bod yr halogion perthnasol yn cael eu gwaredu, eu rheoli, eu cyfyngu neu eu lleihau fel na fydd y tir mwyach, gan ystyried y defnydd cyfredol cyfreithlon a wneir ohono neu unrhyw ganiatâd cynllunio a oedd yn bodoli adeg y difrod, yn peri unrhyw risg sylweddol o effeithio'n andwyol ar iechyd dynol.

(3Rhaid i bresenoldeb risgiau o'r fath gael ei asesu drwy weithdrefnau asesu risg gan ystyried nodweddion a swyddogaeth y pridd, y math o sylweddau, paratoadau, organeddau neu ficro-organeddau niweidiol a'r crynodiad ohonynt, y risg y maent yn ei beri a'r posibilrwydd o'u gwasgaru.

(4Mae ymadferiad naturiol yn ffurf ar adfer a ganiateir mewn achosion priodol.

Rheoliadau 19 a 21

ATODLEN 5Apelau

RHAN 1Apelau os nad Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi

1.  Mae'r Rhan hon yn gymwys os nad Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi.

2.  Rhaid i hysbysiad o apêl gynnwys—

(a)copi o'r hysbysiad neu'r hysbysiad adfer yr apelir yn ei erbyn; a

(b)seiliau'r apêl.

3.  Pan ddaw hysbysiad i law, rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o'r hysbysiad am apêl i'r awdurdod gorfodi, a rhaid i'r awdurdod gorfodi anfon copi ar unwaith at unrhyw berson y mae'n ymddangos i'r awdurdod gorfodi fod ganddo fuddiant arbennig ym mhwnc yr apêl, a hysbysu Gweinidogion Cymru o bwy y mae wedi'i hysbysu.

4.  Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r apelydd o'r terfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid i'r apelydd ddarparu mewn ysgrifen—

(a)datganiad o achos; a

(b)pob gohebiaeth berthnasol.

5.  Pan ddaw'r rhain i law, rhaid i Weinidogion Cymru anfon yr holl ddogfennau i'r awdurdod gorfodi, gan roi i'r awdurdod gorfodi derfyn amser erbyn pryd y mae'n rhaid iddo roi ymateb ysgrifenedig.

6.  Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r un pryd unrhyw berson a hysbyswyd o dan baragraff 3 o'r terfyn amser o dan baragraff 5 a'i wahodd i gyflwyno sylwadau erbyn y dyddiad hwnnw.

7.  Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu wedyn a oes angen tystiolaeth bellach, a rhoi cyfarwyddiadau'n unol â hynny.

8.  Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio'r apêl wedyn i berson a benodwyd ganddynt i ymdrin â'r apêl, gan ddatgan wrth y person penodedig a oes rhaid ymdrin â'r apêl drwy weithdrefn ysgrifenedig ai peidio ynteu a oes rhaid cynnal gwrandawiad.

9.  Ar ôl i'r apêl gael ei chwblhau gan y person penodedig, rhaid iddo benderfynu'r mater neu, os caiff ei gyfarwyddo gan Weinidogion Cymru ar unrhyw bryd cyn bod y penderfyniad wedi'i wneud, gyflwyno argymhelliad i Weinidogion Cymru, a rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu'r apêl.

10.  Caiff y person sy'n penderfynu'r apêl wneud unrhyw orchymyn ynghylch costau'r partïon (gan gynnwys partïon sy'n cyflwyno sylwadau) y gwêl yn dda.

RHAN 2Apelau os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi

11.  Os Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod gorfodi, mae'r gweithdrefnau yn Rhan 1 yn gymwys ac eithrio—

(a)bod rhaid i Weinidogion Cymru benodi person cyn gynted â bod hysbysiad o apêl yn dod i law;

(b)bod rhaid i'r person penodedig gyflawni swyddogaethau Gweinidogion Cymru a bennwyd yn y Rhan honno; ac

(c)bod rhaid i'r person penodedig benderfynu'r apêl ym mhob achos.

Rheoliad 30

ATODLEN 6Iawndal

Iawndal am ganiatáu hawliau

1.  Mae'r Atodlen hon yn rhagnodi—

(a)y cyfnod pryd y caiff person sy'n caniatáu, neu sy'n ymuno i ganiatáu, unrhyw hawliau yn unol â rheoliad 30 wneud cais am iawndal am ganiatáu'r hawliau hynny;

(b)y modd y caniateir i'r cais gael ei wneud, a'r person y caniateir i'r cais gael ei gyflwyno iddo; ac

(c)y modd o benderfynu'r iawndal, ar gyfer penderfynu swm yr iawndal ac ar gyfer gwneud darpariaeth atodol ynglŷn â'r iawndal.

Dehongli

2.  Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “buddiant perthnasol” (“relevant interest”) yw buddiant mewn tir y mae hawl wedi'i ganiatáu ohono neu sy'n rhwym o dan hawl a ganiatawyd; ac

  • ystyr “y grantwr” (“the grantor”) yw'r person sy'n caniatáu, neu sy'n ymuno i ganiatáu, unrhyw hawl.

Y cyfnod ar gyfer gwneud cais

3.  Rhaid i gais am iawndal gael ei wneud cyn diwedd cyfnod o 12 mis sy'n dechrau—

(a)ar ddyddiad caniatáu'r hawliau yr hawlir iawndal amdanynt, neu

(b)pan fo apêl yn erbyn yr hysbysiad y caniatawyd yr hawliau hynny mewn perthynas ag ef, ar y dyddiad y caiff yr apêl ei phenderfynu neu ei thynnu'n ôl,

p'un bynnag yw'r dyddiad diweddaraf.

Dull gwneud cais

4.—(1Rhaid i gais am iawndal gael ei wneud mewn ysgrifen a'i draddodi yng nghyfeiriad gohebu hysbys diwethaf y person y rhoddwyd yr hawl iddo neu ei anfon yn rhagdaledig drwy'r post i'r cyfeiriad hwnnw.

(2Rhaid i'r cais gynnwys—

(a)copi o'r grant hawliau y mae'r grantwr yn gwneud cais am iawndal amdano ac o unrhyw blaniau sydd ynghlwm wrth y grant hwnnw;

(b)disgrifiad o union natur unrhyw fuddiant mewn tir y gwneir cais am iawndal amdano; ac

(c)datganiad o swm yr iawndal y gwneir cais amdano, gan wahaniaethu rhwng y symiau y gwneir cais amdanynt o dan bob un o is-baragraffau (a) i (d) o baragraff 5 a chan ddangos sut y cyfrifwyd y swm y gwneir cais amdano o dan bob is-baragraff.

Colled a difrod y mae iawndal yn daladwy amdanynt

5.  Mae iawndal yn daladwy am golled a difrod o'r disgrifiadau canlynol—

(a)unrhyw ddibrisiant yng ngwerth unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo ac sy'n ganlyniad i ganiatáu'r hawl;

(b)colled neu ddifrod, mewn perthynas ag unrhyw fuddiant perthnasol y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo—

(i)y gellir ei briodoli i grant yr hawl neu i arfer yr hawl honno;

(ii)nad yw'n cynnwys dibrisiant yng ngwerth y buddiant hwnnw; a

(iii)sy'n golled neu'n ddifrod y byddai hawlogaeth wedi bod gan y grantwr i gael iawndal ar ffurf iawndal am aflonyddu amdani neu amdano, pe bai'r buddiant hwnnw wedi'i gaffael yn orfodol o dan Ddeddf Caffael Tir 1981(48), yn unol â hysbysiad i drafod telerau a gyflwynwyd ar y dyddiad y rhoddwyd y grant o'r hawl;

(c)difrod i unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawlogaeth i'w gael nad yw'n fuddiant perthnasol ac sy'n deillio o grant yr hawl neu o arfer yr hawl;

(ch)unrhyw golled neu ddifrod a ddioddefwyd gan y grantwr, ac eithrio mewn perthynas ag unrhyw fuddiant mewn tir y mae gan y grantwr hawlogaeth iddo, y gellir ei phriodoli neu ei briodoli i grant yr hawl neu i arfer yr hawl; a

(d)swm unrhyw brisiad a chostau cyfreithiol a dynnwyd yn rhesymol gan y grantwr wrth ganiatáu'r hawl ac wrth baratoi'r cais am iawndal ac wrth negodi swm yr iawndal.

Y sail ar gyfer asesu'r iawndal

6.—(1Bydd y rheolau a nodir yn adran 5 o Ddeddf Iawndal Tir 1961(49) (rheolau ar gyfer asesu iawndal) yn cael effaith, i'r graddau y maent yn gymwys ac yn ddarostyngedig i unrhyw addasiadau angenrheidiol, at ddibenion asesu unrhyw iawndal o'r fath yn yr un modd ag y maent yn effeithiol at ddibenion asesu iawndal ar gyfer caffael buddiant mewn tir yn orfodol.

(2Pan fo'r buddiant perthnasol y mae iawndal i'w asesu mewn perthynas ag ef yn ddarostyngedig i forgais—

(a)rhaid i'r iawndal gael ei asesu fel pe na bai'r buddiant yn ddarostyngedig i'r morgais;

(b)ni fydd unrhyw iawndal yn daladwy mewn perthynas â buddiant y morgeisai (yn wahanol i'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais); ac

(c)rhaid i unrhyw iawndal sy'n daladwy mewn cysylltiad â'r buddiant sy'n ddarostyngedig i'r morgais gael ei dalu i'r morgeisai neu, os oes mwy nag un morgeisai, i'r morgeisai cyntaf ac, yn y naill achos neu'r llall, rhaid ei gymhwyso fel petai'n enillion ar werthiant.

Penderfynu materion sy'n destun dadl

7.—(1Rhaid cyfeirio unrhyw gwestiwn ynghylch iawndal sy'n destun dadl at y Tribiwnlys Tiroedd er mwyn iddynt hwy benderfynu arno.

(2Mewn perthynas â phenderfynu unrhyw gwestiwn iawndal, bydd adrannau 2 a 4 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (y weithdrefn ynglŷn â chyfeirio at y Tribiwnlys Tiroedd a'r costau) yn gymwys—

(a)fel petai'r cyfeiriad yn adran 2 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 at adran 1 o'r Ddeddf honno yn gyfeiriad at is-baragraff (1) o'r paragraff hwn; a

(b)fel petai'r cyfeiriadau yn adran 4 o'r Ddeddf honno at yr awdurdod caffael yn gyfeiriadau at y person y rhoddwyd yr hawliau iddo.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb 2004/35/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar atebolrwydd amgylcheddol parthed atal ac adfer difrod amgylcheddol.

Maent yn gymwys i ddifrod i rywogaethau a warchodir, cynefinoedd naturiol, safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig, dŵr a thir (rheoliad 4).

Maent yn cael eu gorfodi gan y cyrff a bennir yn rheoliadau 10 ac 11.

Maent yn darparu, ar gyfer gweithgareddau economaidd penodol, bod rhaid i'r gweithredwr, pan fo risg agos o ddifrod amgylcheddol, gymryd camau i'w atal, ac os yw wedi digwydd, rhaid iddo atal difrod pellach. Pan fo difrod wedi digwydd, rhaid i'r awdurdod gorfodi asesu'r difrod a chanfod mesurau adfer. Rhaid iddo wedyn gyflwyno hysbysiad adfer i'r gweithredwr cyfrifol gan bennu pa waith adfer y mae ei angen (Rhan 3).

Maent yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi (Rhan 4).

Mae torri darpariaethau a bennir yn y Rheoliadau yn dramgwydd y gellir ei gosbi—

(a)ar gollfarn ddiannod, â dirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau; neu

(b)ar gollfarn ar dditiad, â dirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi'i baratoi a gellir cael copïau oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

Mae'r dynodiadau perthnasol wedi'u rhoi gan O.S. 2002/248 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/3329 (mesurau sy'n ymwneud â chadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt); O.S. 2003/2901, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329 (mesurau sy'n ymwneud ag adnoddau dŵr a mesurau sy'n ymwneud â rheoli a rheoleiddio gollwng organeddau a addaswyd yn enetig yn fwriadol, eu rhoi ar y farchnad a'u symud ar draws ffiniau); O.S. 2005/850 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2006/3329 (mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff a rheoli pecynnu a gwastraff pecynnu a mesurau sy'n ymwneud ag atal a chyfyngu ar effeithiau damweiniau sy'n cynnwys sylweddau peryglus i'r graddau y maent yn ymwneud â pholisïau a chaniatadau cynllunio defnydd tir); ac O.S. 2007/193 (mesurau sy'n ymwneud ag atal a chywiro halogiad tir).

(2)

1972 p.68. Mewnosodwyd paragraff 1A yn Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p.51).

(3)

1981 p.69. Cafodd Rhan II o'r Ddeddf (sy'n cynnwys adran 28) ei mewnosod gan Atodlen 9 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) a'i diwygio wedi hynny gan Atodlen 11 i Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16).

(5)

OJ Rhif L 103, 25.4.1979, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008/102/EC, OJ Rhif L 323, 3.12.2008, t. 31).

(6)

OJ Rhif L 206, 22.7.1992, t. 7, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/105/EC (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t. 368).

(7)

OJ Rhif L 143, 30.4.2004, t. 56 fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2006/21/EC (OJ Rhif L 102, 11.4.2006, t. 15).

(8)

OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/27/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 45).

(10)

OJ Rhif L 268, 18.10.2003, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 298/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 97, 9.4.2008, t. 64).

(11)

OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/105/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 348, 24.12.2008, t. 84).

(12)

OJ Rhif L 372, 27.12.2006, t. 19.

(14)

Mae'r Confensiwn wedi'i osod yn Atodlen 7 i Ddeddf Llongau Masnachol 1995 (p.21).

(15)

Rhoddwyd y ddau gonfensiwn hyn ar waith yn Neddf Llongau Masnachol 1995 (p.21).

(16)

Fe'i rhoddwyd ar waith yn Neddf Llongau Masnachol 1995 drwy ddiwygiadau a wnaed i'r Ddeddf honno gan O.S. 2006/1244.

(18)

1925 p.20.

(19)

1995 p.25.

(20)

1981 p.69. Cafodd Rhan II o'r Ddeddf (sy'n cynnwys adran 28) ei mewnosod gan Atodlen 9 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37) a'i diwygio wedi hynny gan Atodlen 11 i Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16).

(21)

O.S. 1994/2716 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2009/6.

(22)

OJ Rhif L 24, 29.1.2008, t. 8.

(23)

OJ Rhif L 114, 27.4.2006, t. 9, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3).

(24)

OJ Rhif L 377, 31.12.91, t. 20, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/98/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 312, 22.11.2008, t. 3).

(25)

OJ Rhif L 182, 16.7.99, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 311, 21.11.2008, t. 1).

(26)

OJ Rhif L 332, 28.12.2000, t. 91, fel y'i cywirwyd yn OJ Rhif L 145, 31.5.2001, t. 52.

(27)

OJ Rhif L 102, 11.4.2006, t. 15.

(28)

OJ Rhif L 64 ,4.3.2006, t. 52.

(29)

OJ Rhif L 20, 26.1.80, t. 43, fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Cyngor 91/692/EC (OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t. 48).

(30)

OJ Rhif L 327, 22.12.2000, t. 1 fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb 2008/105/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 348, 24.12.2008, t. 84).

(31)

OJ Rhif L 196, 16.8.67, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2008/1272 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1).

(32)

OJ Rhif L 200, 30.7.99, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2008/1272 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 353, 31.12.2008, t. 1).

(33)

OJ Rhif L 230, 19.8.91, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2008/127/EC (OJ Rhif L 344, 20.12.2008, t. 89).

(34)

OJ Rhif L 123, 24.4.98, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/31/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 57).

(35)

OJ Rhif L 319, 12.12.94, t. 7 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/89/EC (OJ Rhif L 305, 4.11.2006, t. 4).

(36)

OJ Rhif L 235, 17.9.96, t. 25, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/90/EC (OJ Rhif L 305, 4.11.2006, t. 6).

(37)

OJ Rhif L 247, 5.10.93, t. 19, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2002/84/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 324, 29.11.2002, t. 53).

(38)

OJ Rhif L 117, 8.5.90, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2005/174/EC (OJ Rhif L 59, 5.3.2005, t. 20).

(39)

OJ Rhif L 106, 17.4.2001, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2008/27/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L 81, 20.3.2008, t. 45).

(40)

OJ Rhif L 190, 12.7.2006, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 669/2008 (OJ Rhif L 188, 16.7.2008, t. 7).

(42)

1985 p.48.

(43)

1991 p.57, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37).

(44)

O.S. 1998/2746 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2007/3538.

(45)

O.S. 1986/1510 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(46)

O.S. 2001/880 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(47)

O.S. 2005/1435 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(48)

1981 p.67.

(49)

1961 p.33.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources