- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
29.—(1) Caiff unrhyw berson—
(a)y mae difrod amgylcheddol yn effeithio arno neu y mae'n debyg o effeithio arno, neu
(b)y mae ganddo fuddiant digonol fel arall,
hysbysu'r awdurdod gorfodi priodol o unrhyw ddifrod amgylcheddol sy'n cael ei achosi, neu sydd wedi'i achosi neu y mae bygythiad agos y byddai'n cael ei achosi.
(2) Rhaid bod y canlynol yn mynd gyda'r hysbysiad—
(a)datganiad yn esbonio'r ffordd y bydd y difrod yn effeithio ar yr hysbysydd, neu'r rheswm bod gan yr hysbysydd fuddiant digonol; a
(b)gwybodaeth sy'n ddigon i alluogi'r awdurdod gorfodi i ganfod lleoliad a natur y digwyddiad.
(3) Rhaid i'r awdurdod gorfodi ystyried yr hysbysiad a rhoi gwybod i'r hysbysydd am y camau, os oes rhai, y mae'n bwriadu eu cymryd.
(4) Cyn cymryd unrhyw benderfyniad, rhaid i'r awdurdod gorfodi, os yw'n ymarferol—
(a)hysbysu'r gweithredwr o dan sylw o'r hysbysiad a'r wybodaeth sy'n dod gyda'r hysbysiad; a
(b)gwahodd y gweithredwr hwnnw i gyflwyno sylwadau arnynt.
(5) Ni fydd paragraffau (3) a (4) yn gymwys—
(a)os nad yw'r hysbysydd yn debyg o gael ei effeithio neu os nad oes ganddo fuddiant digonol;
(b)os nad yw'r wybodaeth a ddarperir, ym marn yr awdurdod gorfodi, yn datgelu unrhyw ddifrod amgylcheddol neu fygythiad o ddifrod amgylcheddol; neu
(c)os nad yw'n ymarferol, oherwydd natur frys y sefyllfa, i'r awdurdod gorfodi gydymffurfio â'r paragraffau hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: