xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 19

ATODLEN 3Trwyddedau, etc.

1.  Mae'r canlynol yn drwyddedau at ddibenion rheoliad 19(3) i'r graddau y maent yn ymwneud â gweithgaredd yn Atodlen 2—

(a)trwydded a roddir o dan Reoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2007(1) neu gofrestriad o dan y Rheoliadau hynny;

(b)trwydded a roddir o dan Ran II o Ddeddf Bwyd a Diogelu'r Amgylchedd 1985(2);

(c)cydsyniad gollwng dŵr, gorchymyn sychder cyffredin neu orchymyn sychder brys neu drwydded sychder o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(3);

(ch)awdurdodiad o dan Reoliadau Dŵr Daear 1998(4);

(d)trwydded tynnu dŵr neu drwydded cronni dŵr o dan Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991;

(dd)cymeradwyaeth o blaleiddiad o dan Reoliadau Rheoli Plaleiddiaid 1986(5), awdurdodiad o gynnyrch bywleiddiol o dan Reoliadau Cynhyrchion Bywleiddiol 2001(6) neu awdurdodiad o blaleiddiad o dan Reoliadau Cynhyrchion Diogelu Planhigion 2005(7).

(3)

1991 p.57, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003 (p. 37).

(4)

O.S. 1998/2746 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2007/3538.

(5)

O.S. 1986/1510 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(6)

O.S. 2001/880 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 2005/1435 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.