xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1368 (Cy.118)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Coleg Gŵyr Abertawe (Corffori) 2010

Gwnaed

25 Ebrill 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Ebrill 2010

Yn dod i rym

20 Mai 2010

Gwneir y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 16(1)(a) ac 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1) (“y Ddeddf”) ac sy'n arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru(2).

Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn yn unol ag adran 51(3)(3) (4) o'r Ddeddf a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007(5).

Yn unol â hynny, mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Coleg Gŵyr Abertawe (Corffori) 2010 a daw i rym ar 20 Mai 2010.

Corfforaeth Newydd

2.  Ar 20 Mai 2010 sefydlir corff corfforaethol o'r enw Coleg Gŵyr Abertawe, at ddibenion sefydlu a rhedeg, o'r dyddiad gweithredu ymlaen, sefydliad addysgol newydd o'r un enw.

Dyddiad gweithredu

3.  Y dyddiad gweithredu a bennwyd mewn perthynas â Coleg Gŵyr Abertawe yw 20 Awst 2010, a bydd y gorfforaeth yn rhedeg y sefydliad addysgol Coleg Gŵyr Abertawe o'r dyddiad hwnnw ymlaen.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

25 Ebrill 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu corfforaeth addysg bellach a elwir “Coleg Gŵyr Abertawe” o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (“y Ddeddf”) at y diben o redeg y sefydliad addysgol sydd â'r un enw. Mae'r Gorchymyn hefyd yn darparu ar gyfer pennu 20 Awst 2010 yn ddyddiad gweithredu at ddibenion Rhan 1 o'r Ddeddf, sef y dyddiad y bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn ymgymryd â rhedeg, o hynny ymlaen, y sefydliad addysgol o'r un enw.

Mae drafft a chrynodeb o'r Gorchymyn hwn wedi eu cyhoeddi yn unol ag adran 51(3) o'r Ddeddf a Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007.

(1)

1992 p.13; diwygiwyd adran 16 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 gan adran 140(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ac Atodlen 31 i'r Ddeddf honno; gan adran 111(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21); a gan adran 14 o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddi 2007 (p.25) ond adeg gwneud y Gorchymyn hwn nid oedd y ddarpariaeth honno wedi ei chychwyn. Diwygiwyd adran 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 gan adran 44(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30) a pharagraff 7 o Atodlen 3 i'r Ddeddf honno; a gan adran 14 o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddi 2007 ond adeg gwneud y Gorchymyn hwn nid oedd y ddarpariaeth honno wedi ei chychwyn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 16(1)(a) ac 17 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(3)

Diwygiwyd adran 51(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 gan erthygl 9(1) o Orchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S.2005/3238 (Cy. 243)) a pharagraffau 13 a 21 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw; gan adran 111(2)(a) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000; a gan adran 16(1) a (3) o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddi 2007 ond adeg gwneud y Gorchymyn hwn nid oedd y ddarpariaeth honno wedi ei chychwyn.

(4)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 51(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.