Search Legislation

Rheoliadau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe (Llywodraethu) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1369 (Cy.119)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe (Llywodraethu) 2010

Gwnaed

25 Ebrill 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

29 Ebrill 2010

Yn dod i rym

20 Mai 2010

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 20(2) a 21(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac Atodlen 4 iddi(1) (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe (Llywodraethu) 2010 a deuant i rym ar 20 Mai 2010.

Offeryn Llywodraethu

2.  Rhagnodir Offeryn Llywodraethu Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.

Erthyglau Llywodraethu

3.  Rhagnodir Erthyglau Llywodraethu Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

25 Ebrill 2010

YR ATODLENNI

Rheoliad 2

ATODLEN 1YR OFFERYN LLYWODRAETHU

  1. 1.Dehongli

  2. 2.Aelodaeth y Gorfforaeth

  3. 3.Penderfynu niferoedd yr aelodau

  4. 4.Penodiadau

  5. 5.Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd

  6. 6.Penodi'r Clerc

  7. 7.Cymhwystra

  8. 8.Tymor swydd

  9. 9.Terfynu aelodaeth

  10. 10.Aelodau i beidio â bod â buddiannau mewn materion sy'n ymwneud â'r sefydliad

  11. 11.Cyfarfodydd y Gorfforaeth

  12. 12.Cworwm

  13. 13.Trafodion cyfarfodydd

  14. 14.Cofnodion

  15. 15.Mynediad i'r cyhoedd i gyfarfodydd y Gorfforaeth

  16. 16.Cyhoeddi'r cofnodion a phapurau

  17. 17.Lwfansau i aelodau

  18. 18.Copïau o'r Offeryn Llywodraethu

  19. 19.Newid enw

  20. 20.Gosod y sêl

Dehongli

1.—(1Yn yr Offeryn Llywodraethu hwn—

  • ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o'r Gorfforaeth;

  • ystyr “Cadeirydd” (“Chair”) yw Cadeirydd y Gorfforaeth;

  • ystyr “Clerc” (“Clerk”) yw Clerc y Gorfforaeth;

  • ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddydd Llun, Mawrth, Mercher, Iau neu Gwener, ac eithrio gŵyl banc neu ŵyl gyhoeddus arall;

  • ystyr “y Gorfforaeth” (“the Corporation”) yw Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe;

  • ystyr “Is-gadeirydd” (“Vice-Chair”) yw Is-gadeirydd y Gorfforaeth;

  • ystyr “materion staff” (“staff matters”) yw penodiad, tâl, amodau gwaith, dyrchafiad, israddiad, ymddygiad, atal dros dro, diswyddiad neu ymddeoliad unrhyw aelod o'r staff;

  • ystyr “myfyriwr” (“student”) yw myfyriwr sydd wedi ymrestru yn y sefydliad ac mae hefyd yn cynnwys person nad yw am y tro wedi ymrestru fel myfyriwr yn y sefydliad ond sydd ar gyfnod o absenoldeb awdurdodedig o fod wedi ymrestru fel myfyriwr yn y sefydliad at ddibenion astudio, teithio neu i wneud dyletswyddau unrhyw swydd a ddeil y person hwnnw yn undeb myfyrwyr y sefydliad;

  • ystyr “Pennaeth” (“Principal”) yw prif weithredwr y sefydliad;

  • ystyr “y sefydliad” (“the institution”) yw Coleg Gŵyr Abertawe ac unrhyw sefydliad sy'n cael ei redeg am y tro gan y Gorfforaeth wrth arfer ei bwerau o dan Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3).

(2Yn yr Offeryn Llywodraethu hwn, o ran aelodau—

(a)mae cyfeiriadau at “categori amrywiol” yn gyfeiriadau at unrhyw gategori o aelodau y dichon eu niferoedd amrywio yn unol â pharagraffau 2 a 4; a

(b)mae i'r termau canlynol yr ystyron a roddir iddynt ym mharagraff 2—

  • “Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru” (“Welsh Ministers Appointed Members”);

  • “aelodau awdurdod lleol” (“local authority members”);

  • “aelodau busnes” (“business members”);

  • “aelodau cyfetholedig” (“co-opted members”);

  • “aelodau cymunedol” (“community members”);

  • “aelodau myfyrwyr” (“student members”);

  • “aelodau rhieni” (“parent members”); ac

  • “aelodau staff” (“staff members”).

Aelodaeth y Gorfforaeth

2.—(1Rhaid i'r Gorfforaeth gynnwys—

(a)hyd at saith aelod sydd, neu a fu, yn ymwneud â neu'n gyflogedig mewn busnes, diwydiant neu unrhyw broffesiwn neu unrhyw faes arall o waith sy'n berthnasol i weithgareddau'r sefydliad (ac fe'u gelwir yn “aelodau busnes”);

(b)hyd at dri aelod a gyfetholwyd gan aelodau'r Gorfforaeth (ac fe'u gelwir yn “aelodau cyfetholedig”);

(c)o leiaf un a hyd at dri aelod sy'n staff wedi'u cyflogi gan y sefydliad ac a enwebwyd gan staff y sefydliad (ac fe'u gelwir yn “aelodau staff”) Os oes mwy nag un aelod staff, rhaid i o leiaf un aelod staff fod wedi'i gyflogi fel aelod o'r staff addysgu, ac wedi'i ethol a'i enwebu ganddynt a rhaid i o leiaf un aelod staff fod wedi'i gyflogi fel aelod arall o staff y sefydliad ac wedi'i ethol a'i enwebu ganddynt;

(ch)o leiaf un a hyd at dri aelod sy'n fyfyrwyr yn y sefydliad ac sydd wedi'u hethol a'u henwebu gan fyfyrwyr y sefydliad neu (fel y caiff y Gorfforaeth benderfynu) wedi'u hethol a'u henwebu gan gymdeithas gydnabyddedig sy'n cynrychioli myfyrwyr y sefydliad (ac fe'u gelwir yn “aelodau myfyrwyr”);

(d)hyd at ddau aelod sy'n rhieni i fyfyrwyr o dan 19 mlwydd oed sy'n mynychu'r sefydliad, sydd wedi'u hethol a'u henwebu gan rieni eraill o'r fath neu (fel y caiff y Gorfforaeth benderfynu) wedi'u hethol a'u henwebu gan gymdeithas gydnabyddedig sy'n cynrychioli rhieni o'r fath (ac fe'u gelwir yn “aelodau rhieni”);

(dd)o leiaf un a hyd at dri aelod a enwebwyd gan awdurdodau lleol a bennir gan y Gorfforaeth (ac fe'u gelwir yn “aelodau awdurdod lleol”);

(e)o leiaf un a hyd at dri aelod a enwebwyd gan gorff neu gyrff cymunedol yr ymddengys i'r aelodau eraill eu bod yn cynrychioli buddiannau adran o'r gymuned leol a enwebwyd gan yr aelodau eraill (ac fe'u gelwir yn “aelodau cymunedol”) (at ddibenion y paragraff hwn mae “corff cymunedol” yn cynnwys unrhyw gymdeithas nad yw'n cael ei rhedeg er elw);

(f)Pennaeth y sefydliad (onid yw'r Pennaeth yn dewis peidio â bod yn aelod); ac

(ff)hyd at ddau aelod a benodwyd gan Weinidogion Cymru wrth arfer eu pwerau o dan adran 39 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(4) (ac fe'u gelwir yn “Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru”).

(2Rhaid i unrhyw gwestiwn parthed a yw person yn gymwys yn unol ag is-baragraff (1) i'w benodi'n aelod i unrhyw gategori gael ei benderfynu gan yr awdurdod penodi perthnasol fel a bennir ym mharagraff 5.

Penderfynu niferoedd yr aelodau

3.—(1Yn ei gyfarfod cyntaf, rhaid i'r Gorfforaeth benderfynu ar—

(a)cyfanswm yr aelodau (ac eithrio unrhyw Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru); a

(b)nifer yr aelodau ym mhob categori amrywiol.

(2Caiff y Gorfforaeth ar unrhyw adeg amrywio'r penderfyniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) ac unrhyw benderfyniadau olynol o dan y paragraff hwn.

(3Rhaid i unrhyw benderfyniad o dan y paragraff hwn sicrhau—

(a)bod nifer yr aelodau, heb gynnwys yr Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru, yn 12 o leiaf a heb fod yn fwy nag 20;

(b)bod nifer aelodau pob categori amrywiol o fewn y terfynau a osodir ym mharagraff 2; ac

(c)bod nifer yr aelodau busnes yn cyfateb i draean cyfanswm yr aelodau, heb gynnwys unrhyw Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru, wedi'u cyfrif i fyny at y rhif cyflawn agosaf.

(4Nid oes unrhyw benderfyniad o dan y paragraff hwn yn cael effaith fydd yn terfynu penodiad unrhyw berson sydd eisoes yn aelod ar yr adeg y daw yn effeithiol.

Penodiadau

4.—(1Y Gorfforaeth yw'r awdurdod penodi mewn perthynas â phenodi unrhyw aelod ac eithrio—

(a)Aelod a Benodwyd gan Weinidogion Cymru;

(b)yr aelodau cyntaf, sy'n cael eu penodi gan Weinidogion Cymru; ac

(c)os yw nifer yr aelodau yn disgyn islaw'r nifer sy'n angenrheidiol ar gyfer cworwm, y nifer hwnnw o aelodau sy'n angenrheidiol ar gyfer cworwm.

(2Os yw nifer yr aelodau yn disgyn islaw'r nifer sy'n angenrheidiol ar gyfer cworwm, Gweinidogion Cymru yw'r awdurdod penodi mewn perthynas â phenodiad y nifer hwnnw o aelodau sy'n angenrheidiol ar gyfer cworwm.

(3Caiff yr awdurdod penodi wrthod penodi person os yw wedi'i fodloni—

(a)nad oes gan y person y sgiliau a'r profiad penodedig fel y'u diffinnir yn is-baragraff (4);

(b)bod y person, o fewn y deng mlynedd blaenorol, wedi cael ei symud ymaith o swydd fel aelod o gorfforaeth addysg bellach neu sefydliad a ddynodwyd o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(5);

(c)y byddai penodi'r person yn groes i unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw reolau neu is-ddeddfau a wnaed o dan erthygl 20 o'r Erthyglau Llywodraethu;

(ch)nad yw'r person yn gymwys i fod yn aelod yn rhinwedd paragraff 7; neu

(d)yn achos person sydd i'w benodi yn aelod busnes, aelod cyfetholedig, aelod awdurdod lleol neu'n aelod cymunedol, bod y Pwyllgor Chwilio (a sefydlwyd o dan Erthygl 8 o'r Erthyglau Llywodraethu) wedi cynghori na ddylid penodi'r person.

(4Yn y paragraff hwn ystyr “y sgiliau a'r profiad penodedig” yw'r sgiliau a'r profiad (ac eithrio cymwysterau proffesiynol) a bennir gan y Gorfforaeth eu bod yn briodol i aelodau.

(5Pan fo swydd unrhyw aelod ac eithrio'r Pennaeth neu Aelod a Benodwyd gan Weinidogion Cymru yn dod yn wag, rhaid i'r Gorfforaeth, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, gymryd pob cam angenrheidiol i benodi aelod newydd i lenwi'r lle gwag.

(6Caiff aelod awdurdod lleol fod yn gynghorydd etholedig o'r awdurdod lleol, yn un o gyflogeion yr awdurdod lleol neu'n unrhyw berson arall a enwebwyd gan yr awdurdod lleol.

(7Nid oes dim yn y paragraff hwn yn rhoi'r hawl i'r Gorfforaeth ofyn am fwy nag un enwebiad gan unrhyw un neu ragor o'r cyrff y cyfeirir atynt ym mharagraff 2(1)(c) i (e) i lenwi unrhyw le gwag unigol.

Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd

5.—(1Rhaid i'r Gorfforaeth benodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd o blith ei haelodau.

(2Ni chaniateir penodi'r Pennaeth nac unrhyw aelod staff nac unrhyw aelod myfyrwyr yn Gadeirydd nac yn Is-gadeirydd.

(3Bydd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn dal eu swyddi am unrhyw gyfnod a bennir gan y Gorfforaeth.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), os yw'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn absennol o unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth, rhaid i'r aelodau sy'n bresennol ddewis un o'u plith i weithredu fel cadeirydd am y cyfarfod hwnnw.

(5Caiff y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd ymddiswyddo o'r swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc.

(6Os yw'r Gorfforaeth ar unrhyw adeg wedi'i bodloni bod y Cadeirydd yn anabl neu'n anaddas i gyflawni swyddogaethau'r Cadeirydd, caiff y Gorfforaeth, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, symud y Cadeirydd o'i swydd.

(7Os yw'r Gorfforaeth ar unrhyw adeg wedi'i bodloni bod yr Is-gadeirydd yn anabl neu'n anaddas i gyflawni swyddogaethau'r Is-gadeirydd, caiff y Gorfforaeth, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig, symud yr Is-gadeirydd o'i swydd.

(8Yng nghyfarfod olaf y Gorfforaeth cyn bod tymor swydd y Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd yn dod i ben, neu ar ôl i'r Cadeirydd neu'r Is-gadeirydd ymddiswyddo neu gael ei symud o'r swydd, rhaid i'r Gorfforaeth benodi Cadeirydd neu Is-gadeirydd newydd, yn ôl y digwydd, o blith ei haelodau.

(9Mae'r Cadeirydd a'r Is-gadeirydd yn gymwys i gael eu hail benodi pan ddaw tymor eu swyddi i ben, yn ddarostyngedig i unrhyw reolau a wnaed o dan erthygl 20 o'r Erthyglau Llywodraethu ynglŷn â nifer y tymhorau swydd y caiff person wasanaethu drostynt.

Penodi'r Clerc

6.—(1Rhaid i'r Gorfforaeth benodi person i wasanaethu fel Clerc, ond ni chaniateir penodi'r Pennaeth fel Clerc.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff 13(9), mae hawl gan y Clerc i fynychu pob cyfarfod o'r Gorfforaeth a phob cyfarfod o unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth.

(3Yn absenoldeb dros dro'r Clerc, rhaid i'r Gorfforaeth benodi person (ac eithrio'r Pennaeth) i wasanaethu fel Clerc dros dro ac mae unrhyw gyfeiriad yn yr Offeryn hwn at y Clerc yn cynnwys Clerc dros dro.

(4Rhaid i'r Clerc gydymffurfio ag unrhyw ofynion ysgrifenedig gan Weinidogion Cymru.

Cymhwystra

7.—(1Ni chaiff person o dan 18 mlwydd oed ond bod yn aelod myfyrwyr.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), ni chaiff person sy'n aelod o staff ac eithrio'r Pennaeth ond bod yn aelod staff.

(3Ni chaiff myfyriwr a gyflogir gan y Gorfforaeth mewn cysylltiad â rôl y myfyriwr fel swyddog o undeb y myfyrwyr ond bod yn aelod myfyrwyr.

(4Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (5) a (6), ni chaiff myfyriwr yn y sefydliad ond bod yn aelod myfyrwyr.

(5Ni chaiff aelod o staff (ac eithrio person a gyflogir gan y Gorfforaeth mewn cysylltiad â'i rôl fel swyddog o undeb y myfyrwyr) sydd hefyd wedi ymrestru fel myfyriwr rhan-amser yn y sefydliad ond cael ei benodi fel aelod staff.

(6Nid yw'n ofynnol i berson sydd eisoes yn aelod ac eithrio aelod myfyrwyr ymddiswyddo os bydd y person hwnnw yn ystod tymor y swydd yn ymrestru ar gwrs rhan-amser yn y sefydliad ond os bydd y person hwnnw yn ymrestru ar gwrs llawnamser yn y sefydliad, bydd y person hwnnw yn peidio â bod yn aelod.

(7Ni chaiff y Clerc fod yn aelod.

(8Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (9) a (10), ni chaiff person fod yn aelod os yw'r person hwnnw wedi ei ddyfarnu'n fethdalwr(6), neu os yw'r person hwnnw yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad, neu orchymyn interim cyfyngu methdaliad neu ymrwymiad cyfyngu methdaliad(7), neu os yw'r person hwnnw wedi gwneud compownd neu drefniant â chredydwyr, gan gynnwys trefniant gwirfoddol unigol.

(9Pan fo person wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod oherwydd ei fod wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr, neu ei fod yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad, gorchymyn interim cyfyngu methdaliad neu ymrwymiad cyfyngu methdaliad, mae'r anghymhwysiad hwnnw yn dod i ben—

(a)pan fydd y person hwnnw yn cael ei ollwng o'r methdaliad, onid yw'r gorchymyn methdaliad wedi cael ei ddiddymu cyn hynny;

(b)os yw'r gorchymyn methdaliad yn cael ei ddiddymu, ar ddyddiad y diddymiad hwnnw;

(c)os yw'r gorchymyn cyfyngu methdaliad yn cael ei ddad-wneud(8), ar y dyddiad y gorchmynnir hynny gan y llys;

(ch)os yw'r gorchymyn interim cyfyngu methdaliad yn cael ei ollwng gan y llys, ar y dyddiad y caiff ei ollwng; neu

(d)os diddymir yr ymrwymiad cyfyngu methdaliad, ar ddyddiad y diddymiad hwnnw.

(10Pan fo person wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod oherwydd ei fod wedi gwneud compownd neu drefniant, gan gynnwys trefniant gwirfoddol unigol, ac yna ei fod yn talu'r dyledion yn llawn, bydd yr anghymhwysiad yn dod i ben ar y dyddiad pan fydd y taliad wedi'i gwblhau ac mewn unrhyw achos arall bydd yn dod i ben ar ddiwedd tair blynedd o'r dyddiad pan gaiff telerau'r weithred gompownd, y trefniant neu'r trefniant gwirfoddol unigol eu bodloni.

(11Yn ddarostyngedig i is-baragraff (12) ni chaiff person fod yn aelod—

(a)os yw'r person hwnnw, o fewn y pum mlynedd blaenorol, neu ers ei benodi, wedi cael ei gollfarnu naill ai yn y Deyrnas Unedig neu mewn man arall o unrhyw dramgwydd ac wedi cael dedfryd o garchar (p'un ai a fyddo wedi'i hatal dros dro ai peidio) am gyfnod o dri mis neu fwy heb gael dewis o ddirwy;

(b)os yw'r person hwnnw, o fewn yr 20 mlynedd blaenorol, wedi cael ei gollfarnu fel a osodir ym mharagraff (a) ac wedi cael dedfryd o garchar am gyfnod o fwy na dwy flynedd a hanner; neu

(c)os yw'r person hwnnw ar unrhyw adeg wedi cael ei gollfarnu fel a osodir ym mharagraff (a) ac wedi cael dedfryd o garchar o bum mlynedd neu fwy.

(12At ddibenion is-baragraff (11) rhaid diystyru unrhyw gollfarn gan neu gerbron llys y tu allan i'r Deyrnas Unedig am dramgwydd mewn perthynas ag ymddygiad na fyddai, petai wedi digwydd yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, wedi bod yn dramgwydd o dan y gyfraith mewn grym yn y rhan honno o'r Deyrnas Unedig.

(13Pan ddaw aelod yn anghymwys i fod yn aelod yn rhinwedd is-baragraffau (8) i (11), rhaid i'r aelod hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig o'r ffaith honno ar unwaith i'r Clerc.

Tymor swydd

8.—(1Mae aelod yn dal ac yn gadael swydd yn unol â thelerau'r penodiad ond rhaid i hyd tymor swydd beidio â bod yn hwy na phedair blynedd.

(2Mae aelod sy'n ymddeol ar ddiwedd y tymor swydd yn gymwys i gael ei ailbenodi yn ddarostyngedig i unrhyw reolau a wneir o dan erthygl 20 o'r Erthyglau Llywodraethu sy'n ymwneud â nifer y tymhorau swydd y caiff person wasanaethu drostynt, ac mae paragraff 4 yn gymwys i ailbenodiad aelod fel y mae'n gymwys i benodiad olynydd i aelod.

Terfynu aelodaeth

9.—(1Caiff aelod ymddiswyddo o'r swydd ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Clerc.

(2Caiff y Gorfforaeth symud unrhyw aelod o'i swydd drwy hysbysiad ysgrifenedig, os yw'r Gorfforaeth ar unrhyw adeg wedi'i bodloni bod unrhyw aelod—

(a)wedi bod yn absennol o gyfarfodydd y Gorfforaeth am gyfnod hwy na chwe mis olynol heb ganiatâd y Gorfforaeth; neu

(b)yn anabl neu'n anaddas i gyflawni swyddogaethau aelod.

(3Mae person sy'n aelod yn rhinwedd bod yn aelod o staff y sefydliad (gan gynnwys y Pennaeth) yn peidio â dal swydd pan yw'n peidio â bod yn aelod o staff y sefydliad.

(4Mae person sy'n aelod yn rhinwedd bod yn fyfyriwr yn y sefydliad yn peidio â dal swydd—

(a)ar ddiwedd blwyddyn academaidd olaf y myfyriwr neu ar y fath adeg arall o'r flwyddyn wedi iddo beidio â bod yn fyfyriwr ag y caiff y Gorfforaeth ei benderfynu; neu

(b)os caiff ei ddiarddel o'r sefydliad.

Aelodau i beidio â bod â buddiannau mewn materion sy'n ymwneud â'r sefydliad

10.—(1Ac eithrio gyda chymeradwyaeth ysgrifenedig Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, ni chaiff unrhyw aelod gymryd neu ddal unrhyw fuddiant mewn unrhyw eiddo a ddelir neu a ddefnyddir at ddibenion y sefydliad.

(2Mae'n rhaid i aelod y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo—

(a)datgelu i'r Gorfforaeth neu i unrhyw un o bwyllgorau'r Gorfforaeth natur a maint y buddiant;

(b)os yw'n bresennol yn un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth lle mae'r cyflenwi, y contract neu fater arall a grybwyllir yn is-baragraff (3) i gael ei ystyried, peidio â chymryd rhan yn y broses o'i ystyried, na phleidleisio ar unrhyw gwestiwn ynglŷn ag ef, na chael ei gyfrif yn y cworwm sy'n bresennol yn y cyfarfod o ran penderfyniad nad oes ganddo hawl i bleidleisio arno; ac

(c)ymneilltuo, os yw'n bresennol yn un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth lle mae'r cyflenwi, y contract neu fater arall a grybwyllir yn is-baragraff (3) i gael ei ystyried, os gofynnir iddo wneud hynny gan fwyafrif o aelodau'r Gorfforaeth sy'n bresennol yn y cyfarfod o'r Gorfforaeth, neu gan fwyafrif o aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol yn y cyfarfod o'r pwyllgor, yn ôl y digwydd.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys i aelod—

(a)sydd ag unrhyw fuddiant ariannol—

(i)mewn cyflenwi gwaith i'r sefydliad, neu gyflenwi nwyddau at ddibenion y sefydliad;

(ii)mewn unrhyw gontract neu unrhyw gontract arfaethedig sy'n ymwneud â'r sefydliad; neu

(iii)mewn unrhyw fater arall sy'n ymwneud â'r sefydliad, neu

(b)sydd ag unrhyw fuddiant arall o fath a bennir gan y Gorfforaeth mewn unrhyw fater sy'n ymwneud â'r sefydliad.

(4Pan fo'r mater dan ystyriaeth gan y Gorfforaeth neu unrhyw un neu ragor o'i phwyllgorau yn ymwneud â thâl ac amodau gwaith yr holl staff, neu'r holl staff mewn dosbarth penodol, o ran aelod staff—

(a)nid oes angen iddo ddatgelu buddiant ariannol; a

(b)caiff gymryd rhan mewn ystyried y mater, pleidleisio ar unrhyw gwestiwn sy'n ymwneud ag ef a chyfrif tuag at y cworwm sy'n bresennol yn y cyfarfod hwnnw, cyhyd â'i fod wrth wneud hynny, yn gweithredu er lles pennaf y Gorfforaeth yn ei chyfanrwydd ac nad yw'n ceisio cynrychioli buddiannau unrhyw berson neu gorff arall; ond

(c)rhaid iddo ymneilltuo o'r cyfarfod os yw'r mater dan drafodaeth gyda'r staff ac os yw'r aelod staff yn cynrychioli un neu ragor o'r staff sy'n cymryd rhan yn y trafodaethau hynny.

(5Mae'n rhaid i'r Clerc gadw cofrestr o fuddiannau aelodau'r Gorfforaeth a ddatgelir a rhaid iddo beri bod y gofrestr honno ar gael yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad i unrhyw berson sy'n dymuno ei harchwilio.

(6Nid yw'r paragraff hwn yn atal aelodau'r Gorfforaeth rhag ystyried cynigion a phleidleisio ar gynigion bod y Gorfforaeth yn yswirio aelodau'r Gorfforaeth yn erbyn rhwymedigaethau y byddant yn mynd iddynt ac sy'n deillio o'u swyddi nac yn atal y Gorfforaeth rhag sicrhau'r yswiriant hwnnw a thalu'r premiymau.

Cyfarfodydd y Gorfforaeth

11.—(1Rhaid i'r Gorfforaeth gyfarfod o leiaf un waith ym mhob tymor, a chynnal cyfarfodydd eraill yn ôl yr angen.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (4), rhaid i bob cyfarfod o'r Gorfforaeth gael ei gynnull gan y Clerc, sy'n gorfod anfon at yr aelodau, o leiaf bum niwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod, hysbysiad ysgrifenedig a chopi o'r agenda arfaethedig.

(3Os bwriedir ystyried mewn unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth, dâl, amodau gwaith, ymddygiad, atal dros dro, diswyddiad neu ymddeoliad y Clerc, rhaid i'r Cadeirydd anfon at yr aelodau, o leiaf bum niwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod, gopi o'r eitem agenda o dan sylw ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol.

(4Caniateir i gyfarfod arbennig o'r Gorfforaeth gael ei gynnull ar unrhyw adeg gan y Cadeirydd neu ar gais ysgrifenedig unrhyw bum aelod. Pan fo'r Cadeirydd neu, yn ei absenoldeb, yr Is-gadeirydd yn rhoi cyfarwyddyd i'r perwyl hwnnw ar y sail bod yna faterion sy'n gofyn am gael eu hystyried ar frys, caniateir i'r hysbysiad yn cynnull y cyfarfod a'r agenda arfaethedig gael eu rhoi o fewn llai na phum niwrnod gwaith.

(5Mae'n rhaid i bob aelod weithredu er lles y Gorfforaeth a chan hynny nid yw i gael ei rwymo wrth siarad a phleidleisio gan eirchion a roddir iddo gan unrhyw gorff neu berson arall.

Cworwm

12.—(1Hyd nes y digwydd y penderfyniad cyntaf ar nifer yr aelodau o dan baragraff 3, mae cworwm yng nghyfarfodydd y Gorfforaeth os oes wyth aelod yn bresennol.

(2Mae cworwm yng nghyfarfodydd dilynol y Gorfforaeth os yw nifer yr aelodau sy'n bresennol yn o leiaf 40% o gyfanrif cyfanswm yr aelodau a bennir yn unol â pharagraff 3(1) ac unrhyw Aelodau a Benodwyd gan Weinidogion Cymru.

(3Os nad yw nifer yr aelodau sy'n bresennol ar gyfer cyfarfod o'r Gorfforaeth yn gwneud cworwm, rhaid peidio â chynnal y cyfarfod. Os bydd nifer yr aelodau yn ystod un o gyfarfodydd y Gorfforaeth yn peidio â ffurfio cworwm, rhaid terfynu'r cyfarfod ar unwaith.

(4Mewn amgylchiadau lle na ellir cynnal cyfarfod o'r Gorfforaeth neu, yn ôl y digwydd, barhau ag ef, am nad oes cworwm, caiff y Cadeirydd gynnull cyfarfod arbennig cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

Trafodion cyfarfodydd

13.—(1Mae pob cwestiwn sydd i'w benderfynu yn un o gyfarfodydd y Gorfforaeth i'w benderfynu drwy fwyafrif syml o bleidleisiau'r aelodau sy'n bresennol ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn. Pan fo'r pleidleisiau wedi eu rhannu'n gyfartal, mae cadeirydd y cyfarfod i gael pleidlais fwrw.

(2Ni chaiff aelod bleidleisio drwy ddirprwy na phleidleisio drwy'r post.

(3Ni chaniateir i unrhyw benderfyniad yr aelodau gael ei ddad-wneud na'i amrywio mewn cyfarfod dilynol o'r Gorfforaeth oni bai bod ystyried y dad-wneud neu'r amrywiad yn eitem fusnes benodol ar yr agenda ar gyfer y cyfarfod hwnnw.

(4Caiff Pennaeth sydd wedi dewis peidio â bod yn aelod fod yn bresennol ym mhob un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth a siarad yn y cyfarfodydd hynny, ac eithrio bod rhaid iddo ymneilltuo mewn unrhyw achos lle byddai'n ofynnol iddo ymneilltuo o dan is-baragraff (5) petai'r Pennaeth yn bresennol fel aelod.

(5Rhaid i aelod sy'n aelod o staff y sefydliad (gan gynnwys y Pennaeth) ymneilltuo—

(a)o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth, neu unrhyw gyfarfod pwyllgor, lle mae materion staff sy'n ymwneud â'r aelod hwnnw o'r staff yn unig (o'u cyferbynnu â materion staff sy'n ymwneud â phob aelod o'r staff, neu bob aelod o'r staff mewn dosbarth penodol) yn cael eu hystyried;

(b)o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw gyfarfod pwyllgor lle mae ailbenodiad yr aelod hwnnw, neu benodiad ei olynydd, i gael ei ystyried;

(c)o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth lle mae materion staff, sy'n ymwneud ag unrhyw aelod staff sy'n dal swydd sy'n uwch na'i swydd ei hun, yn cael eu hystyried, os gofynnir iddo wneud hynny gan fwyafrif o'r aelodau eraill sy'n bresennol yn y cyfarfod o'r Gorfforaeth neu gan fwyafrif o aelodau eraill y pwyllgor sy'n bresennol yng nghyfarfod y pwyllgor, yn ôl y digwydd; ac

(ch)o'r rhan honno o unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth lle mae trafodaethau sy'n ymdrin â chyflog neu amodau gwaith (unrhyw un neu bob un o) aelodau'r staff yn cael eu hystyried, os gofynnir iddo wneud hynny gan fwyafrif o'r aelodau eraill sy'n bresennol yn y cyfarfod o'r Gorfforaeth neu gan fwyafrif o aelodau eraill y pwyllgor sy'n bresennol yng nghyfarfod y pwyllgor, yn ôl y digwydd.

(6Ni chaiff aelod myfyrwyr sydd o dan 18 oed bleidleisio, boed mewn un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth, ar unrhyw gwestiwn ynghylch unrhyw gynnig—

(a)ar gyfer gwario arian gan y Gorfforaeth; neu

(b)y byddai'r Gorfforaeth, neu unrhyw aelodau o'r Gorfforaeth, yn ymrwymo i unrhyw gontract o dan y cynnig hwnnw, neu'n tynnu unrhyw ddyled neu rwymedigaeth oddi tano (boed hynny ar unwaith, yn amodol neu fel arall).

(7Ac eithrio fel y darperir gan reolau a wneir o dan erthygl 15(2) o'r Erthyglau Llywodraethu sy'n ymwneud â sylwadau ac apelau gan fyfyrwyr mewn achosion disgyblu, mae'n rhaid i aelod myfyrwyr ymneilltuo o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu'r pwyllgor lle mae ymddygiad, atal dros dro neu ddiarddeliad unrhyw fyfyriwr yn cael ei ystyried.

(8Mewn unrhyw gyfarfod o'r Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth lle trafodir materion staff sy'n ymwneud ag aelod neu ddarpar aelod o staff y sefydliad, rhaid i aelod myfyrwyr–

(a)peidio â chymryd unrhyw ran yn yr ystyriaeth na'r drafodaeth ar y mater hwnnw na phleidleisio ar unrhyw gwestiwn ynglŷn ag ef; a

(b)ymneilltuo o'r cyfarfod o'r Gorfforaeth neu o'r cyfarfod o bwyllgor y Gorfforaeth, pan ofynnir iddo wneud hynny gan fwyafrif o'r aelodau ac eithrio aelodau myfyrwyr neu gan fwyafrif o aelodau'r pwyllgor sy'n bresennol yn y cyfarfod ac eithrio'r rheini sy'n aelodau myfyrwyr, yn ôl y digwydd.

(9Rhaid i'r Clerc—

(a)ymneilltuo o'r rhan honno o unrhyw un o gyfarfodydd y Gorfforaeth neu unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth lle mae tâl y Clerc, ei amodau gwaith, ei ymddygiad, ei ataliad dros dro, ei ddiswyddiad neu ei ymddeoliad, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Clerc, yn cael eu hystyried; a

(b)pan fo'r Clerc yn aelod o staff y sefydliad, rhaid iddo ymneilltuo yn unrhyw achos lle byddai'n ofynnol i aelod ymneilltuo o dan is-baragraff (5) petai yn bresennol fel aelod o'r staff.

(10Os yw'r Clerc yn ymneilltuo o gyfarfod neu ran ohono o dan is-baragraff (9), rhaid i'r Gorfforaeth neu'r pwyllgor o'r Gorfforaeth benodi person (ac eithrio'r Pennaeth) i weithredu fel Clerc dros dro yn unol â pharagraff 6(3).

Cofnodion

14.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ym mhob un o gyfarfodydd y Gorfforaeth ac unrhyw bwyllgor o'r Gorfforaeth, rhaid trin cofnodion y cyfarfod diwethaf fel eitem agenda ac, os cytunir eu bod yn gywir, rhaid i'r cofnodion hynny gael eu llofnodi fel rhai cywir gan gadeirydd y cyfarfod.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i drin cofnodion y cyfarfod diwethaf fel eitem agenda cyfarfod arbennig a gynullir o dan baragraff 11(4) ond pan nad yw cofnodion y cyfarfod diwethaf yn cael eu trin fel un o eitemau agenda'r cyfarfod hwnnw, rhaid eu trin fel eitem agenda yn y cyfarfod nesaf nad yw'n cael ei gynnal o dan baragraff 11(4).

(3Rhaid cymryd cofnodion ar wahân o'r rhannau hynny o gyfarfodydd y mae'r Clerc, y Pennaeth neu aelodau staff neu aelodau myfyrwyr wedi ymneilltuo ohonynt yn unol ag is-baragraffau (5) i (9) o baragraff 13 ac nid oes gan y cyfryw bersonau hawl i weld y cofnod o'r rhan honno o'r cyfarfod nac unrhyw bapurau ynglŷn â'r rhan honno.

Mynediad i'r cyhoedd i gyfarfodydd y Gorfforaeth

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff 13, mae gan y canlynol hawl i fynychu cyfarfodydd y Gorfforaeth—

(a)aelod;

(b)y Clerc; ac

(c)hyd at ddau berson yn arsylwi ar ran Gweinidogion Cymru.

(2Rhaid i unrhyw gwestiwn ynghylch a ddylid caniatáu i unrhyw berson arall fynychu un o gyfarfodydd y Gorfforaeth gael ei benderfynu gan y Gorfforaeth.

Cyhoeddi'r cofnodion a phapurau

16.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i'r Gorfforaeth beri bod copi o'r dogfennau a ganlyn ar gael, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad i unrhyw berson sy'n dymuno eu harchwilio—

(a)yr agenda ar gyfer pob cyfarfod o'r Gorfforaeth ac unrhyw un neu ragor o'i phwyllgorau;

(b)cofnodion drafft pob cyfarfod o'r fath, os ydynt wedi'u cymeradwyo gan gadeirydd y cyfarfod;

(c)cofnodion llofnodedig pob cyfarfod o'r fath; ac

(ch)unrhyw adroddiad, unrhyw ddogfen neu bapur arall a ystyriwyd mewn unrhyw gyfarfod o'r fath.

(2Rhaid hepgor o unrhyw eitem y mae'n ofynnol ei rhoi ar gael, unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud â'r canlynol—

(a)person a enwir sy'n cael ei gyflogi neu y bwriedir ei gyflogi yn y sefydliad;

(b)myfyriwr a enwir yn y sefydliad neu ymgeisydd am gael ei dderbyn i'r sefydliad;

(c)y Clerc; ac

(ch)unrhyw fater y mae'r Gorfforaeth wedi'i bodloni, oherwydd natur y mater hwnnw, y dylid ymdrin ag ef yn gyfrinachol.

(3Rhaid i eitemau a hepgorir o dan is-baragraff (2)(ch) gael eu hadolygu'n rheolaidd gan y Gorfforaeth. Os yw eitem yn peidio â bod yn gyfrinachol rhaid i'r Gorfforaeth, beri bod copi o'r eitem honno ar gael, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad i unrhyw berson sy'n dymuno ei harchwilio.

Lwfansau i aelodau

17.  Caiff y Gorfforaeth dalu i'w haelodau unrhyw lwfansau teithio, lwfansau cynhaliaeth neu lwfansau eraill a benderfynir gan y Gorfforaeth, ond rhaid iddi beidio â thalu lwfansau sy'n talu'r aelodau am eu gwasanaethau fel aelodau.

Copïau o'r Offeryn Llywodraethu

18.  Rhaid i'r Gorfforaeth roi copi o'r Offeryn hwn i bob aelod a pheri bod copi ar gael i'w archwilio gan unrhyw berson ar gais yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad.

Newid enw

19.  Caiff y Gorfforaeth newid ei henw gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Gosod y sêl

20.  Dilysir gosod sêl y Gorfforaeth drwy:

(a)llofnod naill ai'r Cadeirydd neu ryw aelod arall a awdurdodwyd naill ai'n gyffredinol neu'n benodol gan y Gorfforaeth i weithredu at y diben hwnnw; a

(b)llofnod unrhyw aelod arall.

Rheoliad 3

ATODLEN 2ERTHYGLAU LLYWODRAETHU

  1. 1.Dehongli

  2. 2.Rhedeg y sefydliad

  3. 3.Cyfrifoldebau'r Gorfforaeth, y Pennaeth a'r Clerc

  4. 4.Y Bwrdd Academaidd

  5. 5.Pwyllgorau

  6. 6.Dirprwyo

  7. 7.Pwyllgor i benderfynu ar ddiswyddiadau deiliaid swyddi uwch

  8. 8.Y Pwyllgor Chwilio

  9. 9.Y Pwyllgor Archwilio

  10. 10.Penodi a dyrchafu staff

  11. 11.Ymddygiad staff

  12. 12.Rhyddid academaidd

  13. 13.Cwyno, atal dros dro a gweithdrefnau disgyblaethol

  14. 14.Atal dros dro a diswyddo'r Clerc

  15. 15.Myfyrwyr

  16. 16.Materion ariannol

  17. 17.Cydweithredu ag archwilydd Gweinidogion Cymru

  18. 18.Archwilio mewnol

  19. 19.Cyfrifon ac archwilio cyfrifon

  20. 20.Rheolau ac is-ddeddfau

  21. 21.Copïau o'r Erthyglau Llywodraethu, y rheolau a'r is-ddeddfau

Dehongli

1.  Yn yr Erthyglau Llywodraethu hyn—

  • ystyr “y Bwrdd Academaidd” (“the Academic Board”) yw corff a gyfansoddwyd yn unol ag erthygl 4;

  • “y dyddiad gweithredu” (“the operative date”) yw 20 Awst 2010, sef y dyddiad y mae'r Gorfforaeth i redeg y sefydliad o hynny ymlaen(9);

  • ystyr “yr Erthyglau hyn” (“these Articles”) yw'r Erthyglau Llywodraethu hyn;

  • ystyr “y staff” (“the staff”) yw pawb o'r staff sydd â chontract cyflogaeth gyda'r sefydliad, gan gynnwys staff academaidd;

  • ystyr “swydd uwch” (“senior post”) yw swydd y Pennaeth a'r fath swyddi eraill y caiff y Gorfforaeth benderfynu arnynt at ddibenion yr Erthyglau hyn;

  • ystyr “Undeb y Myfyrwyr” (“Students' Union”) yw unrhyw gymdeithas o fyfyrwyr yn gyffredinol a ffurfiwyd i hyrwyddo dibenion addysgol y sefydliad a lles y myfyrwyr fel myfyrwyr; ac

mae i eiriau ac ymadroddion a ddiffinnir yn yr Offeryn Llywodraethu yr un ystyron.

Rhedeg y sefydliad

2.  Rhaid rhedeg y sefydliad yn unol â darpariaethau'r Offeryn Llywodraethu, yr Erthyglau hyn, ac unrhyw reolau neu is-ddeddfau a wneir o dan yr Erthyglau hyn ac unrhyw weithred ymddiriedolaeth sy'n rheoleiddio'r sefydliad.

Cyfrifoldebau'r Gorfforaeth, y Pennaeth a'r Clerc

3.—(1Y Gorfforaeth sy'n gyfrifol am—

(a)penderfynu cymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad a goruchwylio ei weithgareddau;

(b)defnyddio adnoddau yn effeithiol ac yn effeithlon, solfedd y sefydliad a'r Gorfforaeth a diogelu eu hasedau;

(c)cymeradwyo amcangyfrifon blynyddol incwm a gwariant;

(ch)penodi, graddio, arfarnu, atal dros dro a phenderfynu cyflog ac amodau gwaith deiliaid swyddi uwch a'r Clerc (gan gynnwys, pan fo'r Clerc wedi'i benodi, neu i'w benodi, fel aelod o'r staff, penodiad y Clerc, ei radd, ei atal dros dro a dull penderfynu ei gyflog yn rhinwedd ei swyddogaeth fel aelod o'r staff);

(d)diswyddo deiliaid swyddi uwch a'r Clerc (gan gynnwys, pan fo'r Clerc wedi'i benodi, neu i'w benodi, fel aelod o'r staff, diswyddo'r Clerc yn rhinwedd ei swyddogaeth fel aelod o'r staff);

(dd)pennu fframwaith ar gyfer cyflog ac amodau gwaith yr holl staff eraill; ac

(e)os nad oes yna Fwrdd Academaidd, sicrhau bod trefniadau yn eu lle i gynghori'r Pennaeth ar—

(i)safonau gwaith academaidd y sefydliad a chynllunio, cyd-drefnu, datblygu a goruchwylio'r gwaith hwnnw;

(ii)trefniadau i dderbyn, asesu ac arholi myfyrwyr; a

(iii)y gweithdrefnau ar gyfer diarddel myfyrwyr am resymau academaidd.

(2Y Pennaeth sy'n gyfrifol am—

(a)cyflwyno cynigion i'r Gorfforaeth am gymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad, ac am roi penderfyniadau'r Gorfforaeth ar waith;

(b)trefnu, cyfarwyddo a rheoli'r sefydliad ac arwain y staff;

(c)penodi, pennu, graddio, arfarnu, atal dros dro staff ac eithrio deiliaid swyddi uwch neu'r Clerc a phenderfynu, o fewn y fframwaith a osodir gan y Gorfforaeth, eu cyflog a'u hamodau gwaith;

(ch)diswyddo staff ac eithrio deiliaid swyddi uwch neu'r Clerc;

(d)penderfynu, ar ôl ymgynghori â'r Bwrdd Academaidd (os oes un), neu os nad oes Bwrdd Academaidd, ar ôl ymgynghori â'r Gorfforaeth, ar weithgareddau academaidd y sefydliad, a phenderfynu ei weithgareddau eraill;

(dd)paratoi amcangyfrifon blynyddol incwm a gwariant, i gael eu hystyried a'u cymeradwyo gan y Gorfforaeth;

(e)rheoli'r gyllideb a'r adnoddau, o fewn yr amcangyfrifon a gymeradwyir gan y Gorfforaeth;

(f)cadw disgyblaeth ar y myfyrwyr, gan gynnwys atal myfyrwyr dros dro neu eu diarddel ar sail ddisgyblaethol; ac

(ff)diarddel myfyrwyr am resymau academaidd.

(3Mae'r Clerc yn gyfrifol am gynghori'r Gorfforaeth ynglŷn â—

(a)gweithredu ei phwerau;

(b)materion gweithdrefnol;

(c)rhedeg ei busnes; ac

(ch)materion arferion llywodraethu.

Y Bwrdd Academaidd

4.—(1Caiff y Gorfforaeth sefydlu Bwrdd Academaidd.

(2Mae paragraffau (3) i (10) yn gymwys os yw'r Gorfforaeth wedi sefydlu Bwrdd Academaidd.

(3Mae'n rhaid i'r Bwrdd Academaidd gynnwys—

(a)y Pennaeth, sy'n gorfod bod yn gadeirydd y Bwrdd Academaidd;

(b)aelodau eraill o staff neu fyfyrwyr, yn ddarostyngedig i'r terfynau a bennir gan y Gorfforaeth o dan baragraff (4).

(4Mae'n rhaid i'r Gorfforaeth benderfynu ar yr isafswm a'r uchafswm o staff a myfyrwyr y mae'n rhaid i'r Bwrdd Academaidd eu cynnwys.

(5Caiff y Pennaeth enwebu un aelod o'r Bwrdd Academaidd i fod yn gadeirydd y Bwrdd Academaidd pryd bynnag y bydd y Pennaeth yn methu mynychu cyfarfod o'r Bwrdd Academaidd.

(6Y Bwrdd Academaidd sy'n gyfrifol am sicrhau bod trefniadau yn eu lle i gynghori'r Pennaeth ar–

(a)safonau gwaith academaidd y sefydliad a chynllunio, cyd-drefnu, datblygu a goruchwylio'r gwaith hwnnw;

(b)trefniadau i dderbyn, asesu ac arholi myfyrwyr; ac

(c)gweithdrefnau ar gyfer diarddel myfyrwyr am fod safon eu gwaith yn anfoddhaol neu am resymau academaidd eraill.

(7Mae'n rhaid i'r Bwrdd Academaidd ymgynghori â chynrychiolwyr y myfyrwyr ac â'r Gorfforaeth, cyn cynghori'r Pennaeth yn unol â pharagraff (6)(c).

(8Caiff y Bwrdd Academaidd, gyda chymeradwyaeth ysgrifenedig y Pennaeth ymlaen llaw, sefydlu'r pwyllgorau y mae'n barnu eu bod yn angenrheidiol er mwyn ei alluogi i gyflawni ei gyfrifoldebau, fel y'u disgrifir ym mharagraff (6).

(9Caiff aelodau unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan baragraff (8) gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd Academaidd.

(10Mae'n rhaid i'r Bwrdd Academaidd gael cymeradwyaeth ysgrifenedig y Gorfforaeth ymlaen llaw ar gyfer—

(a)cyfnod penodiad aelodau'r Bwrdd Academaidd;

(b)y trefniadau ar gyfer dethol neu ethol aelodau o'r Bwrdd Academaidd; ac

(c)nifer aelodau unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan baragraff (8) ac ar ba delerau y maent yn dal swydd ac yn ei gadael.

Pwyllgorau

5.—(1Caiff y Gorfforaeth sefydlu pwyllgor o'r Gorfforaeth at unrhyw ddiben, ac eithrio i wneud y swyddogaethau a briodolir yn yr Erthyglau hyn i'r Pennaeth neu (os yw'r Gorfforaeth wedi sefydlu Bwrdd Academaidd) i'r Bwrdd Academaidd.

(2Mae'n rhaid i'r Gorfforaeth benderfynu ar nifer aelodau unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan yr erthygl hon ac ar ba delerau y maent yn dal swydd ac yn ei gadael.

(3Caiff unrhyw bwyllgor a sefydlir gan y Gorfforaeth o dan yr erthygl hon gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r Gorfforaeth.

(4Mae'n rhaid i'r Gorfforaeth beri bod datganiad ysgrifenedig ar gael i'w archwilio gan unrhyw berson yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad o'i pholisi ynglŷn â mynychu cyfarfodydd o bwyllgorau gan bersonau nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgorau hynny.

Dirprwyo

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y Gorfforaeth ddirprwyo pwerau—

(a)i unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan erthygl 5;

(b)i'r Cadeirydd neu, yn absenoldeb y Cadeirydd, i'r Is-gadeirydd; neu

(c)i'r Pennaeth.

(2Rhaid i'r Gorfforaeth beidio â dirprwyo'r canlynol—

(a)penderfynu ar gymeriad addysgol a chenhadaeth y sefydliad;

(b)cymeradwyo amcangyfrifon blynyddol incwm a gwariant;

(c)y cyfrifoldeb dros sicrhau solfedd y sefydliad a'r Gorfforaeth a diogelu eu hasedau;

(ch)penodi person i swydd uwch;

(d)penodi'r Clerc fel aelod o'r staff gan gynnwys, pan fo'r Clerc wedi'i benodi, neu i gael ei benodi yn aelod o'r staff, benodiad y Clerc yn swyddogaeth aelod o'r staff; neu

(dd)gwneud erthyglau llywodraethu newydd yn lle'r Erthyglau hyn neu addasu'r Erthyglau hyn o dan adran 22(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(10).

(3Caiff y Pennaeth, gyda chymeradwyaeth ysgrifenedig y Gorfforaeth ymlaen llaw, ddirprwyo unrhyw un neu ragor o swyddogaethau'r Pennaeth i aelodau eraill o staff, ac eithrio rheoli'r gyllideb.

(4Caiff y Bwrdd Academaidd ddirprwyo pwerau i unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan erthygl 4(8).

Pwyllgor i benderfynu ar ddiswyddiadau deiliaid swyddi uwch

7.—(1Caiff y Gorfforaeth sefydlu pwyllgor i benderfynu ar—

(a)yr achos dros ddiswyddo'r Clerc neu ddeiliad swydd uwch;

(b)apêl mewn cysylltiad â diswyddo'r Clerc neu ddeiliad swydd uwch.

(2Mae'n rhaid i'r Gorfforaeth wneud rheolau yn pennu sut y mae'n rhaid sefydlu a rhedeg pwyllgor sydd â swyddogaethau o dan baragraff (1).

(3Mae'n rhaid i'r rheolau a wneir o dan baragraff (2) gynnwys y gofyniad mai aelodau o'r Gorfforaeth yn unig fydd ar unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan yr erthygl hon.

Y Pwyllgor Chwilio

8.—(1Mae'n rhaid i'r Gorfforaeth sefydlu pwyllgor, o'r enw Pwyllgor Chwilio, i gynghori ar—

(a)penodi'r aelodau busnes, yr aelodau cymunedol a'r aelodau awdurdod lleol;

(b)cyfethol aelodau cyfetholedig y Gorfforaeth; ac

(c)materion eraill yn ymwneud ag aelodaeth a phenodiadau y bydd y Gorfforaeth yn gofyn i'r Pwyllgor Chwilio eu hystyried.

(2Caiff y Pwyllgor Chwilio gynnwys pobl nad ydynt yn aelodau o'r Gorfforaeth.

(3Rhaid i'r Gorfforaeth ystyried cyngor y Pwyllgor Chwilio cyn—

(a)penodi unrhyw berson yn aelod busnes, yn aelod cymunedol neu'n aelod awdurdod lleol; neu

(b)cyfethol unrhyw berson yn aelod.

(4Caiff y Gorfforaeth—

(a)penderfynu ar gylch gorchwyl y Pwyllgor Chwilio; a

(b)gwneud rheolau sy'n pennu'r gweithdrefnau ar gyfer rhedeg y Pwyllgor Chwilio.

(5Rhaid i'r Gorfforaeth beri bod copi o unrhyw gylch gorchwyl a rheolau o'r fath ar gael i'w archwilio gan unrhyw berson yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad.

Y Pwyllgor Archwilio

9.—(1Mae'n rhaid i'r Gorfforaeth sefydlu pwyllgor, o'r enw Pwyllgor Archwilio, i gynghori ar faterion sy'n ymwneud â threfniadau archwilio'r Gorfforaeth a'i systemau rheoli mewnol.

(2Rhaid bod yna o leiaf dri pherson ar y Pwyllgor Archwilio.

(3Caiff y Pwyllgor Archwilio gynnwys pobl nad ydynt yn aelodau.

(4Ni chaiff deiliaid swyddi uwch fod yn aelodau o'r Pwyllgor Archwilio.

(5Caiff y Pwyllgor Archwilio gynnwys aelodau o staff y Gorfforaeth ac eithrio'r rheini sydd mewn swyddi uwch.

(6Mae'n rhaid i'r Pwyllgor Archwilio weithredu'n unol ag unrhyw ofynion gan Weinidogion Cymru.

Penodi a dyrchafu staff

10.—(1Pan fydd swydd uwch yn wag neu y disgwylir iddi fod yn wag, mae'n rhaid i'r Gorfforaeth—

(a)hysbysebu'r swydd yn y fath gyhoeddiadau sy'n cylchredeg drwy'r Deyrnas Unedig ag a ystyrir yn briodol ganddi; a

(b)penodi panel dethol sy'n cynnwys—

(i)pan fo'r swydd wag yn un am swydd y Pennaeth, o leiaf bum aelod o'r Gorfforaeth gan gynnwys y Cadeirydd a/neu'r Is-gadeirydd; neu

(ii)pan fo'r swydd wag yn un am unrhyw swydd uwch arall, y Pennaeth, ac o leiaf dri aelod arall o'r Gorfforaeth.

(2Rhaid i aelodau'r panel dethol—

(a)penderfynu ar y trefniadau ar gyfer dewis ymgeiswyr i'w cyf-weld;

(b)cyf-weld yr ymgeiswyr hynny; ac

(c)pan fônt yn barnu ei bod yn briodol i wneud hynny, argymell un o'r ymgeiswyr y maent wedi'i gyf-weld i'r Gorfforaeth ei benodi.

(3Os yw'r Gorfforaeth yn cymeradwyo'r person a argymhellir, mae'n rhaid iddi benodi'r person hwnnw.

(4Os nad yw aelodau'r panel dethol yn gallu cytuno ar berson i'w argymell i'r Gorfforaeth, neu os nad yw'r Gorfforaeth yn cymeradwyo'u hargymhelliad, caiff y Gorfforaeth ei gwneud yn ofynnol i'r panel ail gymryd y camau a bennir ym mharagraff (2), gan ail hysbysebu, neu beidio ag ail hysbysebu, y swydd wag yn gyntaf.

(5Bernir mai gan y Gorfforaeth y cafodd y camau a osodir ym mharagraffau (1) i (4) eu dilyn, pan ddilynir y camau hynny gan unrhyw berson neu gorff cyn y dyddiad y sefydlir y Gorfforaeth(11).

(6Os digwydd i swydd uwch wag godi neu fod deiliad swydd uwch yn absennol dros dro ar ôl y dyddiad gweithredu, hyd nes y llenwir y swydd honno neu hyd nes y dychwel deiliad absennol y swydd uwch iddi—

(a)gall fod yn ofynnol i aelod o'r staff weithredu fel Pennaeth neu yn lle deiliad unrhyw swydd uwch arall; a

(b)bydd ganddo holl ddyletswyddau a chyfrifoldebau'r Pennaeth neu ddeiliad y swydd uwch arall honno tra bo'r swydd yn wag neu tra bo deiliad y swydd yn absennol dros dro.

Ymddygiad staff

11.  Ar ôl ymgynghori â'r staff, rhaid i'r Gorfforaeth wneud rheolau ynglŷn ag ymddygiad y staff.

Rhyddid academaidd

12.  Wrth wneud rheolau o dan erthygl 11, rhaid i'r Gorfforaeth roi sylw i'r angen am sicrhau bod gan staff academaidd y sefydliad ryddid o fewn y gyfraith i gwestiynu a phrofi doethineb cyffredin, ac i gyflwyno syniadau newydd a lleisio barn ddadleuol neu amhoblogaidd, heb eu rhoi eu hunain mewn perygl o golli eu swyddi neu unrhyw freintiau y gallant fod yn eu mwynhau yn y sefydliad.

Cwyno, atal dros dro a gweithdrefnau disgyblaethol

13.—(1Ar ôl ymgynghori â'r staff, rhaid i'r Gorfforaeth wneud rheolau sy'n gosod—

(a)gweithdrefnau cwyno ar gyfer yr holl staff;

(b)gweithdrefnau atal dros dro ar gyfer yr holl staff; ac

(c)gweithdrefnau disgyblu a diswyddo ar gyfer—

(i)deiliaid swyddi uwch, a

(ii)staff ac eithrio i ddeiliaid swyddi uwch.

(2Mae'n rhaid i'r rheolau a wneir gan y Gorfforaeth o dan baragraff (1) gydymffurfio â darpariaethau erthygl 7.

Atal dros dro a diswyddo'r Clerc

14.—(1Pan fo'r Clerc hefyd yn aelod o staff y sefydliad, caiff y Clerc ei drin fel deiliad swydd uwch at ddibenion erthygl 13.

(2Pan fo'r Clerc yn cael ei atal dros dro neu ei ddiswyddo fel aelod o'r staff yn unol â rheolau a wneir o dan erthygl 13, nid yw'r ataliad dros dro neu'r diswyddiad hwnnw yn effeithio ar safle'r Clerc fel Clerc y Gorfforaeth, sy'n rôl ar wahân.

Myfyrwyr

15.—(1Rhaid i unrhyw Undeb Myfyrwyr—

(a)rhedeg a rheoli ei fusnes a'i gronfeydd ei hun yn unol â chyfansoddiad a gymeradwyir gan y Gorfforaeth;

(b)sicrhau cymeradwyaeth ysgrifenedig y Gorfforaeth ymlaen llaw i unrhyw ddiwygio neu ddad-wneud ar y cyfansoddiad hwnnw; ac

(c)cyflwyno cyfrifon wedi'u harchwilio i'r Gorfforaeth yn flynyddol.

(2Rhaid i'r Gorfforaeth, ar ôl ymgynghori â'r Bwrdd Academaidd (os oes un) a chynrychiolwyr y myfyrwyr, wneud rheolau ynghylch ymddygiad y myfyrwyr, gan gynnwys gweithdrefnau ar gyfer atal dros dro a diarddel ar sail ddisgyblaethol.

(3Os nad oes yna Fwrdd Academaidd, rhaid i'r Gorfforaeth, ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr y myfyrwyr, gynghori'r Pennaeth ar y gweithdrefnau ar gyfer diarddel myfyriwr am fod safon ei waith yn anfoddhaol neu am reswm academaidd arall.

Materion ariannol

16.  Rhaid i'r Gorfforaeth bennu'r polisi a ddefnyddir i benderfynu'r ffioedd hyfforddi a'r ffioedd eraill sy'n daladwy i'r Gorfforaeth (yn ddarostyngedig i unrhyw delerau ac amodau a osodir ar grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill a wneir gan Weinidogion Cymru).

Cydweithredu ag archwilydd Gweinidogion Cymru

17.  Rhaid i'r Gorfforaeth gydweithredu ag unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i archwilio unrhyw ddatganiadau niferoedd myfyrwyr neu hawliadau am gymorth ariannol, gan gynnwys caniatáu i unrhyw berson o'r fath weld unrhyw ddogfennau neu gofnodion a ddelir gan y Gorfforaeth gan gynnwys cofnodion a gedwir ar gyfrifiaduron.

Archwilio mewnol

18.—(1Mae'n rhaid i'r Gorfforaeth, ar yr adegau y mae'n barnu eu bod yn briodol, archwilio a gwerthuso ei systemau rheolaeth ariannol fewnol (neu, yn ddarostyngedig i baragraff (2), drefnu iddynt gael eu harchwilio a'u gwerthuso ar ei rhan) er mwyn sicrhau eu bod yn cyfrannu at ddefnydd priodol, economaidd, effeithlon ac effeithiol ar adnoddau'r Gorfforaeth.

(2Rhaid i'r Gorfforaeth beidio â phenodi unrhyw bersonau (“archwilwyr mewnol”) i gyflawni'r gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ar ei rhan os penodir y personau hynny yn archwilwyr allanol o dan erthygl 19(3).

Cyfrifon ac archwilio cyfrifon

19.—(1Rhaid i'r Gorfforaeth—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â'r cyfrifon; a

(b)paratoi datganiad o gyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol y Gorfforaeth.

(2Rhaid i'r datganiad—

(a)rhoi hanes gwir a theg o gyflwr busnes y Gorfforaeth ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ac o incwm a gwariant y Gorfforaeth, ac o fewnlifau ac all-lifau ei harian, yn y flwyddyn ariannol; a

(b)cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru ynglŷn â'r wybodaeth sydd i'w chynnwys ynddo, y modd y mae'r wybodaeth i gael ei chyflwyno, y dulliau a'r egwyddorion i'w dilyn ar gyfer ei lunio ac amser a modd ei gyhoeddi.

(3Rhaid i'r cyfrifon (gan gynnwys unrhyw ddatganiad a lunnir o dan yr erthygl hon) gael eu harchwilio gan bersonau (“archwilwyr allanol”) a benodir gan y Gorfforaeth ar gyfer pob blwyddyn ariannol.

(4Rhaid i'r archwilwyr allanol hyn gael eu penodi a rhaid i waith archwilio arall gael ei gyflawni, yn unol ag unrhyw ofynion a bennir gan Weinidogion Cymru.

(5Rhaid i'r Gorfforaeth beidio â phenodi personau'n archwilwyr allanol o dan baragraff (3) ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol os yw'r personau hynny wedi'u penodi hefyd yn archwilwyr mewnol o dan erthygl 18.

(6ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw'r flwyddyn ariannol gyntaf, a phob cyfnod dilynol o 12 mis (ac eithrio fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (8)).

(7ystyr “y flwyddyn ariannol gyntaf” (“the first financial year ”) yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y sefydlwyd y Gorfforaeth ac sy'n dod i ben naill ai ar yr ail 31 Gorffennaf ar ôl y dyddiad hwnnw neu sy'n dod i ben ar ryw ddyddiad arall a benderfynir gan y Gorfforaeth gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

(8Os diddymir y Gorfforaeth—

(a)mae'r flwyddyn ariannol olaf yn dod i ben ar ddyddiad diddymu'r Gorfforaeth; a

(b)caiff y Gorfforaeth, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru, benderfynu bod yr hyn a fyddai wedi bod fel arall y ddwy flynedd ariannol olaf i'w drin fel blwyddyn ariannol unigol at ddiben yr erthygl hon.

Rheolau ac is-ddeddfau

20.  Caiff y Gorfforaeth wneud rheolau ac is-ddeddfau ynghylch unrhyw faterion ynglŷn â llywodraethu a rhedeg y sefydliad. Bydd y rheolau a'r is-ddeddfau hynny yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Offeryn Llywodraethu ac i'r Erthyglau hyn.

Copïau o'r Erthyglau Llywodraethu, y rheolau a'r is-ddeddfau

21.  Rhaid i'r Gorfforaeth roi copi o'r Erthyglau hyn, ac o unrhyw reolau ac is-ddeddfau, i bob aelod a pheri eu bod ar gael i unrhyw berson eu harchwilio ar gais, yn ystod oriau swyddfa arferol yn y sefydliad.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r Offeryn Llywodraethu a'r Erthyglau Llywodraethu ar gyfer Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe. Mae'r Offeryn Llywodraethu a'r Erthyglau Llywodraethu yn darparu ar gyfer cyfansoddiad ac ar gyfer rhedeg Corfforaeth Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe.

(1)

1992 p.13; diwygiwyd adran 21(1) gan adran 140 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion a pharagraff 35 o Atodlen 30 iddi ac Atodlen 31 iddi (p. 31). Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 4 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 a pharagraffau 1 a 44(1) a (2) o Atodlen 9 iddi (p.21). Diwygwyd paragraff 1A o Atodlen 4 gan erthygl 9(1) o Orchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238) (Cy. 243) a pharagraffau 13 a 28 o Atodlen 1 iddo. Diwygiwyd paragraff 5 o Atodlen 4 gan adran 149 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 a pharagraffau 1 a 44 o Atodlen 9 iddi. Gweler adran 61(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 am ystyr “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 20(2) a 21(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 ac Atodlen 4 iddi (i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedyn i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(a) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

2000 p.21; diwygiwyd adran 39 gan erthygl 9(1) o Orchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005 (O.S. 2005/3238) (Cy.243) a pharagraffau 48 a 59 o Atodlen 1 iddo; a chan adran 47 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (Rhif 1) a pharagraffau 1-3 o'r Atodlen iddo ond ar yr adeg y gwnaed y Rheoliadau hyn nid oedd y darpariaethau hynny eto wedi'u cychwyn.

(5)

1992 p.13; diwygiwyd adran 28 gan adrannau 112, 143(1) a 153 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 ac Atodlen 11 iddi (p. 21), adran 140(1) a pharagraff 38 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) ac adran 582(1) a pharagraff 109 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

(6)

Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y darpariaethau deddfwriaethol sy'n ymwneud â dyfarnu person yn fethdalwr yw adran 264 o Ddeddf Ansolfedd 1986 (p.45) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Menter 2002 (p.40).

(7)

Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y darpariaethau deddfwriaethol sy'n esbonio ystyr gorchmynion interim cyfyngu methdaliad ac ymrwymiad cyfyngu methdaliad yw adran 281A ac Atodlen 4A i Ddeddf Ansolfedd 1986.

(8)

Byddai hyn, ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, o ganlyniad i gais o dan adran 375 o Ddeddf Ansolfedd 1986. Diwygiwyd adran 375 gan adran 106 o Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999 ac Atodlen 15 iddi (p.22).

(9)

A benodwyd gan Orchymyn Coleg Gŵyr Abertawe (Corffori) 2010 (O.S. 2010/1368 (Cy.118)).

(10)

1992 p.13.

(11)

Y dyddiad sefydlu yw 20 Mai 2010. Gweler erthygl 2 o Orchymyn Coleg Gŵyr Abertawe (Corffori) 2010 (O.S. 2010/1368 (Cy.118)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources