xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1395 (Cy.124)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

TRWYDDEDAU A THRWYDDEDU, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plismona a Throsedd 2009 (Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2010

Gwnaed

4 Mai 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 27(11) a pharagraffau 3 a 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Plismona a Throsedd 2009(1) yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chymhwyso

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plismona a Throsedd 2009 (Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) (Cymru) 2010 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

(2Mae'r cyfeiriadau yn erthyglau 6(1), 7(1) ac 8(1) at gais i gael trwydded o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 o ran lleoliad adloniant rhywiol yn cynnwys cyfeiriadau at gais i amrywio neu adnewyddu trwydded o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 am siop ryw neu sinema ryw er mwyn galluogi defnyddio'r fangre o dan sylw fel lleoliad adloniant rhywiol.

(3Nid yw'r cyfeiriadau yn erthyglau 6 i 8 at benderfynu cais yn cynnwys cyfeiriadau at benderfynu unrhyw apêl yn erbyn gwrthod caniatáu cais o'r fath.

Darpariaethau trosiannol ac arbed

3.  Mae erthyglau 4 i 11 yn gymwys os bydd Atodlen 3 i Ddeddf 1982, fel y'i diwygiwyd gan adran 27 o Ddeddf 2009, yn dod i rym yn ardal awdurdod lleol o ganlyniad i benderfyniad gan yr awdurdod o dan adran 2 o Ddeddf 1982 neu baragraff 2(2) o Atodlen 3 i Ddeddf 2009.

4.  Nid yw paragraffau 28 a 29 o Atodlen 3 i Ddeddf 1982 (darpariaeth drosiannol bresennol) yn gymwys o ran lleoliadau adloniant rhywiol.

5.—(1Mae'n gyfreithlon i unrhyw berson y mae ganddo yn union cyn y diwrnod penodedig cyntaf drwydded Deddf 2003 o ran unrhyw fangre ac sy'n defnyddio'r fangre fel lleoliad adloniant rhywiol o dan drwydded Deddf 2003, neu sy'n gwneud gwaith paratoi i ddefnyddio'r fangre fel lleoliad o'r fath o dan y drwydded honno, ddefnyddio'r fangre fel lleoliad adloniant rhywiol o dan drwydded Deddf 2003 tan y trydydd diwrnod penodedig, neu benderfynu cais y mae erthygl 6 neu 7 yn gymwys iddo ac sy'n cael ei wneud gan y person hwnnw (gan gynnwys penderfynu unrhyw apêl yn erbyn gwrthod caniatáu'r cais), p'un bynnag yw'r diweddaraf.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “trwydded Deddf 2003”, o ran unrhyw fangre, yw trwydded i fangre neu dystysgrif mangre clwb y mae'n gyfreithlon darparu odani adloniant perthnasol yn y fangre honno.

(3Mae paragraff (1) yn gymwys er gwaethaf Atodlen 3 i Ddeddf 1982 (ac o'r herwydd nid yw unrhyw ddefnydd a awdurdodir gan y paragraff hwnnw yn groes i baragraff 6 o'r Atodlen honno) ond fel arall nid yw'n rhagfarnu unrhyw ddeddfiad arall.

6.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i gais a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 ar neu ar ôl y diwrnod penodedig cyntaf ond ar neu cyn yr ail ddiwrnod penodedig, am gael trwydded o dan yr Atodlen honno o ran lleoliad adloniant rhywiol.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol o dan sylw beidio â phenderfynu unrhyw gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo hyd nes ei fod wedi ystyried pob cais o'r fath.

(3Pan fo'r awdurdod lleol yn caniatáu cais o'r fath cyn y trydydd diwrnod penodedig o ran mangre y mae erthygl 5(1) yn gymwys iddi, nid yw'r drwydded yn effeithiol tan y trydydd diwrnod penodedig.

(4Nid yw paragraff (3) yn rhwystro unrhyw drwydded arall a roddir drwy gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddi rhag cael effaith ar unwaith.

7.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i gais a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 ar ôl yr ail ddiwrnod penodedig ond cyn y trydydd diwrnod penodedig, i gael trwydded o dan yr Atodlen honno o ran lleoliad adloniant rhywiol.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol o dan sylw beidio â phenderfynu unrhyw gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo hyd nes ei fod wedi penderfynu pob cais y mae erthygl 6 yn gymwys iddynt.

(3Pan fo'r awdurdod lleol yn caniatáu cais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo cyn y trydydd diwrnod penodedig o ran mangre y mae erthygl 5(1) yn gymwys iddi, nid yw'r drwydded yn effeithiol tan y trydydd diwrnod penodedig.

(4Nid yw paragraff (3) yn rhwystro unrhyw drwydded arall a roddir drwy gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddi rhag cael effaith ar unwaith.

8.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys i gais a wnaed o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 ar neu ar ôl y trydydd diwrnod penodedig, i gael trwydded o dan yr Atodlen honno o ran lleoliad adloniant rhywiol.

(2Rhaid i'r awdurdod lleol o dan sylw beidio â phenderfynu unrhyw gais y mae'r erthygl hon yn gymwys iddo hyd nes ei fod wedi penderfynu pob cais y mae erthygl 7 yn gymwys iddynt.

9.—(1Nid yw'r diwygiad a wneir i Atodlen 3 i Ddeddf 1982 gan adran 27(5) o Ddeddf 2009 (seiliau dros wrthod trwyddedau) yn gymwys i unrhyw gais a wnaed o dan yr Atodlen honno cyn y diwrnod penodedig cyntaf am gael neu adnewyddu trwydded ar gyfer siop ryw neu sinema ryw.

(2Nid yw'r diwygiad a wneir i Atodlen 3 i Ddeddf 1982 gan adran 27(7) o Ddeddf 2009 (ffioedd) yn gymwys i unrhyw gais a wnaed o dan yr Atodlen honno cyn y diwrnod penodedig cyntaf am gael amrywio trwydded ar gyfer siop ryw neu sinema ryw.

(3Nid yw'r diwygiad a wneir i Atodlen 3 i Ddeddf 1982 gan adran 27(8) o Ddeddf 2009 (pwerau cwnstabliaid a swyddogion awdurdod lleol) yn gymwys pan fo cwnstabl neu swyddog awdurdodedig awdurdod lleol yn gweithredu o ran siop ryw neu sinema ryw o dan awdurdod gwarant a roddwyd o dan yr Atodlen honno cyn y diwrnod penodedig cyntaf.

(4Nid yw'r diwygiad a wneir i Atodlen 3 i Ddeddf 1982 gan adran 27(9) o Ddeddf 2009 (apelau) yn gymwys i unrhyw gais a wnaed o dan yr Atodlen honno cyn y diwrnod penodedig cyntaf am adnewyddu trwydded ar gyfer siop ryw neu sinema ryw.

10.  Nid yw'r diwygiad a wneir gan baragraff 23 o Atodlen 7 i Ddeddf 2009 yn gymwys o ran mangre y mae erthygl 5(1) yn gymwys iddi hyd nes bod yr awdurdod a roddwyd gan yr erthygl honno i ddefnyddio'r fangre honno'n dod i ben.

11.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys os bydd person, pan geir cais y mae erthygl 6 neu 7 yn gymwys iddo o ran mangre y mae erthygl 5(1) yn gymwys iddi, yn cael trwydded o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 i ddefnyddio'r fangre yn lleoliad adloniant rhywiol.

(2Mae unrhyw amodau yn y drwydded i fangre neu dystysgrif mangre clwb o dan sylw—

(a)sy'n ymwneud yn ddatganedig ac yn unig â rheoleiddio adloniant perthnasol yn y fangre, neu

(b)sy'n anghyson â'r amod yn y drwydded a roddwyd o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 ac yn llai beichus nag ef,

i'w trin fel pe baent wedi'u dileu o'r drwydded i fangre neu'r dystysgrif mangre clwb o dan sylw o'r diwrnod y mae'r drwydded a roddwyd o dan Atodlen 3 i Ddeddf 1982 yn effeithiol.

Carl Sargeant

Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

4 Mai 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau trosiannol ac arbed o ran darpariaethau Deddf Plismona a Throsedd 2009 ynglŷn â lleoliadau adloniant rhywiol. Yn fras, bydd clybiau dawnsio glin presennol sydd â thrwydded i'r fangre neu dystysgrif i fangre'r clwb o dan Ddeddf Trwyddedu 2003, y mae'n gyfreithlon i ddarparu adloniant o'r fath odani, yn parhau i allu gweithredu am flwyddyn ar ôl i awdurdodau lleol fabwysiadu darpariaethau 2009 neu, os bydd ar ôl hynny, tan benderfynu unrhyw gais a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn honno.

(3)

1982 p.30. Diwygiwyd Atodlen 3 i'r Ddeddf honno gan adran 52 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006 (p.48) a pharagraff 7 o Atodlen 14 iddi, adran 198 o Ddeddf Trwyddedu 2003 a pharagraffau 82 ac 85 o Atodlen 5 iddi, adran 24 o Ddeddf Sinemâu 1985 (p.13) a pharagraff 16 o Atodlen 2 iddi, adran 26(1) o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (p. 60), adrannau 111 a 174 o Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a'r Heddlu 2005 (p. 15) a pharagraff 22 o Atodlen 7 iddi, O.S. 1984/447, O.S. 2005/886, O.S. 2009/2999, ac o ran bwrdeistrefi penodol yn Llundain, gan adran 12 o Ddeddf Cyngor Llundain Fwyaf (Pwerau Cyffredinol) 1986 (p. iv), adran 33 o Ddeddf Awdurdodau Lleol Llundain 2007 (p. ii) ac O.S. 2005/1541. Caiff ei diwygio hefyd gan adran 27 o Ddeddf Plismona a Throsedd 2009 (p. 26) o 6 Ebrill 2010 ymlaen o ran Lloegr ac o 8 Mai 2010 ymlaen o ran Cymru.