xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 147 (Cy.22)

DŴR, CYMRU

Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

26 Ionwar 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

28 Ionawr 2010

Yn dod i rym

19 Chwefror 2010

Dynodir Gweinidogion Cymru(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(2) mewn perthynas ag ansawdd dŵr a fwriedir at ddibenion domestig neu ar gyfer ei ddefnyddio mewn menter cynhyrchu bwyd.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol o dan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 ac adrannau 67, 77(3) a (4) a 213(2) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(4).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) (Diwygio) 2010; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 19 Chwefror 2010.

Diwygiad o'r Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010

2.—(1Diwygir Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010(5) fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 4, paragraff 1(1) yn lle “[ ]” rhodder “31 Gorffennaf 2010”.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

26 Ionawr 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 98/83/EC ar ansawdd dŵr a fwriedir i'w yfed gan bobl (O.J. Rhif L330, 5.12.1998, t.32) mewn perthynas â chyflenwadau dŵr preifat. Diffinnir “cyflenwad preifat” yn adran 93(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 fel cyflenwad a ddarperir rywfodd ac eithrio gan ymgymerwr dŵr neu gyflenwr dŵr trwyddedig.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010 (O.S. 2010/66 (Cy.16)) wrth osod yn Atodlen 4 y dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i'r awdurdodau lleol baratoi cofnodion dechreuol yn unol â rheoliad 13.

Paratowyd asesiad effaith llawn ar gyfer Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2010, a gellir cael copi ohono gan yr Is-adran Newid yn yr Hinsawdd a Dŵr, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

O.S. 2004/3328, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/850, O.S. 2007/1349 ac O.S. 2008/301. Mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy gyfrwng y Gorchymyn hwnnw bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 i'r Ddeddf honno.

(3)

O.J. Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(4)

1991 p.56. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 67 i Gynulliad Cenedlathol Cymru (“y Cynulliad”) – (a) ar gyfer gwneud rheoliadau ynghylch dŵr a gyflenwir drwy ddefnyddio system gyflenwi ymgymerwr dŵr, mewn perthynas â system gyflenwi unrhyw ymgymerwr dŵr sydd â'i ardal yn gyfan gwbl neu'n bennaf yng Nghymru a (b) ar gyfer gwneud rheoliadau ynghylch dŵr a gyflenwir ac eithrio drwy ddefnyddio system gyflenwi ymgymerwr dŵr mewn perthynas â Chymru, gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S 1999/672) (“y Gorchymyn”) ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw; trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 77 o'r Ddeddf honno i'r Cynulliad o ran Cymru, gan yr un darpariaethau o'r Gorchymyn; gwnaed swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 213 o'r Ddeddf honno yn arferadwy gan y Cynulliad i'r un graddau ag y gwnaed y pwerau y mae'r adran honno'n gymwys iddynt yn arferadwy gan y Cynulliad, yn rhinwedd yr un darpariaethau o'r Gorchymyn; gweler y cofnod ar gyfer Deddf y Diwydiant Dŵr 1991 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn fel y'i hamnewidiwyd gan baragraff (e) o Atodlen 3 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) ac y'i diwygiwyd gan adran 100(2) o Ddeddf Dŵr 2003 (p.37); y mae offerynnau diwygio eraill, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol. Diwygiwyd adran 213 o'r Ddeddf honno gan adrannau 58 a 101(1) o Ddeddf Dŵr 2003 a pharagraff 39 o Atodlen 7 iddi a pharagraffau 2, 19 a 49 o Atodlen 8 iddi. Mae adran 100(6) o Ddeddf Dŵr 2003 yn trin y cyfeiriadau at adrannau penodol o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn fel pe baent yn gyfeiriadau at yr adrannau hynny fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Dŵr 2003. Am ddiffiniad o “system gyflenwi” gweler y diffiniad o “supply system” yn adran 219(4A) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, fel y'i mewnosodwyd gan adran 101(1) o Ddeddf Dŵr 2003 a pharagraffau 2 a 50 o Atodlen 8 iddi. Am ddiffiniad o “cyflenwr dŵr trwyddedig” gweler y diffiniad o “licensed water supplier” yn adran 219(1) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991 fel y'i diwygiwyd gan adran 101(1) o Ddeddf Dŵr 2003. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i'r Cynulliad bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.