- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Gwnaed
25 Mai 2010
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Mai 2010
Yn dod i rym
18 Mehefin 2010
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) ac mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus i'r cyfeiriadau at ddarpariaethau Erthygl 114(2) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007, ac Atodiad XIII i'r Rheoliad hwnnw, sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (Rheoliad CMO Sengl)(2) gael eu dehongli fel cyfeiriadau at y darpariaethau hynny fel y'u diwygir o dro i dro.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod y cyfnod yr oedd y Rheoliadau a ganlyn yn cael eu paratoi a'u gwerthuso.
Yn unol ag adran 48(4A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(4), mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010. Maent yn dod i rym ar 18 Mehefin 2010 ac yn gymwys o ran Cymru.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “yr Atodiad” (“the Annex”) yw Atodiad XIII i Reoliad y Cyngor;
ystyr “awdurdod bwyd” (“food authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
ystyr “Erthygl 114(2)” (“Article 114(2)”) yw Erthygl 114(2) o Reoliad y Cyngor;
mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys meddu ar rywbeth i'w werthu, a chynnig rhywbeth, ei roi ar ddangos neu ei hysbysebu i'w werthu;
mae i “llaeth” yr ystyr a roddir i “milk” ym mhwynt I(a) o'r Atodiad;
mae i “llaeth yfed” yr ystyr a roddir i “drinking milk” ym mhwynt I(b) o'r Atodiad; ac
ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (Rheoliad CMO Sengl).
(2) Mae i ymadroddion eraill, sy'n cael eu defnyddio yn y Rheoliadau hyn ond sydd heb eu diffinio ynddynt, ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor, yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r ymadroddion Saesneg hynny yn Rheoliad y Cyngor.
(3) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Erthygl 114(2) a'r Atodiad yn gyfeiriadau at Erthygl 114(2) a'r Atodiad fel y'u diwygir o dro i dro.
3. Ni chaiff neb—
(a)gwerthu neu ddanfon llaeth; na
(b)defnyddio neu esgeuluso defnyddio disgrifiad gwerthu ar gyfer unrhyw gynnyrch,
yn groes i Erthygl 114(2) neu bwynt II(1) a (2) o'r Atodiad fel y'u darllenir ynghyd â phwynt III o'r Atodiad.
4. Ni chaiff neb fewnforio i Gymru o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd unrhyw gynnyrch i'w werthu fel llaeth yfed yn groes i bwynt IV o'r Atodiad.
5.—(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi darpariaethau'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
(2) Rhaid i bob awdurdod bwyd roi i unrhyw awdurdod bwyd arall ym Mhrydain Fawr unrhyw gymorth a gwybodaeth y mae angen rhesymol eu cael ar yr awdurdod bwyd arall hwnnw er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Rheoliadau hyn neu ddarpariaeth gyfatebol.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “darpariaeth gyfatebol” (“equivalent provision”) yw darpariaeth mewn Rheoliadau a wnaed yn Lloegr neu'r Alban er mwyn gweithredu Erthygl 114(2) neu'r Atodiad.
6. Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â rheoliad 3 neu 4—
(a)yn euog o dramgwydd; a
(b)yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.
7.—(1) Mae darpariaethau Deddf 1990 a nodwyd ym mharagraff (3) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid i unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at Ddeddf 1990 neu at Ran o Ddeddf 1990 gael ei ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn.
(3) Dyma'r darpariaethau—
(a)adran 2 (ystyr estynedig “sale” etc.)(8);
(b)adran 3 (rhagdybiaethau bod bwyd wedi ei fwriadu i bobl ei fwyta);
(c)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);
(ch)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(9);
(d)is-adran (8) o adran 30 (dadansoddi etc. samplau);
(dd)adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);
(e)is-adrannau (1) i (3) o adran 35 (cosbi tramgwyddau) i'r graddau y mae'r is-adrannau'n ymwneud â thramgwyddau o dan is-adrannau (1) a (2) o adran 33(10);
(f)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); ac
(ff)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
8. Mae Rheoliadau Llaeth Yfed 1998(11) wedi eu dirymu o ran Cymru.
9.—(1) Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996(12) wedi ei ddiwygio'n unol â pharagraffau (2) i (4).
(2) Ar ôl y diffiniad o “confectionery product”, mewnosoder—
““Council Regulation 1234/2007” means Council Regulation (EC) No 1234/2007 establishing a common organisation of agricultural markets and on specific provisions for certain agricultural products (Single CMO Regulation);”.
(3) Yn y diffiniad o “raw milk”, yn lle'r geiriau “Article 3(1) of Council Regulation (EC) No 2597/97 laying down additional rules on the common organisation of the market in milk and milk products for drinking milk”, rhodder “point III(1) of Annex XIII to Council Regulation 1234/2007”.
(4) Yn y diffiniadau o “semi-skimmed milk”, “skimmed milk” a “whole milk”, yn lle'r geiriau “Article 3(1) of Council Regulation (EC) No 2597/97”, rhodder “point III(1) of Annex XIII to Council Regulation 1234/2007”.
Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
25 Mai 2010
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 18 Mehefin 2010, yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi Erthygl 114(2) o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007, ac Atodiad XIII (“yr Atodiad”) i'r Rheoliad hwnnw sy'n sefydlu cyd-drefniadaeth o farchnadoedd amaethyddol ac sy'n ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig (Rheoliad CMO Sengl) (OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t 1). Mae Rheoliadau Llaeth Yfed 1998 (O.S. 1998/2424) wedi eu dirymu gan reoliad 8.
Mae gwerthu neu ddanfon llaeth a defnyddio neu beidio â defnyddio disgrifiad gwerthu ar gyfer unrhyw gynnyrch yn groes i'r Atodiad wedi eu gwahardd. (Rheoliad 3)
Mae mewnforio unrhyw gynnyrch o'r tu allan i'r Gymuned yn groes i bwynt IV o'r Atodiad wedi ei wahardd. (Rheoliad 4)
Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi ac mae rheoliad 6 yn cynnwys darpariaeth am dramgwyddau a chosbau.
Mae darpariaethau penodedig yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 wedi eu hymgorffori yn y Rheoliadau. (Rheoliad 7)
Mae rheoliad 9 yn cynnwys diwygiadau i Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (O.S. 1996/1499).
Nid oes asesiad effaith wedi ei lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir unrhyw effaith ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.
OJ Rhif L 299, 16.11.2007, t. 1 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
OJ Rhif L 31, 1.2.2002, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 596/2009 OJ Rhif L188, 18.7.2009 t.14.
1990 p.16. Mewnosodwyd adran 48(4A) gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (p. 28) (“Deddf 1999”), ac Atodlen 5, paragraff 21, iddi.
Mewnosodwyd paragraff 1A gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51).
Diwygiwyd adran 6(4) gan adran 31 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994, p. 40, ac Atodlen 9, paragraff 6 iddi ac adran 40(1) o Ddeddf 1999 ac Atodlen 5, paragraff 10(1) a (3) iddi; diwygiwyd adran 16(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 ac Atodlen 5, paragraffau 7 ac 8 iddi; diwygiwyd adran 17(2) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 ac Atodlen 5, paragraffau 7, 8 a 12 iddi; diwygiwyd adran 48(1) gan adran 40(1) o Ddeddf 1999 ac Atodlen 5, paragraffau 7 ac 8 iddi.
O ran Cymru, cafodd y swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672 fel y'i darllenir ynghyd ag adran 40(3) o Ddeddf 1999, a'u trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru gan adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, p. 32.
Mae adran 2 wedi ei diwygio gan adran 40(1) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999, ac Atodlen 5, paragraffau 7 ac 8 iddi (p. 28).
Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.
Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: