Enwi, cymhwyso a chychwyn1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) (Cymru) 2010.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru, a deuant i rym ar 18 Mehefin 2010.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae “adeiladu” (“construct”) yn cynnwys gosod;

  • ystyr “Asiantaeth yr Amgylchedd” (“Environment Agency”) yw'r asiantaeth a sefydlwyd o dan Bennod I o Ddeddf yr Amgylchedd 19952;

  • ystyr “da byw” (“livestock”) yw—

    1. a

      anifeiliaid sy'n cael eu cadw ar gyfer cynhyrchu bwyd neu wlân, neu

    2. b

      adar sy'n cael eu cadw ar gyfer cynhyrchu bwyd;

  • ystyr “elifiant silwair” (“silage effluent”) yw elifiant o silwair;

  • ystyr “olew tanwydd” (“fuel oil”) yw olew a fwriedir i'w ddefnyddio fel tanwydd i gynhyrchu gwres neu bŵer ond nid yw'n cynnwys olew a fwriedir i'w ddefnyddio yn unig fel tanwydd i gynhesu tŷ fferm neu fangreoedd preswyl eraill ar fferm ac sy'n cael ei storio ar wahân i olew arall;

  • ystyr “pydew derbyn” (“reception pit”) yw pydew a ddefnyddir i gasglu slyri cyn ei drosglwyddo i danc storio slyri neu i gasglu slyri sy'n cael ei ollwng o danc o'r fath;

  • ystyr “seilo” (“silo”) yw adeiladwaith a ddefnyddir i wneud neu i storio silwair;

  • mae “silwair” (“silage”) yn cynnwys cnwd sy'n cael ei wneud yn silwair;

  • ystyr “slyri” (“slurry”) yw mater hylifol neu led hylifol a'i gynnwys yw—

    1. a

      tail a gynhyrchir gan dda byw tra maent ar fuarth neu mewn adeilad (gan gynnwys da sy'n cael eu cadw mewn corlannau sglodion coed); neu

    2. b

      cymysgedd sy'n cynnwys yn gyfan gwbl neu'n bennaf dail da byw, gwasarn da byw, dŵr glaw a golchion o adeilad neu fuarth a ddefnyddir gan dda byw,

    ac o ddwyster sy'n caniatáu iddo gael ei bwmpio neu ei ollwng drwy ddisgyrchiant ar unrhyw gymal yn y broses o'i drin;

  • mae “tanc storio slyri” (“slurry storage tank”) yn cynnwys lagŵn, pydew (ac eithrio pydew derbyn) neu dŵr sy'n cael ei ddefnyddio i storio slyri.

2

Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at system storio slyri yn cynnwys tanc storio slyri ac—

a

unrhyw bydew derbyn ac unrhyw danc elifiant sy'n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r tanc; a

b

unrhyw sianelau a phibellau sy'n cael eu defnyddio mewn cysylltiad â'r tanc, ag unrhyw bydew derbyn neu unrhyw danc elifiant.

3

Bodlonir gofyniad yn y Rheoliadau hyn i seilo neu danc storio slyri gydymffurfio â Safon Brydeinig (yn gyfan gwbl neu'n rhannol) os yw'r seilo neu'r tanc yn cydymffurfio â safon neu â manyleb sy'n darparu lefel gyfatebol o warchodaeth a pherfformiad ac sy'n cael ei chydnabod i'w defnyddio mewn Aelod-wladwriaeth, yn Ynys yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu Dwrci.

Gwneud neu storio silwair3

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson sydd â silwair sy'n cael ei wneud neu ei storio dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau—

a

bod y silwair yn cael ei gadw mewn seilo sy'n bodloni gofynion Atodlen 1; neu

b

fod y silwair yn cael ei gywasgu i fyrnau—

i

sydd wedi'u lapio a'u selio mewn pilennau anhydraidd, neu wedi'u cau mewn bagiau anhydraidd; a

ii

sydd wedi'u storio o leiaf 10 o fetrau oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant sy'n dianc o'r byrnau fynd i mewn iddynt; neu

c

os mai cnwd yw'r silwair sy'n cael ei wneud yn silwair maes (hynny yw, silwair sy'n cael ei wneud ar dir agored drwy ddull gwahanol i'r dull byrnau y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)), neu os mai silwair sy'n cael ei storio ar dir agored ydyw—

i

bod Asiantaeth yr Amgylchedd yn cael ei hysbysu o'r man lle bydd y silwair yn cael ei wneud neu ei storio o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn defnyddio'r fan honno at y pwrpas hwnnw am y tro cyntaf; a

ii

bod y fan honno o leiaf 10 o fetrau oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol, ac o leiaf 50 o fetrau oddi wrth y lle agosaf y tynnir dŵr perthnasol o unrhyw ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt petai'n dianc.

2

At ddibenion paragraff (1)(c)(ii), mae ffynhonnell cyflenwi dŵr yn ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig—

a

os oes unrhyw dynnu dŵr perthnasol o'r ffynhonnell wedi'i drwyddedu o dan Ran II o'r Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991; neu

b

os yw'r person sy'n gwneud neu'n storio'r silwair yn ymwybodol o leoliad y ffynhonnell—

i

cyn dechrau ar wneud y silwair; neu

ii

os gwnaed y silwair mewn man arall, cyn ei storio ar y tir dan sylw.

3

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i silwair tra'i fod yn cael ei storio dros dro mewn cynhwysydd, ôl-gerbyd neu gerbyd mewn cysylltiad â'i gludo o gwmpas y fferm neu fan arall.

4

Rhaid i berson sydd â bwrn silwair dan ei ofal neu ei reolaeth beidio ag agor na symud ymaith yr hyn sy'n lapio'r bwrn o fewn 10 o fedrau i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair, o ganlyniad, fynd i mewn iddynt.

5

Yn y rheoliad hwn—

a

ystyr “tynnu dŵr perthnasol” yw tynnu dŵr ar gyfer ei ddefnyddio—

i

i'w yfed gan bobl; neu

ii

at ddibenion domestig (o fewn yr ystyr a roddir i “domestic purposes” gan adran 218 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 19913) heblaw at ei yfed gan bobl; neu

iii

i weithgynhyrchu bwyd neu ddiod i'w fwyta neu i'w yfed gan bobl; a

b

ystyr “ffynhonnell cyflenwi dŵr” yw dyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd daear y tynnir dŵr perthnasol ohono neu y trwyddedir tynnu dŵr perthnasol ohono.

Storio slyri4

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2) rhaid i berson sydd â slyri dan ei ofal neu ei reolaeth ei storio mewn system storio slyri sy'n bodloni gofynion Atodlen 2, a system felly'n unig.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys i slyri tra bo'n cael ei storio dros dro mewn tancer sy'n cael ei ddefnyddio i gludo slyri ar ffyrdd neu o gwmpas fferm.

Storio olew tanwydd ar ffermydd5

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i berson sydd ag olew tanwydd dan ei ofal neu ei reolaeth ar fferm sicrhau ei fod yn cael ei storio—

a

mewn tanc storio tanwydd o fewn man neu gyfleustra storio sy'n bodloni gofynion Atodlen 3;

b

mewn drymiau o fewn man storio o'r fath; neu

c

mewn tanc storio tanwydd tanddaearol.

2

Nid yw paragraff (1) yn gymwys—

a

i storio olew tanwydd dros dro mewn tancer sy'n cael ei ddefnyddio i gludo olew tanwydd ar ffyrdd neu o gwmpas fferm; neu

b

pan nad yw'r cyfanswm o olew tanwydd sy'n cael ei storio dros dro ar y fferm yn fwy na 1,500 o litrau.

Esemptiadau6

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i seilo, system storio slyri na thanc storio tanwydd—

a

a ddefnyddid, cyn 1 Mawrth 1991, at y diben o wneud silwair, storio slyri neu storio olew tanwydd, yn ôl y digwydd;

b

onis defnyddid cyn 1 Mawrth 1991 at y diben hwnnw, a adeiladwyd cyn y dyddiad hwnnw ar gyfer y defnydd hwnnw; neu

c

mewn perthynas â pha un—

i

y gwnaed contract cyn 1 Mawrth 1991 i'w adeiladu, ei ehangu'n sylweddol neu ei ailadeiladu'n sylweddol, neu

ii

y cychwynnwyd ar waith o'r fath cyn y dyddiad hwnnw, ac

yn y naill achos a'r llall fod y gwaith wedi'i gwblhau cyn 1 Medi 1991.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i seilo, system storio slyri neu danc storio tanwydd sy'n bodloni gofynion paragraff (1) os na chydymffurfir ag unrhyw ofyniad mewn hysbysiad o dan reoliad 7 o fewn y cyfnod a nodir yn yr hysbysiad.

3

Mae unrhyw gyfeiriad ym mharagraff (2) at y cyfnod a nodir mewn hysbysiad yn gyfeiriad at y cyfnod hwnnw fel y'i hestynnwyd os cafodd ei estyn o dan reoliad 7(6)(b) neu yn rhinwedd rheoliad 8(6) ac mae unrhyw gyfeiriad yn y paragraffau hynny at ofyniad mewn hysbysiad yn gyfeiriad at y gofyniad hwnnw fel y'i haddaswyd os cafodd ei addasu o dan reoliad 7(6).

Hysbysiad yn gwneud gwaith etc. yn ofynnol7

1

Caiff Asiantaeth yr Amgylchedd, mewn amgylchiadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 7”) i berson sydd â silwair, slyri, neu olew tanwydd dan ei ofal neu ei reolaeth, neu sydd yn gyfrifol am y seilo, y system storio slyri neu'r tanc storio olew tanwydd, yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw wneud gwaith, neu gymryd rhagofalon neu gamau eraill, a bennir yn yr hysbysiad.

2

Rhaid i'r gwaith, y rhagofalon neu'r camau eraill fod, ym marn Asiantaeth yr Amgylchedd, yn briodol, o ystyried gofynion y Rheoliadau hyn, o gwtogi hyd yr eithaf, unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd sydd dan reolaeth.

3

Rhaid i'r hysbysiad—

a

pennu neu ddisgrifio'r gwaith, y rhagofalon neu'r camau eraill y mae'n ofynnol i'r person eu gwneud neu eu cymryd;

b

datgan y cyfnod y mae'n rhaid cydymffurfio ag unrhyw ofyniad o'r fath o'i fewn; ac

c

hysbysu'r person o effaith rheoliad 8.

4

Y cyfnod i gydymffurfio a nodir yn yr hysbysiad yw—

a

28 niwrnod; neu

b

unrhyw gyfnod hwy sy'n rhesymol yn yr amgylchiadau.

5

Rhaid i berson y cyflwynwyd iddo hysbysiad rheoliad 7 gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw.

6

Caiff Asiantaeth yr Amgylchedd ar unrhyw adeg (gan gynnwys adeg ar ôl i'r cyfnod i gydymffurfio ddod i ben)—

a

tynnu'r hysbysiad yn ei ôl;

b

estyn y cyfnod i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn yr hysbysiad; neu

c

gyda chydsyniad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, addasu gofynion yr hysbysiad.

7

Rhaid i Asiantaeth yr Amgylchedd dynnu'r hysbysiad yn ei ôl, estyn y cyfnod i gydymffurfio, neu addasu gofynion yr hysbysiad os cyfarwyddir hwy i wneud hynny gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 8(5).

Apelau yn erbyn hysbysiadau rheoliad 78

1

Caiff person y cyflwynwyd iddo hysbysiad rheoliad 7, o fewn cyfnod o 28 niwrnod sy'n dechrau trannoeth y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir gan Weinidogion Cymru), apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad.

2

Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei gwneud drwy i'r apelydd gyflwyno hysbysiad i Weinidogion Cymru.

3

Rhaid i'r hysbysiad gynnwys datganiad o sail yr apêl neu fod gydag ef ddatganiad felly.

4

Cyn penderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, os gofyn yr apelydd neu Asiantaeth yr Amgylchedd iddynt wneud hynny, roi cyfle i'r apelydd neu'r Asiantaeth ymddangos ger eu bron a chael gwrandawiad gan berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

5

Wrth benderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo Asiantaeth yr Amgylchedd—

a

i dynnu'r hysbysiad rheoliad 7 yn ei ôl;

b

i addasu unrhyw un neu ragor o'i ofynion;

c

i estyn y cyfnod i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad; neu

ch

i wrthod yr apêl.

6

Estynnir y cyfnod i gydymffurfio â hysbysiad rheoliad 7 y gwnaed apêl yn ei erbyn, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (5), fel ei fod yn dod i ben ar y dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru'n penderfynu'n derfynol ar yr apêl neu, os tynnir yr apêl yn ei hôl, ar ddyddiad ei thynnu'n ôl.

Hysbysiad o adeiladu etc.9

Rhaid i berson sydd yn bwriadu cael silwair, slyri neu olew tanwydd dan ei ofal neu ei reolaeth a hwnnw i gael ei gadw neu ei storio ar fferm mewn seilo, system storio slyri neu fan storio tanwydd a adeiladwyd, a ehangwyd yn sylweddol neu a ailadeiladwyd yn sylweddol ar y dyddiad pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym neu wedi hynny, roi i Asiantaeth yr Amgylchedd hysbysiad yn pennu'r math o strwythur sydd i'w ddefnyddio a'i leoliad o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn bod y strwythur i'w ddefnyddio at gadw neu storio felly.

Tramgwyddau a chosbau10

1

Mae person sy'n mynd yn groes i reoliad 3(1), 3(4), 4(1), 5(1) neu 7(5) o'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored—

a

o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol;

b

o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

2

Mae person sy'n mynd yn groes i reoliad 9 yn euog o dramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.

Dirymiadau11

Dirymir yr offerynnau statudol a ganlyn i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru—

a

Rheoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 19914;

b

Rheoliadau Rheoli Llygredd (Silwair, Slyri ac Olew Tanwydd Amaethyddol) 19975.

Elin JonesY Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru