1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2010.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a)ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1); a
(b)ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008.