Search Legislation

Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) (Cymru) 2010

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Erthygl 3

ATODLEN 1Darpariaethau trosiannol ac arbedion

Dehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “y Rheoliadau Hysbysu” (“the Notification Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) 2010(1); ac

  • ystyr “y Rheoliadau Pwerau Awdurdodau Lleol” (“the Local Authority Powers Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Pwerau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2010(2).

Adran 9 o Ddeddf 1984

2.  Mae adran 9 o Ddeddf 1984 (llongau ar ddyfroedd mewndirol neu arfordirol) yn parhau mewn grym at ddibenion adran 13 o Ddeddf 1984 (rheoliadau ar gyfer rheoli clefydau penodol) (er gwaethaf diddymu adran 9 gan Ddeddf 2008).

Adran 11 o Ddeddf 1984: dyletswydd ymarferwyr meddygol cofrestredig

3.—(1Pan fo—

(a)dyletswydd ar ymarferydd meddygol cofrestredig o dan adran 11 o Ddeddf 1984 (adrodd am achosion o glefyd hysbysadwy a gwenwyn bwyd) wedi codi cyn 26 Gorffennaf 2010 ond heb ei chyflawni cyn y dyddiad hwnnw; a

(b)y ddyletswydd honno yn gysylltiedig â chlefyd hysbysadwy a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Hysbysu (Clefydau a Syndromau Hysbysadwy),

rhaid i'r ymarferydd meddygol cofrestredig gydymffurfio â rheoliad 2 o'r Rheoliadau Hysbysu (dyletswydd i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn cleifion).

(2At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin yr ymarferydd meddygol cofrestredig fel pe bai wedi ffurfio amheuaeth o dan reoliad 2(1) o'r rheoliadau Hysbysu ar 26 Gorffennaf 2010.

Adran 11 o Ddeddf 1984: dyletswydd swyddogion priodol

4.—(1Pan fo—

(a)swyddog priodol awdurdod lleol wedi cael tystysgrif yn unol ag adran 11(1) o Ddeddf 1984 (adrodd am achosion o glefyd hysbysadwy a gwenwyn bwyd);

(b)y swyddog priodol heb gyflawni'r ddyletswydd o anfon copïau o'r dystysgrif honno at bartïon penodedig eraill o dan adran 11(3) o'r Ddeddf honno(3) cyn 26 Gorffennaf 2010; ac

(c)y dystysgrif yn ymwneud â chlefyd hysbysadwy a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau Hysbysu (Clefydau a Syndromau Hysbysadwy),

rhaid trin y dystysgrif honno fel hysbysiad a anfonwyd o dan reoliad 2 o'r Rheoliadau Hysbysu (dyletswydd i hysbysu ynghylch amheuaeth o glefyd, haint neu halogiad mewn cleifion).

(2At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin y swyddog priodol fel pe bai wedi cael yr hysbysiad ar 26 Gorffennaf 2010.

Adran 20 o Ddeddf 1984

5.  Pan fo—

(a)swyddog priodol awdurdod lleol wedi gwneud cais o dan adran 20 o Ddeddf 1984(4) (atal gwaith er mwyn rhwystro clefyd rhag lledaenu); a

(b)pan na chydymffurfiwyd â'r cais hwnnw cyn 26 Gorffennaf 2010 a'r cais heb ddod i ben nac wedi ei dynnu'n ôl,

rhaid trin y cais fe cais a wnaed o dan reoliad 8 o'r rheoliadau Pwerau Awdurdodau Lleol (ceisiadau am gydweithredu at ddibenion diogelu iechyd).

Adran 21 o Ddeddf 1984

6.  Pan fo—

(a)hysbysiad wedi ei ddyroddi i berson sydd â gofal am blentyn, o dan adran 21 o Ddeddf 1984 (allgáu plentyn o'r ysgol os yw'n dueddol o drosglwyddo clefyd hysbysadwy); a

(b)tystysgrif hed ei dyroddi gan swyddog priodol cyn 26 Gorffennaf 2010 mewn perthynas â'r hysbysiad hwnnw,

bydd adran 21 o Ddeddf 1984 yn parhau mewn grym at ddibenion yr hysbysiad (er gwaethaf diddymu'r adran honno gan Ddeddf 2008).

Adran 22 o Ddeddf 1984

7.  Mewn achos—

(a)pan fo swyddog priodol awdurdod lleol wedi gofyn i bennaeth ysgol ddarparu rhestr o enwau a chyfeiriadau disgyblion o dan adran 22 o Ddeddf 1984(5) (rhestr o ddisgyblion dydd mewn ysgol sydd ag achos o glefyd hysbysadwy);

(b)pan nad yw'r amser ar gyfer cydymffurfio â'r cais wedi dod i ben; ac

(c)pan na chydymffurfiwyd â'r cais cyn 26 Gorffennaf 2010,

rhaid trin y cais fel cais a wnaed o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Pwerau Awdurdodau Lleol (gofyniad i ddarparu manylion am blant sy'n mynychu ysgol).

Adran 31 o Ddeddf 1984

8.  Pan fo—

(a)yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad i feddiannydd o dan adran 31 o Ddeddf 1984 (diheintio mangre); a

(b)y camau a bennwyd gan yr awdurdod lleol yn ei hysbysiad heb eu cyflawni gan yr awdurdod lleol na'r meddiannydd cyn 26 Gorffennaf 2010,

bydd adran 31 o Ddeddf 1984 yn parhau mewn grym at ddibenion yr hysbysiad (er gwaethaf diddymu'r adran honno gan Ddeddf 2008).

Adrannau 35 i 38 a 40 o Ddeddf 1984

9.  Yn union cyn 26 Gorffennaf 2010, os oes gorchymyn mewn grym, a wnaed gan ynad heddwch o dan un neu ragor o adrannau 35 i 38 a 40 o Ddeddf 1984(6) (sy'n ymwneud â gorchmynion ynadon heddwch)—

(a)rhaid trin y gorchymyn fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 45G (pŵer i orchymyn mesurau iechyd mewn perthynas â phersonau) ac, os cyfunwyd y gorchymyn â gwarant, adran 45K (gorchmynion Rhan 2A: atodol) o Ddeddf 1984;

(b)bydd y gorchymyn yn peidio â bod mewn grym ar ôl cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda 26 Gorffennaf 2010, neu ar ôl pa bynnag gyfnod byrrach a bennir yn y gorchymyn; ac

(c)ni chaniateir estyn y gorchymyn, ond nid yw hynny'n rhwystro ynad heddwch rhag gwneud gorchymyn newydd o dan adrannau 45G neu 45K o Ddeddf 1984, yn ôl fel y digwydd.

Adran 42 o Ddeddf 1984

10.  Yn union cyn 26 Gorffennaf 2010, os oes gorchymyn mewn grym, a wnaed gan lys ynadon o dan adran 42 o Ddeddf 1984 (cau llety cyffredinol oherwydd clefyd hysbysadwy)—

(a)rhaid trin y gorchymyn fel pe bai wedi ei wneud o dan adran 45I o Ddeddf 1984 (pŵer i orchymyn mesurau iechyd mewn perthynas â mangre);

(b)bydd y gorchymyn yn peidio â bod mewn grym ar ôl cyfnod o 14 diwrnod sy'n dechrau gyda 26 Gorffennaf 2010 (neu ar ôl pa bynnag gyfnod byrrach a bennir yn y gorchymyn); ac

(c)ni chaniateir estyn y gorchymyn, ond nid yw hynny'n rhwystro ynad heddwch rhag gwneud gorchymyn newydd o dan adran 45I o Ddeddf 1984.

Adran 43 o Ddeddf 1984

11.  Pan fo—

(a)swyddog priodol awdurdod lleol neu ymarferydd meddygol cofrestredig wedi ardystio, o dan adran 43 o Ddeddf 1984 (person â chlefyd hysbysadwy, a fu farw mewn ysbyty), na ddylid symud corff marw o ysbyty ac eithrio at y diben o'i symud yn uniongyrchol i gorffdy neu i'w gladdu neu'i amlosgi yn ddi-oed; a

(b)y corff sy'n destun yn ardystiad yn parhau yn yr ysbyty hwnnw yn union cyn 26 Gorffennaf 2010,

bydd adran 43 o Ddeddf 1984 yn parhau mewn grym at ddibenion yr ardystiad a'r corff (er gwaethaf diddymu'r adran honno gan Ddeddf 2008).

Adran 74 o Ddeddf 1984

12.  Bydd unrhyw ddiffiniad yn adran 74 o Ddeddf 1984 (7) (dehongli) a ddefnyddir yn—

(a)adrannau 13 i 15 neu 76 o Ddeddf 1984; neu

(b)unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf 1984 sy'n parhau mewn grym at ddibenion penodedig yn rhinwedd paragraffau 2 i 11 o'r Atodlen hon,

yn parhau mewn grym at ddibenion dehongli'r adrannau a'r darpariaethau hynny (er gwaethaf eu diddymu, a diddymu adran 74 o Ddeddf 1984, gan Ddeddf 2008).

(3)

Cyn ei diddymu, diwygiwyd adran 11(3) gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), Atodlen 2, Rhan 2, paragraffau 50(1) a (2).

(4)

Cyn ei diddymu, diwygiwyd adran 20 gan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p.16), Atodlen 3, paragraff 28.

(5)

Cyn ei diddymu, diwygiwyd adran 22 yn rhinwedd Proclamasiwn Brenhinol dyddiedig 31 Rhagfyr 1984 a oedd yn diddymu'r ddimai.

(6)

Cyn ei diddymu, diwygiwyd adran 37 gan: Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19), Atodlen 9, paragraff 26(2), Atodlen 10; Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), Atodlen 4, paragraffau 60 a 62; O.S. 2000/90, Atodlen 1, paragraff 17(1) a (4)(b); O.S. 2002/2469, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff (11)(1) a (4)(a) a (b); ac O.S. 2007/961, yr Atodlen, paragraff 14(1) a (6)(a) a (b).

(7)

Cyn ei ddiddymu, diwygiwyd y diffiniad o “NHS Trust”, a roddir yn adran 74, gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Darpariaethau Canlyniadol) 2006 (p.43), Atodlen 1, paragraffau 78 a 79. Nid yw'r diwygiadau eraill i adran 74 yn berthnasol yma.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources