xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cafodd yr Offeryn Statudol hwn ei ailargraffu er mwyn cywiro rhif yr offeryn a dyroddir ef yn ddi-d 226 l i bawb y gwyddys eu bod wedi derbyn OS 2010/1791(Cy.173)

Offerynnau Statudol Cymru

2010 Rhif 1797 (Cy.173)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2010

Gwnaed

10 Gorffennaf 2010

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

13 Gorffennaf 2010

Yn dod i rym

31 Awst 2010

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) (Diwygio) 2010 a deuant i rym ar 31 Awst 2010.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio

3.  Diwygir Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009(3) yn unol â'r rheoliad canlynol.

4.  Yn nhestun Cymraeg rheoliad 28—

(a)yn lle “rheoliad 33” rhodder “rheoliad 27”; a

(b)yn lle “rheoliad 27” rhodder “rheoliad 29”.

Leighton Andrews

Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes, un o Weinidogion Cymru

10 Gorffennaf 2010

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Dysgu'r Cynulliad (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2009 (“Rheoliadau 2009”).

Mae Rheoliadau 2009 yn darparu ar gyfer cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â chwrs dynodedig ym maes addysg uwch yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd sy'n cychwyn ar 1 Medi 2010 neu ar ôl hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall drafftio yn nhestun Cymraeg rheoliad 28 o Reoliadau 2009.

(1)

1998 p.30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), adran 146 ac Atodlen 11 iddi, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p.14), adran 147, Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7 iddi a Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p.22), adran 257.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(a), (c), (j) neu (k), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149)(C.79)) fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006/1660 (Cy.159)(C.56)). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraffau 30(1) a 30(2)(c) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).